– Senedd Cymru am 6:05 pm ar 2 Mawrth 2021.
Felly, dwi'n symud nawr i grŵp 4, ac mae grŵp 4 o welliannau yn ymwneud â hanes ac amrywiaeth Cymru. Gwelliant 43 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i agor y drafodaeth ar grŵp 4. Mi fyddai cefnogi gwelliant 43 yn ychwanegu'r frawddeg
'Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys Hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw' i'r rhestr o elfennau gorfodol o fewn yr ardaloedd dysgu a phrofiad. Byddai'n ychwanegol at yr hyn rydym ni newydd fod yn ei drafod, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mi fyddai'n ychwanegol at grefydd, gwerthoedd a moeseg fel elfennau mandadol ar wyneb y Bil.
Mi fyddai cefnogi gwelliant 44 yn ei gwneud hi'n ofynnol i god 'yr hyn sy'n bwysig' nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a'r byd yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Yn ystod ein trafodaeth ni yng Nghyfnod 2, fe dynnodd y Gweinidog sylw'n ddigon teg at y ffaith nad mater i'r dyniaethau yn unig ydy hanes Cymru, ac mae gwelliant 44 yn cydnabod hynny, gan wneud dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes, yn eu holl amrywiaeth, yn fater trawsgwricwlaidd.
Mi fyddai gwelliannau 46, 47 a 48 yn rhoi rheidrwydd ar i bob cwricwlwm ym mhob ysgol gael eu cynllunio i alluogi disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau a safbwyntiau Cymru. Felly, yn dilyn Cyfnod 2, fe welwch ein bod ni wedi gwrando ar gyngor y Gweinidog Addysg ac wedi penderfynu newid ein dull ni o geisio cael Wil i'w wely. O wrthod y gwelliannau yma, fydd hi ddim yn bosib rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael y profiad o ddysgu am hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad ni.
Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yn ei adroddiad ar y Bil, wedi nodi bod angen i'r Llywodraeth daro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol. Byddai sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol allweddol o arwyddocâd cenedlaethol yn eu helpu nhw i ddod yn ddinasyddion gwybodus gyda gwybodaeth ddiwylliannol a gwleidyddol hanfodol, a dwi'n credu y byddai cynnwys hyn ar wyneb y Bil yn taro'r cydbwysedd cywir yna rhwng yr angen am gysondeb cenedlaethol a'r angen am hyblygrwydd lleol.
Mi fyddai'r gwelliannau hefyd yn sicrhau mynediad cyfartal i addysg hanes, sy'n hanfodol i sicrhau cydraddoldeb addysg ar draws Cymru. Er mwyn helpu mynd i'r afael ag anghyfiawnderau strwythurol a hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth hiliol a diwylliannol, mae'n rhaid gwarantu addysg i bob disgybl ar hanes pobl dduon a phobl o liw. A drwy sicrhau bod gan hanes Cymru sylfaen statudol yn y Bil, fe allwn ni sicrhau bod athrawon yn gallu cael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol am hanes Cymru, gan ddarparu canllawiau angenrheidiol a defnyddiol i gefnogi athrawon a meithrin eu hyder nhw mewn addysgu pwnc sy'n gallu bod yn gymhleth, yn anghyfarwydd, ond eto yn hanfodol, yn union fel rydym ni wedi ei ddadlau efo addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae angen newid strwythurol mawr i daclo hiliaeth, ac mae angen dyrchafu hunaniaethau ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â meysydd eraill.
Dadl y Gweinidog, mae'n debyg, ydy mai fframwaith heb fanylder ydy'r Bil yma, ac eto mae hi'n dadlau bod angen i rai materion gael eglurder a ffocws penodol, a dyna'i dadl hi dros gynnwys addysg cydberthynas a rhyw ar wyneb y Bil. Fy nadl i ydy bod hynny yn hollol briodol hefyd o ran ychwanegu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Mae'r ffaith bod addysg cydberthynas a rhyw, a chrefydd a moeseg, wedi cael eu cynnwys ar wyneb y Bil yn agor y drws at ychwanegu materion o bwys cenedlaethol eraill hefyd—materion sydd yn gallu bod yn drawsffurfiol eu natur, ac am union yr un rhesymau rydyn ni wedi bod yn eu trafod efo addysg cydberthynas a rhyw. Felly, dwi'n honni heddiw fod yna ddiffyg rhesymegol yn y dadleuon dros wrthod cynnwys hwn fel elfen fandadol ac, felly, fod y Bil yn ddiffygiol oherwydd nad ydy o'n gyson. Diolch, Llywydd. Fe wnaf i edrych ymlaen at glywed y dadleuon a'r ymateb.
Y Gweinidog sydd nesaf—Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd, am hynny. Ac a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am agor y ddadl ar y grŵp hwn o welliannau, a hefyd am gefnogaeth Siân yn y grŵp blaenorol, sydd wedi bod yn gyson drwy gydol y broses gyfan hon? Felly, rwy'n ddiolchgar i Siân a Plaid Cymru am eu hymrwymiad yn hynny o beth.
A gaf i ddechrau gyda gwelliant 43? Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliant hwn. Fel yr wyf i wedi'i egluro o'r blaen yn y ddadl hon, mae cyfeiriadau yn y datganiad 'yr hyn sy'n bwysig' eisoes yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Felly, rwyf i eisiau ei gwneud yn gwbl glir na all unrhyw ysgol osgoi'r materion hyn. Rwyf i wedi gwrando ar farn yr Aelod yn nadl Cyfnod 2, ac rwyf i wedi ymrwymo i ehangu'r geiriad yn y datganiad 'yr hyn sy'n bwysig', a fydd yn dod yn god 'yr hyn sy'n bwysig', i wneud hyn hyd yn oed yn gliriach. Rwyf i wedi trafod hyn gyda'r Athro Charlotte Williams, sy'n fodlon y dylem ni roi'r materion hyn y tu hwnt i unrhyw amheuaeth drwy gyfeirio'n benodol ac yn glir at straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cod 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'r Athro Williams wedi bod yn glir iawn yn ei chefnogaeth i'r Bil a'r dull hwn o ymdrin â straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rwyf i hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth ehangach i waith yr Athro Williams gyda ni ar draws cymunedau a phobloedd Cymru. Rwy'n falch iawn bod yr Athro Williams wedi cytuno i barhau i weithio gyda ni ar ôl cyhoeddi ei hadroddiad terfynol i weithredu'r argymhellion—gan ddal y Llywodraeth hon yn atebol. Weithiau mewn Llywodraeth, mae adroddiadau yn cael eu cyhoeddi gan arbenigwyr amlwg, ond yna mae rhywbeth yn ddiffygiol yn y gweithredu. Rwy'n gobeithio y bydd cael yr ymrwymiad hwnnw gan yr Athro Williams i barhau i weithio gyda ni ar y gweithredu yn rhoi hyder i'r Aelodau na fyddwn yn siarad amdano'n unig, y byddwn yn ei wneud mewn gwirionedd.
Gan symud ymlaen, felly, at welliant 44, mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fod hyn eisoes yn orfodol. Mae angen i ysgolion fod yn wrth-hiliol yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a dealltwriaeth o straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn nodi pa mor bwysig y mae'r ymrwymiad hwn i hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth mewn dysgu ac addysgu, a sut y mae hynny'n cyd-fynd â pholisïau gweithredol i fynd i'r afael â hiliaeth. Mae'r cysyniadau allweddol sy'n ffurfio'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' arfaethedig wedi'u datblygu drwy broses o gyd-lunio sy'n eiddo i ymarferwyr, gan ddefnyddio cyfres glir o feini prawf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, er fy mod i'n derbyn bod Siân Gwenllian yn dweud ei bod hi wedi cael rhywfaint o gyngor o ran drafftio gwelliant 44, byddai'r hyn y mae'r gwelliant yn ei awgrymu yn cyfyngu ac yn lleihau'r astudiaeth o faterion hanes a hunaniaeth Cymru a straeon pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nad ydyn nhw, erbyn hyn, o fewn pwnc hanes—felly, rydym ni wedi symud ymlaen o hynny, ac rwy'n falch o hynny—ond y cyfan rydym ni wedi'i wneud yw symud i'r mater o gadw hynny ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau, ac rwy'n credu bod perygl yn hynny. Rwyf i wedi bod yn glir drwy gydol y broses hon fod amrywiaeth, hanes Cymru a'i holl ddiwylliannau, drwy ganllawiau statudol, yn rhywbeth y dylai ysgolion ei ymgorffori ar draws pob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad.
Felly, mae'r hyn y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano yn gwbl bwysig, a byddwn i'n dadlau bod natur orfodol y cod 'yr hyn sy'n bwysig' yn golygu y bydd y pynciau hynny yn cael eu haddysgu, ond nid wyf i eisiau gweld y pynciau hyn yn cael eu cynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn unig. Pam na ddylid archwilio straeon Cymru drwy wersi llythrennedd a chyfathrebu, yn y testunau y mae ysgolion yn dewis eu hastudio? Onid oes lle i'n straeon yn ein celfyddydau mynegiannol, wrth gynhyrchu drama, cerddoriaeth a dawns? Onid oes gan y profiadau hyn o'n cymunedau amrywiol ac effaith ein profiad o fewn y cymunedau amrywiol hynny ran i'w chwarae wrth addysgu iechyd a lles? Felly, byddwn i'n dadlau mai'r hyn sydd gennym ni yn y fan hyn yn y Bil yw'r cyfle i hanesion Cymru â'u holl amrywiaeth gael eu harchwilio, nid yn unig o fewn un pwnc, nid yn unig o fewn un maes dysgu a phrofiad, ond i atgyfnerthu'r hanesion a phrofiadau hynny mewn gwaith trawsgwricwlaidd ar draws holl elfennau'r cwricwlwm mewn gwirionedd. Mae hynny wedi bod yn ddarn pwysig iawn o gyngor gan Charlotte Williams, sy'n dweud, yn rhy aml, pan fyddwn ni wedi siarad am y materion hyn, eu bod wedi'u cyfyngu i un topig o fewn un pwnc, ac nid yw'n adlewyrchu cyfraniad ein cymunedau amrywiol ar draws pob agwedd ar ein bywydau.
Fel y dywedais i, byddwn yn diwygio'r geiriau i'w gwneud hyd yn oed yn fwy eglur, er mwyn rhoi'r hyder sydd ei angen arnyn nhw. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, mae'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw yn disgwyl, yn mynnu ac yn sicrhau yn llwyr fod hanesion Cymru a phrofiadau ein cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru, ac rwyf i eisiau bod yn gwbl glir mai dyna yw ein disgwyliad, ac mae'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron yn darparu ar gyfer hynny.
Siân Gwenllian i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwelliant 44 yn gwneud yr hyn rydych chi'n honni nad ydy o'n gwneud. Mae gwelliant 44 yn darllen fel hyn:
'Rhaid i God yr Hyn sy'n Bwysig nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a’r byd, gan gynnwys ―
'(a) hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw,
'(b) profiadau a chyfraniadau pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac
'(c) hanes hiliaeth ac amrywiaeth,
'yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad.’
Fedraf i ddim bod yn fwy clir, dydw i ddim yn meddwl, mai'r bwriad efo'r gwelliant yma ydy dyrchafu'r maes allan o'r dyniaethau i fod yr hyn ydych chi'n ei ddadlau amdano fo. Felly, yn fwriadol, efallai, rydych chi'n mynd â ni i lawr rhyw gyfeiriad gwahanol i'r hyn rydym ni'n bwriadu ceisio ei wneud efo'r gwelliannau yma yn fan hyn.
Os ydy'r maes yma yn mynd i fod yn fandadol, fel rydych chi'n dweud y bydd o, ac y bydd o yn fandadol drwy'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', wel, beth ydy'r broblem efo cefnogi'r gwelliannau sydd gerbron heddiw yma? Dydy hynna ddim yn mynd i wneud unrhyw fath o wahaniaeth, felly. Fe fydd o ar wyneb y Bil os ydych chi'n cefnogi'n gwelliannau ni, ac mi fydd y cwbl rydych chi'n ei ddisgrifio yn deillio ac yn llifo i lawr o hynny. I mi, dyna ydy pwrpas deddfwriaeth: rydych chi'n rhoi rhywbeth yn hollol, hollol glir os ydych chi'n dymuno i bopeth arall wedyn raeadru i lawr ohono fo, ac, os ydy o'n mynd i fod yn y canllawiau beth bynnag, dydw i ddim yn deall y ddadl dros beidio â'i ddyrchafu i fod yn fater ar wyneb y Bil.
Dwi'n mynd yn ôl at y pwynt yma: rydych chi yn penderfynu rhoi addysg cydberthynas a rhyw yn fater mandadol ar wyneb y Bil—gwych, gwych—er mwyn i bopeth arall lifo o hynny. Dwi'n methu â deall rhesymeg pam ddim rhoi maes sydd yn gwbl allweddol ar gyfer datblygu ein cenedl ni wrth inni symud ymlaen ac i barchu'r amrywiaeth ac i waredu ein cymdeithas ni o hiliaeth. Mae angen i hynny hefyd fod ar wyneb y Bil er mwyn i'r trawsffurfiad yma sydd angen digwydd fod yno a chael y statws hollol ddilys sydd angen iddo fo ei gael. Felly, dwi yn gofyn ichi gefnogi ein gwelliannau ni yn y maes yma. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. [Anglywadwy.] O blaid 20, dau yn ymatal, 31 yn erbyn.