– Senedd Cymru am 4:09 pm ar 8 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar gronfa i roi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Wrth i ni nodi Wythnos y Gofalwyr, hoffwn dalu teyrnged i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Dylai pob un ohonom barchu a gwerthfawrogi eu hymdrechion bob dydd i ofalu am anwyliaid, ffrindiau a pherthnasau, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19 hwn.
Yr wythnos hon, rydym yn dathlu'r degau o filoedd lawer o ofalwyr di-dâl sy'n rhy aml yn arwyr di-glod. Maen nhw'n rhan annatod o system iechyd a gofal Cymru ac mae angen i ni eu cefnogi a'u helpu i ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae ein harolygon diweddar yn dangos bod traean o oedolion yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl am awr neu fwy yr wythnos. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn amcangyfrif bod gan Gymru dros 21,000 o oedolion ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n ofalwyr, a dros 7,000 o ofalwyr ifanc o dan 16 oed. Cymru hefyd sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos.
Rwy'n credu ei bod yn debygol iawn bod gan lawer ohonom ni yma brofiad uniongyrchol o ofalu am ffrind neu aelod o'r teulu ac sy'n gwybod pa mor anodd y gall fod yn jyglo ymrwymiadau gofalu ochr yn ochr â gwaith neu amser hamdden. Rwy'n credu bod y pandemig wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth y gweithlu gofal cyflogedig, ond mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw gofalwyr di-dâl yn cael eu hanwybyddu.
Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi clywed gan lawer o ofalwyr di-dâl sydd wedi ei chael yn anodd ymdopi heb eu rhwydweithiau cymorth arferol ac rwy'n ymwybodol bod gofalwyr di-dâl o bob oed wedi wynebu heriau, pwysau ac, mewn rhai achosion, wedi colli anwyliaid. Mae gofalwyr di-dâl wedi sôn am anawsterau o ran cael hoe a seibiannau amserol a phriodol i'w helpu i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain. Nid dim ond arhosiad dros nos mewn cartref gofal neu wasanaeth eistedd dros nos i'r person ag anghenion gofal yw seibiant mwyach; gall fod ar sawl ffurf, fel cael amser i ymlacio a mwynhau bod gyda theulu a ffrindiau neu seibiant byr gyda neu heb y person sy'n cael gofal. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r anghenion seibiant hyn, rydym yn darparu £3 miliwn yn 2021-22 i gefnogi gofal seibiant brys a datblygu cronfa seibiannau byr.
Yn y cam cyntaf, darparwyd £1.75 miliwn i 22 awdurdod lleol Cymru i fynd i'r afael â'r angen dybryd am seibiant ymhlith gofalwyr o bob oed wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio. Yng ngham 2, bydd £1.25 miliwn yn datblygu mathau mwy hyblyg ac arloesol o seibiant sydd wedi'u teilwra i angen unigol. Er mwyn llywio'r gwaith hwn, rydym wedi comisiynu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i weithio gydag academyddion blaenllaw i ddrafftio map ffordd tuag at fodel cenedlaethol o seibiant yng Nghymru. Byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn weithio gyda'r sector lletygarwch i ddarparu amrywiaeth o seibiannau byr. Mae'r model hwn, a elwir yn 'respitality', yn gweithredu'n llwyddiannus yn yr Alban ar hyn o bryd.
Mae sicrhau bod yr holl ofalwyr yn weladwy ac yn cael eu gwerthfawrogi yn hanfodol i'w galluogi i gael mynediad at eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wnaethom lansio strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym mis Mawrth, gan ailddatgan ein hymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid a gofalwyr di-dâl i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth iawn. Mae'r strategaeth yn nodi ein blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys ychwanegu blaenoriaeth newydd ar addysg a chyflogaeth. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar gyfer gofalwyr di-dâl, i ddrafftio cynllun cyflawni ategol a fydd yn nodi amserlenni a metrigau ar gyfer monitro cynnydd. Cyhoeddir y cynllun yn hydref 2021. Bydd y strategaeth yn ychwanegu at ein llwyddiannau diweddar o ran cefnogi gofalwyr, fel datblygu cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc; rhannu cronfa galedi gwerth £1.25 miliwn yn gyflym i gefnogi gofalwyr mewn anawsterau ariannol yn ystod y pandemig; a chyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth seicolegol ar-lein.
Mae pedwar prosiect gofalwyr, wedi eu hariannu trwy gynllun grant i'r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o weithredu yn ddiweddar ac maen nhw'n llwyddo i godi ymwybyddiaeth a thrawsnewid gwasanaethau i ofalwyr ledled Cymru. Mae'r prosiect dan arweiniad Women Connect First i gefnogi menywod a gofalwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hŷn yn ystod y pandemig wedi creu argraff fawr arnaf i. Fel llawer o sefydliadau'r trydydd sector, addasodd Women Connect First eu model yn gyflym i estyn allan at ofalwyr di-dâl, yr oedd llawer ohonyn nhw erioed wedi cael gofal na chymorth o'r blaen.
Trwy gydol y pandemig, fe wnaethom ni barhau i weithio'n agos gyda gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr i ddeall effaith COVID-19 ar eu bywydau ac i gymryd camau priodol. Hoffwn ddiolch hefyd i Aelodau'r Senedd sydd wedi hyrwyddo gofalwyr di-dâl yn eu hardaloedd lleol. Bwriad y strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a'r cynllun cyflawni ategol, yw llywio gwaith partneriaeth tuag at gymdeithas sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran a chefndir i fyw yn dda a chyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain. Mae'n debygol y bydd pob unigolyn yng Nghymru yn ymgymryd â swyddogaeth gofalu rywbryd yn ystod ei oes. Felly, gall y camau a gymerwn heddiw i gefnogi gofalwyr di-dâl fod â manteision parhaol i ofalwyr a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a byddan nhw hefyd yn cefnogi llwyddiant ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Siaradwr Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Hoffwn i hefyd ategu fy niolch i'r arwyr sydd gennym ni yn ddi-glod, sef yr arwyr di-dâl ledled Cymru sy'n gofalu am ein hanwyliaid bob dydd.
Mae ymchwil gan Ofalwyr Cymru yn dangos bod gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelodau o'r teulu neu ffrindiau anabl, sâl neu oedrannus wedi arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd ers dechrau pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth o £3 miliwn yn ystod 2021-22 i gyd—wedi ei rhannu'n ddau gam, gyda cham cyntaf o £1.75 miliwn wedi ei rannu ymhellach rhwng 22 awdurdod lleol yng Nghymru—yn ein twyllo ni rhag sylweddoli bod hyn yn fwy o ateb dros dro yn hytrach nag ymgais i gael ateb hirdymor.
Mae ymchwil Gofalwyr Cymru yn dangos hefyd fod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar allu gofalwyr i gymryd seibiant, sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Mae bron i saith o bob 10 o ofalwr yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd diffyg seibiant wrth ofalu yn ystod pandemig COVID-19. Dywedodd 68 y cant o ofalwyr fod eu hiechyd corfforol wedi dirywio yn ystod y pandemig. Eglurodd y Dirprwy Weinidog fod y cyllid hwn ar gyfer gofal seibiant brys, yn bennaf i'r rhai hynny sydd mewn argyfwng, ac nid yw'n rhoi fawr o hyder i ni fod y Llywodraeth yn deall yn wirioneddol y pwynt canolog—y dylai gofalwyr gael seibiant fel mater o drefn, ac y dylid eu cydnabod yn briodol ym mhob cyd-destun, gan gynnwys yn ariannol.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd dros greu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol di-dor, ac ailystyried ein dull o ddarparu iechyd a gofal, a chanolbwyntio ar atal. Un pwynt mynediad canolog i wasanaeth o'r fath fyddai dileu biwrocratiaeth a chaniatáu i ni ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod gennym ni'r gallu yng Nghymru i wobrwyo gofalwyr yn briodol ac i ganiatáu gweithredu trawsnewidiol, fel y byddem yn gallu ei wneud trwy geisio'r pwerau i roi incwm gofalwr cyffredinol yn lle'r lwfans gofalwr—heb brawf modd ac sydd o leiaf yn cyfateb i lefel y lwfans ceisio gwaith—i bob gofalwr sy'n darparu mwy na 35 awr o ofal. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn? A yw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried?
Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at y gronfa yn darparu hyblygrwydd ychwanegol, ac y bydd yn datblygu mathau mwy hyblyg ac arloesol o seibiant sydd wedi eu teilwra i angen unigol. A wnewch chi ymhelaethu ar y pwynt hwn? Rwyf i wedi clywed gan nifer o ofalwyr di-dâl am eu profiadau a'r angen i fynd trwy'r felin a llenwi pentyrrau o waith papur er mwyn cael gofal seibiant. A wnewch chi ddweud mwy wrthym am y broses a sut y gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar wasanaethau seibiant o'r gronfa hon? Hefyd, faint o ofalwyr ydych chi'n gobeithio eu cyrraedd gyda'r gronfa hon?
Mae ffigurau'n dangos nad yw tri chwarter y gofalwyr wedi cael seibiant o gwbl. Un peth yw canmol gwaith gofalwyr di-dâl, ond faint o bobl fydd yn elwa ar y swm cymharol fach hwn o arian? A fy nghwestiwn olaf: sut y bydd cysondeb yn cael ei sicrhau wrth gyflawni'r cynllun, ac wrth ddosbarthu cyllid, yn enwedig yn absenoldeb model iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol cyson, unedig, y mae Plaid Cymru wedi ei argymell ers tro byd? Diolch yn fawr.
Diolch. Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Croeso i'ch swydd, ac roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n siarad am yr arwyr di-glod sy'n ofalwyr di-dâl. Rwy'n credu ein bod ni'n sicr yn rhannu'r safbwyntiau hynny.
Yn sicr, nid yw £3 miliwn yn swm enfawr o arian, ond mae hyn yn ychwanegol at bopeth arall yr ydym yn ei wneud. Nid ydym yn dechrau o'r newydd gyda £3 miliwn. Wrth gwrs, y prif wasanaethau y dylai gofalwyr di-dâl eu cael fyddai drwy wasanaethau statudol yr awdurdod lleol, ac o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i gael asesiad yn eu rhinwedd eu hunain, ac i'r awdurdod lleol ddiwallu eu hanghenion wedyn. Felly, dyna sail y gwasanaeth yr ydym yn ei roi, ac mae'r grantiau nad ydyn nhw wedi eu neilltuo sy'n dod gan Lywodraeth Cymru i fod yn benodol i fynd i'r afael â materion arbennig. Ni fyddwn i eisiau i'r Aelod feddwl mai dyma'r cyfan yr oeddem yn ei wneud ar gyfer gofal seibiant; mae hyn yn ychwanegol at bopeth arall yr ydym yn ei wneud ar gyfer gofal seibiant.
Ond rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym ni wedi gallu cyrraedd pawb a bod angen ymdrech enfawr arnom, yn enwedig i ofalwyr di-dâl i gydnabod y gwaith y maen nhw'n ei wneud eu hunain, gan nad yw llawer o bobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl. Maen nhw'n credu mai dyma'r peth naturiol i'w wneud, mai dyma eu hanwyliaid, ac felly dyma'r hyn y maen nhw'n ei wneud fel mater o gariad, mewn gwirionedd. Mae'n beth mawr, ac rwy'n credu mai un o themâu Wythnos y Gofalwyr eleni yw cydnabod gwelededd gofalwyr, ceisio gwneud gofalwyr yn fwy gweladwy fel eu bod wedyn yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael—ond yn sicr nid digon, ac rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym yn cyrraedd pawb.
O ran y cwestiynau eraill a ofynnodd yr Aelod, rwy'n gwybod bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni yn ystyried fframwaith gofal cymdeithasol cenedlaethol, a byddwn yn edrych ar hyn y tymor hwn. Yn amlwg, nid yw lwfans gofalwyr wedi ei ddatganoli, felly mae hynny'n golygu nad oes gennym ni unrhyw ddulliau o ddylanwadu ar lwfans gofalwyr ar hyn o bryd.
Rydym ni yn awyddus i fod â mathau mwy hyblyg o seibiant, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu y gallem ni helpu gofalwyr a oedd yn dymuno mynd i ddosbarthiadau celf neu rywbeth gwahanol, er enghraifft—rhywbeth nad yw'n dilyn y math traddodiadol o seibiant lle mae rhywun, efallai y person sy'n cael gofal, yn mynd i ffwrdd i aros mewn cartref am ychydig o ddyddiau. Rwyf i yn credu bod lle o hyd i'r math hwnnw o seibiant, ond i edrych ar ffyrdd eraill o gael seibiant. Er mwyn sicrhau cysondeb, rydym yn edrych, gyda Phrifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ar system decach er mwyn i ni allu mesur y mathau o brosiectau yr ydym yn eu datblygu a gweld pa mor effeithiol ydyn nhw. Felly, rydym yn sicr yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Rwy'n credu bod yr ymchwil yn bwysig iawn yn rhan o hyn. Soniais hefyd yn fy natganiad am y gwaith y mae'r Alban wedi ei wneud. Es i i'r Alban i edrych ar eu darpariaeth gofal seibiant, ac maen nhw'n gwneud llawer gyda 'respitality', gan weithio gyda'r diwydiant lletygarwch, ac fe wnaethom ni weithio gyda nhw. Maen nhw mewn gwirionedd yn rhoi £3 miliwn y flwyddyn hefyd i ymdrin â'r mathau hyn o faterion ychwanegol, felly rwy'n obeithiol y gallwn ni ddysgu ychydig mwy ganddyn nhw wrth i ni symud i mewn i hyn.
Siaradwr y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Alla i ddim meddwl am ffordd well o dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr na thrafod y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Fel rhywun sydd wedi treulio ei 11 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG ac mewn partneriaeth agos â'r gwasanaethau cymdeithasol, rwy'n gwybod yn uniongyrchol y byddai ein system iechyd a gofal yn chwalu heb ofalwyr di-dâl.
Er fy mod i'n croesawu'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei ddyrannu i ariannu gofal seibiant yng Nghymru, mae arnaf i ofn mai dim ond diferyn yn y môr ydyw. Mae gan Gymru fwy na byddin fach o ofalwyr di-dâl, ac maen nhw 3:1 yn fwy niferus na byddin Prydain. Amcangyfrifir bod dros draean o filiwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn arbed tua £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG. Yn ôl ymchwil newydd gan Carers UK, nid yw bron i dri chwarter gofalwyr Cymru wedi cael seibiant ers dechrau'r pandemig.
Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cefnogi addewid fy mhlaid y bydd pob gofalwr di-dâl yn cael seibiant? A yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd yr £1.75 miliwn sydd wedi ei ddyrannu i'r cam cyntaf yn ddigonol i ddiwallu anghenion gofalwyr di-dâl Cymru? A wnewch chi roi dadansoddiad o sut y caiff yr arian ei ddyrannu i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru? Nid wyf i'n disgwyl i chi ddarparu hynny heddiw, yn amlwg, ond efallai y gallech chi roi rhagor o fanylion i'r Senedd mewn datganiad ysgrifenedig yn y dyfodol.
Mae gen i ddiddordeb yn eich sylwadau ar seibiant—'respitality'. Mae'n rhaid i mi roi fy nannedd yn ôl i mewn. Pa drafodaethau y mae eich swyddogion wedi eu cael gyda'r sector lletygarwch yng Nghymru? O ystyried y colledion y mae busnesau lletygarwch Cymru wedi eu gweld dros y 15 mis diwethaf, a ydych chi'n credu y bydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich gallu i roi'r cynllun ar waith ledled y wlad? A ydych chi wedi trafod gweithredu cynllun yr Alban gyda'ch cyd-weinidog yn Senedd yr Alban, ac a ydych chi wedi trafod gyda Llywodraeth y DU y potensial ar gyfer cynllun ledled y DU?
Gan symud ymlaen at gefnogaeth ehangach eich Llywodraeth i ofalwyr di-dâl, er fy mod i'n croesawu'r strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl, mae'n siomedig na fydd y cynllun cyflawni'n barod tan ddiwedd eleni. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar ofalwyr di-dâl nawr, nid cyfres o adroddiadau a strategaethau newydd. Mae fy mhlaid i yn dymuno gweld gofalwyr di-dâl yn cael hyfforddiant am ddim a sicrhau bod pob un gofalwr yng Nghymru yn cael yr asesiad gofalwr y mae ganddyn nhw yr hawl iddo. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi ein gofalwyr di-dâl? Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyrsiau hyfforddi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru? A ydych chi wedi trafod gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru am y ffyrdd y gall gofalwyr di-dâl hyfforddi ochr yn ochr â gofalwyr cyflogedig?
Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, sut ydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru i sicrhau eu bod yn darparu asesiadau gofalwyr i bob gofalwr yng Nghymru? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y tymor nesaf i sicrhau y gallwn ni gefnogi ein byddin enfawr o ofalwyr di-dâl. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Edrychaf ymlaen hefyd at weithio gyda chi ar y brîff a rennir, a diolch yn fawr i chi am y cwestiynau y gwnaethoch eu cyflwyno.
Yn sicr, rwy'n croesawu adroddiad Gofalwyr Cymru a'r materion y mae'n eu codi, a'r ffigurau a roddwyd am nifer y bobl—gofalwyr di-dâl—na chafodd unrhyw seibiant yn ystod y pandemig. Rwy'n credu, yn amlwg, fod hynny'n destun pryder mawr. Fe wnes i, yn ystod y pandemig, gwrdd â llawer o ofalwyr di-dâl a chyfathrebu â nhw, ac yn sicr fe wnaethon nhw ddweud wrthyf am y pwysau a oedd arnyn nhw yn ystod y pandemig. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni dderbyn, fel y gwnaethon nhw, mai eu dewis nhw eu hunain ydoedd mewn llawer o achosion; eu bod yn nerfus ynglŷn â chael gofalwyr i mewn i'r cartref, er enghraifft, i'w helpu, oherwydd eu bod mor bryderus ynglŷn â'u hanwyliaid yr oedden nhw'n gofalu amdanyn nhw, nid oedden nhw eisiau creu risg o haint. Rwy'n ymwybodol iawn bod hyn wedi bod yn straen enfawr ar ofalwyr di-dâl, ac mae'n un o'r pethau ofnadwy hynny sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig. A fydd hyn yn ddigonol? Rwy'n credu i mi ateb hynny yn fy nghwestiwn cynharach—fod hwn yn ychwanegol at yr hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud i ofalwyr di-dâl. Mae'n debyg na fyddai byth yn ddigon, ond rydym yn sicr wedi dweud, yn ein maniffesto, ein bod yn mynd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, ac mae hyn yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud i gyflawni hynny.
Rwyf i wedi bod i'r Alban; rwyf i wedi trafod hyn gyda'r unigolyn yn yr Alban a oedd yn gyfrifol am y cynllun, ac rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig ynghylch y cynllun 'respitality'—yn sicr, gan fod y diwydiant lletygarwch wedi bod trwy gyfnod mor anodd, efallai nad dyma'r adeg orau i ganolbwyntio ar hynny. Ond dyna un o'r pethau yr ydym yn awyddus i edrych arno pan ddaw'r adeg iawn i wneud hynny. Yn sicr, o ran yr asesiadau gofalwyr, o dan y Ddeddf, mae gan bob gofalwr hawl i gael asesiad. Nid yw llawer ohonyn nhw yn manteisio ar y cyfle i gael asesiad mewn gwirionedd gan nad ydyn nhw'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn gwirionedd, ond mae angen i ni geisio sicrhau bod ymwybyddiaeth o'r asesiadau hyn yn cael llawer mwy o gyhoeddusrwydd.
Rwy'n cymeradwyo'n fawr y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud i gwmpasu nifer y gofalwyr ifanc, yn enwedig y rhai o dan 16 oed, sy'n amlwg yn fwyaf tebygol o gael eu methu oni bai bod ysgolion yn talu sylw. Rwy'n credu bod eich syniad o 'respitality' yn un sy'n bendant yn werth canolbwyntio arno, yn enwedig y tu allan i'r tymor gwyliau arferol. Ar hyn o bryd, yn amlwg, mae'r holl westai a lletyau gwely a brecwast yn llawn, ond yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd eraill yn gweithio ac yn ôl yn yr ysgol, gallai hynny fod yn rhywbeth a fyddai'n ddiddorol iawn i'w ddilyn.
Rwyf i eisiau codi'r pwynt ynghylch gofalwyr hŷn, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn gwneud dros 50 awr yr wythnos yn ystod y pandemig. Mae dau grŵp o etholwyr sy'n peri pryder mawr: sef y rhieni hŷn sy'n gofalu am oedolyn ag anhawster dysgu, a rhiant neu briod rhywun â dementia. Nawr, mae'r ddau grŵp hyn newydd ddioddef baich mor enfawr oherwydd y pandemig pan fo'r holl wasanaethau wedi cau, ac nid yw'r bobl hyn yn mynd i adael eu hanwyliaid oni bai bod y gwasanaethau yno i'w galluogi i adael y sawl y mae angen gofal gyda nhw—rhywun y mae'r unigolyn yna yn mynd i fod yn gyfforddus ag ef. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y gallwn ni gyflymu'r broses o agor y gwasanaethau seibiant a gofal dydd arferol a oedd yn bodoli o'r blaen, sydd wedi bod yn eithaf araf yn dychwelyd.
Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna, ac rwy'n gwybod ei bod wedi codi'r anawsterau y mae ei hetholwyr wedi cael profiad ohonyn nhw gyda mi droeon, yn enwedig rhieni hŷn neu rieni neu briod rhywun sy'n dioddef o ddementia, ac rwy'n ymwybodol iawn o ba mor anodd yw'r sefyllfa hon.
Yn amlwg, pan ddechreuodd y pandemig, bu'n rhaid i'r gwasanaethau gau am resymau iechyd a diogelwch, ac roedd hyn yn ergyd enfawr, mi wn, i lawer o bobl a oedd wedi llwyddo i gael trefn arferol, a gan fod eu hanwyliaid yn gallu mynd allan yn rheolaidd a dod yn ôl, roedden nhw wedi llwyddo i ymdopi, yn y bôn, a chafodd hyn i gyd ei chwalu pan darodd y pandemig. Felly, yn amlwg, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw ceisio annog y gwasanaethau dydd yn arbennig i ailagor. Felly, er mwyn gwneud hynny, rwyf i wedi cyfarfod â chyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol i'w hannog i ailagor y gwasanaethau dydd. Maen nhw'n dechrau agor ledled Cymru, ond mae'n dameidiog, felly rwy'n eu hannog ac yn wir yn dweud bod yn rhaid i ni agor y gwasanaethau hyn yn llwyr fel y gall pobl gael seibiant. Rwyf i hefyd wedi ei drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn bod hyn yn gwbl hanfodol, sef ein bod yn cynnig y ddarpariaeth hon, fel y gall y rhieni sydd wedi ei chael yn anodd gyhyd, gael seibiant.
Diolch, Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Noswaith dda, bawb.