– Senedd Cymru am 6:13 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Felly, fe awn ni ymlaen i'r eitem ei hunan, eitem 8, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar Fil yr Amgylchedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig.
Daw'r ddadl heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol i Fil Amgylchedd y DU heb rybudd, ac rwy'n diolch i'r Aelodau am eu hamser heddiw. Bydd yr Aelodau'n cofio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Amgylchedd y DU a gafodd ei basio ar 28 Medi. Fy mwriad i heddiw yw peidio ag ailagor dadl ar y darpariaethau sy'n ymestyn i Gymru, ond i roi gwybod i'r Aelodau am welliant i'r Bil sydd, yn fy marn i, yn gwella ein gallu ni i fynd i'r afael ag eitemau defnydd untro sy'n aml yn cael eu taflu fel sbwriel.
Ar 20 Hydref, cefais i wybod am welliant arall gan y Llywodraeth i gymal 56 ac Atodlen 9—taliadau ar gyfer plastigau untro. Bydd y gwelliant yn rhoi pwerau i Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig godi tâl am eitemau untro y tu hwnt i blastigau i gynnwys unrhyw ddeunyddiau. Rwyf i wedi gofyn, ac mae Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cytuno, i gyflwyno gwelliant o fewn y broses ddeddfwriaethol bresennol i gymal 56 ac Atodlen 9. Bydd ymestyn y pŵer hwn i Weinidogion Cymru yn sicrhau bod gennym ni'r un pwerau â'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau ynghylch taliadau am bob eitem untro ni waeth beth fo'u deunydd. Bydd y rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd am y tro cyntaf pan fydd y tâl am gynnyrch newydd yn cael ei gyflwyno, ac yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol wedi hynny.
Mae lleihau'r eitemau defnydd untro diangen sydd ar gael a'r defnydd ohonyn nhw a'r effeithiau negyddol maen nhw'n eu cael ar ein hamgylchedd yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gan nad yw sbwriel a gwastraff yn cydnabod ffiniau rhwng gwledydd, siroedd a chyfandiroedd, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gan bob un ohonom ni'r arfau cywir i gymell symud i ffwrdd o eitemau defnydd untro tuag at ddewisiadau eraill sy'n fwy cynaliadwy ac y mae modd eu hailddefnyddio yn fwy. Yn wir, dyma pam rydym ni wedi ymrwymo yn 'Y Tu Hwnt i Ailgylchu', ein strategaeth economi gylchol, i ddiddymu, yn raddol, eitemau defnydd untro diangen yng Nghymru at yr union ddiben hwn.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cefnogi pwerau ehangach, ac, fel y nodwyd yn ein hymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai 2020, byddai'n rhaid ystyried diwygio Bil Amgylchedd y DU pe na bai'r cyfle wedi codi. Mae pŵer codi tâl ehangach yn darparu anghymhelliad cryf rhag cynhyrchu cynhyrchion defnydd untro, ac rwyf i'n argymell i Aelodau'r Senedd ei dderbyn. Diolch.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, mae'r ddadl hon yn dilyn penderfyniad y Senedd ddiwedd mis Rhagfyr i gydsynio i Fil Amgylchedd Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm atodol a'r ohebiaeth sy'n gysylltiedig ag ef yn ein cyfarfod ddoe, ond bydd y Senedd yn deall nad ydym ni wedi cael amser i adrodd yn ffurfiol. Ond a gaf i ddweud o'r cychwyn cyntaf ein bod ni yn croesawu'r penderfyniad i gyflwyno'r memorandwm atodol ac i gynnal y ddadl hon heddiw, pan awgrymodd y darn cyntaf o ohebiaeth a gafodd ei anfon atom gan y Gweinidog ar 25 Hydref na allai'r naill na'r llall ddigwydd oherwydd pwysau amser? Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn gynsail ddefnyddiol, yn ein barn ni, a dylid ei ddilyn petai amgylchiadau tebyg yn codi yn y dyfodol.
Rwyf i yn dymuno tynnu sylw at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Gweinidog yn ei hail lythyr atom ar 28 Hydref 2021. Yn y llythyr hwnnw, dywedodd y Gweinidog wrthym, oherwydd hwyrni cyflwyno gwelliant gwreiddiol y Bil a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig gan Lywodraeth y DU, y gallai pŵer Cymru, heb y gwelliant sydd wedi ei nodi yn y memorandwm atodol sy'n cael ei drafod heddiw, fod wedi ei gyfyngu o hyd i gynnwys eitemau defnydd untro plastig yn unig, ac wedi cyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i weithredu mewn maes mor bwysig o'i chymharu â Lloegr. Mae hi wedi crybwyll hynny yn ei sylwadau hi yn awr hefyd.
Fodd bynnag, wrth fynd yn ôl ychydig o gamau, mae'n amlwg na fyddai'r sefyllfa hon ei hun wedi codi pe bai Llywodraeth Cymru wedi dewis deddfu ei hun ar y materion hyn drwy Fil amgylchedd Cymru. Yn wir, gallai Bil amgylchedd Cymru fod wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig deddfwriaeth a oedd yn diwallu ei hanghenion yn uniongyrchol, a rhai dinasyddion Cymru, o bosibl, wrth gwrs, mewn ffyrdd mwy uchelgeisiol nag sy'n bodoli ym Mil y DU. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog wrthym ni eto sut y mae'r maes polisi hwn yn wir yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Yng ngoleuni'r ddadl heddiw, mae hwn yn amser da i'r pwyllgor dynnu sylw'r Senedd at egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfu drwy Filiau Llywodraeth y DU. Cawson nhw eu darparu i ni yn ddiweddar gan y Cwnsler Cyffredinol. Yn ein barn ni, mae'n ymddangos eu bod yn cynnwys rhai anghysondebau, a byddwn ni'n archwilio 'r rhain mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn y dyfodol. Ond, yn gyffredinol, wrth ystyried yr egwyddorion, ochr yn ochr â rhywfaint o'r ohebiaeth yr ydym ni wedi ei chael mewn ymateb i gwestiynau penodol ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol, rydym ni'n pryderu fel pwyllgor ynghylch y cyfeiriad y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ei gymryd bellach—boed hynny allan o'i gwirfodd ei hun neu o angenrheidrwydd.
Ymddengys mai'r sefyllfa ddiofyn sydd wedi ei mabwysiadu bellach yw bod Llywodraeth Cymru yn fwyfwy hapus gyda Llywodraeth y DU yn deddfu nid yn unig ar ffiniau datganoli, ac nid yn anaml chwaith, ond wrth wraidd datganoli. Wrth wneud hynny, mae'n defnyddio gwaith rhynglywodraethol i gyflawni rhai o'i hamcanion deddfwriaethol, gan nodi ar yr un pryd ddiffyg adnoddau ar gyfer deddfu yn y Senedd. Yn gyffredinol, mae'r pwyllgor yn teimlo bod y rhain yn ddatblygiadau sy'n peri pryder, a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, oherwydd bod peryg y byddan nhw'n osgoi ac yn tanseilio swyddogaeth y Senedd fel deddfwrfa, ac yn wir ein swyddogaeth fel Aelodau'r Senedd ynddi. Felly, byddwn yn parhau i bwyso'n gryf ar y materion hyn.
Fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, mae ein swyddogaeth ni fel pwyllgor yn un bwysig yn y Senedd, yn enwedig o ystyried natur unsiambrog ein Senedd. Felly, ynghyd â phwyllgorau eraill, rydym yn gweithio i geisio diogelu uniondeb datganoli a thrwy hynny sefyll dros ddemocratiaeth seneddol Cymru drwy gofnodi'r pwyntiau hyn. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod i'n cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad? Rhan o'r gwaith yr wyf i wedi ei fwynhau fwyaf yw gwaith y pwyllgor pan fyddwn ni'n edrych ar y dystiolaeth, pan fyddwn yn clywed gan yr arbenigwr, a gall consensws trawsbleidiol ddatblygu. Ac mae hyn yn wir yma. Mae craffu seneddol yn mynd at wraidd unrhyw wlad ddemocrataidd wirioneddol. Mae'n gwella polisïau'r Llywodraeth, mae'n gwella deddfwriaeth, a thrwy hynny, mae'n gwella gwasanaethau cyhoeddus a bywydau'r bobl y mae'r Senedd yn eu gwasanaethu. Os caiff gwelliannau eu hawgrymu, mae craffu'n helpu i sicrhau eu bod yn addas i'w diben a bod cyfiawnhad drostyn nhw. Heddiw, rydym yn gweld swyddogaeth y Senedd hon yn cael ei chyfyngu—nid gan Lywodraeth San Steffan. Nid gan Lywodraeth San Steffan y mae'r cyfyngu. Nid gwaith undebaeth gyhyrol y Prif Weinidog yw hyn; gwaith Llywodraeth Cymru yw hyn. Mae'r Prif Weinidog yn hapus i drosglwyddo pwerau amgylcheddol yn ôl ar adeg dyngedfennol i Lywodraeth Boris Johnson. Cofiwch, dim ond yr wythnos diwethaf, galwodd Prif Weinidog Cymru Brif Weinidog y DU yn 'waelod y gasgen'.
Dywedir wrthym fod diffyg adnoddau ac amser yn ffactor ar gyfer defnyddio Biliau San Steffan. Wel, os yw adnoddau yn broblem, yna mae angen dod o hyd i fwy o adnoddau ar gyfer gwaith mor bwysig—gwaith allweddol i unrhyw Senedd. Ac nid wyf i'n derbyn bod amser yn broblem. Ar ôl chwe mis o'r chweched Senedd, nid ydym ni wedi cael un Bil o'n blaenau ni o hyd. Mewn llythyr diweddar i'r pwyllgor, nododd y Gweinidog nad oedd y gwelliant sy'n cael ei drafod wedi ei gynnwys yn y Bil yn wreiddiol oherwydd diffyg tystiolaeth ehangach. Yna, yn sydyn iawn, mae'r gwelliannau hyn yn ymddangos, ac eto nid oes unrhyw arwydd gan y Gweinidog sut y mae'r gwelliannau hynny wedi digwydd. Ble mae'r dystiolaeth y mae modd cyflwyno'r gwelliannau hynny yn awr, heb sôn am y dystiolaeth y bu ymgynghori â rhanddeiliaid yma yng Nghymru? Mae'r rhain yn faterion y gallen nhw fod wedi eu profi ac y dylen nhw fod wedi eu profi gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru mewn pwyllgor wrth graffu ar Fil Cymru ar wahân.
Dyna'r ffordd i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru. Dyna beth yw craffu go iawn. Dyna beth yw ein rôl ni. Does neb yn anghytuno gyda'r Gweinidog bod angen inni gael gwared â phlastig untro. Mae'r Gweinidog yn dweud, ac yn parhau i ddweud, bod hwn yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bod angen y pwerau ar Weinidogion Cymru, ond dyma'r pwynt a dyma sydd yn mynd i wraidd ein setliad datganoledig ni: ein rôl ni yma yn Senedd Cymru yw dirprwyo’r pwerau yna i Weinidogion Cymru, nid rôl San Steffan.
Ar ddiwedd ei llythyr, mae'r Gweinidog yn mynegi ei hymrwymiad i gonfensiwn Sewel a rhoi cyfle i'r Senedd graffu ar unrhyw ddarpariaethau newydd mewn Bil yn y DU a phleidleisio arnyn nhw. Gweinidog, nid yw pleidlais derbyn neu wrthod braidd heb unrhyw rybudd na chraffu yn ddigon da. Nid yw dadl chwarter awr mewn sifft hwyr ar nos Fawrth yn ddigon da. Fel y dywedodd pwyllgor y cyfansoddiad mewn adroddiad yn gynharach eleni, dylai Aelodau'r Senedd allu clywed tystiolaeth arbenigol, gwrando ar farn rhanddeiliaid yng Nghymru, a thrwy hynny, ein hunain, cyflwyno gwelliannau i brofi, herio a chraffu ar Weinidogion Cymru. Nid yw hyn wedi digwydd. Dyna hanfod craffu, ac nid yw hynny wedi digwydd gyda'r Bil hwn. Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Mae'n rhaid i'r Gweinidog, o nawr ymlaen, ymrwymo i ddod â phob Bil amgylcheddol gerbron y Senedd yma er mwyn i graffu go iawn ddigwydd yma, gan Aelodau y lle yma a rhanddeiliaid yng Nghymru. Dyma ein rôl, a dyma ein dyletswydd ni i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Mewn sawl ffordd, bydd y cyfraniad y byddaf i'n ei wneud i'r ddadl fer hon yn adleisio cyfraniad y siaradwr blaenorol a Chadeirydd y pwyllgor. Rydym ni wedi cael y sgwrs hon fel pwyllgor, ac mae'n bwysig. Fel rhywun sydd wedi eistedd yn y lle hwn am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, rydym ni wedi gweld memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn mynd a dod, ac maen nhw fel arfer yn bodoli er mwyn darparu dull ar gyfer newid ymylol mewn polisi neu i alluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau lefel o barhad ar ddwy ochr y ffin, lle bo hynny'n angenrheidiol.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol presennol a'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol wedi bod yn glir na ddylai swyddogaeth cynigion cydsyniad deddfwriaethol gael ei ehangu er mwyn cyflawni amcanion polisi'r Llywodraeth gyfan, ac rwyf i'n teimlo mai dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld—twf cynyddol mewn cynigion cydsyniad deddfwriaethol i osgoi democratiaeth yma yng Nghaerdydd. Mae hyn yn achosi problemau gwirioneddol, sylweddol i mi, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yma—. Rwy'n cydymdeimlo â'r Gweinidog. Pe bai hi'n cyflwyno ei chynnig, o ran polisi, o'n blaenau ni, fi fyddai'r cyntaf yn y rhes i bleidleisio drosto. Rwy'n credu bod amcan y polisi yn gwbl gywir. Ond yr hyn y mae hi'n ei wneud yw ceisio cydsyniad Senedd San Steffan i roi pwerau i Weinidogion Cymru, ac nid yw hi'n ceisio cydsyniad y Senedd hon ar gyfer y pwerau hynny. Mae hi'n dweud y bydd hi'n mynd drwy'r weithdrefn gadarnhaol pan gaiff y pwerau hynny eu rhoi, ac rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n falch ei bod hi'n gwneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl anghywir. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn glir iawn, iawn, ac mae Gweinidogion blaenorol wedi ei gwneud yn glir iawn hefyd, fod yn rhaid diogelu ein democratiaeth a'n prosesau deddfwriaethol.
Yn wahanol i'r siaradwr blaenorol, byddaf i'n pleidleisio gyda'r Llywodraeth y prynhawn yma, ond byddaf i'n dweud hefyd wrth y Llywodraeth nad yw hynny'n rhoi rhwydd hynt i gyflwyno cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn osgoi ein democratiaeth, osgoi ein gwaith craffu ac osgoi ein deddfwrfa. Rwy'n amau bod angen dadl lawnach arnom ni ar y materion hyn. Llywydd, efallai fod hyn yn fater i chi eich hun yn y Gadair. Codais i'r mater hwn, fel y gwyddoch chi, yn ystod y cwestiynau busnes yn gynharach heddiw, ac roedd y Gweinidog wrth ateb, yn glir iawn: 'Mae angen y pwerau hyn arnom ni', dywedodd hi. Wel, pan ddywedodd hi 'ni', wrth gwrs, nid oedd hi'n golygu ni; nid y 'ni' ar y cyd yn y Siambr hon ydoedd. Llywodraeth Cymru oedd yn dymuno cael y pwerau hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r lle hwn. Byddwn i'n awgrymu, er y gallem ni dderbyn hyn y tro hwn, ein bod ni'n cael dadl ehangach a mwy dwys ynghylch lle cynigion cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd rwyf i wedi gweld, ac rydym ni i gyd wedi gweld, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyrddio drwy ein democratiaeth. Maen nhw wedi sathru ein pwerau dan draed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl gywir wrth sefyll dros ddemocratiaeth Cymru. Mae gweinidogion yn gwybod fy mod i wedi eu cefnogi 100 y cant ar hynny, ond am yr un rheswm, ni allaf ganiatáu iddyn nhw wneud yr un peth.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl nawr. Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i fynegi fy niolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwy'n deall eu rhwystredigaeth yn llwyr. Rydym ni ein hunain yn teimlo rhwystredigaeth gyda'r diffyg ymgysylltu ar lefel y DU. I ailadrodd y pwynt fy mod i'n llwyr fwriadu cyflwyno Bil plastigau defnydd untro i'r Senedd. Fodd bynnag, rydym ni wedi ein cynnwys mewn problemau penodol sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'r trefniadau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hi. Rwyf i, fel y gwnaethoch chi ei weld yn fy sylwadau agoriadol, wedi ymrwymo i'r rheoliadau fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd, oherwydd fy mod i'n gwbl awyddus i'r Senedd graffu'n llawn ar unrhyw reoliadau a gaiff eu cyflwyno drwy ddefnyddio'r pwerau hyn. Rwy'n derbyn yn llwyr y byddai'n well pe bai'r Senedd yn deddfu ei hun, a dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno Deddf i Gymru maes o law. Fodd bynnag, nid oeddwn i o'r farn y byddai'n briodol o gwbl i Gymru fod ar ei hôl hi o ran ei gallu i symud yn gyflym ar fater plastigau defnydd untro a deunyddiau eraill sy'n cael effaith negyddol ar ein bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Wedi'r cyfan, rydym ni mewn argyfwng hinsawdd a natur, ac felly, mae'r mesurau hyn, yn fy marn i, yn angenrheidiol i sicrhau y gall Cymru aros ar flaen y gad yn y frwydr dros ein hinsawdd a'n byd naturiol. Felly, ar y sail honno, Llywydd, argymhellaf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac felly mi fydd yna doriad byr iawn, gobeithio, i baratoi ar gyfer y bleidlais hynny yn dechnegol. Felly, toriad nawr.