1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2021.
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ffermwyr y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn debygol o effeithio arnynt? OQ56386
Diolch. Bydd ystod o gymorth yn cael ei roi, gan gynnwys arweiniad, cynlluniau rheoli maethynnau a thempledi cadw cofnodion, gwasanaethau Cyswllt Ffermio a llinell gymorth bwrpasol, a weithredir gan y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS). Mae hyn yn ychwanegol at y £44.5 miliwn o gyllid cyfalaf sydd wedi'i ymrwymo hyd yma drwy'r rhaglen datblygu gwledig i gefnogi ffermwyr yng Nghymru.
Fel y gwyddoch, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Undeb Amaethwyr Cymru, a chyda ffermwyr yn fy etholaeth, a heb os, ni waeth beth fo rhinweddau'r rheoliadau, mae ganddynt bryderon—pryderon dwys iawn—ynglŷn â’r effaith, ac yn enwedig yn y ffermydd bach hynny. Ac yn fy araith yr wythnos diwethaf, soniais am fferm, er enghraifft, a chanddi 75 o fuchod godro, a fyddai wedyn yn gorfod adeiladu technoleg i storio slyri na fyddai wedi cael ei defnyddio fel arall o bosibl. Cefais beth sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi’i nodi yn eich araith yr wythnos diwethaf, ond efallai mai nawr yw'r cyfle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr hynny mewn perthynas â chynlluniau rheoli maethynnau? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr sy'n poeni am orfod dibynnu ar ymgynghorwyr i ymdrin â ffurflenni cymhleth? A chyda hynny oll mewn golwg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno—ac yn amlwg, mae yna etholiad ar y ffordd—adolygu'r rheoliadau yn ystod y cyfnod y cânt eu cyflwyno'n raddol? Sut y bwriadwch gyflwyno'r adolygiad hwnnw a sicrhau nad yw ffermwyr fel y rhai bach yn fy etholaeth i yn cael eu heffeithio'n ormodol?
Diolch. Fel y dywedaf, yn ogystal â gwasanaethau Cyswllt Ffermio, mae gennym linell gymorth bwrpasol sydd bellach yn cael ei gweithredu gan ADAS, a chyllid cyfalaf sylweddol. Felly, mae hyn oll wedi’i wneud ac yn ei le i gefnogi ffermwyr. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau'n fuan, a byddant yn arwain ffermwyr gam wrth gam drwy ofynion y rheoliadau. A phan fydd gan bobl y canllawiau hynny, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu eu meddyliau ac yn sicr yn lleddfu llawer o'r pryderon y cyfeirioch chi atynt.
Bydd yna dempledi syml y gellir eu defnyddio ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau. Credaf y bydd y gwahaniaeth rhwng y gofynion storio slyri presennol a'r gofynion newydd yn fach iawn i'r rhan fwyaf o bobl. Felly, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r glawiad sy'n mynd i mewn i'r storfeydd. Efallai y bydd hynny, unwaith eto, yn helpu i fynd i'r afael â diffygion o ran storio. Ac mae llawer o'r cynlluniau hyn eisoes wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, drwy gynlluniau grant, fel y grant cynhyrchu cynaliadwy, ac yn amlwg, ein cynlluniau grant busnes i ffermydd hefyd.
Nid yw'r cyfnodau gwaharddedig yn berthnasol i dail sydd â chyfran isel o nitrogen ar gael yn rhwydd, ac mae hynny'n cynnwys tail buarth, sydd, unwaith eto, yn llawer mwy cyffredin ar ffermydd llai, fel yr un y cyfeirioch chi ati, ac mae'r rheoliadau hefyd yn caniatáu storio tail buarth mewn tasau mewn caeau.
Rwyf wedi crybwyll yn yr ychydig ddadleuon rydym wedi’u cael yn y Siambr y bydd cyfnod pontio, yn amlwg, a bydd cymorth ariannol yn cynyddu. O ganlyniad i gyflwyno'r rheoliadau newydd hyn gyda'r cyfnodau pontio hynny, byddaf yn gallu cynorthwyo ffermwyr i gydymffurfio â'r safonau newydd, lle na allwn wneud mwy na chefnogi buddsoddiad uwchlaw'r gofyniad rheoliadol yn flaenorol, a bydd y gallu i wneud hynny yn parhau hyd at fis Gorffennaf 2025. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu mewn pedair blynedd. Roedd yn bwysig iawn, yn fy marn i, ein bod yn cynnwys hynny. Ond yn amlwg, wrth inni fynd drwy'r pedair blynedd nesaf hyd at 2025, bydd y gwaith monitro'n mynd rhagddo.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ffermwyr, undebau’r ffermwyr a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol wedi galw'r swm a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r mesurau hyn ar waith yn un cwbl annigonol. Nawr, er bod gennyf gryn dipyn o barch tuag at yr AC dros Gaerffili, nid yw ei reswm dros beidio â phleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf yn gwneud unrhyw synnwyr pan ddywed fod dau lygrwr mawr yn ei etholaeth—mae'n datgelu dadleuon y Gweinidog dros gosbi'r diwydiant cyfan. Dylai ymyrraeth fod yn un sydd wedi'i thargedu. Felly, Weinidog, pam yr aethoch yn erbyn holl gyngor y sector amaethyddol a rhoi strategaeth a allai fod mor drychinebus ar waith yn gyffredinol?
Wel, y gwir amdani, David Rowlands, fel y dywedaf, yw bod £44.5 miliwn o gyfalaf wedi'i neilltuo i hyn eisoes, ynghyd â chyllid pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac yn amlwg, dim ond ar sail un flwyddyn y gallwn wneud hynny gan mai dim ond cyllideb blwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei chael gan Lywodraeth y DU. Ond rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn y byddai cymorth ar gael i'r sector ffermio mewn perthynas â'r rhain.
Yr hyn nad ydych yn ei ddeall yn ôl pob golwg yw bod y rheoliadau wedi'u targedu. Ni allwn wneud hyn mewn ardaloedd penodol oherwydd nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol rydym yn eu gweld ledled Cymru. Ond bydd y rheoliadau wedi’u targedu, ac mae’r rhan fwyaf o ffermydd eisoes yn bodloni’r gofyniad sylfaenol hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gennym y gofyniad sylfaenol i wella a lleihau nifer yr achosion sydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn destun cywilydd i’r sector amaethyddol.