1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru? OQ56499
Un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth hon yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau annerbyniol mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf cefnog. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd.
Weinidog, mae anghydraddoldebau iechyd yn y DU a Chymru yn peri cryn bryder. Mae dynion yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn byw 10 mlynedd yn llai ar gyfartaledd na'r rheini yn y cymunedau lleiaf difreintiedig, ac i fenywod, mae'r gwahaniaeth bron yn wyth mlynedd. Ac o ran blynyddoedd iach bywyd, mae'r gwahaniaeth bron yn 19 mlynedd, ac mae hynny'n wir am y ddau ryw. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, dyna pam y cyfarfu Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru ag oddeutu 30 o sefydliadau i edrych ar y sefyllfa hon, ac i ystyried ymchwil a ddangosai y gallai penderfynyddion cymdeithasol iechyd neu afiechyd—tai, addysg a thlodi—fod yn bwysicach i ganlyniadau iechyd na gofal iechyd ei hun, neu'n wir, dewisiadau ynghylch ffordd o fyw. Felly, wrth edrych ar y sefyllfa hon, credant y dylai Llywodraeth Gymru fabwysiadu dull mwy trawsbynciol a chynnwys pob Gweinidog a phob adran i newid yr hyn sydd angen ei newid er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa gwbl annerbyniol hon.
Felly, clywais yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog, am ddull Llywodraeth gyfan, ond o ran yr awgrymiadau a’r cynigion hynny gan y coleg brenhinol a’r oddeutu 30 o sefydliadau hynny, a wnewch chi ystyried yn ofalus yr hyn y credant sydd ei angen wrth benderfynu sut y gallwn wneud rhagor o gynnydd ar y materion a'r problemau hirsefydlog hyn?
Ie, credaf fod adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon yn ddefnyddiol i'n hatgoffa o'r angen i weithredu mewn modd trawslywodraethol, gan nad yw'r rhan fwyaf o anghydraddoldebau gofal iechyd yn deillio o weithgarwch gofal iechyd, maent yn deillio o'r penderfynyddion allanol hynny. Dyma pam, er enghraifft, fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod effaith uniongyrchol ein gwelliannau i ansawdd tai ar ofal iechyd. Mae'r ffaith bod cael cartref cynnes o ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch iechyd wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac mae ein dull o weithredu yma yng Nghymru wedi cael ei ganmol. Rwy'n falch o ddweud y gallwch weld yr arweinyddiaeth barhaus honno gan Julie James fel ein Gweinidog tai, yn y ffordd y caiff ansawdd y stoc dai ei wella a'r ôl troed amgylcheddol hefyd. Gallwch weld hynny yn y gwaith ar draws addysg, y gwaith rydym wedi'i wneud a'r sgyrsiau ddoe gyda Kirsty Williams a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am yr ymagwedd ehangach tuag at iechyd plant a phobl ifanc, a'u llythrennedd iechyd ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol. Gallwch ei weld yn y gwaith y mae Ken Skates wedi'i wneud ar y contract economaidd, yn sicrhau y ceir dealltwriaeth fod iechyd meddwl a chorfforol yn ganlyniadau allweddol i berthynas waith dda, lle mae gan bobl waith da, telerau ac amodau da. Os edrychwch ar anghydraddoldebau gofal iechyd, maent bob amser yn cydredeg ag anghydraddoldebau economaidd yn ogystal. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, cynnydd y credaf y gallwn fod yn falch ohono. Gwyddom fod llawer mwy i'w wneud a chyfle gwirioneddol i wneud hynny wrth inni geisio ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig hwn, i orffen y gwaith gyda’r pandemig ac ailadeiladu Cymru well a thecach.
Diolch, Weinidog. Ydy, mae'n wir iawn fod yn rhaid mabwysiadu dull trawsbynciol a thrawslywodraethol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem sylweddol hon. Mae'r pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yn glir, ac wedi datgelu canlyniadau methiant hirsefydlog i fynd i'r afael â'r broblem. Ni fu erioed cymaint o angen mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol anghydraddoldebau iechyd, fel y dywedoch chi, ac efallai na ddaw gwir raddfa goblygiadau’r pandemig hwn i iechyd a lles pobl Cymru yn glir am sawl blwyddyn eto.
O ran mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn benodol, Weinidog, sut rydych chi'n edrych ar wella darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn sylweddol, darpariaeth gofal iechyd sy'n parchu gwahaniaethau diwylliannol ac sy'n cydnabod y nifer o ieithoedd sy'n cael eu siarad yn ein cymunedau fel y gallwn greu cydraddoldeb gwirioneddol yn y ddarpariaeth?
Wel, ar y mater penodol ynghylch cymunedau o darddiad du ac Asiaidd yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud cryn dipyn i gydnabod ein hangen i wella ein gwasanaethau, boed ar gyfer iechyd meddwl neu'n iechyd corfforol. Rydym wedi dysgu mwy fyth ac yn gwneud mwyfwy o waith drwy’r pandemig—er enghraifft, gwaith yr Athro Emmanuel Ogbonna ar ddeall mwy am yr anghydraddoldebau hynny, gwaith yr Athro Keshav Singhal yn cyflawni gwaith asesu risg, yr enghraifft gyntaf yn y DU sy’n cael ei chyflwyno i rannau eraill o'r sector preifat, ond hefyd y broses o gyflwyno’r brechlyn hefyd. Ac o gofio mai John Griffiths a ofynnodd y cwestiwn cychwynnol, efallai ei bod yn briodol sôn am y gwaith y mae John Griffiths a Jayne Bryant wedi'i wneud gyda Chyngor Dinas Casnewydd, gyda'r bwrdd iechyd, ar annog mwy o bobl i gael eu brechiadau, a hefyd ar sicrhau bod y gwasanaeth iechyd a’n systemau gofal ehangach yn ailymgysylltu'n ehangach â gwahanol gymunedau nad ydynt bob amser mor agos at rannau eraill o'r wlad o ran cael mynediad at ofal iechyd o ansawdd da. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud nid yn unig ar un mater, ond i symud hynny yn ei flaen yn fwy cyffredinol.
Fodd bynnag, ar heriau anghydraddoldebau gofal iechyd, byddwn yn dweud wrth yr Aelod, ac unrhyw Geidwadwr arall sydd am geisio honni nad oes ganddynt gyfrifoldeb yn y maes hwn, fod pob dadansoddiad gwrthrychol yn dangos bod polisïau cyni'r Ceidwadwyr a’u hymosodiadau ar fudd-daliadau a chymorth i bobl o oedran gweithio, gan gynnwys budd-daliadau mewn gwaith, wedi cael effaith ddifrifol ar gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb, yn enwedig ar leihau'r gwelliannau a wnaed dros ran gyntaf yr 20 mlynedd diwethaf mewn perthynas â threchu tlodi plant, gan fod pob un ohonynt wedi’u colli diolch i’r dewisiadau a wnaed gan ei phlaid. Felly, rhywfaint o hunanfyfyrdod, efallai, ar rôl polisïau Ceidwadol a'r realiti rydym wedi gorfod ymladd yn ei erbyn er mwyn dadwneud y difrod y mae ei phlaid wedi dewis ei achosi.
Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o'r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotach gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ac os yw'n cytuno â mi ar hynny, a wnaiff ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl bartneriaid eraill ar ddatblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd wedi'i leoli ynghanol rhai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru? Rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol y bydd yn cynnwys canolfan gofal clinigol a fydd yn darparu gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil clinigol a chanolfan sgiliau llesiant i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolbwyntio'r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o'r cymunedau hynny eu hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â hynny, a tybed a yw'n cytuno y gall y mathau hyn o brosiectau wneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau lle mae fwyaf o'u hangen.
Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trafod y mater gyda'r Aelod etholaeth dros Lanelli, fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, Lee Waters, ac yn fwy cyffredinol, yr her o fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad. Ac mae'n enghraifft dda o sut y gellir a sut y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i ddarparu cyfleusterau o ansawdd gwell, i fuddsoddi yn y gymuned honno ac i ddarparu gwell gwasanaethau, yn yr un ffordd yn union â'r cyfleuster a agorwyd yn ddiweddar yn Aberpennar a welais gyda’r cyngor a'r Aelod lleol dros Gwm Cynon—mae lobïo ac effeithiolrwydd hynny'n dangos nad yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae’n ymwneud ag iechyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu gwell cyfleusterau. Ac unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol sydd wedi gwella'n sylweddol drwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac mae cyfle go iawn yma i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a darparu cyfleusterau llawer gwell lle mae fwyaf o'u hangen.