1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn cytuno â honiad blaenorol y Prif Weinidog fod Plaid Cymru yn credu mewn economeg fwdw a bod ganddynt arfer, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto, o
'addo pethau i bobl yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n bosibl'?
Lywydd, nid wyf am gyfryngu rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ar lawr y Senedd. Gadawaf hynny iddynt hwy gael y trafodaethau hynny eu hunain.
Crybwyllais hyn, Weinidog, o gofio bod Llafur Cymru, eich Llywodraeth a Phlaid Cymru wrthi'n negodi cytundeb cydweithredu ar hyn o bryd. Serch hynny, Weinidog, ni wyddom o hyd beth sydd yn y cytundeb. Beth fydd yn ei olygu i gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr? Y cyfan a gawsom hyd yn hyn yw datganiad annelwig a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru, ac ni chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ac fel gwrthblaid gyfrifol, mae angen inni gael cyfle i graffu ar y cytundeb hwn ac archwilio'r hyn y bydd yn ei olygu i drethdalwyr gweithgar Cymru. Wedi'r cyfan, y trethdalwyr fydd yn talu'r bil am y cytundeb hwn yn y pen draw. Roedd rhestr siopa maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys, fel y gwyddom, datganoli cyfiawnder yn llawn, a fyddai'n costio oddeutu £100 miliwn yn ôl amcangyfrif comisiwn Silk, ac roeddent hefyd yn sôn am gael benthyg £4 biliwn o'r sector preifat i ariannu ymrwymiadau polisi amrywiol. Meddyliwch am hynny am eiliad.
Felly, a fydd y polisïau hyn yn mynd i'r afael â'r problemau mwyaf dybryd? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn creu swyddi? Na fyddant. A fydd y polisïau hyn yn helpu Cymru i ymadfer ar ôl COVID? Na fyddant. Yn hytrach, bydd yr ymrwymiadau hyn yn llesteirio'r adferiad ariannol sydd ei angen arnom. Mae symiau mor anferthol o arian yn creu risg o achosi lefelau anghynaladwy o ddyled i genedlaethau'r dyfodol. Ni fydd hyn yn creu swyddi, yn cefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus nac yn helpu adferiad ariannol Cymru wedi'r pandemig. Felly, Weinidog, mewn ysbryd o atebolrwydd a chraffu da, a wnewch chi amlinellu pa ymrwymiadau yn y cytundeb Llafur-Plaid fydd yn rhan o'r gyllideb sydd ar y ffordd, a sut y cânt eu hariannu?
Lywydd, rwy'n ceisio helpu cymaint ag y gallaf mewn sesiynau cwestiynau, ond nid wyf am gael fy nhemtio i wneud sylwadau ar drafodaethau a allai fod yn digwydd rhwng fy mhlaid a Phlaid Cymru. Ni chredaf fod hon yn adeg briodol i wneud hynny.
Wedi dweud hynny, credaf fod pethau pwysig y gall y Ceidwadwyr eu cyflwyno i'r drafodaeth hon o ran yr hyn sy'n dda i bobl yng Nghymru. Mae gennym gyfle perffaith ar 27 Hydref i'r Ceidwadwyr ddangos eu hymrwymiad i Gymru ac i roi'r dyfodol gwell rydych newydd awgrymu eich bod yn dymuno'i weld. Un ffordd y gallent wneud hynny, wrth gwrs, fyddai ariannu'r gwaith o adfer tomenni glo yng Nghymru. Gadewch inni gofio y bydd hynny'n £500 miliwn i £600 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf, ac os nad yw Llywodraeth y DU yn ei ariannu, gan gofio na fwriadwyd cyllid Barnett at y diben hwn erioed, mae hwnnw'n gyllid y bydd yn rhaid inni ei ddargyfeirio oddi wrth bethau eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol, buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai, mewn cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar 27 Hydref, gallant fynd i’r afael â thanariannu hanesyddol y rheilffyrdd yr ydym newydd ei drafod mewn ymateb i gwestiwn Jayne Bryant, a gallant fynd i’r afael â diffyg arian yr UE, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i drafod mewn cwestiwn arall y prynhawn yma, ac yn fwy cyffredinol, darparu'r sicrwydd na fyddwn yn wynebu cyfnod arall o gyni. Felly, credaf fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio gyda phawb sy'n rhannu ein huchelgais ar gyfer Cymru fwy teg, mwy gwyrdd a mwy cyfartal, ond credaf fod gan y Ceidwadwyr gyfle i ddylanwadu ar eu Llywodraeth eu hunain ar y pwynt pwysig hwn.
Wel, ni allaf ddiolch i chi am hynny, Weinidog; credaf eich bod wedi osgoi ateb y cwestiwn. Mae'n gwestiwn dilys gan blaid sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol y byddwn yn eu gweld yn y lle hwn, ac o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl ledled Cymru, mae angen i hon fod yn gyllideb sy'n canolbwyntio nid yn unig ar adfer, ond ar ddyhead hefyd.
Ond mae'r cytundeb y mae eich plaid yn bwriadu ei wneud â Phlaid Cymru yn mentro mynd â mwy o arian o bocedi ein pobl. Roedd maniffesto Plaid Cymru'n cynnwys nifer o drethi llechwraidd posibl, megis treth bwyd sothach, treth ar yrwyr, treth dwristiaeth, sydd wedi ei chrybwyll ac a fyddai’n arwain at ganlyniadau enbyd i’r sector lletygarwch yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o dreth ffordd a threth dwristiaeth—ergyd ddwbl i deuluoedd ledled y wlad. Yn y pen draw, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom sy'n edrych tua'r dyfodol ac sy'n dod â phennod dywyll COVID yr ydym wedi byw drwyddi i ben. Felly, Weinidog, a allwch gadarnhau nad yw'n fwriad gennych gyflwyno unrhyw drethi newydd yn eich cyllideb sydd ar y ffordd, ac wnewch chi ddweud a yw eich cytundeb â Phlaid Cymru'n cynnwys cytundeb penodol ar ddiwygio'r dreth gyngor? Yn syml, beth fydd eich cytundeb cydweithredu yn ei olygu i deuluoedd gweithgar Cymru? Diolch.
Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cyllideb ddrafft a chyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, a bydd digon o gyfle i'r cyd-Aelodau graffu ar y gyllideb ddrafft wedi hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Onid yw'n braf clywed y nadu ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â pholisïau treth Plaid Cymru pan na allant hyd yn oed gadw eu haddewidion mewn perthynas â threthiant ar lefel y DU? Ac mae'n enghraifft amlwg iawn, yn fy marn i, o amherthnasedd cenfigennus yr Aelodau yr honnir eu bod yn wrthblaid swyddogol—a gwrthblaid swyddogol na all hyd yn oed sicrhau bod ei Haelodau'n pleidleisio pan ddaw'n amser iddynt wneud hynny.
Nawr te, Weinidog, i ni gael trafod rhai o'r materion sydd wir yn mynd â bryd pobl Cymru—mae yna heriau eithriadol, wrth gwrs, yn wynebu nifer o fusnesau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy'n gorfod dygymod â chynnydd sylweddol ym mhris ynni. Mae hynny'n effeithio yn arbennig ar fusnesau sydd yn ddefnyddwyr ynni dwys. Dŷn ni'n ymwybodol o drafodaethau sy'n digwydd rhwng adrannau ar lefel Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gallwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n digwydd oddi fewn i Lywodraeth Cymru, gyda chi fel Gweinidog cyllid, i edrych ar y posibilrwydd o gynnig cymorth ychwanegol i'r busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan hyn?
Wel, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i'w hannog i weithredu ym mhob ffordd sy'n bosibl i ddiogelu pobl a busnesau ar y pwynt hwn. A gwn iddi gael sesiwn friffio gydag Ofgem ar 21 Medi, lle bu'n ceisio sicrwydd ar ran defnyddwyr. O ran busnesau, yn amlwg, rydym yn pryderu am effaith y cynnydd mewn costau ynni, yn ogystal â'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus hefyd. Yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn, gan mai dyma'r math o faes lle mae angen y grym sydd gan Lywodraeth y DU, yn wahanol i ni. Y tu hwnt i hynny, rwy'n cael trafodaethau pellach ynghylch cymorth i fusnesau am weddill y flwyddyn ariannol, drwy'r cyllid ychwanegol sydd gennym mewn perthynas â COVID, sydd eto i'w ddyrannu, er nad wyf yn awgrymu bod hwnnw ynghlwm wrth ynni o reidrwydd, ond hoffwn roi sicrwydd fod cymorth ychwanegol i fusnesau'n cael ei drafod ar hyn o bryd.
Wel, diolch am hynny. Dŷch chi wedi gwneud y pwynt i fi, dwi'n meddwl, drwy ddweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bwerau sydd ddim gennym ni yn y fan hyn i ymateb i hyn. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae amgylchiadau eithriadol fel rŷn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn dangos cyn lleied o bwerau a dylanwad macroeconomaidd sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru i fedru ymateb i wahanol argyfyngau. Mi welsom ni hefyd elfennau o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r pandemig; mi wnaeth yr Institute for Fiscal Studies ddadlau bod llywodraethau datganoledig wedi cael eu dal yn ôl yn eu hymateb cyllidol i'r pandemig—gan gronfeydd wrth gefn annigonol, gan bwerau benthyg cyfyngedig, ac yn y blaen. Nawr, roedd eich dadl chi fel Llywodraeth yr wythnos diwethaf hefyd, wrth gwrs, yn mynd â ni i'r un cyfeiriad, o safbwynt methiant a diffygion y setliad presennol yn y cyd-destun cyllidol yna. Felly, yng ngoleuni hyn oll, ydych chi'n cydnabod bod y setliad presennol yn annigonol, bod angen ail-negodi'r fframwaith gyllido, a gwneud hynny er mwyn cryfhau'r pwerau cyllidol sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru, er mwyn ein hymbweru ni i ymateb yn well i sefyllfaoedd fel y maen nhw'n codi?
Ydw, rwy'n cytuno bod angen ailedrych ar y fframwaith cyllidol a'r datganiad o bolisi ariannu sy'n cyd-fynd ag ef, ac yn arbennig felly mewn perthynas â hyblygrwydd cyllidol. Mae gennyf gyfle yfory, yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidogion cyllid, i godi'r union bwynt hwnnw, ochr yn ochr â Gweinidogion o Ogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n rhannu ein pryder y dylem allu cario cyllid ymlaen am gyfnod o 12 mis, er enghraifft, pan gawn gyllid canlyniadol ychwanegol hwyr wedi ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Dylai fod gennym allu i ddefnyddio mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, a dylai fod gennym allu i gael mwy o bwerau benthyca. A dyna rai enghreifftiau o'r hyblygrwydd ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer rheoli'r gyllideb yn dda, yn anad dim. Felly, bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys yfory. Pan wnaethom drafod y mater o'r blaen gyda'r Prif Ysgrifennydd blaenorol, cytunwyd y byddai hon yn drafodaeth barhaus. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn wneud rhywfaint o gynnydd.
Diolch yn fawr iawn. Ac wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'n bwysig bod y Llywodraeth yma'n troi pob carreg bosib er mwyn creu'r adferiad dŷn ni eisiau ei weld. Ac mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, yn cynnig pecyn o fesurau posib a fyddai'n cyfrannu at hynny, drwy ddefnyddio caffael. Maen nhw hefyd yn sôn am annog mwy o start-ups a chynyddu'r lwfans cyflogaeth, ac ati. Ond mae caffael, wrth gwrs, yn benodol, yn un arf sydd yn eich meddiant chi fel Llywodraeth yma yng Nghymru, ac yn rhywbeth a all gael yr effaith drawsnewidiol dwi'n siŵr dŷn ni i gyd eisiau ei gweld ar yr economi. Nawr, rŷn ni i gyd wedi dadlau bod angen cynyddu faint o arian caffael cyhoeddus Cymreig sy'n aros yng Nghymru o'r o gwmpas 52 y cant presennol. Rŷn ni fel plaid wedi dweud y bydden ni eisiau anelu at o leiaf 70 y cant o hwnnw, ac wrth gwrs mae pob 1 y cant yn ychwanegol yn cynrychioli 2,000 o swyddi. Felly, mi fyddai cynnydd o 20 y cant yn cynrychioli 40,000 o swyddi o fewn yr economi yng Nghymru, a beth sy'n wych am hynny yw byddai hynny'n cael ei wireddu heb wario mwy o bres. Mae'r pres yna'n cael ei wario yn barod, ond bydden ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd llawer mwy clyfar. Felly, beth ŷch chi'n mynd i'w wneud i wireddu'r potensial hwnnw, ac a wnewch chi nawr ymrwymo i darged, fel mae Plaid Cymru yn anelu ato fe, er mwyn uchafu gwerth y bunt Gymreig, a fyddai, wrth gwrs, yn cael dylanwad mor bositif ar yr economi ac ar fywydau pobl yng Nghymru?
Byddwn yn cymeradwyo dangosfwrdd GwerthwchiGymru i'r Aelod ac i'r holl gyd-Aelodau fel cyfle i gael cipolwg pwysig iawn ar y sefyllfa gaffael yma yng Nghymru. Felly, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, dyfarnwyd 1,078 o gontractau i gyflenwyr, ac o'r rheini, dyfarnwyd 706 i gyflenwyr Cymreig. Felly yn amlwg, rydym am barhau i wella'r ffigurau hynny, ac mae gwahanol ffyrdd o wneud hynny. Un o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddynt, ac rydym wedi cychwyn gweithio arno, yw deall yn well y bylchau sydd gennym yn y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, ble y gallwn eu llenwi pan nad oes unrhyw reswm rhesymegol pam ein bod yn prynu o fannau eraill, a chreu'r swyddi hynny yma yng Nghymru.
Mae caffael yn ymwneud â hyd yn oed mwy na hynny mewn gwirionedd. Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar werth cymdeithasol a gwerth amgylcheddol caffael. Felly, gwnaethom gyhoeddi ein themâu, canlyniadau a mesurau gwerth cymdeithasol newydd yn ddiweddar, sy'n ymyrraeth bwysig yn y maes hwnnw, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad caffael newydd i Gymru, sy'n nodi'r math o werth ychwanegol rydym am ei weld yn ein caffael cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn edrych ar ein grantiau, oherwydd wrth gwrs, mae grantiau'n gorbwyso caffael cyhoeddus mewn sawl ffordd o ran y cyllid a ddyrennir drwyddynt, felly rydym yn edrych eto ar ba werth cymdeithasol y gallwn ei gael o'n grantiau yma yng Nghymru. Ond mae'n amlwg yn faes lle mae gan y ddau ohonom ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod busnesau yma yng Nghymru yn ennill mwy o'r contractau hyn.
Hoffwn ddatgan buddiant ar y dechrau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at mis Mai flwyddyn nesaf.