3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? TQ569
Wel, diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiwn pwysig iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni'r weithred waethaf o ostwng y gwastad drwy dorri'r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol, gan gondemnio cannoedd o filoedd o deuluoedd gweithgar i fyw ar ffin tlodi. Ni fyddwn yn cefnu ar deuluoedd yng Nghymru. Bydd ein cronfa cymorth dewisol yn eu helpu i gadw eu cartrefi'n gynnes a bwydo eu plant.
Diolch, Weinidog, a diolch, Llywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn.
Daw’r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol i ben heddiw. Bydd y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Dorïaidd ddideimlad yn San Steffan yn effeithio ar dros 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae hynny'n un o bob pum cartref. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yr effaith yn waeth ar deuluoedd Cymru, gan fod cyfran uwch o deuluoedd yma yn hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth gwaith. Ac i deuluoedd â phlant, effeithir ar bedwar o bob 10 teulu; dyna bedwar o bob 10 teulu â phlant yng Nghymru a fydd yn teimlo'n sydyn fod eu rhwyd ddiogelwch i'w gweld dipyn yn llai diogel o heddiw ymlaen. Daw'r toriad heddiw wrth i gostau byw yng Nghymru a chostau ynni aelwydydd godi—mae prisiau nwy'n uwch nag erioed heddiw yn y DU—ac mae dyledion aelwydydd yn dyfnhau.
Yr ateb, yn ôl Llywodraeth San Steffan: gweithiwch ddwy awr yn ychwanegol. Ar wahân i galongaledwch llwyr y datganiad hwn, mae hefyd yn gwbl gyfeiliornus. Mae credyd cynhwysol yn fudd-dal graddedig, sy'n golygu bod eich taliad yn lleihau 63c am bob punt a enillwch, felly ar gyfer swydd sy'n talu £10 yr awr, bydd yn cymryd llawer mwy na dwy awr i ennill £20 yn ychwanegol. Ar ben hynny, mae swyddi gan 38 y cant o'r bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru. Maent yn dibynnu ar gredyd cynhwysol am nad yw eu gwaith yn talu digon. Roeddwn yn gwrando ar fam yn cael ei chyfweld ar Radio Wales y bore yma; mae hi a'i gŵr yn gweithio'n llawnamser. Maent ar gredyd cynhwysol; maent yn mynd i fod yn waeth eu byd. Dywedodd y bydd y toriad yn cyfateb i werth pedair wythnos o siopa bwyd.
Gan fod dyletswydd gan Lywodraeth Cymru tuag at bobl Cymru, hoffwn wybod pa gynlluniau newydd penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effaith y penderfyniad trychinebus hwn ar ein teuluoedd tlotaf, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod £286 miliwn yn cael ei dynnu o'n heconomïau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £500 miliwn ar gyfer cronfa gymorth i aelwydydd i helpu cartrefi agored i niwed dros y gaeaf, sydd wedi golygu bod £25 miliwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn hanner digon o arian i lenwi'r twll creulon a grëwyd yn incwm yr aelwydydd tlotaf yn sgil dod â'r ychwanegiad at y credyd cynhwysol i ben, ac ni fydd yn diwallu anghenion y niferoedd cynyddol, yn anochel, o bobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, sy'n fater o fywyd neu farwolaeth wrth i'r gaeaf agosáu. Felly, hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio peth o'r arian hwn i helpu cwsmeriaid sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sydd mewn dyled i gwmnïau ynni yn enwedig, gan y bydd y penderfyniad heddiw wedi effeithio ar lawer ohonynt.
Ac yn olaf, pryd y bydd Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cefnogi galwadau eang am ddatganoli pwerau lles i Gymru, fel y gallwn sicrhau bywyd gweddus i bawb, yn hytrach na gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ar drugaredd San Steffan am byth, rhywle nad yw byth yn mynd i roi blaenoriaeth i les pobl Cymru? Nid yw San Steffan erioed wedi malio am bobl Cymru, ac ni fydd byth yn gwneud hynny. Dewis gwleidyddol oedd cyflwyno'r toriad hwn; mae ffurfio system well yn galw am ewyllys wleidyddol. Pa bryd y gwnewch chi fel Llywodraeth benderfynu mai digon yw digon?
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a geiriau pwerus iawn, sy'n cael eu rhannu a'u hadleisio o ran yr hyn a ddywedoch ar yr ochr hon i'r Senedd. Rwy'n gwybod, ac rydych yn llygad eich lle, fod hwn yn benderfyniad creulon, ac ymateb y Canghellor, fel y dywedwch, i ddod â'r ychwanegiad i ben yw bod yn rhaid canolbwyntio ar swyddi, ond mae dros 97,000 o bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol yng Nghymru yn gweithio, ac mae 76,000 o bobl ar gredyd cynhwysol yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae'r rheini'n bobl anabl a phobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud na allant weithio; maent yn y grŵp heb ofyniad i wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Pa mor greulon yw hi y bydd y bobl hynny hefyd yn colli'r incwm blynyddol hollbwysig o £1,040, ac oddeutu 275,000 o deuluoedd incwm isel yn colli cyfanswm o £286 miliwn? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ydy, wrth gwrs, mae'n golygu ei dynnu allan o'n heconomi hefyd.
Y toriad arfaethedig fydd y gostyngiad mwyaf dros nos i gyfradd sylfaenol o nawdd cymdeithasol ers dechrau'r wladwriaeth les fodern dros 70 mlynedd yn ôl. Ac rwyf hefyd yn diolch i bawb, nid yn unig yma yn y Senedd, ond yn Stormont, San Steffan a Holyrood, lle mae pob un o'r pwyllgorau wedi cyfarfod a chondemnio hyn; comisiynwyr plant pob gwlad; nifer o elusennau a grwpiau ffydd; heb sôn am yr holl Geidwadwyr sydd yn erbyn hyn, gan gynnwys cyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau.
A gaf fi ymateb i'ch cwestiynau penodol drwy ddweud bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am y gronfa gymorth i aelwydydd gwerth £500 miliwn yn warthus? Pum miliwn ar hugain o bunnoedd i Gymru. Ni all byth wneud iawn am yr arian a gollwyd gan gannoedd o filoedd o deuluoedd ledled Cymru, felly rydym yn gweithio ar gynigion i sicrhau y gwerir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran effaith y toriad creulon hwn ar incwm eu haelwydydd. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r pwynt hwn heddiw. Oherwydd mewn gwirionedd, mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi dweud, o ganlyniad i hyn, fod un o bob pedwar o bobl bellach yn dweud ei bod yn debygol iawn y bydd angen iddynt fynd heb brydau bwyd—64,000 o bobl yng Nghymru, hynny yw. Ac mae un o bob pump yn dweud ei bod yn debygol iawn na fyddant yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi y gaeaf hwn—61,000 o bobl yng Nghymru—a hynny cyn y codiad diweddaraf ym mhris tanwydd.
Felly, yn gyflym iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y gronfa cymorth dewisol sydd gennym yng Nghymru—£25.4 miliwn yn ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn ei hymestyn ac rydym hefyd yn cynnwys yr hyblygrwydd a ymgorfforwyd gennym yn y gronfa cymorth dewisol. Bydd hynny'n parhau tan y gwanwyn, ond bydd gennym hefyd—unwaith eto—ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, gan weithio gydag awdurdodau lleol a Cyngor ar Bopeth. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Felly, unwaith eto, ar eich pwynt olaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym system nawdd cymdeithasol a weinyddir gyda thrugaredd ac sy'n deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl. Fe wyddoch ein bod yn asesu hyn yn ofalus mewn perthynas â'n sefyllfa yng Nghymru, ac wrth gwrs, gallai datganoli rhai pwerau sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol ddarparu ystod ehangach o offer inni allu trechu tlodi. Rydym wedi ymateb i hynny, wrth gwrs, ac i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr arferai John Griffiths ei gadeirio. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny o ddefnydd i ddangos sut rydym yn ceisio ymateb i'r toriad creulon, diangen hwn i incwm a bywydau'r bobl dlotaf yng Nghymru, sydd, fel y dywedais, yn cyfrannu at ein heconomi, ein cymunedau, a'n cymdeithas.
Ym mis Ebrill 2020, fel ymateb un flwyddyn i bandemig COVID-19, rhoddwyd ychwanegiad dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol y credyd cynhwysol. Yn ei gyllideb ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Canghellor y DU estyniad i'r ychwanegiad dros dro hwn am chwe mis arall, ochr yn ochr â thaliadau ymlaen llaw eraill o'r credyd cynhwysol. O'r cychwyn, roedd yr ychwanegiad dros dro am amser cyfyngedig ac mae'n gamarweiniol esgus fel arall.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ynglŷn â chodiad cyflog i'r GIG, ni all y Llywodraeth hudo arian o'r gwynt. Mae Llywodraeth y DU, a gyflwynodd becyn cymorth COVID gwerth £407 biliwn, gan gynnwys chwistrelliad o £9 biliwn i’n system les, a £2.14 biliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, bellach yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn swyddi a sgiliau wrth inni ymadfer wedi'r pandemig. Yn ogystal â hyn, fel y clywsom, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cronfa gymorth newydd gwerth £500 miliwn i aelwydydd sydd ar gael i helpu'r rhai mwyaf anghenus wrth inni wynebu camau olaf yr adferiad, gobeithio, a bydd hwnnw'n cefnogi miliynau o aelwydydd. Bydd y Llywodraethau datganoledig yn cael £79 miliwn ohono, felly sut y bydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod ei chyfran lawn o'r arian hwn yn helpu'r rhai mwyaf anghenus yng Nghymru?
Rwy’n synnu nad yw Mark Isherwood wedi gwrando ar fy atebion i’r cwestiynau a ofynnwyd mor bwerus gan Sioned Williams y prynhawn yma. Gallaf ei atgoffa, efallai, mai Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, a nododd mai'r gwir amdani yw, hyd yn oed pe cedwir y taliad o £20 yr wythnos, na fyddai hynny'n gwneud iawn am yr incwm y mae ein haelwydydd tlotaf wedi'i golli, oherwydd y toriadau difrifol flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w budd-daliadau, a gyflwynwyd gan flynyddoedd o doriadau lles—blynyddoedd o doriadau lles, Mark Isherwood. Cyfaddefodd Stephen Crabb ei fod yn rhan o'r tîm hwnnw a wthiodd fwy o weithwyr i mewn i dlodi. Mae'n un o'ch cyd-Geidwadwyr yn San Steffan.
Hefyd, a gaf fi dynnu sylw at y ffaith fy mod yn edrych ar ogledd Cymru ac Aberconwy, un etholaeth yn unig, lle mae 4,750 o aelwydydd yn hawlio credyd cynhwysol, a 45 y cant ohonynt yn gweithio? Bydd 2,756 o blant mewn aelwydydd a fydd yn colli'r £20 yr wythnos hwnnw. Mark, rydych chi bob amser yn siarad o blaid ac yn dadlau dros y trydydd sector yn eich cymuned. A ydych chi'n gwrando arnynt yng ngogledd Cymru?
Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn, gan ei fod yn bwysig tu hwnt ac mae hyn yn digwydd heddiw, yn awr, i deuluoedd. Fel y dywedodd y Gweinidog, dyma'r toriad mwyaf i fudd-daliadau ers 1945—un o'r rhai mwyaf erioed, a dweud y gwir. Ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd—[Torri ar draws.] Newydd ddechrau ydw i. Ac ni chewch wneud ymyriad beth bynnag.
Janet Finch-Saunders, os ydych am ofyn cwestiwn, rhowch gais i mewn.
Ie, gwnewch hynny a chroeso—ar ôl mwy na 10 mlynedd o doriadau Torïaidd, pan fo gweithwyr eisoes yn wynebu gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi. Darllenais y llythyr gan y gweinyddiaethau datganoledig at Brif Weinidog y DU yn gofyn iddo wrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Gwn ei fod wedi bod yn brysur yn dweud jôcs ym Manceinion, ond a yw wedi trafferthu ymateb i'r llythyr hwnnw? Oherwydd mae'r teuluoedd y mae'n eu gwneud yn dlotach heddiw yn haeddu atebion, ac nid perfformiad gan glown. Clywais Mark Isherwood yn dweud na all Llywodraethau hudo arian o'r awyr. Wel, hoffwn pe bai'n ystyried sut y mae pobl yn mynd i hudo bwyd ar eu bwrdd ac arian i'w roi yn eu mesuryddion nwy, gan mai dyna rydym yn sôn amdano yma heddiw mewn gwirionedd.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rwyf wedi ymateb i lawer o'r pwyntiau pwysig a dilys a wnaethoch. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod y llythyr hwn a anfonwyd ar y cyd gan Brif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon at Boris Johnson, yn galw arno, yn ei annog, i beidio â bwrw ymlaen â'r toriad cwbl ddiangen hwn. Yn y llythyr hwnnw, maent yn dweud
'bydd hyn yn cynyddu tlodi a chaledi heb sicrhau unrhyw fuddion cymdeithasol neu economaidd gwirioneddol. Dywedodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol—wrth alw arnoch i wrthdroi’r toriad hwn—er mwyn sicrhau gweithlu iach a chymwys, fod yn rhaid i’ch Llywodraeth ddarparu lefelau digonol o ddiogelwch cymdeithasol. Mae blynyddoedd o rewi budd-daliadau yn golygu nad yw Credyd Cynhwysol wedi codi i'r un graddau â chostau byw cynyddol.'
Ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae'r gronfa £500 miliwn a ddosbarthwyd ar sail ddewisol yn gwbl annigonol i wneud iawn am y diffyg o £6 biliwn mewn gwariant nawdd cymdeithasol a fydd yn deillio o'r toriad hwn.
Mae'n gwbl amlwg fod Llywodraeth y DU yn troi clust fyddar hyd yn oed i apeliadau pobl o'u plaid eu hunain a chyn Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau. Felly, credaf fod yn rhaid inni ddibynnu ar yr hyn y gallwn ei wneud ein hunain. Yn amlwg, mae croeso mawr i'r cynnydd yn y gronfa cymorth dewisol, ond tybed pa sgyrsiau y gallech eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y weinyddiaeth newid hinsawdd ynglŷn â sut y gallem gyflymu'r gwaith o ôl-osod tai cymdeithasol. Oherwydd yn amlwg, dyna lle mae nifer fawr iawn o'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol yn byw, ac felly maent yn mynd i fod £20 yr wythnos yn waeth eu byd. Hefyd, beth y gallwn ei wneud i unioni, rywsut, yr anghydbwysedd llwyr yn y bwyd sy'n pydru ar goed ac ar fin cael ei ddifa mewn lluniau gwrthun ar y ffermydd am y rheswm syml na allwn gael y sgiliau cywir i unioni'r problemau sydd gennym gyda diogelwch ein cyflenwad bwyd? Felly, beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod bwyd nad yw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf?
Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn pwysig. Mae gennym £25 miliwn wedi'i ddyrannu—fel y dywedais, swm gwarthus—i Gymru. Yr hyn y ceisiais ei wneud—. Cyn gynted ag y clywsom am y dyraniad hwnnw, rwyf wedi gofyn i bawb yn Llywodraeth Cymru, 'Beth ydyw?' Mae'n swm untro o arian; nid yw'n rheolaidd. Mae'n swm untro o arian, sef yr anoddaf i'w wario mewn modd cynaliadwy. Felly, mae pob Gweinidog yn ymateb o ran sut y credant y gallwn ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd eich pwyntiau heddiw'n werthfawr iawn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Diolch i'r Gweinidog.