1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau tlodi plant yn Nwyrain De Cymru? OQ56701
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ddydd Llun, cyhoeddais yr adroddiad cynnydd ar y cynllun tlodi plant i weithredu pwyslais ar incwm, ac mae'n dangos bod ein hymgyrch genedlaethol gyntaf i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau wedi arwain at £651,504 yn ychwanegol yn cael ei hawlio gan y rheini sydd â hawl i fudd-daliadau, gan gynnwys aelwydydd yn ne-ddwyrain Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae cyfradd Cymru o dlodi plant yn uwch yn awr nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Rwy'n poeni ein bod wedi arfer cymaint â chlywed y ffigur hwnnw nes ei fod wedi colli ei rym, felly hoffwn atgoffa'r Siambr mai'r hyn y mae'r ffigur hwnnw—y ffigur un o bob tri phlentyn—yn ei olygu yw bod miloedd o blant yng Nghymru yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Maent yn mynd i'r ysgol, i'w dosbarthiadau, gyda'u boliau'n wag, ond maent hefyd yn gorfod ymdopi â'r pryder o wybod bod eu rhieni o dan straen. Efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu sefyllfa rhag eu ffrindiau, felly nid oes ganddynt unrhyw un i siarad â hwy. Yr hyn rwy'n ei ddweud, Weinidog, yw nad effaith gorfforol yn unig sydd i dlodi plant: nid yw'n ymwneud yn unig â diffyg maeth neu fethu cadw'n gynnes neu'n gyffyrddus, er mor niweidiol yw'r pethau hynny; mae hefyd yn ymwneud â'r straen emosiynol, y bwlio a all ddigwydd a'r effaith y gall tlodi ei chael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem gudd hon?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau pwysig iawn hyn. I mi, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, dylwn ddweud na fu erioed amser pwysicach i wneud popeth a allwn i liniaru effeithiau tlodi gyda'r pwerau a'r ysgogiadau sydd gennym. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, fel y cofiwch, gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad i ailbeiriannu rhaglenni cyllido presennol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Ac arweiniodd hynny at yr adroddiad rwyf newydd ei grybwyll, a'r camau gweithredu ymarferol ynddo. Mae'n ymwneud â mwy na chynyddu incwm teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, mae hefyd yn eu helpu i adeiladu cadernid. Mae a wnelo hyn â'ch pwyntiau allweddol am yr effaith ar fywydau pobl, ar eu hiechyd meddwl—cefnogi teuluoedd nid yn unig i gynyddu eu hincwm, ond hefyd i sicrhau y gallant ddod o hyd i gyflogaeth a gwella canlyniadau plant a theuluoedd. Mae hon, wrth gwrs, yn dasg drawslywodraethol o ran cefnogi rhaglen Dechrau'n Deg, rhaglen a chanddi rwydwaith cymorth mor bwysig ledled Cymru yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Ond a gaf fi ddweud, unwaith eto, ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn a wnawn? Mae dros £60 miliwn ar gael mewn cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod 2021, £23 miliwn yn ychwanegol hyd at 2022, yn y flwyddyn ariannol nesaf, a'r ymrwymiad rwyf eisoes wedi'i grybwyll i adolygu'r meini prawf cymhwysedd. A gaf fi ddweud bod rhaglen gwella gwyliau’r haf yn gyfle go iawn? Y rhaglen bwyd a hwyl yn ystod gwyliau'r ysgol, a'r 'haf o hwyl' sydd eisoes wedi'i gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—rheini fydd y ffyrdd y gallwn estyn allan at y plant hynny a'r teuluoedd hynny, gyda'r potensial i gefnogi'r plant hynny yn y cymunedau a'r cartrefi sy'n byw mewn tlodi.
Weinidog, yn ei strategaeth tlodi plant yn 2015, nododd Llywodraeth Cymru mai ei huchelgais oedd sicrhau nad oedd unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Afraid dweud, mae hi bellach yn 2021. Mae Achub y Plant wedi nodi mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw genedl yn y Deyrnas Unedig. Dangosodd ffigurau rhwng 2019 a 2020 fod 31 y cant o blant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, o gymharu â 30 y cant yn Lloegr a 24 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bron i 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru, gyda chyfran uwch o blant yn cael eu heffeithio nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Weinidog, gwn eich bod wedi cyfeirio at y Llywodraeth ganolog ar sawl achlysur, ond mae Sefydliad Bevan wedi dweud bod diffyg meddwl cydgysylltiedig yn Llywodraeth Cymru, gyda pholisi sy'n canolbwyntio gormod ar gynyddu cyflogaeth ac nad yw polisïau yn gweithio mewn cytgord. Felly, Weinidog, beth yw'r ymateb—beth yw eich ymateb chi yn benodol—i Sefydliad Bevan, a sut y byddwch yn sicrhau bod dull integredig, trawslywodraethol yn cael ei fabwysiadu i ddileu tlodi plant yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, rhaid i mi ddweud—diolch am y cwestiwn hwnnw—fod yr ymchwil a wnaed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Resolution, yr holl sefydliadau uchel eu parch, yn edrych ar effaith rhaglen Llywodraeth y DU o ddiwygiadau treth a lles sydd wedi'u rhewi am bedair blynedd—budd-daliadau wedi'u rhewi am bedair blynedd—a'r ffaith bod hyn yn cael cymaint o effaith ar bwerau mewn perthynas â threth a lles. Mae’r pwerau hynny yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio y byddwch hefyd yn cefnogi ymestyn yr £20 o gredyd cynhwysol yr wythnos ar ôl mis Medi. Oni fyddai’n dda pe bai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynny hefyd? Oherwydd mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi a gwella canlyniadau i bobl sy’n byw mewn tlodi. Ond a gaf fi ddweud pa mor dda oedd gweld cymaint o gefnogaeth i Weinidog yr Economi ddoe pan gyhoeddodd y warant ieuenctid? Oherwydd mae cyflogaeth yn cynnig llwybr cynaliadwy allan o dlodi—gan roi'r cynnig hwnnw i bawb o dan 25 oed. Mae'n ddull cydgysylltiedig o weithredu, wrth gwrs. Mae ein cynllun gweithredu ar dlodi plant yn nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi plant, a gobeithio y byddwch yn darllen adroddiad cynnydd 2019, a’r un a gyhoeddais ddydd Llun.
Weinidog, wrth weithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector drwy gydol y pandemig, cefais brofiad uniongyrchol o'r effeithiau niweidiol y mae COVID wedi'u cael ar deuluoedd y Rhondda. Yn anffodus, mae colli incwm a chostau byw cynyddol wedi golygu bod teuluoedd ac unigolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rwy'n ddiolchgar am y darpariaethau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r teuluoedd hyn, ond mae problem wirioneddol o hyd ynghylch y stigma sy'n gysylltiedig â gofyn am gymorth. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, nid yn unig i helpu i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, ond i annog teuluoedd y mae taer angen cymorth arnynt i ddefnyddio'r darpariaethau sydd ar gael, yn enwedig dros gyfnod gwyliau'r haf?
Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, am y cipolwg pwysig hwnnw ar effaith COVID ar gymunedau, a hefyd y ffyrdd y gwnaethoch ymgysylltu, rwy'n gwybod, fel Aelodau eraill, i rymuso cymunedau a gwirfoddolwyr, sydd wrth gwrs yn cynyddu eu parch yn ogystal â'u gallu. Mae hyn yn ymwneud â hawl—hawl i'r budd-daliadau rydym bellach yn sicrhau eu bod ar gael iddynt, ond mae hefyd yn ymwneud â hawl i fod yn rhan o brosiectau fel rhaglen gwella gwyliau'r haf.