1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf yr wythnos yma, Russell George.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Bythefnos yn ôl, Weinidog, fe wnaethoch chi lansio'r gronfa sector-benodol sy'n werth £180 miliwn i gefnogi sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Faint o fusnesau sydd eisoes wedi cael cymorth a faint sydd wedi'i ddyrannu, a faint o arian sydd ar ôl yn y pot hwnnw i'w ddyrannu i'r busnesau hynny?
Wel, a gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Yn amlwg, bu cryn dipyn o alw gan fusnesau ar y cychwyn am arian o’r gronfa sector-benodol gan fod angen dirfawr am gymorth i'r mentrau sy'n dioddef yn fawr ar hyn o bryd. Gallaf ddweud wrth Russell George a'r Aelodau fod mwy na 7,600 o geisiadau wedi'u cyflwyno hyd yn hyn, sy'n werth cyfanswm o oddeutu £70 miliwn eisoes. Mae'r gronfa, yn amlwg, yn parhau i fod ar agor fel y cynlluniwyd, ac rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau ar ei statws ar wefan Busnes Cymru yn ôl yr angen. Hyd yn hyn, gwnaed mwy na 880 o gynigion, gwerth dros £5.5 miliwn, gyda busnesau'n derbyn £3 miliwn o’r swm hwnnw, ac mae mwy na £2 filiwn eisoes wedi'i dalu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddwn yn awgrymu nad yw'r ffigurau hynny'n arbennig o dda. Os mai 7,600 o fusnesau yn unig sydd wedi cyflwyno ceisiadau, nid yw'r arian wedi eu cyrraedd hwy eto hyd yn oed; dim ond ceisiadau a ddaeth i law yw'r rheini. Mae hynny'n dweud wrthym fod miloedd ar filoedd o fusnesau ledled Cymru heb gael unrhyw gymorth yn y sector penodol hwn. Ac o’m safbwynt i, mae’n hynod bwysig fod y cymorth ariannol hwn yn cyrraedd busnesau cyn gynted â phosibl. Gwn y byddwch yn cytuno â mi y dylai unrhyw fusnes a oedd yn hyfyw y llynedd fod yn hyfyw yn ddiweddarach eleni pan fyddwn, gobeithio, yn gweld diwedd ar y pandemig erchyll hwn.
Ond rwy'n arbennig o bryderus am y sector lletygarwch, gan mai’r maes hwn sydd wedi bod dan y lefel uchaf o gyfyngiadau am y cyfnod hiraf o amser. Maent wedi bod dan gyfyngiadau cyn cyfyngiadau symud diwedd mis Rhagfyr. Nawr, gwn ichi sôn mewn ymateb i gwestiwn 1 heddiw, Weinidog, y byddai'r pecyn cymorth diweddaraf ar gyfer busnes lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru gyda'r hyn sy'n cyfateb i chwe aelod o staff amser llawn yn gymwys am gyfanswm o rhwng £12,000 a £14,000. Fy mhryder i yw bod dwsinau o fusnesau wedi cysylltu â mi—busnesau bach yn y sector lletygarwch, ac mae’r un peth wedi digwydd i Aelodau eraill, gan inni glywed gan rai ohonynt heddiw hefyd—sydd wedi cwympo drwy rwyd y cymorth ariannol, yn bennaf am nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd gan eu bod yn rhy gyfyngol am nifer o resymau: naill ai mae'n rhaid i'r busnesau gyflogi staff ar sail talu wrth ennill neu am fod y gronfa wedi'i hanelu at fusnesau mwy sydd wedi cofrestru at ddibenion treth ar werth ac ati. A wnewch chi gyflwyno cronfa ddewisol ar gyfer y busnesau bach hynny yn y sector lletygarwch neu a wnewch chi edrych ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth a’u gwneud yn llai cyfyngol?
Diolch i Russell George am ei gwestiynau pellach ac rwy'n dweud o ran y niferoedd cyffredinol, fod y sector y sefydlwyd y gronfa benodol i’w gefnogi yn cynnwys rhwng 8,500 a 9,000 o fusnesau. Felly, o'r 8,500 a 9,000 o fusnesau, credaf fod 7,600 o geisiadau yn eithaf da hyd yn hyn, ond yn amlwg, rydym yn gadael y gronfa ar agor i roi pob cyfle i'r busnesau sydd ar ôl wneud cais am gymorth, ac yn wir, gwnaethom y penderfyniad i ymestyn y cyfnod y bydd y gronfa'n agored. Yn amlwg, mae hwn yn arian hanfodol bwysig i fusnesau a fydd yn parhau i ddioddef yn ystod misoedd y gaeaf. Ond fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, rydym eisoes yn rhoi arian yng nghyfrifon banc y busnesau hynny—mae swm sylweddol o arian eisoes wedi'i ddyfarnu a'i dynnu i lawr.
Ac o ran cronfa ddewisol, yn amlwg, ni fyddem am ddyblygu'r hyn sydd eisoes ar gael ac mae cronfeydd dewisol yr awdurdodau lleol yn dal i fod yn agored i geisiadau—£25 miliwn o gyllid. Rydym yn agored i syniadau ynglŷn â sut y gallwn gefnogi pob sector ar draws yr economi, ac yn enwedig y sector lletygarwch. Os edrychwn ar rai o'r cymariaethau â’r DU hefyd, gyda’r busnesau mwy o faint, byddem yn gweld, ar gyfer busnesau a chanddynt werth ardrethol o rhwng £12,000 a £50,000, yn Lloegr, fod y dyfarniad uchaf oddeutu £6,000 ar hyn o bryd; yng Ngogledd Iwerddon, mae oddeutu £14,400; yn yr Alban, ar gyfer lletygarwch, mae oddeutu £12,000; yma yng Nghymru, £25,000. Ac os edrychwch ar y busnesau mwy o faint, y rheini a chanddynt werthoedd ardrethol o rhwng £50,00 a £500,000, yn Lloegr, yr uchafswm fyddai £9,000; Gogledd Iwerddon, £19,200; yn yr Alban, unwaith eto, yn benodol ar gyfer busnesau lletygarwch, byddai'n £34,000. Mae cyfle yma yng Nghymru i fusnesau o'r maint a'r math hwnnw gael £110,000. Mae hynny'n dangos pa mor arwyddocaol yw ein cronfeydd yng Nghymru a sut rydym yn dal i gynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau. Ond wrth gwrs, wrth inni ystyried rowndiau cymorth yn y dyfodol, rydym bob amser yn agored i syniadau, a bydd unrhyw awgrymiadau gan unrhyw Aelodau yn cael croeso a derbyniad da iawn yma yn yr adran hon.
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei gynnig, ac rwy'n sicr yn fwy na pharod i'w dderbyn? Rwy'n credu mai'r prif bethau gennyf fi, o ran syniadau, fyddai gwneud y meini prawf yn llai cyfyngol ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, er mwyn caniatáu i fwy o fusnesau wneud cais. Rwy'n sylweddoli y gallai busnesau lletygarwch ar y stryd fawr fod wedi cael y rhyddhad ardrethi annomestig, ond nid oedd modd iddynt gael unrhyw arian ychwanegol oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer llawer o'r mathau hynny o fusnesau.
Roedd gennyf ddiddordeb yn y dystiolaeth a roesoch chi a'ch swyddogion yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roedd eich swyddogion i'w gweld yn cydnabod bod yna swm mawr o arian nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eto. Fe awgrymoch chi hefyd fod eich adran yn amharod efallai i dynnu rhagor o arian i lawr neu ofyn am ragor o arian gan y Gweinidog Cyllid gan eich bod yn ofni na fyddwch yn gallu llunio cynlluniau cyllido addas a’u rhoi ar waith yn ddigon cyflym er mwyn i'r arian hwnnw gael ei wario cyn diwedd y flwyddyn ariannol, a fyddai, unwaith eto, yn gwneud imi wthio am weld hynny'n llai cyfyngol ar y meini prawf, o ran y gronfa cadernid economaidd. O'm safbwynt i, mae busnesau ym maes manwerthu nad yw’n hanfodol, lletygarwch, twristiaeth a hamdden—ystod eang o fusnesau—yn ymbil am gymorth ychwanegol, ac yn dweud bod angen gwario arian yn gyflym, a bod angen gwario pob darn bach o arian sydd ar gael, sydd gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na'i golli, er mwyn sicrhau bod busnesau sy'n ei chael hi'n anodd yn goroesi'r pandemig hwn.
Byddwn yn cytuno’n llwyr â Russell George fod angen brys o ran sut rydym yn cefnogi busnesau, yn sicrhau bod arian yn cyrraedd cyfrifon busnes, ac yn fy marn i, rhwng Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru ac awdurdodau lleol, mae’r ymdrech wedi bod yn eithaf rhyfeddol yng Nghymru, o ran pa mor gyflym rydym wedi gallu rhoi grantiau a dyfarniadau. Ond mae Russell George hefyd yn llygad ei le fod angen inni sicrhau bod gennym systemau ar waith a thimau ar waith sy'n ein galluogi i roi arian mewn cyfrifon busnes erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Ni fyddem yn dymuno anfon unrhyw adnoddau ariannol yn ôl os gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw yn lle hynny i gefnogi busnesau, a dyna pam ein bod bob amser wedi bod yn awyddus, wrth inni lunio'r cynlluniau amrywiol hyn, i sicrhau ein bod yn gallu adneuo arian mewn cyfrifon banc cyn diwedd y flwyddyn, a bydd y meddylfryd hwnnw'n parhau.
Ac o ran gofyn i’r Gweinidog Cyllid am adnoddau ariannol ychwanegol, wel, gallaf ddweud wrth yr Aelodau fod y gronfa ychwanegol honno o £200 miliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf wedi deillio o drafodaethau rhwng y Gweinidog Cyllid a minnau, ac roedd y Gweinidog Cyllid yn ddigon caredig i gytuno i’r opsiwn mwy hael o gymorth a gynigiwyd iddi, gan gydnabod, fel y gwna pob un o'r cyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, yr angen brys a’r angen parhaus i gynnal pobl mewn gwaith ac i sicrhau ein bod yn achub cymaint o fusnesau ag y gallwn.
Llefarydd Plaid Cymu nawr, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ychwanegol at ymatebion y Gweinidog i Russell George, a yw’n rhannu’r pryderon a fynegwyd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ôl pob golwg, ynglŷn â sicrhau bod yr arian yn cael ei ddarparu’n ddigon cyflym? Wrth ddweud hyn, Lywydd, rwy’n cydnabod yn llwyr fod hon yn dasg enfawr, a bod llawer o’r bobl sydd wedi bod ynghlwm, ar bob lefel, wrth ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghymru wedi gwneud ymdrechion cwbl arwrol. Ond fel eraill sydd wedi siarad eisoes heddiw, mae gennyf rai pryderon ynglŷn â sicrhau bod yr adnoddau hynny’n mynd i’r lle iawn yn ddigon cyflym.
Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod arolwg o fusnesau lletygarwch mewn un rhan o Gymru wedi dangos bod 75 y cant ohonynt wedi cael eu gwrthod ar gyfer un neu'r llall o gynlluniau Llywodraeth Cymru. Nid oeddent yn gallu dweud yn glir wrthyf ar gyfer pa gynlluniau y cawsant eu gwrthod. A dywedais hyn wrth y Gweinidog hefyd, fod cryn dipyn o gymhlethdod i’w gael rhwng y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, a gofynnaf i'r Gweinidog beth arall y gall ei wneud i sicrhau bod busnesau'n deall yr hyn y dylent wneud cais amdano a sut y gallant gael mynediad ato. Os oes problemau gyda darparu arian yn ganolog, er enghraifft drwy Busnes Cymru, a yw'r Gweinidog o'r farn y gallai fod achos dros ddargyfeirio rhywfaint o'r adnoddau newydd ar gyfer darparu cymorth dewisol ychwanegol wedi'i weinyddu gan awdurdodau lleol, a allai ei chael hi'n haws penderfynu a oes rhai busnesau'n methu bodloni'r meini prawf ffurfiol efallai, ond bydd ganddynt well syniad a ydynt yn fusnesau dilys ai peidio?
Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am y pwyntiau y mae'n eu codi a'r cwestiynau dilys iawn? A dylwn ddechrau drwy ddweud y byddai'r adran hon, fel arfer, yn gweinyddu rhywle rhwng £20 miliwn a £30 miliwn o grantiau cymorth busnes drwy linell wariant busnes a rhanbarthau mewn blwyddyn gyffredin. Ac wrth gwrs, byddai grantiau eraill yn cael eu dyfarnu ar gyfer busnesau entrepreneuraidd newydd ac ati, ond nid yw hynny'n ddim o’i gymharu â swm y grantiau rydym wedi'u dyfarnu eleni: mae £1.7 biliwn o arian eisoes yng nghyfrifon busnesau o'r £2 biliwn sydd ar gael i ni. Mae 178,000 o grantiau wedi'u rhoi i fusnesau, gwerth £1 biliwn, drwy awdurdodau lleol. Mae honno'n ymdrech ryfeddol. Mae £520 miliwn ar gael i fusnesau drwy gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru, i gefnogi miloedd ar filoedd o fusnesau a mwy na 140,000 o bobl mewn gwaith. Felly, o ran gallu rhoi arian mewn cyfrifon banc yn gyflym, credaf fod gennym hanes anhygoel o gryf. Ond rydym am sicrhau ein bod yn parhau i weinyddu’n gyflym yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Yr hyn rydym yn awyddus i'w wneud, hefyd, yw sicrhau nad yw busnesau'n cyflwyno ceisiadau dyblyg am grantiau, ac yn anffodus, mae'n dod yn eithaf amlwg yn ddiweddar fod nifer sylweddol o fusnesau wedi cyflwyno ceisiadau dyblyg, a gall hynny weithiau arwain at oedi cyn rhoi dyfarniad gan fod rhaid inni groesgyfeirio ceisiadau yn erbyn ei gilydd, fel nad ydym yn dyfarnu sawl dyfarniad i'r un busnes. Ac felly, yr hyn y byddwn yn annog busnesau i'w wneud, er mwyn sicrhau eu bod yn ein cefnogi i'w cynorthwyo, yw ymuno â Busnes Cymru fel eu bod yn cael diweddariadau rheolaidd, newyddlenni digidol rheolaidd, ac i sicrhau, pan fyddant yn ystyried gwneud cais, boed hynny am gymorth gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, eu bod yn edrych ar y meini prawf cymhwysedd yn ofalus iawn, fel na chânt eu siomi naill ai o ganlyniad i fethu manylion y meini prawf cymhwysedd, neu'n wir, eu hanwybyddu'n llwyr. Mae'n gwbl hanfodol fod busnesau yn ein cynorthwyo ni i'w cynorthwyo hwy drwy wneud ceisiadau am grantiau unwaith yn unig, a thrwy wneud ceisiadau am y rhai sy'n berthnasol iddynt hwy.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Mae’r darlun yn un eithaf cymhleth o hyd, a byddaf yn dychwelyd at hyn drwy ohebiaeth â'r Gweinidog ynglŷn ag a allwn ddefnyddio awdurdodau lleol i raddau mwy, yn enwedig er mwyn sicrhau cymorth i rai o'r busnesau lleiaf un sy'n dal i fod yn bwysig iawn o ran y bobl maent yn eu cyflogi.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog nawr am gymorth mwy hirdymor? Yn amlwg, rydym yn gobeithio cael etholiad ym mis Mai, ond gwyddom hefyd fod rhai o gynlluniau mawr y DU—ac rwy'n meddwl yn benodol am y cynllun cadw swyddi, y cynllun ffyrlo—i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth ar hyn o bryd. Tybed a oes gan y Gweinidog unrhyw syniad, o ystyried, yn anffodus, fod y sefyllfa mewn perthynas â'r feirws yn dal i fod yn ddifrifol iawn—gallwn weld rhai gwelliannau, ond mae'n dal i fod yn ddifrifol iawn—a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn ag a yw cynlluniau Llywodraeth y DU yn debygol o gael eu hymestyn ymhellach ai peidio, os ydym mewn sefyllfa lle na all busnesau fel lletygarwch ailagor? A pha ystyriaeth y mae'r Gweinidog a'i dîm yn ei rhoi i'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud os na fydd cymorth y DU yn parhau, neu os nad yw'n parhau ar ei ffurf bresennol? Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau i wneud rhywbeth fel y cynllun ffyrlo, ond hoffwn ddweud wrth y Gweinidog y gallech fod eisiau ystyried pa sectorau yw’r rhai mwyaf tebygol o barhau i gael eu heffeithio ac a fyddwch yn gallu darparu rhywfaint o gymorth ai peidio yn nes ymlaen yn yr haf, yn enwedig i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth os na allant agor.
Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad pellach? Ac mae’n llygad ei lle, ni fyddem mewn sefyllfa—ni fyddem yn gallu fforddio rhoi cynlluniau ar waith yn lle’r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig yng Nghymru. Mae angen grym Trysorlys y DU i wneud hynny. Ond drwy gydol y pandemig, rydym wedi ymateb yn gyflym ac yn briodol wedi i Lywodraeth y DU wneud cyhoeddiadau ynglŷn â’r cymorth y gallant ei gynnig, ac rydym wedi llunio ein pecynnau i sicrhau ein bod yn llenwi’r bylchau ac yn ychwanegu gwerth.
Rydym yn aros am ymateb gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r nifer fawr o bethau rydym wedi bod yn gofyn amdanynt yn ddiweddar—ac wedi bod yn galw amdanynt ers peth amser—mewn llythyr ffurfiol at y Canghellor. Ysgrifennais i a fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, at y Canghellor yn gofyn iddo gadw'r cynllun cadw swyddi am gyfnod hirach. Gwnaethom ofyn hefyd am fathau eraill o sicrwydd, gan gynnwys hyblygrwydd gan CThEM i ganiatáu gohirio taliadau ar gyfer cynlluniau fel y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Rydym yn aros am ymateb y Canghellor. Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd i ddynodi faint o gydymdeimlad a fydd ganddo â'n cais.
Rwyf hefyd wedi bod yn galw am eglurder ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU yn mynd i gyflwyno cynllun cymorth incwm i gyfarwyddwyr, gan y gwn fod ExcludedUK wedi bod yn ymgyrchu dros hynny a bod llawer o bobl wedi bod yn gofyn amdano. Felly, rydym yn aros am fanylion gan Lywodraeth y DU wrth inni agosáu at y gyllideb, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn cydnabod yr angen i ymestyn y cynllun cadw swyddi hanfodol hwnnw a chynlluniau eraill, ac yn gweithredu gyda thegwch a hyblygrwydd mewn perthynas â'r meysydd gweithgaredd eraill rwyf wedi'u hamlinellu.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n arbennig o falch o weld ei fod yn parhau i ddadlau achos y rheini sy’n cael eu heithrio rhag cymorth, fel y mae ExcludedUK yn eu cynrychioli. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r graddau y mae argyfwng COVID wedi tynnu sylw at rai o'r anghyfiawnderau a'r anghydraddoldebau strwythurol sylfaenol, boed yn ddaearyddol rhwng cymunedau yng Nghymru—gwelsom mai Dwyfor Meirionnydd yw’r sir lle mae'r nifer fwyaf o bobl wedi cofrestru i dderbyn credyd cynhwysol, am na allent fynd i'w gwaith ym maes twristiaeth—ac rydym wedi gweld cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael.
Cyfarfûm—yn rhithiol, wrth gwrs—â phobl ifanc o Gydweli ac ardal ehangach Llanelli y penwythnos diwethaf, ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn wirioneddol awyddus i allu adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yma yng Nghymru, ond roeddent hefyd yn awyddus i aros yn eu cymuned eu hunain os gallant—i raddau llawer mwy, o bosibl, nag y byddent wedi bod yn y gorffennol. Roeddent am fod yn sicr y byddai cyfleoedd ar gael iddynt wneud hynny. Roeddent hefyd yn bryderus iawn am eraill, a buont yn siarad â mi’n benodol am bobl dduon a phobl groenliw yng nghyd-destun mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Beth y gall y Gweinidog ei wneud heddiw i nodi ar gyfer y bobl ifanc hynny, a phobl ifanc debyg iddynt, sut y bydd yn cynllunio i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael mewn cymunedau lle nad yw'r economïau wedi bod yn gryf yn draddodiadol—ac mae gorllewin Cymru a rhannau o'r Cymoedd, wrth gwrs, yn nodweddiadol o hynny—a sut y bydd yn sicrhau yr eir i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi rhwystro pobl rhag cael cyfleoedd yn ei gynlluniau i ailadeiladu'r economi wedi i'r argyfwng ddod i ben?
Mae Helen Mary Jones yn codi pwynt pwysig arall, sef na ddylai unrhyw unigolyn ifanc orfod symud o’u cymuned er mwyn llwyddo mewn bywyd. Ni ddylent orfod symud oddi cartref os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Er mwyn cefnogi pobl ifanc, y gwyddom o ddirwasgiadau blaenorol y byddant yn ei chael hi’n anoddach cael mynediad at y farchnad swyddi, rydym wedi sefydlu'r gronfa rwystrau, rydym wedi sefydlu’r ymrwymiad COVID ac rydym wedi cynyddu cyllideb Cymunedau am Waith a Mwy.
Yn benodol, mae’r ymrwymiad COVID yn darparu ar gyfer miloedd o gyfleoedd prentisiaeth a fyddai fel arall yn cael eu colli, estyniad i gynlluniau peilot y cyfrifon dysgu personol—rydym yn ei wneud yn gynllun cenedlaethol—ac wrth gwrs, mae'n darparu mwy o gymorth ar gyfer cadernid ac iechyd meddwl, sy'n hanfodol ar yr adeg hon, yn fy marn i, rhywbeth sydd ei angen ar bawb yn bendant, ond pobl ifanc yn enwedig. Mae'r gronfa rwystrau yn canolbwyntio ar bobl ifanc yn benodol, ond hefyd ar bobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'n caniatáu i unigolion dynnu grantiau o hyd at £2,000 i lawr i sefydlu eu busnesau eu hunain. Bydd y gronfa honno hefyd yn cyd-fynd â chymorth a chyngor gan Busnes Cymru i roi'r gobaith gorau i'r busnesau hynny ar gyfer y dyfodol.
Mae cynlluniau eraill ar waith a gynlluniwyd i gefnogi'r bobl sydd bellaf o'r farchnad swyddi a'r bobl fwyaf tebygol o gael eu heffeithio’n andwyol gan y coronafeirws, gan gynnwys y cynllun cymhelliant a sefydlwyd gennym ar gyfer prentisiaethau, lle gall busnes dynnu i lawr hyd at £3,000 os ydynt yn cyflogi unigolyn ifanc fel prentis. Mae'r holl gynlluniau hyn wedi'u llunio i sicrhau nad yw cymaint o bobl ifanc â phosibl yn wynebu effeithiau hirdymor, dwfn, a niweidiol dirywiad economaidd y gwyddom fod gormod o bobl mewn cenedlaethau blaenorol wedi gorfod eu dioddef.