1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel yng Nghaerdydd? OQ56782
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw sy'n nodi cam cyntaf cronfa diogelwch adeiladau Cymru, sef darparu cyllid grant ar gyfer arolygon. Mae pob adeilad yn wahanol a bydd yr arolwg diogelwch tân yn nodi mesurau a chamau gweithredu sy'n ofynnol i sicrhau bod blociau o fflatiau'n ddiogel pe bai tân yn digwydd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad yn gynharach. Gwn fod hwn yn fater rwyf fi ac eraill ar draws y pleidiau wedi'i godi ar sawl achlysur y tymor hwn, a hynny am fod pobl sy'n gaeth yn eu cartrefi yn cysylltu â ni—fel y maent yn cysylltu â chithau, rwy'n siŵr—yn ddyddiol. Mae hyn wedi cael effeithiau difrifol ar eu harian a'u hiechyd. A nodaf o ymatebion blaenorol gennych chi a'r Trefnydd eich bod yn gweithio ar hyn, ond fel rydych yn deall, yr hyn sydd ei angen ar drigolion yn benodol yw'r manylion am unrhyw gymorth ariannol ac unrhyw gymorth adfer gan Lywodraeth Cymru. Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at eu sefyllfa; a allant gael mwy o atebion cyn dydd Sadwrn? Diolch.
Wel, fel y dywedaf, cyhoeddais y datganiad yn gynharach heddiw, ac er eglurder, yr hyn y mae'n ei ddweud yw nad oes un ateb addas i bawb—bydd yr holl Aelodau o'r Senedd wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen. Felly, bydd angen ateb pwrpasol ar gyfer pob bloc o fflatiau i ddatrys eu problemau penodol, ac maent yn wahanol iawn yn dibynnu ar sut y cafodd y fflatiau eu hadeiladu, pryd y cawsant eu hadeiladu a'r deunyddiau a phopeth arall. Felly, nid oes a wnelo hyn â chladin yn unig, mae'n ymwneud â chyfres gyfan o bethau, gan gynnwys adrannu, materion allanfeydd tân, systemau tân, y deunydd sy'n dal y cladin ar y wal; mae yna ystod eang o bethau. Ac felly, rydym yn ariannu pob adeilad i gynnal arolwg a fydd yn cynhyrchu pasbort adeiladi ddweud wrthym beth yn union yw cyflwr yr adeilad, a gallwn ei ddefnyddio wedyn i wneud y cam nesaf, sef darganfod sut rydym yn mynd i ddatrys y broblem.
Rwyf am ddweud fy mod bellach wedi ysgrifennu at Robert Jenrick nifer fawr o weithiau ac rwy'n siomedig iawn yn wir i ddweud nad ydym wedi clywed unrhyw beth o gwbl yn sgil ei gyhoeddiadau am y cyllid canlyniadol i Gymru. Felly, os oes unrhyw Aelod o'r Senedd yn awyddus i ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddweud wrthym yn fuan iawn—hynny yw, pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser—fel ein bod yn gwybod faint o arian a fydd ar gael, byddai hynny o gymorth mawr. Ond er nad ydym yn gwybod hynny, rydym yn bwrw ymlaen â'r hyn y gallwn ei wneud, a cheisio rhoi'r systemau ar waith fel y gallwn wneud rhywbeth â'r cyllid sydd wedi'i warantu ar ôl i ni ei gael y gan Lywodraeth y DU.
Hoffwn ddweud ar y pwynt hwn, Lywydd, nad yw'r cyllid canlyniadol a ddaw i Lywodraeth Cymru yn cael ei wario’n awtomatig ar y peth a arweiniodd at y cyllid canlyniadol yn y lle cyntaf, felly nid wyf yn dweud unrhyw beth o gwbl i dresmasu ar broses y gyllideb, ond mae angen imi gael fy rhoi mewn sefyllfa, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, i allu gwneud cynigion yn erbyn cyllidebau ac ni allaf wneud hynny tan fy mod yn gwybod y bydd y cyllid canlyniadol ar ei ffordd. Felly, rwy’n apelio, a dweud y gwir, ar Aelodau o’r Senedd i geisio gwneud i Lywodraeth y DU ddeall bod angen iddynt ddweud wrthym o ble y daw'r cyllid, oherwydd fel arall, rydym yn gaeth i'r sefyllfa hon drwy'r amser.
Clywaf yr hyn a ddywedwch, Weinidog. Yn amlwg, ni chafodd y swp cyntaf o gyllid canlyniadol ei wario, ac mae hawl gan Lywodraeth Cymru i'w wario fel y mynnant, ond ni chafodd ei wario yn yr un ffordd ag y cafodd ei wario gan Lywodraeth y DU yn Lloegr ar waith adfer. Cyhoeddwyd y datganiad gennych am 1.30 p.m. wrth inni ddod i'r Siambr hon ar gyfer y sesiwn gwestiynau. Nid wyf wedi cael y pleser o ddarllen y datganiad hwnnw eto, felly efallai y bydd yr ateb i'r cwestiwn rwyf am ei ofyn i chi wedi'i gynnwys yn y datganiad hwnnw, ond rwy'n gobeithio y gallwch ddeall fod y datganiad wedi yn dod allan braidd yn hwyr cyn y sesiwn gwestiynau.
Gwnaethoch fy ateb mewn cwestiwn ysgrifenedig fod eich swyddogion yn gweithio ar gynllun neu raglen gymorth a allai fod ar gael a'ch bod yn gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn bo hir. A yw'r cynllun hwnnw'n cynnwys unrhyw wariant cyfalaf a allai fod ar gael i berchnogion tai, ac a fydd pob perchennog tŷ yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynllun a roddir ar waith gan eich adran? Yn amlwg, mae tai cymdeithasol wedi'u cynnwys mewn arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn ar gyfer gwaith adfer, ond nid yw perchnogion tai preifat wedi derbyn unrhyw gymorth o gwbl gan Lywodraeth Cymru. Felly, a fydd unrhyw gynllun a ddaw gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys yr holl berchnogion tai y mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn effeithio arnynt?
Yn sicr, Andrew R.T. Davies, a deallaf fod y datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi; mae'n ddrwg gennyf, mae'r pethau hyn yn gymhleth iawn a hoffwn pe gallem fynd yn gyflymach. Nid yw'r cyflymder yn arwydd o'r flaenoriaeth; mae'n arwydd o gymhlethdod gallu gwneud y pethau hyn yn iawn, fel rwyf wedi'i bwysleisio. Rwyf wedi bod yn cyfarfod, fy hun, fel y gwyddoch, gyda nifer o gymdeithasau preswylwyr ac ati, i geisio deall beth yw'r broblem gyda phob adeilad unigol.
Felly, heddiw rydym wedi cyhoeddi y byddwn yn ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol i ddarganfod beth sydd o'i le ar bob adeilad, gan gynnwys y gweithdrefnau ymyrrol sy'n angenrheidiol i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd. Byddwn yn ariannu hynny ar gyfer yr adeiladau fel y bydd ganddynt basbort adeilad sy'n dweud wrthynt beth yw'r problemau, a gallwn ddefnyddio'r rheini wedyn i lunio'r system sy'n caniatáu inni ariannu'r gwaith adfer.
Ni allaf ateb gweddill eich cwestiynau yn fanwl, mae arnaf ofn, oherwydd y broblem gyda'r cyllid canlyniadol. A dweud y gwir, nid oes unrhyw syniad gennyf sut beth fydd y gyllideb. Felly, fe ddywedaf wrthych fy mod yn gwneud cynigion cyllidebol o fewn Llywodraeth Cymru am yr arian a allai fod ar gael gennym neu beidio, ond y gwir yw, heb y cyllid canlyniadol, ni fydd gennym yr arian angenrheidiol i wneud yr holl waith yn y ffordd yr hoffem. Felly, rwy'n gwneud fy ngorau glas o dan yr amgylchiadau, ond pam ar y ddaear ei bod yn cymryd cymaint o amser i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth fydd y cyllid canlyniadol yn sgil cyhoeddiadau Robert Jenrick ynghylch sawl biliwn o bunnoedd yn gynharach yn y flwyddyn, nid wyf yn gwybod. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddefnyddio eich dylanwad i ddarganfod pam.
Fy uchelgais yw na ddylai perchnogion tai—lesddeiliaid yn bennaf—orfod talu am bethau nad ydynt ar fai amdanynt. Ond hyd nes y deallaf natur a maint y diffyg a faint o arian y bydd ei angen, mae'n amhosibl imi addo hynny.
Diolch am eich datganiad, ac rwyf wedi'i ddarllen yn gyflym. Rydych wedi ateb rhai o fy nghwestiynau eisoes. Hoffwn ofyn am berygl moesol datblygwyr yn gallu troi eu cefnau ar eu hadeiladau diffygiol, oherwydd yn amlwg, fe wnaeth trychineb Grenfell ddatgelu’r methiant rheoliadol i atal pobl rhag gosod deunydd cynnau tân ar adeiladau uchel iawn.
Os, a phryd, y cewch drafodaeth gyda Robert Jenrick, a fydd hwn yn bwnc trafod? Ymddengys i mi, yn yr un modd ag y mae gan landlordiaid gyfrifoldebau ynghylch diogelwch tân adeiladau, fod gan ddatblygwyr gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod y lleoedd hyn yn ddiogel i fyw ynddynt, yn ogystal ag awdurdodau lleol o ran sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diweddaraf. Felly, tybed a allech ddweud ychydig wrthym ynglŷn â sut y credwch y bydd y cyfarfod rydych yn bwriadu ei gael â datblygwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn gweithredu'n gyfrifol, yn unol â'u rhwymedigaethau.
Wel, y gwir amdani, Jenny, yw nad oes gennym unrhyw ffordd o gwbl o sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'u rhwymedigaethau moesol; nid oes unrhyw ddull cyfreithiol y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i wneud hynny. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gofyn i'r holl ddatblygwyr sy'n ymwneud ag adeiladau uchel iawn yng Nghymru gyfarfod â mi. A bod yn deg, mae sawl un ohonynt wedi gwneud hynny, ac mae sawl un ohonynt wedi rhoi rhywfaint o arian tuag at unioni rhai o'r diffygion yn rhai o'r adeiladau.
Nid yw rhai o'r datblygwyr wedi cyfarfod â mi o gwbl. Rwyf wedi cyhoeddi galwad derfynol i bobl gyfarfod â mi, a byddwn yn cael cyfarfod bord gron gyda'r rhai sy'n barod i weithio gyda ni yn yr hydref. Ar y pwynt hwnnw, rwyf wedi gofyn am gyngor i weld a gaf fi enwi a chodi cywilydd ar y rhai nad ydynt wedi cysylltu â ni, felly rwyf yn y broses o gael y cyngor hwnnw.
Ond mae'r cymhlethdodau cyfreithiol yn hyn yn aruthrol. Codwyd pob un o'r adeiladau hyn, bron â bod, gan yr hyn a elwir yn SPVs—cyfryngau at ddibenion arbennig. Nid hwy yw'r cwmni daliannol—yr enw ar y blaen. Maent yn gyfrwng at ddiben arbennig a ffurfiwyd at y diben o adeiladu'r adeilad, cyn cael ei ddiddymu. Felly, nid oes endid corfforaethol y gallwch ei ddal yn gyfreithiol gyfrifol.
Mae Llywodraeth y DU, a bod yn deg, wedi cynnig ymestyn cyfnod y cyfyngiad—nid ydynt wedi gwneud hynny eto; mae'n rhan o'r ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd—o chwe blynedd i 15 mlynedd, a fydd yn sicr yn helpu. Yn anffodus, yma yng Nghymru, codwyd bron bob un o'r adeiladau sydd yma ym Mae Caerdydd ac yn Abertawe, sef y ddwy ddinas fawr yr effeithiwyd arnynt fwyaf, oddeutu adeg y mileniwm, a bydd y rhai ohonom sydd ychydig yn hŷn yn synnu clywed bod hynny 21 mlynedd yn ôl ac nid 15 mlynedd—mae'n teimlo fel y dydd Mawrth diwethaf i rai ohonom.
Yn anffodus, ni fydd hynny'n helpu'r adeiladau hynny, gan y byddant y tu allan i'r cyfnod beth bynnag, felly mae honno'n broblem. Rydym wedi gofyn am ymestyn y cyfnod i 25 mlynedd, ond mae Llywodraeth y DU wedi dewis 15, am amryw resymau. Ni fydd y 15 mlynedd yn cychwyn tan i'r Bil gael ei dderbyn ac nid yw wedi ei dderbyn eto, felly ni fydd rhai adeiladau sy'n gymwys ar hyn o bryd yn gymwys pan gaiff y Bil ei roi mewn grym. Yn ogystal, hyd yn oed os ydynt o fewn cyfnod y cyfyngiad, mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i'r endid corfforaethol sy'n gyfrifol, ac os cawsant eu hadeiladu gan gyfrwng at ddibenion arbennig, byddai hynny'n anodd iawn. Felly, ni cheir un ateb syml i ddatrys y broblem.
A bod yn deg â rhai o'r datblygwyr, maent wedi gwario cryn dipyn o arian ar adfer rhai o'r adeiladau, ond mae'n rhaid dweud nad yw pob un ohonynt yn y sefyllfa honno. Rydym yn parhau i weithio gyda'r datblygwyr i geisio rhoi cymaint o bwysau ag y gallwn arnynt i wneud hynny. Rydym wedi gofyn am gyngor ynghylch pa ddulliau eraill y gallwn eu defnyddio ar ffurf arian, cyllid ac ati gan Lywodraeth Cymru i geisio dod â hwy at y bwrdd.