1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2021.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu brechlynnau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56297
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Dirprwy Lywydd. Mae dros 100,000 o frechiadau wedi eu rhoi yn Nwyrain De Cymru erbyn hyn, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio.
Diolch. Prif Weinidog, hoffwn eich holi chi am frechiadau i bobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn cartrefi gofal, sy'n fater a godwyd gyda mi gan nifer o etholwyr. Roedd y teuluoedd hyn yn meddwl y byddai eu hanwyliaid yn cael eu brechu yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf, oherwydd addewid y Gweinidog iechyd yn y Siambr hon y byddai holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael brechiad erbyn diwedd mis Ionawr. Ond, nid oedd cartrefi gofal i bobl ag anableddau dysgu wedi'u cynnwys.
Rwyf i wedi siarad ag aelodau teuluoedd preswylwyr ag anableddau dysgu difrifol, sy'n ofni am ddiogelwch eu hanwyliaid, gan fod pobl ag anableddau dysgu wedi bod chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o COVID oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed. Rwy'n deall gan Mencap mai dim ond tua 3,500 o bobl sy'n byw mewn lleoliadau preswyl neu leoliadau byw â chymorth. O ystyried y ffigurau rhyfeddol yr ydych chi newydd fod yn eu dyfynnu—rhoddwyd 34,000 o frechiadau yng Nghymru ddydd Sadwrn yn unig—siawns mai dim ond effaith fechan iawn fyddai darparu'r brechiadau hyn yn ei chael ar y broses gyffredinol o roi'r brechlyn. Yn olaf, does bosib na ddylai hefyd fod yn ddefnydd cyfrifol o adnoddau cyhoeddus, gan y gall gofalu am bobl ag anableddau dysgu difrifol yn yr ysbyty fod yn arbennig o anodd oherwydd problemau ymddygiad a diffyg sgiliau iaith. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi felly roi ystyriaeth ddifrifol i newid y polisi hwn?
Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi ei gwneud yn eglur i'r Senedd unwaith eto bod y Llywodraeth Cymru hon yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Y cartrefi gofal sydd wedi'u cynnwys yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth yw'r cartrefi gofal a nodwyd gan y pwyllgor hwnnw. Pan fydd pobl ag anawsterau dysgu yn cael eu nodi yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf hynny, byddan nhw, wrth gwrs, wedi cael eu brechu. Pan nad ydyn nhw, yna byddan nhw'n ymddangos yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth.
Nawr, nid oes unrhyw bwrpas i Aelodau yn y fan yma feddwl eu bod nhw'n gwybod yn well na'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rwyf i eisoes wedi clywed gan Mark Isherwood yn dymuno i mi wrthdroi cyngor y Cyd-bwyllgor a rhoi swyddogion yr heddlu ymhellach i fyny'r rhestr. Rwyf i wedi cael cwestiynau ar lawr y Senedd gan Aelodau eraill yn dymuno i mi roi athrawon ar frig y rhestr. Nawr, mae'r Aelod eisiau i mi wrthdroi cyngor y Cyd-bwyllgor ar gyfer grŵp arall yn y boblogaeth. Mae gan bob un o'r grwpiau hynny ddadl i'w gwneud, ac yn aml dadl sy'n gymhellol ar ei thelerau ei hun, ond ni all Llywodraeth Cymru wrthdroi'r cyngor y mae pob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddilyn.
Nawr, sylwais ar yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog yr Alban, o chwaer blaid yr Aelod, pan ofynnwyd iddi ar lawr Senedd yr Alban i wneud yr hyn y mae hi'n gofyn i mi ei wneud—i wrthdroi rhestr flaenoriaethu'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac i roi pobl ymhellach i fyny nag a fyddai'n wir yn achos y Cyd-bwyllgor. A dywedodd hi, ar lawr Senedd yr Alban, 'Ein dyletswydd ni yw brechu yn unol ag argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.' Rwy'n cytuno â Phrif Weinidog yr Alban yn hynny o beth. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Dyna sy'n digwydd yn y rhan o Gymru y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Ac ni allaf ac ni wnaf i wneud yr hyn a fyddai, yn fy marn i, yn rhywbeth anghyfrifol a gwyro oddi wrth y cyngor yr ydym ni wedi ei gael.
Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad ag etholwyr sydd wedi cael y brechlyn—brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca—a dau gwestiwn allweddol a godwyd gyda mi fu, yn gyntaf oll, ynglŷn â'r amseriad ar gyfer yr ail bigiad yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A ydym ni'n hyderus y byddan nhw ar y trywydd iawn i dderbyn hwnnw yn yr amser sydd wedi'i ddynodi? A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â hynny? A hefyd o ran brechlyn AstraZeneca, a yw e'n ffyddiog na fydd amrywiolyn De Affrica ac amrywiolion eraill yn effeithio yn sylweddol ar effeithiolrwydd y brechlyn? Ac, os felly, a fyddai rhaglen ar gyfer rhoi pigiadau atgyfnerthu drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer pobl yn etholaeth Caerffili?
Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig yna. O ran amseriad ail ddos y brechlyn, mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud wrthyf i pa mor falch oedden nhw wrth iddyn nhw adael y ganolfan frechu torfol lle'r oedden nhw wedi cael eu pigiad cyntaf, eu bod wedi cael y dyddiad a'r amser ar gyfer iddyn nhw ddod yn ôl i gael eu hail frechiad. Rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer o hyder iddyn nhw bod y system yma yng Nghymru eisoes wedi ei pharatoi ar gyfer yr hyn a fydd, Dirprwy Lywydd, yn her fawr dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, oherwydd, o hyn ymlaen, nid yn unig y byddwn ni'n cynnig brechiad cyntaf i bobl yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth, ond byddwn yn cynnig ail frechiad i bobl yr ydym ni eisoes wedi cynnig y cyntaf iddyn nhw wrth i ni gwblhau grwpiau 1 i 4. Mae honno yn her fawr. Ond fel yr ydych chi wedi gweld, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi ymateb yn wych i'r her gyntaf, ac rwy'n ffyddiog bod y cynlluniau ar waith i ganiatáu i'r ail ddos honno o frechlyn gael ei rhoi mewn pryd gyda'r cyngor sydd gennym ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
O ran effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca ar gyfer amrywiolyn De Affrica, mae llawer iawn o waith yn dal i gael ei wneud gan wyddonwyr i asesu'r effeithiolrwydd hwnnw, ac rydym ni'n cael cyngor yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy'r cymunedau gwyddonol hynny. Y ffordd orau o weithredu, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr nad yw amrywiolyn De Affrica mewn cylchrediad gennym ni yma yng Nghymru, ac mae ymdrech enfawr yn cael ei gwneud i wneud yn siŵr, yn y nifer fach honno o achosion a nodwyd, bod popeth yn cael ei wneud i atal trosglwyddo ymlaen.
Yr hyn y mae angen i ni ei weld, rwy'n credu, yw cyfres gryfach o amddiffynfeydd wrth ein ffiniau. Rhestr goch Llywodraeth y DU yw'r lleiaf posibl o ran yr hyn y mae angen ei wneud i wneud yn siŵr nad yw'r holl enillion sy'n cael eu gwneud o ran atal y feirws a brechu ein poblogaeth yn cael eu peryglu gan bobl yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig o rannau eraill o'r byd lle gallai amrywiolion newydd eraill eisoes fod yn cylchredeg. Felly, mae gwaith yn parhau ar effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca, ond gellid gwneud mwy i liniaru'r risg y bydd yr amrywiolion newydd hynny yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn y lle cyntaf.