– Senedd Cymru am 5:06 pm ar 29 Mehefin 2021.
Y datganiad nesaf yw'r un gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar waith teg a'r cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol. A'r Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Julie Morgan.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu amlinellu heddiw ein dull o sicrhau mai'r cyflog byw gwirioneddol yw'r gyfradd isaf a gaiff ei dalu i weithwyr gofal yng Nghymru. Rydym ni wedi mynegi ein cefnogaeth ers tro byd i gyflog byw gwirioneddol y Sefydliad Cyflog Byw, ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffem ni ei weld yn cael ei weithredu hyd a lled pob sector o'r economi. Ond rydym ni'n cydnabod bod angen cymryd camau ychwanegol i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu ym maes gofal cymdeithasol. Dyna pam y mae'n elfen allweddol o'n rhaglen lywodraethu ac yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer tymor y Senedd hon.
Yn ystod y pandemig, dechreuodd gweithwyr gofal cymdeithasol gael cydnabyddiaeth ehangach am y rhan bwysig sydd ganddyn nhw yn darparu gofal a chymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Fodd bynnag, nid oes mwy o gydnabyddiaeth na gwobr deg. Rydym ni wedi ymrwymo i greu gweithlu cryfach sy'n cael eu talu'n well ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwella cyflogau gweithwyr gofal yn cefnogi ein hymrwymiad i Gymru decach, ac yn sail i wasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd da y mae llawer o bobl yn dibynnu arnyn nhw.
Y llynedd, gwnaethom ni gynnal y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae'r fforwm yn grŵp partneriaeth cymdeithasol lle mae ein partneriaid wedi dod at ei gilydd i ystyried sut y mae modd gwella amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae partneriaeth gymdeithasol yn dwyn ynghyd undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth i nodi a gweithredu atebion sy'n arwain at well ganlyniadau. Mae'n ffordd sefydledig o weithio yng Nghymru. Felly, byddaf i'n disgwyl i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ein helpu ni i ddatblygu'r ymrwymiad cyflog byw gwirioneddol. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor, a rhaid i ni weithio gyda'n gilydd gydag ef i sicrhau ei fod yn arwain at newid cynaliadwy hirdymor.
Rydym ni'n bwriadu cychwyn yn gynnar yn nhymor y Senedd; byddaf i'n gofyn i'r fforwm gwaith gofal cymdeithasol am eu cyngor ar y ffordd orau o ddatblygu'r ymrwymiad hwn a sut y gallwn ni sicrhau, wrth wneud hynny, nad ydym ni'n ansefydlogi'r sector bregus a chymhleth hwn. Rwyf i hefyd eisiau gweithio ar y cyd â'r fforwm i ddeall sut y gallem ni sicrhau bod y cyllid hwn yn cael yr effaith fwyaf posibl.
Mae gwaith teg yn ymwneud â mwy na thâl. Mae'r diffiniad o waith teg yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yng Nghymru yn cynnwys chwe nodwedd, gyda chydraddoldeb a chynhwysiant yn llinyn cyffredin ym mhob un o'r rhain. Mae'r nodweddion yn cynnwys, er enghraifft, llais gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol, diogelwch a hyblygrwydd, twf a dilyniant, ac amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol. Mae angen i ni fod yn hyderus y bydd arian cyhoeddus yn golygu bod gweithwyr yn well eu byd a'r sector yn gryfach, ac y bydd arian cyhoeddus yn gatalydd ac yn sbardun i gyflogwyr sy'n cyflwyno amrywiaeth ehangach o fudd-daliadau ac arferion gwaith teg i weithwyr.
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn haeddu gwobr deg, ac mae ymdeimlad o frys wrth sicrhau bod hynny'n digwydd, ac yr wyf i eisiau gweld grŵp cyntaf o weithwyr yn cael y taliad yn gynnar yn nhymor hwn y Llywodraeth.
Fodd bynnag, mae'n sector cymhleth, ac rydym ni'n gwybod y bydd angen ymdrin â newid hirdymor gyda llaw gadarn, a rhaid iddo fod yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus. Bydd angen i ni fynd ati fesul cam i weithredu'r ymrwymiad hwn, sy'n golygu na fydd pob gweithiwr yn cael y cyflog byw gwirioneddol ar yr un pryd. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cydnabod y bydd angen amser ar gyflogwyr a chomisiynwyr i addasu i newidiadau. Rydym ni eisiau sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu tynnu nôl.
Mae hwn yn sector lle mae cannoedd o gyflogwyr a degau o filoedd o weithwyr. Mae'r mwyafrif llethol—tua 85 y cant o wasanaethau—yn y sector annibynnol. Dim ond un neu ddau o gartrefi neu wasanaethau bach y mae nifer fawr o ddarparwyr sector annibynnol yn eu cynnal, a nhw yw'r cyflogwr. Mae hyn yn golygu bod cyflog, telerau ac amodau yn amrywio ledled y sector. Mae cyfraddau cyflog gweithwyr gofal yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth a ledled awdurdodau lleol. Rydym ni'n deall bod nifer fach o gyflogwyr eisoes yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Fodd bynnag, nid felly y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Er ein bod ni'n buddsoddi arian cyhoeddus, mae heriau o ran gorfodi cyflogwyr i fynd ymhellach na'r isafswm statudol a gafodd ei bennu gan Lywodraeth y DU. Bydd angen i ni weithio drwy'r trefniadau comisiynu i wneud i hyn ddigwydd. Mae angen i ni fanteisio ar y trefniadau gweithio cryf sydd gennym ni rhwng darparwyr a chomisiynwyr.
Bydd yr ymrwymiad hwn yn helpu i gefnogi recriwtio, ond mae'n bwysig, wrth weithredu'r ymrwymiad, nad ydym ni'n creu heriau newydd i ddarparwyr. Dyna pam y mae ymgysylltu â phob rhan o'r sector, drwy bartneriaeth gymdeithasol, mor bwysig. Mae hyn yn dangos cymhlethdod y materion y mae angen i ni weithio drwyddyn nhw.
Byddaf i'n gofyn i fod yn bresennol yn fforwm mis Gorffennaf, pan fyddaf i'n gofyn i aelodau'r fforwm wneud argymhellion i mi ynghylch y dull gorau o sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn mwynhau cyflog tecach erbyn 2024. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm ymgysylltu â'r sector wrth iddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Rwy'n cydnabod y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael effaith ar rannau o'r sector nad ydyn nhw yn cael eu cynrychioli'n uniongyrchol yn y fforwm, ac felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ymgysylltu ar yr ymrwymiad hwn yn ehangach nag aelodaeth y fforwm. Pan fyddaf i'n cwrdd â'r fforwm ym mis Gorffennaf, byddaf i'n gofyn iddyn nhw ystyried pa ran o'r sector ddylai fod yn fan cychwyn i ni. Byddaf i'n gofyn i'r fforwm adrodd yn ôl i ni, ac yn dilyn hynny byddaf i'n gwneud datganiad arall ar ein cynlluniau ar gyfer gweithredu'r ymrwymiad hwn.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hirdymor, lle mae gweithwyr o'r farn eu bod yn cael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni eisiau cryfhau'r gweithlu. Bydd cryfhau'r gweithlu yn sail i ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd yn sicrhau bod y sector yn gallu diwallu anghenion newidiol ein cymunedau. Dyma'r sylfaen ar gyfer cryfhau gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â darparu Cymru decach a chryfach.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma.
Mae'n siomedig iawn bod cyflog teg i weithwyr gofal cymdeithasol mor bell i ffwrdd. Byddwn i wedi meddwl, Dirprwy Weinidog, gyda'n plaid ni'n addo talu o leiaf £10 yr awr i staff ym maes gofal cymdeithasol, a Phlaid Cymru yn addo cynyddu'r cyflog mewn termau real, mai cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol fyddai'r isafswm lleiaf y byddech chi wedi'i wneud. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi'i fwrw o'r neilltu ac wedi gofyn i bwyllgor lunio argymhellion—er ni ddylai hynny fod yn syndod, o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi trin y gweithlu gofal cymdeithasol yn ystod y 15 mis diwethaf. Staff gofal cymdeithasol yw rhai o'r gweithwyr â'r cyflogau isaf, ond roedd disgwyl iddyn nhw fynd uwchlaw a thu hwnt i’w dyletswydd yn ystod y pandemig. Rydym ni i gyd yn cofio'n iawn y £500 a gafodd ei addo i staff gofal y llynedd, a gafodd ei lesteirio gan betruso ac oedi oherwydd methodd Llywodraeth Cymru â thrafod y mater gyda'r Trysorlys cyn anfon ei datganiad i'r wasg. Dirprwy Weinidog, rydym ni'n ddiolchgar i chi gywiro hyn gyda thaliad ychwanegol, ond nawr, a wnewch chi ymddiheuro'n gyhoeddus i bawb a gollodd y taliad cychwynnol, ac a wnewch chi roi'r dasg i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych y tu hwnt i'r cyflog byw gwirioneddol? A fyddwch yn gofyn iddyn nhw edrych ar dâl salwch, a gafodd ei amlygu yn ystod y pandemig hwn?
Gwnaeth ymchwiliad gan Dŷ'r Arglwyddi ddarganfod bod cartrefi gofal a oedd yn dibynnu ar y rhai a oedd yn ariannu eu gofal eu hunain yn gallu talu staff bron ddwywaith cyflog y cartrefi hynny a oedd wedi'u hariannu gan awdurdodau lleol. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod yn rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n briodol er mwyn ariannu staff gofal cymdeithasol yn briodol? A wnewch chi sicrhau'r Siambr hon y bydd setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol yn caniatáu i'n cynghorau dalu cyflog teg i staff gofal cymdeithasol?
Wrth gwrs, nid wrth y swm yr ydym ni'n ei dalu iddyn nhw yn unig yr ydym ni'n gwerthfawrogi ein staff; mae sut yr ydym ni'n eu trin nhw a'r ffordd yr ydym ni'n eu hyfforddi nhw bron yr un mor bwysig â thalu cyflog teg. Yn anffodus, mae gan Gymru weithlu gofal cymdeithasol sydd wedi colli brwdfrydedd ac wedi digalonni ers amser maith. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld y cyfraddau trosiant staff uchaf erioed a niferoedd uchel iawn o swyddi gwag.
Dirprwy Weinidog, gosododd Llywodraeth flaenorol Cymru darged o gyflogi 20,000 yn fwy o staff gofal cymdeithasol erbyn diwedd y degawd hwn. Ai eich bwriad chi o hyd yw gwneud hynny ac, os felly, a wnewch chi amlinellu'r camau y byddwch chi'n eu cymryd i gyflawni'r targed hwn? Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, mae gennym ni 9 y cant o swyddi ym maes gofal cymdeithasol i oedolion heb eu llenwi a chyfradd trosiant staff o 13 y cant. Ym maes gofal cartref, mae'r gyfradd drosiant yn 30 y cant enfawr y flwyddyn. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno, oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â digalondid staff, bydd y mater cyflog yn eilradd? Ar wahân i fater cyflog teg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol i staff presennol a'r rhai sy'n ystyried dilyn proffesiwn gofalu?
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Dirprwy Weinidog, i wella cyflog ac amodau staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i sicrhau bod gwaith gofal yn dod yn broffesiwn mwy dymunol, ac yn adlewyrchu'n deg y gwerth yr ydym ni'n ei roi ar y staff anhygoel sy'n gweithio ym maes gofal. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd ein hymrwymiad llwyr i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, nid yw'r mater cyflog wedi'i fwrw ymaith. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae angen i ni wneud hyn yn ofalus ac yn ochelgar oherwydd ei fod yn gymhleth iawn—. Mae'r sector gofal yn gymhleth iawn, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth, gan weithio gydag undebau llafur, gweithio gyda chyflogwyr a gweithio gyda phartïon eraill â diddordeb. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni symud ymlaen yn y math hwnnw o ffordd, a byddai'n ffôl iawn ceisio rhuthro a gwneud hynny.
Serch hynny, rydym ni eisiau symud cyn gynted ag y gallwn ni oherwydd ein bod ni'n cydnabod bod staff gofal cymdeithasol wedi cael cyflog isel iawn am gyfnod hir iawn. Felly, rydym ni'n bwriadu gweithredu rhai rhannau o'r sector cyn gynted ag y gallwn ni. Rwy'n gobeithio erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf y byddwn ni'n gallu dechrau talu rhai rhannau o'r sector, ond rydym ni'n dibynnu ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i weithio gyda ni, yn y ffordd ar y cyd yr wyf wedi'i disgrifio, i benderfynu pwy ddylai fod y gweithwyr gofal cymdeithasol cyntaf i gael y cynnydd. Ac, wrth gwrs, gweithio gyda'r awdurdodau lleol, yr oedd ef wedi sôn amdanyn nhw, i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd nod cyffredin, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn y mae'r pandemig wedi'i wneud yw gwneud i bawb sylweddoli ein bod ni eisiau sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gwell cytundeb, ac yn sicr nid oes ganddyn nhw hynny nawr.
Rydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol ac mae hynny'n flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu ac, wrth gwrs, mae'n gyfradd gyflogau sy'n cael ei chyfrifo'n annibynnol bob blwyddyn i dalu gwir gostau byw. A chaiff ei adolygu—mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn achredu sefydliadau sy'n talu'r cyflog byw—ac felly dyma'r ffordd fwyaf priodol, rwy'n credu, o symud ymlaen. Ond rydym ni'n ymwybodol y bydd angen gwneud mwy, ond rwy'n credu y bydd darparu'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gweithwyr gofal. Ond rydym ni'n derbyn ei fod yn un cam ymlaen.
Rwy'n credu iddo gyfeirio at ddigalonni'r staff gofal. Yn sicr, maen nhw wedi bod drwy newid enfawr ac wedi wynebu anawsterau aruthrol na allem ni fyth fod wedi dychmygu y bydden nhw wedi'u gwneud. Ond rwy'n credu bod talu'r ddau daliad bonws arbennig yn gynnydd mawr iddyn nhw, oherwydd siaradodd llawer ohonyn nhw â mi a dweud sut roedd hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, a bod eu gwaith yn cael ei gydnabod. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i geisio cynyddu'r gwaith o broffesiynoli'r staff gofal cymdeithasol drwy gofrestru. Mae hynny'n rhywbeth yr oeddem ni'n ei wneud cyn i'r pandemig ein taro ni, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a fydd yn sicrhau bod y staff gofal cymdeithasol yn ymfalchïo yn eu proffesiwn. Felly, diolchaf iddo ef am ei sylwadau, ond rwy'n credu ein bod ni'n mynd ar y ffordd iawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad, ac mae hwn yn rhywbeth dwi'n ei groesawu fel cam i'r cyfeiriad cywir. Mae yna frawddeg yn y datganiad sy'n fy mhoeni i. Mi ddywedasoch chi yn ystod y pandemig fod gweithwyr gofal wedi dechrau derbyn y gydnabyddiaeth ehangach am y rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae yn darparu gofal a chefnogaeth i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, fod yna ryw ddealltwriaeth newydd wedi dod o bwysigrwydd y sector yma, ond does yna byth esgus i Lywodraeth fod dim ond yn deffro rŵan, yn ystod pandemig, i werth y sector yma, a dyna pam dwi mor rhwystredig ei bod hi wedi cymryd pandemig i ni ddod at y pwynt yma lle mae yna gydnabyddiaeth yn dechrau cael ei dangos iddyn nhw o ran lefel eu cyflog.
Mae yna rywbeth y gallech chi ei wneud. Ydy, mae hi'n gorfod bod yn broses ofalus. Mi fyddwn i'n licio gweld y broses yn digwydd yn llawer cyflymach na dwi wedi'i gweld yn cael ei hamlinellu gan y Dirprwy Weinidog heddiw, ond, oes, mae yna gamau i'w dilyn. Un peth y gallai'r Llywodraeth ei wneud, felly, fyddai pan fydd y cynnydd yn cael ei gyflwyno yn y ffordd briodol, ei fod o'n cael ei 'backdate-io' i gynnwys elfennau o'r pandemig lle mae gweithwyr gofal wedi mynd ymhell tu hwnt beth fyddai unrhyw un yn ei ddisgwyl ohonyn nhw wrth ofalu am y bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
Pam cynnig y cyflog byw gwirioneddol yn hytrach na'r £10? Nid dim ond ni a'r Blaid Geidwadol; mae undeb Unsain wedi argymell y dylai £10 fod y ffigur. Oes yna reswm pam? Achos rydych chi'n agos ato fo—rhyw £9.50 ydy'r ffigur erbyn hyn. Pam pitsio hwn yn is pan fo yna gryn waith wedi cael ei wneud ar hyn, yn cynnwys gan yr undebau llafur priodol, i benderfynu beth fyddai'r lefel? Gadewch i ni fod yn onest; dydy £10 yr awr ddim yn agos at fod yn ddigon chwaith.
Nid dim ond lefel y cyflog sydd yn bwysig. Mae cyfran llawer rhy fawr o'r gweithlu ar gytundebau sero oriau. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cynnig cynigion dro ar ôl tro yn y Senedd yma, yn gofyn, 'Plis, wnewch chi fynd i'r afael â hyn ac atal y cytundebau sero oriau o fewn y sector yma?' Mae'r Llywodraeth wedi dewis gwrthod hynny. A ydy o'n fwriad gennych chi rŵan, ochr yn ochr â'r cynnig yma o gynyddu cyflog, i fynd ar ôl y mater hwnnw?
Ac ar y bonws, yn olaf, dwi'n cyd-fynd efo llefarydd y Ceidwadwyr fod Llywodraeth Cymru wedi delio efo mater y bonws mewn ffordd gwbl shambolic, mewn difri, ac y dylid bod wedi rhoi'r hwyaid mewn rhes cyn gwneud cyhoeddiadau, ac rydym ni'n gwybod faint o oedi a fu oherwydd y blerwch, bryd hynny. Ond, hynny ydy, y Trysorlys Ceidwadol, yn y pen draw, wnaeth fethu â delio efo'r mater yn y ffordd ddifrifol yr oedd o'n ei haeddu a ffeindio datrysiad, fel bod y problemau yn gallu cael eu datrys. Ac un broblem sy'n codi dro ar ôl tro gen i ac Aelodau eraill ar y meinciau yma ydy'r bobl sydd wedi colli credyd cynhwysol wrth iddyn nhw gael cynnig y bonws. Ydy hwnnw'n rhywbeth rydych chi'n dal yn trio mynd i'r afael â fo, yn cynnwys y posibilrwydd o gynyddu'r bonws i'r rheini sydd wedi gweld eu hunain yn colli arian a fyddai wedi dod fel arall o dan y credyd cynhwysol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am yr holl bwyntiau yna. O ran pam y cyflog byw gwirioneddol yn hytrach na'r £10 y gwnaeth ef ei grybwyll, rwy'n credu i mi ymateb i hynny, i lefarydd y Ceidwadwyr. Mae'r cyflog byw gwirioneddol yn rhoi sicrwydd i weithwyr y bydd eu cyfraddau cyflog yn cael eu hadolygu'n annibynnol ac yn deg bob blwyddyn. Yn hytrach na ffigur untro, fel £10, mae modd rhoi sicrwydd i weithwyr y caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn. Mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn sefydliad uchel ei barch sy'n gwneud cyfrifiad ac maen nhw wedi cynnig £9.50, ac rwy'n credu y bydd yn gam mawr ymlaen pan fyddwn ni'n gweithredu'r £9.50 ar gyfer pob gweithiwr gofal cymdeithasol. Rwyf i'n cydnabod ei fod yn gam i'r cyfeiriad iawn, ond fel y dywedais i, rydym ni'n dibynnu'n fawr wedyn ar y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i weithio ar yr holl faterion hyn gyda ni.
Ac mae'r holl bwyntiau eraill ynghylch y bonws y gwnaeth ef sôn amdanyn nhw, fe wyddoch chi, rwy'n credu, yn amlwg, y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi parhau i drethu'r bonws a hefyd yn caniatáu iddo effeithio ar y buddion yn rhywbeth yr oedd ganddyn nhw'r pŵer i'w wneud, ac mae'r ffaith nad oedden nhw wedi'i wneud yn dangos eu diffyg cydymdeimlad â gweithwyr gofal cymdeithasol.
Y pwyntiau eraill y mae ef yn eu gwneud ynghylch y contractau dim oriau a'r gydnabyddiaeth wahanol i weithwyr gofal cymdeithasol, mae'r rheini i gyd yn bethau y bydd y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn eu hystyried. Ond rydw i wir yn teimlo bod hwn yn gam ymlaen a byddwn ni'n darparu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol erbyn 2024, ond byddwn ni'n dechrau ei gyflawni erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf ac rwy'n credu bod hynny'n amserlen resymol.
Ac yn olaf, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am y diffiniad o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'n fater sydd wedi'i godi gyda mi ac rwyf i, yn fy nhro, wedi ysgrifennu atoch chi yn ei gylch—nad yw rhai mathau o weithwyr wedi'u cynnwys yn y cynllun cydnabod gofal cymdeithasol, er enghraifft, eiriolwyr a staff cymorth busnes.
Yn ail, rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch gwneud gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hirdymor. A allwch chi ddweud unrhyw beth arall am waith Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol a'r agenda sgiliau? Dylem ni i gyd gydnabod bod gofal cymdeithasol yn swydd fedrus, wrth gwrs, ond sut y gallwn ni sicrhau ei fod yn wir yn cael ei ystyried felly?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae'n amlwg bod y mater ynglŷn â phwy sydd wedi cael y taliad cydnabod wedi achosi rhai problemau, yn enwedig gyda'r bobl y mae hi wedi sôn amdanyn nhw—eiriolwyr a chymorth busnes. Ond diben rhoi'r bonws i weithwyr gofal cymdeithasol oedd ei roi i'r rhai sydd wir yn darparu'r gwasanaeth. Ac rydym ni wir yn dymuno y gallem ni ei ddosbarthu'n llawer ehangach, ond wrth gwrs, mae terfyn ariannol i'r hyn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd. Felly, un o'r tasgau cyntaf y byddwn ni'n gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ei gwneud, yw gweithio gyda ni i ddiffinio pwy fydd y gweithwyr gofal cymdeithasol a fydd yn cael y cyflog byw gwirioneddol, ac ni fydd hynny'n hawdd ei wneud. Dyna pam yr wyf i wedi dweud, mewn gwirionedd, fod hon yn broses gymhleth a pham nad ydym ni eisiau ei rhuthro. Mae'n amlwg bod rhai gweithwyr yn weithwyr gofal cymdeithasol, er enghraifft, pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl neu bobl sy'n darparu gofal cartref, ond mae llu o bobl eraill y mae'n rhaid eu hystyried. Felly, dyna fydd un o dasgau cyntaf y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, ac rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gwneud hynny ar y cyd â'r undebau a gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill.
Nawr, wrth geisio annog pobl i ddewis gofal cymdeithasol fel dewis gyrfa, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cofrestru gweithwyr cartref a nawr mae'n symud ymlaen at gofrestru gweithwyr gofal preswyl. Mae'r broses gofrestru yn amlygu'r sgiliau sydd gan gynifer o bobl, a beth allai fod yn bwysicach na gofalu am unigolyn oedrannus, agored i niwed neu blentyn sy'n agored i niwed? Mae'n un o'r swyddi pwysicaf y mae modd ei gwneud, a thrwy eu hysbysebu—mae ganddyn nhw broses hysbysebu sy'n uchel ei pharch ac sydd, mewn gwirionedd, wedi cael ei hefelychu gan wledydd eraill yn y DU, gan yr Alban yn benodol—maen nhw wedi llwyddo i ddenu pobl i wneud cais am swyddi gweithwyr gofal cymdeithasol. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod yn rhaid i ni gyfrannu popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y swyddi hyn yn parhau i fod yn swyddi llwyddiannus i bobl, lle maen nhw'n teimlo bod ganddyn nhw yrfa o'u blaenau. Ac rwy'n credu mai gwneud yn siŵr bod eu cyflog yn gwella yw un o'r camau cyntaf tuag at hynny.
Diolch, Dirprwy Weinidog.