1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 3 Chwefror 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae tudalen flaen y Farmers Guardian yn dweud y cyfan: 'NVZ Nightmare'. Nawr, ar 8 Ebrill y llynedd, fe ddywedoch chi wrth y Senedd eich bod yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hyn ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Fe wnaethoch ailadrodd yr addewid hwnnw chwe gwaith arall, yn fwyaf diweddar ar 14 Hydref. Canfu adroddiad diweddar gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth fod 2020 wedi cynyddu ymddiriedaeth defnyddwyr yn y gadwyn cyflenwi bwyd, fod ymddiriedaeth gref mewn ffermwyr yn parhau a bod ffermio yng Nghymru a'r DU yn cael ei ystyried yn fuddiol i'r amgylchedd. Nawr, er gwaethaf y gefnogaeth gyhoeddus gynyddol hon i'n ffermwyr a 680 achos o’r coronafeirws yn cael eu nodi yng Nghymru ar 27 Ionawr, lle dywed hynny wrthyf nad yw’r argyfwng hwn ar ben, fe wnaethoch osod y rheoliadau hyn. Pam nad ydych wedi cadw at eich gair a dangos rhywfaint o uniondeb drwy aros tan ddiwedd yr argyfwng hwn cyn lansio ymosodiad mawr Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar amaethyddiaeth Cymru?
Mae’n rhyfedd fod Janet Finch-Saunders yn brolio ei chymwysterau amgylcheddol ar un llaw ac yna'n eu rhoi i'r neilltu wrth drafod y sector amaethyddol. Pam y byddech yn esgusodi tri achos o lygredd amaethyddol bob wythnos, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Rwy’n ymwybodol fy mod wedi gosod y rheoliadau drafft fis Ebrill diwethaf, a gwneuthum addewid i barhau i weithio gyda’r sector amaethyddol, fel rwyf wedi gwneud dros y pum mlynedd diwethaf, i gyflwyno gwelliannau i’r digwyddiadau hynny. Fe fyddwch yn cofio imi weithio’n benodol gydag NFU Cymru i gyflwyno cynllun gwirfoddol. Mae bob amser yn llawer gwell os gallwch wneud pethau ar sail wirfoddol. Ond mae arnaf ofn fod hynny wedi methu. Felly, gosodais y rheoliadau drafft fis Ebrill diwethaf. Dywedais na fyddwn yn eu rhoi mewn grym ar unwaith, a thra byddwn yn dal i fod ynghanol y pandemig COVID-19, wrth gwrs, rydym mewn lle gwahanol. Rydym yn anelu at adferiad gwyrdd, ac mae'r sector amaethyddol yn rhan fawr o'r adferiad gwyrdd hwnnw. Maent yn dymuno bod yn rhan o'r adferiad gwyrdd hwnnw—maent yn dweud hynny wrthyf a byddaf yn gweithio gyda hwy i wneud hynny.
Roeddwn hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig aros hyd nes bod cyfnod pontio’r UE wedi dod i ben a gweld sut olwg fyddai ar bethau wrth ddod allan o Ewrop. Mae'r farchnad yn fywiog. Dyna reswm arall pam y credaf fod y sector yn gallu ymdopi â'r rheoliadau ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae dweud nad yw'r cynllun gwirfoddol wedi gweithio yn sarhad ar bob un o’n ffermwyr. Nawr, mae'r Prif Weinidog hefyd wedi colli golwg arni, gan iddo ymateb ddoe drwy nodi,
'nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol'.
Yn amlwg, felly, nid yw hyd yn oed wedi darllen eich datganiad, lle rydych yn llwyr gydnabod y bu cynnydd. Mewn gwirionedd, mae CNC wedi sôn am ddirywiad cyson mewn achosion o lygredd. Mae'r risg yn lleihau. Serch hynny, mae rheoliad 4 yn dangos nad ydych yn credu bod gallu gan ffermwyr i wybod faint o nitrogen i'w ddefnyddio ar eu daliad, ac mae rheoliad 15 yn dangos nad ydych yn credu bod ffermwyr yn gallu defnyddio offer priodol. Mae nifer o reoliadau, gan gynnwys 34 i 37, 40 i 43, yn dangos eich bod am weld ein ffermwyr at eu clustiau mewn gwaith papur. Gyda rheoliad 29, rydych yn mynnu bod ffermwyr yn darparu lle i storio’r holl slyri a gynhyrchir yn y cyfnod storio pump i chwe mis. Rydych yn honni bod y mesurau hynny'n gymesur, ac eto mae CNC wedi cyhoeddi map sy'n dangos nad oes rhannau helaeth o Gymru wedi cael unrhyw achosion o lygredd amaethyddol mewn dŵr ers 2010. Felly, Weinidog, esboniwch i mi, a'n holl ffermwyr, sut y gellir hyd yn oed ystyried bod cyfyngu mor ddifrifol ar ryddid y ffermwyr i ffermio yn gam cymesur, a hefyd, a ydych wedi gwirio a yw'r rheoliadau'n mynd yn groes i’r cod ymarfer ar gyfer rheoleiddwyr, ac yn wir, i egwyddor cymesuredd?
Rwy'n synnu bod Janet Finch-Saunders yn credu bod y dull gwirfoddol wedi gweithio. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, ar wahân i 2009, rydym wedi cael ymhell dros 100 achos o lygredd amaethyddol bob blwyddyn—ers 20 mlynedd. Nawr, rwyf bob amser yn credu nad yw pobl yn hoffi pan fo rhywun yn dweud wrthynt beth i'w wneud, ac rwyf bob amser yn meddwl bod unrhyw sector neu unrhyw ddiwydiant yn cefnogi rheoliadau neu ddeddfwriaeth, neu unrhyw weithdrefnau eraill, os ydynt yn rhan o'r ateb hwnnw, a dyna pam roeddwn yn awyddus i weithio gyda hwy i gyflwyno'r dull gwirfoddol. Fel y dywedaf, bedair blynedd yn ôl, rwy’n cofio eistedd yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Birmingham lle dywedwyd wrthyf, 'Rhowch chwe mis i ni; fe wnawn i hyn weithio.' Ni weithiodd. Rydym yn dal i gael yr holl achosion hyn o lygredd amaethyddol un flwyddyn ar ôl y llall, ac er fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod yna gefnogaeth i'r sector amaethyddol, nid oes cefnogaeth i lygredd amaethyddol, ac eithrio, gallaf weld, gan Aelodau Ceidwadol a Phlaid Cymru sydd am ddirymu’r rheoliadau hyn. Felly, dros 100 achos y flwyddyn am 20 mlynedd, ac mae llywydd NFU Cymru ei hun wedi dweud bod un achos o lygredd amaethyddol yn ormod. Felly, sut ar y ddaear y gallwch gyfiawnhau dros 100 y flwyddyn? Mae hyn yn gymesur. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod gennych linell sylfaen reoleiddiol glir, fel y gall hynny alluogi'r arfer da. Ar hyn o bryd, heb y llinell sylfaen glir honno, yn anffodus, mae arfer gwael yn mynd rhagddo’n ddirwystr. Ac wrth gwrs, nid yw pob ffermwr ar fai, felly’r hyn rydym am ei wneud—. Pam y dylid cosbi'r ffermwyr sy'n cydymffurfio â'r rheolau? Mae'n ymwneud ag uchelgais. Mae gennyf gryn uchelgais ar gyfer y sector hwn, a chredaf y byddant yn gallu gwneud hyn.
Diolch, Weinidog. Yr hyn y mae eich ateb yn ei ddweud wrthyf yw nad y ffermwyr sydd wedi methu, ond 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru nad ydynt wedi gallu gweithio'n fwy buddiol ar ran y ffermwyr, gweithio gyda hwy i'w cefnogi, yn hytrach na'r cyfyngiadau erchyll hyn. Maent mor ddifrifol, yn ogystal â bod fel tag troseddol electronig i ffermwyr, cânt eu cyflwyno er bod disgwyl i gyfanswm yr incwm o ffermio yn y DU ostwng oddeutu 21 y cant. Mewn gwirionedd, mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun wedi cyfrifo y gallai'r gost cyfalaf ymlaen llaw gyrraedd £360 miliwn. Sut ar y ddaear rydych yn disgwyl i'n ffermwyr gweithgar ddod o hyd i hynny, a phan mai £261 miliwn yn unig oedd cyfanswm diweddaraf yr incwm o ffermio yng Nghymru? Felly, a wnewch chi gadarnhau mai dim ond diferyn o slyri mewn pwll mawr iawn yw'r £13 miliwn a ryddheir eleni i gynorthwyo gyda seilwaith rheoli maethynnau fferm ac ansawdd dŵr? A allwch egluro sut y credwch y gall y diwydiant fforddio buddsoddi ar y raddfa fawr hon rydych yn ei disgwyl, a pha asesiad rydych wedi'i wneud o nifer y busnesau fferm, gan gynnwys ffermwyr tenant, a fydd bellach yn cael eu gorfodi i roi’r gorau i weithredu, o bosibl, o ganlyniad i'r rheoliadau llym a digyfaddawd hyn? Diolch, Lywydd.
Byddwn yn troi'r cwestiwn ar ei ben ac yn dweud, 'Sut y gallant fforddio peidio â gwneud hyn?' Rwyf bob amser wedi dweud y byddem yn darparu cefnogaeth, yn ariannol ac yn ymarferol. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn raddol, ac fel y dywedais, mae llawer o'r ffermwyr eisoes yn cydymffurfio â'r rheoliadau hyn. I lawer ohonynt, ni fydd pethau’n wahanol o gwbl. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r prosiect llaeth a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ymweliadau â ffermydd llaeth i edrych i weld sut roeddent yn storio slyri ac ati, ac roeddwn bob amser yn dweud yn glir iawn na fyddem yn rhoi cyllid i ffermwyr nad oeddent yn cydymffurfio â'r rheoliadau cyfredol, ac yn anffodus, cynhaliwyd 780 o ymweliadau yn rhan o'r prosiect llaeth hwn, ac yn ôl yr adroddiadau hyd at ddiwedd y llynedd, nid yw o leiaf 50 y cant ohonynt yn cydymffurfio. Mae hynny gyda'r rheoliadau cyfredol. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod yn deall pwysigrwydd hyn, ac rwy'n gobeithio nad ydych yn cymeradwyo lefel y digwyddiadau llygredd amaethyddol rydym yn eu gweld.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Rwyf wedi clywed sôn ichi addo saith gwaith i beidio â chyflwyno’r rheoliadau parthau perygl nitradau hyn yn ystod y pandemig. Mewn gwirionedd, rwyf wedi dod o hyd i fwy na 10 enghraifft lle rydych wedi nodi'n benodol, ar Gofnod y Cyfarfod Llawn neu i bwyllgorau'r Senedd, na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig COVID. Nawr, ar yr union ddiwrnod y dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn un o sesiynau briffio’r Llywodraeth fod cryn dipyn o amser tan y byddwn wedi cefnu ar effeithiau gwaethaf y pandemig COVID, fe wnaethoch gyflwyno'r rheoliadau hyn. Felly, fe dorroch chi eich gair, Weinidog. Rydych wedi ein camarwain ac rydych wedi torri'ch addewid i ffermwyr Cymru, ac wrth gwrs, nid chi yw'r unig un sydd wedi ein camarwain. Ysgrifennais at y Prif Weinidog y bore yma gan iddo gael ei gofnodi'n dweud ddoe, ac rwy’n dyfynnu:
'Nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol.'
Ac mae'r ystadegau rwyf wedi’u gweld yn dangos, mewn gwirionedd, fod nifer yr achosion a brofwyd o lygredd amaethyddol mewn dŵr wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf—gostyngiad o un flwyddyn i'r llall, yn ôl ffigurau Cyfoeth Naturiol Cymru, rhwng 2018 a 2020. Ac i'r gwrthwyneb, os caf ddweud, mae llygredd o'r diwydiant dŵr wedi cynyddu bob blwyddyn yn yr un cyfnod, ond wrth gwrs, y ffermwyr sy'n cael eu cosbi unwaith eto gan eich Llywodraeth. Nawr, onid yw hyn oll a'r holl addewidion a dorrwyd a’r ystadegau ffug hyn yn tynnu sylw at y ffordd ddryslyd, anhrefnus ac anniben rydych wedi mynd i’r afael â'r mater hwn?
Nid wyf yn cytuno â chi o gwbl, ac er inni weld llai o lygredd amaethyddol—achosion a brofwyd—y llynedd, fe fyddwch yn deall na fu modd cynnal yr ymweliadau safle yn y ffordd y’u cynhaliwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Ond af yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud: rydym yn gweld, ar gyfartaledd, tri achos o lygredd amaethyddol yr wythnos. Nid wyf yn credu am un eiliad—. Hynny yw, chi yw'r un sydd bob amser yn dweud wrthym nad ydym yn mynd yn ddigon cyflym ar yr argyfwng hinsawdd. Sut rydych yn disgwyl inni wneud hynny os ydym yn esgusodi digwyddiadau llygredd amaethyddol ar y lefel hon?
Nawr, rwyf wedi parhau i weithio gyda'r sector. Fel y dywedais ynghynt yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, nid oes unrhyw un yn hoffi pan fo rhywun yn dweud wrthynt beth i'w wneud—rwy'n deall hynny'n llwyr—a chredaf fy mod wedi bod yn anhygoel o amyneddgar, wrth edrych am ffordd o wneud pethau'n wirfoddol. Nid fi yw'r unigolyn mwyaf amyneddgar fel y gwyddoch, ond rwyf wedi ceisio fy ngorau glas i weithio gyda'r sector, gydag undebau’r ffermwyr, i ddod o hyd i'r ffordd honno o wneud pethau'n wirfoddol. Ac mae cymal adolygu yn y rheoliadau hyn wyddoch chi, felly os oes gan bobl syniadau disglair y gallant eu cyflwyno, cyflwynwch hwy a gadewch inni weld a allwn barhau i chwilio am ffordd wahanol o weithredu. Ond mae arnaf ofn na allwn gyfiawnhau gohirio hyn mwyach. Nid wyf am barhau i dderbyn tri achos o lygredd amaethyddol bob wythnos, ac rwy'n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno.
Rwy'n teimlo fel pe na baech wedi bod yn gwrando ar air rwyf wedi bod yn ei ddweud am y ddwy flynedd ddiwethaf, Weinidog. Nid oes unrhyw un yn gwadu bod problem y mae angen mynd i’r afael â hi; y broblem yma yw'r ateb rydych yn ei gynnig. Nid yw'n ymarferol ac nid yw'n gymesur, ac a dweud y gwir, nid yw'n mynd i weithio. Mae tystiolaeth o fannau eraill ledled Ewrop lle cafodd dull y parthau perygl nitradau ei fabwysiadu yn dangos mai canlyniadau anghyson y mae’n eu cyflawni ar y gorau. Ddeuddeg mis yn ôl, fe wnaethoch chi gyfaddef eich hun fod gennych amheuon ynghylch cyflwyno cyfnodau gwaharddedig a dull ffermio yn ôl y calendr. Ac wrth fy ateb yn y Senedd, fe wnaethoch chi gyfaddef—ac mae pob un ohonom yn gwybod, onid ydym—nad yw'r tywydd yn dilyn y calendr, a dyna pam y gwnaethoch ailfeddwl ynglŷn â'r safbwynt hwnnw ar y pryd. A gŵyr pob un ohonom y bydd yr wythnosau cyn ac ar ôl y cyfnod gwaharddedig rydych yn ei gyflwyno nawr yn dod yn wythnosau gwasgaru slyri cenedlaethol yng Nghymru, ac mae'n digwydd mewn gwledydd eraill. Bydd afonydd yn troi’n ddu yn ystod yr wythnosau hynny, wrth i ffermwyr gael eu gorfodi i glirio eu storfeydd slyri cyn cyfnod gwaharddedig a'u gwagio wedyn pan fyddant yn gorlifo. Mae hyd yn oed Tony Juniper, un o hyrwyddwyr amgylcheddol mwyaf rhagorol y DU a chadeirydd Natural England—dywedodd nad yw cyfnodau gwaharddedig yn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol gorau. Pam rydych yn anghytuno ag ef?
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r erthygl y cyfeiriwch ati, ond credwch fi, rwyf wedi gofyn am lawer iawn o sesiynau briffio ynglŷn â hyn. Rydym wedi edrych ar lawer iawn o wahanol agweddau ar hyn, a chredaf y dylem hefyd fod yn glir iawn nad mynd i'r afael â llygredd nitradau yw unig ddiben y rheoliadau hyn. Mae llygredd amaethyddol yn cynnwys pethau eraill, fel ffosfforws ac amonia ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, er enghraifft. Credaf y bydd yn cael ei dargedu at arferion fferm. Rydym yn gweld achosion o lygredd amaethyddol ledled Cymru, nid mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn unig. Ac os edrychwch ar yr hyn y mae gwledydd eraill y DU yn ei wneud, mae ganddynt wahanol ardaloedd dynodedig, os hoffwch—rwyf wedi cael hynny wedi’i daflu ataf hefyd—ond os edrychwch ar yr hyn y maent yn ei wneud mewn perthynas â'r holl lygredd amaethyddol, fe welwch fod pethau'n debyg iawn.
Wel, taflodd CNC hynny atoch, ac fe ddewisoch chi eu hanwybyddu am eu bod yn awgrymu bod 8 y cant o'r arwynebedd yn barthau perygl nitradau. Mae gwrando ar eu cyngor yn gyfleus ichi weithiau, ond nid dro arall, mae'n amlwg.
Edrychwch, byddwn yn dweud bod y bennod ddiweddaraf hon yn cynrychioli'r dirywiad terfynol yn y berthynas rhwng eich Llywodraeth a'r gymuned amaethyddol, oherwydd dro ar ôl tro, roedd gennych fwy o ddiddordeb mewn pwyntio bys na gweithio’n adeiladol gyda'r sector o ddifrif i gyd-gynllunio dull mwy cynaliadwy o weithredu. Ymddengys eich bod yn beio'r gymuned amaethyddol am holl wendidau cymdeithas, ac mae'n rhaid rhoi’r gorau i hynny. Efallai fod ffermwyr yn broblem i chi; rwy’n ystyried ffermwyr yn rhan fawr o'r ateb. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, os ydym am fynd i'r afael â'r broblem hon yn llwyddiannus, mae arnom angen i bawb weithio gyda'i gilydd a thynnu i'r un cyfeiriad? Ac a fyddech hefyd yn cytuno â mi fod y llanast hwn yn cynrychioli dirywiad anadferadwy yn y berthynas rhwng eich Llywodraeth a'r sector, a'r unig ffordd y gellir unioni hynny bellach yw drwy gael Llywodraeth wahanol ym mis Mai?
Ddim o gwbl. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o ddau undeb ffermwyr ers yr wythnos diwethaf, felly gallaf roi sicrwydd i chi nad yw hynny wedi digwydd o gwbl. Rwy'n credu y dylai pob Aelod o'r Senedd hon sefyll gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r broblem sylweddol hon, ni waeth pa sector neu ddiwydiant sydd dan sylw. Rwyf wedi gwneud popeth y gallaf ei wneud i gefnogi'r sector amaethyddol, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae ein ffermwyr wedi'i wneud mewn perthynas â bwydo'r genedl yn ystod y pandemig, er enghraifft, ond nid wyf yn gwybod pam y byddech chi ac Aelodau eraill eich plaid ac Aelodau eraill y Senedd hon yn esgusodi nifer mor uchel o achosion o lygredd amaethyddol. Nid wyf yn deall pam eich bod, ar y naill law, yn rhygnu ymlaen am eich cymwysterau gwyrdd, ac ar y llaw arall, yn esgusodi’r lefelau hyn o lygredd amaethyddol.