1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Chwefror 2021.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd meddwl brys? OQ56338
Llywydd, ar 21 Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd meddwl, Eluned Morgan, 'Tu Hwnt i'r Alwad', adolygiad Llywodraeth Cymru o fynediad brys at wasanaethau iechyd meddwl. Ers hynny, sicrhawyd cytundeb y Cabinet i weithredu argymhellion yr adroddiad ar draws yr ystod o gyfrifoldebau gweinidogol.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n pryderu yn arbennig am ein plant a'n pobl ifanc yn gallu cael y gofal priodol o ran y pwysau a roddwyd arnyn nhw yn ystod y pandemig. Felly, mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi eu blaenoriaethu gyda'r £9.4 miliwn diweddar ar gyfer y cynllun arbrofol mewngymorth ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Fodd bynnag, mae'r pandemig hefyd wedi amlygu'r anghydraddoldebau iechyd gwirioneddol iawn a wynebir gan lawer gormod o gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i, sef Cwm Cynon. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn wrth ddarparu gwasanaethau?
Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn atodol yna. Mae'n rhoi cyfle i mi, o'i chlywed yn sôn am anghydraddoldebau iechyd, i atgoffa cyd-Aelodau yn y fan yma mai'r wythnos hon yw hanner can mlwyddiant papur Dr Julian Tudor Hart yn The Lancet ar y gyfraith gofal gwrthdro, papur sydd wedi cael effaith wirioneddol fyd-eang ymhell y tu hwnt i Gymru. Fe'i hanfonwyd ataf, Llywydd, eto yr wythnos hon gan ein cyn-gyd-Aelod Dr Brian Gibbons, yn fy atgoffa o berthnasedd parhaus y darn arloesol hwnnw o waith sy'n 50 mlwydd oed. Ac, wrth gwrs, mae Vikki Howells yn iawn, fel yr oedd Dr Gibbons, bod y pandemig wedi amlygu'r mannau gwan hynny yn ein cymdeithas unwaith yn rhagor. Ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl brys, Llywydd, rydym ni'n gwybod bod yn rhaid yn aml i'r bobl hynny sydd â'r lleiaf o fynediad at wasanaethau prif ffrwd gaffael a chael gwasanaethau iechyd trwy lwybrau brys. Dyna pam yr oedd yr adolygiad 'Tu Hwnt i'r Alwad' mor bwysig, i wneud yn siŵr bod y llwybrau hynny mor eglur ac mor hawdd â phosibl i bobl eu darllen.
Bydd aelodau sydd wedi cael cyfle i edrych arno yn gwybod ei fod yn olrhain y 950 o alwadau bob dydd sy'n cael eu derbyn gan wasanaethau brys a gwasanaethau y tu allan i oriau arferol ledled Cymru gan bobl sydd ag angen yn ymwneud ag iechyd meddwl o ryw fath neu'i gilydd. Mae'n edrych i weld beth sy'n digwydd i'r bobl hynny, a dim ond tri o bob 10 ohonyn nhw, Llywydd, y darganfyddir mai dim ond ymateb GIG sydd ei angen arnyn nhw yn y pen draw; ceir agweddau eraill ar eu bywydau y mae angen rhoi sylw iddyn nhw hefyd. Felly, mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar gydweithredu, ar brydlondeb, ar gynllunio ar gyfer argyfwng i bobl y gwyddys bod ganddyn nhw gyflwr sy'n bodoli eisoes, ar brotocol person coll, sy'n arbennig o bwysig i bobl ifanc, fel y canolbwyntiodd Vikki Howells arno yn ei chwestiwn atodol, ac un pwynt mynediad i helpu'r rhai sydd angen cymorth ei gael mewn argyfwng. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ni gynlluniau arbrofol erbyn hyn, 111 o gynlluniau arbrofol, ym myrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda ac Aneurin Bevan, pob un â'r nod o roi'r agwedd honno ar yr adroddiad ar waith, fel y gallwn ni wneud yn well yn y ffordd y gofynnodd Vikki Howells yn ei chwestiwn gwreiddiol, i wneud yn siŵr bod gofal iechyd meddwl brys ar gael i bobl ar yr adeg honno o angen.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod angen rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiad cyfalaf mewn cyfleusterau acíwt modern? Mae'n dal yn wir bod rhai yn hen ffasiwn, yn anaddas, yn rhy fawr, gyda phobl ifanc, er enghraifft, mewn cyfleusterau oedolion, a gall unrhyw un sy'n dioddef trallod meddwl acíwt a/neu seicosis ganfod bod eu trawma yn cael ei gynyddu gan gyfleusterau anaddas iawn weithiau, gan gynnwys cael eu cadw mewn celloedd carchar wrth chwilio am leoliadau. Mae hyn yn annerbyniol yn yr oes fodern.
Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â David Melding y dylai pobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn y lleoliad iawn. Mae'n gwbl annerbyniol y dylai rhywun sydd ag angen neu gyflwr iechyd meddwl yn bennaf ganfod eu hunain mewn cyd-destun cyfiawnder troseddol. Gwn y bydd David Melding yn falch mai un o argymhellion 'Tu Hwnt i'r Alwad' a roddwyd ar waith yw y dylem ni gael cynlluniau arbrofol trawsgludiad—na ddylid mynd â phobl sydd mewn trallod meddwl acíwt i le y gallan nhw gael cymorth yng nghefn car heddlu. Ac mae gennym ni dri o'r cynlluniau arbrofol hynny yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru—ym Mae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg, ac yma yng Nghaerdydd a'r Fro. Ac mae'n union er mwyn mynd i'r afael â'r mathau o amgylchiadau y mae David Melding wedi cyfeirio atyn nhw—y dylai'r bobl hynny gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn ffordd sy'n sensitif i'r trallod y maen nhw'n ei ddioddef, ac nid mewn mannau neu drwy ddulliau sy'n ychwanegu at y trallod hwnnw. A bydd angen buddsoddiad pellach ar gyfer hynny. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni'n dal i obeithio y bydd gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol cleifion mewnol Tonna yn agor i gleifion ym mis Ebrill eleni, a bydd hynny mewn amodau ffisegol sy'n bodloni safonau'r unfed ganrif ar hugain.
Prif Weinidog, rwyf i wedi codi'r mater hwn o effeithiau'r polisi cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl gan ei bod yn amlwg nad oedd y tair wythnos i lyfnhau'r gromlin yn ddim byd o'r fath. Ni fyddwn ni'n gwybod effeithiau llawn polisi'r cyfyngiadau symud o ran hunanladdiad, argyfyngau iechyd meddwl, canserau ac amseroedd aros am amser maith hyd yma. Wedi dweud hynny, mae'n ymddangos bod eich Llywodraeth yn buddsoddi yn helaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gyda £10 miliwn o gyllid ychwanegol i ymdrin ag effeithiau'r cyfyngiadau symud. A allwch chi ddweud wrth y Siambr sut y cyfrifwyd y swm hwn, os gwelwch yn dda, a sut, yn benodol, y bydd o fudd i'r rhai hynny sy'n ddigon anffodus o fod angen mynediad at wasanaethau iechyd meddwl brys? Diolch.
Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiwn. Wrth gwrs, rydym ni wedi cydnabod o'r cychwyn bod mwy nag un math o niwed sy'n dod o coronafeirws, ac mae'r effaith ar iechyd meddwl a llesiant pobl yn sicr yn un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio rhoi sylw gofalus iddo erioed. Gwn y bydd yr Aelod yn falch bod y British Medical Journal wedi adrodd yn ddiweddar ar dystiolaeth na fu cynnydd i gyfraddau hunanladdiad yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Ond rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Mandy Jones mai dyddiau cynnar yw'r rhain, ac y bydd effaith y pandemig yn parhau am fisoedd lawer, ac yn hwy na hynny, i ddod. Ond roedd o leiaf yn galonogol nad oedd yn ymddangos bod yr effeithiau gwaethaf a ofnwyd yn y dyddiau cynnar hynny wedi dod i'r amlwg.
Y buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd meddwl yn y gyllideb ddrafft yw £43 miliwn mewn gwirionedd. Daw hynny ar ben y ffaith mai iechyd meddwl yw'r llinell gyllideb unigol fwyaf yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r £43 miliwn hwnnw wneud llawer iawn, Llywydd, wrth gwrs: mae'n rhaid iddo gryfhau gwasanaethau yn y gymuned; mae'n rhaid iddo sicrhau nad yw pobl ifanc, fel y soniodd David Melding, yn mynd i leoliadau sy'n amhriodol i'w hoedran os oes angen triniaeth arnyn nhw fel cleifion mewnol; mae'n rhaid iddo wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i wella gwasanaethau i bobl â dementia a'r angen am wasanaethau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond bydd wedi cael ei gyfrifo yn y ffyrdd arferol, mewn partneriaeth â'r gwasanaeth iechyd, y trydydd sector a'r rhai sy'n gwneud cymaint i helpu i ddarparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â chyflwr iechyd meddwl.