– Senedd Cymru am 2:28 pm ar 8 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu tri datganiad at yr agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar statws preswylwyr sefydlog yr UE ac yn olaf, bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar y gronfa seibiant a seibiannau byr ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog chwaraeon. Nid wyf i'n siŵr a ydych yn ymwybodol o'r newid enfawr sy'n digwydd ym maes pêl-droed menywod yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg o drafodaethau trawsbleidiol yr wyf i wedi'u cael gydag Aelodau eraill ledled y Senedd bod gan bawb yma'r brif nod o wella pêl-droed menywod yng Nghymru a sicrhau ei bod yn gystadleuol a'i bod yn llwyddo. Rwy'n canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am gydnabod yr angen i ddiwygio a buddsoddi yn y gêm hon i fenywod yma yng Nghymru gan fod taer angen buddsoddi yn ein clybiau, ac mae angen inni fod yn fwy cystadleuol yn y DU ac ar lwyfan byd-eang. Fodd bynnag, mae'r ganmoliaeth yn dod i ben yno, Gweinidog busnes, gan fod y broses ad-drefnu weinyddol a ddefnyddiwyd i geisio cyflawni'r nod hwn yn amheus ac yn annheg.
Mae timau ledled fy rhanbarth i wedi cael eu digalonni a'u drysu gan gyhoeddiadau diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch pa glybiau yng Nghymru fydd yn symud i lawr i haen 2. Mae'n ymddangos bod diffyg tryloywder yn y broses ei hun o ran sut y daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gasgliadau ynghylch pwy fydd yn cael eu symud i lawr i haen 2, sy'n codi llawer o gwestiynau ynddo'i hun, ond hefyd y diffyg pwyslais sydd yr un mor ddryslyd a roddir i'r haeddiant o ran chwaraeon, y perfformiad ar y cae. Menywod y Fenni yw'r enghraifft orau o hyn. Maen nhw, sydd yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, wedi cyrraedd y pedwerydd safle yn y gynghrair, maen nhw’n gystadleuol iawn, ac yn gwneud yn dda iawn yn erbyn clybiau mwy yn yr ardal. Eto i gyd, maen nhw wedi'u symud i lawr i haen 2, nid oherwydd eu galluoedd ar y cae, oherwydd maent wedi llwyddo i ddod yn bedwerydd yn y gynghrair, ond efallai oherwydd dim ond diffyg cefnogaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i lenwi ffurflenni. Mae angen ailstrwythuro a buddsoddi yng ngêm y menywod yma yng Nghymru, ond nid fel hyn. Gan fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru, drwy gyngor chwaraeon Cymru, yn cael arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae'n briodol felly bod y Dirprwy Weinidog bellach yn ymyrryd, a byddaf i, ochr yn ochr â llawer o bobl ledled y Siambr hon, yn gofyn yn awr iddi ofyn am eglurder gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'u bod yn ailystyried y broses hon, yn enwedig yn y flwyddyn drosiannol hon.
Pob clod i Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog chwaraeon newydd, mae hi eisoes wedi gofyn am friff ar hyn. Ond mae'n iawn nawr, Gweinidog, ei bod yn gwneud datganiad ar broses a dyfodol y newid enfawr hwn mewn chwaraeon menywod yma yng Nghymru, a sut mae'r broses, y cytunwyd arni ledled y pleidiau, wedi methu ac yn bell o gyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan gorff y Llywodraeth. Diolch.
Bydd fy ateb i'n llawer byrrach na'r cwestiwn, gallaf eich sicrhau chi, Llywydd.
Rwy'n deall bod ailstrwythuro gêm ddomestig y menywod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi arwain at nifer o newidiadau, gan gynnwys cynghrair lai ar gyfer y tymor nesaf. Mae'n fater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer pêl-droed yma yng Nghymru, ond rydych chi'n hollol gywir—mae Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, wedi gofyn i'w swyddogion gyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhoi rhagor o wybodaeth iddi, a byddaf i'n gofyn iddi wneud datganiad i'r Siambr yn dilyn yr wybodaeth bellach honno.
Prynhawn da. Os teithiwch chi drwy Ddwyfor Meirionnydd, fe welwch chi'n anffodus amryw o adeiladau cyhoeddus sydd wedi'u cau ac yn eistedd yn wag, boed yn dafarndai neu'n gapeli neu'n eglwysi ac yn y blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gymorth ychwanegol medrwch chi ei roi i sicrhau bod cymunedau yn medru cymryd perchnogaeth ar yr adnoddau hynny er mwyn medru datblygu cynlluniau cymunedol a fydd yn cryfhau'r economi gylchol a sicrhau na fydd digwyddiadau fel y gwelwyd ym Mhistyll, wrth i'r gymuned honno golli Bethania, yn digwydd eto yn y dyfodol?
Diolch, Mabon ap Gwynfor, am y cwestiwn hwnnw. Byddwch chi'n ymwybodol bod yna raglen cyfleusterau cymunedol ar gael. Dyna ein prif gynllun ers blynyddoedd nawr, ac mae wedi bod yn dda iawn gweld nifer yr adeiladau cyhoeddus sy'n dod yn ôl i berchnogaeth, a chymunedau'n cymryd drosodd y gwaith o gynnal yr adeiladau hynny. Rwy'n deall y bydd y cylch ariannu nesaf ar gael yn y dyfodol agos iawn.
Gweinidog, wrth inni aros am y broses hirddisgwyliedig o ddatganoli plismona i Gymru, a gaf i ofyn am un datganiad? Ac mae'n ymwneud â'r dull presennol sydd gennym ni yng Nghymru o ymgysylltu â'r cyhoedd, sefydliadau cymdogaeth a chynrychiolwyr etholedig ar fater yr heddlu a diogelwch cymunedol. Rwy'n pryderu rywfaint bod fframwaith gwreiddiol cyfarfodydd PACT—yr Heddlu a Chymunedau Gyda'n Gilydd—a oedd, er nad oedd yn berffaith ac yn amrywio'n fawr o le i le, yn caniatáu ymgysylltu rheolaidd a systematig â'r cyhoedd sy'n wynebu tuag allan ac yn gosod blaenoriaethau plismona a diogelwch cymunedol—. Rwy'n poeni ei fod wedi cael ei erydu'n raddol dros amser. Efallai y bydd angen dechrau o'r dechrau, mewn gwirionedd, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gomisiynydd yr heddlu a'r prif gwnstabl yn fy ardal i, a'r ddau arweinydd awdurdod lleol, i gael eu hymateb nhw ar y mater hwn hefyd.
Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn, a allai gynnwys asesiad o gyflwr ymgysylltu â'r cyhoedd ar blismona a diogelwch cymunedol, a'r blaenoriaethau cymunedol pwysig iawn hynny yng Nghymru ar ddiogelwch cymdogaethau a chymunedau? Gallai hefyd ymdrin â'r materion sy'n ymwneud â diffyg cofnodi troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd, yn ogystal â'r defnydd effeithiol o swyddogion cymorth yr heddlu a'r gymuned, ac adrodd ar ystadegau troseddu a niwsans lleol hefyd. Felly, dyna yw fy nghais i, ac rwy'n credu ei fod yn un rhesymol, oherwydd mae ein pwerau datganoledig yn bendant yn ymestyn i'r maes hwn er nad oes gennym ni blismona wedi'i ddatganoli eto.
Diolch. Ac, fel y dywedwch chi, nid yw ymdrin â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn faterion sydd wedi'u datganoli'n uniongyrchol. Ond, wrth gwrs, mae llawer o'r ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol wedi'u datganoli, ac rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud i bobl Cymru deimlo'n ddiogel. Rydym wedi diogelu buddsoddiad mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22; mae gennym gyllideb o £18.5 miliwn. Ac wrth gwrs, fel mae Huw yn gwybod, ymrwymwyd yn ein maniffesto i ariannu 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol yn ystod tymor nesaf y Llywodraeth. Mae gennym berthynas gref iawn â phedwar heddlu Cymru, ac rydym wedi ymgysylltu'n rheolaidd â'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol ynghylch materion sy'n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod gennym ni'r bwrdd plismona a phartneriaethau yng Nghymru. Mae hwnnw'n cael ei gadeirio naill ai gan y Prif Weinidog neu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae hynny'n gyfle i ddatblygu blaenoriaethau strategol ar y cyd i sicrhau bod cymunedau Cymru yn ddiogel, yn gryf ac yn gadarn.
Prif Weinidog—. Rwy'n ymddiheuro. Mae trigolion Cas-gwent yn parhau i bryderu am lefelau annerbyniol o dagfeydd traffig a llygredd. Mae'r broblem hon wedi'i gwaethygu gan bobl yn preswylio yng Nghoedwig Deon gyfagos, sydd wedi gwaethygu traffig oriau brig. Mae adroddiad peirianyddol cychwynnol ar adeiladu ffordd osgoi wedi'i gynnal, ac er mwyn i hyn fynd rhagddo mae angen ail adroddiad, gan fanylu ar yr holl opsiynau, amcangyfrif costau, ac ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd angen rhannu cost y gwaith adeiladu rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cynghorau sir Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r rhanddeiliaid eraill i ddarparu'r ffordd osgoi y mae ei hangen yn fawr ar Gas-gwent?
Diolch. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, a fydd yn gyfrifol am y maes polisi hwn, yn parhau i gael trafodaethau â Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol ac unrhyw bartneriaid eraill.
Ar gychwyn haf o bêl-droed, rwy'n gofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd y gêm ar lawr gwlad. A hoffwn ofyn hefyd am safbwynt y Llywodraeth ar yr ailstrwythuro a gafwyd i bêl-droed menywod yng Nghymru yn ddiweddar. Mae dau dîm yn fy rhanbarth i—Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni a Cascade Ladies—wedi'u symud i lawr o brif gynghrair menywod Cymru. Bydd effaith ganlyniadol yr ailstrwythuro hefyd yn gweld Menywod y Coed Duon yn gostwng i'r drydedd haen. Nawr, mae'r rhain yn dimau balch a llwyddiannus—maen nhw'n rhan o'r gymuned—ac mae'r penderfyniad wedi bod yn dorcalonnus i chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr. Rwy'n sylweddoli mai'r rheswm dros yr ailstrwythuro yw cryfhau'r gêm ddomestig yng Nghymru, ond rwyf wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi i gwestiynu'r broses, i ofyn pam y chwaraeodd haeddiant o ran chwaraeon, fel sydd y codwyd eisoes, ran mor fach yn y system sgorio, oherwydd siawns na ddylai'r ffordd y mae timau'n perfformio ar y cae fod yn hanfodol i benderfyniad fel hwn. A chodwyd cwestiynau hefyd ynghylch a yw cyllid y clybiau a'r ffaith fod ganddyn nhw fantais seilwaith da yn cyfrif am fwy na'r hyn y maen nhw wedi'i gyflawni. At hynny, ni chyhoeddwyd sgoriau pob clwb, sy'n codi cwestiynau o ran tryloywder. Nawr, Trefnydd, rwy'n sylweddoli mai cwestiynau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw'r rhain, ond bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith sylweddol ar gyfranogiad menywod mewn pêl-droed yn yr ardaloedd hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth gymryd safiad arno. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn cydnabod rhan bwysig pêl-droed menywod a chwaraeon ar lawr gwlad? Ac a all y Llywodraeth ddweud hefyd a fydden nhw'n cefnogi adolygiad annibynnol o'r broses ailstrwythuro?
Diolch. Gobeithio i chi glywed fy ateb i Laura Jones ar ddechrau fy nghwestiwn heddiw. Ac rwyf i wedi ymrwymo Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyflwyno datganiad ar ôl iddi gael rhagor o wybodaeth gan ei swyddogion. Rydych chi'n hollol gywir—mae dim ond angen edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld faint o ofid a chynnwrf y mae hyn wedi'i achosi.
A allwch chi ddyfalu am beth yr wyf i'n mynd i ofyn? [Chwerthin.] Rwy'n credu bod anfedrusrwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyflawni'r gamp yn y Siambr hon o ddod â'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Blaid Lafur at ei gilydd, oherwydd rydym yn gwbl unedig ar hyn. Ac mae Delyth Jewell, Laura Jones, Peter Fox a minnau ac eraill—a Dave Rees hefyd, i Lansawel—wedi cael y sgyrsiau hyn. Rydym ni'n bryderus iawn. Cascade Ladies YC—fy nhref enedigol i, lle cefais fy ngeni, lle cefais fy magu. Mae gennym bryderon dybryd ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bêl-droed ar lawr gwlad yn Nwyrain De Cymru, na fydd ganddyn nhw unrhyw gynrychiolaeth yn uwch gynghrair y menywod. O ystyried y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i chwaraeon ar lawr gwlad, rydym o leiaf yn haeddu tryloywder, a dyna'r hyn yr ydym ni'n galw amdano ar y cyd—mae Delyth, Laura, fi fy hun ac eraill yn galw am y tryloywder hwnnw. Ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl yn bendant i ofyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru egluro ei meddylfryd ac ailystyried.
Diolch. Nid wyf yn credu y gallaf i ychwanegu unrhyw beth arall, ond rwy'n deall yn iawn pam mae cynifer o Aelodau wedi bod yn awyddus i godi hyn ac i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru. Rwyf fi hefyd—. Efallai y gallaf ychwanegu y byddwn i'n annog y clybiau eu hunain i sicrhau eu bod yn codi eu pryderon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn deall y ffordd y mae pobl yn teimlo ynghylch hyn, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae wedi dod â chonsensws ledled y Siambr.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i leoliadau priodas yng Nghymru. Pan holais i'r Prif Weinidog ynghylch derbyniadau priodas bythefnos yn ôl, gan gyferbynnu darpariaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr â chyfyngiadau parhaus Llywodraeth Cymru, atebodd y Prif Weinidog,
'mae gennyf gydymdeimlad enfawr â'r teuluoedd niferus sydd wedi trefnu ac aildrefnu derbyniadau priodas.... Ond nid wyf yn ymddiheuro o gwbl'.
Fodd bynnag, mae un perchennog lleoliad priodas yn Sir y Fflint, sydd dan bwysau, wedi e-bostio i ddweud bod 'grantiau newydd mor isel fel eu bod wedi cael cynnig uchafswm o tua £7,000 ar gyfer y cyfnod o ddiwedd mis Mawrth hyd at nawr. Rwy'n deall y risgiau gyda COVID, ond mae angen inni naill ai gael cynnig grant realistig neu agor yn gyfan gwbl oherwydd, fel y mae pethau, dim ond mater o amser yw hi nes y bydd yn rhaid inni gau.' A chafwyd e-bost gan reolwr cyffredinol lleoliad priodas ger Llangollen ddoe, 'Yr wythnos diwethaf, cafodd sylwadau Mr Drakeford yn ystod yr adolygiad diweddaraf ganlyniad trychinebus ar briodasau sydd i fod cael eu cynnal yr haf hwn. Maen nhw—Llywodraeth Cymru—wedi dweud wrthym ni na fyddwn y clywed rhagor o newyddion tan yr adolygiad nesaf ar 21 Mehefin. Ni all lleoliadau priodas, cyflenwyr a chyplau aros mor hir â hynny. Bydd busnesau Cymru yn dioddef. Rydym ni i gyd wedi cael profiad o archebion yn cael eu canslo ac yn cael eu symud i Loegr ar gyfer priodasau ddiwedd Gorffennaf ac Awst. Mae'n ergyd ddinistriol arall. A oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud, neu unrhyw un y gallwch chi siarad ag ef i'n helpu ni?' Wel, dyna'r hyn yr wyf i'n ei wneud, ac rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.
Diolch. Yn amlwg, gwnaeth y Prif Weinidog gyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf ar yr adolygiad diweddaraf o reoliadau COVID, a bydd yr adolygiad nesaf ar 25 Mehefin, fel y cyfeiriodd Mark Isherwood ato. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, gan ein bod yn amlwg yn agor mwy o sectorau a mwy o rannau o gymdeithas, y bydd angen inni ystyried rhannau eraill o'r sectorau sydd ar gau ac a oes angen inni weithredu cyllid penodol ar eu cyfer. Oherwydd mae gennym ni rywfaint o arian ar gael o hyd, ac mae'n amlwg bod lleoliadau priodas yn faes y gallwn ni yn sicr eu hystyried. Yn amlwg, roedd cyhoeddiad ddydd Gwener o ran nifer y bobl sy'n gallu mynd i briodas y tu mewn a'r tu allan, ac mae'n rhaid asesu hynny o ran risg. Felly, os oes gennych chi sefydliad sy'n trefnu'r briodas ichi yna mae'n amlwg y gallan nhw gynnal yr asesiad risg hwnnw. Ond mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cabinet yn ei adolygu'n barhaus.
Trefnydd, byddwch chi'n ymwybodol, fel yr ydym ni wedi'i glywed heddiw, fod y cynlluniau ar gyfer bae Abertawe a metro gorllewin Cymru wedi bod yn destun ymgynghoriad yn ddiweddar, a heddiw yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fetro yng Ngorllewin De Cymru, wrth gwrs, ond rydym ni'n credu bod yn rhaid i'r metro gynnwys gwasanaethau rheilffordd a rheilffyrdd ysgafn i gymunedau'r Cymoedd ac ni ddylid eu canolbwyntio ar Abertawe a threfi mawr eraill yn unig. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i'r posibilrwydd o ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd neu reilffyrdd ysgafn i gwm Tawe a dyffryn Aman i gyd. Mae bylchau hefyd o ran dewisiadau trafnidiaeth i gymoedd eraill, megis cymoedd Dulais, Nedd ac Afan. A allwch chi sicrhau bod y Gweinidog perthnasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd o ran polisi a chynlluniau i sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd hyn yn cael eu cysylltu â threfi a dinasoedd yn y de-orllewin? A pha ymrwymiad y gallwch chi ei roi y bydd hyn yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf? Diolch.
Diolch. Efallai eich bod wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sef y Gweinidog fydd â chyfrifoldeb dros y maes hwn, yn amlwg yn gwneud datganiad yn dilyn yr ymgynghoriad. Fel arfer, y broses gyntaf, ar ôl ymgynghoriad o'r math hwn, yw cyhoeddi'r ymatebion, ac rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud hynny.
A gaf i alw ar Weinidog yr economi i wneud datganiad o ran y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drefnwyr gwyliau cerddoriaeth, sioeau amaethyddol a digwyddiadau awyr agored eraill oherwydd yr effaith y mae'r rheol ymbellhau cymdeithasol 2m yn ei chael ar gapasiti? Mae llawer o ddigwyddiadau'n wynebu ail haf o darfu, ac mae rhai eisoes wedi gwneud y penderfyniad anodd, unwaith eto, o ganslo eleni. Mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, sy'n cynnal y sioe amaethyddol ail fwyaf yng Nghymru, wedi gwneud y penderfyniad anodd y llynedd i ddiswyddo eu staff i ddiogelu dyfodol eu sioe, ac ar hyn o bryd maen nhw'n cynnal eu gweithrediadau drwy wirfoddolwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn allweddol i'r economïau gwledig lleol a rhaid sicrhau bod ganddyn nhw'r gefnogaeth sydd ei hangen i ailgychwyn pan fydd y pandemig yn caniatáu hynny.
Diolch. Unwaith eto, byddwch chi wedi clywed y cyhoeddiad a wnaeth y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf ynglŷn â digwyddiadau awyr agored, ac mae hwn yn sicr yn un o'r sectorau yr ydym ni wedi'i gefnogi yn ystod y 15 mis diwethaf. O ran sioeau amaethyddol, mae'n amlwg bod hynny'n rhan o fy mhortffolio i, ac felly rwy'n ymwybodol iawn o'r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud gan gymdeithas sir Benfro. Unwaith eto, rwyf wedi comisiynu darn o waith i ystyried sut yr ydym ni'n ariannu'r sioeau amaethyddol—roedd hyn cyn y pandemig, ond mae'n amlwg bod hynny wedi cael effaith. Ond rydym yn gobeithio, yn sicr y flwyddyn nesaf, y bydd y sioeau hynny'n gallu cael eu cynnal.
Diolch i'r Trefnydd.
Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr er mwyn caniatáu ychychig o newidiadau yn y Siambr.