– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 9 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog unwaith eto i gyflwyno'r rheoliadau yma—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger bron. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi cael eu hadolygu ar 18 Chwefror, ac fe ddaethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru i gyd aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb ddal ati i aros gartref am y tro. Mae'n rhaid i'r holl siopau nad ydynt yn hanfodol, mannau lletygarwch yn ogystal â safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Mae hyn yn golygu nad yw pobl, ar y cyfan, yn gallu ffurfio aelwydydd estynedig, sef yr hyn a elwir hefyd yn 'swigod'. Hyd nes i'r diwygiadau diweddaraf gael eu gwneud i'r rheoliadau, yr unig eithriad fu ar gyfer aelwydydd un oedolyn cyfrifol, oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyda phlant, a allai ffurfio swigod cymorth gydag un aelwyd arall. Ers i Gymru symud i rybudd lefel 4, mae aelwydydd sydd angen cyswllt ar sail dosturiol, neu i gynorthwyo gyda gofal plant, wedi gallu gwneud hynny.
Fodd bynnag, cafodd y rheoliadau eu diwygio fel y gall aelwydydd ag unrhyw blant dan un oed ffurfio swigod cymorth—unwaith eto, gydag un aelwyd arall. Mae hyn yn ceisio sicrhau y gall rhieni newydd neu warcheidwaid plant dan flwydd oed gael cymorth gan ffrindiau neu deulu yn ystod blwyddyn gyntaf hanfodol bywyd baban. Fe fydd hyn yn helpu gyda datblygiad y baban hefyd. Yn ogystal â hynny, mae'r rheoliadau diwygiedig ar gyfer y cyfyngiadau yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu gyda phobl o'r un oedran, heb unrhyw oedolion, ffurfio swigod cymorth yn yr un modd. Ac yn olaf, mae'r rheoliadau diwygiedig yn caniatáu i bob lleoliad a gymeradwyir ar gyfer gweinyddu priodasau, seremonïau partneriaeth sifil, neu seremonïau priodas amgen, agor at y diben cyfyngedig hwn. I fod yn eglur, ni chaniateir ciniawau priodas ar hyn o bryd.
Rydym wedi nodi'n glir mai ein blaenoriaeth gyntaf ni yw gweld cymaint o blant a myfyrwyr â phosibl yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bo modd. Gyda hyn mewn golwg, fe fydd ein dull ni o lacio'r cyfyngiadau yn digwydd mewn camau graddol. Fe fyddwn ni'n parhau i wrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol ac, wedi hynny, fe fyddwn ni'n asesu effaith y newidiadau a wnaed. Er gwaethaf y cynnydd enfawr o ran gweinyddu brechlynnau yr ydym ni newydd sôn amdano, a'r sefyllfa sy'n gwella o ran iechyd y cyhoedd, rydym wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, yn arbennig amrywiolyn Caint, sy'n ymledu ar raddfa lawer cyflymach, ni allwn ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld cymaint ag y byddem ni'n ei hoffi fel arall. Fe fyddwn ni'n rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni cyn gwneud unrhyw newidiadau. Pan fyddwn ni o'r farn ei bod yn ddiogel llacio'r cyfyngiadau, fe fyddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i fod â rhan bwysig wrth addasu rheolau coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dal i fod yn effeithiol a chymesur. Diolch.
Diolch i chi. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf i ychydig o sylwadau byr i'w rhoi. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ni bore ddoe, ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys tri phwynt teilyngdod sy'n gyfarwydd iawn i'r Aelodau. Mae ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Rydym wedi tynnu sylw arbennig at nifer o baragraffau allweddol yn y memorandwm esboniadol sy'n cyfeirio'n uniongyrchol at erthyglau 2, 5, 8, 9 ac 11 o siarter hawliau sylfaenol Ewrop ac erthygl 1 o'r protocol cyntaf. Ac mae ein hail a'n trydydd pwynt teilyngdod yn nodi na fu yna ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dau newid yn y fan hyn rydyn ni'n cytuno â nhw, y cyntaf yn ymwneud â mangreoedd ar gyfer seremonïau priodas sifil a phartneriaethau sifil, y llall yn caniatáu i aelwydydd efo, beth bynnag, un plentyn dan un oed ffurfio aelwyd estynedig. Dwi yn falch o weld hyn yn digwydd o ran llesiant, a dwi'n cyfeirio'n benodol at y gwaith mae Bethan Sayed wedi'i wneud yn y maes yma'n benodol, dwi'n meddwl, yn codi ymwybyddiaeth, fel rhiant ifanc ei hun hefyd, wrth gwrs. Felly, fel dwi'n dweud, mi fyddwn ni'n cefnogi hwn.
Gwnaf i gyfeirio, os caf i, jest yn sydyn, at yr adolygiad nesaf. Dwi yn gobeithio, eto o ran llesiant, y byddwn ni'n gallu symud i gyfnod 'aros yn lleol', rŵan, yn hytrach nag 'aros gartref'. Dwi'n credu buasai fo yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran llesiant pobl, a dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o fap ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Ond Ynys Môn ydy fy etholaeth i. Rydym ni'n gwybod bod Ynys Môn yn un o'r ardaloedd lle mae nifer yr achosion ar ei uchaf. Rydym ni'n gwybod am yr effaith mae'r math newydd o goronafeirws yn ei gael, pa mor hawdd ydy o i ledaenu. Rydym ni'n gweld y ffigurau diweddaraf, eto'r prynhawn yma, ynglŷn â nifer yr achosion yn Ysbyty Gwynedd ac yn y blaen. Felly, mae'n rhaid symud ymlaen yn bwyllog iawn, iawn, iawn. Felly, jest cwestiwn sydyn: sut bydd y Llywodraeth yn cyfathrebu mor glir â phosib na all pobl ddefnyddio'r ffaith bod cil y drws yn agor fel rheswm i wthio'r drws yna ar agor led y pen, achos dydyn ni ddim yn barod am hynny?
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.
Diolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, unwaith eto, am graffu ar y rheoliadau. Unwaith eto, mae adolygiadau rheolaidd y pwyllgor hwn yn ein helpu ni i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ateb ei diben a'i bod wedi ei drafftio'n addas, ac mae'r pwyllgor, o bryd i'w gilydd, wedi sylwi ar wahaniaethau bychan, ond pwysig iawn, yn fy marn i, yn y rheoliadau, y gwnaethom ni eu cywiro, ar ôl i'r pwyllgor eu hadolygu. Mae hynny o gymorth mawr bob amser.
Ynglŷn â phwynt Rhun ap Iorwerth, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth i'r rheoliadau hyn. Ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am reoliadau posibl yn y dyfodol, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a minnau'n cyfeirio at y posibilrwydd o gyfnod 'aros yn lleol' cyn y gellir cael symudiad ehangach o ran teithio. Ac nid oes dim byd yn berffaith yn hynny, ond rydym ni'n cydnabod, wrth symud o un cam i'r llall, y gallai cyfnod pontio 'aros yn lleol' fod yn ddefnyddiol. Ac mae hyn yn golygu pobl yn ymddwyn yn synhwyrol gydag unrhyw reolau neu ganllawiau. Ac os byddwn ni'n rhoi arweiniad ar hyn, dyna'n union fyddai hynny, nid rheol haearnaidd. Rydym yn gofyn i bobl fod yn synhwyrol ynglŷn â sut y maen nhw'n mynd o gwmpas hynny. Ac rwy'n sylweddoli, pe byddwn i'n byw yng nghanol Powys, y gallai 'aros yn lleol' olygu rhywbeth gwahanol iawn i fyw yma ym Mhenarth neu yn y rhan o Gaerdydd sydd yn fy etholaeth i. Ac felly rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin a dangos y gefnogaeth sydd wedi ein cynnal ni hyd yr awr hon. Yr hyn nad ydym yn awyddus i'w weld yw pobl yn cymryd agwedd tuag at unrhyw lacio posibl sy'n ein dwyn ni ymhell y tu hwnt i'r sefyllfa y mae angen inni fod ynddi hi, oherwydd rwy'n eiddgar i weld cynnydd graddol a diogel wrth symud oddi wrth ein cyfyngiadau presennol a fyddai'n golygu na fyddai angen inni arafu unwaith eto.
Os ydyn nhw'n mynd i deithio, mae angen i bobl gydnabod a gwneud yn siŵr eu bod yn dal i gadw at y cyfyngiadau eraill a fydd yn parhau i fod yn weithredol ac yn eu lle, ac yn enwedig yr heriau i bob un ohonom ni wrth sicrhau ein bod yn cadw pellter oddi wrth bobl, yn cofio am hylendid dwylo, ac yn enwedig ddim yn cymysgu dan do. Hwnnw yw'r dull mwyaf peryglus o gysylltu â phobl o hyd ac, fel y dywedais i, mae amrywiolyn Caint yn golygu ei fod yn amrywiolyn sy'n llawer haws iddo drosglwyddo na'r un yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef hyd yma, ac felly dyna pam mae angen gofal ychwanegol. Mater i bob un ohonom ni, serch hynny, yw gwneud ein rhan fel y gallwn wneud dewisiadau eraill yn y dyfodol, a dewisiadau eraill yr wyf i'n sicr yn gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno na fyddem yn dymuno eu bod yn cael eu gwrthdroi.
Felly, diolch am eich sylwadau a'ch cefnogaeth gyffredinol, ac rwy'n edrych ymlaen at obeithio y bydd yr Aelodau yn cytuno nawr ar y rheoliadau sydd ger bron.
Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf i'n gweld unrhyw un sy'n gwrthwynebu. Gan hynny, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.