– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 30 Mehefin 2021.
Felly, fe awn ni ymlaen yn ein gwaith i'r ddadl fer, a dwi'n galw ar James Evans i siarad ar y pwnc sydd wedi'i ddewis ganddo fe. Felly, James Evans.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, ni fyddaf yn mynd dros yr amser, fel y gwneuthum y tro diwethaf inni gael dadl, a dyrannaf funud o fy amser i Laura Anne Jones, Peter Fox a Mabon ap Gwynfor.
Mae'r Aelodau yn y Siambr a'r rhai sy'n gwylio o bell yn anghytuno ynglŷn â llawer o bethau. Y tro hwn, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rywbeth y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch—yr angen mawr i wneud popeth posibl i gynnal a gwella ansawdd ein dŵr yn ein hafonydd yng Nghymru. Yr afonydd yng Nghymru yw'r llinynnau arian rhwng ein hucheldiroedd a'r arfordir. Maent yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Maent yn cynnig cyfle i fwynhau hamdden ac yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o dyfu ein heconomi drwy ddenu twristiaid i'n gwlad wych. Mae gennym afonydd eiconig yng Nghymru, megis y Cleddau, y Teifi a'r Tawe, ac wrth gwrs, y Wysg a'r Gwy, sy'n mynd drwy fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r rhain wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Maent yn gartref i rywogaethau gwerthfawr fel yr eog, misglen berlog yr afon a chimwch yr afon, ac maent oll angen inni eu diogelu. Mae afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn cael pob clod amgylcheddol, ond ni ddylem leihau pwysigrwydd afonydd fel Conwy, y Taf a'r Tawe. Mae'r afonydd hynny'n mynd drwy ein cymunedau mwy o faint ac mae gennym ddyletswydd o ofal i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i wella ansawdd dŵr ledled Cymru.
Y milwyr traed ym mrwydr Llywodraeth Cymru i wella afonydd yw swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, cangen o'r Llywodraeth i bob pwrpas sy'n atebol yn unig i'r Prif Weinidog a'i gyd-aelodau o'r Cabinet. Ar ddiwedd 2020, pan oedd pobl yn edrych ymlaen at wneud y gorau o Nadolig o dan gyfyngiadau COVID, cyhoeddodd CNC ganllawiau i awdurdodau cynllunio eu gweithredu ar unwaith. Mae'r canllawiau'n berthnasol i'r mwyafrif helaeth o geisiadau cynllunio ar gyfer datblygu lle ceir perygl o gynyddu'r ffosffadau sy'n mynd i mewn i gyrsiau dŵr yn nalgylchoedd naw ardal cadwraeth arbennig afonol yng Nghymru. Oni all y datblygiadau hyn ddangos y gallant fod yn niwtral neu'n negyddol o ran ffosffad, nid oes gan yr awdurdodau cynllunio unrhyw opsiwn heblaw gwrthod y ceisiadau hyn. Mae'r canllawiau'n berthnasol i dai, swyddfeydd, ffatrïoedd a hyd yn oed i'r teulu sy'n dymuno adeiladu estyniad ar gyfer baban newydd-anedig neu berthynas deuluol oedrannus. Ac eto, nid ydynt yn berthnasol yn nalgylchoedd afonydd Conwy, y Taf a'r Tawe, a rhaid meddwl tybed pam. Er hynny, dywedaf eto: rydym i gyd am weld ansawdd dŵr yn gwella. Ond mae'n rhaid cwestiynu a anwybyddwyd mesurau eraill mwy effeithiol ac a yw CNC a'r rhai sydd eisiau adeiladu tai, swyddfeydd neu doiledau newydd wedi syrthio'n ysglyfaeth i gyfraith canlyniadau anfwriadol.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Dŵr Cymru i uwchraddio eu seilwaith, ond mae hon yn rhaglen hirdymor nad yw'n mynd i'r afael â'r broblem bresennol. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, dim ond dau waith trin dŵr Dŵr Cymru, yn Nhalgarth a Llandrindod, sy'n gallu tynnu'r ffosffadau i safon dderbyniol ar hyn o bryd. Mae hyn ymhell islaw'r hyn sy'n ofynnol. Yn rhy aml o lawer, clywn fod carthffos heb ei thrin a dŵr llawn ffosffad yn cael ei ollwng o waith trin dŵr i mewn i'n cyrsiau dŵr. Felly, mae hynny'n ein gadael mewn sefyllfa lle mae'r fflat mam-gu yn Llanwrtyd neu'r toiledau yn Aberhonddu sy'n defnyddio carthffosydd cyhoeddus yn cael eu gwahardd i bob pwrpas gan CNC am y byddant yn ychwanegu swm eithriadol o fach at y lefelau ffosffad cyffredinol sy'n mynd i mewn i'n hafonydd. Ac eto, gwelwn benderfyniad polisi gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heb ymgysylltiad angenrheidiol â rhanddeiliaid, heb gyllid na buddsoddiad digonol a heb roi'r atebion i allu rhoi camau unioni ar waith. Unwaith eto, mae polisi'r weinyddiaeth yn tagu datblygiad, gan roi CNC, Dŵr Cymru ac awdurdodau cynllunio mewn sefyllfa amhosibl, a gosod y bai a'r cyfrifoldeb am reoli ffosffad ar ysgwyddau'r adeiladwr a deiliaid tai cyffredin. Mae'r polisi hwn yn lladd gobeithion a dyheadau cynifer o bobl sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai ac yn tagu'r economi. Mae hefyd yn cyfyngu ar dargedau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer adeiladu tai, ac rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon o'r blaen: mae'n dangos nad yw'r llaw chwith yn siarad â'r llaw dde.
Ond gadewch i mi awgrymu ychydig o syniadau mewn ysbryd cydweithredol, gan fod problem a rennir yn broblem wedi'i haneru. Mae amaethyddiaeth yn aml yn cael ei chyhuddo o fod yn ffynhonnell bwysig o lygredd ac mae un digwyddiad llygredd amaethyddol yn un yn ormod. Ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad ac maent yn malio'n fawr am ansawdd ein hamgylchedd a'n tirweddau. Mae ffermwyr yn llawn dychymyg ac egni ac wrth inni drafod y mater hwn yma, mae llawer wrthi'n ystyried dulliau o wella'r ffordd y maent yn rheoli gwastraff ac ansawdd dŵr. Ond Weinidog, mae angen help arnynt. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar waith i fynd i'r afael â llygredd dŵr amaethyddol, megis gorchuddio storfeydd tail, ond nid yw'r cymorth ariannol yn mynd yn ddigon pell. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddatrys llygredd amaethyddol, mae angen i chi roi eich arian ar eich gair.
Nid oes gan yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru ganllawiau clir ychwaith ar sut i gymhwyso'r rheoliadau hyn, gan adael ceisiadau'n sownd yn y broses gynllunio. Felly, Weinidog, rwy'n eich annog i ymgysylltu'n ehangach â rhanddeiliaid awdurdodau cynllunio, adeiladwyr a phenseiri a'u hasiantau, fel y gallant i gyd ddeall sut i ddehongli'r canllawiau dryslyd hyn.
Er bod gan Dŵr Cymru nod hirdymor i uwchraddio'r gwaith trin dŵr gwastraff, mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn, ac mae angen rhoi pwysau i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rhaid inni edrych hefyd ar fesurau dros dro. Gallem edrych ar gyfleusterau parod i drin carthion ar y safle, nodwedd a welir yn aml mewn ardaloedd gwledig fel fy un i ac eraill yn y Siambr hon. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig afonol i'r pwynt lle mae cannoedd lawer o unedau preswyl, dwsinau o gynigion masnachol a llawer o welliannau i gartrefi yn sownd yn y system gynllunio. Felly, Weinidog, efallai y gallech edrych ar hyn a helpu i ddatrys y broblem.
Nid yw hon yn broblem newydd. Yn Llychlyn a'r Almaen yn benodol, mae terfynau llym wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer, a datblygwyd atebion technegol i sicrhau bod all-lifoedd o weithfeydd trin carthion preifat yn gwella ansawdd y dŵr yn eu hafonydd mewn gwirionedd. Mae'r rhain ac atebion eraill wedi'u cynnig i awdurdodau lleol yng Nghymru gan ymgeiswyr, ond mae CNC yn eu hanwybyddu neu'n gwrthod eu hystyried na rhoi sylwadau hyd yn oed ar lwybrau arfaethedig drwy'r sefyllfa gynyddol annifyr hon.
Yn fy ardal i, mae gennym gannoedd o geisiadau ar gyfer cartrefi, gyda llawer ohonynt yn dai fforddiadwy, sydd wedi dod i stop. Teimlir rhwystredigaeth debyg yng nghyd-destun datblygiadau swyddfa, siopau a thai cyngor newydd yn y sector cyhoeddus hyd yn oed, ac nid dyma'r unig brosiectau sydd ar y gweill. O'r ysgol newydd i'r cynllun cymdeithas dai, y ffatri newydd, a hyd yn oed ymdrechion i roi cartref i berthynas oedrannus neu aelod newydd o'r teulu, mae'r rhagolygon yn llwm i lawer o ddatblygiadau ledled Cymru.
Weinidog, mae gennych bŵer i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gennych fom amser amgylcheddol yn aros amdanoch yn afonydd trefi'r cymoedd mewn rhannau helaeth o ogledd a de Cymru, gan ei bod yn ymddangos eu bod wedi'u hesgeuluso gan CNC, a galwaf arnoch i ymuno â ni i chwilio am ateb uniongyrchol ac effeithiol i'r argyfwng hwn a threfnu cyfarfod rhwng CNC, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill mewn uwchgynhadledd frys i ddod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r broblem hon, neu fel arall bydd eich targedau adeiladu cartrefi yn cael eu methu a bydd llawer o bobl a busnesau'n dioddef y canlyniadau am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch, Lywydd.
Laura Jones.
Diolch, Lywydd. A allwch chi fy nghlywed? Iawn. Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i James am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr? Lywydd, rwy'n byw dafliad carreg i ffwrdd o afon Wysg, ac yn agos iawn at afon Gwy, dwy afon hardd yr hoffwn iddynt barhau i fod yn lân ac wedi'u diogelu. Ond mae'r ffordd y caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu wedi dangos unwaith eto ei bod yn well gan Lywodraeth Cymru estyn am yr ordd yn hytrach na'r torrwr cnau a gweithio yn erbyn busnesau yn hytrach na gyda hwy.
Fel y dywedodd James Evans yn gynharach, nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom yn y Siambr hon yn gwadu bod angen inni leihau faint o ffosffadau sy'n mynd i gyrsiau dŵr. Ond mae cyflwyno'r nodyn cynghori newydd i awdurdodau cynllunio dros nos yn gyfystyr â rheoleiddio drwy'r drws cefn yn y bôn. Mae'n enghraifft o lywodraethu gwael, sydd wedi gadael datblygwyr ac adrannau cynllunio heb ffordd glir ymlaen, ac mae hynny'n creu canlyniadau anfwriadol. Er enghraifft, mae gan Gasnewydd un o'r marchnadoedd tai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae prisiau'n codi i'r entrychion, yn rhannol oherwydd cryfder economi gorllewin Lloegr. Felly, er mwyn sicrhau bod pobl leol yn dal i allu fforddio prynu cartref iddynt eu hunain, mae angen inni barhau i adeiladu tai. Fodd bynnag, oherwydd bod y gofynion newydd hyn yn cael eu cyflwyno dros nos, mae wedi rhoi stop ar rai datblygiadau, fel y dywedodd James, gan greu tagfa yn y system a chodi prisiau'r datblygiadau sy'n llwyddo i symud ymlaen o ganlyniad, gan waethygu'r broblem ymhellach.
Ac o ran y datblygwyr sydd heb unrhyw fodd o hwyluso'r gwaith uwchraddio angenrheidiol i seilwaith dŵr gwastraff, Lywydd, nid oes unrhyw arwydd fod y tagfeydd hyn yn mynd i ddiflannu'n fuan. Ac os ydych chi'n adeiladwr yn Nwyrain De Cymru, a fyddech yn dewis buddsoddi yng Nghymru pan fydd yn rhaid i chi ymgodymu ag amgylchedd busnes gelyniaethus ac anrhagweladwy fel hwn, neu daro draw dros y ffin lle ceir economi gryfach yn Lloegr, neu roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl efallai? Mae hwnnw'n benderfyniad y mae dwsinau o fusnesau'n ei wneud yn fy rhanbarth bob dydd, Lywydd, oherwydd eu bod wedi cael digon.
Nid oedd angen iddi fod fel hyn. Mae ein cwmnïau dŵr eisoes yn cydnabod mai hwy sy'n gyfrifol am rhwng chwarter a thraean y lefelau ffosffad yn ein hafonydd. Pe bai busnes bach neu fferm yn gyfrifol am gymaint o lygredd yn yr afon, byddwn yn tybio y byddai CNC yn defnyddio grym llawn y gyfraith i'w cael i wneud beth bynnag y gallent ei wneud i gydymffurfio. Felly, pam nad yw CNC a Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod y cwmnïau dŵr yn gwneud y buddsoddiad hwn? Pam nad yw wedi eu cefnogi i wneud y buddsoddiadau hyn? Pam nad yw wedi gohirio'r rheolau nes bod y seilwaith dŵr gwastraff angenrheidiol yn ei le? Mae'r Llywodraeth—
Bydd angen i mi dorri ar eich traws yn awr, oherwydd rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r amser. Rwy'n sylweddoli nad ydych yn gweld y cloc fel rydym ni'n ei weld yn y Siambr, ond rwyf am alw'r ddau Aelod arall hefyd. Diolch. Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a diolch, James, am roi munud o'ch amser i mi. Ac fe ddechreuaf arni'n syth—rwy'n llwyr gefnogi popeth rydych wedi'i ddweud heddiw. Ac er mwyn dangos y pwysau y mae'n ei roi ar y system gynllunio yn sir Fynwy, er enghraifft, ar hyn o bryd mae gennym 105 o dai ar y farchnad agored, sy'n geisiadau cynllunio wedi cael eu dal yn ôl, gyda 77 o dai fforddiadwy yn sownd yn y system. Ac mae'n debygol o godi i 379 o geisiadau cynllunio yn sownd yn y system, gyda 157 o'r rheini'n dai fforddiadwy. Ac mae hynny'n wirioneddol bwysig—yn ddinistriol i'r ymgeiswyr, yn ddinistriol i'r bobl ifanc sy'n aros am gartrefi. Ac mae angen inni ddod o hyd i ateb yma. Gan fod Dŵr Cymru, yn amlwg, wedi ymrwymo'r rhan fwyaf o'u cyfalaf yn awr, mae angen ateb lle mae Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd yn gyflym iawn ac yn dod o hyd i ffordd o ddatrys y sefyllfa hon, oherwydd ni all yr atebion technegol sy'n bodoli gynnig y niwtraliaeth sydd ei hangen mewn perthynas â gollyngiadau ffosffad. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn i James am yr amser i gyfrannu i'r ddadl, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Wrth gwrs, mae llygredd dŵr yn fater sydd angen mynd i'r afael ag ef, ac mae angen gwneud hynny gyda chydweithrediad y rhanddeiliaid. Yr hyn dŷn ni wedi ei weld yma, serch hynny, ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn adnabod problem ond yn methu â chydweithio gyda rhanddeiliaid i ganfod datrysiad rhesymegol. Mae yna gynlluniau, fel dŷn ni wedi clywed gan Peter Fox jest rŵan, ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn cael eu hatal ar hyn o bryd oherwydd y polisi yma. Mae gyda ni gynlluniau datblygu lleol, parthau dinesig a fframwaith datblygu cenedlaethol oll gyda pheryg o gael eu hymyrryd efo'r polisi newydd a byrbwyll yma.
Mae angen i ni edrych ar gydweithio efo'r darparwyr dŵr i weld pa fuddsoddiad sydd ei angen ar unedau trin dŵr, neu edrych i arallgyfeirio pibau i wlypdiroedd presennol neu ddatblygu gwlypdiroedd newydd. Rhaid dysgu'r gwersi, felly, a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn rhan o'r sgwrs cyn bod penderfyniadau mor bellgyrhaeddol yn cael eu gwneud yn y dyfodol. Ac, yn yr achos yma, mae angen tynnu'r rhanddeiliaid ynghyd i weld sut fedran nhw oll chwarae rhan mewn canfod datrysiad hirdymor i'r broblem. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl yma—Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a gwella ein hasedau amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl ganolog i uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru. O ystyried ein hamcanion strategol a gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae angen inni fabwysiadu dull ecosystem gyfan. Mae angen inni weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i leihau crynodiadau o faethynnau. Bydd hyn yn sicrhau bod afonydd Cymru mor gydnerth â phosibl i wrthsefyll pwysau cyfredol a phwysau a ddaw yn y dyfodol.
Rwy'n siŵr nad oes angen imi bwysleisio pa mor ganolog yw argaeledd dŵr glân ac amgylchedd dŵr iach i'n heconomi, ein llesiant a'n hunaniaeth genedlaethol. Rydym yn wynebu heriau sylweddol i reoli ein hadnoddau naturiol yn y dyfodol. Mae angen inni weithredu yn awr i sicrhau bod gan Gymru amgylchedd dŵr ffyniannus sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu'r adnodd naturiol gwych hwn. Mae dyletswydd arnom hefyd i ofalu am holl afonydd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n bwysig yn rhyngwladol ac sydd wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig. Gallwn fod yn falch fod gennym naw dalgylch afon wedi'u dynodi yng Nghymru, yn rhan o rwydwaith mwy o safleoedd gwarchodedig ledled Cymru, a phob un yn hanfodol i helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng natur a'n hargyfwng hinsawdd.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mae'r dyfroedd hyn yn cynnal peth o fywyd gwyllt mwyaf arbennig Cymru, fel yr eog, misglen berlog yr afon, a chimwch yr afon. Mae ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd yn fannau hamdden ac ymlacio hanfodol, ac mae corff cynyddol o dystiolaeth y gall mynediad at natur, gan gynnwys afonydd, gael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl pobl.
Roedd mabwysiadu targedau ffosfforws tynnach yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig gan CNC yn ymateb i dystiolaeth a chyngor gwyddonol gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae ffosfforws yn elfen sy'n digwydd yn naturiol. Fel arfer, caiff lefelau isel ohono ei ryddhau'n araf o ffynonellau naturiol. Fodd bynnag, mae gweithgaredd dynol hefyd yn gyfrifol, oherwydd y ffordd rydym yn rheoli ein tir a'r modd y cawn wared ar ein dŵr gwastraff a'n carthion. Mae newid hinsawdd hefyd yn chwarae rôl. Mae hafau cynhesach a sychach yn lleihau llifoedd yn ystod y tymor tyfu, gan arwain at lefelau uwch o faethynnau yn ein dyfroedd.
Pam y mae ffosfforws mor niweidiol i'r amgylchedd dŵr? Wel, hyd yn oed ar grynodiadau is, gall ffosfforws effeithio'n negyddol ar ecoleg cyrs. Mae'n achosi ewtroffigedd: gostyngiad sylweddol yn yr ocsigen sydd ar gael o fewn y system afonydd. Mae gormodedd o faethynnau yn arwain at ffyniant algâu ar yr wyneb, gan ladd y rhywogaethau dyfrol islaw. Nododd asesiad CNC o lefelau ffosfforws fethiant syfrdanol ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gyda dim ond 39 y cant yn pasio'r targed gofynnol. Mae'r cyngor dilynol a roddodd CNC i awdurdodau cynllunio yn adlewyrchu cyflwr presennol ein dyfroedd. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau nad yw datblygiadau yn yr ardaloedd sensitif hyn yn digwydd er anfantais i'n hamgylchedd. Mae cyngor CNC yn cyd-fynd â dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn 2018, y cyfeirir ato'n gyffredinol fel 'achos yr Iseldiroedd'. Mae'r dyfarniad, o dan y gyfarwyddeb cynefinoedd, yn gofyn am warant nad yw unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn effeithio ar nodweddion naturiol ardaloedd cadwraeth natur. Oni ellir profi bod datblygiad yn niwtral—er enghraifft, nad yw'n cynyddu lefelau maethynnau presennol—rhaid peidio â rhoi caniatâd cynllunio. Mae'r gyfraith achosion yn rhan o gyfraith a gedwir yn ôl gan yr UE o dan y cytundeb ymadael, ac mae rhwymedigaeth ar Gymru i gydymffurfio â hi.
O ganlyniad i asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg fod angen inni fabwysiadu agwedd fwy rhagofalus tuag at ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth arbennig. Mae angen mwy o asesu ar bob un o'r prosiectau arfaethedig er mwyn deall yr effaith amgylcheddol yn llawn. Mae angen sicrwydd na fydd lefelau maethynnau'n codi. Ceir atebion, ac mae llawer ohonynt yn atebion ar sail natur sy'n gallu gwrthbwyso llygredd ffosfforws tra'n caniatáu i ddatblygiadau ddigwydd. Mae'r rhain yn gymhleth fodd bynnag, ac mae angen i bob sector yr effeithir arnynt eu harchwilio ar sail y dalgylch unigol, gan ddod â datblygwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr at ei gilydd. Mae'n gwbl angenrheidiol ein bod yn arfer dull traws-sectoraidd o leihau lefelau ffosfforws mewn ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru er mwyn diogelu amgylchedd naturiol ein hafonydd. Mae'r pwysau'n lluosog, o ollyngiadau carthion, dŵr ffo amaethyddol, tanciau carthion a chysylltiadau diffygiol. Nid un peth yn unig sy'n achosi llygredd, ac mae'r pwysau'n amrywio yn dibynnu ar nodweddion dalgylch afon penodol. Mae angen rheoli ein hafonydd ac amgylchedd Cymru yn gyfannol.
Wrth symud ymlaen, mae angen inni sicrhau cydbwysedd teg rhwng yr amgylchedd a'r economi. Nid oes angen i'r ddau gau ei gilydd allan. Mae twf gwyrdd yn fwy na dyhead iwtopaidd; dyma'r unig ateb hirdymor i'r argyfwng hinsawdd a natur rydym yn ei brofi, ac rydym newydd fod yn ei drafod yn y Siambr yn wir. Ac yn y ddadl honno, dywedais fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y gofynnwn amdano gan ofyn hefyd am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur. Mae hwn yn un o'r pethau hynny lle mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn a wnawn i'n hafonydd a lliniaru effeithiau ein datblygiadau blaenorol. Er mwyn rheoli'r broblem honno, mae cynllun prosiect wedi'i sefydlu yn CNC sy'n cyflawni prosiect afonydd yr ardaloedd cadwraeth arbennig, yn ymchwilio a mynd i'r afael â llygredd ffosfforws mewn afonydd, gan gynnwys afonydd Gwy, y Wysg, y Cleddau, Teifi isaf a'r Ddyfrdwy, ac mae hynny'n rhan o gynllun corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2021-22. O dan y cynllun prosiect, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor a datganiadau sefyllfa i randdeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol. Mae agweddau eraill ar y cynllun yn canolbwyntio ar safonau ansawdd dŵr, asesiadau cydymffurfio ac ymyriadau i gyflawni gwelliannau i ansawdd dŵr. Yn wir, ceir ymrwymiad i gynyddu gwaith monitro a chasglu data hefyd.
Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp goruchwylio rheolaeth ardaloedd cadwraeth arbennig hefyd er mwyn darparu trefniadau llywodraethu lefel uchel a chyfeiriad strategol i helpu i gyflymu nifer o feysydd gwaith perthnasol. Gan fod y mater hwn yn effeithio ar lawer o sectorau a rhanddeiliaid, mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r adrannau polisi perthnasol, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol allweddol, i ddarparu ffocws ar gyfer ymatebion amlsectoraidd cydweithredol. Hefyd, sefydlwyd is-grŵp cynllunio sy'n cynnwys cynllunwyr awdurdodau lleol, i gynrychioli Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Dŵr Cymru ac CNC, i ystyried y goblygiadau penodol ar gyfer blaenoriaethau'r system gynllunio a gwell canllawiau cynllunio.
Fel y mae asesiad risg diweddar ar gyfer y DU o newid hinsawdd yn ei amlygu, mae cynefinoedd a rhywogaethau dŵr ffres yn arbennig o sensitif i dymheredd dŵr uchel a sychder. Mae achosion llygredd a'r bygythiad y maent yn eu hachosi i'n hecosystemau afonydd naturiol yn sgil cynnydd yn nhymheredd dŵr yn arbennig o ddifrifol. Mae tymereddau cynhesach mewn afonydd yn gostwng lefelau ocsigen ac yn cynyddu cyfraddau prosesau cemegol biolegol. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfraddau twf algâu a maethynnau. Mae angen inni weithredu'n bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel y dywedodd pawb yn y ddadl flaenorol, fel y gall pobl ddal ati i drysori adnoddau naturiol cyfoethog Cymru am genedlaethau i ddod, a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, Lywydd.
Diolch i'r Gweindog. Dyna ddiwedd, felly, ar ein gwaith ni am y dydd heddiw.