2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl mewn ymateb i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, fe wnaethoch chi ddweud:
'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal.'
Achosodd hynny lawer iawn o ofid a loes yn y diwydiant amaethyddol. A ydych chi'n derbyn bod hwnnw'n ddatganiad camarweiniol, Prif Weinidog?
Llywydd, fe ddywedaf i eto ar gyfer y cofnod fod ffurflenni adroddiadau asesu clefydau yn dangos bod wyth o bob 10 achos a gadarnhawyd mewn ardaloedd TB isel—ac ardaloedd TB isel y gofynnwyd i mi amdanyn nhw—i'w priodoli yn bennaf i symudiadau gwartheg. Felly, mae'n bwysig rhoi hynny ar y cofnod hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn, er hynny, gan ei fod yn caniatáu i mi ddweud bod ffermwyr yng Nghymru, wrth gwrs, yn gweithio'n galed iawn yn wir drwy'r cyfundrefnau bioddiogelwch a roddwyd ar waith ganddyn nhw i geisio diogelu eu buchesau rhag TB. Ac mae angen iddyn nhw barhau i wneud hynny, ac mae angen iddyn nhw barhau i wneud hynny ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a phopeth yr ydym ni wedi ei roi ar waith er mwyn parhau i ymladd pla TB mewn gwartheg, y niwed y mae'n ei wneud i'r anifeiliaid eu hunain, ond hefyd yr effaith wirioneddol y mae dal TB mewn buches o wartheg yn ei chael ar y rhai hynny sydd wedi gweithio mor galed yn aml iawn i ddatblygu'r buchesau hynny, ac i ofalu amdanyn nhw. Ni all dim o hynny dynnu oddi wrth y ffeithiau hysbys mai symud gwartheg, mewn ardaloedd lle na cheir llawer o achosion, yn hytrach na lledaenu'r clefyd gan foch daear, sydd y tu ôl i achosion ychwanegol, fel y gofynnwyd i mi gan Janet Finch-Saunders.
Prif Weinidog, gofid y datganiad hwnnw yw eich bod wedi nodi bod ffermwyr yn rhan o'r broblem. Rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod bod y rheoliadau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhaid i'r holl wartheg, cyn eu symud, gael prawf TB, a bod y prawf hwnnw yn ddilys am 60 diwrnod. Felly, mae'r ffermwyr eu hunain yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ynghyd â Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, gyda'r rheoliadau y maen nhw wedi eu rhoi ar waith. Byddwn ni'n anghytuno ynglŷn â'r ymgyrch gyffredinol y mae'r Llywodraeth yn ymgymryd â hi yma yng Nghymru, ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cydnabod ei fod yn ddatganiad gofidus iawn i'w wneud gennych chi fel Prif Weinidog, o gofio bod pob anifail buchol yng Nghymru ac anifeiliaid sy'n dod i Gymru o Loegr yn cael eu profi cyn eu symud. Felly, a wnewch chi ymddiheuro heddiw am y gofid hwnnw yr ydych chi wedi ei achosi drwy'r datganiad hwnnw i'r gymuned ffermio, gan dderbyn bod gennym ni wahaniaethau polisi ynghylch sut y dylid mynd i'r afael â TB?
Llywydd, gadewch imi ei roi fel hyn. Nid oedd erioed yn fwriad gennyf i beri gofid i neb yn y datganiad a wnes i. Yr hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato oedd bod y cwestiwn a ofynnwyd i mi wedi ceisio rhoi'r bai ar foch daear am y cynnydd mewn TB yn y gogledd mewn ardaloedd lle nad oedd llawer o achosion gan ddweud mai'r ffordd orau o ymdrin â hynny fyddai drwy ddifa moch daear. Nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y ffaith nad dyna yw polisi'r Llywodraeth, ac nid dyna fyddai'r ymateb cywir ychwaith.
Mae gan ffermwyr eu hunain gyfrifoldebau. Mae ganddyn nhw gyfrifoldebau dros symud gwartheg, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau dros gyflawni'r drefn brofi, ac rwy'n hapus i ailadrodd unwaith eto fy mod i'n gwybod am yr ymdrechion enfawr y mae ffermwyr yn eu gwneud i gadw eu buchesau'n ddiogel ac i gydymffurfio â'r cyfundrefnau hynny. Pan fo pethau'n dirywio, ac rydym yn ddiau wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o TB yn nyffryn Conwy, yn sir Ddinbych ac yn ardal Pennal, yna mae'n iawn y dylid ymchwilio i'r achosion am hynny ac ymchwilio iddyn nhw gyda meddwl agored. Mae hynny'n cynnwys yr holl chwaraewyr sydd â rhan i'w chwarae o ran cadw'r buchesau hynny yn ddiogel a lleihau TB yn yr ardaloedd hynny.
Wel, mae'n flin gennyf na allwch chi ymddiheuro ar y cofnod, Prif Weinidog, ond rwy'n ddiolchgar am eich esboniad manylach ynghylch yr hyn a oedd y tu ôl i'ch sylwadau ryw bythefnos yn ôl.
Pe gallwn i fynd i'r afael, yn fy nhrydydd cwestiwn i chi, â'r newid polisi o fewn 72 awr o ran ffordd osgoi Llandeilo, a oedd, rwy'n gwerthfawrogi, yn bolisi y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru mewn cytundeb cyllideb yn 2017. Rwyf i'n digwydd credu bod angen ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo, ac rwy'n credu hefyd fod trefi eraill y mae angen ffyrdd osgoi arnyn nhw, megis Dinas Powys yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers rhyw 50 mlynedd. Ond yr hyn yr wyf wedi'i chael yn anodd ei ddarganfod—. Ond lle'r wyf i wedi cael trafferth dod o hyd i gysondeb yw yn sylwadau'r Gweinidog ar ei draed yma yn y Siambr, a ddywedodd,
'Rwy'n credu y byddai'n edrych yn rhyfedd iawn pe byddem wedi hepgor Llandeilo o'r adolygiad Cymru gyfan a byddwn i yn sicr wedi codi rhai cwestiynau.'
Felly, pam, mewn 72 awr, y newidiodd safbwynt y polisi neu ai gwleidyddiaeth ariannu prosiectau lleol Gweinidogion yn unig yw hyn?
Wel, Llywydd, nododd y Gweinidog, yn dilyn ei ddatganiad ar lawr y Senedd, safbwynt Llywodraeth Cymru. Gadewch i mi fod yn glir: pan fydd y Llywodraeth hon yn taro cytundeb gyda phlaid arall, ein bwriad yw anrhydeddu'r cytundeb hwnnw. Bu gennym gytundeb gyda Phlaid Cymru mewn cylch cyllideb blaenorol. Roedd hynny'n cynnwys ffordd osgoi yn Llandeilo, a bydd yr adolygiad o ffyrdd, sy'n bolisi pwysig iawn ac a gaiff ei gynnal yn unol â'r hierarchaeth drafnidiaeth a bennwyd gennym ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, yn anrhydeddu'r cytundeb a wnaethom.
Arweinydd Plaid Cymru dros dro, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae adroddiad diweddaraf y Sefydliad Bevan a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn ddigon i sobri unrhyw un. Dwi'n gobeithio y gwnaiff o ddeffro'r Llywodraeth yma i weld dyfnder effaith tlodi ar ein cymunedau ni—problemau sydd wedi dod yn fwy amlwg, wrth gwrs, yn ystod y pandemig yma. Mae o'n dangos yn glir iawn yr anghydraddoldebau dwfn iawn sydd yn ein cymdeithas ni: un o bob 10 cartref heb sicrwydd am ddyfodol y to uwch eu pen nhw; 80,000 wedi cael clywed yn y pandemig bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd. Ond o yfory, mi fydd y polisi 'no evictions' yn dod i ben. O ystyried canfyddiadau'r adroddiad yma, a wnewch chi ailystyried hynny?
Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y ffordd y mae'r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn llawer rhy amlwg yn ein cymdeithas, ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i bwyso yn ôl yn erbyn llif cynyddol anghydraddoldeb yma yng Nghymru. Ond mae'n llanw sy'n codi oherwydd y camau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill.
Pan gyfarfûm â Changhellor y Trysorlys rai wythnosau yn ôl, achubais ar y cyfle i bwyso arno am yr angen i beidio â gostwng yr £20 yr wythnos y mae teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol yn ei gael yng Nghymru, mewn ymateb i'r pandemig. Estynnodd y Canghellor hynny yn ei gyllideb ym mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Medi, ond mae'r wythnosau hynny yn prysur ddiflannu, ac unwaith eto mae'r teuluoedd hynny yn wynebu'r posibilrwydd, yn y dyfodol agos o golli £1,000 mewn blwyddyn—£1,000 sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr bob wythnos i'r plant sy'n byw yn y teuluoedd hynny. Pwysleisiais y pwynt hwnnw mewn modd mor rymus ag y gallwn gyda'r Canghellor.
O ran troi allan, gadewch i mi egluro i'r Siambr—a chaiff hyn ei nodi'n fanylach gan fy nghyd-Weinidog Julie James—mai rheoliadau coronafeirws yw'r rheoliadau sydd wedi atal troi allan. Mae'n rhaid eu cyfiawnhau yn ôl y gyfraith ar sail y pandemig, ac wrth i rannau eraill o'n cymdeithas weld mwy o normalrwydd yn cael ei adfer, yna mae'n rhaid adfer mwy o normalrwydd mewn rhannau eraill o fywyd Cymru. Pe na byddem wedi gwneud hynny, rwy'n credu nad oes amheuaeth o gwbl y byddai Llywodraeth Cymru wedi cael ei herio yn y llysoedd gan landlordiaid sydd â buddiant dilys mewn amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn y cytundeb rhwng landlord a thenant.
Nawr, rydym ni wedi gwneud llawer iawn yn ystod y pandemig i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i denantiaid: ymestyn cyfnodau rhybudd, darparu taliadau tai dewisol ychwanegol, ariannu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat a'r canolfannau cyngor ar bopeth, yn ogystal â'r miliynau ar filiynau sylweddol iawn o bunnoedd yr ydym ni wedi'u gwario drwy awdurdodau lleol i fynd ati i ymdrin â phroblemau digartrefedd a sefydlogi sefyllfa tai pobl. Wrth i'r amser ddod pan fo rhaid dileu'r rheoliadau hynny, bydd y Gweinidog yn nodi rhagor o gymorth y byddwn ni yn ei roi i denantiaid yn y sefyllfa honno er mwyn lleihau'r risgiau sydd gan bobl o fod yn ddigartref a gorfod cael eu hailgartrefu mewn ffyrdd eraill gan awdurdodau statudol.
Prif Weinidog, fe'm trawyd gan un gair yn y fan yna: 'normal', 'normalrwydd'—rhywbeth yr ydym ni i gyd yn edrych ymlaen ato, mewn sawl ffordd, yng nghyd-destun y pandemig hwn. Ond mae tlodi wedi mynd yn rhy normal o lawer; mae tlodi plant wedi mynd yn llawer rhy normal, ymhell cyn dyddiau'r pandemig. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ddoe mai tlodi plant yw'r her fwyaf sy'n wynebu eich Llywodraeth chi. Roedd hynny'n wir cyn y pandemig hwn. Fel yr ydym ni wedi dadlau ers misoedd lawer, mae'r comisiynydd plant yn dadlau y dylid ymestyn prydau ysgol am ddim yn awr. Gallech chi gyflymu eich adolygiad o hynny, gallech chi wneud yr hyn yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ac ymestyn prydau ysgol am ddim i blant ym mhob teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol. O gofio'r neges sobreiddiol yn yr adroddiad hwnnw gan Sefydliad Bevan heddiw, pam na wnewch chi yn union hynny?
Wel, Llywydd, oni fyddai mor syml â hynny y gallai Llywodraeth Cymru gonsurio allan o'r awyr y miliynau lawer iawn o bunnoedd y byddai eu hangen i gyflwyno polisi o'r fath, gyda'r holl gyfleoedd eraill i wneud pethau pwysig ym mywyd plant yng Nghymru a dinasyddion eraill Cymru y byddai'n rhaid eu hepgor drwy wneud hynny. Mae arnaf i ofn bod bod mewn Llywodraeth yn fater o ddewisiadau, nid atebion hud a lledrith pan eich bod yn dweud, 'Beth am ddod o hyd i £100 miliwn i wneud rhywbeth?' fel pe na byddai hynny yn costio dim i unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Nid yw'n bosibl ychwaith, yn y ffordd yr awgrymodd yr Aelod, i gyflymu'r broses o gasglu data y mae eu hangen arnom ni i gynnal yr adolygiad. Bydd data'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion ar gael a byddant ar gael yn y ffordd arferol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ychwaith y gallu i roi cyfarwyddyd a fyddai'n rhoi'r data hynny i ni o'r pedwar gwynt.
Yn y cyfamser, Llywydd, mae'n bwysig rhoi rhai ffeithiau ar y cofnod hefyd. Yn y mis cyn y pandemig, felly pan oedd pethau—i ddefnyddio gair yr Aelod—yn normal, cyn y pandemig byd-eang, roedd 66,000 o blant yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim. Y mis diwethaf, y ffigur oedd 105,000, felly mae hynny bron i 40,000 o blant ychwanegol yn derbyn prydau ysgol am ddim yng Nghymru mewn ychydig dros flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau cynyddu nifer y plant yng Nghymru sy'n gallu manteisio ar y cynnig hwnnw, ond bydd yn rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan y data diweddaraf ac sy'n cael ei negodi drwy gylch y gyllideb, pryd y bydd llawer iawn o anghenion pwysig iawn y bydd ei blaid ef ac Aelodau eraill y Senedd hon yn dadlau drostyn nhw, ac y bydd yn rhaid i ni, yn y pen draw, eu pwyso a'u mesur yn erbyn ei gilydd a gwneud y gorau y gallwn ni o'r adnoddau hyn, sy'n anochel yn gyfyngedig, a fydd ar gael i ni.
Roedd honna'n rhestr hir iawn o esgusodion ynghylch pam nad yw'r Llywodraeth wedi cymryd y camau, mewn dros 20 mlynedd, a allai o leiaf ddangos i ni fod Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â thlodi plant. Ond, o dlodi plant i'r anghyfiawnder tai yr oeddwn yn sôn amdano, o anghyfiawnder economaidd i gyflogau is yng Nghymru—mae credyd cynhwysol, felly, wedi bod yn drychineb i deuluoedd yng Nghymru. Gall datganoli fod a dylai fod yn llinell amddiffyn rhwng San Steffan a Chymru, pe byddai'n cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial. Ond, o gofio'r gyfres o anghyfiawnderau economaidd a chymdeithasol yr wyf newydd eu crybwyll—mae llawer mwy ohonyn nhw—o ganlyniad i'r ffaith fod Cymru wedi ei chlymu i San Steffan, wedi'i dwysáu, ie, drwy ddiffyg gweithredu Llywodraethau Llafur olynol, a allwch chi wir ddal at eich sylwadau yn ôl ym mis Ebrill bod y system fudd-daliadau yn rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd? Ac, mewn gwirionedd, a allwch chi ddweud o ddifrif nad oes dewis arall yn hytrach na pharhau i ymwreiddio'r tlodi yr ydym yn ei weld yng Nghymru wrth fod yn rhan o'r DU?
Wel, Llywydd, wrth gwrs mae dewisiadau amgen i'r polisïau sy'n ymwreiddio tlodi, ac mae fy mhlaid i wedi dadlau'n gyson dros y polisïau hynny. Datganoli yw'r llinell amddiffyn yn erbyn effeithiau gwaethaf y polisïau hynny. Mae ein polisïau yn ychwanegu at gyflog cymdeithasol teuluoedd yma yng Nghymru—yr holl bethau yr ydym yn eu darparu ar y cyd, y byddai'n rhaid i bobl ddod o hyd iddyn nhw fel arall o'u pocedi eu hunain. Dim ond un enghraifft o hynny yw presgripsiynau am ddim.
Rydym wedi anghofio sut beth yw gorfod pwyso a mesur pa un o dri phresgripsiwn y gallwch fforddio talu amdano oherwydd na allwch fforddio talu amdanyn nhw i gyd, oherwydd nad yw teuluoedd yng Nghymru bellach yn wynebu'r cyfyng-gyngor hwnnw. Mae teuluoedd yng Nghymru hyd at £2,000 bob blwyddyn yn well eu byd oherwydd y gyfres honno o benderfyniadau y mae Llywodraethau olynol wedi'u gwneud yma yng Nghymru sy'n gadael arian ym mhocedi pobl.
Mae hwnnw'n amddiffyniad gwirioneddol. Mae hwnnw'n amddiffyniad gwirioneddol y mae teuluoedd yng Nghymru yn ei deimlo, oherwydd bod ganddyn nhw arian na fyddai ganddyn nhw mewn amgylchiadau eraill—oni bai am y camau y mae'r Senedd wedi'u cymryd, ni fyddai'r arian hwnnw yno iddyn nhw allu gwneud y penderfyniadau hynny. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn helpu neb i weithredu fel pe na byddai datganoli wedi bod o gymorth i neb, oherwydd mae wedi bod o gymorth enfawr, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru.
Llywydd, rwy'n credu y dylai'r system fudd-daliadau, o gael ei rhedeg yn briodol, fod yn rhan o'r hyn sy'n rhwymo'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd. Nid yw'r ffaith fod pensiynau yn cael eu talu yng Nghymru yn y ffordd y maen nhw yn dibynnu am eiliad ar Gymru yn unig. Mae'n dibynnu ar y gronfa lawer mwy honno o risgiau sy'n cael eu rhoi yn y gronfa honno, ac yna gwobrau yn cael eu rhannu rhyngom. Dim ond un enghraifft yw honno o'r ffordd y mae system fudd-daliadau ledled y DU yn parhau i fod er budd pobl Cymru.
Gallai fod yn llawer mwy manteisiol i ni, wrth gwrs, pe byddai Llywodraeth gydag ymrwymiad gwirioneddol i ailddosbarthu, i ddefnyddio'r peiriant ailddosbarthu y dylai'r system nawdd cymdeithasol fod. Ond, ni ddylid camgymryd y ffaith fod un blaid mewn Llywodraeth dros dro yn methu â chyflawni hynny am y potensial sydd gan y system honno i sicrhau'r manteision hynny i bobl Cymru.