– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 14 Medi 2021.
Eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i wella bywydau gwaith a gweithleoedd ledled y wlad. Rydym yn benderfynol o fod yn genedl o waith teg, gan gydweithio i sicrhau gwaith boddhaol ac urddasol sy'n cyflwyno manteision ehangach i'n cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd. Mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) yn rhan bwysig o hyn.
Daeth yr ymgynghoriad ar ein Bil drafft i ben yn fuan cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn, gydag 85 o ymatebion yn cymeradwyo ein cynigion yn fras a chyhoeddwyd dadansoddiad cryno o'r ymatebion ar 13 Gorffennaf. Roedd y Bil drafft yn cynnwys darpariaethau i gryfhau a hyrwyddo cysondeb mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail fwy ffurfiol drwy greu cyngor partneriaeth gymdeithasol statudol ac yn gosod dyletswydd newydd ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru i gynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig wrth gyflawni swyddogaethau penodol.
Roedd y Bil drafft yn cynnwys mesurau i'n galluogi ni i sicrhau caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Fel y cadarnhaodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio caffael cyhoeddus a byddwn yn defnyddio eu deddfwriaeth ar gyfer y prosesau sylfaenol sy'n sail i gaffael. Ond rydym ni o'r farn y dylid gwneud y penderfyniadau ar ganlyniadau polisi caffael yng Nghymru. Byddwn yn sefydlu fframwaith statudol a fydd yn gosod ein blaenoriaethau o waith teg, datgarboneiddio a llesiant wrth wraidd ein proses gaffael. Bydd y ddeddfwriaeth yn gwella'r cysylltiad rhwng prosesau caffael a chyflawni canlyniadau gwell drwy ddarpariaethau rheoli contractau cryfach i wella tryloywder. Bydd hyn yn amlygu meysydd i'w gwella ac yn caniatáu rhannu arfer da. Ein nod yw sefydlu system lle gellir dwyn sefydliadau i gyfrif am sicrhau bod amodau contract yn cefnogi arferion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar draws cadwyni cyflenwi, yn enwedig mewn contractau adeiladu mawr a chontractau gwasanaethau allanol.
Yn olaf, bydd y Bil yn cyflwyno dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo ac annog gwaith teg pan fyddwn yn ymgymryd â gweithgarwch i wella'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu neu lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru. Yn ymarferol, bydd dyletswydd gwaith teg y Bil yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd camau sy'n hyrwyddo ac yn annog gwaith teg yn unol â'r diffiniad a geir yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Bydd y Bil yn cryfhau'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ymdrin â gwaith teg ar draws y Llywodraeth, gan roi dull cyffredin i ni wedi ei ategu gan ddeddfwriaeth. Ni fydd hyrwyddo ac annog gwaith teg yn ddewis polisi mwyach, lle mae 'gwneud dim' yn opsiwn posibl i Weinidogion a swyddogion, oherwydd bydd dyletswydd arnom i weithredu.
Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd yn flynyddol ar y gweithgareddau yr ydym ni wedi eu cynnal i hyrwyddo ac annog gwaith teg. Bydd y darpariaethau gwaith teg penodol hyn, ochr yn ochr â'r bartneriaeth gymdeithasol a'r dyletswyddau caffael cynaliadwy yn y Bil, yn rhoi hwb, sicrwydd ac eglurder ychwanegol i'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gwaith teg.
Felly, bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn cyflawni argymhelliad canolog y Comisiwn Gwaith Teg drwy ddarparu fframwaith i ddefnyddio ein holl ddylanwad a'n hysgogiadau polisi i ddatblygu gwaith teg. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â deddfwriaeth yn unig. Rydym ni eisoes yn dangos sut y byddwn yn dehongli'r ddyletswydd gwaith teg ac yn rhoi ein hymrwymiad i waith teg ar waith er mwyn sicrhau gwell bargen i weithwyr, rhywbeth yr ydym ni wedi ymrwymo i barhau i'w ddatblygu.
Mae'r fforwm gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran llywio ein dull o gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig coronafeirws wedi tynnu sylw at y gweithwyr hynny yr ydym yn dibynnu arnyn nhw gymaint, i ofalu am ein hanwyliaid a byw ein bywydau bob dydd. Mewn ymateb i hyn, rydym yn archwilio sut y gall dull partneriaeth gymdeithasol mewn sectorau eraill helpu i ymateb i heriau nid yn unig o ran cyflog ac amodau ond hefyd o ran cynaliadwyedd y sectorau hynny yn gyffredinol, fel lletygarwch a manwerthu. Ac rydym yn parhau i weithio gydag eraill i ddiogelu rhag atchweliad ar hawliau gweithwyr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol ac amrywiaeth o randdeiliaid i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a ble i gael gafael ar gymorth a chyngor. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddatblygu a chyfleu manteision busnes gwaith teg, gan gynnwys hyrwyddo mabwysiadu ac achredu cyflogau byw gwirioneddol. Bydd adnewyddu a chryfhau'r contract economaidd a'r piler gwaith teg ynddo yn arf hanfodol yn ein sgyrsiau parhaus ac wrth ymgysylltu â busnes.
Yn hyn oll, rydym yn ceisio hyrwyddo, drwy gydweithio, fod gan gyflogwyr a gweithwyr fuddiant cyfunol yn y manteision cyffredin o waith teg. Dylai undebau llafur fod yn flaenllaw ac yn ganolog i'r gwaith hwn; nhw yw'r llwybr gorau ar gyfer cynrychiolaeth gyfunol yn y gweithle ac mae ganddyn nhw ran ganolog i'w chwarae nid yn unig wrth wella telerau ac amodau ond yn fwy cyffredinol wrth ddatgloi ein heconomi yn gyffredinol. Gan ystyried hyn, ochr yn ochr â'r Bil, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gyflwyno'r achos cymdeithasol ac economaidd dros undebau llafur ac aelodaeth undebau llafur mewn gweithleoedd yng Nghymru.
Yn ystod datganoli, mae partneriaeth gymdeithasol wedi datblygu i gael ei hystyried fel ffordd Gymreig o weithio. Mae'r deunaw mis diwethaf wedi dangos y tu hwnt i unrhyw amheuaeth werth gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n wynebu Cymru. Mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) yn ddarn uchelgeisiol a blaengar o ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r gwerthoedd hyn wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau mewn Llywodraeth, yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ac wrth fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i Gymru fwy cyfartal. Drwy gydol yr haf, rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i fireinio'r darpariaethau ac rydym yn parhau ar y trywydd iawn i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.
Edrychaf ymlaen at ddod â'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) gerbron y Senedd a chydweithio i sicrhau'r manteision hyn i weithwyr yng Nghymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae hon yn agenda bwysig na all aros, a byddwn yn parhau i ddefnyddio cyfleoedd anneddfwriaethol i ddatblygu gwaith teg yn y cyfamser.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid yw'r Bil cyntaf y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei gyflwyno i'r chweched Senedd yn un sy'n ymdrin â'r argyfwng ymateb ambiwlansys nac â'r miloedd o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am lawdriniaeth, ac nid yw'n ymdrin â'r pandemig COVID presennol hyd yn oed. [Torri ar draws.] Yn hytrach, mae'r Llywodraeth hon yn poeni'n bennaf am ofalu am eu cyflogwyr undebau llafur. [Torri ar draws.] Y broblem fwyaf ynghylch y Bil hwn yw ei fod yn mynnu bod corff cyhoeddus yn ymgynghori ag undebau llafur ac yn gofyn iddyn nhw am gymeradwyaeth er mwyn i gontractau caffael fynd yn eu blaenau.
Ynddo'i hun, nid yw ymgynghori â chorff allanol i sicrhau didueddrwydd llawn ac i sicrhau bod prosesau teg yn cael eu gorfodi yn ddatblygiad newydd. Fodd bynnag, siawns na all y Dirprwy Weinidog weld bod problem amlwg o ran sut y bydd undebau llafur yn cael dylanwad gormodol ar gaffael cyhoeddus bellach a sut y bydd undebau llafur i bob pwrpas yn plismona'r system caffael cyhoeddus yng Nghymru bellach. O dan y ddeddfwriaeth arfaethedig hon, mae'n rhaid cytuno ar unrhyw adroddiad partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu bydd yn rhaid i'r corff cyhoeddus fod yn atebol i Lywodraeth Cymru, gan ysgrifennu adroddiad llawn yn egluro pam ei fod wedi methu â bodloni gofynion yr undebau llafur. [Torri ar draws.] Bydd Llywodraeth Cymru, drwy ddefnyddio'r Bil hwn, i bob pwrpas yn sefydlu ei hun i weithredu fel Tartarws, gan gosbi'r rhai sy'n herio ei duwiau undebau llafur.
Yn eich ymgynghoriad eich hun, teimlai nifer o gyflogwyr awdurdodau lleol fod manteision gwaith teg eisoes yn cael eu cydnabod, ac ni allan nhw weld pa fanteision a ddaw yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog egluro beth, os o gwbl, yw manteision y ddeddfwriaeth hon—[Torri ar draws.]—na ellir eu cyflawni eisoes o dan y ddeddfwriaeth bresennol? A wnaiff y Dirprwy Weinidog hefyd egluro a fydd undebau llafur yn cael cydnabyddiaeth ariannol am eu rhan mewn bodloni gofynion y Bil a phwy fydd yn ariannu hyn yn y pen draw? [Torri ar draws.] Rwy'n rhagdybio y bydd yr undebau llafur yn gofyn am gydnabyddiaeth ariannol am eu hymdrechion, ac felly yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei greu yw ffrwd incwm i'r undebau llafur a gefnogir gan y Llywodraeth, oherwydd mae'n siŵr y byddan nhw'n cael y gwaith o gyflogi ac rwy'n rhagdybio hefyd y gwaith o hyfforddi'r bobl angenrheidiol i graffu ar gontractau cyhoeddus. Rwy'n amau felly nad oes gan lawer o undebau llafur y staff i fodloni gofynion y Bil hwn. Bydd y Llywodraeth hon yn rhoi arian cyhoeddus i gynyddu capasiti gwaith yr undebau llafur hyn a fydd wedyn yn ariannu'n uniongyrchol, drwy eu tanysgrifiadau a'u rhoddion, Blaid Lafur Cymru. Mae'n rhaid bod y Dirprwy Weinidog yn gweld yn glir bod hyn, yn ogystal â bod yn ymddygiad anfoesol, hefyd yn sarhad aruthrol ar ysbytai, elusennau, ysgolion a chynghorau sy'n galw am arian ychwanegol i ddarparu gwasanaethau sylfaenol. Dylai'r Dirprwy Weinidog, heb amheuaeth, allu gweld problem amlwg arall o ran y ffaith y gallai'r system gyfan, wrth ei natur, fod yn destun cyhuddiadau o lygredigaeth, lle gellid ystyried bod undebau llafur yn ffafrio un cyflogwr neu gontract dros un arall. Mae hyn fel bwrw had llygredigaeth ac mae'n rhywbeth yr wyf i—ac rwy'n siŵr, llawer o Aelodau eraill yma—yn pryderu'n eithriadol yn ei gylch.
Gellir deall yn glir y farn y bydd gan undebau llafur ddylanwad gormodol bellach dros gontractau cyhoeddus hefyd oherwydd y ffaith mai nhw fydd traean o aelodaeth cyngor partneriaeth gymdeithasol Cymru, er mai dim ond tri chynrychiolydd yr ydych chi'n eu cynnig o'r sector preifat cyfan, y bydd gan y Bil hwn ddylanwad uniongyrchol arno. Yn ddiamau, byddai'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi gweld hyn, felly ni allaf ond tybio fod hyn wedi ei wneud yn fwriadol, ac unwaith eto mae'n amlygu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn bennaf â chynyddu grym yr undebau llafur yn y wlad hon. Mae'n rhaid bod y Gweinidog yn cytuno â mi fod y sector preifat yn cael ei dangynrychioli'n aruthrol, a gofynnaf iddyn nhw a allan nhw egluro pam y mae cyn lleied o gynrychiolwyr y sector preifat ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol.
Hefyd, oherwydd bydd y Bil yn dibynnu cymaint ar gyfranogiad undebau llafur, mae perygl y byddai gweithwyr o fewn sectorau lle mae cyfraddau undebol yn isel neu nad ydyn nhw'n bodoli yn cael eu heithrio o'r trefniadau partneriaeth gymdeithasol a'u manteision cysylltiedig. O wybod hyn, a wnaiff y Dirprwy Weinidog egluro pam y mae'r Bil hwn yn dibynnu cymaint ar undebau llafur ac yn gofyn iddyn nhw graffu ar gontractau caffael ac adeiladu cyhoeddus a'u cymeradwyo? Pam na ellid rhoi'r un pwerau adolygu i gorff annibynnol? Byddai'r trefniadau presennol gydag undebau llafur yn dal i fod ar waith, ac felly, yn fy marn i, nid oes unrhyw reswm da dros roi'r gwaith o gymeradwyo contractau'r bartneriaeth gymdeithasol i undebau llafur.
Yn olaf, hoffwn i ddweud fy mod i'n cytuno, ac mae fy mhlaid yn cefnogi hyn, sef bod y manteision y mae gwaith teg a chyflog teg—
A wnaiff yr Aelod ofyn y cwestiwn olaf nawr? Rydych chi dros eich amser.
—yn gallu eu creu i gwmnïau adeiladu yng Nghymru.
Does bosib Dirprwy Weinidog, o gofio'r hyn sydd wedi ei ddweud, nad ydych chi'n cydnabod bod blaenoriaethau uwch ar gyfer bobl Cymru y mae angen rhoi llawer mwy o sylw brys iddyn nhw na'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael hwn. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid wyf i'n hollol siŵr ble i ddechrau gyda hynny—mae'n syth allan o lyfr dychanol y Ceidwadwyr ac yn dychwelyd i naratif y 1970au o ran undebau llafur a phobl sy'n gweithio. Mae'n destun siom, ond yn anffodus nid yw'n syndod. Mae'n ymddangos bod yr Aelod naill ai'n camddeall dibenion y Bil yn llwyr—ac rwy'n fwy na pharod i gynnig sesiwn friffio dechnegol yn ddiweddarach i'w roi ar ben ffordd ynghylch hynny—ond mae hefyd yn ceisio camddehongli diben y Bil yn fwriadol a swyddogaeth undebau llafur o fewn y maes gwaith yn y wlad hon. Mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn rhoi telerau cyfartal a chyfle cyfartal i undebau llafur, i gyflogwyr o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac i Lywodraeth Cymru ddweud eu dweud o amgylch y bwrdd. Mae'n ymwneud â chydweithio i wneud gwahaniaeth. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn cefnogi gwaith teg. Mae hyn yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i wneud gwahaniaeth, ac rydym ni wedi gweld yn ystod y pandemig pa mor bwysig yw hynny wrth i ni ailgodi, nid yn unig yn gryfach, ond yn decach, a chyflawni Cymru lle ceir gwaith teg.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y diweddariad a gafwyd gan y Gweinidog heddiw. Croesawaf y gydnabyddiaeth y bu gwaith dros yr haf gyda phartneriaid allweddol i fireinio cynigion a geir o fewn drafft cynharach o'r Bil. Mae llawer o fewn y drafft rydyn ni'n ei groesawu yn gyffredinol, ac mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo caffael lleol ers blynyddoedd llawer fel ffordd o gefnogi busnesau lleol ac ysgogi twf economaidd.
Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw'n barhaus am fwy o gaffael cyhoeddus, polisi a nodwyd gennym unwaith eto yn ein maniffesto diweddaraf. Rydym ni eisiau cynyddu cyfran cwmnïau Cymru o gontractau o 52 y cant i 75 y cant o'r gyllideb caffael cyhoeddus. Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol ac yn diogelu llawer o swyddi presennol yn economi Cymru. Mae hynny'n fantais bosibl a fyddai'n trawsnewid ein heconomi leol, ein busnesau lleol a'n cymunedau lleol. Dylai'r Llywodraeth hon, o'r diwedd, fanteisio ar y cyfle y mae caffael cyhoeddus yn ei gyflwyno, a gobeithio y bydd y Bil hwn, pan gaiff ei gwblhau, yn gwneud hynny.
Rwy'n sylwi o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fod nifer o faterion sy'n peri pryder wedi eu codi gan bartneriaid allweddol. Cododd Sefydliad Bevan nifer o bwyntiau pwysig yn ystod eu hymateb i'r ymgynghoriad, gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â chyd-destun ehangach y farchnad lafur y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn gweithredu ynddi. Mae'r cyd-destun hwn yn cynnwys natur a chyflenwad swyddi eraill yn y farchnad lafur, sgiliau a chymwysterau'r gweithlu, cyd-destun rheoleiddio'r DU, a pherchnogaeth a modelau busnes cyflogwyr. Heb fynd i'r afael â'r materion hyn, dywed Sefydliad Bevan na fydd y Bil yn cyrraedd ei lawn botensial.
Mae Sefydliad Bevan hefyd yn gofyn i amodau'r bartneriaeth gymdeithasol fod yn berthnasol i'r holl gyflogwyr hynny sy'n cael arian cyhoeddus, yn hytrach na chyrff cyhoeddus yn unig. Fe wnaethon nhw fynegi siom hefyd nad yw'r papur yn ymestyn i gadwyni cyflenwi gyda chyflenwyr o Gymru, rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn i'r Bil hwn gael y math o effaith drawsnewidiol ar ein heconomi y soniais amdano yn gynharach. Cynigiodd Cyngres yr Undebau Llafur hefyd ddiffiniad newydd o gaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw weithwyr yn cael eu hecsbloetio drwy gronfeydd cyhoeddus, rhywbeth y dylai'r Bil hwn fod yn ofalus iawn i warchod rhagddo.
Dyma rai o'r pwyntiau sydd wedi eu hamlygu yn ystod yr ymgynghoriad, felly hoffwn i wybod nawr, faint, i ddyfynnu eich datganiad, sydd wedi ei fireinio dros yr haf i'w gwneud hi'r ddeddfwriaeth gryfaf, decaf a mwyaf effeithiol y gall fod. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiynau.
Fe wnaf fy ngorau i ymdrin â rhai o'r pwyntiau allweddol yna. Fe wnaethoch chi gyfeirio, ar ddechrau eich cyfraniad, at y potensial, y pŵer a'r ysgogiadau a geir yn sgil caffael yng Nghymru. Fel y dywedais i yn y datganiad, rydym ni'n credu y dylid pennu cyfeiriad polisi caffael yma yng Nghymru, ond rydym ni'n gweithio'n agos ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar sut y gallwn ni fanteisio ar y cyfle i ddiwygio caffael i fynd i'r cyfeiriad polisi hwnnw i weld sut y gallwn ni sicrhau ei fod yn cyflawni'r potensial, yr allbynnau a'r cyfleoedd gorau sydd ar gael, ond hefyd, mewn gwirionedd, i gefnogi'r proffesiwn caffael a'r sector hefyd. Un o'r pethau y gwnaethom ei ddweud yn y Bil hwn oedd ceisio symleiddio pethau yn hytrach na chreu haenau ychwanegol, a sut y gallwn gefnogi'r proffesiwn i gyflawni i'r eithaf, i dyfu ac i ddatblygu yn rhan o hynny. Felly, rwy'n siŵr yn ystod hynt y Bil hwn a diwygio caffael yn ehangach, y bydd diweddariadau a chyfleoedd pellach i Aelodau ddylanwadu ar y cyfeiriad hwnnw a'i lywio hefyd.
Rwy'n gyfarwydd ag ymateb Sefydliad Bevan a nifer o ymatebion eraill i'r ymgynghoriad. Rwy'n credu i mi dreulio'r toriad hanner tymor yn ceisio darllen drwy'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, gan fy mod i'n ei chael yn ddefnyddiol iawn i ddeall yn bersonol y pwyntiau y mae pobl yn eu codi. Ac rwy'n credu bod nifer o bethau yno hefyd. Dywedais yn y datganiad nad yw deddfwriaeth yn unig yn mynd i fynd i'r afael â'r holl bethau hyn, felly mae'n debygol y bydd polisi a all ategu'r ddeddfwriaeth hefyd, er mwyn ymdrin â rhai o'r heriau a'r materion hynny hefyd. Er enghraifft, o edrych ar y sectorau hynny yr ydym ni'n gwybod eu bod yn wynebu heriau penodol ac, yn wir, mae achos busnes dros gael busnesau o amgylch y bwrdd hefyd, i siarad am sut y gallwn ni wella sgiliau a chefnogi gweithwyr o bosib, a bydd hynny yn rhoi cyflogaeth fwy sefydlog a boddhaol iddyn nhw, ond bydd hefyd yn rhoi sefydlogrwydd i'r sectorau. Felly, o fewn y pwyntiau a wnaeth Sefydliad Bevan o ran y farchnad lafur ehangach a gwella sgiliau, y ddyletswydd gwaith teg ynghylch y pethau y gallwn ni eu gwneud o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig o ran cefnogi sgiliau a hyfforddiant, rwy'n credu y bydd hynny'n cyflwyno cyfleoedd ac, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn gosod y ddyletswydd honno ar Weinidogion Cymru i orfod ystyried hynny a gorfod gwneud rhywbeth yn ei gylch, ac iddo fod yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth hefyd.
Fe wnaethoch chi sôn am y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a'r galwadau i hynny gynnwys cyrff eraill a sefydliadau eraill. Fel y nodir yn y Bil drafft, roedd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r cyrff cyhoeddus hynny ac, wrth gwrs, mae pobl wedi nodi bod cyrff cyhoeddus eraill wedi dod i rym ers i'r Bil hwnnw gael ei ddeddfu. Felly, yn rhan o'r broses hon o weithio gyda rhanddeiliaid dros yr haf, a phartneriaid eraill, i fireinio'r Bil ac i symud pethau ymlaen er mwyn bod mewn sefyllfa i'w gyflwyno yn y lle hwn, ochr yn ochr â hyn, mewn gwirionedd, roedd adolygiad o'r cyrff fel yr argymhellwyd gan adroddiad y pwyllgor, i'w gynnal i adolygu'r cyrff hynny sydd wedi eu cynnwys o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y gwaith hwnnw yn digwydd ochr yn ochr â'n gwaith ni o fwrw ymlaen â'r Bil ac yna bydd yn helpu i lunio sut y gallwn ni alinio hynny'n well ac edrych a yw'r cyrff iawn wedi eu cynnwys o dan y Ddeddf hon.
Felly, mae llawer o waith wedi bod yn digwydd dros yr haf, yn ymwneud yn bennaf â'r ddyletswydd gwaith teg, wrth gwrs, a hefyd o ran sut y bydd y broses gaffael yn gweithio'n ymarferol. Gwnaed hynny mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a phartneriaid cymdeithasol, ac mae hynny yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w wneud wrth i ni geisio cyflwyno'r Bil bellach, ond hefyd, mewn gwirionedd, wrth edrych ar natur weithredol y ddeddfwriaeth hefyd.
Rwy'n credu, i'w roi ar gofnod, y byddaf i'n datgan fy mod i'n aelod balch o undeb llafur, a byddwn i'n annog pobl yn y Siambr hon, Aelodau yn y Siambr hon, i fyfyrio ar rai o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn ystod y cyfraniadau heddiw, oherwydd yn wir, undebau llafur fel Unite Wales yn fy etholaeth i a gefnogodd Airbus ac a achubodd gannoedd o swyddi yn Airbus drwy gydol y pandemig, pan oedd Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i'w siomi ac yn esgeuluso'r gweithlu unwaith eto.
Felly, rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'r rhain yn gynigion gwych ac yn gyfle gwych i wneud gweithleoedd ar hyd a lled Cymru yn lleoedd tecach a mwy cydweithredol. Yr hyn sy'n hanfodol i mi, Gweinidog, yw bod gan y Ddeddf hon ddannedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gweithlu, boed yn aelodau o undebau llafur neu'n weithwyr unigol sy'n chwilio am lais i fynnu telerau ac amodau gwell a hyd yn oed gydnabyddiaeth briodol. Nawr, un o'r camau, Gweinidog, i gyflawni hyn, yw cael diffiniad cadarn o waith teg, felly efallai, Gweinidog, y gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am beth yw hwnnw a pha mor ffyddiog yr ydych chi y bydd hwnnw'n gweithio ar gyfer gweithwyr.
Diolch i'r Aelod, Jack Sargeant, am ei gyfraniad, ac am ddefnyddio'r cyfle i dynnu sylw at yr achos cadarnhaol dros undebau llafur ac i agor ein llygaid i realiti yn hytrach na gwrando ar y rhethreg a'r mythau o'i gwmpas. Fe wnaethom ni weld yn y gogledd-ddwyrain filoedd o swyddi â chyflogau da yn cael eu harbed oherwydd, mewn partneriaeth gymdeithasol, gweithiodd yr undebau llafur gyda'r cyflogwr i lunio ateb er mwyn diogelu'r swyddi hynny ar gyfer y dyfodol hefyd.
Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud y dylem ni sicrhau bod gennym ni ddarn o ddeddfwriaeth a all wneud y gwahaniaeth yr ydym ni eisiau iddo ei wneud. Felly, fel y byddwch chi'n gyfarwydd ag ef, yn y Bil drafft, fe wnaethom ni adael y diffiniad ynghylch y ddyletswydd gwaith teg yn agored, ac o'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael â phartneriaid a rhanddeiliaid, y diffiniad a fydd ar y Bil fydd y diffiniad a argymhellwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg yr ydym ni eisoes wedi ymrwymo iddo. Yna, wrth gwrs, o ran hynny, bydd yn rhaid i ni archwilio pa ysgogiadau sydd gennym yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw, lle y gallwn wneud y gwahaniaethau ymarferol hynny, boed hynny drwy bethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw eisoes fel sgiliau, hyfforddiant neu gyfleoedd eraill hefyd.
Dirprwy Weinidog, rwy'n credu bod y Bil hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i Gymru, yn arbennig o ran caffael cyhoeddus. Fel aelod blaenorol o gabinet llywodraeth leol dros yr economi, un o'r pethau yr oeddwn i'n arfer ei glywed drwy'r amser gan fusnesau ledled Powys oedd, 'Sut gallwn ni fod yn rhan o gaffael cyhoeddus? Sut gallwn ni helpu i ddatblygu'r economi leol?' Ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn feiddgar yma a cheisio arwain y byd ym maes caffael cyhoeddus yn wirioneddol. Gall caffael cyhoeddus ychwanegu manteision enfawr i'r economi leol o ran swyddi a chyfleoedd; hefyd yn ein hysgolion, drwy ddarparu prydau o ffynonellau lleol, addysgu pobl ifanc o ble mae eu bwyd yn dod, ac mae pennod 7 o'r Bil, rwy'n credu, yn bwysig iawn ar gyfer gwneud hynny o fewn addysg ehangach ein plant. Hoffwn i wybod pa sgyrsiau yr ydych chi wedi eu cael â chydweithwyr llywodraeth leol i'w paratoi nhw os caiff y Bil hwn ei basio yma a hefyd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd â phresenoldeb mawr yng Nghymru ac sy'n rhan fawr o gaffael cyhoeddus yn y wlad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau ei bod hi'n rhan o hyn yn gynnar er mwyn sicrhau ei bod yn gallu caffael cynnyrch lleol sydd o fudd i swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru. Felly, hoffwn i weld rhai ymrwymiadau gennych chi y byddwn ni'n sicrhau, drwy'r pwerau sydd gennym ni yma, y bydd caffael cyhoeddus ar gael i fusnesau lleol ac y gallan nhw wneud cais amdano, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r ffordd y gallwn ni ddiogelu swyddi a bywoliaeth wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau adeiladol iawn, fel y gwnaethoch chi ei ddweud o'r blaen, y potensial y mae caffael yn ei roi i ni yma yng Nghymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, i gefnogi gwaith mewn gwirionedd, ond yn ddiofyn i gefnogi'r economi leol, oherwydd os yw pobl mewn swyddi boddhaol, maen nhw'n fwy tebygol o wario yn yr economi leol hefyd, felly mae'r cysylltiad hwnnw yno. Fel y dywedais i o'r blaen, mae'r Bil hwn yn un agwedd ar hynny ond ymysg diwygio caffael ehangach. Ac un peth y byddwn i'n ei awgrymu yw, pan oeddech chi'n tyfu i fyny na fyddech chi byth wedi dweud, 'Mae caffael yn cynnig cyfle cyffrous iawn,' ond y mae'n gwneud hynny'n llwyr, ac mae'n un o'r ysgogiadau allweddol hynny sydd ar gael i ni yng Nghymru heb amheuaeth, rwy'n gwybod, nid yn unig o fewn y Bil hwn ac o safbwynt partneriaeth gymdeithasol, caffael cyhoeddus yn y Bil hwn ei hun, ond ar draws y Llywodraeth, ac mae'n gweithio ar y ffordd y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Byddwn i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod, a hefyd os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau yr hoffech eu cyfrannu at y broses honno, byddwn i'n eu croesawu hefyd.
Dim ond i grybwyll y pwynt a wnaethoch—. Yn bendant, gallwn ni siarad am bartneriaeth, ac mae'r Bil hwn wedi ei ddatblygu drwy gael y sgyrsiau hynny â'r bobl a'r sefydliadau y bydd yn effeithio arnyn nhw. Felly, rydym ni wedi gweithio gyda llywodraeth leol drwy'r gymdeithas llywodraeth leol, ond mae'n amlwg y bydd angen sgyrsiau ac arweiniad a chymorth manylach wrth i ni lunio manylion ac effaith weithredol y ddeddfwriaeth newydd hefyd.
Ac yn olaf, Sarah Murphy.
Diolch i chi, Gweinidog. A minnau yn undebwraig lafur falch arall, rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu Bil gyda gwaith teg wrth ei wraidd, ac ymrwymiad i hyrwyddo undebau llafur a chydfargeinio, fel y gall datblygu a thwf diwydiant fod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr.
Fodd bynnag, yn frawychus, pan wnes i a'r Athro Lina Dencik o'r Labordy Cyfiawnder a Chasglu Data ym Mhrifysgol Caerdydd gyfweld ag aelodau undebau llafur y llynedd, fe wnaethon nhw ddisgrifio amrywiaeth o ddata newydd, monitro pwrpasol ac arferion gwyliadwriaeth a all lesteirio awtonomiaeth gweithwyr a chydfargeinio. Er enghraifft, gellir defnyddio technoleg adnabod wynebau i sganio mannau gwaith a nodi pryd y mae cynrychiolwyr undeb yn siarad â gweithwyr. Ac rydym ni'n gwybod o adroddiadau sydd ar gael i'r cyhoedd fod yr uwchgwmni rhyngwladol Amazon yn trefnu i'w ddadansoddwyr fonitro'n ofalus weithgaredd trefnu llafur ac undebau eu gweithwyr ledled Ewrop, ac fe honnir iddo gael ei ddal yn pardduo enw da gweithwyr a geisiodd drefnu eu cydweithwyr. Felly, Gweinidog, pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i sut y gallai technolegau newydd a gwyliadwriaeth yn y gweithle effeithio ar gydfargeinio a gallu undebau llafur i drefnu, er mwyn sicrhau bod y Bil hwn yn addas ar gyfer y byd gwaith yn awr ac yn cyflawni'r nod y caiff pawb eu trin yn yr un modd er mwyn i bawb ffynnu?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? A sylwaf fod yr Aelod wedi gwneud llawer o waith ynghylch yr heriau sy'n ymwneud â beth y mae technoleg ddigidol yn ei olygu i'r byd gwaith, dyfodol gwaith a'r peryglon a allai ddod yn sgil hynny mewn gwirionedd yn ogystal â photensial. Rydym ni'n gwybod, pan gaiff ei defnyddio'n gyfrifol, y gall technoleg fod yn rym er lles; mae'n darparu cymorth a hyblygrwydd, fel yr ydym ni wedi ei weld mewn llawer o achosion yn ystod y 18 mis diwethaf yn ystod y pandemig, pan fu'n rhaid i lawer ohonom ni weithio'n wahanol. Mae rhai sefydliadau sydd efallai wedi gwrthsefyll y newid hwnnw yn y gorffennol wedi gweld y gall pobl, mewn gwirionedd, fod yr un mor gynhyrchiol pan fyddan nhw'n gweithio mewn lleoliad gwahanol. Ond, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae ochr arall i'r geiniog pan ellir ei defnyddio ar gyfer gwahanol gymhellion.
Mae heriau i ni, onid oes, oherwydd nid yw cyfraith cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol wedi eu datganoli. Rwy'n myfyrio, o ran beth y mae dyfodol gwaith yn ei olygu, ar ba ddulliau dylanwadu sydd gennym ni a sut y gallwn ni ddylanwadu, dyma'r math o beth y byddech chi, mae'n debyg—. Nid fy lle i yw penderfynu beth ddylai'r cyngor partneriaeth gymdeithasol, pan ddaw i fodolaeth gobeithio, weithio arno. Ond mae gwaith yn y dyfodol ac effaith pethau fel newidiadau digidol mewn patrymau gwaith a sut y mae'r gwaith hwnnw yn edrych yn y dyfodol a sut y mae'n gweithio ar gyfer gweithleoedd, i weithwyr ac i'r wlad gyfan yn bendant yn rhywbeth a ddylai fod ar ei agenda. Ac rwy'n credu, yn y cyfamser, y byddwn i'n hapus iawn i gyfarfod â chi efallai i ddysgu mwy am y gwaith hwnnw ac efallai i ddechrau edrych ar yr hyn y gallwn ni fod yn ei wneud nawr mewn gwirionedd.
Rwyf i wedi cael cais gan Aelod i ofyn un cwestiwn arall ac roedd o fewn yr amser ac mae gennym ni ddigon o amser, felly rwy'n ei ganiatáu, ond cofiwch ei fod yn gwestiwn ar ddatganiad ac nid araith. Felly, Mark Isherwood.
Diolch. Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y byddwch chi'n rhoi gwaith teg, datgarboneiddio a llesiant wrth wraidd caffael, ond nid ydych chi'n sôn am y canllawiau presennol ar gyfer caffael, sy'n seiliedig ar ansawdd, gwerth a phris a hefyd hyblygrwydd achosion lleol a chymunedol er budd cymunedau lleol. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau na fydd y blaenoriaethau yr ydych yn eu nodi yn arwain at gaffael drytach o ansawdd is a bod materion fel cost, ansawdd, gwerth a budd cymunedol yn dal i fod wrth wraidd y penderfyniadau a wneir?
Diolch i'r Aelod am gael y cwestiwn i mewn ar yr unfed awr ar ddeg. Mae'n gwestiwn allweddol iawn o ran sicrhau mewn gwirionedd nad ydym ni'n effeithio ar bethau pan fyddwn yn gwybod bod gwerth yno'n barod. Ac fel y dywedais yn y datganiad, bydd mwy o waith i ddilyn sy'n rhan o gyfleoedd ehangach diwygio caffael, wrth i ni weithredu'n gyson â phroses Llywodraeth y DU ac edrych ar hynny'n ehangach. Felly, gwn y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Ond rydym yn ymwybodol iawn, fel y dywedais o'r blaen, nad ydym ni eisiau creu biwrocratiaeth ychwanegol ac nid ydym ni eisiau dyblygu; rydym ni eisiau ategu, gwella a sicrhau bod y cyfan yn cyd-fynd â'i gilydd mewn ffyrdd llawer gwell yn y dyfodol.
Mae gen i Aelod arall nawr, yn y nawfed munud wedi'r hanner cant o'r unfed awr ar ddeg. Gofynnaf i bob Aelod ymdrechu i gyflwyno eu ceisiadau mewn amser priodol, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael cyfle. Mike Hedges. A dyma'r siaradwr olaf. [Chwerthin.]
Diolch. A gaf i gytuno â'r hyn a gododd Sarah Murphy, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw yn fater sy'n mynd i fod yn destun pryder mawr ac yn fwy o bryder wrth i amser fynd heibio?
Ond y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: beth allwn ni ei wneud i wneud contractau yn llai? Rwy'n cytuno nad oes hanner digon yn cael ei roi i gwmnïau llai y tu mewn i gymunedau, ond y rheswm yw bod pobl yn ei becynnu—gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol—mewn contractau mor fawr fel mai dim ond cwmnïau mawr a all ymgeisio. Os cymerwch chi ddatblygiad yr A55, y tro diwethaf iddo gael ei gynnig, cafodd ei gynnig ar raddfa mor fawr fel na allai unrhyw gwmni yn y gogledd ymgeisio, ac roedd yr holl bobl a allai ymgeisio yn rhai o gwmnïau mawr a oedd wedi eu lleoli ar draws y byd. Felly, sut y gallwn ni wneud contractau yn llai, fel y gall cwmnïau lleol a phobl leol elwa?
Diolch i'r Aelod am lwyddo i ofyn ei gwestiwn ar yr unfed awr ar ddeg, gan godi unwaith eto rai pwyntiau dilys iawn ynghylch pa mor agored yw'r broses gaffael a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil, nid yn unig o ran creu gwaith boddhaol, ond wrth gefnogi'r cwmnïau llai hynny, yr economi sylfaenol, cymunedau lleol mewn gwirionedd. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth sydd wrth wraidd y gwaith o ystyried diwygio'r broses gaffael, i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael, i gwmnïau ac i'r bobl a allai weithio iddyn nhw yn y dyfodol o bosibl ym mhob un o'n hetholaethau a'n cymunedau ledled y wlad.
Diolch, Ddirprwy Weinidog.