1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymwelais i â Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg ddoe—cyfleuster gwych sy'n darparu cymaint o ofal a thynerwch i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd hefyd. Mae Tŷ Gobaith, yn amlwg, yn gwneud yr un peth yn y gogledd. A ydych chi'n cydnabod, gan ei bod yn Wythnos Hosbis y Plant, y gwahaniaeth rhwng hosbis i blant a hosbis i oedolion, a lefel y cyllid y byddai ei angen ar gyfer y mudiad hosbisau yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwyf innau hefyd wedi cael y fraint—ac mae hi'n fraint—yn y gorffennol o ymweld â Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ac i weld drosof fy hun y gwaith syfrdanol y maen nhw'n ei wneud ac ymrwymiad y bobl sy'n gweithio yno. Mae'r fformiwla yr ydym ni'n ei defnyddio i ddarparu'r cymorth yr ydym yn ei roi i'r sector hosbisau yng Nghymru yn fformiwla a sefydlwyd drwy waith y Farwnes Ilora Finlay yn ei thrafodaethau gyda'r sector. Rydym yn adolygu hynny yn rheolaidd gyda'r sector ac yn siarad â hwy drwy'r amser, ond nid fformiwla gan Lywodraeth Cymru yw hon sy'n cael ei dyfeisio gennym ni a'i gosod gennym ni; mae'n fformiwla sy'n deillio o'r trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda'r sector a'r anghenion niferus y mae'n ceisio eu diwallu.
A ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, mai dim ond 5 y cant o gyllid y mae'r fformiwla honno yn ei ddarparu i hosbisau plant yng Nghymru yn anffodus, ond yn Lloegr mae'n 21 y cant o gyllid ac yn yr Alban mae'n 50 y cant o gyllid? Nawr, nid wyf i am eiliad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gamu i mewn a neidio'n syth i 50 y cant, ond a ydych chi'n credu bod angen taith i gynyddu'r ffrwd cyllid honno, yn enwedig wrth ddod allan o COVID a'r effaith ddinistriol y mae hynny wedi ei chael ar weithgareddau codi arian i elusennau? Oherwydd ni all fod yn deg bod fformiwla o'r fath yn darparu cymaint o anghydbwysedd o ran cyllid ar gyfer hosbisau plant yma yng Nghymru, sef 5 y cant, 21 y cant yn Lloegr a 50 y cant yn yr Alban. Felly, a wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth i adolygu'r fformiwla hon, er mwyn gallu rhoi fformiwla decach ar waith i gefnogi'r gwaith trugarog y mae hosbisau yn y sector plant yn ei wneud yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n sicr yn cytuno ag Andrew R.T. Davies, Llywydd, am y gwaith pwysig y mae'r trydydd sector wedi ei wneud yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi cael cymorth cryf gan gronfa benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu ac y mae'r trydydd sector wedi ei defnyddio yn effeithiol iawn wrth ymateb i ystod eang o anghenion, yr anghenion unigrwydd y clywsom amdanyn nhw yn gynharach y prynhawn yma, ac yn y gwaith y mae'n ei wneud yn y mudiad hosbisau hefyd.
Nid yw'r gymhariaeth y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei defnyddio yn un gyfatebol gan nad yw'n ystyried y mathau eraill o gymorth sydd ar gael yng Nghymru nad ydyn nhw ar gael o reidrwydd mewn mannau eraill. Ond rydym yn parhau i fod mewn deialog gyson â'r sector am y cwantwm o arian y gallwn ei ddarparu iddo a'r ffordd y caiff ei ddosbarthu. Mae'r sector yn ffyrnig i aros yn un gwirfoddol a hynny'n gwbl briodol, onid yw? Mae'n gwbl awyddus i sicrhau ei fod yn parhau i wneud yr holl bethau y mae'n eu gwneud i godi ei arian ei hun, i fanteisio ar haelioni pobl yng Nghymru. Mae cytuno ar ffordd o sicrhau bod yr arian y gallwn ni ei ddarparu yn cyrraedd y lle iawn, yn cyrraedd mewn ffordd sy'n cydnabod y gwahaniaethau sylweddol rhwng y gwahanol fathau o wasanaethau, y gwahanol fathau o hosbisau y mae elusennau yn eu darparu yng Nghymru, yn beth eithaf cymhleth. Dyna pam yr oeddem ni'n dibynnu ar y gwaith rhagorol a wnaeth y Farwnes Finlay yn ei thrafodaethau gyda'r sector, ac rydym yn parhau i geisio symud ymlaen gyda'r sector mewn partneriaeth yn y ffordd honno.
Yn anffodus, ni chlywais ymrwymiad i gael adolygiad o'r fformiwla cyllid honno, er fy mod i'n derbyn ei fod yn faes cymhleth ac rwyf i yn derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, am ffyrnigrwydd y sector wrth ddiogelu ei statws elusennol, a hynny'n gwbl briodol oherwydd yr arian y mae'n ei godi.
Ond a gaf i godi mater ar wahân gyda chi a hynny ynghylch y bêl-droed sydd i fod i ddigwydd yn 16 olaf Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA ddydd Sadwrn. Ddoe, tynnodd y Gweinidog iechyd, yn fy marn i, sylw yn briodol at y cyfyngiadau sy'n cael eu rhoi ar deithio rhyngwladol i gefnogwyr fynd draw i Amsterdam. Fodd bynnag, y bore yma mae Llywodraeth Denmarc wedi cyhoeddi y bydd eu cefnogwyr yn cael teithio i'r Iseldiroedd, i Amsterdam, i wylio eu tîm yn chwarae, ar yr amod ei fod o fewn cyfnod o 12 awr. Nawr, yn aml iawn mae cefnogwyr yn y stadiwm yn cael eu hystyried fel y deuddegfed dyn, gan sbarduno eu tîm ymlaen i fuddugoliaeth gobeithio, fel yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld ddydd Sadwrn nesaf. O ystyried y newid mewn amgylchiadau i gefnogwyr Denmarc, ac yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall mae lefel yr haint yr un fath yn Nenmarc ag ydyw yma yng Nghymru, a fyddwch chi'n cyflwyno unrhyw sylwadau i awdurdodau'r Iseldiroedd i ganiatáu i gefnogwyr Cymru deithio, os byddan nhw'n bodloni'r gofynion teithio sydd ar gefnogwyr sy'n teithio i wylio gemau mewn pencampwriaeth? Gan fy mod i'n credu bod y telerau wedi newid erbyn hyn, o gofio bod y ddau dîm ar yr un sefyllfa ddoe o ran cyfyngiadau ar gefnogwyr, ond heddiw mae Llywodraeth Denmarc wedi symud i ganiatáu i'w cefnogwyr deithio o fewn cyfnod o 12 awr ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn.
Llywydd, wel, yn gyntaf, wrth gwrs, llongyfarchiadau i dîm Cymru ar lwyddo i fynd ymlaen i gamau nesaf y bencampwriaeth a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ddydd Sadwrn pan fyddan nhw'n wynebu Denmarc yn yr Iseldiroedd.
Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid, Llywydd. Yr un yw'r cyngor y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac, yn wir, y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi ei roi i gefnogwyr, sef nad hon yw'r flwyddyn i deithio i wylio Cymru yn chwarae dramor. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r miloedd hynny o bobl a fyddai wedi bod wrth eu boddau yn cael teithio a mynd i gefnogi tîm Cymru mewn mannau eraill, sydd wedi dilyn y cyngor a roddwyd iddyn nhw, sef eu bod nhw yn fwy diogel a bod y bobl sy'n agos at eu calonnau yn fwy diogel os ydyn nhw'n dewis aros yng Nghymru a chefnogi'r tîm o'r fan hyn. Rydym wedi gweld, hyd yn oed yn ystod y 24 awr diwethaf, bod chwaraewyr sydd wedi mynd yn sâl o ganlyniad i coronafeirws ac na fyddan nhw'n gallu cymryd rhan yng ngham nesaf y bencampwriaeth, ac wrth i ni barhau yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi yng Nghymru, gyda'r amrywiolyn delta yn cynyddu pha mor agored i niwed y mae hynny'n ein gwneud ni, nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid. Mae'n parhau i gyd-fynd â'r cyngor a ddaw o fannau eraill; ein cyngor yw, 'Peidiwch â theithio, mwynhewch y bencampwriaeth, cefnogwch eich tîm o Gymru.'
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brif Weinidog, rhyw flwyddyn yn ôl, mi oeddech chi'n cyhoeddi bod ysgolion am gael ailagor eto ar ôl cyfnod clo hirfaith, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, gymaint mae teimlo'n ynysig, bod ar wahân o'u ffrindiau wedi cael effaith drom ar lesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc. Rŵan, drwy gydol y pandemig, dydy'r gyfran o bobl ifanc sy'n aros dros bedair wythnos am apwyntiad ar ôl cael referral i dîm gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol erioed wedi disgyn dan chwarter. Ydy hynny'n ddigon da?
Wel, i ddechrau, dwi'n cydnabod, wrth gwrs, yr effaith mae coronafeirws wedi'i gael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Bob tro dwi'n cwrdd â phobl ifanc, trwy'r Senedd Ieuenctid, er enghraifft, mae hwnna'n rhywbeth maen nhw'n codi bob tro rydym ni'n siarad â nhw. Ar y cyfan, dydyn nhw ddim yn siarad am wasanaethau arbennig fel CAMHS, maen nhw'n siarad am bethau maen nhw eisiau eu gweld yn yr ysgol, yn y gymuned, pethau maen nhw'n gallu eu cael yn gyflym a'u cael pan ydyn nhw'n treial delio â'r problemau pob dydd o dyfu lan mewn cyfnod mor ansicr.
Gyda CAMHS, wrth gwrs, maen nhw, fel pob adran arall yn y maes iechyd, yn treial ymdopi ag effaith coronafeirws arnyn nhw hefyd. Dydyn nhw ddim yn gallu gweld pobl yn yr un ffordd roedden nhw'n gallu gwneud cyn y coronafeirws, ac maen nhw'n gweithio'n galed i dreial i fod yn hyblyg, treial i fod yn greadigol, i ffeindio ffordd i roi'r cymorth arbennig i'r bobl ifanc sy'n cwympo mor dost mae'n rhaid iddyn nhw gael gwasanaeth arbennig fel yna.
Mae yna, wrth gwrs, straen ar wasanaethau arbenigol CAMHS yn ystod y pandemig, ond nid problem newydd ydy hon. Mae ffigurau sydd newydd gael eu cyhoeddi yn dangos ym mis Awst 2019 fod bron hanner y rheini oedd yn cael referral ar gyfer gwasanaethau arbenigol CAMHS yn aros dros bedair wythnos. Dwi'n meddwl yng Nghaerdydd a'r Fro, mi oedd yn 85 y cant. Ond lle mae'r ymateb i hynny? Rydyn ni'n gweld cynnydd a chyflymu yn y broses frechu rŵan, mewn ymateb i'r amrywiolyn delta. Rydyn ni'n gweld rhaglenni dal i fyny yn cael eu cyflwyno mewn addysg, ond pan fo'n dod at broblemau iechyd meddwl dwys, dydw i ddim yn gweld yr un difrifoldeb. Rŵan, fel Gweinidog iechyd nôl yn 2015, mi ddywedasoch chi ei bod hi yn bwysig bod y bobl iawn yn cael eu trin ar yr amser iawn, ond pam, pan fo hi'n dod at iechyd meddwl pobl ifanc, nad ydy hynny'n digwydd hyd yn oed rŵan, chwe mlynedd yn ddiweddarach?
Rwyf i yn credu, Llywydd, nad yw'r Aelod yn rhoi clod priodol i'r datblygiadau a wnaed yn y gwasanaeth CAMHS yn y ddwy flynedd cyn dechrau'r pandemig coronafeirws, oherwydd fe wnaeth y ffigurau wella, ac fe wnaethon nhw wella'n sylweddol ledled Cymru. Roedd y gwasanaeth ar lwybr o welliant gwirioneddol. Rwyf i wedi ateb llawer o gwestiynau ar lawr y Senedd hon, o'r adeg pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, a fy marn i erioed yw mai'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer pobl ifanc yw amrywiaeth o wasanaethau fel nad yw pawb yn cael eu cyfeirio i'r gwasanaeth CAMHS fel y cam cyntaf tuag at gael cymorth gyda phroblem iechyd meddwl. Rhan o'r broblem gyda'r gwasanaeth CAMHS yw bod llawer iawn o bobl sy'n cael eu cyfeirio i'r gwasanaeth yn ymgeiswyr anaddas ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn y pen draw. Mae'n rhaid asesu'r holl bobl ifanc hynny, yna mae'r holl bobl ifanc hynny yn mynd i mewn i'r ciw o flaen pobl eraill y mae'r gwasanaeth hwnnw yn wirioneddol yr ymateb angenrheidiol iddyn nhw.
Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw tynnu'r bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i CAMHS pan ddylen nhw ac y gallen nhw gael darpariaeth briodol iawn gan wasanaeth cwnsela mewn ysgolion, neu weithiau hyd yn oed gan bobl sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o gymorth cyntaf iechyd meddwl mewn gwasanaethau cyffredinol fel y gwasanaeth ieuenctid, i allu helpu'r bobl ifanc hynny y mae angen cymorth o'r math hwnnw arnynt—y cymorth, fel y dywedais, Llywydd, pan eich bod chi'n siarad â phobl ifanc eu hunain, dyna'r cymorth y maen nhw'n ei godi gyda chi gan amlaf: pethau sydd ar gael yn rhwydd, wrth law, yn rhan o drefn arferol pethau y maen nhw'n ymwneud â nhw. Ac yna bydd y bobl y mae angen gwasanaeth CAMHS arnyn nhw yn gallu cyrraedd y gwasanaeth hwnnw yn gyflymach. Roedd y gwasanaeth ymhell ar y daith honno. Mae'n anochel bod coronafeirws yn tarfu arno. Ac, fel y dywedais i, mae'r gwasanaeth yn gweithio'n galed iawn i geisio dod o hyd i ffyrdd creadigol o allu parhau i ddarparu gwasanaeth amserol i'r bobl ifanc hynny sydd ei angen, er gwaethaf y cyfyngiadau ar y graddau y gallan nhw wneud hynny mewn ffyrdd wyneb yn wyneb mwy confensiynol.
Ac wrth gwrs, mae angen i ni gyfeirio pobl at y math iawn o gymorth, ond allwn ni ddim bychanu pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol CAMHS ychwaith. Ac fe fu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn ystod pedwar mis cyntaf eleni o'i gymharu â'r llynedd. Ond fe wnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd lawer o waith ar effaith y pandemig, a thynnodd sylw yn benodol at y broblem hon o'r canol coll—y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc y mae angen cyngor a chymorth iechyd meddwl arnyn nhw ond nad oes angen gwasanaethau acíwt neu arbenigol arnyn nhw o bosibl. Felly, cytunaf â'r Prif Weinidog ar hynny.
Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi cyflwyno cynigion ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau galw heibio ledled Cymru, a fydd yn cynnig cyngor a chymorth iechyd meddwl cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl ifanc. Nawr, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno y gallai rhwydwaith o'r fath—yn awr, yn arbennig, ar ôl y pandemig, efallai—gynnig achubiaeth i'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi eu dal yn y canol coll hwnnw ar hyn o bryd? Ac os felly, a fyddech chi a'ch swyddogion yn cyfarfod â mi i drafod mynd ar drywydd y cynnig hwnnw ymhellach?
Wel, Llywydd, rwy'n falch o glywed bod atgyfeiriadau wedi gwella. Mae hynny'n newyddion da, ac mae'n rhan o adferiad cyffredinol atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf eleni, o'i gymharu â'r cyfnod yn syth ar ôl yr argyfwng ym mis Mawrth a mis Ebrill y llynedd. Wrth gwrs fy mod i'n hapus iawn i drefnu cyfarfod i siarad ynghylch pa un a fyddai'r syniad hwnnw yn gyfraniad i'r ystod o wasanaethau yr ydym ni'n eu darparu ar hyn o bryd. Mae gwasanaethau galw heibio ar gael i bobl ifanc eisoes mewn nifer o wahanol ffyrdd, rhai drwy'r trydydd sector, rhai drwy'r gwasanaeth cwnsela sydd gennym ni mewn ysgolion. Felly, byddai angen i ni fod yn ffyddiog nad oeddem yn dyblygu rhywbeth a oedd eisoes ar gael nac yn tanseilio gwasanaeth a oedd eisoes yn llwyddo i ddarparu cymorth i bobl ifanc. Ond i archwilio'r syniad ac i weld beth y gellid ei wneud ohono, yna wrth gwrs rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod cyfarfod o'r fath yn cael ei drefnu.