2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cytundeb masnach amlinellol diweddar rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia ar ffermwyr cig eidion a chig oen yng Ngogledd Cymru? OQ56634
Diolch. Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid y diwydiant i nodi unrhyw effeithiau posibl ar sector amaethyddol Cymru. Roedd y gwaith hwn yn sail i'n sylwadau i Lywodraeth y DU, pan ddywedasom na ddylai unrhyw gytundeb masnach roi ffermwyr Cymru dan anfantais na pheryglu ein safonau uchel.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cytuno 'o ran egwyddor' ar y cytundeb masnach rydd newydd gydag Awstralia, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn gwneud cam â ffermwyr Prydain yn yr un modd ag y mae wedi gwneud cam â diwydiant pysgota Prydain. Byddai'n caniatáu i Awstralia gynyddu ei lefelau allforio cig eidion i'r DU fwy na 60 gwaith y lefelau yn 2020 yn y flwyddyn gyntaf, cyn y byddai unrhyw dariffau'n dechrau. Mae hyn yn gosod cynsail peryglus iawn ar gyfer cytundebau masnach pellach â gwledydd fel yr UDA a Canada. A gwn fod ffermwyr ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a gynrychiolir gennyf yn pryderu'n fawr am hyn.
Mae'r cytundeb hefyd yn bygwth safonau bwyd, rheoliadau lles anifeiliaid ac amddiffyniadau amgylcheddol, ar ben milltiroedd bwyd astronomegol, y dylem fod yn gweithio i'w lleihau yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd. Mae'n hanfodol fod cynnyrch o Awstralia wedi'i labelu'n glir, fel y gallwn ni fel defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd a brynwn a'r sgil-effeithiau. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, yn galw am amddiffyniadau i ffermwyr Cymru a'r safonau diwydiant sydd gennym ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos iawn gyda'n rhanddeiliaid yn y diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig eraill fel ein bod wedi gallu asesu effeithiau posibl yr holl negodiadau masnach sydd ar y gweill, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys y cytundeb ag Awstralia. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn y pum mlynedd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ym mis Mehefin 2016, ein bod wedi cyflwyno'r pwyntiau hyn dro ar ôl tro ac wedi cyflwyno sylwadau clir iawn i Lywodraeth y DU yn galw am fesurau diogelu amaethyddol priodol fel nad oes gennym gystadleuaeth anghyfartal iawn o'r fath yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'n safbwynt ar bwysigrwydd cadw tariffau a chwotâu ar ein nwyddau amaethyddol sensitif iawn, megis cig oen a chig eidion. Rwyf hefyd wedi tynnu sylw Llywodraeth y DU droeon at sut y gallai'r cytundeb hwn osod cynsail. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn: nid yw'n ymwneud â chytundeb Awstralia yn unig, mae'n ymwneud â'r cytundebau masnach eraill hefyd.
Mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch safonau, unwaith eto, nid ydym eisiau i'n safonau uchel iawn gael eu tanseilio gan wledydd nad oes ganddynt yr un safonau uchel â'n rhai ni. Rwy'n mynychu grŵp rhyngweinidogol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a gweinyddiaethau datganoledig eraill. Rydym wedi eu cynnal bob chwe wythnos yn ôl pob tebyg drwy gydol tymor diwethaf y Llywodraeth. Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Llun nesaf—hwn fydd y cyntaf y tymor hwn—a byddwn yn gallu ailadrodd hynny. Os caiff ei ystyried, fe gawn weld.
Ar labelu, unwaith eto, credaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae pobl yn deall tarddiad yn iawn bellach, ac maent eisiau gwybod o ble y daw eu bwyd. Felly, mae'n bwysig iawn fod unrhyw gig o Awstralia wedi ei labelu'n glir wrth ei werthu, fel y gall pobl wneud y penderfyniadau hynny ac fel y gellir gwahaniaethu rhwng y cynnyrch hwnnw a chynnyrch o safon uwch a fydd ar y silffoedd hefyd.
Ar ymweliad diweddar â fferm gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a nifer o ffermwyr, roedd yn ddiddorol nad cytundebau masnach oedd yn peri pryder sylweddol iddynt ond yn hytrach y meysydd rydych chi'n eu rheoli, Weinidog, megis parthau perygl nitradau a bygythiad cynyddol TB i'w da byw ac felly i'w bywoliaeth. Ond ar wahân i hynny, yng ngoleuni'r cyfleoedd y mae'r cytundeb hwn a chytundebau masnach y dyfodol yn eu cynnig, pa ymdrechion ychwanegol rydych yn eu gwneud i hyrwyddo cig eidion a chig oen Cymru dramor?
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i Hybu Cig Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau ein bod yn gallu hyrwyddo ein cig eidion a'n cig oen ledled y byd. Yn amlwg, ers pandemig COVID-19, nid ydym wedi gallu cynnal y nifer o ymweliadau masnach y byddem yn eu cynnal fel arfer, er ein bod wedi cynnal rhai digwyddiadau rhithwir. Ond gobeithio y gallwn barhau â'r ymweliadau masnach yn y dyfodol, wrth inni allu teithio.
Unwaith eto, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid eraill i wneud hynny, ac rydym hefyd—. Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth y byddwn, yn ddiweddarach eleni, yn cynnal Blas Cymru a ohiriwyd yn anffodus. Mae hwnnw'n denu miliynau o bunnoedd yn llythrennol, a bydd cig oen a chig eidion Cymreig yn amlwg iawn yno hefyd.