– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 24 Chwefror 2021.
Mae dwy ddadl fer y prynhawn yma, ac mae'r cyntaf o'r rheini yn cael ei chyflwyno gan David Melding.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi rhywfaint o fy amser i Hefin David ac i Angela Burns.
Testun fy nadl fer yw adolygiad Cumberlege—gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG. Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr awdurdod a threiddgarwch yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Farwnes Cumberlege, o'r enw 'First Do No Harm'. Dyna egwyddor hynaf meddygaeth foesegol, a chredaf ei bod yn briodol inni gadw hynny mewn cof pan ystyriwn y materion sydd ger ein bron yn y ddadl hon. Er iddo gael ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU a'i fod yn canolbwyntio'n bennaf ar y GIG yn Lloegr, cymerwyd tystiolaeth yng Nghymru a'r Alban, ac yn wir, mae'n debyg fod llawer ohonom wedi bod â rhywfaint o waith achos gan dystion a roddodd dystiolaeth yng Nghymru; fe gefais i waith achos o'r fath yn sicr.
Ymchwiliodd yr adolygiad i'r hyn a ddigwyddodd mewn perthynas â dwy feddyginiaeth ac un ddyfais feddygol, sef profion beichiogrwydd hormonaidd, a waharddwyd o'r farchnad ar ddiwedd y 1970au ac y credir eu bod yn gysylltiedig â namau geni a chamesgoriad; sodiwm falproat, cyffur gwrthepileptig effeithiol, sy'n achosi camffurfiadau corfforol, awtistiaeth ac oedi datblygiadol mewn llawer o blant pan gaiff ei gymryd gan eu mamau yn ystod beichiogrwydd; a mewnblaniadau rhwyll y pelfis a ddefnyddir mewn llawdriniaethau i atgyweirio prolaps organau'r pelfis ac i reoli anymataliaeth straen wrinol y cysylltwyd eu defnydd â chymhlethdodau andwyol sy'n newid bywydau. Fodd bynnag, cydnabuwyd yn eang fod yr adolygiad yn berthnasol a bod modd ei gymhwyso i ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn gyffredinol.
Un o'r pethau y gofynnwyd i'r adolygiad ei ystyried oedd sut i gryfhau llais y claf, nad oedd yn cael ei glywed ac a oedd yn arwain at ddewisiadau a chanlyniadau gwael. Un o argymhellion canolog yr adroddiad yw sefydlu comisiynydd diogelwch cleifion. Fel y dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu,
Roedd straeon y cleifion yn ysgytwol.... Gwnaethant adrodd eu hanesion gydag urddas a huodledd, ond hefyd gyda thristwch a dicter, i dynnu sylw at themâu cyffredin a chymhellol.
A'r thema—y thema gryfaf, gellid dadlau—rwyf am ei harchwilio heddiw yw'r diffyg gwybodaeth i allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ac felly i roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.
Mae arloesi mewn gofal meddygol wedi dod â rhyddhad mawr i filiynau ac wedi achub llawer o fywydau, ond fel y dywed yr adroddiad, heb brofion cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r farchnad a goruchwyliaeth ar ôl eu cyflwyno i'r farchnad a monitro canlyniadau yn hirdymor, gall arloesi fod yn beryglus. Mae'r diffyg gwybodaeth sylfaenol yn syfrdanol. Nid yw'r GIG yn gwybod faint o fenywod sydd wedi cael llawdriniaethau rhwyll, nid yw'n gwybod faint o fenywod beichiog a gymerodd y cyffur gwrthepileptig sodiwm falproat. Fel y casgla'r adroddiad,
Yn niffyg gwybodaeth o'r fath, mae'n amhosibl gwybod faint o fenywod fyddai wedi dewis math gwahanol o driniaeth... mae'n drueni na fyddent wedi cael y wybodaeth roeddent ei hangen i wneud dewis ar sail y wybodaeth lawn.
Ac rwy'n credu bod hwnnw'n gasgliad damniol.
Yn wir, ni ellir dibynnu ar y system iechyd i nodi canlyniadau andwyol sy'n deillio o feddyginiaeth neu ddyfais benodol yn gyflym. Nid yw'r cynllun cerdyn melyn lle gall meddygon roi gwybod am adweithiau andwyol i driniaethau yn addas i'r diben. Fel y noda Cumberlege, ceir tangofnodi dybryd ac mae ein systemau cwyno yn rhy gymhleth ac yn rhy wasgaredig i ganiatáu ar gyfer canfod arwyddion yn gynnar, ac rwy'n credu bod hynny'n destun pryder mawr. Ac arweiniodd at argymhelliad 7, sy'n galw am gronfeydd data ar bob dyfais, i ganiatáu ar gyfer adnabod cleifion ac archwilio canlyniadau. Mae diffyg gwybodaeth a chronfeydd data yn gwneud y system yn anhryloyw.
Gwendid arall yw'r cyfle i wrthdaro buddiannau godi yn y proffesiwn meddygol. Mae hyn yn arbennig o bwysig, fel y noda'r adroddiad, lle mae gan feddygon gysylltiadau ariannol a chysylltiadau eraill â'r cwmnïau fferylliaeth a dyfeisiau meddygol. Ar hyn o bryd nid oes cofrestr ganolog o fuddiannau ariannol ac anariannol clinigwyr.
Arweiniodd hyn at argymhelliad 8, sy'n galw ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gynnwys rhestr o fuddiannau ariannol ac anariannol. Ac rwy'n falch bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi nodi nad yw'r trefniadau presennol i gofnodi a rheoli buddiannau yn darparu digon o dryloywder a sicrwydd i gleifion. Yn wir, dylwn nodi bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi dangos diddordeb yn y ddadl fer hon a chredaf eu bod wedi sicrhau bod nodyn briffio defnyddiol iawn ar gael i'r Aelodau ac rwy'n croesawu hynny.
Gadewch inni ddychwelyd at lais cleifion. Dyma ychydig o leisiau cleifion a ddyfynnir yn yr adroddiad:
Rwyf wedi gorfod brwydro'n gyson i gael y cymorth a'r driniaeth roeddwn eu hangen gyda'r cymhlethdodau gyda fy rhwyll. Ymddengys bod diwylliant "dibwyllo" a "gwneud esgusodion" yn rhemp.
Ac rwy'n cofio mai claf hŷn a ddywedodd hyn, mae'n debyg, ond defnyddir y term 'dibwyllo' pan fydd rhywun sydd â phŵer yn awgrymu bod y person yn colli ei gof. Rhaid bod y claf wedi mynd drwy brofiad ofnadwy. Claf arall:
mae'r person yr arferwn fod ar un adeg wedi mynd ac nid yw'n ymddangos bod neb yn gallu fy helpu. Nid oes neb yn gwrando.
Claf arall:
Byddent yn dweud wrthych nad oes dim o'i le arnoch chi ac mai dim ond menyw hysterig ydych chi.
Am beth i fod wedi'i awgrymu wrth glaf sy'n dioddef cymhlethdodau yn sgil llawdriniaeth benodol. Ac yn olaf:
Pe bawn i wedi sylweddoli goblygiadau llawn y feddyginiaeth hon, ni fyddwn byth wedi'i chymryd.
Yn achos nodedig Montgomery v Bwrdd Iechyd Lanarkshire, a gynhaliwyd yng Ngoruchaf Lys y DU, barnwyd bod angen i gydsyniad gael ei fframio gan y wybodaeth sydd ei hangen ar glaf unigol. Hawl y claf yw cael gwybod pa wybodaeth bynnag sydd angen iddynt ei gwybod ac mewn modd y gallant ei ddeall fel y gallant wneud penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â llawdriniaeth neu feddyginiaeth benodol ai peidio. Mewn geiriau eraill, mae angen cydraddoldeb gwirioneddol, partneriaeth wirioneddol yn y broses o wneud penderfyniadau rhwng cleifion a'r meddygon sy'n eu trin. Ond nid yw hyn yn golygu toreth o wybodaeth ar lu o daflenni gwybodaeth i gleifion gan arwain at ddryswch heb fawr o gefnogaeth i'w dehongli, ond yn hytrach, cymhorthion penderfynu effeithiol i gleifion. Mae cymhorthion penderfynu i gleifion yn annog cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau. Maent yn ei gwneud yn haws i gleifion a'r proffesiynau drafod opsiynau triniaeth, a gwneir hyn drwy wybodaeth a thystiolaeth glinigol, trafod manteision, risgiau ac ansicrwydd, cydnabod dewisiadau cleifion, a all fod yn eithaf dwys mewn nifer o feysydd ymarfer meddygol, cymorth i gleifion, fel y cânt eu tywys drwy'r broses o wneud penderfyniadau a chael cyfle i'w deall yn llawn, a chofnodi a gweithredu'r penderfyniadau hyn a wneir ar y cyd. Ac nid ymgynghoriad untro mohono ond yn hytrach, proses sy'n caniatáu amser i gleifion ystyried a deall, a dyna pam y mae angen cofnodi, a gwneud hynny bellach drwy ddefnyddio gwahanol dechnolegau—sain a fideo.
Hoffwn gloi yn awr drwy ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i ymdrin â'r canlynol: a fydd gan y comisiynydd diogelwch cleifion sydd bellach wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr rôl yng Nghymru, ac a fydd o bosibl yn benodiad ar gyfer Cymru a Lloegr, neu a fydd swydd debyg yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru, ac os na, pam ddim, a sut y caiff adolygiad Cumberlege yn hyn o beth ei weithredu yng Nghymru; a wnaiff adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn GIG Cymru, ac yn enwedig y defnydd o gymhorthion penderfynu i gleifion, a'u gwella a'u cymhwyso'n gyffredinol fel mater o ymarfer cyffredin; ac yn olaf, a fydd cronfeydd data'n cael eu cadw ar ddyfeisiau, fel y gallwn gael archwiliad priodol a gwerthuso canlyniadau.
Rwy'n gorffen drwy ganmol gwaith y Farwnes Cumberlege unwaith eto a hefyd drwy dalu teyrnged i'r tystion niferus o Gymru a roddodd dystiolaeth. Mae'n bryd inni weithredu ar yr adolygiad rhagorol hwn. Mae ynddo lawer o wersi inni eu dysgu yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i David Melding. Un o'r rhesymau y gofynnais am gael cyfrannu heddiw oedd er mwyn talu teyrnged i waith fy etholwr Jo Cozens, sy'n gadeirydd yr elusen, y Gymdeithas Syndrom Gwrthepileptig, neu OACS. Ers sawl blwyddyn, mae Jo wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran teuluoedd ledled y DU sydd wedi'u heffeithio gan syndromau gwrthepileptig y ffetws. Mae Jo yn gwneud hyn yn sgil profiad uniongyrchol, ar ôl cael sodiwm falproat i drin epilepsi y cafodd ddiagnosis ohono yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, ar gyngor meddyg ar y pryd, parhaodd i gymryd y feddyginiaeth hon tra'n feichiog gyda'i mab Tomas. Mae Tomas bellach yn ei arddegau ac mae wedi wynebu heriau iechyd lluosog drwy gydol ei oes, ar ôl cael diagnosis o effeithiau niwroddatblygiadol falproat y ffetws, a thrwy ei gwaith gydag OACS y darganfu Jo fod llawer o deuluoedd eraill wedi cael eu heffeithio fel hithau, wedi i famau gymryd sodiwm falproat pan oeddent yn feichiog.
Mae Jo wedi'i gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod Llywodraethau ledled y DU yn deddfu fel nad yw profiadau fel ei phrofiad hi, a theuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt, byth yn digwydd eto, a dyna pam ei bod hi eisiau gweld argymhellion adolygiad Cumberlege yn cael eu gweithredu. Byddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog, fel y dywedodd David Melding, os gall roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw ynglŷn â ble rydym arni gyda hyn yng Nghymru. Fe fydd yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu ato ynglŷn â hyn, a bod Jo wedi cyfarfod â'i swyddogion, er na ddigwyddodd hynny ers mis Medi diwethaf. Rydym yn awyddus iawn i weld cynnydd ar hyn, er budd Jo, Tomas a phawb yr effeithiwyd arnynt yn yr un modd.
Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno hyn, oherwydd mae adroddiad Cumberlege yn ddarn mor hanfodol o dystiolaeth wrth geisio symud meddygaeth i fenywod yn ei blaen. Mae gennyf ddau bwynt rwy'n awyddus iawn i'w gwneud. Un o'r pethau a ddywedodd Cumberlege yn glir iawn oedd nad yw'r system, y system fawr, yn dda am sylwi ar dueddiadau mewn ymarfer a chanlyniadau sy'n arwain at bryderon diogelwch. Gallwn edrych ar hyn, gallwn edrych ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf—nid oes ots, beth bynnag ydyw. Nawr, pe bai gennych awyren yn disgyn o'r awyr, nid ydynt yn mynd i anfon yr awyren nesaf i fyny hyd nes y byddant nid yn unig yn gwybod beth aeth o'i le, ond hefyd yn gallu sicrhau na fydd byth yn digwydd eto—mae lefelau diogelwch yn rhagorol mewn pethau fel y diwydiant awyrennau. Ond nid ydym yn cymhwyso'r un math o egwyddorion i'r hyn a wnawn yma ar lawr gwlad yn y GIG, boed yng Nghymru neu'r DU. Rhaid inni gael y math hwnnw o ymdrech i sicrhau ein bod yn cadw llygad ar arloesedd, ein bod yn ei brofi'n dda cyn ei gyflwyno i'r farchnad, ein bod yn mynd ar drywydd y canlyniadau ac yn sicrhau nad yw'n gwneud unrhyw niwed.
Y peth cyntaf yr hoffwn ei ofyn, Weinidog, yw hyn: a gawn ni ddechrau edrych ar ddatblygu system gadarn i sicrhau ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau? Rydym bob amser yn mynd i wneud camgymeriadau—mae'n digwydd—ond rhaid inni ddysgu o bob un. A fy sylw olaf yw hwn—a rhaid i mi ei ddweud eto: gogwydd o ran rhyw. Mae gogwydd o ran rhyw mor gryf wrth ddatblygu meddyginiaethau, treialu meddyginiaethau. Nid oes ond angen i chi edrych ar yr holl adroddiadau sydd wedi'u hysgrifennu amdano, a sut y dangosir gogwydd o ran rhyw mewn triniaeth gardiofasgwlaidd a rheoli syndrom coluddyn llidus, dim ond gogwydd risg hyd yn oed i ddweud, 'Fe wnawn ni adael i'r ddyfais hon gael ei chyflwyno'. Ac mae angen i ni edrych ar sut rydym yn newid y paradeim hwnnw yn yr ymchwil. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn i bob Llywodraeth, mae'n debyg—nid wyf yn anelu hyn at Lywodraeth Cymru—ond ceir gogwydd o ran rhyw mewn darpariaeth ac ymchwil feddygol, ac mae angen i ni weithio ein ffordd yn araf tuag at gydbwyso hynny. Tuedda menywod a phlant i beidio â chael yr un sylw o ran rhai o'r manylion. Nid fi sy'n ei ddweud; mae adroddiad ar ôl adroddiad a ddarllenais yn dweud hynny, a chredaf fod angen inni ei ystyried.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i David Melding, Angela Burns a Hefin David am eu cyfraniadau heddiw, am natur feddylgar y cyfraniadau hynny, a'r modd y cawsant eu rhoi ar bwnc sy'n anodd, yn peri gofid ac yn newid bywydau. Ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae Angela Burns wedi'i ddweud am y gogwydd a'r heriau sy'n ymwneud ag iechyd menywod, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ar bynciau eraill. Credaf fod gennym her arbennig gyda hanes ein GIG sy'n dal gyda ni; roedd hynny'n rhan o'r rheswm pam y sefydlais y grŵp iechyd menywod, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu materion lle mae angen gwelliant.
A chomisiynwyd yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, a adwaenir yn awr yn gyffredinol fel adroddiad Cumberlege, ac a gyhoeddwyd, fel y dywedodd David Melding, ym mis Gorffennaf y llynedd, sef 'First Do No Harm', gan yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU, ond cymerodd yr adolygiad hwnnw dystiolaeth o bob rhan o'r DU, ac mae llawer o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud yn berthnasol yma yng Nghymru.
O ran y tri mater, y profion beichiogrwydd megis Primodos, effaith sodiwm falproat yn enwedig, fel y dywedwyd, ar blentyn cyn ei eni yn ystod beichiogrwydd, a dyfeisiau meddygol oedd y materion penodol a arweiniodd at yr adroddiad, ond mae llawer i'w ddysgu'n fwy eang yma, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod David Melding wedi canolbwyntio ar gydsyniad ar sail gwybodaeth.
Roedd ffocws yr adolygiad yn edrych yn fwy cyffredinol ar ddiogelwch cleifion er mwyn adeiladu system sy'n gwrando, yn clywed ac yn gweithredu gyda chyflymder, tosturi a chymesuredd. Dyna lawer o'r hyn a ddywedwn am ein GIG ar ei orau—pa mor gyflym y caiff triniaethau newydd eu cyflwyno, tosturi ein staff a her dull sy'n seiliedig ar risg o ddarparu gofal a thriniaeth, ac rydym yn byw drwy lawer o hynny yn awr. Ond pan fyddwch yn cael hynny'n anghywir, rydym hefyd yn gwybod y gall yr effaith fod yn sylweddol i'r sawl sy'n cael triniaeth.
Nododd yr adroddiad gydsyniad fel thema gyffredinol, a nododd y cyfleoedd a gollwyd lle gellid bod wedi atal niwed y gellid ei osgoi, ac y dylid mynd i'r afael ag ef. Ac mae'n nodi y dylai cleifion gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar ffurf y gallant ei deall i wneud penderfyniadau, gan gynnwys ar lawdriniaethau, triniaethau, yr opsiynau sydd ar gael, yn cynnwys dim triniaeth, y risgiau yn y tymor hir a'r tymor byr o ganlyniadau andwyol, a'r triniaethau adferol amgen sydd ar gael. Fel y nododd David Melding, mae'n cydnabod yr angen am daflenni gwybodaeth clir, cyson ac ystyrlon er mwyn osgoi dryswch, a'r angen am un cymorth penderfynu i gleifion ar gyfer pob llawdriniaeth lawfeddygol neu ymyrraeth feddygol. Roedd hefyd yn argymell mwy o ddefnydd o ffynonellau gwybodaeth nad ydynt yn rhai ysgrifenedig.
Er hynny, nid yw'r gofyniad i glinigwyr ofyn am gydsyniad ar sail gwybodaeth neu gydsyniad ystyrlon yn gyflym yn deillio o adroddiad Cumberlege. Mae iddo hanes hirsefydlog yn ein GIG, gan gynnwys yma yng Nghymru. Cyhoeddodd llywodraeth flaenorol Cymru ganllawiau i glinigwyr yn 2008 ar y pwnc hwn. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol at glinigwyr eto ar y mater yn 2014, pan gafwyd yr arwyddion cyntaf fod rhai a oedd wedi cael mewnblaniadau rhwyll yn profi cymhlethdodau.
Atgyfnerthwyd canllawiau Llywodraeth Cymru i adlewyrchu dyfarniad achos Montgomery v Swydd Lanarkshire yn 2015, achos y cyfeiriodd David Melding ato, ac unwaith eto symudodd hynny ffocws cydsyniad tuag at angen penodol y claf. Nawr, aeth hwnnw drwy'r pwyntiau fod archwiliadau a thriniaeth yn cael eu rhannu rhwng clinigwyr a chleifion, a chroesawodd yr egwyddor o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf a chydgynhyrchu—yr un math o bethau a welwn yn ein dull gofal iechyd darbodus ac yn ganolog yn ein cynllun, 'Cymru Iachach'. Rydym wedi bod â model o bolisi cydsyniad ar sail gwybodaeth ers 2017, wedi'i gefnogi gan gylchlythyr iechyd yng Nghymru, a chanllawiau, a oedd yn ymgorffori dyfarniad Montgomery, ac a gâi eu cefnogi gan glinigwyr ym mhob un o'n byrddau iechyd.
Mae cydwasanaethau cronfa risg GIG Cymru yn cydlynu grŵp cydsyniad Cymru gyfan i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dull unedig ar draws yr holl fyrddau iechyd ar faterion cydsynio. Mae'r grŵp hwnnw wedi cynhyrchu pecynnau hyfforddiant ac addysg wedi'u hadnewyddu ar gyfer clinigwyr ledled Cymru, gan gynnwys system e-ddysgu, cyfres o weminarau, a chyflwyniadau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i sicrhau bod clinigwyr yn cael yr hyfforddiant diweddaraf ar faterion cyfreithiol ac arferion cydsyniad da. Galwodd adolygiad Cumberlege yr ystod eang a nifer y taflenni gwybodaeth i gleifion yn 'ddryslyd' ac yn 'ffynhonnell dryswch mawr'. Unwaith eto, tynnodd David Melding sylw at hyn yn ei gyfraniad. Er mwyn osgoi hyn, mae cronfa risg Cymru wedi mabwysiadu dull mwy safonol ac wedi comisiynu ymgyrch glir ar gyfer Cymru gyfan, wedi'i hawdurdodi'n broffesiynol, a'i hadolygu'n glinigol, a ddylai gefnogi taflenni gwybodaeth i gleifion, ac mae cronfa risg Cymru wedi comisiynu rhaglen beilot o blatfformau cydsyniad digidol yn ddiweddar o fewn nifer o sefydliadau GIG Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, ac rwy'n disgwyl y bydd, fe fydd yn arwain at gyflwyno ymarfer caffael i Gymru gyfan i'w gyflwyno i holl fyrddau iechyd Cymru, ac nid mater o ddewis fydd hynny. Gwneir penderfyniad, a bydd hwnnw'n blatfform cenedlaethol y bydd yn rhaid i bawb ei ddefnyddio.
Dylai'r platfform newydd roi mynediad at wybodaeth i gleifion sy'n dioddef gwahanol fathau o gydafiachedd a fydd yn cwmpasu eu gofynion triniaeth unigol, er mwyn symud oddi wrth y ffynonellau gwybodaeth generig a nodwyd ac a feirniadwyd gan adroddiad Cumberlege. Dylai'r platfform newydd gefnogi newid o gydsyniad ar sail gwybodaeth i ddull o wneud penderfyniadau ar y cyd, lle mae cleifion yn gyfranogwyr gweithredol ac nid yn dderbynwyr yn unig: cyfranogwyr gweithredol gyda chlinigwyr yn y broses o benderfynu ar eu triniaeth yn y dyfodol, yn seiliedig ar fynediad at gyngor a gwybodaeth berthnasol, a chyswllt â phobl sydd wedi profi llawdriniaethau clinigol tebyg o bosibl. A dyma'r hyn y mae Cumberlege yn ei alw'n bartneriaeth wirioneddol gydradd. Yn olaf, mae'r gronfa risg yn bwriadu cynnal adolygiad cenedlaethol o'r trefniadau ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth, i sefydlu eu heffeithiolrwydd, nodi meysydd i'w datblygu, a phennu cyfeiriad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad wedi'i ohirio gan y pandemig, ond bydd yn dechrau ym mis Ebrill eleni a disgwylir iddo adrodd i'r Llywodraeth newydd.
Rwyf am orffen drwy ymdrin â rhai o'r cwestiynau a'r pwyntiau a godwyd, ac ar wella diogelwch cleifion a gwella canlyniadau cleifion, ar ddyfeisiau, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi cydsynio i system ledled y DU i gyflwyno cofrestr dyfeisiau. Dylai hynny ganiatáu ar gyfer olrhain yn ôl i ddeall diogelwch dyfeisiau'n gliriach, a chredaf y bydd yn gam sylweddol ymlaen o ran diogelwch cleifion, a deall canlyniadau cleifion ar gyfer gwahanol ddyfeisiau. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, a gallwch ddisgwyl ymateb llawnach yn y tymor hwn cyn i'r Senedd ddod i ben, i ddatblygu sut y mae modd i welliant cyfatebol i'r hyn a ragwelwyd gan y comisiynydd diogelwch cleifion a argymhellwyd yn Lloegr gael ei wneud yma yng Nghymru. Mae ein system wedi'i sefydlu mewn ffordd wahanol, ac felly bydd ein hateb ychydig yn wahanol ond mae'r nod yr un fath: sut y mae gwella diogelwch cleifion yn ymarferol a chael ffordd fwy gweladwy o sicrhau'r diogelwch hwnnw?
Mae fy sylw olaf yn adlewyrchu'r tristwch a'r dicter i bobl sydd wedi cael eu siomi: y bobl na wrandawyd arnynt, y bobl a gafodd eu niweidio, a'r amser y mae wedi'i gymryd i ymateb. Nid yw'r ymateb hwnnw wedi'i gwblhau eto, ond rwy'n cadarnhau y byddwn yn gwneud mwy yn y tymor hwn, a bydd gan bwy bynnag a fydd yn y Llywodraeth nesaf fwy i'w wneud eto â'r newidiadau y bwriadwn eu gwneud i sicrhau eu bod yn cyflawni'r gwelliant nid yn unig o ran cydsyniad ond o ran canlyniadau cleifion a diogelwch cleifion.
Diolch yn fawr iawn.