– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 12 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg— cefnogi lles meddwl mewn addysg. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yn hanfodol os ydyn ni eisiau helpu pob person ifanc i gyflawni ei botensial.
Rydyn ni yma yng Nghymru yn gweithredu'n gyflym. Eleni yn unig rydym wedi darparu lefelau cyllid uwch nag erioed i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae 24,000 yn rhagor o sesiynau cwnsela wedi helpu 6,000 yn rhagor o blant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi darparu cyllid i gyflwyno trefniadau lles cyffredinol a threfniadau sydd wedi'u targedu i bron 30,000 o blant a phobl ifanc. Rydym wedi helpu hyfforddi dros 4,000 o staff ysgolion, ac rydym wrthi yn cyflwyno ein cynlluniau peilot mewn ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed yn genedlaethol, gyda mwy na 100 o ymarferwyr iechyd meddwl cyfwerth ag amser llawn yn cynnig cefnogaeth yn uniongyrchol mewn ysgolion.
Ond mae mwy eto i'w wneud. Mae cefnogi ysgolion i ddatblygu dull o fynd i'r afael â chwestiwn iechyd meddwl a lles ar lefel ysgol gyfan yn allweddol i'n strategaeth. Dyna sut y bydd modd gwneud y newidiadau sylfaenol y mae pob un ohonom ni am eu gweld ar draws ein system addysg. Cyhoeddwyd y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ym mis Mawrth, ac rydym wedi ei wneud yn ganllaw statudol.
Mae hwn yn ddarn hirdymor o waith ac rwyf am sicrhau bod ein gwaith mewn ysgolion yn cael ei ailadrodd ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ar draws cymunedau. Dyna pam rydym ni wedi sicrhau cysylltiadau cryf rhwng ein fframwaith dull ysgol gyfan a fframwaith NEST/NYTH Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sy'n ategu ein fframwaith ysgol gyfan drwy gryfhau ymateb ein partneriaid a'r system gyfan i les ein plant a'n pobl ifanc.
Rwyf hefyd eisiau sicrhau bod ein gwaith llwyddiannus mewn ysgolion yn cael ei ymestyn ar draws y system addysg gyfan. Rwyf felly wedi nodi bod addysg bellach yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu pellach. Gwnaed buddsoddiad i gefnogi iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr yn y sector addysg bellach, gyda bron i £7 miliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi amrywiaeth o fentrau wedi'u teilwra. Mae rhan o'r buddsoddiad hwn hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer y sectorau dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion. Mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol, cydweithredol a sefydliadol, sy'n cynnwys hyfforddiant staff, mentora cyfoedion a chyflogi hyfforddwyr bugeiliol a swyddogion lles, yn ogystal â darparu cwnsela.
Mae addysg uwch hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym i gyd yn gwybod am yr heriau mae myfyrwyr wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i helpu prifysgolion i fynd i'r afael â chaledi myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn i roi mwy o gymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol, emosiynol neu iechyd meddwl. Mae cymorth i fyfyrwyr mewn addysg uwch wedi'i deilwra i'w hanghenion, gan adlewyrchu eu statws fel oedolion annibynnol a chydnabod y pwysau penodol maen nhw’n eu hwynebu o ran byw'n annibynnol, rheoli eu harian eu hunain ac ymdopi â her astudio annibynnol.
Rwyf am i uchelgais fod wrth wraidd ein gwaith ac, wrth feddwl am les meddyliol, corfforol a chymdeithasol ein pobl ifanc, mae'n iawn felly ein bod yn ystyried sut a phryd y byddwn yn dysgu. Felly, rydym wedi ymrwymo, yn y rhaglen ar gyfer y llywodraeth, i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Dydyn ni ddim wedi cael sgwrs ddifrifol am y ffordd rydyn ni'n strwythuro amser ysgol yng Nghymru ers degawdau. Mae hynny'n llawer rhy hir.
Byddai mynd yn ôl i'r arfer heb ei drafod yn gyntaf yng nghyd-destun lles staff a dysgwyr, gan fynd i'r afael ag effaith anfantais ar gyrhaeddiad a diwygio'r cwricwlwm, yn gyfle wedi’i wastraffu. Rwy'n arwain gwaith ar rythm y diwrnod a'r flwyddyn ysgol, a bydd sgyrsiau gyda dysgwyr, gyda staff ysgolion, teuluoedd, cyflogwyr, undebau a chymunedau ledled y wlad dros yr wythnosau nesaf yn sail i'n gwaith ehangach. Gan ddechrau drwy siarad â phobl ifanc eu hunain, gweithlu'r ysgol a chynrychiolwyr busnes, ac yna ymgysylltiad cenedlaethol ehangach yn y cyfnod cyn y Nadolig, byddaf yn siarad yn uniongyrchol â'r rhai a all elwa fwyaf o ddiwygio ac a all ein helpu i lunio ein cynigion orau.
Ar yr un pryd, rydym yn adolygu tystiolaeth y DU a thystiolaeth ryngwladol i nodi ffyrdd newydd o roi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Gall y cyfleoedd hyn arwain at well lles emosiynol ac iechyd meddwl, mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol, arferion bwyta iachach, gwell sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â lefelau uwch o hyder, parodrwydd ar gyfer yr ysgol—
Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog. A gaf i atgoffa'r Aelodau, os gwelwch yn dda, i adael i'r Gweinidog siarad a pheidio â chael sgyrsiau preifat yn y Siambr, fel y gall eraill wrando? Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhan bwysig o hyn yw alinio sut rydym yn cael mynediad at ddysgu gyda phatrymau byw modern. Mae'r gwaith bellach yn dechrau o ddifrif a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion dros yr wythnosau nesaf.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni yng Nghymru hanes balch o gefnogi iechyd a lles meddwl. A thrwy weithio ar draws y sector, gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn parhau ar ein taith i gefnogi newid diwylliant ar draws ein system addysg, lle mae lles meddwl yn cael ei roi ar flaen ac wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, Gweinidog. Mae plant ledled Cymru wedi cael cyfnod anodd iawn dros y pandemig hwn, ac mae'r cyfnod wedi amlygu pa mor agored i niwed yw iechyd a lles meddwl ein plant drwy gynnwrf a newid sylweddol yn eu bywydau. Mae sicrhau bod pob mesur yno i'w cefnogi yn hollbwysig wrth i ni symud ymlaen, ac felly rwy'n croesawu unrhyw beth y gallech chi ei gyflwyno ar hyn o bryd yn hynny o beth. A diolch ichi am y gwaith yr ydych wedi'i wneud gyda Lynne Neagle arno.
Mae angen yr holl gymorth posibl ar ein plant. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu 100 o ymarferwyr iechyd meddwl penodol. Ydych chi’n credu y bydd hynny'n ddigon i gwmpasu pob ysgol, ac ydy'r nifer hwn yn ddigon sylweddol i gwmpasu'r holl ardaloedd daearyddol? Felly, hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth am hynny, os gwelwch yn dda.
Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r sesiynau cwnsela ychwanegol a hyfforddiant staff. Ond mae'n ddigon hawdd cael y ddarpariaeth ar waith a chael y ddarpariaeth ar gael i gyfeirio ati, ond mae angen i bobl gyfeirio'r plant hynny i'r cyfeiriad cywir yn y lle cyntaf. Felly, popeth yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen—ac rydych chi wedi’i glywed droeon hefyd, Lynne—yw bod angen i ni gael llysgenhadon iechyd meddwl pwrpasol ledled grwpiau blwyddyn myfyrwyr a staff addysgu ym mhob un o'n hysgolion a'n darparwyr addysg, fel bod rhywun yno y gallwch fynd ato, a all eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir at y ddarpariaeth yr ydych yn ei darparu ac sy'n gallu chwilio am arwyddion y rhai sy'n yn ei chael hi'n anodd ac yn gofyn y cwestiwn hwnnw sy'n achub bywydau, 'Ydych chi'n iawn?'
A hefyd rwyf yn croesawu'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, bod rhywfaint o hyfforddiant staff wedi bod, fel y dywedais yn awr. Ond oherwydd faint o amser mae ein hathrawon yn ei dreulio gyda'n plant, sydd weithiau'n llawer mwy na rhieni, onid ydych yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd i hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl fod yn rhan annatod o hyfforddiant yr holl athrawon, wrth symud ymlaen?
Mae llawer o waith da yn digwydd yn ein hysgolion yn barod hefyd, fel y gwyddom ni. Mae'n bwysig bod pob amgylchedd dysgu yn parhau i siarad am iechyd meddwl, fel yma yn y Siambr hon, i sicrhau nad yw bellach yn bwnc tabŵ ac nad oes arnynt ofn cyfaddef i unrhyw broblemau iechyd meddwl na chredu eu bod yn wan oherwydd eu bod yn gwneud hynny, oherwydd mae'n dangos cryfder mawr i gyfaddef hyn ac i gael y cymorth hwnnw, a dyna'r neges mae angen i ni barhau i'w chyfleu.
Rydym yn awr yn fwy ymwybodol nag erioed o'r achosion—yn enwedig ar ôl y pandemig hwn—o faterion iechyd meddwl, ond rydym hefyd yn fwy ymwybodol nag erioed o'r hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hiechyd meddwl. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, fod gweithgarwch corfforol a chymdeithasu bellach wedi'u cydnabod fel rhannau sylweddol a phwysig o fywyd yr ysgol, yn fwy felly nag erioed o'r blaen? Ac a fyddech yn cytuno â mi mai dyma'r amser i dderbyn pwysigrwydd gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm, buddsoddi ynddo a sicrhau bod ei bwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn amserlen yr ysgol—felly, byddwn yn croesawu eich barn ar hynny—ac i sicrhau bod gan bob ysgol gyfleusterau pob tywydd, fel y gall gweithgarwch corfforol barhau, hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf?
Rwy'n nodi hefyd yr hyn a ddywedwch, eich bod yn gobeithio y bydd cyfle i blant ddatblygu arferion bwyta'n iachach, ac rwyf yn llwyr gefnogi hynny. Ond rwy'n gobeithio, ochr yn ochr â hynny, y bydd opsiynau bwyta'n iachach mewn prydau ysgol ar gael yn ein hysgolion—a barnu o opsiynau fy mab, nid yw mor dda â hynny. Felly, mae'n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno'n bendant, os ydym o ddifrif am y rhan honno o les ein plant.
Hefyd, fe wnaethoch chi ddweud eich bod am edrych ar strwythur yr ysgol yng Nghymru. Mae hyn wedi'i drafod yn anffurfiol ers blynyddoedd, fel y gwyddom ni, ond rwyf yn eich canmol am ddweud yn awr eich bod yn mynd i ymchwilio iddo, a gyda'r fath barch ato. Ond oherwydd, fel y gwyddom ni, byddai hyn yn newid mor sylweddol, pe baech yn dechrau newid oriau'r ysgol a phopeth arall, mae'n rhaid cael ymagwedd gyfannol at hyn. Gan fod yr effaith ganlyniadol o newid oriau ysgol yn enfawr, nid yn unig ar gyfer materion cludiant i'r ysgol, ond oriau gwaith rhieni, ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, oherwydd mae'n rhaid i'r cyfan gyd-fynd â'i gilydd i newid darpariaeth yr ysgol. Ond rwyf yn croesawu—. Unrhyw fath o estyniad i weithgareddau ar ôl ysgol, wrth gwrs, byddwn i'n eu croesawu. Ond hoffwn wybod eich syniadau cychwynnol—gwn eich bod yn ymchwilio iddo, ond eich syniadau cychwynnol—ar sut yr ydych yn gweld y diwrnod ysgol yn datblygu. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaf i geisio gwneud cyfiawnder ag ehangder a dyfnder y cwestiynau y gwnaeth hi ymdrin â nhw yn ei chyfraniad. O ran, yn gyntaf, y cwestiwn o recriwtio dros 100 o staff cyfwerth ag amser llawn i gefnogi gwaith cynlluniau treialu mewngymorth CAMHS ac ymyriadau eraill, rwy'n credu ei bod yn her cyrraedd y targed hwnnw ynddo'i hun, mewn gwirionedd. Mae'n nifer sylweddol o weithwyr proffesiynol ychwanegol i recriwtio i'r system mewn cyfnod cymharol fyr. Rwy'n credu mai'r profiad ar lawr gwlad yw bod y byrddau iechyd mewn gwahanol leoedd ar y daith, yn dibynnu ar eu cyfranogiad yn rhywfaint o waith y cynlluniau treialu hyd yma. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, y bydd hynny'n gyfraniad sylweddol i'n hagenda yn y lle hwn.
Rwy'n credu iddi wneud pwynt pwysig iawn o ran gwasanaethau cwnsela a'r amrywiaeth o fanteision y gallan nhw eu cynnig, ond hefyd rhai o'r heriau o ran cyflawni'r gweithredu ar y raddfa fwy honno. Soniais am rai o'r niferoedd yn fy natganiad, y bwriedir i'r cyllid eu cynnwys. Ochr yn ochr â hynny, gwn y bydd yn dawel ei meddwl o wybod bod adolygiad o'r gwasanaeth cwnsela'n digwydd hefyd, fel y gallwn ddysgu o hynny, a bydd hynny'n cael ei ddilyn yn fuan gan gyfres o ymgynghoriadau unigol gyda rhanddeiliaid ar draws y system, ac rwy'n credu hefyd y bydd sicrhau ein bod yn cipio profiadau ar draws y system yn bwysig. Bydd rhywfaint o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn ymwneud â darparu hyfforddiant ychwanegol i gwnselwyr, llunio cysylltiadau â darparwyr gwasanaethau cydategol, lle maen nhw’n berthnasol, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros, oherwydd, fel y bydd hi'n gwybod, mae galw sylweddol yn y system ar hyn o bryd. Felly, mae rhyw fath o ddull cyfannol yn cael ei ddefnyddio at hynny, darparu gwasanaethau cwnsela.
Manteisiodd yr Aelod ar y cyfle yr oedd eisoes wedi'i gael gyda fy nghyd-Weinidog y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles i godi'r pwynt mae hi'n ei wneud yn aml am gymorth cyntaf iechyd meddwl. Nid wyf yn credu bod gennyf fawr ddim i'w ychwanegu at sylwadau fy nghyd-Aelod yma. Yr hyn nad ydym ni am ei wneud yw dilyn llwybr sy'n mynd â ni at ganlyniad llai uchelgeisiol nag y credaf fod y fframwaith yn mynd â ni tuag ato. Ac mewn gwirionedd, rydym ni'n rhannu'r uchelgais hon yn y Llywodraeth i sicrhau bod gennym y dull mwyaf uchelgeisiol o ymdrin ag iechyd meddwl mewn cyd-destun ysgol gyfan drwy bopeth a wnawn. Rydym yn ymwybodol bod amrywiaeth o adnoddau ac ymyriadau ar gael i arweinwyr ysgolion wrth wneud rhai o'r dyfarniadau a wnânt wrth weithredu'r dull ysgol gyfan. Ac felly, er mwyn eu helpu i lywio'r hyn a all fod yn ofod eithaf gorlawn, rwy'n credu, os ydych yn llunio barn am yr ymyriadau gorau, yr adnoddau gorau i'w defnyddio, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth o ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cefnogi ysgolion i ddewis pa rai o'r ymyriadau lles sy'n cefnogi'r unigolyn orau—wyddoch chi, y cyfuniad o anghenion sydd ganddyn nhw ymhlith eu carfan. Cafodd y gwaith hwnnw ei oedi yn ystod cyfnod COVID, ond mae hynny wedi'i ailgychwyn yn awr, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arf defnyddiol i ysgolion wrth fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hyn.
Rwy'n croesawu ei chefnogaeth i'n pwyslais ar weithgarwch corfforol yn y cwricwlwm newydd, ac yn wir wrth annog hynny yn y ddarpariaeth bresennol. Bydd yn gwybod ein bod wedi darparu £20 miliwn ychwanegol yn ddiweddar mewn cyllid i gefnogi'r gallu i gael gafael ar weithgareddau chwarae a chwaraeon, creadigol a mynegiannol, gan adeiladu ar yr Haf o Hwyl, drwy'r rhaglen adnewyddu a diwygio, a gwn ei bod hi'n rhannu fy angerdd am sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i gefnogi eu lles yn gyffredinol drwy weithgareddau corfforol.
Caeodd gyda rhai cwestiynau am ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Fel y dywedais i, bydd y sgyrsiau gyda dysgwyr—byddwn ni'n dechrau gyda dysgwyr ac yna'r rhanddeiliaid eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw drwy'r system—yn cael eu cynnal cyn diwedd eleni gyda'r bwriad o ymgynghori yn 2022. O'm safbwynt i, yr hyn yr wyf i am ei weld o ran y diwrnod ysgol yw darparu amrywiaeth o gyfleoedd i'n dysgwyr, gan adeiladu ar y pethau yr ydym wedi gweld sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a rhai o'n hymatebion eraill i'r pwysau mae COVID wedi'u rhoi ar ein pobl ifanc. Nawr, bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â dysgu, ond bydd rhywfaint ohono yn y ffordd yr oedd, rwy’n credu, yn gobeithio, o amgylch profiadau chwarae a diwylliannol, i gael set gyfoethocach o brofiadau i'n pobl ifanc. Mae llawer o enghreifftiau rhyngwladol y gallwn ni eu defnyddio. Mae rhai enghreifftiau o fewn y DU—rhannau eraill o'r DU—yn yr Alban ac yn Lloegr yn benodol, y byddwn ni'n eu defnyddio. Rydym eisoes yn cynnal gwerthusiad o rai o'r pethau hynny. Yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'r sgwrs gyhoeddus ehangach sy'n dilyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad hefyd, Weinidog. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am eco-bryder neu bryder yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd, sy'n effeithio ar niferoedd cynyddol o bobl ifanc. Fel byddwch chi'n ei wybod, mae hwn yn fater dwi wedi bod yn ceisio perswadio'r Llywodraeth i weithredu arno ers dechrau'r Senedd yma.
Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerfaddon wedi cynnal ymchwiliad mewn i'r maes, ac mae hwnna wedi ffeindio bod 60 y cant o bobl ifanc naill ai yn pryderu yn fawr neu yn pryderu yn enbyd am newid hinsawdd. Ac mae'r academyddion wedi pwysleisio bod eco-bryder yn ofn sydd yn gwbl resymegol a dealladwy. Felly, nid darbwyllo’r bobl ifanc sydd angen digwydd yma, ond eu cefnogi mewn ffordd. Allaf i ofyn ichi, plis, pa newidiadau yn y cwricwlwm y byddech chi'n fodlon ystyried eu cyflwyno er mwyn delio â'r ffenomenon yma o bryder newid hinsawdd, a hefyd i ddelio â'r tystiolaeth sydd wrth wraidd y pryder? Dwi'n meddwl bod angen cyfiawnhau y pryder hwn; mae angen dangos ein bod ni oll yn gwrando ar bobl ifanc am sut maen nhw'n teimlo, yn gwrando arnyn nhw hefyd ynglŷn â beth yw eu syniadau nhw, a gwneud iddyn nhw deimlo'n llai ynysig yn yr holl sefyllfa.
Wrth gwrs, mae angen ffocysu ar y fframio, ar sut mae'r bobl ifanc yn dysgu am newid hinsawdd—nid dim ond am y trychinebau, ond hefyd y gweithrediad sydd gennym ni oll, neu'r agency sydd gyda ni. Buaswn i yn hoffi gweld mwy o gymorth hefyd ar gyfer athrawon, ac efallai mwy o hyfforddiant ar sut i ymdopi â'r pryder hwn sydd yn cael ei brofi gan fwy a mwy o blant.
Mae hwn yn faes, Weinidog, lle dwi wir yn meddwl y byddem ni'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer fawr iawn o blant trwy wrando ar yr hyn maen nhw yn ei ddweud wrthym ni. Buaswn i wir yn hoffi gweld symudiad gan y Llywodraeth ar hyn. Buaswn i'n hapus iawn, a brwdfrydig, yn wir, i weithio gyda'r Llywodraeth yn y maes, a buaswn i wir yn awyddus i glywed eich barn chi ar beth gall gael ei wneud tu mewn i ysgolion i ddelio â'r eco-bryder yma.
Ac yn olaf, Weinidog, yn ystyried bod newid hinsawdd yn un—wel, mae hi'n un sialens enfawr, nag yw hi, o fewn nifer o sialensau sydd yn wynebu'r genhedlaeth nesaf, sut ydy'r Llywodraeth yn bwriadu helpu plant i ddod dros straen y pandemig? Dwi'n gwybod i hyn gael ei grybwyll gan Laura Jones ychydig funudau yn ôl. Mae plant wedi colli amser gyda ffrindiau, maen nhw wedi gweld rhieni a pherthnasau yn dioddef, rhai wedi colli teulu. Fel gyda newid hinsawdd, dŷn ni'n gallu gweld yr effaith mae'r pandemig yn ei gael ar gymunedau cyfan, ac mae angen i'r bobl ifanc hyn allu prosesu sut maen nhw'n teimlo, i ddysgu am rannu profiadau a gallu dod trwy'r sefyllfa sydd yn sefyllfa mor anodd. So, sut ydy'r Llywodraeth yn mynd ati i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael tu mewn i ysgolion i helpu gyda hyn, plis?
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau ar ddau faes pwysig iawn. O ran y cwestiwn cyntaf, o ran eco-bryder, rwyf wedi cydnabod eisoes yn y trafodaethau rŷn ni wedi eu cael mor bwysig yw cymryd ystyriaeth o hyn, ac mae e'n rhan greiddiol o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud eisoes, wrth gwrs, yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau bod eco-bryder, fel ystod ehangach o bryderon, yn rhan o'r ddealltwriaeth o anghenion ein disgyblion ni.
O ran beth yw'r rôl i hynny yn ein cwricwlwm, wel, mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn darparu ystod eang o newidiadau sy'n mynd i gynorthwyo athrawon i allu cefnogi'n dysgwyr ni i fynd i'r afael â chwestiynau i wneud gyda newid hinsawdd yn gyffredinol, gydag eco-bryder fel rhan o hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod dealltwriaeth ehangach, nid yn unig o'r sialens, ond yr hyn gellid ei wneud fel unigolion, yn rhan bwysig o ymateb i'r cwestiwn yna o eco-bryder a'r cwestiynau llesiant ac iechyd meddwl sydd yn dod o hynny. Ond fe fyddwn i'n dadlau'n sicr iawn fod hynny'n greiddiol i'r cwricwlwm fel mae wedi'i ddylunio eisoes. Mae'n thema gyson drwy'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, ac yn benodol yn y cyd-destun iechyd a llesiant fel maes o brofiad. Rŷn ni wrthi'n darparu adnoddau, wrth gwrs, ar gyfer y cwricwlwm newydd, a chefnogi'r sector i gomisiynu a datblygu adnoddau, a phwyslais ar adnoddau yng nghyd-destun newid hinsawdd yn rhan o hynny. Felly, fe wnaf i sicrhau ein bod ni'n darparu cefnogaeth i sicrhau adnoddau ym maes eco-bryder fel rhan ehangach o hwnnw.
Roedd yr ail set o gwestiynau yn ymwneud â pha gefnogaeth rŷn ni'n ei darparu i ddelio ag impact y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc ni. Byddwn i'n ei chyfeirio hi at y gwaith roedd y Dirprwy Weinidog yn sôn amdano yn ei datganiad hi—ac rwyf wedi cyfeirio ato fe—o ran y fframwaith ysgol gyfan. Mae'n newid y diwylliant o fewn ysgol fel bod pob rhan o gymuned yr ysgol yn gweld pwysigrwydd yr agenda hon ac yn cael y sgiliau i allu darparu cefnogaeth i'n dysgwyr ni, ond i'r gweithlu addysg hefyd yn ehangach. Mae hynny'n ymateb sylfaenol i'r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod diwethaf. Wrth gwrs, mae seiliau'r peth yn dod cyn cyfnod COVID, ond rwy'n credu ein bod ni gyd wedi dysgu pa mor bwysig mae hyn wedi bod yn ystod y flwyddyn i 18 mis diwethaf.
Ac o ran y cynllun adnewyddu a diwygio, mae arian penodol wedi'i ddyrannu o fewn hynny er mwyn sicrhau gweithio ar lefel un wrth un, efallai, gyda rhai disgyblion sydd angen hynny, i ddarparu cefnogaeth benodol wedi'i theilwra i'w hanghenion personol nhw. Mae hwnna'n rhan o'r cynllun ehangach; mae lot o enghreifftiau eraill, wrth gwrs, yn y cynllun hwnnw, a byddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y ddogfen honno.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw; mae gennyf ychydig o gwestiynau'n codi. Mae'n amlwg bod dull ysgol gyfan yn un sy'n sicrhau bod polisi wedi'i wreiddio ar draws bywyd yr ysgol, ac yn wir os yw wedi'i wneud yn dda, yna gall hynny fod yn wir. Fodd bynnag, mae perygl y gall dull ysgol gyfan, os nad yw wedi'i gynllunio'n dda a'i ddadansoddi'n ddigonol, roi mesurau ychwanegol ar athrawon gwirioneddol i ddarparu cymorth lles meddwl, yn ogystal â'u cwricwlwm presennol, heb neilltuo amser ychwanegol na hyfforddiant ychwanegol. Pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael neu a ydych yn bwriadu eu cael gydag athrawon a'u hundebau llafur i sicrhau y gellir darparu digon o amser a hyfforddiant i ddarparu cymorth lles ystyrlon?
Ac, yn ail, un o'r prif straen ar ein dysgwyr, nad yw efallai'n cael ei drafod mor eang ag y dylai fod, yw'r effaith mae straen athrawon yn ei chael arnynt. Mae'r addysgu'n cael ei gydnabod yn eang fel galwedigaeth sy'n achosi straen mawr; byddai'n naïf i ni feddwl nad yw athrawon yn cyfleu'r straen hwn i'w myfyrwyr ar adegau. Gall hyn fod o ran absenoldeb athrawon o ganlyniad i faterion iechyd meddwl, gwneud parhad ac ansawdd y dysgu yn anodd, neu fyfyrwyr yn sylwi ar straen athrawon yn ystod gwersi ac yn profi straen eu hunain o ganlyniad. Felly, pa waith sy'n cael ei wneud i gefnogi athrawon gyda'u problemau iechyd meddwl eu hunain, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen gwneud mwy yn y maes hwn?
Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig hynny. Rwy'n credu bod darparu digon o gapasiti yn y system i allu darparu hyfforddiant a datblygu'r amgylchedd dysgu proffesiynol sydd ei angen yn amlwg yn hanfodol. Rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud, wrth gwrs, dros y cyfnod diweddar yw gwella'r capasiti yn ein hysgolion i allu ymateb i rai o brif heriau COVID, ac mae hynny'n cynnwys cwestiynau am les, o safbwynt ein dysgwyr, ond hefyd o safbwynt yr addysgu a'r gweithlu addysg ehangach arall hefyd. Mae lles athrawon yn ddimensiwn hanfodol i hynny, yn y ffordd mae ei chwestiwn yn nodi.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ariannu Cymorth Addysg, sydd, rwy'n siŵr y bydd hi'n ymwybodol, yn sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn darparu cymorth ar gyfer lles ar draws y proffesiwn addysg i ddarparu cymorth uniongyrchol i unigolion mewn ysgolion, ond hefyd i roi arweiniad a chyngor i athrawon, arweinwyr ysgolion a rheolwyr i roi'r offer iddynt wedyn i gefnogi eu staff. Mae rhywfaint o hynny, fel y dywedais i, yn ymwneud â chefnogaeth i unigolion, yn arbennig, efallai, yr ymarferwyr hynny sy'n gweithio mewn cyd-destunau heriol iawn. Mae rhywfaint ohono'n gymorth i'r ysgol ar sail systemig, gan eu helpu i greu gweithle sy'n iach yn feddyliol sydd o fudd i bob rhan o gymuned yr ysgol, ac mae rhywfaint o hynny wedi bod yn ymwneud â gweithdai llesiant sydd wedi'u trefnu ar gyfer diwrnodau HMS ac amrywiaeth o ymyriadau eraill. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi lefel sylweddol o gefnogaeth i'r gweithlu addysgu o ran sut maen nhw'n datblygu'r dull ysgol gyfan ledled Cymru.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i hefyd gofnodi, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ein dymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies yn ei adferiad a diolch iddo am ei ddatganiadau beiddgar a chlir iawn o ran ei iechyd meddwl?
Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r ddadl a'r mater pwysig iawn hwn. Mae lles meddwl ein plant a'n pobl ifanc mor bwysig, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'r dull ysgol gyfan hwn o ymdrin â lles meddyliol, sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm newydd, fel y datblygwyd gan eich rhagflaenydd, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams. Felly, diolch yn fawr iawn am broffilio hyn y prynhawn yma.
Hoffwn dynnu sylw at y mater sy'n ymwneud â gwaith trawsbynciol, oherwydd mae 60 y cant o blant a phobl ifanc sy'n ceisio cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol drwy CAMHS yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf a hynny ym mis Gorffennaf 2021. Bu cynnydd o tua 350 y cant i wasanaethau CAMHS ar ffigurau'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae fy nghwestiwn a'r mater yn ymwneud mewn gwirionedd â sut y gallwn ni weithio ar draws iechyd ac addysg i sicrhau bod angen i barhau i gefnogi gwasanaethau CAMHS, ond hefyd sicrhau nad yw plant yn syrthio drwy'r craciau, drwy sicrhau bod gennym ddulliau ysgol gyfan digonol mewn ysgolion. Ac, yn ail, tybed a gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried creu rhwydwaith o gymorth iechyd meddwl dros gyfnod o 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i'n plant a'n pobl ifanc. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y set honno o gwestiynau ac rwy'n ymuno â hi i dalu teyrnged i'm rhagflaenydd ac am ei hymrwymiad i ddiwygio'r cwricwlwm ac i agenda iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a oedd yn flaenoriaeth ymroddedig iawn a sylweddol iawn iddi. Gobeithio y byddwch wedi clywed yn y cyfraniadau mae Lynne Neagle a minnau wedi'u gwneud yn y Siambr heddiw pa mor gydgysylltiedig yr ydym ni o fewn y Llywodraeth o ran yr ymyriadau y gellir eu gwneud o safbwynt iechyd ac o safbwynt addysg i geisio sicrhau bod y dull cydgysylltiedig hwnnw y mae'n ei nodi mor bwysig, ac yn dod hyd yn oed yn fwy felly, y realiti ar lawr gwlad. Rydym yn cadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyd, fel yr oedd Lynne Neagle yn ei amlinellu'n gynharach, ac mae nifer o'r ymyriadau yn y gofod hwn yn deillio o weithio agos iawn rhwng yr adran iechyd a'r adran addysg, oherwydd rydym yn cydnabod mai hanfod y gwaith hwn yw sicrhau nad yw plant yn syrthio rhwng y craciau, os mynnwch chi, a bod gwasanaeth di-dor sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn eu holl anghenion iechyd a lles meddwl. Rwy'n hyderus mai cyflawni'r gwaith yr ydym yn ei wneud o safbwynt y Llywodraeth yw'r ffordd orau o gyrraedd y canlyniad hwnnw, ond mae heriau sylweddol yn y system o ran cyflawni hynny yn y ffordd y gwn ei bod yn ymwybodol, ac rwy'n gobeithio bod rhai o'r pethau yr ydym ni wedi'u hamlinellu heddiw yn y ddau ddatganiad a glywsoch chi hyd yn hyn, a'r rhai a fydd yn dilyn, yn dangos pa mor ymroddedig yw'r Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu hiechyd meddwl.
Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.