2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau staff awdurdodau lleol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau allweddol ledled Cymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ56216
Mae staff awdurdodau lleol wedi ymateb yn wych i effaith y pandemig, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled a'u hymdrechion. Er mai mater i’r awdurdodau unigol yw staffio wrth gwrs, rwy'n cyfarfod ag arweinwyr yn rheolaidd iawn i ddeall yr effeithiau ledled Cymru, ac mae'r mesurau adrodd sydd ar waith drwy Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru yn galluogi adrodd ar faterion penodol a darparu cyd-gymorth.
Diolch am hynny, Weinidog, ac rwy'n adleisio eich sylw am lwyddiannau aruthrol staff awdurdodau lleol yn ystod y pandemig hwn. Ond yn amlwg, mae gennym broblemau nad ydynt yn rhai COVID hefyd, o natur gronig, ac rwy'n siarad nawr fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg, yn amlwg rydym yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae yn parhau i ddarparu gwasanaethau cymorth, ac un o'r rolau hynny yw'r swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg—neu ROVIs, fel y'u gelwir. Nawr, mae'n arbennig o siomedig nodi bod nifer yr awdurdodau lleol sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer nifer y swyddogion adsefydlu yn y boblogaeth wedi disgyn o 12 i wyth allan o'r 22. Yn ein hardal ni yn Abertawe, Weinidog, dim ond 0.5 ROVI cyfwerth ag amser llawn sydd gan yr awdurdod lleol, lle dylai fod ganddynt o leiaf 3.5 cyfwerth ag amser llawn, sy'n golygu mai honno yw'r ardal awdurdod lleol sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Felly, yn dilyn hynny oll, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl sy'n byw gyda nam ar eu golwg eich bod yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth cronig hwn?
Diolch, Dai Lloyd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau iechyd, ac fel y dywedaf, gyda nifer o awdurdodau cyhoeddus eraill ledled Cymru i sicrhau nifer o bethau. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi gorfod adleoli staff o’u rolau rheng flaen arferol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau’r pandemig, ac rydym yn gweithio’n ofalus iawn gyda hwy i sicrhau bod y rolau rheng flaen hynny yn ailgychwyn eu gwaith arferol yn fuan. Rydym wedi bod yn gwneud hynny drwy ganiatáu mynediad at staff asiantaeth ac oriau ychwanegol i staff, ac yn wir, at staff ychwanegol, drwy’r ymateb COVID, a dylai hynny alluogi awdurdodau lleol i roi eu gwasanaethau arferol yn ôl ar waith. Mae llawer o'r pethau rydych yn tynnu sylw atynt, wrth gwrs, yn benderfyniadau i'r awdurdodau lleol eu hunain; rydym yn darparu’r cyllid heb ei neilltuo ar eu cyfer er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Ond os hoffech ysgrifennu ataf gyda'r manylion penodol iawn rydych newydd eu hamlinellu, rwy’n fwy na pharod i fynd i'r afael â'r mater fy hun gyda’r arweinwyr yn fy nghyfarfod nesaf â hwy.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae nifer o wasanaethau a phrosiectau a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r cyngor yn cyflogi'r staff, ond mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gweithgarwch, a gallai enghraifft o hynny fod yn rhywbeth fel gwasanaeth datblygu chwaraeon cymunedol. Mae rhai awdurdodau lleol yn dweud, yn ystod y pandemig pan nad yw rhai o'r gwasanaethau hyn mor hygyrch oherwydd y cyfyngiadau, y gallai rhai o'r staff gael eu defnyddio at ddibenion gwahanol mewn canolfannau profi torfol neu yn y canolfannau brechu neu ar wasanaethau olrhain, ond nid yw'r model cyllido rwyf newydd ei ddisgrifio yn caniatáu iddynt wneud hynny. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn ichi edrych i weld a oes rhywfaint o hyblygrwydd y gallech ei ddarparu i awdurdodau lleol i ddefnyddio rhai o'r staff hyn yn wahanol, wrth i’r angen godi dros gyfnod y pandemig hwn?
Diolch, Dawn. Rwy'n gyfarwydd iawn â chymhlethdodau rhai o'r ffrydiau grant sy'n cyflogi staff yn uniongyrchol mewn ardaloedd awdurdodau lleol. Ar ddechrau'r pandemig, felly flwyddyn gyfan yn ôl bellach—er ei bod yn teimlo’n fyrrach ac yn hirach i lawer ohonom—cynghorwyd yr holl dimau grantiau fod angen iddynt gynnig hyblygrwydd lle bo modd, er enghraifft, drwy ymestyn dyddiadau cau ar gyfer cyflawni canlyniadau, neu'n wir i ganiatáu 'morffio'—credaf mai dyna’r ymadrodd—ffrydiau grant amrywiol i ganiatáu'r hyblygrwydd mwyaf. Fodd bynnag, nid oes cytundeb cyffredinol i ddosbarthu'r cyllid hwnnw gyda hyblygrwydd llwyr, oherwydd weithiau, daw'r cyllid o rywle gwahanol i Lywodraeth Cymru gydag amlenni cyllido ynghlwm wrtho. Felly, rydym wedi darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl drwy’r ffrydiau grant y mae gennym reolaeth gyfan gwbl drostynt, ac yna rydym wedi ystwytho ffiniau'r lleill lle bu modd gwneud hynny.
Ond os ydych am imi edrych ar achos penodol iawn, rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael ag ef. Mae'n anodd iawn rhoi ateb cyffredinol, gan fod set wahanol o baramedrau a rheolaethau y mae angen edrych arnynt ym mhob ffrwd grant. Ond yn gyffredinol, lle bo modd, rydym wedi ystwytho'r grantiau fel y gall awdurdodau wneud yn union fel rydych newydd ei ddweud, ac mae'n ymarfer da, wrth gwrs, sef bod modd defnyddio staff yn yr ymateb rheng flaen i'r pandemig wrth i wasanaethau arferol orfod cau neu ddod yn llawer mwy cyfyngedig. A gwn fod hynny wedi bod yn digwydd ar draws awdurdodau lleol hefyd. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i'r manylion penodol ar eich rhan, ond fel y dywedaf, yn gyffredinol, rydym wedi rhoi cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i mewn i'r system.
Weinidog, ar ddechrau'r pandemig, cynigiodd lawer o bobl wirfoddoli, naill ai yn y gymuned neu fel staff y GIG ar gyfer dyletswyddau clinigol. Clywaf gan lawer o etholwyr na chafodd eu hymholiadau eu hateb hyd yn oed, ac mae'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth ddychwelyd i weithlu'r GIG yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus. Pa wersi sydd wedi'u dysgu gan awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf i harneisio ewyllys da trigolion yn well a sicrhau bod eu diddordeb mewn helpu eu cymunedau yn cael ei gofrestru'n effeithiol rhag ofn y bydd unrhyw argyfyngau eraill yn codi?
Rydym yn gweithio'n agos iawn yn wir, ac rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt ar hyn, i harneisio trefniadau cyngor y gwasanaethau gwirfoddol ledled Cymru. Ac rydym wedi cyfeirio nifer fawr o bobl drwy gyngor y gwasanaethau gwirfoddol fel y mae pob ardal wedi'i sefydlu er mwyn gwella hynny. Ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi defnyddio gwirfoddolwyr i wneud pethau fel trefnu gwasanaethau o'u canolfannau cymunedol—felly, siopa, casglu presgripsiynau ac amryw o bethau eraill. Er enghraifft, pan oedd y cynllun bocs bwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig, defnyddiwyd nifer fawr o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda dosbarthu'r blychau bwyd, ac mae nifer o bobl wedi helpu gyda'u hybiau cymunedol.
Rwy'n siomedig o glywed bod rhai pobl wedi cael profiad gwael o gael eu harneisio yn y ffordd honno, ac os oes gennych fanylion rydych eisiau imi gael golwg arnynt, rwy'n hapus iawn i edrych ar y gwersi a ddysgwyd. Ond rwyf hefyd yn hapus iawn i ddweud ein bod, gyda fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, wedi gallu cynnull miloedd ar filoedd o bobl ledled Cymru i gynorthwyo gyda'r ymdrech. Hefyd, mae llawer iawn o gynghorau cymuned wedi chwarae rhan dda yma. Mae cynghorau cymuned wedi trefnu timau gwirfoddol lleol iawn i wneud pethau fel sicrhau nad yw pobl wedi’u hynysu gartref, a'u bod yn cael rhywfaint o gwmni, hyd yn oed os mai dros ffens yr ardd neu o'r ffordd y mae hynny'n digwydd. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae Cymru wedi cyd-dynnu i gynorthwyo pobl a allai fod wedi'u hynysu fel arall. Ond os oes gennych achosion penodol rydych yn pryderu amdanynt, byddai'n dda iawn gennyf wybod manylion y rheini.