2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 29 Medi 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ56904
Diolch yn fawr, Paul. Mae gwasanaethau iechyd, fel pob bwrdd iechyd yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, o dan bwysau aruthrol yn ymdrin â nifer uwch nag erioed o achosion o COVID yn y gymuned, yn gweld poblogaeth sy’n heneiddio, sector gofal sy'n fregus tu hwnt, bygythiad ffliw y gaeaf, a’r angen i ddarparu brechlynnau i atgyfnerthu a brechu plant 12 i 15 oed. Yn ogystal â hyn, maent yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, a lle y bo hynny'n bosibl, yn mynd i’r afael â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu dros gyfnod y pandemig.
Weinidog, yr wythnos diwethaf heriais y Prif Weinidog ynglŷn â gwasanaethau ambiwlans yn sir Benfro, ac fe'm cyhuddodd o ledaenu sibrydion di-sail, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd daw'r sylwadau a gefais ar y mater hwn gan weithwyr rheng flaen y gwasanaeth brys yn sir Benfro sy'n pryderu'n fawr am argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans lleol a'r effaith y byddai'r argymhellion yn ei chael ar y boblogaeth leol ac ar y gweithlu. Daw'r argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans yn sgil y ffaith na fydd asesiadau brys pediatrig ar gael yn ysbyty Llwynhelyg a byddant yn parhau i gael eu trosglwyddo i ysbyty Glangwili tan o leiaf y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, gofynnir yn awr i'r fyddin gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, ac felly nid yw lleihau'r gwasanaeth brys yn sir Benfro yn gwneud unrhyw synnwyr. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymyrryd yn awr i sicrhau na chaiff gwasanaeth ambiwlans brys sir Benfro ei leihau?
Diolch yn fawr, Paul. Rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb mewn clywed fy mod yn ymwybodol iawn o'ch pryderon, ac felly rwyf wedi trefnu i'r cynrychiolydd o wasanaeth ambiwlans Cymru roi briff i Aelodau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru ddydd Gwener yr wythnos hon. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn bresennol ac ar gael i allu clywed yn uniongyrchol am y cynlluniau mewn perthynas â gwasanaethau ambiwlans yn ardal Hywel Dda.
Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eisoes yn darparu rhywfaint o wasanaeth; mae criw wedi'u hyfforddi'n arbennig o Grymych, Arberth a Thyddewi yn gwneud gwaith anhygoel, ac felly rydym yn falch iawn o weld hynny. Ond hefyd, fel y clywsoch, rydym yn estyn allan yn awr at y lluoedd arfog i roi rhywfaint o gefnogaeth, a hynny oherwydd ein bod yn gweld mwy o alw yn ystod y cyfnod eithriadol iawn hwn.
Rydych yn sôn am fynd â gwasanaethau o Lwynhelyg, a gadewch i mi fod yn gwbl glir: yr hyn sy'n digwydd oedd bod yna bryder ynglŷn ag ymchwydd yn nifer yr achosion o feirws syncytiol anadlol, ac rydym wedi penderfynu parhau, ac mae Hywel Dda wedi penderfynu parhau, gyda'r gwaith o symud gofal ambiwlans pediatrig dros dro ers mis Mawrth y llynedd, fel y gall staff profiadol fonitro'r plant hynny. A'r ffaith yw bod unrhyw benderfyniadau fel hyn bob amser yn dilyn cyngor clinigwyr.
A rhaid imi ddweud bod y ffordd y mae'r Torïaid yn dal ati i godi cynnen mewn perthynas â Llwynhelyg yn sir Benfro yn peri gofid mawr i mi. Yn 2007—[Torri ar draws.] Yn 2007, fe wnaethoch godi'r bygythiad y byddai Llwynhelyg yn cau. A wyddoch chi beth? Ni chaeodd yr ysbyty. Fe wnaethoch hynny eto yn yr etholiad yn 2010. A gaeodd yr ysbyty? Na wnaeth. Fe wnaethoch hynny eto yn 2011. Ni chaeodd. Yn 2015, ni chaeodd. Yn 2016, ni chaeodd. Drosodd a throsodd rydych chi'n bygwth ac rydych chi'n dychryn pobl i feddwl bod rhywbeth yn mynd i gau pan nad oedd unrhyw fwriad i gau Llwynhelyg. A chredaf y dylech fod â chywilydd ohonoch eich hunain, yn ennyn—[Torri ar draws.]—yn ennyn teimladau yn sir Benfro nad ydynt yn haeddu'r math hwn o sylw mewn gwirionedd.
Mae fy nghwestiwn i yn dilyn trywydd tebyg iawn, a dweud y gwir, i'r cwestiwn gan Paul Davies. Ar adeg pan taw dim ond 48 y cant o alwadau coch sy'n cael eu hateb o fewn wyth munud yn hytrach na'r targed o 65 y cant ar draws ardal Hywel Dda, mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn bwriadu torri nifer yr ambiwlansys o dri i ddau yn Aberystwyth ac o dri i ddau yn Aberteifi, a gwneud hyn heb roi gwybod i'r cyhoedd na'r meddygfeydd lleol. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod ein paramedics o dan bwysau difrifol iawn, ac yn aml yn ciwio tu fas i ysbytai yn yr Amwythig, yn Abertawe, yn Glangwili, Llwynhelyg, ac yn y blaen, a ddim ar gael, felly, i ateb galwadau brys yng Ngheredigion, lle mae'r targedau o bedair awr, wyth a 12 awr yn cael eu methu'n rheolaidd. Ac, yn anffodus, yr un yw'r sefyllfa ar draws ardal Hywel Dda yn gyfan gwbl. Dwi'n falch iawn i glywed eich bod chi'n bwriadu rhoi briffio i Aelodau yn y gorllewin. Felly, yn y cyfarfod hwnnw, rwy'n edrych ymlaen i glywed a ydy hi'n dderbyniol, felly, mewn cyfnod o argyfwng i'r gwasanaeth brys, fod yr ymddiriedolaeth yn torri'r gwasanaeth ambiwlans yn Aberystwyth ac Aberteifi gan dros 30 y cant.
Diolch yn fawr, Cefin. Fel dwi'n dweud, mae'r gwasanaeth dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae'r cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn galw ambiwlansys—dŷn ni byth wedi gweld dim byd tebyg i hwn o'r blaen. Y ffaith yw bod tua 20 y cant o'r galwadau hynny yn ymwneud â COVID, felly mae hi'n gyfnod o bwysau aruthrol. Mae'r 'ailroster-o'—dyna yw'r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd; ailfeddwl ynglŷn â ble mae ambiwlansys yn mynd i gael eu lleoli. Mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn. Dwi yn gobeithio y bydd cyfle ichi ddod ar ddydd Gwener i wrando ar y gwasanaeth ambiwlans yn egluro beth maen nhw'n ei wneud, pam maen nhw'n ei wneud ef a pham maen nhw'n ymateb yn y modd hwn. Felly, bydd yna gyfle ichi wedyn i ofyn cwestiynau mwy penodol, efallai, fel y rhai rydych wedi'u gofyn y prynhawn yma.
Weinidog, hoffwn dynnu sylw at y buddsoddiad o £68 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y gwasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a thynnu sylw at y ffaith bod y gymuned leol yn croesawu'r canolfannau gofal integredig yn Aberaeron, Aberteifi, Abergwaun, Cross Hands, Machynlleth a Llanfair Caereinion, ac maent wedi derbyn cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan yr etholwyr sy'n defnyddio'r canolfannau hynny, a'r ffaith eu bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd y gallant gael gofal a'r ffordd y gallant ddefnyddio'r canolfannau hynny. Felly, a fyddech yn cytuno â mi fod buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon i drigolion mewn ardaloedd gwledig a wasanaethir gan fwrdd iechyd Hywel Dda?
Diolch yn fawr iawn, Joyce, ac rwy'n cytuno â chi; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ddeall yr hyn y ceisiwn ei wneud yn y lleoedd hyn. Rydym yn ceisio cynyddu'r buddsoddiad, gan ddeall bod gofal sylfaenol yn agwedd allweddol ar sut yn darparwn wasanaethau iechyd, gan sicrhau ein bod yn cael yr holl wasanaethau, lle bo hynny'n bosibl, o dan yr un to. Ac rwy'n falch iawn o weld bod y buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn, fel y dywedwch, i Aberaeron ac i Aberteifi wedi cael derbyniad da iawn gan bobl yn yr ardaloedd hynny, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymweld, er mwyn imi allu gweld â'm llygaid fy hun pa mor effeithiol yw'r model hwnnw.