– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Felly, eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Elin Jones.
Bu farw Elystan Morgan yr wythnos diwethaf yn 88 mlwydd oed. Mi oedd yn Aelod Seneddol Llafur dros Geredigion rhwng 1966 a 1974, yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 1981, ac yn fargyfreithiwr a barnwr.
Mi ydyn ni gyd yn eistedd yn y Senedd yma heddiw oherwydd cyfraniad oes Elystan a'i debyg yn brwydro'r achos dros hunan-lywodraeth i Gymru. Mi gychwynnodd y daith hynny o fewn Plaid Cymru, ac yna yn 1964 mi adawodd i hyrwyddo yr un achos o fewn y Blaid Lafur. Mi oedd yn sosialydd o egwyddor ac yn genedlaetholwr o reddf. Lles Cymru a'i phobol oedd wrth wraidd ei holl wleidyddiaeth.
Mi ddywedodd Vaughan Roderick amdano taw llwyddiant mwyaf Elystan oedd hefyd ei fethiant mwyaf, yn arwain ymgyrch 'ie' refferendwm 1979. Fe wnaeth hynny gydag urddas ac angerdd, o fewn yr amodau gwleidyddol mwyaf gwenwynig. Ac mi gynhaliodd y fflam.
Dyn ei filltir sgwâr oedd Elystan, ac mi oedd y sgwâr hynny o gwmpas ei annwyl Bow Street, Llandre a Dole. Mi ymgyrchodd dros Geredigion ymhell tu hwnt i'w gyfnod yn ei chynrychioli, ar y grisiau tu allan y Senedd yma yn 2006 i frwydro dros wasanaethau Bronglais, ac wrth ddiogelu dyfodol IBERS fel sefydliad ymchwil rhyngwladol.
Wneith datganiad byr fel hyn yn y Senedd fyth dalu'r deyrnged yn llawn i gyfraniad Elystan, ond gwir yw dweud mai bodolaeth y Senedd yma yw'r deyrnged orau oll i fywyd Elystan. Diolch amdano a phob cydymdeimlad â'i deulu a'i gyfeillion.
Bob bore, rwy'n cerdded fy nghi ar hyd rhan fer iawn o lwybr Clawdd Offa, a heddiw rwyf am nodi hanner canmlwyddiant agor llwybr Clawdd Offa. Mae'n llwybr cerdded 177 milltir o hyd, a agorwyd yn haf 1971. Mae'n cysylltu clogwyni Sedbury ger Cas-gwent â thref arfordirol Prestatyn. Yn ogystal â bod yn hynod bwysig i'n hanes a'n diwylliant, mae'n un o goridorau natur mwyaf y DU.
Caiff Clawdd Offa ei ddiogelu gan gyfraith statud. Er hynny, mae dan fygythiad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cadw, gan weithio gyda English Heritage a Chymdeithas Clawdd Offa, wedi creu cronfa achub i geisio prynu rhannau o'r clawdd sydd dan fygythiad, ac i dalu am waith adferol fel clirio prysgwydd oddi arno.
Gyda llawer ohonom wedi closio at fyd natur dros y cyfyngiadau symud, rhaid gwneud mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a thirnodau fel llwybr Clawdd Offa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r gymdeithas a dymuno'r gorau iddynt gyda'u gwaith, ac rwy'n eich annog i ddefnyddio'r llwybr—gyda neu heb gi. Diolch yn fawr iawn.
Eleni, dathlodd eglwys Sant Edward Gyffeswr yn y Rhath ganmlwyddiant ei hadeiladu yn 1921. Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn 1915, ond fe'i dinistriwyd gan dân yn 1919, ac roedd ei hailadeiladu yn 1921 yn ffynhonnell o obaith i'r gymuned yn dilyn erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r dinistr a achoswyd gan bandemig ffliw Sbaen.
Gan mlynedd yn ddiweddarach, fel yn 1921, mae'r byd ynghanol pandemig byd-eang, ond nid yw cyfraniad yr eglwys yn y gymuned wedi pallu, gan ei bod yn darparu cymorth, cefnogaeth ac allgymorth i'r rhai mwyaf anghenus. Mae ei Forget Me Not Cafe yn gwneud llawer, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, i helpu i fynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith yr henoed. Mae ei gardd flodau gwyllt newydd yn dwyn ynghyd ystod amrywiol o wirfoddolwyr o bob rhan o'r gymuned, ac mae gan yr eglwys draddodiad cerddorol balch. Yn wir, mae'n dal i ddarparu un o'r ychydig ddigwyddiadau hwyrol weddi corawl olaf sy'n parhau yn esgobaeth Llandaf, sy'n brofiad gwych a byddwn yn annog pawb yma i ymweld.
Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, mae gan eglwys a phlwyf y Rhath gysylltiadau cryf â ni yma yn y Senedd, gyda'i churad, y Parchedig Ruth Coombs, yn gwasanaethu fel pennaeth Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'i churad blaenorol oedd y Parchedig Ddr Rhys Jenkins. Credaf fy mod yn siarad ar ein rhan ni oll wrth gynnig fy niolch diffuant i'r caplan dinesig a'r ficer presennol, y Parchedig Ganon Stewart Lisk, am yr holl waith y mae wedi'i wneud, ac i'r holl bobl yn y gorffennol a'r presennol sydd wedi gwasanaethu cymuned eglwys Sant Edward.
Rwy'n falch o ddweud bod yr eglwys yn dal i fod yn ffynhonnell o obaith heddiw, fel yn 1921, a heb amheuaeth, fe fydd yn parhau i wasanaethu am 100 mlynedd arall.
Gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Mudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn cael ei alw erbyn hyn yn Mudiad Meithrin, ar ddathlu ei hanner can mlwyddiant? Mae hyn yn dipyn o garreg filltir i'r mudiad pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru o ran darparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sefydlwyd Mudiad Meithrin 50 mlynedd yn ôl i wneud dau beth: i gynrychioli a rhoi llais i'r ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg a oedd wedi dechrau ymddangos yn y 1960au ac i ymgyrchu dros ddarparu profiad ysgol feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Cymru ym mhob cwr o'r wlad. Pennaf nod Mudiad Meithrin heddiw yw gweld y cylch meithrin fel profiad pwysig yn ei hawl ei hun, gyda phwyslais ar ddysgu drwy chwarae, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Heddiw, mae gan y mudiad dros 1,000 o leoliadau dros Gymru gyfan, yn cynnwys cylchoedd meithrin, cylchoedd ti a fi, meithrinfeydd dydd, grwpiau Cymraeg i blant ac yn y blaen. Ac mae rhyw 22,000 o blant yn manteisio ar wasanaethau'r mudiad yn wythnosol, a miloedd o oedolion yn rhieni, hyfforddeion a phrentisiaid. A pham? Oherwydd bod y mudiad yn gwybod fel ffaith bod unigolion sy'n dechrau siarad Cymraeg yn blant yn llawer mwy tebygol o fod yn oedolion sy'n hyderus yn siarad yr iaith. Mae bron i 90 y cant o blant yn mynd o'r cylch i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cymaint ohonyn nhw'n dod o gartrefi di-Gymraeg.
Felly, gaf i ddymuno'n dda i'r mudiad dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo wneud cyfraniad pwysig i roi sylfeini ieithyddol cadarn i'n plant a rhoi cyfleoedd chwarae ac addysg bwysig iddyn nhw yn y dyfodol? Pen-blwydd hapus iddyn nhw. Diolch yn fawr.