– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 24 Chwefror 2021.
Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol Aelod ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Ac rwy'n falch o ddweud y bydd y ddadl hon yn cael ei dehongli'n fyw mewn BSL i'r rhai sy'n gwylio Senedd.tv heddiw. A galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark.
Cynnig NDM7478 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.
Diolch. Yn seiliedig ar ystadegau swyddogol, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn credu bod 7,200 o bobl yng Nghymru yn defnyddio BSL, a bod 4,000 ohonynt yn fyddar. Ym mis Hydref 2018, cafwyd galwadau yng nghynhadledd 'Clust i wrando' gogledd Cymru 2018 am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, yn sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol gan gynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu eu hiaith gyntaf. Er bod Deddf Cymru 2017 yn cadw cyfle cyfartal yn ôl i Lywodraeth y DU, mae cyfreithwyr y Senedd wedi cadarnhau y byddai Bil BSL (Cymru) yn cydymffurfio pe bai'n ymwneud â'r eithriadau a restrir ynddi.
Pasiwyd Deddf BSL (Yr Alban) ar 17 Rhagfyr 2015, gan nodi cyfnod newydd yn ymgyrch y gymuned fyddar i gydnabod BSL yn gyfreithiol ledled y DU. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi ailddechrau gwaith deddfwriaethol rhagarweiniol yn ddiweddar ar ieithoedd arwyddion Prydain ac Iwerddon. Mae fy Mil BSL arfaethedig i Gymru yn ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl drwm eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gyda chamau gweithredu yn cynnwys sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthyf fod fy Mil arfaethedig yn bwysig iawn i'w haelodau byddar a'u cefnogwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf BSL yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Er eu bod wedi cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu siarter BSL newydd i Gymru, maent yn dweud wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig, rwy'n dyfynnu, 'yn gam enfawr ymlaen, ac os yw'n unrhyw beth tebyg i'r Bil BSL yn yr Alban, fe fydd yn cael cefnogaeth unfrydol a llwyr yr holl bleidiau.' 'Mae'n fuddugoliaeth ym mhob ffordd', dywedant. Roeddent yn ychwanegu eu gobaith y bydd y Senedd yn croesawu'r cynnig hwn yn wresog ac yn argyhoeddi Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgor trawsbleidiol, gan fod dod at ei gilydd a chydweithio yn y ffordd hon yn ffactor hollbwysig yn llwyddiant y Bil BSL yn yr Alban.
Byddai fy Mil arfaethedig yn gwneud darpariaeth i annog defnydd o BSL yng Nghymru ac yn gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Yn 2019, cyflwynodd Deffo!, fforwm ieuenctid byddar Cymru, ddeiseb i'r Senedd i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Maent yn datgan eu siom nad oes dim wedi digwydd ers hynny ac mai un o'r pethau pwysicaf yw bod BSL yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac yn parhau drwy'r holl ddatblygiad addysgol. Ar gyngor y gymdeithas genedlaethol i blant byddar—neu NDCS—Cymru, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp cynghori ar fynediad at y cwricwlwm newydd i ddefnyddwyr BSL a datblygu canllawiau, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd adolygiad annibynnol o'r cyfleoedd i deuluoedd plant ifanc byddar ddysgu iaith arwyddion, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cadarnhau barn yr NDCS fod y cyfleoedd yn llawer rhy gyfyngedig, a bod llawer o deuluoedd plant byddar am ddysgu iaith arwyddion i'w cynorthwyo i gyfathrebu â'u plentyn byddar, ond eu bod yn teimlo na allant wneud hynny. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) yn dweud bod gwendidau yng nghyfrifiad 2011 wedi golygu na chafodd llawer o bobl sy'n defnyddio BSL mo'u cyfrif. Maent yn dweud bod profiad o'r Alban wedi dangos bod eu grŵp cynghori cenedlaethol wedi ei chael hi'n anodd cael awdurdodau lleol i ymgysylltu â'u cynlluniau BSL a'u datblygu, gan awgrymu bod yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru yn y dyfodol osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chael ei gorfodi'n ddigonol. Fel y dywedant, ni fyddai Bil BSL yn fodd i gyrraedd y nod ynddo'i hun, ond byddai'n gweithredu fel llwyfan i sicrhau gwell gwasanaethau i'r gymuned fyddar a phobl drwm eu clyw, ac yn gwella'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd, fel y gall pobl chwarae rhan lawn mewn pethau fel cyflogaeth ac addysg. Fel y dywedant hefyd, dylai'r Bil gael ei ystyried yn ddeddfwriaeth alluogi, er mwyn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar wella sgiliau BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â chymorth cyfathrebu, fel nad yw'r bobl sydd angen help ychwanegol i oresgyn y rhwystrau a wynebir gan bobl F/fyddar a thrwm eu clyw yn gorfod ysgwyddo'r costau, pan fo cost dosbarthiadau BSL mor uchel.
Mae staff RNID am weld gwell mynediad at addysg a dysgu gydol oes, cyflogaeth, gwirfoddoli, y cyfryngau a newyddion a'r celfyddydau, diwylliant a hamdden. Mae'r Senedd o'r farn y byddai Bil ar Iaith Arwyddion Prydain yn debyg i Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac mae geiriad fy nghynnig deddfwriaethol wedi'i ddrafftio gyda hwy i gyflawni hyn. Yr unig broblem bosibl fydd p'un a fyddai'r Bil hwn yn dod o dan gyfle cyfartal a gadwyd yn ôl o dan baragraff 187, Atodlen 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ym mis Ionawr 2004, cydnabu Llywodraeth Cymru BSL fel iaith yn ei hawl ei hun. Mae hepgor iaith yn y diffiniad o gyfle cyfartal a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn awgrymu na fyddai cyfle cyfartal fel mater a gadwyd yn ôl yn berthnasol. Mae'r Alban hefyd yn ddarostyngedig i gyfle cyfartal fel mater a gadwyd yn ôl, ac mae Deddf BSL yr Alban yn darparu cynsail da i Gymru, lle nad yw gwasanaethau cyfreithiol y Senedd yn ymwybodol o unrhyw her gyfreithiol i'r Ddeddf gan y llysoedd. Fel y dywedodd etholwr B/byddar wrthyf, 'Mae'r Bil BSL hwn yn bwysig. Mae BSL yn iaith yn ei hawl ei hun, gyda'i gramadeg a'i geirfa ei hun, sy'n galluogi llawer o'n dinasyddion byddar, byddar a dall, a thrwm eu clyw i ddysgu, gweithio, bod yn greadigol, byw bywyd i'r eithaf a gwneud eu cyfraniad i'n diwylliant a'n heconomi.'
Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi fy nghynnig yn unol â hynny. Diolch.
Yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi bod fy chwaer yn hollol fyddar ac yn defnyddio iaith arwyddion? Byddaf yn cefnogi cynnig deddfwriaethol yr Aelod heddiw, ond rydym mor agos at ddiddymu'r Senedd fel ei fod yn annhebygol iawn o lwyddo i ddod yn gyfraith cyn i ni ddiddymu. Ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â'i gefnogi. Yn 2018, cynhyrchodd y Pwyllgor Deisebau bedwar argymhelliad, ac roeddwn yn cytuno â phob un ohonynt. Os ydych chi eisiau gwybod sut beth yw bod yn fyddar, rhowch y teledu ymlaen, gwyliwch ddrama a diffodd y sain, oherwydd dyna'r bywyd y maent yn ei fyw. Dyna sut beth yw gwylio teledu i bobl sy'n fyddar.
Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer iawn o bobl fyddar. Oherwydd mae'n rhaid i chi gofio bod gennym dair iaith gyntaf yng Nghymru, ac mae Iaith Arwyddion Prydain yn un ohonynt. A chyn i rywun ddweud, 'Beth am iaith arwyddion Cymraeg?', oherwydd y ffordd y mae iaith arwyddion yn bodoli, mae'n llawer mwy tebyg i Japanaeg a Tsieinëeg ac ieithoedd eraill sy'n seiliedig ar luniau ac arwyddion, yn hytrach na geirfa.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg plant a phobl ifanc fyddar. Mae angen i bobl fyddar gael eu haddysgu drwy iaith arwyddion, oherwydd dyna maent yn ei ddeall. Credwn—a dyma a ddywedodd y Pwyllgor Deisebau—y byddai siarter wedi'i seilio ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio a chefnogi adnoddau, gyda fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol i sicrhau trefniadau cyson ledled Cymru—nid yw'r ddarpariaeth yn gyson; mae rhai ardaloedd yn well nag eraill—a phwysigrwydd iaith arwyddion i gyfleu gwybodaeth. Croesawodd y Pwyllgor Deisebau y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei hystyried yn y cwricwlwm newydd. Mae angen iddi fod yn rhan o'r cwricwlwm, nid yn unig i blant byddar, ond i blant nad ydynt yn fyddar, fel y gallant siarad a chyfathrebu â phlant sy'n fyddar.
Gellir dysgu cryn dipyn o iaith arwyddion sylfaenol yn gymharol gyflym, fel y gellir dysgu llawer o'r rhan fwyaf o ieithoedd yn gyflym iawn. Mae'n mynd yn llawer anos gydag amser, ond mae'n debyg y byddai dros 50 neu 60 o arwyddion yn mynd â chi'n eithaf pell. Felly, mae'n bwysig iawn. Ac wrth ddweud hynny, dylem gael TGAU mewn iaith arwyddion. Nid yw hynny i'w weld yn unman—'Y rheswm yw nad oes llawer o ymgeiswyr na darpar ymgeiswyr.' Rwyf wedi edrych drwy rai pynciau y mae CBAC yn eu cefnogi. Mae gan nifer ohonynt dan 100 o bobl yn eu hastudio bob blwyddyn. Felly, nid yw hynny'n esgus. Mae hyn yn galw, ac rwy'n pwyso'n galed am hyn, am rywun i ymgymryd â hyn a dangos arweiniad ac uchelgais i'w wneud ar ran y gymuned fyddar yng Nghymru.
Fan lleiaf, mae angen inni gyflwyno safon ofynnol o gymhwyster BSL ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc fyddar. Nid oes safon o'r fath ar gael. Gallwn i weithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgol gyda phlant byddar oherwydd fy mod yn gwybod ychydig bach o iaith arwyddion. Nid wyf yn meddwl y byddwn yn addas. Rwy'n siŵr nad ydych chi'n meddwl y byddwn i'n addas chwaith.
Yn olaf, rydym wedi cael deisebau, rydym wedi cael dadleuon, o'r blaen, ond yn anffodus, deuthum i'r casgliad mai'r unig ffordd y gwelwn weithredu yw drwy ddeddfwriaeth. Felly, byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn, er fy mod yn amheus y gallwn ei wneud cyn inni dorri ym mis Mawrth.
Dwi'n falch iawn o allu cefnogi cynnig Mark Isherwood, sydd yn gofyn inni nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
Nawr, dros y blynyddoedd, fel meddyg teulu, ac, yn y blynyddoedd diwethaf hyn, fel cadeirydd y grŵp amlbleidiol ar faterion byddardod, dwi'n ymwybodol o'r llu o heriau sy'n wynebu pobl fyddar, ynghyd â'r ystod o wahanol atebion i'r heriau hynny, ac mae Mike Hedges wedi sôn yn dda iawn am hynny jest rŵan. Mae iaith arwyddion Prydain yn un o'r atebion yma.
Nawr, mewn byd delfrydol, byddai'r mwyafrif o'n pobl, yn naturiol, yn parchu hawliau unrhyw leiafrif, gan gyfrif pawb, yn naturiol, yn gyfartal. Ond, fel y gwyddom, nid yw hynny'n digwydd yn aml, gyda disgwyl y bydd y lleiafrif yn cydymffurfio efo blaenoriaethau'r mwyafrif am bob math o resymau. Felly, rhaid diogelu hawliau'r lleiafrif drwy gyfraith. Ni allwn ddibynnu ar ewyllys da'r mwyafrif. Cyfraith sydd yn galluogi newid agweddau, fel mae Mike newydd ddweud. Rydym ni wedi gweld hyn mewn sawl maes eisoes. Ac, yn y cyd-destun ieithyddol, rydym ni wedi gweld deddfu ym maes yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau hawliau a gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith honno yng Nghymru. Wel, felly'n union, buaswn i'n dadlau, ydy'r angen efo Iaith Arwyddion Prydain. Rhaid cael deddf. Mae Mark Isherwood eisoes wedi amlinellu'r achos. Mae yna angen, fel mae sawl un o'm hetholwyr i wedi dweud wrthyf i yn y dyddiau diwethaf yma, ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod y ddadl yma yn digwydd heddiw.
Nid yw Bil neu Ddeddf yn mynd i drawsnewid pethau dros nos, yn amlwg, ond mae yn fodd i ddangos parch a rhoi hygrededd i safbwyntiau dilys ynglŷn â'r angen dybryd i ddatblygu mwy o hyfforddiant, mwy o gyfleon gwaith, gwell cyfathrebu ac, yn gyffredinol, cyfoethogi bodolaeth unigolyn byddar yn ein gwlad. Er taw iaith arwyddion Prydain ydy unig iaith nifer o bobl fyddar Cymru, nid oes statws cyfreithiol iddi. Cefnogwch y cynnig yma heddiw i newid hynny. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno cynnig deddfwriaethol a fyddai'n ein helpu i greu Cymru well. Mae'n ffaith drist, fodd bynnag, fod y gymuned BSL yn parhau i wynebu heriau o'r fath, hyd yn oed ar ôl y ddeiseb a gyflwynwyd gan Deffo!, a oedd yn galw ar y pryd ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL i wella ansawdd bywyd pobl F/fyddar o bob oed. Nid yw ein gwlad wedi cyflawni ac rwy'n cytuno'n llwyr â chyflwyno'r gofyniad i gyrff cyhoeddus gydgynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth, hyfforddiant a gwell mynediad at wasanaethau rheng flaen.
Fel Aelodau o'r Senedd, rydym yn cynrychioli trigolion sy'n defnyddio BSL, felly roeddwn yn meddwl ei bod yn hanfodol fod tîm fy swyddfa a minnau'n ymdrechu i ddysgu. Dylai hyn fod yn wir ar draws cyrff rheng flaen sy'n ymwneud â'r cyhoedd yng Nghymru, fel bod gwasanaethau o leiaf yn ceisio bod yn hygyrch i'r oddeutu 7,500 o bobl sydd nid yn unig yn defnyddio BSL, ond sy'n dibynnu arni yng Nghymru. Rhaid inni rymuso'r gymuned hon. Nawr mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael Llywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar ganfyddiadau Comisiynydd Plant Cymru fod diffyg cefnogaeth amlwg i sicrhau y gall aelodau o'r teulu ddefnyddio BSL. Gyda diffyg sgiliau cyfathrebu, mae hyn, felly, yn gosod rhwystr diangen ac annheg rhwng defnyddwyr BSL a'u teuluoedd.
Nawr, rhaid i Lywodraeth sy'n mynd i'r afael â'r ffaith ofnadwy mai dim ond hanner yr holl gyrsiau BSL i oedolion a gafodd eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, rhaid i hynny newid; ymrwymiad i fynd i'r afael â'r canfyddiad gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar nad yw'r holl adnoddau dysgu ar-lein yn hygyrch, er ei bod yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod darpariaethau ar gael o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; a deddfwriaeth sy'n helpu i fynd i'r afael â'r ffaith annerbyniol bod lefelau'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn amrywio, ni allaf weld unrhyw ffordd well o gyflawni hyn na thrwy'r Bil arfaethedig hwn a sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL. Yn wir, gallem fynd mor bell â chefnogi awgrym yr Athro Graham Turner o Senedd sy'n arwyddo, i hybu ymgysylltiad a sicrhau newidiadau cadarnhaol ledled Cymru. Mae angen inni weld cynnydd, felly rwy'n gobeithio y byddai'r Bil hefyd yn galw'n benodol am gyhoeddi adolygiadau perfformiad BSL.
Rwy'n ategu'r holl sylwadau a wnaed gan siaradwyr blaenorol heddiw. Rwy'n falch o bleidleisio o blaid cynnydd a'r cynnig penodol hwn, ac rwy'n gofyn i fy holl gyd-Aelodau yn y Senedd wneud yr un peth. Diolch.
Fel y mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthym yn eu llythyr lobïo, mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gyd wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Iaith Arwyddion Prydain yn eu maniffestos etholiad cyffredinol, felly gobeithio y bydd y cynigion hyn yn cael cefnogaeth lawn heddiw. Fel Janet, dysgais rywfaint o Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf eisoes wedi anghofio cymaint, ond mae gwylio'r arwyddo yng nghynadleddau COVID Llywodraeth Cymru i'r wasg yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig ydyw ac mae hefyd yn gwneud i mi sylwi ar ei habsenoldeb yn sesiynau briffio'r DU ac rwy'n credu ei bod hi'n werth i mi dynnu sylw at hynny, fel Ceidwadwr.
Fel yr awgrymais yn fy nadl fer ar ieithoedd tramor modern ychydig wythnosau'n ôl, mae defnyddio dewis iaith neu iaith angenrheidiol person arall yn mynd ymhellach o lawer na chyfnewid gwybodaeth syml; mae'n gwneud i chi ofyn cwestiynau am eraill a chwestiynau amdanoch eich hun. Fel y dywed Mike, nid yw hynny'n wahanol yn achos Iaith Arwyddion Prydain ychwaith. Ac mae'n rhywbeth y mae'r cwricwlwm newydd yn ei groesawu, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd athrawon yn ei gael yn ddigon cyffrous i fod eisiau ei addysgu, oherwydd mae'n rhywbeth llawer mwy nag y mae pawb ohonom yn ei ddisgwyl efallai. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid iaith yn unig yw BSL, mae'n borth i ddysgu, yn llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth fyddar a'r modd y mae pobl fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed, ac mae'n siŵr y dylai hynny fod o ddiddordeb i bob un ohonom. Os yw ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ymwneud o ddifrif â'r unfed ganrif ar hugain, yn sicr dylai ymwybyddiaeth o fyddardod gael ei gynnwys ym mhob cynllun newydd.
Os yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon awyddus i edrych ar yr Alban am ysbrydoliaeth ar gyfer isafswm pris alcohol a'r cwricwlwm newydd, rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth yma. Mae'r Ddeddf y mae Mark eisoes wedi'i chrybwyll wedi arwain at welliannau cadarnhaol yn y gwasanaethau a ddarperir i ddefnyddwyr BSL yn yr Alban, gyda'r Ddeddf yn uwchraddio BSL, fel y clywsom, o fod yn iaith leiafrifol i fod yn iaith yn ei hawl ei hun. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol yw bod gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau talu sylw. Mae Cyngor Dinas Glasgow yn creu cyfle secondiad i ddefnyddiwr BSL byddar o sefydliad arall gynorthwyo gyda'u gwaith BSL. Mae gan Gyngor Dinas Dundee berson byddar fel prentis—dechrau rhywbeth gwirioneddol gyffrous. Mae Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban wedi creu rolau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer pobl fyddar. Ac mae 20 o golegau a phrifysgolion eisoes wedi datblygu'n dda o ran hygyrchedd i'w gwefannau, eu prosesau ymgeisio a'u gweithgareddau myfyrwyr, yn ogystal â darparu hyfforddiant BSL i staff a myfyrwyr, a gwelwyd gwelliannau yn y prifysgolion a'r colegau eraill o ran darparu dehongli hefyd. Mae GIG yr Alban, byrddau iechyd yr Alban, wedi gwneud llawer o waith yn helpu i weithredu'r Ddeddf, er eu bod yn dal i gwyno am ddiffyg cynrychiolaeth BSL fyddar ac maent yn ceisio unioni hynny.
Felly, mae'n gwbl briodol fod rhai heriau'n parhau; nid yw deddfwriaeth yn datrys popeth. Mae'r cynghorau gwledig yn yr Alban yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddehonglwyr BSL, er enghraifft. Ond mae'r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth a grymuso BSL, yn ogystal â chydweithredu ar draws y sector cyhoeddus, yn rhywbeth y gall deddfwriaeth ei ddatrys, ac mae hynny'n arwain yn ehangach wedyn, fel magnet, os hoffwch, at wneud mwy i rymuso pobl fyddar drwy gyflogaeth. Felly, nid yw'n berffaith, ond maent o leiaf wedi dechrau yn yr Alban, felly mae angen i ni wneud hynny hefyd. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol pwysig hwn gan Aelod ac am gyfraniadau ysbrydoledig a phwysig gan Aelodau ar draws y Siambr i'r ddadl y prynhawn yma? Hefyd, hoffwn ddweud pa mor bwysig yw holl ddibenion Bil o'r fath a gyflwynwyd gennych heddiw yn eich cynnig, Mark Isherwood, ac rwyf am ymateb i'r rheini i gyd, yn ogystal â nodi eich cynnig wrth gwrs.
Rwy'n falch iawn o ddweud mai fi oedd y Gweinidog yn ôl yn 2004, credwch neu beidio, y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a alluogodd ac a gefnogodd safbwynt Llywodraeth Cymru y byddem yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun. Roedd hynny yn ôl yn 2004 a bydd rhai o'r Aelodau, a oedd yma ar y pryd, yn cofio hynny. A dweud y gwir, hoffwn dalu teyrnged i chi, Ann Jones AS, gan eich bod chi gyda chyn gyd-Aelod, Karen Sinclair, yn weithgar iawn bryd hynny yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymateb. Roedd hynny yn 2004—amser maith yn ôl—a bryd hynny roeddem yn torri tir newydd, ac rwyf bob amser yn cofio Karen Sinclair, fel y gwnaethoch fy atgoffa y bore yma, Ann, yn siarad, fel y byddem yn ei wneud ar lawr y Siambr, a rhywun yno'n arwyddo ar yr achlysur hwnnw yn 2004. Felly, dyna ddim ond un o'r pethau rydych yn eu gadael ar ôl o'ch cyfnod yma yn y Senedd hon, Ann Jones.
Ond roedd yn bwysig gwneud y datganiad hwnnw'n ôl bryd hynny yn 2004, ac ers hynny rydym wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwys yng Nghymru, ac wedi sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth, y polisïau a'r rhaglenni ledled Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Rwy'n croesawu'n fawr fod gennym arwyddwr yma heddiw. Hefyd, diolch, Suzy Davies, am gydnabod bod ymwybyddiaeth yn cael ei chodi mewn gwirionedd drwy gael dehonglwr BSL yng nghynhadleddau i'r wasg COVID-19 Llywodraeth Cymru. Yn wir, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud hyn, ac mae'n gwneud datganiad clir, ond mae'n sicrhau bod yr iaith yn hygyrch.
Wrth gwrs, gwyddom fod angen gwneud mwy. Rydym wedi bod yn archwilio opsiynau i ddatblygu siarter BSL genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac i ddarparu adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar a'u teuluoedd, ac mae hynny wedi cael ei gyfleu'n gryf iawn yn y ddadl ac yng nghynnig Mark Isherwood. Yn ddiweddar, cytunais ar gyllid i Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain gynnal archwiliad o'n polisïau a'n darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru. Mae'r archwiliad yn hanfodol i ddangos i ble rydym yn mynd, ble mae'r bylchau a beth sydd angen i ni ei wneud. Mae'r gwaith hwnnw newydd ddechrau. Daw i ben ym mis Gorffennaf eleni; bydd yn arwain at adroddiad; bydd yn asesu polisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru, a daw argymhellion o hynny i lywio cynllun gweithredu a chynigion ar gyfer ymgysylltu'n barhaus â'r gymuned fyddar. Er bod y cynnig ar gyfer y Bil BSL, fel y dywedais, yn cael ei nodi a'i gydnabod yn briodol, mae angen i ni adolygu hyn ar y cam hwnnw, pan fydd archwiliad ac argymhellion Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar wasanaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru wedi'u cwblhau.
Yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi mecanwaith da iawn ar waith lle clywir safbwyntiau ein rhanddeiliaid. Mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl a gadeirir gennyf yn cynnwys aelodau o ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Cyngor Cymru i Bobl Fyddar a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar. Mae'r fforwm yn rhoi cyfle i'r holl bartneriaid gynghori a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru ar y materion allweddol sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru, sy'n gynyddol bwysig yn ystod COVID-19, ac mae'r fforwm wedi cyfarfod yn aml, gan sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed.
Fis Mehefin diwethaf, fe wnaethom sefydlu'r grŵp cyfathrebu hygyrch i oresgyn rhwystrau a gwella mynediad at wybodaeth yn ystod y pandemig COVID-19. Mae canlyniad gwaith y grŵp yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Ceir ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru gyda hyn i ddarparu mwy o wybodaeth mewn nifer o fformatau cyfathrebu, gan gynnwys BSL.
Fel rhan o broses archwilio BSL, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn trefnu nifer o ddigwyddiadau gyda'r gymuned fyddar yng Nghymru i sicrhau bod pobl fyddar yn cael cyfle i fynegi barn a rhannu eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn sicrhau bod cynifer o bobl fyddar â phosibl yn cymryd rhan yn y camau cynllunio a gweithredu fel rhan o'n gwerthoedd cydgynhyrchu, a gwn y bydd Mark Isherwood yn croesawu hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ganllawiau anstatudol BSL y Cwricwlwm i Gymru. Fel gydag agweddau eraill ar y Cwricwlwm i Gymru, datblygwyd y canllawiau drafft hyn drwy broses o gydadeiladu. Caiff y canllawiau eu mireinio i adlewyrchu adborth o'r ymgynghoriad; fe'i cyhoeddir yn hydref 2021 fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Fel y gwyddom, wrth gwrs, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno o 2022 ymlaen.
Hefyd, comisiynwyd y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan swyddogion yn ddiweddar i gynnal digwyddiad bord gron ym mis Mawrth 2021 i ymgysylltu â'r gymuned fyddar a rhanddeiliaid ehangach ar argymhellion yr adolygiad annibynnol ar gyfer y ddarpariaeth BSL i oedolion yng Nghymru, ac mae'r annibyniaeth honno'n hollbwysig er mwyn inni gael hyn yn iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y galw am BSL, yn ystyried sut y cyflwynir y ddarpariaeth ar hyn o bryd, pa welliannau y gellid eu gwneud, a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a mynediad. Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ystyriaethau polisi pellach ar gyfer darpariaeth BSL i oedolion yng Nghymru.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym yr archwiliad BSL a digwyddiad ymgysylltu â'r ymgynghoriad ar BSL, sy'n sail gref i ystyried ein gwasanaethau cymorth BSL yng Nghymru, sut y gellid eu gwella a sut y gellir gwella sgiliau ledled Cymru. Pan fydd y broses archwilio ar ben, rhagwelwn y byddwn yn ymuno â siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fel sefydliad, bydd hyn yn ein galluogi i arwain drwy esiampl a hyrwyddo arferion da, ac i ystyried y cyfleoedd sydd gennym, fel rydych wedi'u cyflwyno heddiw, Mark Isherwood.
Hoffwn ddweud i orffen, yr wythnos nesaf, wrth gwrs, wrth inni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, y bydd côr BSL yn arddangos Cymru i'r byd. Gobeithio y gwnewch chi nodi hynny wrth inni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Diolch yn fawr.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, felly gofynnaf i Mark Isherwood ymateb yn fyr i'r ddadl. Mark.
Diolch. Wel, diolch i Mike Hedges am ei sylwadau: 'Nid yw agosrwydd yr etholiad yn rheswm dros beidio â chefnogi'r cynnig hwn; mae arnom angen arweiniad i wneud rhywbeth ar ran y gymuned fyddar yng Nghymru.' Dai Lloyd: 'Mae angen y ddeddfwriaeth hon; rhaid inni ddiogelu hawliau lleiafrif drwy'r gyfraith.' Dywed Janet Finch-Saunders, 'Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i greu Cymru well, gan wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl sy'n dibynnu ar BSL yng Nghymru.' Dywed Suzy Davies nad iaith yn unig yw BSL, ond ymdeimlad o hunaniaeth, a dylid darparu ymwybyddiaeth o fyddardod ym mhob ysgol. Fe'n hatgoffwyd gan y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, fel y dywedais yn fy araith, fod Llywodraeth Cymru yn 2004 wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun, ond fel y mae pobl F/fyddar ym mhob rhan o Gymru wedi dweud wrthyf, er bod hyn yn angenrheidiol, nid yw'n ddigon.
Nid nam deallusol yw byddardod, ac eto mae cyrhaeddiad addysgol dysgwyr B/byddar yn is yn gyffredinol na phlant sy'n clywed. Mae hynny'n gywilyddus. Nododd Comisiynydd Plant Cymru ddiffyg cefnogaeth i sicrhau y gall aelodau o'r teulu ddefnyddio BSL—cywilyddus. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,
Nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu, yn llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth Fyddar, a'r modd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed.
Byddai rhoi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru yn sicrhau ei bod yn cael yr un amddiffyniad â'r Gymraeg. Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion defnyddwyr BSL na'r gymuned F/fyddar ehangach. Fel y dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn yr Alban, mewn tystiolaeth a gafwyd gan Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd yr Alban ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, mae Deddf Cydraddoldeb y DU 2010 yn rhoi hawliau i unigolion i'w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ond nid yw'n diogelu nac yn hyrwyddo BSL fel iaith.
Mae'r un peth yn wir am ddeddfwriaeth bresennol Cymru. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn yn unol â hynny.
Y cwestiwn yw a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly byddwn yn pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.