1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2021.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Cyd-bwyllgor y Gweinidogion? OQ56481
Diolch yn fawr i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Jest i ddweud,
mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn siom, ac yn un a achoswyd gan Lywodraeth y DU. Nid yw wedi cyfarfod mewn fforwm llawn ers 2018, pan oedd ef yn bresennol ddiwethaf ar ran Cymru, ac nid yw wedi cael ei gynnull unwaith fel y fforwm i lunio ymateb pedair gwlad i'r argyfwng iechyd cyhoeddus.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A ydych chi'n rhannu fy siom bod Llywodraeth y DU wedi claddu cyhoeddiad adolygiad Dunlop, a fydd yn cyfrannu cymaint at y peirianwaith rhynglywodraethol sydd gennym ni yma yn y DU? A yw'n rhannu gyda mi yr angen i gael system briodol lle gall Llywodraethau gydweithio i wneud penderfyniadau ledled y DU? A yw'n cytuno â mi bod angen proses datrys anghydfodau ddiduedd, nad oes gennym ni ar hyn o bryd, a ffordd well o weithio gyda'n cyfeillion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon?
Rwy'n ymwybodol o'r ffaith mai dyma'r tro olaf y byddaf i'n siarad yn y Senedd. Nid dyma'r tro olaf y byddaf i'n mynegi barn, rwy'n siŵr, ar y mater hwn. Prif Weinidog, a ydych chi'n edrych ymlaen at ddiwrnod pan fydd gan y DU gyfansoddiad priodol, strwythur priodol, adeg pan fo rheolaeth y gyfraith wedi'i hymgorffori yn y gyfraith ac nid yn gonfensiwn yn unig, ac adeg pan fo Cymru yn bartner llawn a chyfartal yn llywodraethiant y DU?
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol, y tro diwethaf y bydd y cyn Brif Weinidog yn cymryd rhan yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, y dylai droi yn ôl at bwnc y mae wedi arwain y ddadl arno ers degawd ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n ei longyfarch yn llwyr ar hynny. Rydym ni'n ddyledus iawn iddo am yr etifeddiaeth yr ydym ni'n manteisio arni nawr.
Mae yn llygad ei le am adolygiad Dunlop. Rwy'n cofio siarad gyda Phrif Weinidog y DU ar y pryd, Mrs May, am ei rhesymau dros sefydlu adolygiad Dunlop. Rhoddais dystiolaeth i adolygiad Dunlop fy hun. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r cyfraniadau a wnaeth yr Arglwydd Dunlop yn ystod hynt y Bil marchnad mewnol drwy Dŷ'r Arglwyddi. Pe byddai'r Llywodraeth wedi bod yn ddigon doeth i gymryd ei gyngor bryd hynny, ni fyddem ni yn y sefyllfa ofnadwy o anodd yr ydym ni ynddi o ganlyniad i'r darn anghyfansoddiadol hwnnw o ddeddfwriaeth.
Mae adolygiad Dunlop wedi bod gan Brif Weinidog y DU ers ymhell dros flwyddyn, ac eto mae'n gwrthod caniatáu iddo gael ei gyhoeddi allan o Downing Street. A'r rheswm y mae'n gwrthod, rwy'n amau, yw oherwydd ei fod yn cynnig argymhelliad gwahanol iawn ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig, argymhelliad tebyg iawn i'r un y mae Carwyn Jones wedi ei amlinellu: un sy'n seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb cyfranogiad, parch at ein gilydd, annibyniaeth o ran osgoi a datrys anghydfodau, a chyfansoddiad sydd wedi ei ymgorffori a'i wreiddio yn y gyfraith, ac nad yw yn nwylo un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â chladdu adolygiad Dunlop, mae'r Llywodraeth hon bellach wedi cymryd dros dair blynedd i gwblhau'r adolygiad rhynglywodraethol a gomisiynwyd yng nghyfarfod llawn diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr oedd Carwyn Jones yn bresennol ynddo. Sut y mae'n bosibl bod yn ffyddiog bod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb gwirioneddol mewn sicrhau dyfodol i'r Deyrnas Unedig pan, ar bob cyfle y mae'n ei gael i wneud rhywbeth cadarnhaol ac adeiladol i'r cyfeiriad hwnnw, byddai disgrifio ei gweithredoedd fel araf y ffurf fwyaf hael posibl o ddisgrifio’r ffordd y maen nhw'n ymddwyn?
Prif Weinidog, ers i chi ddod i rym ym mis Rhagfyr 2018, rydych chi wedi bod yn feirniad cyson o Lywodraeth y DU. Rydych chi, mewn gwirionedd, nid yn unig wedi bod yn feirniadol, ond rydych chi wedi ceisio tanseilio polisi Llywodraeth y DU yn rheolaidd, yn enwedig o ran Brexit, ac yn ddiweddar fe wnaethoch chi ddisgrifio Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fel bod yn ofnadwy. Nid yw hynny yn hwyluso perthynas waith gadarnhaol rhwng Gweinidogion. A ydych chi'n derbyn, er mwyn i Lywodraeth nesaf Cymru gael perthynas waith dda â Llywodraeth y DU, y bydd angen i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr ym mis Mai?
Llywydd, mae pleidlais i'r Blaid Geidwadol ym mis Mai yn bleidlais i drosglwyddo Cymru i Whitehall, oherwydd dyna bolisi Llywodraeth Geidwadol y DU. Bydd yn dadwneud datganoli lle bynnag y gall, yn ein rhoi ni yn ôl yn ein lle, gan frwydro â Llywodraethau datganoledig yn hytrach na gweithio gyda ni. Rwy'n feirniadol o Lywodraeth y DU, wrth gwrs fy mod i, ond rwy'n ei wneud gan fy mod i'n credu yn gryf yn nyfodol y Deyrnas Unedig, ac eto mae gennym ni Lywodraeth yn San Steffan sydd bob dydd yn bwydo tân cenedlaetholdeb oherwydd y ffordd gwbl amharchus y mae'n trin cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, oherwydd ei methiant i gyflawni'r rhwymedigaethau mwyaf sylfaenol, fel cyhoeddi adolygiad Dunlop a chwblhau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol.
Mae cymaint y gellir ei wneud, ac rwy'n credu bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, dan arweiniad Carwyn Jones ac yn yr amser yr wyf i wedi bod yn Brif Weinidog, wedi arwain y ffordd o ran cyflwyno cynigion cadarnhaol ac adeiladol ynghylch sut y gall y Deyrnas Unedig barhau i fod yn llwyddiant. Dyna yr wyf i eisiau ei weld. Mae'r esgeulustod o hynny gan Lywodraeth y DU, eu cred mai'r ffordd i ymdrin â'r Deyrnas Unedig yw dileu hanes yr 20 mlynedd diwethaf, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cael ei nodweddu gan unochroldeb ymosodol ar eu rhan nhw, yn rysáit ar gyfer chwalu'r Deyrnas Unedig. Dyna pam yr wyf yn feirniadol o Lywodraeth y DU, oherwydd mae'n ein tywys ni i gyd yn ddifeddwl i ddyfodol lle mae'r union beth yr wyf i eisiau ei weld yn cael ei osgoi yn dod yn fwy tebygol.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi a'r Cwnsler Cyffredinol wedi codi cwestiwn Erasmus+ yn y Cydbwyllgor Gweinidogion. O ystyried y penderfyniad hynod siomedig gan Lywodraeth y DU i droi eu cefnau ar y rhaglen hynod lwyddiannus hon o gyfnewidiadau dysgu, a fyddech chi'n cytuno â mi bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn ariannu rhaglen ddysgu gyfatebol newydd ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd yn hwb enfawr i bobl ifanc yng Nghymru?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am hynna? Rwy'n cofio yn dda iawn bod yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd pan ofynnodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, David Lidington, i ni gyfrannu at restr o'r sefydliadau Undeb Ewropeaidd hynny y byddem ni'n dymuno aros yn aelodau ohonyn nhw ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ei hun. Mae aelodaeth o Erasmus+ ar gael i wledydd ymhell y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, a gallaf sicrhau'r Aelod ei bod bob amser ar frig y rhestr o bethau y gwnaethom ni ddadlau drostyn nhw, ochr yn ochr â'r Alban, ochr yn ochr â Gogledd Iwerddon, i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gael o hyd i bobl ifanc yma yng Nghymru. Ac roedd yn weithred o fandaliaeth ddiwylliannol syml gan Lywodraeth y DU i droi ei chefn ac, yn bwysicach, gwrthod cynnig i bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig y cyfleoedd parhaus y byddai Erasmus+ yn eu cynnig.
Rydym ni wedi parhau i wneud y ddadl—rydym ni wedi dadlau a dadlau nad yw'n rhy hwyr i'r Deyrnas Unedig fanteisio ar y cyfle hwnnw—a dim ond Llywodraeth y DU sydd wedi gwrthod gwneud hynny, ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eglur, heb unfrydedd ymhlith pedair gwlad y DU, nad ydyn nhw'n gallu cynnig y cyfle hwnnw i ni. Dyna pam y gwnaethom ni'r cyhoeddiad a wnaethom dros y penwythnos, cyhoeddiad yr wyf i'n hynod falch ohono: rhaglen aml-flwyddyn sy'n sicrhau ar gyfer tymor nesaf cyfan y Senedd y bydd ein pobl ifanc yn gallu teithio dramor, gweithio dramor, astudio dramor, ac y bydd pobl ifanc o fannau eraill yn y byd yn dod yma i Gymru. Rydym ni'n cael cymaint mwy allan o hynny nag yr ydym ni'n ei gyfrannu ato.
Roeddwn i'n bresennol yn ddiweddar ar Ddydd Gŵyl Dewi mewn digwyddiad gyda myfyrwyr Seren yn Unol Daleithiau America—pedwar o bobl ifanc o Gymru yn astudio ym mhrifysgolion Harvard, Yale, Chicago a Princeton, prifysgolion Ivy League bob un ohonyn nhw. Roedden nhw'n eistedd yno yn eu hystafelloedd gyda baner Cymru y tu ôl iddyn nhw. Maen nhw'n llysgenhadon dros Gymru bob un dydd, a'r bobl ifanc a fydd yn dod i Gymru a'r bobl ifanc a fydd yn mynd o Gymru i 50 o wahanol wledydd nawr, o ganlyniad i'r cynllun hwn, fydd ein llysgenhadon gorau. Ni allwn fod yn fwy balch o'r ffaith ein bod ni bellach wedi rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw a dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw hefyd.