2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu cymunedau Cymraeg? OQ57143
Mae Brexit a COVID-19 wedi dwysáu'r heriau i seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ganolog i gyflawniad Cymraeg 2050. Mae ein rhaglen waith yn canolbwyntio ar gyfyngu ar effaith a sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau Cymraeg, a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau'n fuan.
Diolch. Y mis diwethaf, fe ddywedoch chi wrth y Senedd na ddylai cyrraedd targedau creu coetiroedd effeithio ar gymunedau, na newid y math o dirfeddiannwr yn wir. Fe ddywedoch chi hefyd y byddech yn gweithredu pe bai tystiolaeth o broblem yn datblygu. Nawr, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn derbyn adroddiadau bron yn wythnosol am ffermydd cyfan, parseli o dir, yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o'r tu allan i Gymru at ddibenion plannu coed. Un buddsoddiad o'r fath yw fferm fawr yma yng Nghymru sydd bellach ym meddiant British Aerospace. I rywun sy'n credu mewn marchnad rydd, credaf nad yw'n iawn ein bod yn gweld ein ffermydd a'n tir amaethyddol yn ein cymunedau Cymraeg cryf yn cael eu prynu mewn buddsoddiadau enfawr i gwmnïau a phobl dros y ffin. Mae NFU Cymru wedi cyfrifo y byddai 180,000 hectar ychwanegol o goed yn galw am goedwigo 3,750 o ffermydd teuluol yng Nghymru. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon, Weinidog, ac a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i sefydlu comisiwn pontio teg i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig ac yn parhau i effeithio’n negyddol ar y Gymraeg sydd wedi ffynnu yn y gorffennol yn y Gymru wledig? Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Gallaf roi sicrwydd iddi, efallai, fy mod eisoes yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn. Mae wedi cael ei godi a’i drafod yn y Siambr hon sawl gwaith, gan gynnwys gan Cefin Campbell yn gynharach heddiw. Rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r pwynt a godwyd gan Cefin Campbell: byddwn yn cydweithio'n agos iawn mewn perthynas â'r pwynt penodol hwnnw.
Weinidog, mae cwm Tawe yn ardal o bwysigrwydd ieithyddol. Yn gynt eleni, mewn ymateb i bryderon gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr iaith, fe wnaethoch chi gydnabod bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot heb ystyried yn iawn effaith eu cynlluniau i godi ysgol enfawr cyfrwng Saesneg newydd yng nghanol y cwm ym Mhontardawe ar y Gymraeg drwy gomisiynu adroddiad ac oedi y broses gyllido ar gyfer y cynllun. Mae casgliad yr adroddiad yn ddiamwys, er nad yw wedi'i gyhoeddi'n llawn, a dwi'n dyfynnu:
'dylid ei danlinellu'n glir, o ran yr egwyddorion a'r prosesau cynllunio iaith a nodwyd...na fydd unrhyw gamau lliniaru yng nghyd-destun dyfodol yr iaith Gymraeg yng Nghwm Tawe yn gwneud yn iawn am barhau gyda'r cynnig hwn fel y mae'.
Mae hefyd yn nodi:
'Mewn cymunedau dwyieithog, gwelwyd fwyfwy bod ieithoedd yn dod yn fater o ddewis. Er mwyn cefnogi dwyieithrwydd yn y cymunedau hyn, rhaid i ddwyieithrwydd fod yn ddewis hawdd. Mae’r cynnig hwn yn dileu’r dewis hawdd hwnnw.'
Ydych chi'n cytuno bod angen i'r Llywodraeth ymyrryd pan fo'n bosib er mwyn gwarchod cymunedau Cymraeg a pheidio â chaniatáu i awdurdodau lleol gael rhwydd hynt i weithredu cynlluniau a fydd yn bygwth dyfodol y Gymraeg ac yn atal dwyieithrwydd? Diolch.
Mae'r Aelod a minnau wedi trafod y materion hyn droeon, yn cynnwys cyn yr etholiad diwethaf, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwybod bod cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd fy mod i'n Aelod lleol ynghyd â bod yn Weinidog. Ond, wrth gwrs, pan yw'r Llywodraeth yn dodi gofynion o ran sicrhau ffyniant y Gymraeg mewn cymunedau, mae disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r Llywodraeth er mwyn sicrhau hynny.