2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 16 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy eich croesawu unwaith eto i'ch swydd, Weinidog, gan mai fi yw llefarydd addysg yr wrthblaid, ac mae hynny'n swyddogol bellach? A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi, gyferbyn â chi, ar y briff hynod bwysig hwn, yn enwedig ar adeg pan fyddwn yn cefnu ar bandemig, ac yn nesáu at y newid mwyaf yn y ddarpariaeth addysg ers degawdau?
Weinidog, dylai ein hysgolion a'n prifysgolion fod yn fannau ar gyfer dysgu a datblygu, nid mannau lle mae bygythiadau, camdriniaeth ac aflonyddu'n digwydd. Felly, roedd yn destun pryder mawr—ac rwy'n siŵr eich bod chi'n pryderu hefyd—fod 91 o sefydliadau addysg yng Nghymru wedi'u cynnwys ar wefan Everyone's Invited, gyda disgrifiadau o ymddygiad gwirioneddol frawychus. Rwy'n croesawu eich datganiad ysgrifenedig y bore yma y bydd Estyn yn cynnal adolygiad, ond mae'n rhaid inni beidio ag anghofio ein lleoliadau addysg uwch, gan fod yr honiadau wedi taflu goleuni ar broblem sy'n ymddangos yn systemig ar draws yr holl grwpiau oedran ledled Cymru. Ar ôl siarad â fy nghynghorau ers i'r pwnc daro'r penawdau yr wythnos diwethaf, mae'n amlwg i mi fod ysgolion a cholegau eisoes yn gweithredu, Weinidog, ac rwy'n falch y bydd eich swyddogion yn siarad yn awr, yn cysylltu â'r ysgolion hyn ac yn cynnig cymorth iddynt; rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn gofyn am negeseuon e-bost yn barod. Ond mae angen inni ddod o hyd i ffordd o goladu'r wybodaeth hon ar lefel genedlaethol, gan fod angen inni ymdrin â hyn ar sail genedlaethol, oherwydd mae'n amlwg yn broblem systemig ym mhobman. Ac felly mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno fel y gallwn weld a yw pethau'n gweithio a gweld a yw'r atebion a argymhellir gennych yn gweithio ai peidio. A chredaf fod hyn—
Bydd angen i chi ofyn cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ac yn y tymor diwethaf, dywedais y byddai'r cwricwlwm newydd yn ffordd berffaith inni ddechrau cael y sgyrsiau hyn mewn ysgolion. Weinidog, mae eich datganiad yn amlinellu llawer iawn o gyngor, arweiniad, pecynnau cymorth sydd eisoes ar y gweill, ac eto mae'r honiadau hyn yn dal i ymddangos. Beth rydych chi'n disgwyl ei weld yn newid, Weinidog, o ganlyniad i gyhoeddi adroddiad arall, neu fwy o ganllawiau, pan fo cymaint ar gael? A sut y bwriadwch sicrhau bod y pecynnau cymorth newydd hyn yn cyrraedd lle mae angen iddynt eu cyrraedd, a bod ymddygiadau'n dechrau newid mewn gwirionedd?
Rwyf wedi bod yn amyneddgar iawn—dyna ddwy funud yn awr. Felly, credaf fod digon o gwestiynau yno i chi geisio eu hateb, Weinidog.
Diolch, Lywydd. Fe geisiaf wneud cyfiawnder â'r cwestiynau, oherwydd mae'n bwnc sensitif iawn, o ran y ffordd y gofynnir y cwestiynau. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n croesawu'r datganiad a gyhoeddwyd y bore yma. Teimlaf fod hon yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, yn yr ystyr ei bod yn ymwneud â nifer o bortffolios. Oherwydd mae rhai o achosion sylfaenol yr ymddygiadau rydym wedi'u gweld yn yr adroddiad poenus hwnnw, a rhai o'r sylwadau deifiol a'r dystiolaeth, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw, yn adroddiad a deunydd Everyone's Invited, mae'r ymddygiadau a'r profiadau hynny'n bodoli y tu allan i leoliadau addysgol hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym ddull trawslywodraethol o allu ymateb.
Wrth ofyn i Estyn gynnal adolygiad, hoffwn fod yn glir nad wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd y dylid aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw cyn gweithredu. Felly, hoffwn fod yn berffaith glir ynglŷn â hynny. A cheir camau ymarferol, a nodais yn y datganiad, sy'n ymwneud yn gyntaf â deall a yw'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol, yn ddigon hygyrch, ac os nad ydynt, yn amlwg fe fyddwn yn gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Mae rhai o'r adnoddau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys rhai a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar, wedi cael eu defnyddio'n dda, wedi cael eu cyrchu'n dda o leiaf, a'r hyn rwyf eisiau ei wybod yw a oes mwy y gallwn ei wneud i ddarparu hyfforddiant ar hynny i ysgolion. Fel y dywedwch yn y cwestiwn, mae cryn dipyn o ddeunydd ar gael eisoes. Rwyf eisiau sicrhau ei fod ar gael mor hawdd â phosibl, ac rwyf eisiau annog pobl i ddefnyddio'r gwahanol linellau cymorth y mae Llywodraeth Cymru ac eraill eisoes yn eu hariannu er mwyn gallu cynorthwyo pobl i rannu eu pryderon a'u straeon personol, os caf ddefnyddio'r term hwnnw.
Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod neges glir iawn i ni yma yn y cwricwlwm newydd ynglŷn â pha mor sylfaenol yw gwneud yn siŵr bod gan ein dysgwyr y math o addysg cydberthynas a rhywioldeb rydym yn ei ragweld ar eu cyfer. Rydym yn ymgynghori ar y cod ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ac roeddwn yn falch o glywed y comisiynydd plant yn cydnabod dros y penwythnos ei bod hithau hefyd yn teimlo bod y cwricwlwm yn darparu sail i'n helpu i fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn, yn sicr o fewn lleoliad ysgol.
Diolch. Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn a elwir yn 'upskirting', ac i'r rhai nad ydynt yn ymwybodol ohono, mae'n cyfeirio at fechgyn sy'n tynnu lluniau i fyny sgertiau merched a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n fater difrifol, Weinidog, fel y gwn eich bod yn gwybod, ac nid wyf yn credu mai'r ateb yw gorfodi merched i wisgo trowsus neu siorts. Pam ein bod yn cosbi merched? Nid merched sydd ar fai. Felly, mae eu gorfodi i wisgo trowsus neu siorts yn ymateb cwbl anghywir. Os yw ysgolion yn pryderu am hyd sgertiau merched, does bosibl na ddylent fod yn gorfodi polisïau gwisg ysgol a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol, a goresgyn y broblem drwy addysgu bechgyn am yr angen i drin eraill â pharch. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ar bolisïau gwisg ysgol a hawl merched i wisgo sgertiau?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r awgrym yn y cwestiwn na ddylem fod mewn sefyllfa lle rydym yn creu'r argraff, drwy'r math o bolisi y mae'n cyfeirio ato, mai merched sy'n gyfrifol am y mathau o ddigwyddiadau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Nid wyf yn meddwl am eiliad mai dyna'r bwriad y tu ôl i unrhyw un o'r polisïau y credaf ei bod yn cyfeirio atynt. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn ein hysgolion, fod y ffordd rydym yn addysgu bechgyn a merched yn mynd i'r afael â'r cwestiwn ac yn dysgu natur parch yn y cyd-destun hwn. Nid wyf yn credu ei bod yn neges ddefnyddiol i'w lledaenu—rwy'n siŵr ei fod yn gwbl anfwriadol—ond rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys: rhaid inni beidio â bod mewn sefyllfa lle mae merched yn teimlo mai eu cyfrifoldeb hwy yw gwisgo mewn ffordd benodol.
Diolch i chi, Weinidog. Credaf y byddai'n gwbl esgeulus imi beidio â gofyn ichi heddiw am addysg gorfforol a chwaraeon yn ein hysgolion ar adeg pan fo'r wlad wedi gwirioni ar yr Ewros ar hyn o bryd. Ac rwy'n siŵr yr hoffech fanteisio ar y cyfle, Weinidog, i ymuno â mi i ddymuno'r gorau i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn y gêm y prynhawn yma. Ond deuthum yn ymwybodol ddoe nad yw rhai pobl ar draws y Siambr hon yn hoffi pêl-droed, ac fel rhywun sydd wedi gwirioni ar chwaraeon, mae hynny'n rhywbeth eithaf anodd i'w ddeall. Ond rwy'n gwybod y gallwn i gyd gytuno bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn arwain at lu o fanteision iechyd corfforol a meddyliol. Mae tystiolaeth yn dangos bod chwaraeon o fudd mawr i iechyd meddwl. Gwyddom ei fod yn croesi ffiniau, gan ddod â phobl o bob hil a chefndir, yn gyfoethog neu'n dlawd, at ei gilydd, ac yn ffordd allweddol o drechu gordewdra, yn enwedig mewn plant. Mae chwaraeon yn dysgu disgyblaeth i chi, sut i weithio gyda'ch gilydd fel tîm ac fel unigolion, ac mae'n dangos beth yw parch. Gallwn barhau, Lywydd, ond ni wnaf hynny.
Ond, Weinidog, fy mhwynt yw, gyda'r holl bethau hyn mewn cof, onid ydych yn cytuno ei bod yn drist ein bod yn aml yn clywed mai chwaraeon ac addysg gorfforol yw'r pethau cyntaf i gael eu tynnu o'r diwrnod ysgol pan fydd rhywbeth arall yn codi, ond mae eu pwysigrwydd yn enfawr. Ni fu hynny erioed yn fwy amlwg nag yn ystod y cyfyngiadau symud ac yn yr effaith y mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi'i chael ar iechyd meddwl plant. Weinidog, beth a wnewch i sicrhau bod chwaraeon ac addysg gorfforol yn cael y statws a'r pwyslais y maent yn ei haeddu yn ein hysgolion, a beth a wnewch i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn amserlen yr ysgol o fewn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol? Mae'n bwysig ein bod yn cynnal y diddordeb ac yn hyrwyddo arferion da yn gynnar, rhywbeth y mae ysgolion preifat, mae arnaf ofn, yn ei wneud yn well nag ysgolion cyhoeddus, oherwydd maent yn gweld y manteision academaidd a'r sgiliau bywyd allweddol y maent yn eu haddysgu.
Ac mae gennych Lywydd sydd wedi gwirioni ar bêl-droed hefyd ac sy'n ceisio annog yr Aelodau i fod yn gryno mewn cwestiynau ac atebion yn y Siambr hon ac sy'n methu'n druenus. [Chwerthin.] A diolch, Lee Waters, am eich cymorth wrth geisio cwtogi'r holl gyfraniadau drwy beidio â llongyfarch eich gilydd a diolch i'ch gilydd drwy'r amser. Beth bynnag, Weinidog—yn gryno.
Yn gryno. Wel, yn sicr roedd fy ngyrfa chwaraeon yn fyr iawn, Lywydd [Chwerthin.] Roeddwn yn chwaraewr anhygoel o aneffeithiol pan oeddwn yn yr ysgol, ac rwy'n edifar am hynny mewn sawl ffordd. Rwy'n credu bod y rhinweddau a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei chwestiwn yn hollol gywir o ran datblygiad pobl ifanc, ac rwy'n rhannu'r gofid y mae hi'n ei deimlo nad ydym dros y flwyddyn ddiwethaf efallai, oherwydd y sefyllfa rydym ynddi, wedi gallu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad llawn at gyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion a cholegau fel y byddem eisiau iddynt ei gael. Ac rwy'n hyderus iawn y bydd yr amlygrwydd a roddir i iechyd a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn ein helpu i sicrhau bod chwaraeon yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n briodol yn ein system ysgolion.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Neis eich gweld chi ar draws y Siambr ac yn y cnawd, fel petai, am y tro cyntaf ers tro.
Rydym ni'n dilyn trefn wahanol i'r arfer eto eleni o ran arholi disgyblion TGAU, lefel A ac AS. Trefn safoni asesiadau o dan arweiniad ysgolion ac athrawon unigol sydd gyda ni, i bob pwrpas. Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gyhoeddi y byddan nhw'n rhoi taliad untro o £400 i athrawon oedd ynghlwm â dyletswyddau safoni ychwanegol fel cydnabyddiaeth o'r baich gwaith ychwanegol hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod athrawon sydd efo cyfrifoldebau ychwanegol yn y cylch arholi eleni yn mynd i gael cydnabyddiaeth briodol am y gwaith yma, gan gynnwys yn ariannol—hynny yw, yr athrawon fyddai ddim yn arholwyr allanol i CBAC fel arfer?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio pa mor greiddiol yw rôl athrawon yn y system sydd gyda ni ar gyfer yr haf hwn, yn dilyn yr hyn glywsom ni haf diwethaf—pa mor bwysig mae hynny i ymddiriedaeth dysgwyr a'r system yn gyffredinol yn y canlyniadau. Felly, rwyf eisiau rhoi ar goedd fy niolch i i athrawon ledled Cymru am y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod hynny'n bosib eleni. Yn y pedair gwlad o fewn y Deyrnas Gyfunol, mae'r pedair Llywodraeth wedi cymryd ffyrdd ychydig yn wahanol o edrych ar y system hon. Beth rydym ni wedi ei wneud yma yng Nghymru yw sicrhau bod y rhan fwyaf o'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn digwydd yn ystod y tymor, yn hytrach na thorri mewn i gyfnod yr haf. Felly, rydym ni wedi pwysleisio mwy o'r gwaith yn gynharach er mwyn gallu gwastadu fe ychydig yn fwy efallai, ac rydym ni hefyd wedi darparu cyllideb o jest o dan £9 miliwn, sydd yn caniatáu ysgolion i allu cynyddu capasiti er mwyn gallu gwneud hyn, a hefyd cyflwyno hyblygrwydd i'r system, mewn defnydd INSET a hefyd o ran asesiadau diwedd blwyddyn, fel bod hynny'n creu rhywfaint o hyblygrwydd yn y system i'n hathrawon allu gwneud y gwaith ychwanegol hwn.
Diolch. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod bod o'n waith ychwanegol eithaf swmpus mewn rhai achosion. Ac mae yna arian yn y system, achos dwi wedi clywed am achos lle mae yna un ysgol uwchradd yn talu arian mawr—tua £100,000—i'r cyrff arholi allanol, er nad ydy'r rheini, wrth gwrs, yn cyflawni'r un swyddogaeth yn y cylch arholi eleni. Mae'n bwysig bod yr arian sydd yn y system yn cael ei ddefnyddio, yn cael ei gyfeirio, ei ddargyfeirio, os leiciwch chi, lle mae'n briodol, i gydnabod y trefniadau unigryw sydd mewn lle eleni.
I aros efo thema cyllid ysgolion, dwi am droi at yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, a gafodd ei chyhoeddi ddoe, y bydd eich Llywodraeth chi yn ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion. Mae'ch datganiad ysgrifenedig chi heddiw—a dwi'n croesawu hwnnw, wrth gwrs—yn cyfeirio at gadw a chefnogi dros 1,800 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn, a recriwtiwyd o dan y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Rŵan, dydy'r gair 'tiwtor' ddim yn ymddangos yn eich datganiad chi y bore yma, felly, fedrwch chi gadarnhau i ddechrau ein bod ni'n sôn am yr un peth? Ydy'r 1,800 sydd yn y rhaglen lywodraethu o dan yr enw 'tiwtor', ydy'r rheini yr un bobl â'r athrawon a'r staff ychwanegol rydych chi'n sôn amdanyn nhw? Felly, pa fath o staff ydym ni'n sôn amdanyn nhw? Ydyn nhw'n staff newydd ac ydy'r arian sydd wedi cael ei grybwyll yn arian newydd, ac a fyddan nhw hefyd yn barhaol yn y system ar ôl y cyfnod cyntaf yma o ddelio â'r pandemig?
Wel, yr ateb i'r cwestiwn olaf yw mai'r bwriad yw eu bod nhw'n parhau i wneud eu gwaith nes bod eu gwaith nhw wedi'i wneud. Dyna'r ymrwymiad sydd gyda ni. O ran beth yw eu swyddogaethau nhw, maen nhw'n darparu addysg. Hynny yw, mae'r gair 'staff' yn golygu pobl sydd yn dysgu neu'n cefnogi—TAs ac ati—i allugoi i'r disgyblion gael mwy o gefnogaeth o ran dysgu. Felly, dyna'r ymrwymiad. Ac rwy'n credu bod hyn yn adeiladu ar waith y three Rs rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n caniatáu inni allu darparu ystod ehangach o gefnogaeth i'n dysgwyr ni. Hynny yw, yn Lloegr, er enghraifft, mae'r pwyslais yn fanna yw tiwtora unigol—dal i fyny, hynny yw, ar gynnwys. Nid dyna'r cysyniad sydd gyda ni wrth wraidd ein cynlluniau ni. Mae gyda ni ddiffiniad ehangach o beth sydd ei angen ar ein dysgwyr ni i sicrhau bod eu hyder nhw, eu motivation nhw, yn cael eu cefnogi fel eu bod nhw'n gallu ymarfer eto â dysgu. A dyna yw rhan o'r capasiti rŷn ni'n ei greu yn y system er mwyn darparu i'r rhai sydd ei angen e—cefnogaeth un wrth un, efallai, hyd yn oed—ond hefyd creu capasiti yn y system i allu cefnogi'r sgiliau dysgu hynny, y sgiliau sylfaenol hynny, sydd efallai wedi cael amser anodd yn y flwyddyn ddiwethaf.
Diolch. Dwi dal ddim yn hollol glir, ond gobeithio medrwn ni gael trafodaeth bellach ar hyn y tu allan i'r Siambr, a buaswn i'n gwerthfawrogi eglurder ynglŷn ag o ble mae'r arian yn dod. Ydy hwn yn arian newydd—
Ydy.
—yntau ydy o'n barhad o'r arian wnaeth Kirsty Williams sôn amdano fo yn ystod y Senedd ddiwethaf?
Rydych chi wedi sôn am gau'r bwlch cyrhaeddiant fel un o'ch blaenoriaethau cynnar chi ac rwy'n cytuno â chi ar hynny—mae'n holl, holl bwysig. Mae yna dystiolaeth glir, wrth gwrs, mai'r un peth mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud i gyflawni'r nod yma ydy rhoi pryd o fwyd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol fel ategiad i'r rhaglen addysg ffurfiol sy'n cael ei ddarparu. Ond siomedig iawn ydy gweld yn rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth, a gafodd ei gyhoeddi ddoe, eich bod yn sôn am ganfod yr adnoddau a bod yn rhaid i unrhyw ehangu ar y cymhwyster ar gyfer derbyn cinio am ddim fod yn amodol ar ganfod yr adnoddau. Rŵan, byddwn i'n dweud bod yn rhaid canfod yr arian er mwyn cefnogi disgyblion tlotaf Cymru a bod yn rhaid i’ch Llywodraeth chi gymryd y cam cyntaf un ar y daith tuag at ddarparu cinio ysgol am ddim i bawb.
Wel, o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol, ni oedd y Llywodraeth a gymrodd y cam gyntaf mewn mwy o gyd-destunau yn ymwneud â rhoi prydiau bwyd am ddim yn ein hysgolion ni. Felly, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran pa mor bwysig yw e inni allu diwallu'r angen hwn. Rŷn ni wedi dweud eisoes, a rŷn ni'n ail-ddweud, os caf i ddweud hynny, yn y rhaglen lywodraethu, ein bod ni'n bwriadu edrych eto ar y meini prawf ar gyfer cael mynediad i'r cynllun hwn, a dyna yw ein bwriad ni—dyna ein cynllun ni i'w wneud. Bydd data ychwanegol ar gael erbyn diwedd yr haf a bydd hynny'n rhoi cyfle inni allu edrych ar bwy sy'n gymwys ar gyfer hyn. Ond rŷn ni newydd gael sgwrs am fuddsoddiad mewn llesiant ein disgyblion yn ehangach a phwyslais ar rai efallai sydd angen mwy o gefnogaeth na'i gilydd. Mae pob un o'r ymyraethau yma'n galw am adnoddau, a rŷn ni eisiau sicrhau bod y pecyn o gefnogaeth rŷn ni'n ei roi i'n disgyblion ni yn un sydd yn gymwys at y galw ac felly mae'n anorfod bod yn rhaid edrych wedyn ar ble mae'r adnoddau'n mynd ac o ble y mae'r adnoddau'n dod. Ac felly dyna pam rŷn ni'n gwneud yr ymrwymiad sydd gyda ni. Rŷn ni'n uchelgeisiol ond mae'n gyfrifol hefyd inni sicrhau ein bod yn edrych ar ystod o ymyraethau a hefyd, pan allwn ni ehangu'r meini prawf—a rŷn ni'n frwdfrydig i wneud hynny—byddwn ni'n gwneud hynny yn gyson â'r adnoddau.