– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi—a galwaf ar Weinidog yr Economi—ar yr economi sylfaenol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, fe welsom ni gynnydd mawr yn ein cefnogaeth ni i'r economi sylfaenol yma yng Nghymru. Mae hon yn flaenoriaeth ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ac rydym ni wedi canolbwyntio ein sylw ni ar fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau a chynhyrchion sy'n effeithio ar ein bywydau ni bob dydd: y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio, a'r gofal a gawn ni. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod pedwar o bob 10 swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwyd, yn perthyn i gategori'r economi sylfaenol. Ac mae meithrin yr economi sylfaenol yn rhan sylfaenol o'n cynlluniau ni i'r dyfodol. Hon yw'r sail i'n cenhadaeth ni o ran cydnerthedd ac adferiad economaidd. Yn yr uwchgynhadledd economaidd y mis diwethaf, fe roddais i amlinelliad o'r weledigaeth sydd gennyf i ar gyfer economi Cymru ac fe eglurais i'r swyddogaeth sydd gan ein heconomi ni o ran creu lleoedd llewyrchus ledled Cymru—lleoedd y gall pobl ifanc wireddu eu huchelgeisiau ynddyn nhw a chyrraedd eu potensial, lleoedd lle gall unrhyw un lansio a datblygu busnes ffyniannus.
Mae'r economi sylfaenol yng Nghymru, fel y dywedais i, yn cyfrif am bedair o bob 10 swydd, ond mae'r rhain yn cwmpasu ystod eang o broffesiynau a chyfleoedd llwybr gyrfa. Bydd cadarnhau'r economi sylfaenol yn gwella ac yn cyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth a bydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gadw doniau Cymru yng Nghymru i warchod bywyd lleol a'r economïau yn ein dinasoedd ni ac yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol.
Un o elfennau hanfodol yr economi sylfaenol yw gofal cymdeithasol. Mae'n galluogi cymaint o bobl i fyw bywydau llawn, os ydyn nhw'n rhai sy'n cael gofal, yn berthnasau neu ffrindiau agos i'r rhai sy'n cael gofal, yn ogystal â'r nifer sylweddol o bobl sy'n gweithio yn y sector. Mae'r sector yn wynebu straen ar ei adnoddau na welwyd ei debyg erioed, ac felly rydym ni'n sianelu cymorth i geisio helpu i fynd i'r afael â'r her hon.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael ei gefnogi i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen genedlaethol i ganolbwyntio ar hyn sy'n helpu darparwyr gofal i leihau costau recriwtio, a rhoi cynnig o gyfleoedd i ddychwelyd i'r gwaith i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth gyflogaeth a'r rhai sy'n wynebu newidiadau annisgwyl mewn bywyd, fel diswyddiadau.
Rydym ni'n cefnogi Cyngor Sir y Fflint i fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gomisiynu gofal yn uniongyrchol gan ficro-ofalwyr. Fe allai recriwtio micro-ofalwyr mewn pentrefi anghysbell helpu i adeiladu economïau cefn gwlad a chynnig mwy o atebion lleol, fe all leihau gofynion teithio ac allyriadau carbon cysylltiedig hefyd, yn ogystal â chefnogi'r Gymraeg wrth gwrs. Fe allai helpu i annog twf busnesau sy'n perthyn i Gymru, ac mae hwn yn ddull y byddwn ni'n ceisio ei hyrwyddo ledled Cymru.
Rydym ni hefyd yn helpu'r sector manwerthu i ymateb i arferion siopa newydd drwy roi cyfrwng electronig ar waith i helpu i wella presenoldeb digidol manwerthwyr llai a helpu hefyd i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer lleihau effaith carbon. Mae'r datblygiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn tri awdurdod lleol i ddechrau, ac rwy'n disgwyl i hynny gael ei ddilyn i hynny gael ei gyflwyno trwy Gymru gyfan wedyn.
Mae'r pandemig ac effaith barhaus Brexit wedi tanlinellu pwysigrwydd cadwyni cyflenwi bwyd lleol sy'n rhai cadarn. Mae bwyd yn hanfodol yn yr economi sylfaenol ac fe all helpu i ddod â manteision niferus, gan ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, yn ogystal â gwella iechyd a lles. Fe all chwarae rhan bwysig hefyd wrth helpu i wireddu ein huchelgeisiau sero-net ni. Rydym ni wedi parhau i gefnogi gwaith i helpu i feithrin y gallu i gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a choginio a anelir tuag at gynhyrchwyr bwyd lleol.
Rydym ni'n cefnogi cynhyrchu amaethyddol mewn amgylchedd rheoledig. Fe ddylai hyn helpu i wella ein gallu i dyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn ac fe fydd hynny'n helpu busnesau bach i gystadlu yn deg o ran darpariaeth bwyd yn lleol, ar yr un pryd â chyfrannu at dwf ein heconomi werdd ni. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynyddu'r swm o fwyd o Gymru a roddir ar blatiau'r cyhoedd yma. Rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys cyngor Caerffili, sy'n arwain ar y fframweithiau bwyd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda chyfanwerthwyr a chyflenwyr bwyd mawr i'w helpu i bontio tuag at fwy o gyflenwad o Gymru.
I feithrin yr economi sylfaenol yn llwyddiannus ac ar y cyd, fe fydd yn rhaid i ni gydnabod y manteision ehangach sy'n deillio o brynu yn lleol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwaith teg, cryfhau cymunedau a lleihau ein heffaith ni o ran carbon, yn ogystal â gwella llesiant. Mae caffael cyhoeddus werth tua £7 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n bwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus yn cael ei wario yma ac yn hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw.
Rwy'n falch o amlinellu, drwy gymorth a ddyrannwyd ar gyfer rhaglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, fod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd o fis Ebrill i fis Hydref yn ystod y flwyddyn. Mae gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gontractau'r GIG ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i brif ffrydio hyn ymhellach.
Rydym wedi gweld blaengynllun contractau GIG Cymru am y ddwy flynedd nesaf ac mae llywodraeth leol wedi creu llif contractio blaengar a chydweithredol. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda'n gilydd i egluro cyfleoedd contractio ar gyfer yr economi sylfaenol a'r cymorth i fusnesau a fydd yn rhoi pob cyfle i'n cyflenwyr lleol allu ennill y cytundebau hyn. Byddwn yn annog cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau eraill sy'n eiddo i weithwyr i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwariant cyhoeddus.
Mae gwelliant o ran gwelededd y cyfleoedd contractio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â rhwystr sylweddol, sydd yn draddodiadol wedi cyfyngu ar y cyfle sydd gan gyflenwyr lleol i gael gafael yn llwyddiannus ar gaffael cyhoeddus. Fe all gofynion eraill hefyd, gan gynnwys achredu a chymwysterau, gyfyngu ar gyfle busnesau lleol i ennill cytundebau. I helpu i fynd i'r afael â hyn, rwy'n gallu cadarnhau y byddaf i'n lansio cronfa i gefnogi cwmnïau lleol y mis hwn; i ddechrau, fe fydd yn rhoi cymorth i fusnesau yn y sectorau bwyd, gofal cymdeithasol, ac ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fe fydd y gronfa £1 miliwn sy'n cefnogi cwmnïau lleol yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her. Yn ogystal ag achredu a chymwysterau, fe fydd y gronfa yn hyrwyddo'r ystod eang o gyfleoedd y mae'r sectorau hyn yn eu cynnig o ran gyrfaoedd. Fe all hyn apelio at bob rhan o'n poblogaeth eang ac amrywiol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi gwneud peth cynnydd calonogol. Fe geir cyfle ardderchog o hyd i gyflymu twf yn yr economi sylfaenol ac ymgysylltu yn llawn â'r busnesau hynny yn ein huchelgeisiau ni i gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, y cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu, a helpu i sicrhau sero-net. I wireddu posibiliadau'r economi sylfaenol, mae angen gweithio cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, gyda busnes, y sector cyhoeddus yn fwy eang a'n partneriaid cymdeithasol ni.
Yn ystod y misoedd nesaf, fe fyddaf i'n dal ati i weithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i adeiladu ar y cydweithio trawsbortffolio a sefydlwyd eisoes a datblygu dulliau sy'n tanlinellu eto ein cydnabyddiaeth ni o gyfraniad hanfodol yr economi sylfaenol tuag at lesiant yma yng Nghymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cyflwyno datganiad ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sylfaenol heddiw. Wrth gwrs, mae'r economi sylfaenol mor hanfodol bwysig i'r ffordd yr ydym ni'n byw; fel y dywedwyd, mae'n cwmpasu popeth o'r gofal cymdeithasol sydd ar gael yn ein cymunedau ni i'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, ac felly mae hi'n galonogol iawn i ni gael gweld Llywodraeth Cymru yn ymgorffori iaith yr economi sylfaenol a'i hegwyddorion yn ei pholisïau economaidd.
Mae datganiad heddiw wedi tynnu sylw at rai o'r prosiectau a ariannwyd drwy gronfa her yr economi sylfaenol, ac fe wn i fod effaith y cyllid hwnnw wedi arwain at ddatblygu rhai prosiectau sy'n wirioneddol arloesol. Mae'r datganiad yn ei gwneud hi'n glir y bydd cronfa cwmnïau lleol gwerth £1 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant y gronfa her, sy'n gadarnhaol iawn. Efallai mai dyma'r amser, felly, i adolygu'r gronfa her i sicrhau bod yna wir werth am arian a bod economïau lleol yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am fonitro effeithiolrwydd y gwariant drwy gronfa her yr economi sylfaenol ac a wnaiff ef gadarnhau hefyd y bydd yn cyhoeddi asesiad o'r prosiectau hynny sydd wedi cael cyllid? Ac a wnaiff ef egluro hefyd a fydd y gronfa sy'n cefnogi cwmnïau lleol ar hyn o bryd yn disodli'r gronfa her neu, yn wir, yn gweithio ochr yn ochr â hi?
Mae datganiad heddiw yn sôn am gaffael blaengar, ac mae hwnnw'n rhywbeth y mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i'n awyddus i'w weld yn digwydd ledled Cymru. Mae angen i ni weld gwelliannau i'n harferion o ran caffael i sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gytundebau. Mae'r Gweinidog yn dweud ei fod ef yn benderfynol o fwrw ymlaen â mentrau sy'n sicrhau bod ein harian cyhoeddus ni'n cael ei wario yma a hyrwyddo cydnabyddiaeth ehangach o swyddogaeth yr economi sylfaenol wrth helpu i gynnal a chryfhau ein ffyrdd unigryw o fyw, ac rwy'n falch o glywed hynny. Efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni am raglen gaffael economi sylfaenol GIG Cymru, ac o gofio bod gwerth cymdeithasol yn faen prawf gorfodol erbyn hyn yn llawer o gytundebau'r GIG, a wnaiff ef ddweud wrthym ni sut y bydd yn monitro hyn i sicrhau bod contractau yn cael eu dyfarnu i'r busnesau priodol?
Wrth gwrs, er mwyn nodi cyfleoedd i leoleiddio gwariant, mae'n hanfodol bod cymorth busnes yn cael ei adolygu mewn gwirionedd. Roedd y Gweinidog blaenorol o'r farn y dylid cynnal adolygiad o gymorth busnes, gan gynnwys Busnes Cymru, i sicrhau y gallai cwmnïau o Gymru gyflenwi cytundebau cyhoeddus a bylchau cyflenwad. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal, ac os felly, a wnaiff ef hefyd rannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw gyda ni?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach am safbwynt economi sylfaenol i lywio'r gwaith o lunio polisïau, ac rwy'n credu bod budd i'r syniad hwn. Un agwedd ar eu safbwynt yw annog busnesau mwy i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint mewn sectorau sy'n cael eu dominyddu gan gwmnïau mawr sydd â dylanwad anghymesur. Yr enghraifft a gaiff ei defnyddio ganddyn nhw, wrth gwrs, yw'r diwydiant bwyd, ac mae datganiad heddiw hefyd yn rhoi ystyriaeth i bwysigrwydd y sector bwyd. Er enghraifft, rwy'n falch o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei ariannu i archwilio'r gwaith o ddatblygu cyfleuster rhewi a anelir at gynhyrchwyr bwyd lleol. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n helpu cynhyrchwyr lleol yn y rhanbarth ac yn cadw mwy o'r gwerth ychwanegol a ddaw yn sgil cynhyrchu yn lleol hefyd.
Mae'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o barc bwyd sir Benfro yn Hwlffordd, sy'n enghraifft wych o ffordd o estyn cyfleoedd i gynhyrchwyr gaffael rhandiroedd i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu bwyd a fydd yn creu gwerth ychwanegol, ac, yn wir, yn creu swyddi newydd yn y rhanbarth. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu safbwynt yr economi sylfaenol? Ac a wnaiff ef ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau fel parc bwyd sir Benfro a sicrhau bod ymarfer da fel hyn yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill?
Efallai fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar allu a photensial busnesau mewn tair cymuned yng Nghymoedd y de: Treharris ym Merthyr Tudful, Treherbert yn Rhondda Cynon Taf, a Chwmafan yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd yr adroddiad hwnnw'n canfod bod angen anelu cymorth at ficrofusnesau gyda chyfathrebu a rhwydweithiau llawer mwy effeithiol rhwng y busnesau eu hunain a rhwng y busnesau, llywodraeth leol, a Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud mwy wrthym ni am sut mae Llywodraeth Cymru am rymuso ei chyfathrebu a'i rhwydweithiau gyda busnesau, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r economïau lleol yn eiddil.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a wnaeth Cyngor Dinas Preston i ddatblygu cyfoeth cymunedol, sydd wedi llwyddo i hybu twf cynhwysol yr economi leol ers 2012, ac fe allwn ni ddysgu gwersi o'r ffordd y mae eraill yn datblygu'r economi sylfaenol. A chan fod Llywodraeth Cymru hefyd yn berchen ar dir ac eiddo sylweddol, mae'n hanfodol ei bod yn defnyddio'r asedau hynny i sicrhau manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa waith a wnaethpwyd i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hasedau ei hun i ddatblygu'r economi sylfaenol yng Nghymru? Ac, fel y mae'r Gweinidog wedi ein hatgoffa ni heddiw, mae'r economi sylfaenol yn gyfrifol am greu pedair o bob 10 swydd a £1 ym mhob £3 a wariwn ni, felly nid ydym ni'n sôn am symiau bach o arian yn y fan hon. Wrth gwrs, mae pandemig COVID wedi effeithio ar gadernid rhai cymunedau, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n deall pa mor fawr yw'r effaith a fu ar yr economi sylfaenol. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi asesiad o effaith COVID-19 ar yr economi sylfaenol.
Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno'r economi sylfaenol ar raddfa fwy yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt am y gronfa her a'r asesiad. Cefnogwyd 52 o brosiectau, daeth 47 o'r rhain i ben ym mis Mawrth, ac mae asesu'r rhain wedi helpu i lywio'r gweithgaredd yr ydym ni'n symud ymlaen ag ef nawr hefyd. Mae digon, er hynny, i'w ddysgu o'r gymuned ymarfer, yn fewnol, y mae Cynnal Cymru wedi helpu ei gynnal i ni, ac fe fyddaf i'n sicr yn ystyried a fyddai hi'n gwneud synnwyr i gyhoeddi rhywbeth, datganiad ysgrifenedig efallai, a fyddai'n rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r gronfa her a nodi'n fwy eglur sut mae hynny wedi helpu i lywio'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, a fydd yn datblygu llawer o'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cychwynnol y gronfa her, a ddeilliodd, wrth gwrs, o gytundeb cyllideb blaenorol.
Rwy'n credu i chi ofyn wedyn am fwyd fel sector, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi gwneud dewisiadau ynglŷn ag ef eisoes, gan fuddsoddi yn y sector bwyd, nid yn unig yn y gorllewin ond ledled Cymru. Dyma un o'r manteision cadarnhaol a welaf i ar gyfer dyfodol economi Cymru ynghyd â dealltwriaeth barhaus pobl ynglŷn â tharddiad cynnyrch a sut rydym ni'n ei ddefnyddio wedyn. Rwy'n credu bod cyfle mawr mewn gwirionedd i ddwyn perswâd ar fwy o bobl i ddefnyddio bwyd o Gymru yn eu dewisiadau nhw eu hunain, yn ogystal â dewisiadau caffael cyhoeddus eraill yr wyf wedi sôn amdanyn nhw hefyd. Felly, fel y dywedais i, bwyd, y rhaglen ôl-osod, a gofal cymdeithasol yw'r tri maes yr ydym ni'n anelu'r gronfa cwmnïau lleol tuag atyn nhw i ddechrau, i geisio bwrw ymlaen â rhai o'r gwersi ynglŷn â sut yr ydym ni'n deall yr ystyr ehangach o werth cymdeithasol. Felly, nid ymwneud â'r pris yn unig y mae hyn, ond â gwerth yr hyn a wnawn ni pan fyddwn ni'n gwario arian cyhoeddus. Rwy'n disgwyl y byddwn ni'n dysgu mwy o'r cam nesaf hwn wrth i ni barhau i gyflwyno hyn. Ac, mewn sawl ffordd, mae'n debyg bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, o safbwynt allanol, yn haws ei deall na'r economi sylfaenol. Mae'n gwneud yr union beth y mae'n dweud y bydd yn ei wneud: cefnogi cwmnïau lleol er mwyn iddyn nhw fod yn llwyddiannus, i gael mwy o fantais oherwydd caffael cyhoeddus, i gael y cymorth a fydd yn darparu o ran swyddi lleol, ond y pwynt ehangach hwnnw hefyd am ein heffaith ni ar y byd yn fwy eang.
Ac o ran y GIG, sy'n un arall eto—. Ac rwyf i'n gallu gweld hyn o safbwynt bod yn Weinidog iechyd, ac yn gallu edrych ar hyn eto o safbwynt yr economi sylfaenol ac yn gallu bwrw golwg arall o safbwynt caffael lleol, a nawr yn fy swydd bresennol. Mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig eisoes ar ddull economi sylfaenol o fewn y GIG, felly rwyf i o'r farn ei bod hi'n galonogol iawn bod mwy nag £11 miliwn wedi cael ei wario o fewn chwe mis gyda chwmnïau o Gymru nad oedden nhw wedi ymgysylltu o'r blaen ac yn cyflawni gwaith drwy gaffael y GIG. Felly, mae hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac rwy'n disgwyl i ni allu gwneud mwy yn raddol yn y maes hwnnw yn y dyfodol. Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud y pwynt yn rheolaidd yn fewnol yn y Llywodraeth, yn ogystal ag yn allanol, ynghylch sut a ble y cewch chi'r arian a wariwyd ar gontractau bwyd o fewn y GIG, ond yn llawer ehangach hefyd, ac o ble y daw'r cyflenwad hwnnw. Felly, fe geir mwy o waith y gallwn ni ei wneud yn fy marn i, nid yn unig o ran bwyd ond gydag ystod eang o feysydd eraill hefyd. Ac fe fydd hynny'n golygu monitro a deall llwyddiant a sicrhau, unwaith eto, fod y gwersi a gaiff eu dysgu oherwydd hynny'n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.
Rwyf i o'r farn fod hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am safbwynt yr economi sylfaenol, felly mae yna nifer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud. Mae gennym ni ddull cymunedol o ddatblygu cyfoeth yng Ngwent sy'n ystyried gwersi o Preston ac o fannau eraill, a'n partneriaid allanol yn y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, a elwir fel arall yn CLES. Mae honno'n edrych ar ddatblygu cyfoeth cymunedol ledled Gwent, ond mae hynny'n bendant yn cynnwys y GIG, ac felly mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn ymwneud â hynny i raddau helaeth wrth geisio deall yr hyn y gallem ni ei wneud yn well a'u dealltwriaeth nhw o'u heffaith nhw yn eu heconomi leol a'r cymunedau lle maen nhw nid yn unig yn darparu gwasanaethau ond yn gwario llawer iawn o arian cyhoeddus.
Fe fydd hynny hefyd yn cynnwys golwg arall gennym ni ar y cymorth busnes yr ydym ni'n ei roi—y cymorth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu, ond pan ydym ni'n sôn am y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, fe fydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â chyngor busnes i'r busnesau hynny. Felly, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni eu helpu nhw i ddeall sut y gallan nhw fynd drwy'r giât a bod yn fwy llwyddiannus ym maes caffael yn ei ystyr ehangaf. Roeddech chi'n trafod ychydig ar asedau Llywodraeth Cymru—nid asedau materol yn unig yw'r rhain, wrth gwrs; rwyf i o'r farn mai un o'n harfau mwyaf ni yw'r hyn yr ydym yn barod i'w wneud yn raddol gyda chaffael a'n dealltwriaeth ni o'r hyn yr ydym ni'n disgwyl i bobl ei wneud, yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, ond yn ehangach ar draws y sector cyhoeddus hefyd.
Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i'w bwynt ef am COVID-19 ac effaith hynny ar yr economi sylfaenol ac ym mha fodd neu beidio, ond rwyf i'n ystyried yn gliriach am sut mae'r cyfyngiadau a gawsom ni wedi cael effaith ar fusnesau, a llwyddiant yr ymyriadau a wnaethom ni'n fwy cyffredinol. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn y cyswllt hwnnw, ond rwyf i'n rhoi mwy o ystyriaeth i'r adferiad, a sut rydym ni am sicrhau bod yr economi sylfaenol yn tyfu mewn gwirionedd—nid yn unig yn goroesi, ond yn tyfu'r sector gyda swyddi â chyflog gwell ac amodau gwell i gwmnïau lleol a busnesau lleol.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, wrth gwrs, i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Mae ymagwedd macro-economaidd traddodiadol at ddatblygiad economaidd wedi methu â sicrhau cynnydd economaidd na lles cymdeithasol o fewn terfynau amgylcheddol cynaliadwy nac wedi gwasgaru'r cynnydd hwnnw ledled broydd Cymru. Mae'r model presennol sy'n dibynnu ar dwf parhaus, cronni cyfalaf, a thynnu allan er elw yn amhosibl ei gynnal ar blaned â therfynau gydag adnoddau â therfynau.
Gan droi at y datganiad, mae ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyfleustodau cymdeithasol wrth ddyfarnu contractau—yr wyf i'n ei groesawu yn llwyr—yn peryglu gweld rhai busnesau yn aralleirio eu ceisiadau i ymgorffori'r gofynion newydd ar bapur er mwyn gwneud hynny'n unig, yn hytrach na dangos sut maen nhw am ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu harferion gwaith arfaethedig. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod rhag hyn?
Mae'n rhaid i ni symud oddi wrth obsesiynau gyda sectorau gwerth uchel, a mewnfuddsoddiad hefyd, tuag at farn fwy cyfannol sy'n canolbwyntio mwy ar yr economi sylfaenol. Gellid cyflawni hyn drwy ffrwyno grym adeiladu cyfoeth cymunedol a sefydliadau angori sy'n annog busnesau sy'n eiddo lleol neu fusnesau sy'n cael eu gwarchod yn gymdeithasol, sy'n fwy tebygol o gyflogi, prynu, a buddsoddi yn lleol yn hytrach na thynnu cyfoeth allan. Yn Preston—fel clywsom ni heddiw eisoes—fe ddefnyddiwyd adeiladu cyfoeth cymunedol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bresennol yn y rhanbarth a sicrhau bod datblygu economaidd yn yr ardal yn cael ei rannu yn fwy cyfartal ymhlith y trigolion. Oherwydd yr ymagwedd hon, fe wariwyd £4 miliwn yn ychwanegol yn lleol gan gyngor Preston dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae'r ffaith bod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd i'w groesawu, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i inni fynd ymhellach fyth. Mae beth da bod y Gweinidog wedi cyhoeddi'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o fanylion am y gronfa honno, ac yn adleisio galwadau Paul Davies am adolygiad o'r gronfa her. Ac ymhellach, a wnaiff y Gweinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu patrwm Cymreig o gaffael cyhoeddus lleol, sydd wedi ei adeiladu ar yr economi sylfaenol, trwy osod nod penodol o gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus i 75 y cant o gyfanswm gwariant cyllideb caffael y Llywodraeth?
Mae'n rhaid i strategaeth ddiwydiannol werdd newydd nid yn unig gefnu ar arferion carbon-ddwys, ond pontio hynny yn deg gyda swyddi gwyrdd parod a gwarant o swyddi lleol a fydd yn helpu i adfywio economïau lleol cefn gwlad ac ardaloedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Yn dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban, fe ddylid datblygu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newid diwydiannol gwyrdd, ac fe ddylem ni sefydlu cynghrair o fusnesau yng Nghymru—sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru—i ganolbwyntio ar gydlynu camau gweithredu, nid polisïau yn unig, a fydd yn sicrhau twf cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol. Mae pontio teg yn allweddol i’r economi sylfaenol yng Nghymru, gan fod cynifer o sectorau yn yr economi sylfaenol yn dioddef oherwydd materion sy'n deillio o gyflogau fesul awr sy'n is na'r cyfartaledd ac oriau gwaith sy'n gymharol ansefydlog. Mae hyn yn arwain at fwy o bobl yn byw mewn tlodi neu mewn perygl o syrthio i dlodi, ac mae'n cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol, ar iechyd, ac ar wariant yn yr economi leol. Rwyf i o'r farn y bydd y Siambr yn gallu dyfalu i ba gyfeiriad yr wyf i'n teithio, ond a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu comisiwn ar gyfer pontio teg neu beidio?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i gynyddu cyflogau a chynnig mwy o ddiogelwch a sefydlogrwydd oriau fod yn rhan annatod o unrhyw bolisi sy'n anelu at feithrin yr economi sylfaenol, ac fe all hynny ein helpu ni i fynd i'r afael â rhai o'r materion recriwtio hynny a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei ddatganiad. Yn y gwasanaethau bwyd a diod, llety a manwerthu, er enghraifft, mae gweithwyr yn cael o leiaf £3 yr awr yn llai na'r gweithiwr cyfartalog yng Nghymru, ond mae'r sectorau hyn yn cyflogi tua phedwar o bob 10 o holl weithwyr Cymru. Yn y sectorau manwerthu, bwyd, llety, a gofal cymdeithasol, mae hyd yn oed y gweithwyr sy'n cael eu talu'r cyflog gorau yn ennill llai na £500 yr wythnos. Pa fesurau a wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i gynyddu enillion ac oriau yn yr economi sylfaenol, ac a yw'r Gweinidog wedi ystyried sut y gallem ni ymgorffori wythnos waith pedwar diwrnod yn yr economi sylfaenol? Fe soniais i am gaffael yn gynharach—wel, mae cyfle yma i ddefnyddio Deddf gwaith teg Cymru ac ysgogi wythnosau gwaith byrrach drwy gynnwys hynny yn y strategaeth gaffael, sydd, wrth gwrs, yn gwbl briodol, yn ôl adran 60 Deddf Cymru 2006.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn yr economi sylfaenol yn peri pryder hefyd, gan fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mwyaf i'w weld yn y diwydiant ynni ac mae'n sylweddol iawn hefyd mewn addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol dibreswyl. Ceir bwlch nodedig mewn enillion wythnosol gros rhwng menywod a dynion ym mhob sector o'r economi sylfaenol, sy'n gwaethygu wrth i gyflogau gynyddu. Mae ffigurau Chwarae Teg a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru rhwng 2020 a 2021 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gwaethygu yn y cyfnod hwn, gan gynyddu 0.7 y cant i fwlch cyfan o 12.3 y cant. Wrth i ni drosglwyddo at economi werddach, lle bydd llawer o'r canolbwyntio ar sectorau fel ynni, adeiladu, a thai, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r bwlch cyflog hwn a sicrhau bod pawb yn cael cyfran deg a gwaith teg yn economi werdd Cymru i'r dyfodol?
Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi clywed Luke Fletcher mwy adeiladol heddiw na'r wythnos diwethaf, pan ddywedodd ei fod yn ei ddisgrifio ei hun yn un sydd braidd yn negyddol ac yn gweld yr ochr dywyll. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch yn yr economi sylfaenol, ac fel dywedais i, fe wnaethom ni ddechrau'r gronfa her yn benodol wedi cytundeb cyllideb gyda'i blaid ef yn y Senedd flaenorol, a hynny wedyn sydd wedi caniatáu i ni ddechrau'r gronfa her.
Unwaith eto, roedd llawer o'r hyn a ddywedodd ef ar ddechrau ei gyfraniad ynglŷn â chydnabod gwerth sefydliadau angori a sut y gallan nhw gael effaith llawer mwy eang ar yr economi leol yn sicr wrth hanfod ein ffordd ninnau o feddwl, yn bendant. Dyna pam roeddem ni'n gallu dod i gytundeb ar wneud hynny o'r blaen. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr wyf i'n ystyried ei ddatblygu. Nid wyf i am geisio datod y gwersi y gwnaethom ni eu dysgu, ond sut y gallwn ni wneud mwy, a bod yn fwy—nid yn unig yn frwdfrydig, ond mewn gwirionedd yn fwy uchelgeisiol o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol. Dyna pam rwyf i'n falch iawn ein bod ni, o fewn chwe mis, wedi gwneud yr hyn a ddywedais i gyda'r £11 miliwn o wariant ychwanegol gan y GIG yng Nghymru a oedd, cyn hyn, yn mynd y tu allan i Gymru. Mae hynny'n arwyddocaol iawn, ac rwy'n disgwyl i ni allu nodi mwy o wariant gan y GIG yn dychwelyd, yn raddol, i Gymru yn y dyfodol. Fel y dywedais i wrth Paul Davies, rwy'n sicr yn ceisio monitro hynny ynghyd â'r Gweinidog iechyd, am fy mod i'n awyddus i ddeall sut rydym ni wedi gwneud hynny'n llwyddiannus yn ymarferol, ac ailosod ein hamcanion ni wedyn i wneud mwy yn y dyfodol, yn hytrach na dim ond dweud, 'Rydym ni wedi gwneud digon, gadewch i ni anghofio am hyn a symud ymlaen.' Mae hyn yn rhan o'r dyfodol, nid rhywbeth ar gyfer un datganiad yn unig ac yna symud ymlaen.
O ran eich pwynt ynghylch sut y mae angen i'r gwerth hwnnw fod yno, rwy'n credu bod eich pwyntiau chi am gaffael a'r gadwyn gyflenwi yn bwysig iawn. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth o ran caffael dros y tymor diwethaf a chyn hynny. Fe wyddom ni fod mwy o fusnesau yng Nghymru a mwy o swyddi yng Nghymru oherwydd y ffordd yr ydym ni wedi newid ein dull o gaffael. Ond yr her, unwaith eto, yw sut rydym ni yn gwneud mwy, a pheidio â bod yn amddiffynnol o ran yr hyn a wnaethom ni neu beidio hyd yn hyn, ond sut rydym ni yn dweud y gallwn ni wneud yn well eto, hyd yn oed. Mae'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yn rhan o hynny, ond dyma'r holl bethau eraill a amlinellais i'n gynharach heddiw. Y gwaith a wnaeth CLES gyda ni, y gwersi maen nhw wedi eu dysgu eisoes gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus—maen nhw'n dysgu gwersi wrth gyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol hon i ni allu deall mwy am yr hyn a wnaethom ni eisoes, er mwyn gallu symud ymlaen a gweld mwy o gynnydd. Mae hi'n wir ein bod ni'n deall mwy ar hyn o bryd, o fewn y gadwyn gyflenwi, ynghylch rhai busnesau sydd â chod post ar gyfer talu, ond nid yw'r holl weithgarwch, yn sicr, yn digwydd yng Nghymru. Mae hynny, unwaith eto, yn rhan o'n her ni—sut rydym ni'n dod i ddealltwriaeth wrth i ni fynd drwy reolaeth y gadwyn gyflenwi ei hun mai dim ond contractwyr sylfaenol a leolir yma, ond wrth i chi fynd ddau gam arall i lawr, fod y busnesau hynny a leolir yn wirioneddol yng Nghymru, a bod y swyddi yma? Ac yn hollbwysig, sut mae sefydlu busnesau Cymru ymhellach i fyny'r gadwyn honno o fewn y gadwyn gyflenwi fel mai y nhw yw'r prif gontractwyr ac nid y trydydd neu'r pedwerydd i lawr o'r brig?
Rwy'n disgwyl y byddwch chi'n gweld mwy ar hynny wrth i ni fynd drwy'r hyn y bydd y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yn ein helpu ni i'w wneud—a mwy o'r cyngor y bydd Busnes Cymru yn parhau i'w roi yn y sector hefyd. Felly, rwyf i o'r farn fod lle i ni fod yn obeithiol am ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o hyn eisoes. Enghraifft dda o'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sy'n debyg i'ch pwynt chi am yr economi werdd. Rydym ni wedi cyhoeddi £150 miliwn i'w wario gyda'r bwriad o wneud gwahaniaeth mawr i'r tai y mae pobl yn byw ynddyn nhw. Mae hynny'n rhan o'n bwriad ni, a lleihau'r biliau a'r costau i bobl sy'n byw yn y tai hynny. Ond o'r safbwynt hwn, y swyddi a fydd yn dod yn sgil hynny. Ymhle y caiff y £150 miliwn hwnnw ei wario? Sut fyddwn ni'n clustnodi cwmnïau o Gymru, busnesau Cymru, swyddi yng Nghymru a fydd yn manteisio ar yr arian hwnnw? Ac eto, mae hynny'n eglur iawn, ac mae hon yn enghraifft dda o ddull llawer mwy cydgysylltiedig rhwng fy nghydweithwyr newid hinsawdd, Julie James a Lee Waters, a'r adran hon i sicrhau ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd hynny.
Nid wyf i wedi fy argyhoeddi bod angen comisiwn ar gyfer pontio teg arnom ni o reidrwydd, ond rwyf i o'r farn bod yr hyn y gwnaethom ni ei nodi, gyda'ch pwyntiau chi am waith teg a hefyd yr amcanion sydd gennym ni gyda'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael—fe fydd gwaith teg wrth wraidd hynny. Fe fydd llawer mwy i ni siarad amdano wrth graffu ar y darn hwnnw o ddeddfwriaeth, yn ogystal â'n dull gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd eraill. Ond rwy'n cydnabod bod gennym ni fwy y gallwn ni ei wneud, yn fy marn i, o ran y ffordd yr ydym ni'n dewis gwario arian ynddi, a sut rydym ni'n dwyn perswâd ar fusnesau i ddod gyda ni—drwy anogaeth y bydd hynny ond mae hyn yn ymwneud hefyd â'r gofynion sydd gennym ni o ran sut rydym ni'n disgwyl i arian cyhoeddus Cymru gael ei wario. Ac fe fydd hynny'n cynnwys ein huchelgeisiau o ran lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, oherwydd rwy'n cydnabod, wrth i'r economi gael ei strwythuro, fod yna lawer o swyddi y mae pobl yn eu hystyried yn swyddi i ddynion neu i fenywod ac eto, mewn gwirionedd, fe wyddom ni nad oes angen i'r rhaniad hwnnw fod yn un gwirioneddol. Rydym ni'n awyddus i annog pobl i ystyried gwahanol yrfaoedd mewn ffordd gadarnhaol, yn ogystal â'n hymagwedd ni tuag at economi sylfaenol, sy'n ceisio codi cyflogau mewn meysydd lle gwyddom ni fod menywod yn aml ar gyflog isel. Felly, dyna pam rydym ni'n sôn am ofal cymdeithasol fel sector pwysig iawn, ond dyna pam y byddwn ni'n parhau hefyd i gymryd camau rhagweithiol ac adeiladol i annog menywod i ddilyn gyrfaoedd, i ennill sgiliau a hyfforddiant ar gyfer ennill y swyddi hynny, ac annog cyflogwyr i newid y gweithle.
Rwyf i am orffen ar y pwynt hwn, Dirprwy Lywydd. Fe allaf i ddweud yn onest fy mod i wedi gweithio mewn gweithleoedd gyda gwahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol dimau, a'r timau gorau yr wyf i wedi gweithio ynddyn nhw yw'r timau sy'n fwy cytbwys o ran nifer y dynion a'r menywod—y timau mwyaf pleserus, y diwylliant gorau o fewn y timau, y ffordd orau o ennyn y gorau o'i gilydd. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â bod yn awyddus i wneud y peth iawn o safbwynt ideolegol; fe geir tystiolaeth dda, nid yn unig yn fy mhrofiad i ond yn fwy cyffredinol, fod busnesau yn tueddu i wneud yn well os ydyn nhw'n gallu mynd i'r afael â'r mater hwn ynghylch pwy sy'n gweithio iddyn nhw ac, yn hollbwysig, i fod â thegwch yn y ffordd y caiff pobl eu talu am eu gwaith.
Ac yn olaf, Sarah Murphy.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi busnesau lleol yn hanfodol a dyna pam rwyf i mor hapus o weld gennych chi heddiw, Gweinidog, y buddsoddiad o £1 miliwn ar gyfer y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol. Fe wn i yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y gwahaniaeth mawr y mae busnesau lleol cryf yn ei wneud, ac y maen nhw'n hanfodol i'n cymunedau ni ledled Cymru. Rwy'n arbennig o falch y bydd y gronfa hon yn blaenoriaethu busnesau yn y sectorau bwyd, gofal cymdeithasol ac ôl-osod er mwyn optimeiddio, y mae gennym ni lawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Mae'n wir yn tynnu sylw at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad dilys i gryfhau ein heconomi sylfaenol a chan ymestyn hynny, er lles pobl Cymru gyfan. Mae'n ddrwg gen i, does gen i ddim fy sbectol. Ennill mwy o werth a gwell swyddi o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta a'r gofal a gawn ni a'r cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw ddylai hyn fod amdano, ac mae'r gronfa hon, wrth gwrs, yn ychwanegiad ac yn adeiladu ar y cyhoeddiad gan ein Gweinidog yn gynharach yr haf eleni gyda'r hwb ariannol o £2.5 miliwn i gefnogi busnesau yn yr economi leol bob dydd. Felly, fel roeddech chi'n dweud, rydym ni'n adeiladu drwy'r amser. Rwy'n awyddus iawn i wybod hefyd, fel dywedodd Luke Fletcher, fwy am y gronfa hon, sut y gall fy etholwyr i fod â rhan ynddi hi a gwneud cais cyn gynted ag y gallan nhw.
Ac yn olaf, rwy'n llwyr werthfawrogi'r ffaith bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol gan Lywodraeth Cymru ar sail tystiolaeth a phartneriaeth. Dyma'r rheswm pam roeddwn i'n dymuno cael fy ethol ar gyfer cynrychioli pobl fy etholaeth i—ar gyfer sicrhau, pan ddaw'r cyllid hwn i ni, mai dyna'n union sut y penderfynir arno. Oherwydd, yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir am Ben-y-bont ar Ogwr na Chymru o ran cyllid gan Lywodraeth y DU i godi'r gwastad, a allai, a dweud y gwir, gael ei galw'n 'gronfa gefnogi ffyddloniaid y Torïaid'. Felly, er fy mod i wrth fy modd am fod gennym ni'r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer busnesau lleol heddiw, Gweinidog, rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth y DU ddysgu oddi wrth Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Diolch. Roedd dau bwynt yn y fan yna. Y cyntaf yw'r pwynt cadarnhaol iawn i Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ac etholaethau eraill—y gallwch chi ddisgwyl i fwy o fusnesau fynd at gwmnïau lleol ar gyfer cefnogi swyddi lleol. Y tri sector yw'r tri maes i ddechrau yn y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol—cyflenwyr bwyd, gofal cymdeithasol ac ôl-osod er mwyn optimeiddio, ac rwy'n siŵr bod gennych chi nifer ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Ystyr hyn yw sut rydym ni am gyflwyno'r ddealltwriaeth o ran sut y gall pobl chwilio am y cymorth a chael gafael ar gyngor busnes ar eu cyfer nhw, ond, yn hollbwysig, ar gyfer y bobl sy'n rhedeg y contractau hynny wedyn ac yn tendro'r contractau hynny i sicrhau eu bod nhw'n manteisio ar gyfleoedd i fuddsoddi yn eu cymunedau lleol. Ac rwy'n hyderus y byddwn ni nid yn unig yn gweld arian yn cael ei wario, ond mwy o werth i'w gael ohono hefyd mewn cymunedau lleol o ganlyniad i'r dewis yr ydym ni'n ei wneud.
Ac mae eich ail bwynt chi'n ymwneud â'r her barhaus ynglŷn â'r ffordd y mae agenda'r gronfa codi'r gwastad yn cael ei rhedeg. Mae Prif Weinidog y DU wedi anghofio'r cyfan am ei addewid maniffesto blaenorol na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae'r cronfeydd hynny'n cael eu hysbeilio pan ddylid eu gwario nhw yma yng Nghymru. Fe ddylai'r sefydliad hwn, yr ochr seneddol a'r Llywodraeth fel ei gilydd, gael dweud ei farn ar sut y caiff yr arian hwnnw ei wario fel sefydliad sy'n gwneud penderfyniadau, ac mae hyn wedi costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru yn barod eleni, fel y mae hi nawr. Ac rydych chi yn llygad eich lle hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod arian yn cael ei wario mewn ffordd sy'n rhoi'r argraff gref iawn fod yr Aelod Seneddol yr ydych chi'n ei ethol i San Steffan yn gwneud gwahaniaeth o ran ble mae'r arian yn cael ei wario, ac nid yn ôl yr angen sydd amdano, ac nid yw hynny'n dderbyniol nac yn deg, ac ni fydd y Llywodraeth hon yn cymryd cam yn ôl wrth ddadlau'r achos y dylai Cymru gael yr hyn sy'n haeddiannol. Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd pleidiau eraill yn y fan hon yn gweld yn dda i wneud fel hyn hefyd, mewn gwirionedd.
Diolch i'r Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.