– Senedd Cymru am 6:22 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rydyn ni'n symud nawr i grŵp 5. Mae grŵp 5 o welliannau yn ymwneud â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gwelliant 34 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Gareth Bennett i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp o welliannau. Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac a gefnogir gan Mark Reckless, sy'n cael eu cynnig gyda chefnogaeth Plaid Diddymu Cynulliad Cymru hefyd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymdrin ag addysgu Cymraeg. Mae'r gwelliannau yr wyf i'n eu cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r ffaith bod gan Gymru lawer o wahanol rannau ac nad oes gan bob un ohonyn nhw yr un lefel o siarad Cymraeg. Yn hytrach na cheisio creu un polisi ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai'n wastraff adnoddau gwerthfawr, rydym ni o'r farn y dylai darpariaeth Gymraeg fod yn briodol i anghenion y boblogaeth leol. Rydym ni'n credu, ar y cyfan, y byddai'n well canolbwyntio adnoddau ar achub a chadw ysgolion gwledig yng ngorllewin Cymru sy'n siarad Cymraeg ar agor, yn hytrach na gadael i'r ysgolion hynny gau, sef yr hyn sydd wedi bod yn digwydd a'r hyn sy'n parhau i ddigwydd. Ond ni allwn ni wneud unrhyw beth i gadw'r ysgolion hynny ar agor os ydym ni'n gwastraffu arian ar bolisi Cymru gyfan sydd wedi'i gynllunio i gyrraedd rhyw darged mympwyol o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, oherwydd yn y pen draw beth mae 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ei olygu mewn gwirionedd? Beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd os ydych yn dysgu 1 miliwn o bobl i ddweud 'bore da' a 'noswaith dda'? A yw hynny yn gyflawniad ystyrlon mewn gwirionedd ac a yw'n ddefnydd defnyddiol o adnoddau cyfyngedig? A yw'n well cael yr holl bobl hynny i allu gwenu a dweud 'bore da' a dim llawer arall, neu a yw'n well i dargedu cymunedau lleol yng Nghymru Gymraeg, cadw ysgolion ar agor, cadw canolfannau cymunedol ar agor a chadw'r Gymraeg yn iaith fyw, oherwydd dyna beth yr ydym mewn perygl o'i golli?
Nawr, gan droi at ein gwelliannau penodol heddiw, mae gwelliannau Llywodraeth Cymru i'w Bil eu hunain, a osodwyd yng Nghyfnod 2, yn caniatáu i rai ysgolion cyfrwng Cymraeg beidio ag addysgu unrhyw Saesneg tan wyth oed. Felly, mae'r pwyslais yma ar ganiatáu i ysgolion ddewis beth yw'r dull gorau i'w disgyblion. Mae ein gwelliant 35 heddiw yn caniatáu hawl debyg i ganiatáu i ysgolion cyfrwng Saesneg beidio ag addysgu unrhyw Gymraeg tan wyth oed, a fydd, unwaith eto, yn caniatáu i'r ysgolion benderfynu ar y dull gorau. I ryw raddau, gellir ystyried hyn yn welliant treiddgar. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn credu, am ba reswm bynnag, mai dyma'r dull cywir, yna efallai y bydd angen iddi ailystyried ei brwdfrydedd tuag at eu gwelliannau eu hunain i ganiatáu i ysgolion cyfrwng Cymraeg optio allan o addysgu disgyblion Saesneg.
Mae ein gwelliant 37 yn ceisio mewnosod Atodlen newydd i'r Bil sy'n dirprwyo i awdurdodau lleol y pŵer i benderfynu a ddylai'r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg rhwng blynyddoedd 4 ac 11 ac i ba raddau—mewn geiriau eraill, rhwng wyth ac 16 oed. Byddai cynghorau lleol yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar y mater hwn ar ôl ymgynghori priodol â'u pobl leol eu hunain ac o ran cyfran y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal eu hunain.
Mae angen gwelliannau 38 a 39 pe cytunir ar welliannau 35 i 37. Os na chytunir ar welliannau 35 a 37, yna ni fyddwn yn pwyso am bleidlais ar gyfer y ddau welliant arall.
I grynhoi, yr hyn sydd ei angen arnom yw dull lleol, yn hytrach nag un polisi sy'n addas i bawb, a'r hyn sydd ei angen arnom hefyd yw elfen o ddewis, yn hytrach na gorfodaeth, ynghylch sut yr ydym yn penderfynu addysgu'r Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru. I'r perwyl hwnnw, cymeradwyaf y gwelliannau hyn i'r Siambr heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Mae ein gwelliannau ni yn grŵp 5 yn ymwneud â dysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion, ac fe fyddai eu pasio nhw yn sicrhau llawer mwy o fanylder, ac yn rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gaffael iaith ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg ail iaith, a hynny ers 2015. Bydd y continwwm yn sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm, ac yn arbennig wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd. Ond, er eu bod nhw wedi ymrwymo i sefydlu continwwm, dydy o ddim wedi digwydd, a realiti'r sefyllfa ydy na fydd y Bil yma chwaith ddim yn creu un continwwm dysgu Cymraeg. Beth fyddai'r Bil yma yn ei wneud bydd ail-greu ac ail-wreiddio'r sefyllfa bresennol—sefyllfa sydd yn methu. Dwy system gyfochrog sydd gennym ni, a dyna fydd gennym ni oni bai eich bod chi'n derbyn gwelliannau Plaid Cymru heddiw yma.
Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cytuno â hynny, ac yn dweud fframwaith cyffredinol y cwricwlwm yw symbylu'r newidiadau, yn dweud—. Mae o'n dadlau na fydd fframwaith cyffredinol y cwricwlwm fel mae o yn symbylu'r newidiadau sy'n angenrheidiol. Os bydd y cwricwlwm yn gosod disgwyliadau clir a phendant, bydd gweddill y gyfundrefn addysg yn dilyn ac yn ymaddasu. Ond ni fydd y cwricwlwm yn arwain ar hyn. Y tebygrwydd ydy y bydd y diffygion o safbwynt sgiliau athrawon, o ran capasiti ysgolion, o ran cymwysterau ac adnoddau, yn arwain at gylch diddiwedd fydd yn parhau i lesteirio gwelliant mewn sgiliau Cymraeg disgyblion Cymru.
Mae ein gwelliannau ni yn cynnig dwy ffordd bosib ymlaen. Yn ystod Cyfnod 2, fe wrthododd y Gweinidog ein gwelliant a fyddai wedi sefydlu cod ar ddysgu'r Gymraeg ar un continwwm. Dwi'n dal yn argyhoeddedig mai dyna ydy'r ffordd orau ymlaen, ac mai cod fyddai'r ateb gorau i'r broblem rydym ni'n ceisio ei datrys. Dyna, felly, ydy byrdwn gwelliant 45.
Mae gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd, ac mae gennych chi ddewis yn fan hyn—medrwch chi gefnogi hwn, os hoffech chi, os dydych chi ddim eisiau cefnogi'r cod, neu fedrwch chi gefnogi'r ddau. Ond mi fyddai gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd fyddai'n sefydlu fframwaith y Gymraeg statudol a fyddai'n rhoi arweiniad clir a chanllawiau pellach ar weithredu'r continwwm. Mae dirfawr angen cynnig cefnogaeth ac arweiniad clir i'r sector cyfrwng Saesneg, yn ogystal â'r awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol ac eraill o fewn y system addysg ar sut i weithredu dull continwwm sy'n datblygu sgiliau disgyblion yn y Gymraeg i'r eithaf, fel sy'n digwydd ym mhob maes a phwnc arall. Fe wnaeth y Gweinidog gyfeirio at hyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr, ac mi wnaeth hi gyfeirio a rhyw led awgrymu bod yna bosibilrwydd y byddai hi o blaid creu fframwaith statudol. Dwi'n edrych ymlaen i weld os ydy hi'n dal o'r un farn. Mi fyddai pasio gwelliant 49 yn sicrhau hynny. Mae'r mudiadau addysg Cymraeg i gyd yn cefnogi sefydlu fframwaith o'r fath, ac maen nhw'n dadlau bod angen hynny ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau statws statudol, ac er mwyn rhoi arwydd clir i'r sector addysg ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau gweithredu'r continwwm yn effeithiol.
Mae yna gyfle yma i sicrhau bod gwahanol agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r system addysg i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr yn cydgysylltu'n glir ac yn drefnus, a bod yna ffordd ymlaen i sicrhau bod 55 y cant o ddisgyblion yn gallu siarad Cymraeg ar ddiwedd eu haddysg statudol yn 2027, a 70 y cant ohonyn nhw erbyn 2050, sef union nod y Llywodraeth hon, wrth gwrs. Mi fyddai fframwaith yn ein galluogi ni i symud tuag at hynny, ac yn arwain at newidiadau sylfaenol i ddulliau dysgu, cynllunio, dilyniant a datblygiad sylweddol o ran addysgeg a sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg. Mae angen canllaw clir statudol ynghylch yr hyn sy'n ddisgwyliedig dros y tymor byr, canolig a hir o ran camau gweithredu a deilliannau, a dyna ydy byrdwn ein gwelliannau ni er mwyn ceisio sicrhau hynny. Diolch.
Y Gweinidog i gyfrannu, Kirsty Williams.
Diolch i chi am eich ateb, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wneud Saesneg yn orfodol o saith i 16 mlwydd oed, tra bod y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol o dair i 16 mlwydd oed. Yng Nghyfnod 2, gosodais welliannau gan y Llywodraeth a fydd yn caniatáu arfer addysg drochi Cymraeg i barhau heb unrhyw broses o ddatgymhwyso. Gosodais welliant hefyd sy'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a sicrhau eu bod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n arwain at gymhwyster neu gyfres o gymwysterau o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae hyn er mwyn disodli'r ddyletswydd bresennol ar awdurdodau lleol na fydd yn berthnasol pan fydd fframwaith y cwricwlwm newydd yn disodli'r cwricwla lleol ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.
Mae'r gwelliannau Cyfnod 2 a osodais ac a dderbyniwyd yn rhoi pwyslais clir ar ddysgu Cymraeg o fewn y cwricwlwm newydd. Maen nhw hefyd â'r nod o ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau a ganfyddir i'r defnydd o drochi Cymraeg yn ein hysgolion—trochi sydd wedi rhoi yr iaith i'm tri phlentyn.
Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni fod yn gwbl glir, ac rydym ni wedi bod yn glir, ein bod ni eisiau cynyddu nifer y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg, nid ei leihau. A pheidiwch ag amau o gwbl, gyd-Aelodau, byddai gwelliant 34 yn lleihau nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'n gwneud hynny o dan haenen o gydraddoldeb, ond mae'r rhai hynny ohonom sy'n deall yr iaith yn gwybod nad ydym yn ymdrin â dwy iaith sy'n cael eu siarad gan niferoedd cyfartal, a bydd y gwelliant yn ymwreiddio'r anghydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli rhwng ein dwy iaith genedlaethol ac yn amddifadu ein plant—amddifadu ein plant—o'u genedigaeth-fraint, y gallu i siarad y ddwy.
Nid yn unig y mae hyn yn mynd yn groes i'n polisi ni fel Llywodraeth a'r consensws o gefnogaeth y credaf oedd yn arfer bodoli yn y Senedd hon ac, yn wir, y wlad, mae hefyd yn mynd yn groes i dystiolaeth arbenigwyr ym maes caffael iaith. Mae'n hanfodol bwysig bod dysgwyr, yn enwedig y rhai cyfrwng Saesneg, yn cael sylfaen gadarn yn y Gymraeg, a dyna pam yr ydym ni wedi gwneud y Gymraeg yn orfodol o dair oed ymlaen. Ac rwy'n annog yr Aelodau yn gryf i wrthod y gwelliant niweidiol hwn.
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddais gynllun gweithredu'r cwricwlwm, sy'n nodi ein camau nesaf i weithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu fframwaith iaith Gymraeg. Bydd hwn yn rhoi cymorth arbennig i'r rhai sy'n addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a bydd hefyd yn symud ymlaen pob dysgwr ar hyd continwwm un iaith.
Ni allaf dderbyn gwelliannau 45 a 50 i gyflwyno cod addysgu Cymraeg ar un continwwm. Fel yr eglurais wrth y pwyllgor yn nhrafodion Cyfnod 2, byddai cod o'r math hwn yn berthnasol i bob ymarferydd, gan gynnwys athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Credaf y byddai hyn yn cyfyngu ar eu creadigrwydd a'u hasiantaeth mewn modd nad yw eu cydweithwyr sy'n addysgu yn Lloegr yn ddarostyngedig iddo, ac ni fyddwn yn meiddio dweud wrth addysgwyr cyfrwng Cymraeg sut i addysgu eu dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac nid wyf yn credu nac yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol o gwbl.
Mae canllawiau ychwanegol ar gyfer addysgu Cymraeg eisoes yn bodoli yn y fframwaith llythrennedd, a gall athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio hyn i addysgu Cymraeg. Mae'n amlwg i mi, a dyma lle rwy'n cytuno â Siân Gwenllian, nad addysgu Cymraeg yw'r prif fater yn y fan yma, fel y cyfryw, ond gwelliant mewn addysgu Cymraeg yn rhai o'n hysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a gweithredu fframwaith iaith Gymraeg a all gynorthwyo athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen ar hyd y continwwm iaith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliannau 45 a 50.
O ran gwelliannau 35, 36, 37 a 39, sy'n ceisio cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi cynllun gofynion iaith Gymraeg, mae'n rhaid i mi ofyn y cwestiwn, Llywydd, 'Pam?' Mae gennym gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg eisoes, lle mae awdurdodau lleol yn nodi sut y maen nhw'n mynd i gynyddu nifer y lleoedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ardal, ac mae gennym gwricwlwm lle mae'r Gymraeg yn orfodol o dair i 16 mlwydd oed ym mhob un o'n hysgolion. Felly, pam mae angen y cynllun hwn arnom ni?
Y gwirionedd yw, wrth gwrs, oherwydd bod y cynigwyr eisiau lleihau faint o Gymraeg a addysgir yn ein hysgolion, a gwadu, fel y dywedais, hawl ein pobl ifanc i gael dysgu eu dwy iaith genedlaethol. Mae gennyf weledigaeth wahanol iawn ar gyfer y Gymraeg o'i chymharu â'r cynigion hyn sy'n edrych i'r gorffennol. Rwyf eisiau gweld ein pobl ifanc yn siaradwyr balch a hyderus yn ein dwy iaith, ac yn wir llawer mwy, ac felly rwy'n annog yr Aelodau yn gryf iawn i wrthod y gwelliannau hyn sydd eisiau mynd â ni yn ôl i'r gorffennol yn hytrach nag ymlaen i ddyfodol dwyieithog mwy disglair.
Soniais yn gynharach am fframwaith iaith Gymraeg i gynorthwyo ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog wrth drafod dysgu Cymraeg ar un cod continwwm. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o fynd i'r afael ag addysgu'r Gymraeg yn rhai o'n hysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yw fframwaith ar gyfer addysgu Cymraeg sy'n ddigon hyblyg i gael ei dargedu at yr ysgolion hynny y mae angen y cymorth ychwanegol hwn arnyn nhw, ond nad yw'n cyfyngu ar asiantaeth a chreadigrwydd athrawon nad oes eu hangen arnynt. Rwyf yn deall y bwriad y tu ôl i welliant 49, i'w gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi fframwaith o'r fath, ond ar hyn o bryd ni allaf gefnogi'r gwelliant hwnnw.
Yn gyntaf, mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r bobl hynny a restrir i roi sylw i'r fframwaith ym mhopeth a wnânt yn y Bil hwn, a chredaf fod hynny'n ofyniad rhy feichus, gan na fydd gan rai o'r penderfyniadau a wneir yn ymwneud ag addysgu'r Gymraeg. Yn ail, mae'n fframwaith a fyddai'n berthnasol i bob ysgol, felly unwaith eto byddem yn dweud wrth bob ymarferydd, gan gynnwys athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, fod angen dweud wrthyn nhw sut i addysgu Cymraeg, ac rwyf eisoes wedi datgan fy safbwynt ar hynny. Yn olaf, hoffwn gyfeirio sylw'r Aelodau at bwerau sydd gan Weinidogion Cymru o dan adran 69 i gyhoeddi canllawiau—canllawiau y mae'n rhaid i'r personau a restrir yn y gwelliant roi sylw iddynt. Gellir defnyddio'r pwerau hyn i gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo addysgu a dysgu Cymraeg yn y modd y mae'r Aelod yn ei ragweld, ac rwyf eisiau i'r canllawiau hynny gael eu targedu at ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog, lle credaf y mae fwyaf ei angen.
Felly, mae nifer o resymau pam na allaf gefnogi'r gwelliant hwn, ond rwyf, wrth gwrs, yn cefnogi'r meddylfryd y tu ôl iddo, ac rwyf yn fodlon dweud unwaith eto heddiw y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu fframwaith o'r fath i gefnogi'r gwaith o wella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gwneir hyn, fel bob amser gyda'r cwricwlwm, yn yr ysbryd o gyd-adeiladu sy'n cynnwys ymarferwyr, rhanddeiliaid ac arbenigwyr, ac rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn cais gan y rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn, yn dangos eu parodrwydd ac yn wir eu brwdfrydedd i gymryd rhan mewn gwaith o'r fath. A chredaf y dylai Gweinidogion ddefnyddio eu pwerau o dan adran 69 i gyhoeddi hynny ar sail statudol.
Yn olaf, deuwn at welliant 38, sy'n ceisio diffinio beth yw ysgol cyfrwng Saesneg. Nid yw'r gwelliant yn dweud sut y caiff faint a gaiff ei addysgu yn Saesneg ei fesur ac yn ymarferol bydd hynny'n arwain at anawsterau sylweddol. Rydym, wrth gwrs, fel Llywodraeth, yn ymgynghori ar wahân ar gategorïau iaith anstatudol ar gyfer pob ysgol, nid rhai cyfrwng Saesneg yn unig. Os bydd Senedd yn y dyfodol eisiau eu gwneud yn statudol, y dull cywir fyddai gwneud hynny ar gyfer pob categori o bob ysgol, fel ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Mawr obeithiaf y bydd pwy bynnag fydd yn ddigon ffodus i gael y swydd hon ar fy ôl i yn rhoi'r categorïau hynny ar sail statudol. Mae'r gwelliant hwn yno unwaith eto dim ond er mwyn lleihau faint o Gymraeg a geir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ochr yn ochr â'r gwelliannau eraill yr ydym wedi clywed Gareth Bennett yn sôn amdanyn nhw heddiw, a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthod yn y modd mwyaf pendant posibl. Diolch.
Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Diolch i Siân ac i Kirsty am eu cyfraniadau i'r ddadl.
Roedd sylwadau Siân yn ymwneud yn bennaf â'r angen i ddatblygu un continwwm ar gyfer addysgu'r Gymraeg, sydd, ynddo'i hun, yn gysyniad clodwiw, ond wrth gwrs mae'n cyd-fynd â cheisio cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, yr ydym ni, fel plaid—fy mhlaid i fy hun, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru—yn reddfol amheus ynglŷn â'r targed hwn. Rydym yn poeni na fydd, mewn gwirionedd, yn llawer mwy nag ymarfer ticio blychau ac y bydd diffyg ystyrlonrwydd yn ansawdd y Gymraeg a ddarperir i lawer o'r 1 miliwn hyn o bobl sydd wedi'u targedu, a dyna'r hyn y ceisiais fynd i'r afael ag ef yn fy nghyfraniad. Datblygodd Siân, wrth gwrs, ei phwyntiau gyda'i huodledd arferol, felly alla i ddim tynnu oddi ar hynny, ond serch hynny, wrth gwrs, ni fydd fy mhlaid yn cefnogi'r union bwyntiau hynny. Rydym yn bwriadu ymatal ar ei gwelliannau.
Gan droi at sylwadau'r Gweinidog, defnyddiodd lawer o iaith emosiynol neu gynyrfiadol am amddifadedd a gwadu genedigaeth-fraint pobl. Yr amddifadedd gwirioneddol yw colli iaith fyw, ac nid yw gwthio rhywbeth sy'n wastraff adnoddau ac yn ymarfer ticio blychau yn mynd i wneud unrhyw beth i ddatblygu'r Gymraeg fel iaith fyw ac i'w chadw i fynd fel iaith fyw. Yr hyn y mae arnom ei angen yw targedu'r adnoddau hynny, sef yr hyn yr oeddwn yn sôn amdano yn fy nghyfraniad; nid llwyth o lol emosiynol, sef yr hyn y mae'r Gweinidog yn tueddu i arbenigo ynddo ar y pwnc hwn. Y gwir wadiad, er gwaethaf y ffaith ei bod hi'n sôn am ddyfodol mwy disglair, yw colli'r Gymraeg yn y dyfodol fel iaith gymunedol fyw, oni bai bod adnoddau prin yn cael eu targedu yn y ffordd gywir, sef yr hyn y mae ein gwelliannau yn ceisio mynd i'r afael ag ef.
Felly, diolch yn fawr iawn am wrando, pawb, a diolch am eich cyfraniadau a gobeithio y byddwn yn symud ymlaen i'r bleidlais. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 34 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, dau yn ymatal a 47 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.
Gwelliant 3, ydy e'n cael ei symud, Suzy Davies?
Na, dwi ddim yn mynd i'w symud.
Ocê. Felly, fydd yna ddim pleidlais ar welliant 3.
Gwelliant 44, Siân Gwenllian, ydy e'n cael ei symud?
Symud gwelliant 44. Felly, pleidlais ar welliant 44 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, a 32 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi'i wrthod.
Gwelliant 52, Llyr Gruffydd. Ydy e'n cael ei symud?
Pleidlais ar welliant 52, felly, yn enw Llyr Gruffydd. A oes gwrthwynebiad i welliant 52? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly pleidlais ar welliant 52. Agor y bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly mae gwelliant 52 wedi'i wrthod.
Suzy Davies, ydych chi'n symud gwelliant 4?
Gwnaf, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mae yna wrthwynebiad, felly, i dderbyn gwelliant 4. Pleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Gwelliant 41, Darren Millar. Ydy e'n cael ei symud?
Ydw, rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, ac felly cynhaliwn ni bleidlais ar welliant 41 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, ac mae 39 yn erbyn. Felly mae gwelliant 41 wedi ei wrthod.