– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 3 Chwefror 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw'. Galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Bethan Sayed.
Diolch am y cyflwyniad, a diolch i Helen Mary Jones a oedd yn Gadeirydd yn fy absenoldeb, ac a wnaeth lawer o waith yn ystod y pandemig i drafod yr effaith ar y diwydiant cerddoriaeth. Ac yn anffodus, effeithiodd y pandemig ar lansiad yr adroddiad hwn, a oedd i fod i ddigwydd yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf, rwy'n credu. Hoffwn ddiolch i'r holl fandiau a'r holl artistiaid hefyd a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Nid chawsom y bobl arferol; cawsom fandiau fel Valhalla Awaits, cawsom y Joy Formidable—fy hoff fand—i mewn, cawsom ambell i DJ fel Bethan Elfyn i roi tystiolaeth, a phob un yn ein hysbrydoli i ddeall pa mor bwysig yw cerddoriaeth fyw i'n bywydau. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod y pandemig wedi dinistrio'r diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru ac yn wahanol i wledydd eraill, fel yr Alban a Lloegr, lle roedd rhai pethau'n gallu agor a rhai lleoliadau cerddoriaeth yn gallu ymarfer eu crefft, ni wnaeth Cymru hynny. Mae gennyf ddyfyniad yma gan y band Buffalo Summer, ac er fy mod yn Gadeirydd annibynnol, fe ddywedaf fod y dyfyniad yn anhygoel: 'Roeddem ar daith pan ddigwyddodd y cyfyngiadau symud cyntaf a nawr nid ydym yn gallu gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth. Gyda llanast Brexit, nid wyf yn gwybod a fyddwn ni byth yn mynd ar daith o amgylch Ewrop eto. Mae San Steffan wedi siomi ein gwlad. Yr unig ffordd allan yw annibyniaeth.' Felly, dyma sut y mae wedi effeithio ar fandiau ar hyd a lled Cymru ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o bobl eraill yn y diwydiant—nid yn unig y rhai mewn bandiau, ond y gweithwyr y tu ôl i'r llen, peirianwyr sain, cynhyrchwyr theatr, maent i gyd wedi cael eu heffeithio gan hyn.
O ran yr angen am gymorth y tu hwnt i fis Mawrth 2021, bydd gennym gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru hyd at fis Mawrth 2021 ac mae llawer o bobl wedi defnyddio'r cynllun penodol hwnnw, ond mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn ei bapur cyllideb:
Ein bwriad yw darparu cyllid adferiad ychwanegol ar gyfer 2021-22, ond nid yw ei faint a'r dull o'i weithredu wedi'u pennu eto ar y cam cynnar hwn.
Wel, byddwn yn dadlau nad ydym ar gam cynnar, gyda'r cyllid presennol yn dod i ben ym mis Mawrth, a hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i roi rhyw syniad a fydd unrhyw gyllid yn parhau i'r rheini yn y sector, ac a yw'n ddibynnol ar arian San Steffan. Hoffem glywed hynny gennych heddiw.
Mewn perthynas â chymorth i'r hunangyflogedig, wel, mae ein hymchwiliadau i'r pandemig wedi dangos dro ar ôl tro y bu bylchau mewn cymorth cyflogaeth i'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, gyda llawer yn cael eu gadael allan o'r sefyllfa'n gyfan gwbl. Mae UK Music wedi amcangyfrif bod 72 y cant o'r sector yn hunangyflogedig a dywedodd Undeb y Cerddorion wrthym na all traean o'u haelodau gael mynediad at y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig am amryw o resymau. Nawr, gwyddom fod Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynghorau lleol, wedi lansio'r cynllun gweithwyr llawrydd, a chredaf fod hwnnw wedi bod yn wahanol i wledydd eraill y DU, felly byddwn yn dweud bod hwnnw wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol i'w groesawu. Ond gwyddom hefyd fod problemau wedi bod o ran gallu pobl i ddefnyddio'r cynllun hwnnw, felly os oes unrhyw gynlluniau o'r fath yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y gallem ddatrys rhai o'r problemau cychwynnol hynny.
O ran yr hyn y mae'r sector ei angen ar gyfer ailgychwyn gweithgarwch yn y maes hwn, yn debyg iawn i'r hyn rydym wedi bod yn ei drafod yn y sector chwaraeon, mae'r rheini yn y diwydiannau creadigol yn gofyn yn awr am ryw fersiwn o fap trywydd tuag at allu ailagor. Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi dweud yn ein gwaith craffu diweddar ei fod yn ei chael yn anodd gwneud hynny oherwydd ein bod mewn pandemig wrth gwrs, ac mae'n anodd iawn gwneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n cydymdeimlo ag ef yn hynny o beth, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iddo ef a'i dîm drafod gyda'r sector beth allai fod yn bosibl o ran ailagor. Er enghraifft, mae rhai lleoliadau ar raddfa fach wedi dweud y gallent agor mewn ffordd sy'n cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a darparu rhywfaint o gerddoriaeth. Mae tafarndai wedi bod ar agor—efallai y gallem gael band yn y gornel pan fyddwn yn ailagor, fel y gall pobl fwynhau cerddoriaeth yn ogystal â mwynhau eu peint neu eu gwydraid o ddŵr.
Wrth i ni drafod Brexit, wel, yn sicr mae effaith Brexit wedi bod yn wael iawn ar y sector, a diolch yn fawr iawn i'r cyngor celfyddydau a Chyngor Caerdydd am ymateb i'n hymchwiliad ni. Yn sicr, mae'r cyngor celfyddydau yn gywir i nodi nad yw cytundeb masnach Brexit yn caniatáu i artistiaid symud rhwng gwledydd heb rwystrau, a bydd hwn yn gwneud teithio yn Ewrop yn ddrutach ac yn fwy cymhleth o lawer. Cyhoeddwyd y cytundeb ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, a bydd hyn yn effeithio ar nifer ac ystod yr artistiaid o Ewrop sy’n gallu perfformio yma, a’r artistiaid o Gymru sy’n gallu teithio yn Ewrop.
O ran rhelyw'r adroddiad, mae'n bwysig dydyn ni ddim yn anghofio bod yna argymhellion sy’n mynd yn bellach na'r pandemig pan wnaethon ni edrych ar y mater yma yn wreiddiol. Felly, gwnaethon ni gynnig, er enghraifft, cefnogaeth i leoliadau ar lawr gwlad, gan gynnwys ailfeddwl rheolau trwyddedu; cefnogaeth i bobl, cefnogaeth i ddatblygu talent ac unigolion; hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru yn benodol; a hefyd strategaeth ar gyfer llwyddiant. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol bod y sector cerddoriaeth yn helpu ein heconomi i fyw yn iach, ac yn cefnogi busnesau lleol, ond hefyd dŷn ni'n cydnabod y ffaith bod angen strategaeth drosfwaol sy'n gallu ymgymryd â'r ffaith bod cerddoriaeth yn fwy na dim ond yr economi, ond mae'n datblygu creadigrwydd ac mae'n caniatáu i ni ddod at ein gilydd fel cymdeithas i gydweithredu. Yn sicr, mae angen celf arnom ni yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau clo yma. Mae'n rhoi siawns i ni gael llonydd mewn amseroedd anodd. Mae'n rhoi siawns i ni wrando ar bodlediadau gwahanol neu ar raglenni radio fyddem ni ddim efallai wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw os nad oeddem ni mewn sefyllfa o gyfnod clo. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am bwysigrwydd hynny, o shanties môr ar TikTok i gôr y gwasanaeth iechyd yn dod at ei gilydd—sut mae cerddoriaeth wedi gallu uno'r genedl yn ystod y cyfnod anodd, anodd iawn yma.
I orffen, hoffwn i ddweud ei bod yn bwysig dweud pa mor ddiwyd mae'r pwyllgor wedi gweithio yn y maes yma ar yr ymchwiliad penodol yma. Dŷn ni'n falch bod y Llywodraeth wedi gwrando, hyd yn oed yn ystod prosesau'r pwyllgor—er enghraifft, dŷn ni wedi argymell bod project Forté yn cael ei estyn i bob ardal o Gymru, a dŷch chi wedi gwrando a dŷch chi'n mynd i gonsidro gwneud hynny, yn hytrach na ei fod e jest yn rhan o ardal de Cymru. Hefyd, roeddem ni wedi argymell yn yr adroddiad penodol yma eich bod chi'n cael cronfa gyllid ar gyfer diogelu lleoliadau, ac wrth gwrs dŷch chi wedi gwneud hynny, a dŷn ni'n falch iawn eich bod chi wedi cymryd y fantol a gwneud hynny.
Felly, mae'n bwysig cydnabod pa mor effeithiol mae pwyllgorau yn gallu bod. Mae lot o artistiaid wedi diolch i ni am y gwaith yn y sector. Dŷn ni wedi cael grŵp arbenigol i'n helpu ni sicrhau bod yr argymhellion yn gallu bod mor gryf â phosib. Ond dwi'n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau eraill ac at gael trafodaeth ar rywbeth sydd mor bwysig i'n bywydau ni oll.
Rwy'n credu y byddwch yn falch o glywed nad wyf am siarad am bob un o'r 31 o argymhellion. A gaf fi dynnu sylw at rai rwyf eisiau eu crybwyll yn fwyaf arbennig? Yr un cyntaf rwyf am ddechrau gydag ef yw y dylem ddathlu ein cenedl ddwyieithog yn well, o ran yr hyn a wnawn yn y byd artistig, a bod rhaniad deuol rhy bendant rhwng digwyddiadau Cymraeg a Saesneg, a dylai Cymru Greadigol annog llawer mwy o gydweithio rhwng y sectorau. Felly, hyd yn oed mewn rhaglenni Saesneg eu hiaith yn bennaf, gallech gael rhai bandiau Cymraeg hefyd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fewnwelediad pwysig iawn, ac rwy'n falch fod hynny wedi'i wneud i ni yn y dystiolaeth.
Credaf fod yr angen am strategaeth gerddoriaeth, fel ein bod yn hyrwyddo brand rhyngwladol Cymru gartref a thramor yn argymhelliad allweddol iawn oherwydd credaf fod gennym lawer iawn i'w gynnig. Ac os edrychwch, yn sicr, ar rai rhannau o'r byd sydd wedi dod yn boblogaidd iawn ar gyfer twristiaeth ym mhen uchaf y farchnad, yn aml eu cynnig artistig sy'n arbennig o ddeniadol. Ac rwy'n credu bod gennym dreftadaeth gyfoethog, ac mae llawer ar gael allan yno, a gallwn adeiladu ar hynny. Ac o edrych ar lefel fwy lleol, yn ogystal â strategaeth genedlaethol mae angen byrddau cerddoriaeth lleol arnom—ac rwy'n falch o ganmol Caerdydd, sydd ar y blaen yma ac sydd eisoes yn datblygu un—byrddau cerddoriaeth sy'n cynnwys y sector cyfan, ac nid dim ond ar gyfer hyrwyddo ochr greadigol cerddoriaeth, ond i edrych hefyd ar rai o'r materion anos, fel trwyddedu, sydd eisoes wedi'i grybwyll, yn ogystal â'r hyn sydd yng nghwricwlwm yr ysgol hyd yn oed, oherwydd mae cerddoriaeth yn cael ei gau allan fwyfwy. Clywais yn ddiweddar am ddileu jazz o gerddoriaeth Safon Uwch mewn rhai mannau, sy'n beth braidd yn rhyfedd i'w wneud, byddai rhywun yn meddwl. Ond dyma'r mathau o faterion y gallai'r byrddau cerddoriaeth lleol edrych arnynt.
Rwy'n pryderu nad yw'r egwyddor cyfrwng newid bob amser yn hollbwysig. Oherwydd wrth inni ddatblygu ein hardaloedd canol dinas a chanol trefi yn gwbl briodol, rwy'n teimlo y bydd mwy o angen gwneud hynny, mae'n debyg, o ganlyniad i COVID, gan fod angen inni addasu rhai o'r ardaloedd manwerthu blaenorol hyn yn enwedig at ddibenion gwahanol, ond gyda'r perygl bod datblygu mwy o dai yn yr ardaloedd hyn yn arwain at wthio lleoliadau cerddoriaeth traddodiadol allan, neu eu gorfodi i gydymffurfio â gofynion cynyddol feichus. Felly, credaf fod angen edrych ar hyn yn ofalus.
Ac yn olaf, a gaf fi ddweud, mewn perthynas â rhai pethau ar ôl COVID, er bod hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, mae'n ymddangos y byddwn yn byw gyda COVID—gan ymdopi'n llawer gwell, gobeithio, oherwydd y brechlynnau—ond byddwn yn byw gydag ef am beth amser. Ac roeddwn yn teimlo nad oedd pob un o'n tystion, pan oeddwn yn gofyn cwestiynau iddynt, fel, 'A allech chi weld y defnydd o dystysgrifau brechu, er enghraifft, yn rhan o'r broses o agor lleoliadau cerddoriaeth eto?', nid wyf yn siŵr a yw pobl wedi dechrau meddwl am hyn yn iawn eto, ac rwy'n credu bod angen iddynt wneud hynny, ac yn wir mae angen i'r Llywodraeth a llywodraeth leol wneud hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Fe wnaf ddatgan buddiant ar sail fy aelodaeth o Undeb y Cerddorion. Yr her i ni, wrth gwrs, yw beth fydd y normal newydd mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu y bydd yn rhaid inni fod yn ystwyth ac yn hyblyg yn y ffordd rydym yn addasu ac yn annog cerddoriaeth fyw yn yr amgylchedd newidiol roedd David Melding yn cyfeirio ato. Roedd yn adroddiad eang iawn ac rwy'n credu bod rhai agweddau ar y sesiynau tystiolaeth yn agoriad llygad i lawer ohonom mewn sawl ffordd. Mae gennyf bryderon gwirioneddol ynglŷn â'r her o gael cerddoriaeth fyw'n weithredol eto mewn lleoliadau, ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg y bydd angen cymorth.
Mae gennyf bryderon hefyd am yr her nawr, ar ôl bron i 12 mis o COVID, i rai o'r digwyddiadau cerddoriaeth sefydledig sydd gennym yn rhan o'n diwylliant. Ac rwy'n meddwl am bethau fel y corau a'r bandiau pres, sy'n sydyn yn wynebu'r perygl o fwlch yn y llif o aelodau newydd a'r gallu i berfformio o fod wedi cael eu hamddifadu o'r arfer o berfformio a chymryd rhan. Ac mae'r rhain yn rhan mor hanesyddol a gwerthfawr o'n diwylliant fel bod rhaid inni edrych ar sut y gallwn annog a chefnogi mewn ffordd wahanol.
Fy agwedd at elfennau o'r adroddiad mewn gwirionedd yw canolbwyntio ar gerddoriaeth lawr gwlad, a'r materion cydraddoldeb a ddaeth i'r amlwg, hynny yw fod rhaid inni ddechrau edrych ar gerddoriaeth a diwylliant byw mewn ffordd wahanol sy'n llawer mwy hygyrch. Felly, roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn peth o'r dystiolaeth a gawsom, a oedd yn dechrau creu cysylltiad rhwng mater lleoliadau a digwyddiadau cerddoriaeth a theithio a thrafnidiaeth—y gallu i'w cyrraedd. A'r rheswm pam nad yw llawer o bobl o lawer o'r cymunedau tlotach, neu gymunedau dosbarth gweithiol hyd yn oed, yn gallu cael mynediad atynt yw oherwydd diffyg rhyng-gysylltiad rhwng yr hygyrchedd hwnnw. Ac efallai fod hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno nawr, yn enwedig gan ein bod bellach yn berchen ar ran fwy helaeth o'r rheilffyrdd a'n bod yn edrych ar fwy o gydlynu teithio.
Y broblem fawr i mi, serch hynny, pe bai'n rhaid imi nodi un, yw'r hyn a heuir ar gyfer ein dyfodol ar ffurf cerddoriaeth mewn ysgolion. Y dysgu, y cyllid cyson a'r ffaith fy mod yn argyhoeddedig fod gennym fwlch cydraddoldeb mawr yn datblygu yn ein hysgolion o ran pwy sy'n gallu fforddio offerynnau, pwy sy'n gallu manteisio ar gerddoriaeth, hyrwyddo cerddoriaeth fel rhan normal o addysg. Mae'n dysgu mathemateg, mae'n dysgu ymgysylltu cymdeithasol, mae'n dysgu cymaint o bethau sy'n bwysig i rannau eraill o'r cwricwlwm. Ac rwy'n credu o ddifrif pe bai un maes y gallem wneud gwahaniaeth enfawr ynddo ar gyfer y dyfodol, hyrwyddo, cefnogi cerddoriaeth yn ein hysgolion yw hwnnw, cynhyrchu cenedlaethau newydd cyfan sydd naill ai'n cael budd o gerddoriaeth er ei fwyn ei hun a ddaw gyda chwarae offeryn neu gymryd rhan mewn gweithgarwch cerddorol a diwylliannol, yn hytrach na'r gwahanol opsiynau gyrfa sy'n anochel yno fel rhan o'r economi honno.
Ac yn olaf, i ailadrodd y pwynt a wnaeth Bethan: rôl gweithwyr llawrydd. Union natur y diwydiant hwn, union natur yr amrywiaeth a geir ynddo, rhaid inni gydnabod nifer y bobl yn rhan o hynny sy'n hanfodol iddo ac y bydd angen cymorth arnynt am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Rwy'n credu efallai fy mod am dynnu sylw ar y cam hwn at y ffaith mai dadl 30 munud yw hi, ac nid wyf yn siŵr a yw'r Cadeirydd yn ymwybodol ei bod wedi gadael 10 eiliad iddi hi ei hun ar y diwedd i gloi'r ddadl. Yn dibynnu ar sut y mae eich holl siaradwyr eraill yn gwneud, efallai y caniatâf ychydig mwy na 10 eiliad i chi gloi, gan mai dyma eich tro cyntaf yn gwneud adroddiad pwyllgor, ond cyfraniad tri munud ydyw ac wyth munud i'r Cadeirydd gyflwyno a chloi. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ein hanthem genedlaethol ni drwy sôn am 'wlad beirdd a chantorion'. Mae gennym ni draddodiad hir o ran cerddoriaeth a cherddoriaeth fyw yn benodol. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth felly wneud yn siŵr ei bod yn gwneud bob dim o fewn ei gallu i gefnogi, cynorthwyo a hyrwyddo diwydiant cerddoriaeth fyw Cymru. Ac, fel efo llawer o sectorau eraill, mae'r pandemig wedi effeithio'n enbyd ar y sector.
Mae adroddiad y pwyllgor yn hynod gynhwysfawr gan roi'r chwyddwydr ar gyflwr y diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu'r problemau a wynebodd y sector, ac maen nhw'n dal i'w wynebu ar hyn o bryd, ac mae o hefyd yn tanlinellu'r bygythiad y mae coronafeirws yn ei beri i'r sector.
Un peth sy'n fy nharo i'n syth, wrth ddarllen y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r ymgynghoriad i'r ymchwiliad, ydy'r angen am strategaeth gerddoriaeth gan y Llywodraeth. Mae recordiau SAIN yn dweud fel hyn:
'Yr wyf yn gryf o’r farn mai un o brif ddiffygion y diwydiant cerdd yng Nghymru yw’r ffaith nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth sy’n edrych ar y diwydiant cerdd yn ei gyfanrwydd.'
Ac, i'r perwyl hynny, felly, mae'n dda gweld argymhelliad 6, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r diwydiant, ddatblygu strategaeth gerddoriaeth. Ym marn Plaid Cymru, mae'n rhaid i hyn fod yn strategaeth holistaidd, gynhwysol a bod yn rhan annatod o'r strategaeth ddiwylliant newydd sydd ei hangen ar Gymru.
Mae yna ddatblygiadau positif, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at Ddydd Miwsig Cymru, a'r diwrnod hwnnw eleni yn cael ei gynnal ddydd Gwener yma—mae'n amlwg mewn ffordd hollol wahanol. Ond mae angen adeiladu ar hyn. Nid diwrnod yn unig, ond mae eisiau prosiectau lleol sy'n creu cyfleoedd 12 mis y flwyddyn i bobl ddysgu, perfformio, hyrwyddo a threfnu digwyddiadau.
Mae'n rhaid i ni ddefnyddio cerddoriaeth i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg, yn enwedig yn yr oed ôl-addysg, ble mae yna gwymp sylweddol yn nifer y siaradwyr. Ac, fel mae siaradwyr eraill wedi sôn, mae angen gweithredu ar argymhelliad rhif 9, sef y galw am sefydlu'r gronfa gyfalaf yma a allai helpu cadw lleoliadau fel Gwdihŵ, Caerdydd, er enghraifft, ac mi fyddai yna newidiadau yn gallu digwydd yn y system gynllunio hefyd i sicrhau bod adeiladau ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn aros yn hyfyw.
Dwi'n croesawu'r adroddiad, ac yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor ac i'r holl dystion am gymryd yr amser i gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae'r argymhellion amrywiol yn eang, ac yn sicr yn rhoi llawer i'r Llywodraeth, ac i ni fel Aelodau Senedd sy'n cymryd diddordeb mewn polisi diwylliant, llawer iawn i'w ystyried.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth inni. Roedd yn waith eithaf sylweddol, ac rwy'n credu ei fod wedi cynhyrchu adroddiad pwysig a sylweddol.
Hoffwn gyfeirio at argymhelliad 6 hefyd, a'r angen am strategaeth gerddoriaeth, a fyddai, fel y dywed yr argymhelliad, yn fuddiol iawn y tu allan i Gymru, yn ogystal ag o'i mewn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd, onid ydym, â Cŵl Cymru pan ddigwyddodd, ac roedd gennym lawer o fandiau roc proffil uchel o'r ansawdd uchaf yn dod i amlygrwydd tua'r un pryd. Ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi delwedd ryngwladol wych i Gymru, ac ni ddylem danbrisio pwysigrwydd hynny. Mae'n ymwneud â phŵer meddal, onid yw, rhywbeth y mae'r British Council a Llywodraeth y DU yn gweithio'n galed i'w sefydlu a'i ddatblygu. Mae'n bwysig tu hwnt i unrhyw genedl, ac roedd yn ddelwedd wych i ni yn fy marn i.
Yn lleol yng Nghasnewydd, roedd gennym sîn gerddoriaeth fyw lewyrchus, ac mae llawer o bobl yn siarad am TJ's, y lleoliad anhygoel gydag atgofion gwych a melys. Ac yna cawsom Le Pub, sy'n lleoliad gwych hefyd, ac yn wir rhoddodd y perchennog dystiolaeth i'r pwyllgor. Ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn i Gasnewydd wrth newid delwedd y ddinas, a hefyd wrth ganiatáu ansawdd bywyd da i bawb yn lleol sydd eisiau mwynhau cerddoriaeth fyw. Felly, ni ddylem danbrisio pwysigrwydd cerddoriaeth yn lleol, yn genedlaethol nac yn rhyngwladol, a chredaf y gallai strategaeth gerddoriaeth ystyried yr hyn y gellid ei wneud a'i ddatblygu'n effeithiol.
Hoffwn gytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, ac ystyried argymhelliad 13 mewn perthynas ag ysgolion. Fy mhrofiad fy hun, fel y dywedodd Mick, yw ei fod yn anghyfartal iawn ar hyn o bryd. Mae Cerddoriaeth Gwent yn darparu gwasanaeth gwych, ond mae llawer o'r ddarpariaeth yn dibynnu ar rieni'n talu amdano, ac yn amlwg mae hynny'n cau'r drws ar lawer iawn o deuluoedd. Felly, mae gwir angen inni fynd i'r afael â hynny. Mae gan bawb dalentau, ac mae'n ofnadwy meddwl y bydd rhai plant yn datblygu eu doniau a bydd eraill ar eu colled oherwydd amgylchiadau eu geni, ac mae gwir angen inni wneud rhywbeth am hynny. Mae'n wastraff mawr o botensial dynol, ac mae cerddoriaeth yn un agwedd ar hynny, a gobeithio y gall yr adroddiad hwn fod yn gatalydd i wneud mwy nag a wnawn ar hyn o bryd i ymgodymu â'r materion hynny.
A dim ond un mater arall. Gall elusennau fod yn bwysig iawn ar gyfer darparu cyfleoedd i'r rhai na fyddent fel arall yn eu cael i ddysgu chwarae offeryn cerddorol a chael profiad. Yng Nghasnewydd, gwnaeth elusen cerddoriaeth ddefnydd o siop wag ynghanol y dref, a gallai pobl o unrhyw oedran gerdded i mewn oddi ar y strydoedd a rhoi cynnig ar chwarae offeryn cerdd a chael hyfforddiant, dod yn ôl dro ar ôl tro, datblygu eu diddordeb a'u doniau, ac roedd ochr gymdeithasol gref iawn iddo hefyd. Ar adeg pan ydym yn chwilio am ddefnydd amgen ar gyfer ein hadeiladau canol y dref a chanol y ddinas—ac mae'n debyg y bydd hynny'n cyflymu oherwydd y pandemig a siopa ar-lein ac yn y blaen—dyna ddefnydd gwych o adeilad, adeilad gwag, ynghanol ein trefi a'n dinasoedd i ddarparu cyfleoedd i roi cynnig ar offerynnau cerdd, ac i ddatblygu a meithrin dawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am y cyfraniadau gan Aelodau eraill y prynhawn yma. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu derbyn, mas o'r argymhellion, 31 ohonyn nhw. Rydyn ni wedi derbyn y mwyafrif llethol. Y rhai dydyn ni ddim wedi'u derbyn fel Llywodraeth oedd rhai oedd ddim wedi'u cyfeirio'n benodol tuag atom ni.
Felly, a gaf esbonio yn gryno beth yw ein ffordd ni o weithredu yn y maes yma, sef drwy weithredu drwy'r corff cyhoeddus newydd sydd gyda ni yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond sy'n gweithredu'n annibynnol, sef Cymru Greadigol? Fy nisgwyliad i ydy y bydd yna gynllun gweithredu cerddoriaeth ar gyfer Cymru gyfan ac y bydd Cymru Greadigol yn datblygu'r cynllun hwnnw yn benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol. Bydd y cynllun gweithredu rydyn ni'n gobeithio ei weld drwy Cymru Greadigol yn gweithredu ar faterion tymor byr sydd eu hangen i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol sydd yn parhau i'n hwynebu ni, ond mae'n bwysig hefyd bod y cynllun gweithredu tymor hwy yn edrych ar y posibiliadau o rôl cerddoriaeth fyw yng Nghymru mewn marchnad fyd-eang.
Rydyn ni'n derbyn, wrth gwrs, mai cerddoriaeth fyw oedd un o’r rhai a gafodd yr ergyd galetaf yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus, ond rydyn ni wedi rhoi cymorth i dros 70 o fusnesau cerddoriaeth. Ac mae hynny'n golygu cefnogi lleoliadau, wrth gwrs—y lleoliadau, y stiwdios recordio a'r mannau ymarfer. Mae'r rhain i gyd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol, ond rydyn ni wedi rhoi dros £4 miliwn i ddelio â'r sefyllfa yma, a hynny drwy Cymru Greadigol ac yn uniongyrchol o gronfeydd cefnogol eraill y Llywodraeth.
Ein bwriad ni ydy cadw'r busnesion cerddoriaeth yn fyw ac rydyn ni wedi rhoi pwyslais arbennig, wrth gwrs, ar y sefyllfa sydd yn wynebu'r rhai sydd yn gweithio yn llawrydd. Rydyn ni'n derbyn, yn sicr, y bydd angen am gyllid pellach ac mi fydd hwnnw'n cael ei weithredu drwy Cymru Greadigol yn ogystal â thrwy'r cronfeydd datblygu cerddoriaeth y mae sôn amdanyn nhw wedi bod yn barod. Mi fydd yna gronfa datblygu cerddoriaeth. Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried yr opsiynau i roi cymorth ychwanegol i'r £8.9 miliwn a roddwyd eisoes i weithwyr llawrydd. Mae yna frys yn sicr i ymateb ac rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu cael cyllid sylweddol allan yn gyflym yn yr argyfwng yma. Rydyn ni hefyd yn parhau i edrych ar y pwysigrwydd o gefnogi a chynorthwyo prosiectau datblygu talent fel Bannau a Momentwm, ac mi fydd y rhain hefyd, gobeithio, yn rhan sylfaenol o’r cynllun gweithredu cerddoriaeth.
Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i roi i brosiect PYST, sef AM, yn llwyddiant ysgubol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r modd y maen nhw wedi manteisio ar eu cyfle. Mi fydd ein ffordd gydweithredol ni o weithio wrth ymateb i heriau yn parhau. Dyma'r ffordd o weithio o bartneriaeth wirioneddol, sy'n rhan annatod o waith y tîm cerddoriaeth yn Cymru Greadigol, yr awdurdodau lleol a phawb arall sydd yn rhan o gynorthwyo a chefnogi'r diwydiant cerddoriaeth masnachol. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes yr un Aelod wedi dweud eu bod am ymyrryd, felly galwaf yn awr ar Bethan i ymateb i'r ddadl. Bethan.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymddiheuro am fynd dros amser. Mae'n anodd amseru yn y fath modd. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb ac i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma. Yn anffodus, dwi ddim yn gallu mynd drwy eich sylwadau i gyd, ond mae popeth dŷch chi wedi'i ddweud heddiw yn bwysig i ddod â phatrwm o'r hyn sydd yn bwysig i'r dyfodol o ran cerddoriaeth fyw, p'un a yw hynny yn yr ysgol, trwy'r cwricwlwm, neu yn ein cymunedau ar lawr gwlad, p'un a ydyw ynglŷn â'r sefyllfa trafnidiaeth, lle rŷn ni'n gallu sicrhau bod cerddoriaeth fyw yn mynd yn agosach at y bobl—mae hi oll yn bwysig er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhywbeth i bawb yn hytrach na dim ond i'r bobl hynny sydd yn gallu fforddio hynny.
Dwi'n clywed beth mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud ynglŷn â chynllun gweithredu ar gyfer cerddoriaeth fasnachol a bydd yn dda inni allu gweld hynny fel pwyllgor—os nad y pwyllgor yma yn y Senedd yma, yna'r pwyllgor yn y Senedd nesaf—gan obeithio y bydd diwylliant a cherddoriaeth fyw yn rhan gynhenid o unrhyw bwyllgor i'r dyfodol. Dwi'n siŵr bod pob Aelod o'r Senedd yma heddiw yn colli mynd i weld cerddoriaeth fyw, yn colli mynd i gigs, ac mae'n rhaid i ni feddwl am y bobl hynny sy'n gweithio yn y sector a helpu nhw i ddod â cherddoriaeth yn fyw unwaith eto ar ôl i'r pandemig yma—efallai nad unwaith iddo fynd i ffwrdd yn gyfangwbl, ond wedi iddo wella, i bawb sy'n gweithio yn y sector. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd adroddiad y pwyllgor.