5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach

– Senedd Cymru am 4:26 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:26, 2 Tachwedd 2021

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: economi wyrddach. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf, cyflwynais ddatganiad llafar ar sut yr ydym yn bwriadu symud economi Cymru ymlaen. Nodais y camau y byddwn yn eu cymryd i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach i Gymru. Mae'r holl faterion y gwnaethom eu trafod y diwrnod hwnnw yn dibynnu ar ein llwyddiant wrth wynebu'r bygythiad gwirioneddol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gynrychioli. Yn union fel y mae cyrhaeddiad y bygythiad yn enfawr, felly hefyd yw'r cyfle i greu dyfodol mwy disglair i Gymru gyda'r sicrwydd economaidd a ddaw drwy weithredu ar frys heddiw.

Mae'r cynllun sero-net Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos sut y bydd gweithredu pellgyrhaeddol ar draws y Llywodraeth yn creu Cymru sy'n rhoi mwy i'n planed nag yr ydym ni’n ei gymryd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi bod yn glir y gall Cymru gyflawni ei huchelgais ar gyfer sero-net erbyn 2050, os bydd pawb yn chwarae eu rhan. Mae pennod diwydiant a busnes ein cynllun yn amlinellu gweledigaeth sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwaith teg a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

Mae'r cynllun yn ei gwneud yn glir ein bod ni, erbyn 2025, yn disgwyl gweld gostyngiad o 4 y cant yn y defnydd o ynni mewn diwydiant o ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd ynni. Erbyn yr un dyddiad, rydym ni hefyd yn dymuno gweld cynnydd o 3 y cant ar gyfartaledd i drydaneiddio mewn prosesau diwydiannol, yn ogystal â thwf  o 3 y cant ar gyfartaledd i ddefnydd hydrogen fel tanwydd.

Rydym ni'n gwybod bod llawer yn y fantol yng Nghymru, gan ein bod ni wedi byw drwy dalcen caled dad-ddiwydiannu. Mae ein daearyddiaeth, ein topograffeg a'n seilwaith carbon trwm wedi eu hystyried yn nodweddion bregus ers tro byd. Fodd bynnag, mae gennym ni gyfle yn awr i droi'r her hon ar ei phen drwy hyrwyddo Cymru fel cartref a mainc arbrofi ar gyfer adnewyddu'r economi.

Fis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi buddsoddiad sy'n rhoi'r addewid hwn ar waith, wrth i'r cwmni ynni clyfar, Thermify, gadarnhau ei gyfleuster newydd ym Mhencoed. Mae hyn yn fewnfuddsoddiad sydd wedi ei ddenu gan arloesedd blaenllaw yng Nghymru a gefnogir gan y Llywodraeth hon. Mae Thermify yn defnyddio proseswyr Raspberry Pi a gynhyrchir ym Mhencoed a bydd yn cydweithio'n agos â'r ganolfan SPECIFIC—sef prif ganolfan ymchwil technoleg ynni Prifysgol Abertawe.

Mae hyn yn gwneud Cymru yn gartref i system wresogi carbon isel arloesol sydd wedi ei chynllunio i ddarparu gwres a dŵr poeth fforddiadwy i gartrefi. O ymchwil i gymhwyso, mae ein cymorth wedi dwyn ynghyd arloesedd Cymru a byd-eang i ddarparu'r diwydiant uwch-dechnoleg a charbon isel a fydd yn helpu i lunio'r dyfodol. Dyma beth yw arloesedd Cymru gydag effaith fyd-eang, ac rwyf i'n awyddus i weld mwy o ymatebion cartref i heriau byd-eang a rennir.

Gall Llywodraeth y DU helpu i ddatgloi cyfle brys arall drwy ddarparu'r cyllid sydd ei angen i wneud ein tomenni glo yn ddiogel. Byddai rhaglen 10 mlynedd ar y cyd wedi ei hariannu yn llawn yn ein galluogi i weithio ar y swyddi, y dechnoleg, y beirianneg a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud Cymru yn arweinydd ym maes adfer diwydiannol.

Mae'r Unol Daleithiau eisoes wedi dechrau defnyddio'r dull hwn o lanhau ei hetifeddiaeth ddiwydiannol beryglus mewn taleithiau fel West Virginia. Mae eu cynlluniau i adfywio cymunedau diwydiannol yn golygu bod cyllid ffederal newydd yn cael ei gyfeirio i greu swyddi a phrosiectau, mewn model y mae Llywodraeth y DU, hyd yma, yn gwrthod ei drafod hyd yn oed ar gyfer cymunedau cymoedd Cymru.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:30, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, eglurodd adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd Cymru fod angen strategaeth ddiwydiannol gydlynol yn y DU i ganiatáu i ddiwydiant a busnesau Cymru gyfrannu gymaint â phosibl at y nod sero-net. Mae ein cynllun yn cynnwys gofynion pwysig i Lywodraeth y DU, gan atgyfnerthu'r angen am bolisi hirdymor a chyson, cymorth ar gyfer arloesi, ac arweinyddiaeth fyd-eang ar waith. O eglurder i fusnesau ar reoleiddio a chyllid i weithredu ar newid tanwydd a phrisio carbon, rydym yn galw am fframwaith cydlynol y gall pob un ohonom ei ddefnyddio wrth gynllunio. Gyda'r fframwaith cywir, byddai gan fusnes a diwydiant yng Nghymru y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gyflymu eu huchelgais eu hunain o'r diwedd. Er enghraifft, gallai cyllid wedi'i neilltuo yn y DU ar gyfer prosiectau morol cyfnod cynnar roi diwedd ar yr ansicrwydd treigl sy'n gadael prosiectau ar y silff gan nad oes gan fuddsoddwyr yr hyder sydd ei angen i symud yn gyflym.

Yn yr un modd, mae angen i Gymru gael ei chyfran deg o'r refeniw a godir gan y cynllun masnachu allyriadau, gan adlewyrchu'r dasg fwy y mae ein heconomi yn ei hwynebu, o ystyried ein dibyniaeth ar ddiwydiannau sy'n defnyddio ynni'n ddwys. Dylai Gweinidogion y DU hefyd weithio gydag Ofgem i sicrhau bod buddsoddiadau rhwydwaith yn targedu cymunedau mwy difreintiedig i hybu datblygiad economaidd lleol yma yng Nghymru.

Yn ystod fy natganiad llafar ar 19 Hydref, eglurais fod yn rhaid i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i gyflwyno ei chytundeb i gefnogi trawsnewid teg i'n sector dur. Byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i archwilio'r dull gweithredu gorau posibl ar y cyd, ond dim ond ochr yn ochr â chytundeb a gynigir gan Lywodraeth y DU ac y cytunwyd arno y gall hynny ddigwydd.

Mae gan ein rhaglen lywodraethu ymrwymiadau ar waith teg, yr economi sylfaenol a chymorth i gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, ac mae hynny hefyd yn ategu ein huchelgeisiau sero-net. Pan fyddwn yn cynyddu nifer y cynrychiolwyr gwyrdd yn y gwaith a’r cymorth ar eu cyfer, gall mwy o fusnesau fanteisio ar arbenigedd y gweithlu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o leihau allyriadau. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer yr economi sylfaenol yn ymwneud yn ei hanfod â defnyddio gweithgarwch economaidd presennol a newydd i gwtogi cadwyni cyflenwi a thrwy hynny helpu i leihau allyriadau.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu—cyflawniad y dylem ni i gyd fod yn falch ohono a chyflawniad y gallwn ni adeiladu arno i gyflymu ein trawsnewid i economi gylchol. Mae'r pandemig a Brexit wedi herio cadernid ein cadwyni cyflenwi, ond mae ein system ailgylchu o'r radd flaenaf yn rhoi cyfle i ni greu hyd yn oed mwy o werth o'r adnoddau yr ydym ni’n eu casglu. Mae hefyd yn golygu y gallwn ni ddefnyddio deunydd wedi ei ailgylchu yn lle prosesau carbon-ddwys ac echdynnu deunyddiau crai. Felly byddwn yn cyflwyno rheoliadau ailgylchu busnes newydd i leihau allyriadau carbon yn fwy ac i sicrhau deunydd o ansawdd uchel i droi'n gynhyrchion newydd. Byddwn ni hefyd yn ehangu ein cymorth i weithgynhyrchwyr i ddefnyddio cynnwys wedi ei ailgylchu. Mae Capital Valley Plastics yn Nhorfaen yn enghraifft dda—maen nhw’n trawsnewid haenau plastig yn haenau sy’n gwrthsefyll lleithder newydd i'w defnyddio mewn adeiladau, gan ddangos sut y gall busnesau Cymru arwain y ffordd wrth ail-weithgynhyrchu'r ailgylchu a gesglir yma yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddeall anghenion cyflogwyr mewn cysylltiad â sgiliau sero-net ac i ddeall sut y gallwn ni gefnogi gweithwyr i fanteisio ar y newidiadau hyn. Bydd ein strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau, a gyhoeddir yn gynnar yn 2022, yn sicrhau bod ein system yn addas i'r diben wrth fodloni'r sgiliau sydd eu hangen ar sero-net yn y dyfodol.

Bydd angen i gymuned fusnes Cymru, gan gynnwys ein busnesau bach a chanolig, ymgorffori effeithlonrwydd ynni ac adnoddau ochr yn ochr â thechnoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Felly, byddwn yn cryfhau dull Busnes Cymru gyda gwell gwybodaeth a chymorth wedi eu cynllunio i helpu busnesau i ymateb i'r heriau hyn. A byddwn ni hefyd yn defnyddio ein contract economaidd newydd i gryfhau ein dull rhywbeth-am-rywbeth, gan herio'r rhai yr ydym yn eu cefnogi i sicrhau bod arian cyhoeddus Cymru yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at ein taith i sero-net. Byddwn yn dyfnhau'r gofynion gyda dangosyddion clir a safonau gofynnol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cyflawni contract.

Dyma gipolwg ar y cynlluniau ehangach yn y cynllun Cymru Sero-Net, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phob un ohonoch ar draws y Siambr hon i gyflawni ein huchelgais ar y cyd i weithredu ar yr argyfwng hwn sy'n diffinio'r cyfnod hwn.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, rwyf i'n rhannu ymrwymiad y Gweinidog i ddatblygu economi wyrddach, a bydd e' wedi fy nghlywed i'n galw am weithredu yn hyn o beth ar sawl achlysur. Mae angen i ni adeiladu momentwm o lawr gwlad i fyny i gyflawni'r newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen i ddatblygu economi werdd, ac wrth wraidd hynny mae angen deall, cynllunio a datblygu ein sylfaen sgiliau yn well, ac rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod hynny yn union. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi galw am gynnal archwiliad o sgiliau sero-net fel y gallwn ni nodi'r bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau, ac felly efallai y bydd y Gweinidog yn cadarnhau heddiw fod archwiliad sgiliau sero-net ar y gweill ac yn dweud mwy wrthym am gynnydd yr archwiliad hwnnw a chynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen arnom yn ein gweithlu i ddatblygu economi werdd ar gyfer y dyfodol.

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gymorth i fusnesau ledled Cymru, ac rwy'n awyddus i ddeall mwy am sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar gyllid preifat i gefnogi twf glân a chadarn yng Nghymru, ac felly efallai y gall y Gweinidog gadarnhau sut yn union mae hynny'n digwydd. Rwyf i wedi cael llawer o drafodaethau gyda busnesau a sefydliadau busnes ynghylch datblygu economi wyrddach, ac maen nhw wedi ei gwneud yn glir i mi y gall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru ymddangos yn anymarferol i fusnesau, oherwydd ychydig iawn o adnoddau arbenigol sydd gan lawer ohonyn nhw. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cymorth busnes arbenigol yn y maes hwn ac yn esbonio i fusnesau, yn enwedig busnesau bach, beth yn union y gallan nhw ei wneud a sut y gallan nhw wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud wrthym sut yn union y bydd yn cefnogi busnesau i ddatblygu arferion gwyrddach, sut y bydd yn ymgysylltu'n llawer mwy uniongyrchol â busnesau ar yr agenda hon, a hefyd sut y bydd yn helpu i wneud economi wyrddach yn rhywbeth llawer mwy perthnasol a phosibl i'n busnesau llai.

Nawr, rwyf wedi siomi o weld nad oes sôn am yr angen i ddarparu gwell seilwaith gwyrdd ledled Cymru. Mae angen gwneud llawer mwy i ymgysylltu â busnesau mewn cysylltiad â cherbydau trydan, er enghraifft. Dim ond 3.8 y cant o gyfanswm pwyntiau gwefru'r DU sydd gan Gymru, gan roi Cymru yn y degfed safle o 12 gwlad a rhanbarth y DU, ac mae busnesau wedi ei gwneud yn glir i mi fod diffyg gwybodaeth am opsiynau cerbydau masnachol, pryderon ynghylch yr amrywiaeth o gerbydau, ac, yn anad dim, pryderon gwirioneddol nad oes seilwaith gwefru addas ar waith yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, hyd nes y bydd y materion hynny yn cael sylw, fod busnesau'n llai tebygol o wneud newid sylweddol, ac eto rydym yn gwybod bod cynlluniau eisoes ar waith i gael gwared ar beiriannau diesel a phetrol o fewn y degawd nesaf. Felly, efallai wrth ymateb i'r datganiad hwn, bydd y Gweinidog yn dweud mwy wrthym am sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r ddarpariaeth o seilwaith cerbydau trydan yma yng Nghymru.

Nawr, mae'r datganiad yn cyfeirio at gadernid ein cadwyni cyflenwi, ond mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gefnogi gan ymgysylltiad gwirioneddol â busnesau, â banciau, ag awdurdodau lleol ac, yn wir, â chynrychiolwyr y diwydiant. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ba drafodaethau y mae wedi eu cael gyda'r sector bancio ac awdurdodau lleol ynghylch y ffyrdd y gallan nhw helpu i gefnogi busnesau ledled Cymru a helpu i ddarparu cadwyni cyflenwi gwyrddach a mwy cynaliadwy.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am y camau sydd wedi eu cymryd i newid ymddygiad defnyddwyr a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, neu y mae eisoes yn eu cymryd, yn y maes hwn. Gallwn ddysgu llawer o wledydd eraill ledled y byd. Er enghraifft, mae gan Sweden strategaeth ar gyfer defnydd cynaliadwy sy'n ceisio helpu pobl i wneud dewisiadau sy'n ddoeth o ran yr hinsawdd. Mae'n hanfodol bod Cymru yn dysgu o wledydd eraill ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud wrthym ba strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i newid ymddygiad defnyddwyr a pha wersi sy'n cael eu dysgu o wledydd eraill ar y mater penodol hwn.

Mae'n sicr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r twf mewn e-fasnach yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ôl-troed carbon i hynny hefyd, gan fod mwy o gerbydau ar y ffordd yn danfon nwyddau ac mae mwy o gardfwrdd yn cael ei ddefnyddio. Efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ôl-troed carbon e-fasnach yng Nghymru a dweud wrthym ba drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda'r diwydiant dosbarthu ynghylch sut y gall gefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at ddatgarboneiddio ein sector dur, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth y DU yn ymrwymo i'r agenda hon drwy ddarparu £315 miliwn i'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol a £250 miliwn i'r gronfa dur glân. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd y gallu i helpu i gefnogi'r sector, ac rydym wedi sôn o'r blaen am fuddsoddi mewn atebion arloesol. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu ar gyfer ymchwil ac arloesi i'r sector i archwilio technolegau arloesol a allai helpu'r sector i gynhyrchu dur mewn ffordd llawer mwy carbon niwtral.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, ac eto ymrwymo i weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda hon i wneud ein heconomi'n fwy cynaliadwy a chadarn ac yn wyrddach ar gyfer y dyfodol? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:40, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i beidio â gwthio amynedd y Dirprwy Lywydd drwy roi atebion hir i'r nifer sylweddol o gwestiynau; byddaf yn ceisio bod mor gryno â phosibl. Flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl, pan fyddwn yn cyhoeddi'r hyn yr ydym yn ei wneud o ran sgiliau, bydd gennych chi adran sylweddol ar beth fydd y cynllun sgiliau sero-net. Cefais i gyfle i gwrdd â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol heddiw, ac mae'n rhan o'r hyn yr ydym yn chwilio amdano, ond, mewn gwirionedd, mae angen i ni gael mwy o eglurder—neu bydd yn rhaid i ni ddychwelyd at hyn dro ar ôl tro, mae arnaf i ofn—ynghylch sut y mae'r dirwedd cyllid yn edrych yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau, oherwydd y cyllid yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd—. Nid oedd y gyllideb yn glir ynghylch beth fydd yn digwydd gyda chronfeydd codi'r gwastad ehangach, oherwydd roedd y cronfeydd hynny, wrth gwrs, yn ariannu tua thraean o'n rhaglenni prentisiaeth, felly mae angen deall y cyllid sydd ar gael. Ond rydym ni wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â busnesau, yn ogystal â darparwyr, i ddeall yr hyn y bydd angen i ni ei wneud. Felly, mae hynny'n golygu edrych ar y ddarpariaeth bresennol, edrych ar ble mae bylchau yn bodoli, ond hefyd ble mae cyfleoedd yn bodoli hefyd.

O ran eich pwynt ynglŷn â chyllid preifat, mae gennym eisoes fynediad at gyllid preifat a sut y mae hwnnw’n cael ei ddefnyddio. Nawr, nid oes gan lawer o'r ddarpariaeth cyllid preifat ddiddordeb arbennig mewn effeithiau amgylcheddol buddsoddi; mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn twf ac elw. Ond rydym ni yn gwybod bod yna bobl sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwneud hynny. Rydym ni hefyd yn gwybod bod Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi cronfa ecwiti benodol yn ddiweddar yn rhan o'r gyllideb. Roedd hynny'n syndod, rwy'n credu, iddyn nhw ac i ni. Roeddem ni wedi galw am rywbeth tebyg, felly mae'n gam ymlaen i'w groesawu yng nghyhoeddiad y Canghellor, a hoffem ni weld y gronfa honno yn cael ei defnyddio ar y cyd â'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud gyda Banc Datblygu Cymru, a fydd yn sicr yn ceisio darparu buddsoddiad i helpu busnesau i ddatgarboneiddio, ond hefyd i fanteisio ar gyfleoedd yn y ffordd y mae'r byd gwaith yn newid. Ac rydym ni eisoes yn gofyn am gyfarfod adeiladol rhyngom ni a'r Llywodraeth a'r banc datblygu a Banc Busnes Prydain i geisio bwrw ymlaen â hynny mewn ffordd mor adeiladol â phosibl.

Fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau sydd, rwy'n credu, yn dod at ei gilydd i ymwneud â chaffael, cadwyni cyflenwi a hefyd y ffordd yr ydym yn ceisio cael Busnes Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig yn benodol. Rydym yn sicr yn bwriadu gwneud mwy o hynny. Unwaith eto, mae cyllid Busnes Cymru yn rhannol ddibynnol ar y cyllid yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, rydych chi wedi fy nghlywed i'n gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen, ond mae'n ffaith syml. Rydym yn edrych, fel rhan o hynny, i feddwl nid yn unig am sut yr ydym yn eu helpu i feddwl am gyfleoedd, ond hefyd, i'r busnesau hynny sydd yn dymuno cael contract economaidd neu sydd eisoes ag un—ac mae amrywiaeth yn y sector bach a chanolig sy'n gwneud hynny—rydym yn glir iawn, yn y contract presennol, bod y daith at ddatgarboneiddio yn rhan ohono; mae'n un o'r pedwar piler. Ac wrth gryfhau'r contract, byddech yn disgwyl gweld mwy o bwyslais ar hynny hefyd. Mae'n rhan o'r gwaith nid yn unig ar y contract economaidd, ond rhan o hynny hefyd yw'r cyfleoedd i gwtogi cadwyni cyflenwi, y gwnes i gyfeirio ato yn y datganiad. Ac fe wnes i sôn hefyd, wrth gwrs, am swyddogaeth Busnes Cymru.

Rydym yn edrych, mewn gwirionedd, ar beth yw dealltwriaeth busnesau o'r rheidrwydd gan ddefnyddwyr hefyd, a gan eu cwsmeriaid. Mae llawer ohonyn nhw bellach yn disgwyl gweld y ffordd y maen nhw’n cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac nid dim ond yn y sector e-fasnach y gwnaethoch chi gyfeirio ato, lle mae hynny eisoes yn ddisgwyliad clir bod amrywiaeth o'r darparwyr hynny'n edrych ar beth yw eu hôl troed eu hunain, mae mewn amrywiaeth o sectorau nwyddau a gwasanaethau mwy ffisegol hefyd.

Ac o ran trafnidiaeth, mae sgyrsiau y byddwn yn eu cael â chydweithwyr yn y weinyddiaeth newid hinsawdd am y seilwaith gwefru. Mae hefyd yn faes lle gallem ni elwa ar fod â chynllun ar y cyd ledled y DU ar gyfer sut y bydd seilwaith gwefru yn edrych, ac mae'n un o'r siomedigaethau yr wyf i'n siŵr y bydd yr Aelod yn eu rhannu, nad oedd buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith yn yr adolygiad diweddar o'r gyllideb a'r gwariant i helpu gyda'r daith at ddatgarboneiddio. Fe wnaethoch chi glywed Julie James yn dweud nad oedd sôn am yr hinsawdd unwaith yn y gyllideb, ond, yn fwy na hynny, mae'r gyllideb gyfalaf sydd gan y Llywodraeth Cymru hon ac y bydd gan y lle hwn y cyfle i graffu arni a helpu i’w chyfarwyddo, yn mynd i ostwng mewn termau real dros gyfnod yr adolygiad gwariant. Ac i bob un ohonom ni, ar bob ochr i'r Siambr hon, ni all hynny fod yn ddatganiad cadarnhaol sy'n helpu Cymru i wneud cyfraniad cyflymach at greu'r seilwaith i'n helpu i ddatgarboneiddio'r ffordd yr ydym yn byw yma yng Nghymru.

Byddaf yn ceisio gorffen nawr ar y pwyntiau ynglŷn â dur, Dirprwy Lywydd. Mae rhai camau cadarnhaol mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd i geisio helpu ac ysgogi symud ymlaen. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw, ond hefyd y buddsoddiad yr ydym ni wedi helpu i'w greu, ynghyd â'r cyllid y mae Abertawe'n ei gael ar gyfer dyfodol metelau. Ond, mewn gwirionedd, mae'r heriau mwy o ran datgarboneiddio dur yn ymwneud â'i gystadleurwydd—ac mae problem yno o ran prisiau ynni yn y wlad hon o'u cymharu â chystadleuwyr Ewropeaidd—ac, yn benodol, buddsoddi—ac mae'r rhain yn ddewisiadau mae angen i ni eu gwneud, ond yn bennaf y mae angen i Lywodraeth y DU eu gwneud—o ran hydrogen a hefyd y potensial ar gyfer dal carbon. Nid yw dal a storio carbon yn dechnoleg aeddfed, felly nid yw'n mynd i helpu yn y fan a'r lle, ond mae'n bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol. Mae angen buddsoddi yn awr i weld a yw hynny'n bosibl. Mae hydrogen yn llawer agosach at fod yn aeddfed, felly mae cynyddu'r buddsoddiad mewn cynhyrchu a seilwaith hydrogen yn bwysig iawn yn gyffredinol, ond yn hollbwysig os ydym ni am ddatgarboneiddio'r sector dur a chael newid cyfiawn wrth wneud hynny. Rydym yn cydnabod ei fod yn sector gwerth uchel, ond hefyd yn sector allyrru uchel o'r economi, felly mae'n un o'r pwyntiau yr wyf i wedi ei godi'n rheolaidd ac y byddaf i'n parhau i'w godi gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r cyfleoedd i gyflawni datgarboneiddio pellach mewn mathau eraill o gynhyrchu. Felly, rwyf i'n credu nad oes angen i brisiau ynni olygu bod yn rhaid i ddur fod yn sector allyrru uchel. Rydym ni'n credu bod y sector hwn yn cymryd camau breision ymlaen o ran dymuno datgarboneiddio, ond i wneud hynny mewn ffordd nad oes cost sylweddol iddi o ran swyddi a chyflogaeth.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Os gallaf i ddweud, fel boi Pen-coed, dwi'n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth rhwng Thermify a Phrifysgol Abertawe yn ei gynhyrchu. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig yn ystod COP26, ac fel rhan o beth all y Llywodraeth ei wneud, mae'r economi yn hanfodol.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae pryder mawr mai siop siarad arall fydd COP26, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n un o'r rhai sy'n pryderu, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n syndod i'r Aelodau yr wyf i wedi gweithio gyda nhw ers cael fy ethol. Mae fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian yn dweud wrthyf yn rheolaidd fy mod i'n llawer rhy sinigaidd am fy oedran, ond mae'n ymddangos bod amharodrwydd i gymryd camau heriol yn erbyn cwmnïau rhyngwladol, er enghraifft, sy'n gosod barusrwydd a gwneud elw o flaen yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol.

Canfu'r Prosiect Datgelu Carbon yn 2017 y gallai 100 o gwmnïau yn unig gyfrif am 71 y cant o allyriadau byd-eang ers 1988. Bydd unrhyw ymdrechion lleol i gefnogi mentrau gwyrdd yng Nghymru yn cael eu colli os na fyddwn yn mynd i'r afael â materion y llygrwyr rhyngwladol hyn. Er enghraifft, mae cwmnïau buddsoddi mawr wedi bod yn prynu tir fferm yng Nghymru er mwyn iddyn nhw allu gwrthbwyso eu hallyriadau carbon. Mae o leiaf 12 o ffermydd wedi eu gwerthu'n ddiweddar yng nghanolbarth Cymru i gwmnïau y tu allan i Gymru. Yn ogystal â bod yn niweidiol i ddiwylliant Cymru ac economi Cymru, nid yw'n mynd i'r afael â'r broblem ychwaith. Mae'r cwmnïau mawr hyn yn gallu gwyrddgalchu wrth barhau i bwmpio meintiau enfawr i'r atmosffer yn y pen draw. Byddai gen i ddiddordeb mewn dysgu gan Weinidog yr economi ba sancsiynau y gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried yn erbyn cwmnïau rhyngwladol sy'n parhau i lygru ar ôl COP26 ac a yw'r Gweinidog yn credu bod prynu ffermydd yng Nghymru gan y cwmnïau rhyngwladol hyn yn arfer cynaliadwy o fewn economi Cymru.

Wrth gwrs, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith mai un rhan addawol o economi werdd Cymru yw hydrogen. Amlygodd adroddiad sylfaenol datblygu hydrogen yng Nghymru fentrau yn y dyfodol a allai harneisio'r defnydd o bŵer hydrogen. Nid yw'r Llywodraeth wedi ymateb eto i'r ymgynghoriad datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru, y mae'r adroddiad sylfaenol yn rhan ohono, neu o leiaf rwyf i'n cael fy arwain i gredu hynny gan wefan Llywodraeth Cymru. Pryd y gallwn ni ddisgwyl ymateb a pha fentrau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi eu nodi a allai ddefnyddio pŵer hydrogen, yn benodol hydrogen gwyrdd? Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch atal newid yn yr hinsawdd, mae'n rhaid iddi weithredu yn awr ac mae'n rhaid iddi fuddsoddi yn sector hydrogen yr economi a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad ac yn rhoi mantais glir i ni wrth i wledydd eraill symud i economïau gwyrddach.

At hynny, mae seilwaith trafnidiaeth effeithlon yn hanfodol i fusnesau ac i economi Cymru. Canfu'r Ffederasiwn Busnesau Bach fod cost cerbydau allyriadau-sero, ynghyd â diffyg darpariaeth pwyntiau gwefru, yn rhwystr i newid ymddygiad i fusnesau. Mae Paul Davies wedi sôn am hyn eisoes, ond a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth fydd ar gael i fusnesau sy'n dymuno trosglwyddo i ddewisiadau amgen gwyrddach? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried nodi ei strategaeth hirdymor ar gyfer trosglwyddo i drydan a hydrogen i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru?

Wrth gwrs, bydd y newid i economi sero-net yng Nghymru heb gynllunio a chyllid priodol gan y Llywodraeth yn fwy heriol i Gymru na gwledydd eraill yn y DU. Mae gan Gymru gyfran uwch o allyriadau anoddach eu lleihau, fel y nododd y Gweinidog yn gywir. Mae gennym ni fwy o ddiwydiannau ynni-ddwys, mwy o gartrefi oddi ar y grid a ffermydd ar raddfa fach, a llai o safleoedd addas ar gyfer dal a storio carbon. Mae un o bob pump o weithwyr yng Nghymru mewn sectorau hinsawdd-gritigol a fyddai'n teimlo effaith y newid i sero net, ac os nad yw Llywodraeth Cymru yn paratoi'n briodol ar gyfer trosglwyddo cyfiawn, bydd canlyniadau economaidd a chymdeithasol enfawr. Nid ydym ni eisiau ailadrodd y gorffennol. Ond fe wnaf i ailadrodd, wrth gwrs, fy ngalwadau blaenorol a gofyn a wnaiff Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn trosglwyddo cyfiawn, yn debyg i'r Alban, a fydd yn monitro penderfyniadau'r Llywodraeth ynghylch trosglwyddo'r economi i un wyrddach a thecach.

Ac o ran dur, os caf fi, pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gwmnïau cydweithredol dur a'r rhan y gallen nhw ei chwarae mewn economi wyrddach a thecach, yn debyg i'r hyn yr ydym wedi ei weld yng Ngwlad y Basg?

Yn olaf, mae'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol beth yw fy safbwynt i o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. I mi, mae'n rhaid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy drosglwyddo i economi werdd fynd law yn llaw hefyd â mynd i'r afael â thlodi. Y gwir amdani yw nad yw'r ffordd bresennol o fesur llwyddiant economaidd yn addas i'r diben, os ydym ni'n dymuno mesur effaith polisi economaidd Llywodraeth Cymru ar bobl yng Nghymru a'r amgylchedd. Ers degawdau, mae perfformiad economaidd a chynnydd cymdeithasol cenhedloedd wedi defnyddio llinell sylfaen cynnyrch domestig gros. Mae ei annigonolrwydd o ran mesur bywydau, lles ac amgylchedd pobl wedi ei gydnabod fwyfwy. Yng ngoleuni hyn, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau sydd wedi digwydd yn yr adran ynghylch sut y gallwn ni symud oddi wrth fesurau traddodiadol, fel cynnyrch domestig gros, i ddewisiadau amgen a mesurau blaengar?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:51, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. O ran eich pwynt ynglŷn â defnydd tir, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn eithaf clir ein bod ni'n disgwyl i ddefnydd tir yng Nghymru fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol i boblogaethau lleol a'r economi. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn gymell pobl i wneud defnydd priodol o'r tir sydd ar gael, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n bodloni'r profion y byddem yn eu gosod. Felly, yn sicr, nid ydym yn annog cwmnïau i geisio prynu tir yma yng Nghymru i geisio osgoi a gwrthbwyso eu gweithgareddau mewn rhannau eraill o'r DU neu weddill y byd.

O ran eich pwynt ynglŷn â hydrogen, hoffwn i ailadrodd, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir iawn mewn cwestiynau heddiw fod y Llywodraeth hon yn glir iawn y dylem ni fod yn buddsoddi mewn hydrogen gwyrdd, a dyna rydym ni am ei weld. Ac mae cyfleoedd gwirioneddol o fewn hynny, nid yn unig o fewn y buddsoddiad—ac mae'n fuddsoddiad i'w groesawu yn y broses HyNet ar draws gogledd-orllewin Lloegr drwy ogledd Cymru, ond mae hefyd yn gyfle i weld beth sydd hefyd yn deillio o'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni ar y môr hefyd a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran cynyddu ein gallu i gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn wirioneddol. Nawr, mae hynny'n gofyn am rai o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad: eglurder ynglŷn â'r fframwaith buddsoddi, y gallu i'w ddefnyddio i fuddsoddi, a dewisiadau Llywodraeth y DU yn ogystal â pharodrwydd y Llywodraeth hon i helpu pobl i fuddsoddi mewn diwydiannau cynnar. Y perygl fel arall yw mai'r hyn a fydd yn digwydd yw y byddwn yn gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda gwynt ar y tir, lle llwyddodd Denmarc yn arbennig i fuddsoddi'n gynnar ac yna allforio technoleg, a oedd yn golygu bod llawer o'r enillion wedi eu gwneud yn Nenmarc. Nawr, mae hynny wedi golygu bod gennym ni ffyrdd effeithlon o gynhyrchu ynni gwynt ar y tir, ond mewn gwirionedd byddai'n llawer gwell gen i weld cyfle i fod yn symudwyr cynnar mewn diwydiant lle rydym ni eisoes yn gweld rhywfaint o hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o Ewrop hefyd. Felly, mae'r buddsoddiad mewn hydrogen hyd yma i'w groesawu, ond hoffwn i weld mwy o hynny'n digwydd. Mae hefyd yn fater hollbwysig i goridor de Cymru, yn ogystal â mynd ar draws gogledd Cymru hefyd.

O ran eich pwyntiau ynglŷn â'r her o sut yr ydym yn defnyddio'r contract economaidd a'r gallu ynddo, mae hyn yn bwysig i fusnesau bach, canolig a mwy. Ni allwch chi gael contract economaidd oni bai eich bod yn barod i ymrwymo i'r galwadau a fydd yn newid. Felly, ni fyddwch chi'n gweld cwmnïau mawr sy'n tynnu i ffwrdd yng Nghymru yn cael contractau economaidd; bydd angen iddyn nhw ymrwymo i'r ffyrdd o weithio a rhoi yn ôl i sicrhau ei fod yn wirioneddol rywbeth am rywbeth, os ydyn nhw eisiau'r cymorth y gall y Llywodraeth hon ei ddarparu ac y mae'n fodlon i'w wneud, i weld swyddi'n cael eu cadw yng Nghymru yn ogystal â buddsoddiad i greu swyddi newydd yng Nghymru. A dyna un o'r pethau cadarnhaol y gallai dyn ifanc sinigaidd fel chi ddymuno ei ystyried yn gadarnhaol, bod cyfle i greu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol a fydd yn swyddi da, swyddi â chyflog da a all fodoli mewn gwahanol rannau o Gymru. Nid oes angen i ni weld cyflogaeth â chyflog uchel yn cael ei dynnu'n ôl i’w ddisodli gan gyflogaeth gradd is o lawer â chyflogau llai hefyd. Ac mae'n un o'r pethau lle rydym ni'n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle wrth i ni edrych i'n dyfodol cyffredin.

Rwy'n credu fy mod i wedi sôn am y pwyntiau ynghylch gweithio gyda Gweinidogion newid yn yr hinsawdd ar wella'r seilwaith gwefru. Mae'n her yr ydym wedi ei chydnabod, ac unwaith eto mae dewisiadau y gallem ni eu gwneud yn fwy effeithlon pe gallem ni weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i wneud hynny. Byddai hynny'n gofyn am rannu dull gweithredu.

Hoffwn i wneud y pwynt eto ynghylch defnyddio tir a'ch pwynt ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, a rhai o'r heriau yr ydym yn eu gweld. Dyna pam y soniais i am adfer tomenni glo yn y datganiad, oherwydd rydych chi’n gweld Llywodraeth sy'n benderfynol o fuddsoddi yn hynny yn yr Unol Daleithiau. Unwaith eto, mae rhannau o'r Unol Daleithiau sydd wedi eu creithio ac yn teimlo effaith eu hetifeddiaeth ddiwydiannol eu hunain hefyd. Maen nhw’n buddsoddi yn hynny. Mae Llywodraeth ffederal yn buddsoddi yn hynny, gan weithio gyda Llywodraeth y dalaith. Gallech chi weld hynny yma hefyd, pe bai Llywodraeth y DU yn barod i edrych ar ei chyfrifoldeb a'r etifeddiaeth nad yw wedi ei datganoli i weithio gyda ni i gael cynllun priodol i ymdrin â difrod ac effaith amgylcheddol yr etifeddiaeth honno, ond hefyd i weld swyddi ac eto sgiliau y gellid eu hallforio, oherwydd ein bod ni'n credu ei bod yn anochel y bydd yn rhaid i rannau eraill o'r byd fynd drwy'r un broses o adfer tomenni glo a chloddio dros y degawdau nesaf.

Ac o ran eich pwynt ynglŷn â chwmnïau cydweithredol dur, rydym ni mewn gwirionedd yn edrych ychydig yn fwy ar y ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a'n gallu i weithio ochr yn ochr â'r cwmnïau sydd yma eisoes. Mae gennym ni gwmnïau yng Nghymru a ledled y DU. Os oes cyfleoedd ar gyfer cwmnïau cydweithredol, yn sicr ni fyddwn yn eu gwrthod, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n ateb realistig i'r ffordd y mae diwydiant y DU wedi ei strwythuro ar hyn o bryd. Ein pryder mwy yw sicrhau nad yw cyflogaeth sy'n talu'n dda yn diflannu; nad ydym yn gweld newid datgarboneiddio ar draul llawer o swyddi mewn ffordd y gellir ei hosgoi os gallwn ni weld y mathau cywir o ddewisiadau buddsoddi a gweithredu o ran prisio ynni hefyd.

Ac o ran eich pwynt ehangach ynglŷn â dangosyddion yn ogystal â chynnyrch domestig gros, yna, ydw, rwyf i yn agored i sgyrsiau a thrafodaethau. Rydym ni wedi cael rhai ohonyn nhw gyda chi a rhai o'ch cyd-Aelodau ynglŷn â beth yw economi llesiant a sut yr ydym yn mesur llwyddiant, ond wrth gwrs mae gennym ni amrywiaeth ohonyn nhw eisoes a sut maen nhw’n edrych gyda'n Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sut yr ydym yn ceisio deall, dyma ôl troed yr hyn yr ydym ni'n credu y dylai weithio, sut y dylem brisio buddsoddiad, a sut y byddwn ni wedyn yn mesur ein gallu i gymryd camau ymlaen ar gael economi llesiant wirioneddol yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy’n cytuno ag ef ynghylch pwysigrwydd y diwydiant dur; os ydym am symud tuag at economi werdd, mae'n rhaid i hynny gynnwys cynhyrchu dur lleol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi wedi darllen yr adroddiad dros nos am fargen fasnach rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau ar gyfer dur, ac mae'n gwbl hanfodol bod gan ddur y DU yr un gallu i fanteisio ar y fargen honno. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr, Gweinidog, yn eich barn chi, a beth mae hyn yn ei olygu i'r sector dur yng Nghymru.

Ac yn ail ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog unwaith eto yn sôn yn fawr am sgiliau yn ei ddatganiad heddiw, ac os ydym am ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg a chynhyrchion gwyrdd yma yng Nghymru, mae'n amlwg bod angen y sgiliau cywir arnom. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ba mor hyderus ydych chi eich bod yn hyfforddi ac yn gwella sgiliau y bobl iawn i gyflawni'r angen hwn. Ac a wnewch chi gadarnhau i'r Siambr heddiw nad gyda chyflogwyr yn unig y mae'r sgyrsiau, ond eu bod gyda chyrff proffesiynol, fel y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, a hefyd ein partneriaid undebau llafur ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:58, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Iawn, bydd yn rhaid i mi ymdrin â'ch ail gwestiwn yn gyntaf, oherwydd dyna yw natur y sgyrsiau yr ydym ni'n eu cael. Rydym yn edrych ar ble mae cymorth arall ar gael, oherwydd bod rhannau o Lywodraeth y DU mewn cymorth cyflogadwyedd ehangach mewn lle gwahanol i le'r oedd ychydig flynyddoedd yn ôl. O ran y cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli'n glir ynghylch sgiliau, ydym, rydym yn gweithio gyda chyrff proffesiynol yn ogystal â chyflogwyr ar yr angen i ddeall y mathau o sgiliau yr ydym ni'n credu y bydd eu hangen arnom yn nyfodol yr economi. Dyna pam yr oeddwn yn falch iawn o gwrdd â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol heddiw i edrych ar y gwaith maen nhw eisoes yn ei wneud, i ddeall hynny o safbwynt rhanbarthol yn ogystal â gyda sectorau a'r lens cenedlaethol sydd gennym ni hefyd. A byddwn, wrth gwrs, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur ar sut y gallwn ni ddarparu rhai o'r sgiliau hynny, oherwydd wrth gwrs, un o'r pethau yr oeddwn i'n fwyaf balch ohono yn fy nghyfnod yn TUC Cymru, pan gefais i gyfle i fod yn llywydd ac is-lywydd, oedd y gwaith a wnaethom drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru i annog pobl i feithrin sgiliau am oes, ond hefyd sgiliau ar gyfer gwaith. Roedd yr undeb llafur yn aml yn borth pwysig iawn i gael pobl i gydnabod bod ganddyn nhw ddiffygion sgiliau yr oedden nhw eisiau mynd i'r afael â nhw, pethau yr oedden nhw eisiau eu gwneud, o lythrennedd a rhifedd sylfaenol i fynd ymlaen i ddarparu sgiliau uwch, a'r mynediad y mae hynny'n ei roi i gyfleoedd i gael nid yn unig mwy o fwynhad yn y gwaith, ond mynediad at waith o ansawdd gwell gyda chyflog gwell hefyd.

O ran eich pwynt ynghylch y fargen ddur, clywais y cyhoeddiad hefyd gyda diddordeb, ac nid yw'r manylion yn gwbl glir ac maen nhw’n dod i'r amlwg, ond rwy'n credu mai'r man cychwyn cyntaf yw bod dileu o leiaf rhai, os nad pob un, o'r tariffau a osodwyd gan gyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau yn newyddion da. Rwy'n credu y gwnaeth hynny gychwyn mesurau ad-daliadol annefnyddiol rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae angen i ni ddeall beth mae hynny'n ei olygu i'r DU. Mae'r DU y tu allan i'r fargen ar hyn o bryd. Yn nhermau datgarboneiddio eang, mae'n newyddion da bod economïau mawr yn dweud, 'Rydym ni eisiau blaenoriaethu a manteisio ar ddur sy'n cael ei gynhyrchu mewn ffordd lanach a gwyrddach ac atal dur budr rhag cael ei fewnforio'—yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Arlywydd Biden—'ac atal taflu dur'. Maen nhw yn sicr yn bethau y mae'r sector dur yma yng Nghymru yn pryderu amdanyn nhw o ran y DU. Rwyf i'n awyddus iawn i weld y trafodaethau masnach a ddylai ddigwydd gyda'r Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd i adlewyrchu'r telerau hynny sydd ar gael i gynhyrchu dur yn y DU cyn gynted â phosibl. Oherwydd rwy'n credu bod gennym ni stori debyg i'w hadrodd o ran cynhyrchu dur yn yr Unol Daleithiau a'r UE, ac yn sicr nid wyf i eisiau i'r sector fod o dan anfantais yma. Ond os gallwn ni gael y mynediad cynnar hwnnw i'r un telerau, rwy'n credu ei fod yn newyddion da i'r sector dur yma yn y DU, ac i swyddi yng Nghymru, wrth gwrs.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 5:00, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf i'n sicr yn croesawu'r uchelgais i adeiladu economi gryfach a gwyrddach yma yng Nghymru. Rhan allweddol o sicrhau a gweld llwyddiant yr economi werdd honno yw'r rhan y gall awdurdodau lleol ei chwarae wrth gyflawni hyn. Yng ngoleuni hyn, roeddwn i wedi siomi o weld nad oedd sôn am awdurdodau lleol a chynghorau yn eich datganiad heddiw, felly efallai yr hoffech chi sôn amdanyn nhw mewn ymateb i fy mhwyntiau. Yn wir, clywais i chi'n sôn am rai o'r cyfleoedd hydrogen yn y gogledd, ac rwy'n nodi heddiw y cyhoeddiad rhagorol gan Gynghrair Mersi Dyfrdwy eu bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith dal a storio carbon tanddaearol. Dyfynnaf o'r datganiad:

'Bydd rhoi CCUS ar waith o 2025 yn diogelu dyfodol miloedd o swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel yn Mersi Dyfrdwy ac ardaloedd economaidd cysylltiedig yng Ngogledd Cymru'.

Maen nhw’n mynd ymlaen i ddweud y bydd yn creu tua 6,000 o swyddi newydd oherwydd y buddsoddiad hwn mewn seilwaith hydrogen. Rwy'n credu ei bod yn enghraifft wych o bedwar cyngor yn cydweithio â sefydliadau eraill i helpu i sicrhau economi wyrddach a ffyniannus yng ngogledd Cymru. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag economi wyrddach, a pha ran ydych chi'n credu y gallen nhw ei chwarae wrth gyflawni hyn? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:02, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau. Rwyf i wedi sôn sawl gwaith, yn ystod nid y datganiad yn unig ond  yn y cwestiynau hefyd, y croeso i'r buddsoddiad pellach yn y prosiect HyNet y maen nhw am ei gyflawni ar draws gogledd-orllewin Lloegr a thrwy ogledd Cymru. Rwyf i wedi cael sgyrsiau rheolaidd ag awdurdodau Lloegr yn ogystal ag awdurdodau Cymru sy'n rhan o Gynghrair Mersi Dyfrdwy, ac rwy'n falch bod hynny'n ymddangos yn rhywbeth ychwanegol yn hytrach nag yn gystadleuol â'r gwaith ehangach y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ei wneud, lle mae'r chwe awdurdod lleol wedi cytuno ar amrywiaeth o flaenoriaethau i helpu i gefnogi a thyfu economi Cymru ar draws gogledd Cymru. Mae gen i berthynas dda iawn ag awdurdodau lleol. Rwy'n eu hystyried yn rhan annatod o'n huchelgeisiau ar gyfer yr economi, gan gynnwys gwneud yr economi yn wyrdd, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith gyda phob un o'r partneriaethau rhanbarthol sy'n bodoli.

Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a phob un o'r bargeinion twf, a'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd sy'n bodoli, yn fy marn i, yn fynegiant ymarferol o'n parodrwydd a'n hawydd i barhau i weithio'n rhanbarthol. Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid hanfodol wrth wneud hynny. Dyna pam yr wyf i wedi comisiynu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel un o fy nghamau cynnar yn y swydd, i barhau i weithio ar ddyfodol datblygu economaidd rhanbarthol, ac rwy'n sicr yn credu y byddwn yn gweld mwy i ddod yn y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Wrth gwrs, byddai'n well pe baem yn gallu cael mwy o sicrwydd yn y fframwaith o ran sut y gallwn gydweithio heb fod yr arian wedi ei egluro eto gan Lywodraeth y DU—y cronfeydd codi'r gwastad. Ond rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gyfleoedd i siarad amdanyn nhw yn y dyfodol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:04, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i eisiau cyfeirio, Gweinidog, at eich pwynt ynghylch tomenni glo, ac roeddwn i eisiau gofyn a wyf i ar ddeall o'ch sylwadau a'r datganiadau fod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf felly wedi methu â dod i gytundeb ynghylch pwy fyddai'n talu am y gwaith hwn. Onid yw'n bryd felly i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith am yr union reswm y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich datganiad, heb sôn am resymau diogelwch ar gyfer y cymunedau sy'n byw yn eu cysgodion?

Roeddwn i hefyd eisiau gofyn am y diwydiant arfau yma yng Nghymru, diwydiant sy'n parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a diwydiant sydd, yn ôl Gwyddonwyr dros Gyfrifoldeb Byd-eang, yn un o'r allyrwyr nwyon tŷ gwydr allweddol yn y DU, gydag ôl troed carbon yn bychanu llawer o wledydd llai y blaned. Un cwestiwn amlwg sy'n dod i'r meddwl felly yw pam mae'r sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn parhau i dderbyn cymorth ariannol uniongyrchol ac anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid drwy sawl ardal fenter sy'n gweithredu fel canolfannau ar gyfer y sector. A wnaiff y Gweinidog felly amlinellu a oes cynlluniau i dynnu arian yn ôl oddi wrth ddiwydiannau yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem yr ydym ni i gyd yn ceisio mynd i'r afael â hi fel cymdeithas, a buddsoddi yn lle hynny mewn diwydiannau sy'n rhan o'r ateb?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:05, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

O ran tomenni glo, nid ydym yn fodlon â'r sefyllfa bresennol gyda Llywodraeth y DU, sydd hyd yma wedi gwrthod cyflawni eu rhwymedigaeth o ran y gyfran o gyfrifoldeb sy'n amlwg nad yw wedi ei datganoli ar gyfer tomenni glo a realiti'r her maen nhw’n ei chyflwyno, yn ogystal â gwrthod cydnabod bod cyfle economaidd yma mewn gwirionedd. Bellach, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllideb ei hun. Byddwch chi ac Aelodau eraill, wrth gwrs, yn craffu arnom o ran hynny dros y misoedd nesaf, ond byddan nhw yn ddewisiadau anodd iawn i ni. Mae her bob amser, onid oes, pan na chyflawnir cyfrifoldebau nad ydyn nhw yn amlwg wedi eu datganoli, o ran a ydym yn gwneud dewis i geisio gwneud iawn am hynny, fel yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol, er enghraifft, o ran band eang, lle nad yw wedi ei ddatganoli ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am lenwi rhai o'r bylchau. Y realiti yw bod cost wirioneddol i hyn, ac ni ellir gwario arian yr ydym ni’n ei wario yn y meysydd hynny mewn meysydd eraill. Gallaf i ddweud wrthych yn onest, ers dechrau'r cyni ariannol hyd heddiw, y bu llawer iawn o ddewisiadau anodd y bu'n rhaid i Weinidogion eu gwneud wrth gydbwyso ein cyfrifoldebau â'r gyllideb gyfyngedig sydd gennym, ac mae'n ymddangos bod tomenni glo yn un ystyriaeth o'r fath ar gyfer y dyfodol.

O ran eich pwynt ynglŷn â meysydd gweithgynhyrchu uwch lle gellir defnyddio rhai o ran diwydiannau amddiffyn, rwy'n credu bod y ffordd yr ydych chi wedi mynegi eich cwestiwn braidd yn ddifrïol. Nid wyf i'n credu y byddai'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant awyrofod ac eraill yn croesawu'r ffordd y cafodd ei eirio na'i fynegi. Rwy'n credu bod pwynt teg o fewn hynny ynghylch sut yr ydym ni yn gweld datgarboneiddio yn y sector hwn. Mewn gwirionedd, ar fy ymweliad â'r ganolfan gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd ac Airbus, ac yn ystod fy sgyrsiau yno, maen nhw eisoes yn meddwl yn awr ac yn gweithredu ac yn buddsoddi mewn datgarboneiddio'r ffordd y mae'r sector hwnnw yn gweithio. Rwy'n credu bod hynny yn dangos bod busnesau sy'n cydnabod bod ganddyn nhw ran mewn datgarboneiddio ac mewn sicrhau bod y diwydiant yn goroesi, ac mae gennym ni ran yn y gwaith o'u cefnogi yn y trawsnewid hwnnw. Rwy'n gobeithio, efallai yn y dyfodol, y gallem ni gael sgwrs wahanol ac efallai ffordd lai difrïol o ddisgrifio'r hyn sy'n her wirioneddol.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, er ein bod ni i gyd yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i drawsnewid economi Cymru yn un wyrddach ar gyfer dyfodol ein planed, bydd gan lawer o fy etholwyr i ym Mhort Talbot ofnau dilys ynghylch yr hyn y gallai hynny ei olygu ar gyfer dyfodol y diwydiant dur a'r gymuned gyfagos. Rwy'n gwybod er bod llawer o Aelodau eraill wedi sôn am y diwydiant dur, ei bod hefyd yn bwysig cofio y gall y diwydiant chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau ein hôl troed carbon hefyd drwy gynhyrchu pethau fel tyrbinau gwynt a cherbydau gwyrddach. Mae Tata ei hun wedi cymryd camau dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod ei systemau cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd, ond bydd angen i bron pob diwydiant wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod os ydym ni am gyrraedd ein targedau. A gaf i ofyn pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant dur ym Mhort Talbot yn parhau i fod yn gystadleuol yn economaidd ar raddfa fyd-eang ac yn diogelu'r economi leol, wrth sicrhau ei bod yn chwarae ei rhan mewn newid i economi wyrddach hefyd?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:08, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Cefais i gyfle i ymweld â'r gwaith dur ym Mhort Talbot gyda'r Aelod etholaeth sydd yn y Gadair ar hyn o bryd yn y sesiwn benodol hon. Rwyf i wedi cael sgyrsiau nid yn unig â'r cwmni hwnnw ond â'r cynhyrchwyr dur mawr eraill yng Nghymru yn uniongyrchol am yr hyn y maen nhw am ei wneud, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod rheidrwydd i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu. Mae her a chyfle a dyna pam rwy'n dal ati i siarad am drawsnewid cyfiawn. Oherwydd gallech chi ddatgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu a gallech chi wneud hynny mewn ffordd nad yw ar draul llawer o swyddi, neu gallech chi ddatgarboneiddio'r sector dur a gallech chi weld colled cyflogaeth sylweddol. Ond mae pob cwmni yn edrych ar sut mae'n edrych eto ar ei brosesau, sut y mae'n edrych ar yr hyn y mae'n ei ystyried yn gystadleuaeth annheg, sef pam rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jack Sargeant am y fargen rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd yn bwysig. Pan fyddwch chi'n clywed yr Arlywydd Biden yn sôn am fod eisiau gwneud rhywbeth am ddur a dur budr yn cael ei ollwng, mae hynny'n rhywbeth y bydd gweithwyr dur a phobl sy'n rhedeg y busnesau dur hynny yn ei gydnabod, ac mae her allweddol yno i sicrhau bod gennym ni gystadleuaeth sydd ar lefel wastad sydd ag uchelgais a rennir i weld datgarboneiddio yn y sector hwnnw ond nad yw'n caniatáu i gynhyrchion dur eraill sydd ag ôl troed carbon uwch gael eu defnyddio yn y sector yma hefyd. Gan fy mod i'n cydnabod bod dur yn bwysig ar gyfer y dyfodol, nid yn unig o ran sut yr ydym yn cynhyrchu ffynonellau pŵer yn y dyfodol, ond mewn adeiladu ac ystod eang o feysydd eraill hefyd. Felly, rwy'n glir iawn bod yn rhaid i ddur gael dyfodol sylweddol yn economi Cymru a'r DU yn ehangach.