– Senedd Cymru am 4:23 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: llefaredd a darllen plant. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol os ydyn ni am wneud y cynnydd yr ydym ni i gyd am ei weld o ran lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion. Ac mae rhoi sylw i sicrhau bod gan bawb y sgiliau darllen sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, sy’n rhan annatod hefyd o sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i fanteisio ar ehangder ein cwricwlwm newydd. Roedd yn newid calonogol fod Cymru wedi cyflawni ei sgôr uchaf o ran profion darllen yn y set ddiwethaf o ganlyniadau PISA, a'n bod ni wedi dal i fyny â chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ond mae lle i wella o hyd.
Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn hanfodol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, o'r cartref i'r ysgol ac i fyd gwaith. Yn ogystal â bod wrth wraidd gallu cael mynediad at ddysgu, maen nhw hefyd yn galluogi datblygu perthynas â rhieni, â chyfoedion a chymunedau ehangach, ac yn gallu agor drysau i siarad am bynciau anodd, sy'n fuddiol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Dyma pam mae gwella sgiliau darllen a helpu i gyffroi angerdd dros ddarllen yn ein hysgolion yn flaenoriaeth lwyr. A heddiw rwy'n gosod pecyn o gamau i gefnogi ein plant, eu teuluoedd a chymunedau ehangach i ddod at ei gilydd i fwynhau llafaredd a darllen.
Yn gyntaf, mae'n bleser gen i gyhoeddi £5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru, a fydd yn darparu llyfr ar gyfer pob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu, gyda phwyslais ar ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ei lyfr ei hun i'w gadw. Bydd hefyd yn cynnwys darparu 72,000 o lyfrau ychwanegol i blant derbyn mewn ysgolion ledled Cymru, 3,600 o becynnau clwb blwch llythyrau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, llyfrau a hyfforddiant i ymarferwyr i gefnogi dysgu, a blwch o 50 o lyfrau i bob ysgol wladol yng Nghymru. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu plant, waeth beth fo'u cefndir, i ddatblygu'r sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar hynny ac yn dangos yr effaith y gall llyfrau a darllen ei chael i newid bywydau. Mae'r cyllid yn adlewyrchu pwysigrwydd Cymru fel cenedl ddwyieithog ac yn cefnogi dysgwyr i gyfathrebu yn y ddwy iaith mewn bywyd bob dydd.
Mae'n rhaid i ni hefyd gefnogi ein gweithlu. Mae addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol parhaus yn hanfodol i ffurfio a pharhau i wella arfer pob ymarferydd yn y maes hwn. Trwy weithio gyda darparwyr addysg athrawon a chonsortia dros y misoedd nesaf, byddwn yn cychwyn adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol i sicrhau bod ymarferwyr yn parhau i gael y cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw ledled Cymru. Gan ategu adroddiadau Estyn a thystiolaeth ymchwil, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol i gynnal a gwella agweddau at ddarllen ac ymgysylltiad â darllen. Bydd Estyn yn parhau i ddarparu enghreifftiau o arfer effeithiol o ran addysgu darllen ar lefel ysgol gyfan a datblygu diwylliant o ddarllen. A byddwn yn edrych ar effaith ein hymyriadau er mwyn i ni allu gwella fel system a chefnogi ymgysylltiad a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc mewn darllen a llafaredd.
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn glir bod yn rhaid i addysgu ffoneg mewn modd systematig a chyson fod yn rhan allweddol o'r pecyn cymorth yn ein hysgolion, ar gam pryd y mae hynny'n briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwr. Rydym yn annog ysgolion i fabwysiadu dull gweithredu o'r fath ochr yn ochr â datblygu geirfa a dealltwriaeth er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu deall a gwneud synnwyr o'r hyn y maen nhw'n ei ddarllen a bod yn ddarllenwyr rhugl ac effeithiol. Mae'n rhaid i'r holl addysgu fod wedi ei seilio ar dystiolaeth o'r hyn yr ydym yn gwybod sy'n gweithio, ac felly rwyf i'n bwriadu egluro a chryfhau ein dull gweithredu yn y maes hwn. Yn ddiweddar, sefydlais rwydwaith cenedlaethol, corff wedi ei arwain gan ymarferwyr, sydd ar gael i bob ysgol, a fydd yn cefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Gallaf gadarnhau y bydd ein rhwydwaith cenedlaethol yn blaenoriaethu llafaredd a darllen yn y gwanwyn. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ac ymarferwyr i edrych ar y rhan sydd gan ffoneg yn y cwricwlwm newydd er mwyn i ni allu darparu'r cymorth a'r arweiniad gorau ar gyfer addysgu darllen.
Yn 2016, nododd y 'Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd Genedlaethol—cynllun gweithredu strategol' y weledigaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd wrth i ni symud tuag at y cwricwlwm newydd. Er mwyn parhau i ddatblygu hyn, byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr drwy'r rhwydwaith cenedlaethol i ddeall beth sy'n gweithio, gan fyfyrio ar addysgeg, enghreifftiau o arfer da a chyfathrebu, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei wella. Byddwn hefyd yn ystyried swyddogaeth barhaus y fframwaith llythrennedd a rhifedd o ran cefnogi cynnydd y sgiliau hyn a'r angen am adnoddau a deunyddiau ychwanegol. Bydd hyn yn helpu i ddarparu'r adnoddau, y cymorth a'r arbenigedd sydd eu hangen i hwyluso addysg llafaredd a darllen o ansawdd uchel. Mae gen i ddiddordeb mewn beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i rannu arfer da yn ein blynyddoedd cynnar a'n cyfnod sylfaen. Wrth feddwl am hynny, ein bwriad yw gweithio gydag ymarferwyr ac arbenigwyr dros y misoedd nesaf i ddatblygu pecyn cymorth a fydd yn helpu i rymuso athrawon i ddatblygu eu harfer yn yr ystafell ddosbarth sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.
Rydym yn gwybod, drwy brofiadau darllen a rennir, y gallwn ni annog cariad at lyfrau a straeon o oedran cynnar. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i'n plant ieuengaf, lle mae'r blociau adeiladu ar gyfer datblygiad iaith cynnar yn dechrau datblygu eu sgiliau sylw, gwrando a deall. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar ein rhaglen Siarad gyda Fi yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygiad iaith cynnar a rhan rhieni wrth gefnogi hyn. Yn ddiweddar, rydym ni wedi comisiynu adolygiad o offer sgrinio iaith, wedi ei gynnal gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste, a bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir cefnogi ymarferwyr wrth nodi problemau o ran sgiliau gwrando, deall a siarad. Rwy'n disgwyl i adroddiad yr adolygiad gael ei rannu â mi yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond gallwn ni wneud mwy ac mae'n rhaid i ni wneud hynny, ac rydym yn archwilio beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu rhagor o gyfleoedd i gefnogi rhieni, er mwyn i'w plant allu cael cyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â deunyddiau darllen cyfoethog a chymryd rhan mewn straeon, caneuon a rhigymau.
Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bob dysgwr gael y cyfle i gyrraedd ei botensial, a heddiw rwyf i wedi nodi rhai o'r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd dros y misoedd nesaf i gefnogi ein dysgwyr. Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oes unrhyw amheuaeth mai plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf drwy'r pandemig hwn. Mae ysgol mor bwysig, nid yn unig ar gyfer dysgu a chymdeithasu, ond o ran darparu strwythur a threfn i blant. Roedd y tri chyfnod o gyfyngiadau symud mor niweidiol i lesiant a chyfleoedd bywyd ein plant ac efallai y bydd cryn amser cyn i ni fod mewn sefyllfa i asesu yn gywir y niwed y mae'r amser dysgu coll hwn wedi ei achosi.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae sgiliau siarad, darllen a gwrando yn gwbl sylfaenol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, ac felly, mae mor hanfodol bwysig ein bod ni'n cael yr agwedd hon yn iawn drwy addysg yng Nghymru. Rwy'n pryderu ynghylch yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi ei chael ar blant yn hyn o beth, ond mae eich camau gweithredu arfaethedig a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw yn ymddangos braidd yn wan ar y gorau, os caf i ddweud hynny: yn addo adolygiadau, yn sefydlu gweithgorau, heb unrhyw gamau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu wrth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gefnogi'n llwyr ym mhob ffordd orau bosibl drwy eu taith addysgol i sicrhau ei fod yn dod i ddiwedd ei daith addysg gyda'r cyfleoedd gorau posibl, ni waeth o ba gefndir y mae'n dod.
Rwy'n croesawu'r arian a fydd yn cael ei roi i fynd i'r afael â hyn; rwy'n croesawu'r arian ar gyfer llyfrau ychwanegol, ond ai un llyfr unigol fydd hyn, Gweinidog, i bob dysgwr, uwchlaw oedran derbyn, ar gyfer ei holl daith addysg? Neu a fydd hon yn rhaglen dreigl lle bydd disgyblion yn cael llyfr gan y Llywodraeth hon bob blwyddyn? A sut yn union y bydd y £5 miliwn yn cael ei wario o ran targedu'r cynllun cymorth darllen i fynd ochr yn ochr â'r llyfr? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'n hysgolion oddi wrth y Llywodraeth hon i'w galluogi i ddewis y llyfrau sydd fwyaf addas ar gyfer eu hysgolion a'u grwpiau oedran nhw? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'r ysgolion er mwyn iddyn nhw gyflogi staff newydd i gefnogi mwy o ddarllen, neu a fydd disgwyl i'r gweithlu presennol wneud y gwaith newydd hwn? A fydd yr arian hwn ar gyfer y dysgwyr cynnar neu'r dysgwyr difreintiedig yn unig, neu a fydd yn arian i roi cyfle teg i bawb pan fo'n fater o geisio gwella sgiliau darllen a llafaredd disgyblion?
Er fy mod i'n croesawu'n fawr unrhyw gymorth ychwanegol i'n staff addysgu fel y gwnaethoch ei amlinellu, ac rwyf i yn croesawu hynny, rwy'n gweld yn y datganiad 'dros y misoedd nesaf' a 'byddwn yn edrych y gwanwyn nesaf ar', a llawer o eiriau nad ydyn nhw'n ennyn llawer o hyder eich bod chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon yn uniongyrchol, yn awr. Rydych chi'n dweud y byddwch yn edrych ar effaith eich ymyriadau, er mwyn i chi allu gwella'r system, ond pa fath o amserlen ydym ni'n sôn amdani, Gweinidog? Ai dyma'ch uwchgynllun i Gymru yn wirioneddol? Oherwydd siawns mai'r hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw mwy o athrawon, mwy o athrawon i bob disgybl, er mwyn i'r plant gael y canlyniadau y maen nhw'n eu haeddu. Pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd yn awr, Gweinidog, i sicrhau bod y plant hynny sydd wedi colli sgiliau darllen, dysgu a llafaredd yn ystod y cyfyngiadau symud—? Beth ydych chi'n ei roi ar waith mewn gwirionedd i sicrhau bod y plant hynny yn cael cyfleoedd gwirioneddol i wneud iawn am y dysgu coll hwnnw yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf?
Bydd plant hŷn yn fwy hunangynhaliol o ran eu dysgu eu hunain, ond i ddisgyblion iau, bydd amser i ffwrdd o'r ysgol wedi arwain at golli llawer o amser darllen. O ran plant yn y cyfnod sylfaen sydd ar ei hôl hi o ran eu sgiliau darllen a siarad, rwyf i wedi clywed llawer o dystiolaeth anecdotaidd gan rieni ac athrawon, ond pa waith y mae eich swyddogion gweinidogol wedi ei wneud i fesur y gostyngiad hwn? Mae'n bwysig iawn, wrth ystyried mynd i'r afael â heriau dysgu coll, ein bod ni'n gwybod beth rydym yn ymdrin ag ef a maint y broblem mewn gwirionedd. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu penderfynu sut i gau'r bwlch cyrhaeddiad cynyddol hwnnw. Ac a wnewch chi hefyd, Gweinidog, fesur y gostyngiad yn awr o'i gymharu â dechrau'r pandemig?
Rydych chi'n iawn wrth ddweud bod angen i ni rannu arfer gorau; dyna'r ffordd ymlaen bob amser, yn fy marn i, o ran mynd i'r afael â sgiliau darllen a llafaredd, ond sut y bydd ysgolion yn gweithio gyda chonsortia i rannu arfer gorau? Oherwydd drwy gydol y pandemig, nid yw hyn wedi bod yn digwydd fel y bu yn flaenorol. Mae angen i ni ddychwelyd i sefyllfa lle ceir goruchwyliaeth annibynnol a chadarn o safonau ysgolion drwy'r consortia ac Estyn i roi sicrwydd i rieni.
Mae llafaredd a llythrennedd cynnar yn bwysig iawn i ddatblygiad plant, ac rwyf i o'r farn ei fod wedi ei anwybyddu yn aml fel un o sylfeini allweddol datblygiad plentyn, yn enwedig dros y 18 mis diwethaf. Mae 'Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu' yn arf defnyddiol i weithwyr proffesiynol a rhieni gefnogi datblygiad plant, ond ni fydd pob rhiant yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon. Rwy'n gweld yn uniongyrchol yr effeithiau y mae darllen i blentyn yn rheolaidd yn eu cael ar fy mhlant fy hun, 11 a dau. Mae geirfa fy mhlentyn dwy flwydd oed yn wych ar gyfer ei oedran gan fy mod i wedi buddsoddi'r amser hwnnw gydag ef, ond sut, Gweinidog, ydym ni'n mynd i gefnogi rhieni nad ydyn nhw'n gallu, neu nad ydyn nhw'n gwybod sut i gefnogi eu plant yn yr un modd? Cafwyd menter wych gan fy ysgol gynradd leol lle'r oedd rhieni'n gallu dod i mewn, os oedden nhw'n dymuno gwneud, a darllen gyda phlant, darllen yn uchel mewn ystafelloedd dosbarth yn ystod y cyfnod hwnnw, gan helpu i gefnogi athrawon a phlant eraill yn ogystal â dysgu sut i ddarllen gyda phlentyn eu hunain, i gael y canlyniadau gorau posibl gan y plant. Efallai fod hyn yn rhywbeth y gellid ymchwilio iddo ymhellach.
Hefyd, ac yn olaf, mae'r rhaglen Dechrau'n Deg wedi mynd gryn ffordd i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd plant cyn iddyn nhw fynd i addysg ffurfiol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am i'r rhaglen Dechrau'n Deg fod ar gael i bob plentyn, oherwydd ei bod yn loteri cod post yn hyn o beth o hyd, ac mae'n eithrio cymaint o bobl a phlant a fyddai'n elwa ar y cymorth Dechrau'n Deg hwn. Mae'r sefyllfa bresennol sydd gennym yn un o eithrio ar hyn o bryd a hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, a wnewch chi ystyried ymestyn y rhaglen hon i gyrraedd pob plentyn yng Nghymru.
Rwy'n diolch i Laura Anne Jones am yr ystod yna o gwestiynau. O ran y pwyntiau a ofynnodd am y buddsoddiad mewn adnoddau, sy'n un rhan o'r gyfres o gamau gweithredu yr wyf i'n eu disgrifio heddiw, bydd dewis i'r dysgwyr eu hunain o ran y llyfrau y byddan nhw'n eu derbyn. Felly, bydd ganddyn nhw ddewis rhwng amrywiaeth o lyfrau a byddan nhw'n cael dewis yr un y maen nhw'n ei ddymuno i'w hunain. Yn ogystal â'r llyfr hwnnw i bob dysgwr, bydd cyfres o adnoddau ar gael, cyfres o lyfrau ar gael i bob ysgol wladol yng Nghymru yn ogystal â hynny.
Pan oeddwn i'n fyfyriwr ifanc fy hun, cafodd fy nghariad at ddarllen ei ddatblygu yn gynnar iawn, ac rwy'n credu bod sicrhau y gallu i gael gafael ar yr amrywiaeth gyfoethog honno o ddeunyddiau darllen yn rhan bwysig o gyffroi angerdd dros ddarllen, a bydd hyn yn gyfraniad at hynny. Ond mae yna hefyd gyfres o ymyriadau sy'n cefnogi'r gwaith y mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ei wneud. Byddan nhw'n gweithio gyda ni mewn cysylltiad â hyn, a hefyd gwaith BookTrust Cymru, fel y bydd hi'n gwybod, mewn cysylltiad â'r cynllun Dechrau Da a'r cynlluniau Pori Drwy Stori, ac yn y blaen. Felly, bydd pob un ohonyn nhw yn cael cymorth ychwanegol o ganlyniad i'r cyllid yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw, a fydd yn helpu dysgwyr ar eu taith ddarllen ac yn cefnogi ysgolion a rhieni i ddarllen gyda'n plant a'n pobl ifanc. Felly, mae yna gyfres o ymyriadau wedi eu targedu, os mynnwch chi, a chynnig mwy cyffredinol yn y cyllid yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynghylch amseru, a phryd orau i gymryd rhai camau ar y daith hon. Yr hyn yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yw, os mynnwch chi, ymgyrch ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf, gan arwain at ddechrau cyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac mae yna gerrig milltir pwysig ar hyd y ffordd, fel y gwnaeth hi ei gydnabod yn ei chwestiwn. Byddwn yn gweithio gyda'r consortia—rydym yn gwneud hynny eisoes—a gydag Estyn i gefnogi ein hysgolion a'n hymarferwyr, o ran archwilio arfer gorau a rhannu rhywfaint o hynny, ac wrth ddarparu cymorth ychwanegol o ran adnoddau dysgu proffesiynol, a fydd yn hawdd eu canfod, yn hawdd eu llywio, er mwyn i'n hymarferwyr eu gwneud mor ddefnyddiol ag y gallan nhw fod. Rwy'n credu bod gan y rhwydwaith cenedlaethol ran bwysig i'w chwarae yn hyn o beth. Mae hwnnw wedi ei gychwyn gan Lywodraeth Cymru ond wedi ei arwain gan ymarferwyr, fel y bydd hi'n gwybod, a fy mwriad yw y bydd yn archwilio llafaredd a darllen yn y gwanwyn. Mae ganddo raglen waith ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyflwyno hynny mewn ffordd y gall ymarferwyr elwa arni ac ymgysylltu â hi ymysg yr amryw o bwysau eraill y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Felly, y bwriad yw y bydd hynny'n digwydd yn y gwanwyn.
Gwnaeth gyfres o bwyntiau pwysig iawn mewn cysylltiad â'r effaith y mae'r 12 i 18 mis diwethaf wedi ei chael yn arbennig, efallai, ar ein dysgwyr ieuengaf, a'u camau datblygu cynnar. Bydd hi'n gwybod bod y cymorth yr ydym ni wedi ei ddarparu hyd yma i ysgolion o ran y cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a'r cynllun adnewyddu a diwygio wedi ei bwysoli, yn arbennig, tuag at y blynyddoedd cynnar. Felly, rydym ni wedi ymrwymo cyllid i'n lleoliadau gofal plant nas cynhelir tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a phot sylweddol o arian i gefnogi addysgeg y cyfnod sylfaen hefyd. Mae'r syniad hwnnw o ddysgu drwy chwarae, yr ydym ni'n ei wybod mor dda, yn hanfodol er mwyn gallu helpu i ymgysylltu â rhai o'n dysgwyr ieuengaf gyda'u llafaredd a'u hanghenion addysgol. Felly, mae hynny eisoes wedi bod yn rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Mae tystiolaeth ar gael mewn cysylltiad â cholli dysgu. Mae'n ddarlun cymhleth. Mae yn dangos, yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf, y bu colled o ran y gallu i ddarllen, ond mae hynny wedi ei unioni mewn rhai cyfnodau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n ddarlun cymhleth dros y 18 mis diwethaf, ond mae'n gwbl wir ein bod ni'n gwybod bod angen rhagor o gymorth ar ddysgwyr o bob oed. Dyna fu egwyddor sylfaenol y buddsoddiad yr ydym ni wedi ei wneud hyd yn hyn i roi'r gallu ychwanegol hwnnw i ysgolion gefnogi dysgwyr yn y ffordd y gofynnodd yn ei chwestiwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o glywed y bydd y rhaglen rydych chi'n ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru lyfr ei hun i'w gadw. Mi ges i'n atgoffa yn ddiweddar o'r pleser ges i o ddarllen llyfr o'r enw Luned Bengoch pan oeddwn i'n blentyn—llyfr sydd newydd gael ei ailargraffu ac ar gael yn y siopau unwaith eto. Mi gefais i bleser o'r mwyaf o'i ailddarllen o yr wythnos diwethaf cyn cyfarfod o glwb darllen lleol yr ydw i yn aelod ohono. Mae hi'n hollol amlwg bod arferion darllen rydych chi'n eu dysgu pan rydych chi'n fach yn aros efo chi. Mae sefydlu sgiliau iaith cynnar da yn rhan allweddol o lythrennedd a gallu plant i gyflawni eu potensial addysgol a'u cyfleoedd bywyd, tra hefyd yn hanfodol i'r gallu i ffurfio a chynnal perthynas gymdeithasol efo teulu, cyfoedion a ffrindiau.
Mae yna ymchwil gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd sydd yn dangos bod y cyfnod COVID wedi gwaethygu’r oedi wrth gaffael sgiliau iaith a lleferydd ymhlith plant ifanc, ond dwi'n falch o'ch clywed chi'n sôn bod yna arwydd bod hynny yn gwella. Mae yna ymchwil hefyd ymhell cyn y pandemig. Mae yna dystiolaeth ar gael, wrth gwrs, fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod y tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau iaith a lleferydd erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd. Mae yna ymchwil gan Achub y Plant sy'n dangos bod tua wyth o bob 10 o athrawon derbyn yng Nghymru yn gweld yn glir fod plant sy'n ymuno efo'u hysgolion yn ei chael hi'n anodd siarad mewn brawddegau llawn, a bod plant sy'n cael trafferthion efo'u lleferydd a'u hiaith yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn aml yn dal i fod y tu ôl i'w cyfoedion o ran sgiliau llythrennedd allweddol yn 11 oed.
Felly, mae yna nifer o heriau yn wynebu Llywodraeth Cymru, a dwi'n falch iawn eich bod chi yn cydnabod hynny, a bod y cynlluniau rydych chi'n eu cyhoeddi heddiw yn mynd o leiaf ran o'r ffordd tuag at ddechrau goresgyn rhai o'r problemau mawr yma sydd gennym ni. Gan gofio pa mor allweddol ydy addysg blynyddoedd cynnar wrth ddatblygu sgiliau lleferydd a darllen, mi fuaswn i'n licio clywed mwy am y toolkit roeddech chi'n sôn amdano fo, hwn sy'n mynd i gael ei roi ar waith ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Beth yn union fydd hwn, sut fydd hyn i gyd yn edrych a beth fydd yn newydd amdano fo? Fedrwch chi hefyd amlinellu pa gamau sydd am gael eu cymryd i ymateb i'r bwlch cyrhaeddiad, yr hwn roeddem ni'n sôn amdano fo, gan gofio bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fynd tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau darllen a lleferydd? Ac rydych chi'n sôn am y dull ffoneg. Pam bod chi'n pwysleisio'r dull yma? Ac ydy hwn yn mynd i helpu yn benodol efo cau'r bwlch cyrhaeddiad? Oes yna fanteision penodol o ran yr agwedd yna sydd angen sylw?
Ac yn olaf, er mwyn gallu gwireddu amcanion 'Cymraeg 2050' a gwella sgiliau llafaredd a darllen plant yn y Gymraeg, mae'n glir, wrth gwrs, fod angen hyfforddi digon o athrawon i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am ofyn unwaith eto am eich cynlluniau chi i gynyddu a chryfhau'r gweithlu addysg Cymraeg yn benodol. Dwi'n sylwi eich bod chi yn eich datganiad heddiw yn rhoi pwyslais ar ddwyieithrwydd a chreu deunyddiau yn y ddwy iaith, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae angen inni weld cynllun ar waith sydd yn ein symud ni ymlaen i gynyddu'r gweithlu hefyd sydd yn gallu cynorthwyo plant i wella eu sgiliau llafaredd a darllen. Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau pellach hynny. Dwi'n rhannu gyda hi'r cof o ddarllen llyfr oedd yn eiddo i fi pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy'n cofio datblygu diléit am ddarllen yn ystafell ddosbarth Miss Annie Derrick yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais pan oeddwn i'n grwtyn bach. Felly, mae'r pethau yma yn aros yn y cof. Ond fel mae'r Aelod yn dweud, dyw e ddim yn brofiad sydd ar gael yn yr un ffordd i bawb, oherwydd mae'n rhywbeth sydd hefyd yn cael ei annog ar yr aelwyd, ac wrth gwrs does gan bawb ddim yr un mynediad at yr un adnoddau a'r un gefnogaeth. Mae hwn yn gyfraniad tuag at hwnnw. Mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau roedd hi'n sôn amdanynt—y bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gefnogi dysgwyr sydd angen y mwyaf o gefnogaeth er mwyn gwneud cynnydd yn hyn o beth.
O ran y cwestiynau penodol, o ran y toolkit, mae hwn yn un o ystod o elfennau o gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol rydym ni'n gweithio arnyn nhw eisoes gydag Estyn a'r tîm mewnol yma yn Llywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r consortia er mwyn sicrhau bod yr arfer da sydd eisoes ar gael yn cael ei rannu yn ehangach fel rhan o'r adnoddau sydd ar gael i'n hathrawon ni. Felly, mae'r toolkit yn elfen o hynny ac yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau dysgu yn y maes penodol hwn.
O ran pwysleisio ac annog pobl i ddefnyddio mwy o ddarllen ar yr aelwyd, yn y 18 mis diwethaf, wrth gwrs, mae'r berthynas rhwng ysgolion a rhieni a gofalwyr plant wedi newid, ac mae e, mewn amryw ffyrdd, wedi gwella wrth i ysgolion ymateb i sialensiau COVID. Bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd sylweddol yn cychwyn ar ddiwedd y flwyddyn hon i annog rhieni a gofalwyr i siarad gyda'u plant a darllen gyda'u plant ac esbonio manteision hynny. Byddwn i eisiau sicrhau bod y negeseuon sydd yn rhan o'r ymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol honno yn amlinellu manteision hynny ac yn annog rhieni o bob cefndir i allu rhannu'r amser hynny gyda'u plant.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn cwestiwn pwysig o ran ffoneg. Mae ffoneg yn un elfen o ystod o opsiynau sydd ar gael i athrawon. Mae e'n rhan bwysig o'r toolkit arall hwnnw o ran camau y gellid eu cymryd, ond mae'n rhaid hefyd sicrhau bod dysgu geirfa a dysgu dealltwriaeth yn digwydd ar y cyd. Ond dwi eisiau sicrhau ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n rhoi'r cyd-destun hwnnw hefyd i'n hathrawon ni, fel bod ganddyn nhw'r cyd-destun i'r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud. Felly dyna, fel y gwnes i sôn yn y datganiad, rwy'n bwriadu ei wneud: edrych ar y dystiolaeth o ran y ffordd honno o ddysgu llefaredd a sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r arfer gorau ar waith ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, Lloegr yn benodol, yn cynnig prawf blynyddol ffoneg i fyfyrwyr; dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd iawn o fynd am y peth. Dŷn ni'n ceisio symud yn ein cwricwlwm oddi wrth y math yna o brawf sydd yn dangos snapsiot, os hoffwch chi. Mae gyda ni, wrth gwrs, asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen eisoes. Mae'r rheini ar gael mewn ffordd sydd yn hyblyg i athrawon allu eu gwneud yn ystod y flwyddyn gyda'u dysgwyr, ac sy'n rhoi darlun i athrawon ac i'r dysgwyr a'u gofalwyr a'u rhieni o gynnydd a datblygiad darllen a dealltwriaeth ein dysgwyr ni. Mae hynny'n rhan o ethos y cwricwlwm newydd o greu cyfle—bod asesiadau'n rhan o'r broses o ddysgu, hynny yw. Felly, mae hynny'n elfen wahanol yn y ffordd rŷn ni'n edrych ar bethau yma yng Nghymru.
Roedd y cwestiwn olaf wnaeth yr Aelod ei ofyn ynglŷn â chynyddu'r gweithlu addysg. Mae hwn, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i ni, fel rŷn ni wedi trafod ar y cyd ac yma yn y Siambr eisoes—o ran athrawon, ond hefyd o ran cynorthwywyr yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n siarad Cymraeg ymhob rhan o'r gweithlu. Mae hynny'n bwysig. Rŷn ni'n gweithio ar gynllun drafft ar hyn o bryd; rŷn ni wrthi'n paratoi hynny ar gyfer ei rannu gyda'n rhanddeiliaid. Rŷn ni wedi cael trafodaethau gydag amryw o'r rheini, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill, ond mae angen trafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid eraill, sy'n cynnwys y comisiynydd ac eraill. Mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n gorfod gwneud cynnnydd cynnar arno fe, ond gallwn ni wneud hynny yn unig drwy gydweithio gyda'r partneriaid eraill sydd gennym ni yn y system addysg.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Er fy mod yn croesawu'r camau a gymerwyd i wella cyfraddau llafaredd yn gyffredinol, mae gennyf bryderon am y rheini yn y system ofal yn ogystal â'r rhai sy'n darparu gofal. Gweinidog, gwyddom fod cyrhaeddiad addysgol ymhlith pobl ifanc mewn gofal yn llawer is na chyrhaeddiad eu cyfoedion. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau llafaredd ar gyfer y rhai yn y system ofal? A yw'r pandemig wedi cael unrhyw effaith ar gyfraddau llafaredd ymhlith pobl ifanc mewn gofal? Yn olaf, Gweinidog, cefais y pleser o gwrdd â Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a sir Ddinbych yr wythnos diwethaf. Maen nhw'n cynnig cymorth gwych i ofalwyr ifanc yn Nyffryn Clwyd, ond mae angen y cymorth hwnnw ar ofalwyr ifanc yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Felly, Gweinidog, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw gofalwyr ifanc yn syrthio y tu ôl i'w cyfoedion o ran darllen a llafaredd? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Bydd gan nifer o'r ymyriadau yr wyf wedi'u disgrifio heddiw, yn enwedig y cynllun llyfrau, ddimensiwn sy'n sicrhau bod llyfrau'n cael eu derbyn gan bobl ifanc mewn gofal yn benodol. Mae rhai ymyriadau penodol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig o gwmpas y blynyddoedd cynnar, ac mae rhai o'r llyfrau yr wyf wedi bod yn cyfeirio atynt yn llyfrau odli i blant sydd angen cymorth ychwanegol a chymorth ychwanegol i allu dysgu gartref. Rhan arall o'r rhaglen lyfrau yw'r clwb blwch llythyrau—llyfrau sydd o fudd yn arbennig i blant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hynny'n sicr yn lens yr ydym wedi gweld y cynigion yr wyf yn eu gwneud heddiw drwyddo. Bydd yn gwybod bod darn o waith eisoes yr wyf yn gweithio arno, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am ofal, mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn eu cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol. Ond rwy'n rhannu ei bryder y bydd profiad y 18 mis diwethaf wedi cael effaith andwyol o ran llafaredd, yn arbennig, efallai, i'r rhai yn y blynyddoedd cynnar, y gwyddom fod cyfres benodol o heriau ar eu cyfer.
Diolch, Weinidog.