2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i fynd i'r afael â llygredd afonydd sy'n deillio o amaethyddiaeth? OQ56990
Mae llygredd o unrhyw fath yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef er budd ein hamgylchedd a'n cymunedau. Ar 27 Ionawr eleni, cyflwynais Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a daeth mesurau cychwynnol i rym ar 1 Ebrill.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Er bod y ddadl gyhoeddus fawr yr wythnos ddiwethaf yn ymwneud â diogelwch rhag COVID, cefais fwy o e-byst am lygredd Afon Gwy nag unrhyw beth arall. Rwyf hefyd yn ymwybodol o afonydd eraill sydd wedi'u llygru o ganlyniad i ddŵr ffo amaethyddol. Mae pobl hefyd yn pryderu am ddŵr ffo o ffermydd ieir a nitrogen a chemegau eraill sy'n mynd i mewn i'r afon. A allwn ddisgwyl gweld gwelliant yn ansawdd afonydd yn y dyfodol agos? Oherwydd, o'r hyn rwy'n ei glywed gan bobl am Afon Gwy, mae mewn cyflwr bregus iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd afonydd eraill yn yr un sefyllfa yn union yn weddol fuan. Mae angen inni ddiogelu ein hafonydd, ac mae angen gwneud beth bynnag sydd ei angen i ddiogelu ein hafonydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae gennym bryderon ynghylch Afon Gwy ar hyn o bryd. Rydych yn gofyn a fyddwn yn gweld gwelliant yn ein hafonydd. Rwyf eisiau gweld gwelliant ar y raddfa a welsom gyda'n dyfroedd ymdrochi, er enghraifft, lle rydym wedi gwneud cynnydd enfawr. Byddaf yn sicr eisiau gweld hynny gyda'r afonydd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd yn sicr mae gan atal llygredd o ffermio dofednod rôl i'w chwarae, fel y dywedoch chi. Ac yn amlwg, mae awdurdodau cynllunio yn gorfod ystyried effeithiau amgylcheddol unrhyw gynigion cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd, felly dyna pam y bûm yn gweithio gyda'r Gweinidog mewn perthynas â chynllunio, oherwydd gwelsom nifer cynyddol, yn sicr yn nifer y ffermydd dofednod a'r ceisiadau hefyd. Felly, mae angen i ni sicrhau nad yw'r effaith gronnol yn arwain at ganlyniadau andwyol.
Diolch am ateb cwestiwn Mike, Weinidog; mae'n ddefnyddiol iawn. Mae'r sefyllfa gyda rhai o'n hafonydd ledled Cymru yn peri pryder mawr, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Mae angen ymdrech ar y cyd ar frys i fynd i'r afael â'r lefelau llygredd a welir ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog, nad yw llygredd afonydd i gyd yn deillio o amaethyddiaeth, fel y gwelsom yn Afon Wysg, lle mae carthion crai yn cael eu gollwng i'r afon yn rheolaidd, hyd yn oed pan fo'n ymddangos nad oes cyfnodau sylweddol o law wedi bod. Mae cannoedd ar gannoedd o bobl leol yn pryderu'n fawr am hynny. Gwn y byddwch chi hefyd, ac rwyf wedi rhoi tystiolaeth o hynny i chi. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn malio am yr amgylchedd ac yn gwneud y pethau iawn? Ac a fyddech yn cytuno o'r diwedd fod angen i'n rheoleiddwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru, gamu i'r adwy ac ymdrin ag unrhyw un neu unrhyw gorff sy'n torri'r rheolau, ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau dŵr? Mae'r hyn a welwn ar hyn o bryd yn gwbl annerbyniol, yn sicr mewn perthynas ag Afon Wysg.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r ddau ddatganiad a wnaethoch. Ni fyddwn byth yn dweud bod yr holl lygredd yn cael ei achosi gan arferion amaethyddol. Daw llygredd o sawl ffynhonnell, a byddwn yn dweud bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn sicr yn malio am yr amgylchedd. Fodd bynnag, rydym yn gweld lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol—a chyfeiriais at y rheoliadau a ddaeth i rym yn gynharach eleni.
Mewn perthynas â'ch pwynt arall, ynglŷn â ffynonellau eraill o lygredd, yn amlwg, os nad yw cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, neu os ydynt yn gweithredu heb drwydded—ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau ar gyfer gorlif storm, er enghraifft—bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, a lle bo'n briodol, byddant yn rhoi camau gorfodi ar waith. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n bwysig fod ein rheoleiddwyr yn chwarae eu rhan hefyd.
Prynhawn da, Weinidog. Yn dilyn cwestiwn fy nghyd-Aelod ynghylch Afon Gwy, gan fy mod yn byw ar Afon Gwy, yn y Gelli Gandryll, mae pobl yn dwyn cwestiynau a phroblemau ychwanegol i fy sylw ar y mater hwn. Mae'n bryder byw iawn. Mae Afon Gwy, fel afonydd eraill, yn llifo drwy Gymru a Lloegr, felly mae yma gymhlethdod ynglŷn â sut y gweithiwn ar draws ffiniau. Yr wythnos hon, roedd papur newydd The Times yn cynnwys cyfaddefiad, am y tro cyntaf, gan gyflenwr cyw iâr mawr, Avara Foods, a oedd yn dweud bod y defnydd o ffermydd ieir yn cyfrannu at y llygredd yn nalgylch Afon Gwy. Ac ar ôl cyfarfod â sefydliadau yn lleol ac yn genedlaethol sy'n pryderu am y llygredd yn Afon Gwy, gan gynnwys—mae'n bwysig iawn dweud hyn—cynrychiolwyr o undebau ffermio, sydd eu hunain yn bryderus tu hwnt ac yn ymrwymedig iawn i fynd i'r afael â llygredd afonydd, hoffwn ofyn i chi, Weinidog, sut y bwriadwch weithio, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi'i grybwyll, i gryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru, a'u rôl weithredol gyda Natural England, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â llygredd afonydd gyda'r gyllideb a'r adnoddau priodol i gyflawni cynllun gweithredu clir. A tybed a gaf fi ofyn i chi gyfarfod â mi—ac eraill hefyd efallai—i drafod y gwaith o gryfhau Cyfoeth Naturiol Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Mewn perthynas â'r cwestiwn olaf, ynghylch cyfarfod â chi i drafod Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—hi sy'n gyfrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati i ofyn ynglŷn â'r rhan benodol honno o'ch cwestiwn.
O ran y ffermydd dofednod a'r llygredd o amgylch Afon Gwy, fel y dywedais, mae gan atal llygredd o ffermydd dofednod rôl enfawr i'w chwarae yn ansawdd ein hafonydd. Ac mae'n bwysig fod trothwy'r caniatâd cynllunio, er enghraifft, yn gywir. Felly, ar hyn o bryd, y trothwy yw, os oes gennych—rwyf wedi anghofio beth yw'r ffigur—hyn a hyn o ieir, nid oes raid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, ac mae hynny'n sicr yn peri pryder i mi. Ac mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am gynllunio hefyd, fel y gwyddoch. Mae'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd, a ddaeth i rym yn 2016, yn dweud bod angen i unedau dofednod dwys gael trwydded i weithredu, ac mae hynny'n cynnwys mesurau i ddiogelu'r amgylchedd. Os oes angen inni gryfhau'r rheoliadau, rwy'n credu bod angen inni edrych yn fanwl iawn ar wneud hynny, ond fel y dywedaf, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd.