– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw eitem 5: datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiad diweddaraf a difrifol iawn yn y pandemig hwn sy'n symud yn gyflym. Ddiwedd wythnos diwethaf, cynghorodd Sefydliad Iechyd y Byd wledydd ledled y byd i gymryd cyfres o fesurau yn dilyn nodi amrywiolyn newydd coronafeirws sy'n peri pryder. Cafodd yr amrywiolyn, a elwir bellach yn omicron, ei adrodd am y tro cyntaf i Sefydliad Iechyd y Byd o Dde Affrica chwe diwrnod yn ôl. Mewn llai nag wythnos, mae achosion o omicron wedi eu nodi mewn gwledydd mor bell ar wahân ag Awstralia, Hong Kong, Gwlad Belg, Israel a Chanada. Mae hefyd wedi cyrraedd y DU. Ac, mae arnaf ofn, dim ond mater o amser fydd hi, er gwaethaf yr holl fesurau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, cyn i'r achosion cyntaf gael eu cadarnhau yng Nghymru.
Hoffwn i rannu â chi yr hyn yr ydym ni'n ei wybod hyd yn hyn, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i ymateb i arafu'r hyn sy'n anochel a chadw Cymru'n ddiogel. Rydym yn cymryd ymddangosiad omicron o ddifrif. Mae ganddo nifer mwy o fwtaniadau nag unrhyw un o'r amrywiolion a welwyd o'r blaen—mwy na 50 i gyd. Os edrychwn ar y rhan o'r feirws sy'n cysylltu'n gyntaf â chelloedd ein corff, mae 10 o fwtaniadau yn yr amrywiolyn omicron. Dim ond dau oedd gan yr amrywiolyn delta, a ddaeth yn gyflym y straen mwyaf amlwg y gaeaf diwethaf.
Mae'r dystiolaeth o Dde Affrica hyd yma yn awgrymu y gallai'r amrywiolyn hwn symud yn gyflym a'i fod yn gallu ail-heintio pobl sydd eisoes wedi cael coronafeirws neu sydd wedi cael eu brechu ddwywaith. Ond mae llawer nad ydyn ni'n ei wybod o hyd, ac na fyddwn ni'n ei wybod am sbel. Mae hyn yn cynnwys a yw'n arwain at fath mwy difrifol o salwch.
Ddoe, ysgrifennodd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban at Brif Weinidog y DU yn gofyn am gyfarfod COBRA i drafod ymateb cydgysylltiedig gan y pedair gwlad i'r amrywiolyn hwn. Yn siomedig, mae llefarydd y Prif Weinidog wedi gwrthod y cais hwn. Dull cydgysylltiedig, pedair gwlad fyddai'r ymateb mwyaf effeithiol i'r amrywiolyn newydd hwn.
Fodd bynnag, dros y penwythnos, rydym ni wedi gallu symud gyda'n gilydd â gweddill y Deyrnas Unedig. Rydym ni i gyd wedi rhoi 10 o wledydd de Affrica sy'n gysylltiedig â'r amrywiolyn omicron ar y rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd i'r DU o'r gwledydd hyn gwblhau 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty cwarantin a reolir. Yn ogystal, bydd yn rhaid i deithwyr sydd wedi eu brechu sy'n dod yn ôl i'r DU o wlad nad yw ar y rhestr goch hunanynysu a chael prawf PCR ar ddiwrnod dau ar ôl iddyn nhw ddychwelyd. Gallan nhw orffen ynysu os a phryd byddan nhw'n cael canlyniad negatif. Os bydd eu prawf yn bositif, bydd angen iddyn nhw ynysu am 10 diwrnod. Bydd angen i'r bobl maen nhw'n byw gyda nhw ynysu hefyd nes eu bod wedi cael prawf negatif. Mae'r rheolau newydd hyn yn disodli'r gofyniad i gael prawf llif unffordd wrth ddychwelyd o dramor, ac mae'n gam arall i atal yr amrywiolyn rhag lledaenu yn ein cymunedau. Byddwn yn cadw'r opsiwn o gyflwyno prawf PCR ar ddiwrnod 8 yn ddiweddarach.
Neithiwr, atgyfnerthodd y Gweinidog addysg y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion am weddill tymor y gaeaf. Dylai'r holl staff a dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb pan fyddan nhw dan do pan na ellir cadw pellter corfforol. A byddwn yn newid ein rheolau hunanynysu i'w gwneud yn ofynnol i bawb a nodir yn gyswllt agos ag achos omicron a gadarnhawyd neu hyd yn oed achos tybiedig o omicron yng Nghymru ynysu am 10 diwrnod, ni waeth beth fo'u statws brechu neu eu hoedran. Ac rydym yn gobeithio y bydd y camau hyn, o'u cymryd ynghyd â'r holl amddiffyniadau eraill sydd ar waith yng Nghymru, yn helpu i arafu lledaeniad yr amrywiolyn hwn.
Llywydd, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell y dylai'r rhaglen frechu gael ei chyflymu ar ôl i'r amrywiolyn newydd hwn ddod i'r amlwg. Dwi wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor, a dwi’n ategu geiriau ei gadeirydd, sydd wedi dweud y gwelwn y budd mwyaf os gallwn frechu pobl cyn i don arall daro. Byddwn yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bob oedolyn rhwng 18 a 39 mlwydd oed, ac yn lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu o chwech i dri mis. Byddwn yn parhau i frechu pobl yn nhrefn eu risg—bydd pobl hŷn neu bobl sy’n fregus yn glinigol yn cael eu galw yn gyntaf. Byddwn yn cynnig dos atgyfnerthu i bobl sydd ag imiwnedd gwan, a hynny dri mis ar ôl iddyn nhw gael eu trydydd dos sylfaenol. Bydd pob plentyn o 12 i 15 oed hefyd yn gymwys i gael ail ddos. Nod y strategaeth hon yw achub bywydau, diogelu'r gwasanaeth iechyd a lleihau heintiau cyn belled â bo modd.
Bydd ehangu'r broses o gyflwyno'r rhaglen frechu yn heriol. Rŷn ni’n dibynnu ar weithlu ein gwasanaeth iechyd i ymateb ar frys unwaith eto i’r pandemig er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Maen nhw wedi gwneud cymaint yn barod drwy gydol y pandemig. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r holl staff iechyd a gofal sydd wedi gweithio mor galed, ac i'r timau brechu sy'n cynllunio’r gwaith o ehangu'r rhaglen hanfodol hon. Byddwn yn parhau i gynnig brechlynnau i bobl sydd heb eu brechu neu sydd efallai ond wedi cael un dos. A dwi eisiau ei gwneud hi’n hollol glir: dydy hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.
Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed pob un ohonom ni yn cydweithio i amddiffyn ein teuluoedd a'r rhai sy’n annwyl i ni. Yn ogystal â'n rhaglen frechu, mae angen i ni ddal ati i wneud y pethau bychain a fydd yn ein cadw'n fwy diogel drwy'r pandemig: hunanynysu a chael prawf os oes gyda ni symptomau, cymryd profion llif unffordd yn rheolaidd, yn enwedig cyn mynd allan i lefydd prysur, cwrdd â phobl yn yr awyr agored os yn bosibl, cadw ein pellter pan allwn ni, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb.
Mae hwn yn gyfnod pryderus ac, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn gobeithio na fydd y pandemig yn bwrw cysgod dros y Nadolig. Rŷn ni’n gwybod bod pawb wedi blino’n lân ar y pandemig. Mae pawb eisiau i hyn ddod i ben. Ond, mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i ofalu am ein gilydd unwaith eto. Mae’r sefyllfa yn symud yn gyflym, ac rŷn ni’n monitro’r sefyllfa yn ofalus. Os bydd tystiolaeth yn awgrymu bod angen inni gymryd camau pellach i amddiffyn pobl, byddwn ni’n gwneud hynny. Dydyn ni ddim eisiau gwneud bywydau pobl yn anodd i bobl, ond byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i ddiogelu pobl Cymru. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich copi ymlaen llaw heddiw o'r datganiad, a datganiad pwysig iawn hefyd? Rwy'n credu bod y Llywodraeth yn iawn i gymryd yr amrywiolyn newydd hwn o ddifrif. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus, ond hefyd yn gytbwys, ac mae'r Gweinidog wedi nodi yn gywir bod llawer, wrth gwrs, nad ydym yn ei wybod, sef y sefyllfa bresennol.
Rwy'n amau efallai y byddech yn cytuno â mi ar ran gyntaf yr hyn rwy'n ei ddweud, Gweinidog. Mae gennych chi lawer ar eich plât ar hyn o bryd, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod dau fater arwyddocaol yma. Rydym ni'n gwybod am fodolaeth yr amrywiolyn newydd hwn ac am bwysigrwydd cyflwyno'r brechiadau, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod cyflwr ein GIG mewn sefyllfa anodd iawn hefyd. Nododd y Prif Weinidog heddiw, yn gywir, y bydd y pwysau ar y GIG yn mynd yn fwy difrifol wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf, wrth gwrs. Felly, yn hynny o beth, a gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Prif Weinidog o ran Gweinidog brechu penodol? Wrth gwrs, mae galw newydd am hyn gen i fy hun, oherwydd ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r problemau gyda'r GIG ar y naill law o ran yr amser aros gwaethaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd aros hiraf am ambiwlansys, a'r amseroedd aros hiraf erioed am driniaeth yn hanes y GIG yng Nghymru. Felly, ar y naill law, mae angen ymdrin â hynny ac ymateb iddo, ac ar y llaw arall, mae gennych chi gyflwyniad y rhaglen frechu, sydd hefyd yn rhoi cymaint o bwysau, wrth gwrs, ar eich amser hefyd, Gweinidog.
O ran y brechiadau, a gaf i ofyn ychydig o gwestiynau am hynny o ran y rhaglen frechu? Yn y sesiwn friffio heddiw, wrth gwrs, fe wnaethom ni glywed Dr Richardson yn amlinellu bod digon o gyflenwad o ran y brechlyn atgyfnerthu, sydd, yn fy marn i, yn newyddion cadarnhaol yn hynny o beth. Mae'r pwysau yma nawr ar ehangu a chynyddu'r rhaglen frechu honno. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn amharod i gefnogi canolfannau brechu galw i mewn yn flaenorol ac wedi cyfeirio atyn nhw fel rhai rhydd i bawb, ond, wrth gwrs, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi newid eu cyngor erbyn hyn o ran y dylai pob oedolyn gael y brechiad atgyfnerthu nawr, a'r cyfnod amser byrrach bellach rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu. Felly, tybed a fyddech chi'n ailystyried y dull hwnnw hefyd a hefyd yn sôn am y ffaith bod rhai byrddau iechyd ledled Cymru, wrth gwrs, mewn gwirionedd yn gweithredu canolfannau atgyfnerthu cerdded i mewn. Felly, mae dull gwahanol ledled Cymru mewn rhai ffyrdd, ond a wnewch chi roi eich pwysau'n llawn y tu ôl i'r canolfannau atgyfnerthu cerdded i mewn, sef y dull cywir yn sicr yn fy marn i? Os ydych chi'n cytuno hefyd, a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariad o ran ailagor canolfannau brechu torfol ledled Cymru? Rwyf i'n credu y dylen nhw gael eu hailagor; byddwn i'n gwerthfawrogi eich barn ar hynny. Tybed a ydych chi hefyd yn cytuno â mi, Gweinidog, o ran pwysigrwydd cynyddu gwirfoddolwyr i weithio yn y GIG ac i gefnogi'r rhaglen frechu. Tybed allech chi ddweud wrthym ni ba gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymateb i weithrediad gwirfoddolwyr COVID y GIG hefyd.
Mae cadw addysg ar agor, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i mi ac i fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr. Rwy'n credu ei bod i chi hefyd, Gweinidog. Cytunais â'r Gweinidog addysg neithiwr o ran ehangu'r defnydd o orchuddion wyneb mewn addysg ac mewn colegau. A gaf i ofyn am ymrwymiad mwy cadarn y bydd ysgolion yn aros ar agor? Rydym ni'n gwybod ein bod ni mewn cyfnod ansicr, ond a gaf i ofyn am ymrwymiad i lacio cyfyngiadau fel pasbortau brechu os nad yw'r amrywiolyn newydd yn fwy peryglus na delta? Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn dymuno gwybod hynny. A hefyd, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar faterion a amlinellwyd yn flaenorol ynghylch pasys COVID a'r anhawster i'w cael? Mae problemau ynghylch faint o amser sydd ei angen ar bobl sy'n dymuno cymorth ychwanegol gyda llinell ffôn, llinell gymorth—os gallwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny—a hefyd o ran ardystio COVID. Cododd etholwr fater penodol gyda mi o ran cael un brechiad yn yr Alban a'r ail frechiad yng Nghymru. Rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol o'r broblem hon, oherwydd cafodd ei chodi yn flaenorol, ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y potensial i sicrhau bod GIG yr Alban a GIG Cymru yn siarad â'i gilydd, er mwyn sicrhau y gall pobl dderbyn ardystiadau COVID er mwyn iddyn nhw wneud eu gwaith, sef y sefyllfa yn yr achos hwn.
Ac yn olaf, tybed a allech chi siarad rhywfaint am y pigiadau atgyfnerthu o ran—. Y pryder sydd gen i, Gweinidog, yw y gallai gwthio'r pasys COVID heb y sail wyddonol honno danseilio hyder mewn Llywodraeth o ran cyfarwyddiadau eraill gan y Llywodraeth. Rwy'n pryderu y gallai hynny danseilio unrhyw gyfyngiadau pellach mae angen i chi eu cyflwyno o ran yr amrywiolyn newydd hwn o ran y sail wyddonol y tu ôl i frechiadau COVID, sydd, wrth gwrs, yn cael eu cefnogi'n llawn. Felly, i bob pwrpas, Gweinidog, mae'r dystiolaeth wyddonol y tu ôl i benderfyniadau yn gwbl hanfodol i'r cyhoedd ei deall.
Diolch yn fawr, Russell. I'w gwneud yn gwbl glir: rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ansicr rydym ni ynddi mewn cysylltiad â'r GIG wrth i ni fynd i'r gaeaf, sydd, yn draddodiadol, yn gyfnod heriol iawn beth bynnag, ond, yn amlwg, eleni mae gennym ni'r pwysau ychwanegol sydd wedi adeiladu oherwydd y pandemig. Rydym yn pryderu am yr achosion posibl o'r ffliw; mae galw sylweddol iawn eisoes ar yr adran damweiniau ac achosion brys. Felly, yr hyn yr ydym ni am geisio ei wneud yma yw ceisio sicrhau, ar ben hynny i gyd, nad ydym yn gweld ton ychwanegol o'r amrywiolyn omicron newydd hwn yn taro ein hysbytai. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwrando ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—nhw yw'r arbenigwyr gwyddonol sy'n dweud wrthym, 'Gweithredwch yn gynnar a sicrhau bod pobl yn cael eu brechu cyn i unrhyw don bosibl ein taro'. Felly, rydym ni'n gwrando ar y cyngor hwnnw.
O ran Gweinidog brechu, yn amlwg, penderfyniad y Prif Weinidog yw hynny. Os oeddwn i am ddweud rhywbeth, byddwn i'n dweud mai'r Prif Weinidog, mewn gwirionedd, yw'r Gweinidog brechu, oherwydd ei fod yn cymryd diddordeb mor arbennig o weithredol yn y rhaglen frechu. Mae'n cael cyfarfodydd wythnosol lle mae'n holi'r swyddogion i sicrhau ein bod ar ben hynny, a byddwn i'n awgrymu bod hynny'n rhan o'r rheswm pam mae gennym un o'r rhaglenni brechu mwyaf llwyddiannus yn y byd i gyd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf i'n hyderus iawn bod ein Gweinidog brechu, sef, yn wir, y Prif Weinidog, yn gwneud gwaith da iawn yn ei gylch. O ran y cyflenwad, roeddem ni'n falch iawn o weld a chael cadarnhad bod cyflenwad digonol o Pfizer a Moderna, sef y ddau frechlyn sy'n cael eu hargymell.
O ran canolfannau cerdded i mewn, mae gen i gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yma a byddaf yn darllen yn union beth mae'n ei ddweud. Mae'n dweud
'Dylid cynnig brechiad atgyfnerthu bellach yn nhrefn grwpiau oedran ddisgynnol, gan roi blaenoriaeth i frechu oedolion hŷn a'r rhai mewn grŵp risg COVID-19.'
Dyna mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ei ddweud a dyna pam rydym yn dilyn eu cyngor. Mae'r canolfannau galw i mewn yn rhoi rhyddid i bawb droi fyny; rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Os ydym ni am fynd ymhellach, yn amlwg, rydym yn mynd i ymateb yn awr o ran sut yr ydym yn ysgogi'r fyddin frechu newydd hon y byddwn yn ei datblygu yn ystod y dyddiau nesaf. Rydym eisoes, yn amlwg, wedi siarad â'n byrddau iechyd a fydd yn cyflwyno cynlluniau manylach ar ein cyfer yfory. Mae trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda llywodraeth leol, gyda'r fyddin, gyda phob math o sefydliadau i weld beth arall y gallwn ei roi ar waith a phwy sy'n barod am hyn—pwy sy'n barod i'n helpu ar yr adeg heriol iawn hon.
Rydym ni bob amser wedi dweud mai ysgolion fydd y pethau olaf i gau. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i geisio eu cadw ar agor, ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod y Gweinidog addysg wedi gwneud y cyhoeddiad hwnnw ddoe. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cadw ein plant yn yr ysgol. Yn amlwg, os cawn wybod nad yw hwn yn amrywiolyn difrifol ac nad yw'n effeithio arnom yn rhy negyddol, yna byddwn yn ymateb mewn ffordd sy'n briodol. Gan nad ydym yn gwybod beth yw'r sefyllfa, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol i ni fod yn ofalus.
O ran y pàs COVID, rydym ni'n gwybod bod y llinell ffôn wedi bod dan bwysau gwirioneddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael llythyr gen i yn amlinellu'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ynghylch hynny. Bu ymgyrch recriwtio i geisio cynyddu nifer y bobl sydd ar gael i ateb y ffonau. Rydym yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau y gallwn ni reoli pobl yn well. Rydym yn ymwybodol o'r sefyllfa o ran tystysgrifau COVID ac anhawster rhywun sydd wedi cael un brechlyn, efallai, yng Nghymru, ac un arall yn yr Alban. Dylai Cymru a Lloegr fod yn siarad â'i gilydd. Mae'n dal yn anodd i system Cymru a'r Alban, ond rydym yn ymwybodol o hynny ac rydym yn gweithio ar hynny. O ran y pàs COVID, nid wyf am ymddiheuro am y ffaith ein bod ni wedi cyflwyno'r pàs COVID hwn mewn ardaloedd lle mae llawer o bobl yn ymgynnull. Rydym yn gwybod bod y feirws yn ffynnu mewn mannau lle mae llawer o bobl yn ymgynnull dan do, ac felly nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny. Yr hyn y byddwn ni yn ei wneud yw pennu'r sefyllfa a mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yn ein proses adolygu 21 diwrnod tair wythnos, ond pe baem yn gweld bod y sefyllfa'n newid yn gyflym, mae'n amlwg y bydd angen i ni gyflwyno mesurau'n gyflymach na hynny. Nid ydym yn y sefyllfa honno eto, ond rydym ni, yn amlwg, yn cadw llygad ar y sefyllfa wrth i'r dyddiau fynd yn eu blaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch am y diweddariad heddiw. Mae hon yn dro arall, onid ydy, yng nghynffon y pandemig yma, ac fel y clywsom ni rŵan, mae o'n ddatblygiad sydd yn sicr angen ei gymryd o ddifrif. Mae o'n bryder bod yna dystiolaeth ei fod o'n gallu ailheintio pobl sydd wedi cael COVID-19 yn barod neu sydd wedi derbyn brechiad dwbl, fel y clywsom ni, ond maen nhw'n ddyddiau cynnar, wrth gwrs, ac mae'n bwysig cofio hynny. Mae yna lawer o waith dysgu i'w wneud.
Rhyw hanner dwsin o gwestiynau, dwi'n meddwl, sydd gennyf fi, rhag ofn eich bod chi eisiau eu nodi nhw. Yn gyntaf, cwestiwn cwbl ymarferol: allwn ni gael cadarnhad bod y labordai sy'n gwneud y bulk o waith profi yng Nghymru yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma fel ein bod ni yn cael rhybudd cynnar iawn o'r sefyllfa yma?
Ac yn ail, rhywbeth dwi'n gwybod mae un cartref gofal yn fy etholaeth i yn eiddgar i wybod: ydyn ni'n gwybod bellach ydy profion llif unffordd yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma? Mae'n amlwg pam eu bod nhw'n bryderus. Maen nhw, gyda llaw, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn holi ynglŷn â chefnogaeth i gyflwyno peiriannau profi PCR o fewn 90 munud, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ymateb ar hynny.
Mae'n rhyfeddol, dwi'n meddwl, bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais i weithio ar sail pedair cenedl wrth ymateb i'r amrywiolyn yma. Mae yna benderfyniadau, wrth gwrs, sydd wedi gorfod digwydd yn gyffredin ar draws y pedair cenedl, dros deithio rhyngwladol, er enghraifft. Dwi'n cyd-fynd yn sicr efo'r penderfyniad i'w gwneud hi'n angenrheidiol i wisgo mygydau.
Wedyn, mewn ysgolion yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu yma yng Nghymru o ran ysgolion uwchradd a cholegau, un cwestiwn penodol: a allaf i gael sicrwydd ydy'r gofyniad yna ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb mewn ysgolion a cholegau yn ofyniad cyfreithiol? Roedd yna rywfaint o ansicrwydd wedi cael ei godi efo fi ynglŷn â hynny.
Mae'r Llywodraeth yn iawn i newid y rheolau hunanynysu, i dynhau y rheolau hunanynysu eto, ond, un cwestiwn penodol arall, pa gymorth ychwanegol, yn ariannol neu fel arall, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o'i gynnig i bobl i sicrhau eu bod nhw yn gallu ynysu yn effeithiol? Mae hwn yn gwestiwn rydyn ni wedi ei ofyn droeon dros y flwyddyn a thri chwarter ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod o'n codi o bosib fel cwestiwn pwysig eto.
Yn symud at gyngor newydd y JCVI, oes, yn sicr, mae angen cyflymu ac ehangu'r broses frechu. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael awgrym gan y Gweinidog o ba mor benderfynol y mae hi i godi gêr o ran y broses frechu rŵan mewn ymateb i'r cyngor yna. Gaf i ofyn beth ydy'r adnoddau ychwanegol fydd ar gael i wneud hynny, yn adnoddau ariannol ac fel arall?
A thema dwi'n dychwelyd ati hi eto: a gawn ni raglen gyfathrebu glir iawn fel bod pobl yn cael syniad clir o bryd maen nhw'n debyg o dderbyn eu brechiad, a beth i'w wneud wedyn os ydyn nhw ddim wedi cael gwahoddiad pan ddylen nhw? Dwi'n derbyn yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud, bod angen mynd drwy bobl yn nhrefn blaenoriaeth, ond mae pobl yn eiddgar i gael y brechiad ac angen gwybod pa bryd mae eu tro nhw'n debyg o ddod. Ac os oes yna rywbeth wedi mynd o'i le, mae'n iawn eu bod nhw'n gwybod i godi'r ffôn neu gysylltu ym mha bynnag ffordd i ddweud, 'Rydych chi wedi methu fi.' Mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhan bwysig o'r broses.
Yn olaf, buaswn i'n licio tynnu sylw'r Gweinidog at bryderon difrifol sydd wedi cael eu codi'r prynhawn yma am lesiant corfforol a meddyliol chwaraewyr a staff clwb Rygbi Caerdydd—y pryderon yna'n cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ohebydd chwaraeon ITV Cymru, Beth Fisher, oedd yn adrodd am bryderon difrifol i'r tîm, wrth gwrs, sydd dal allan yn Ne Affrica. Wrth gwrs, maen nhw eisiau dod adre, ac wrth gwrs, byddai'n rhaid rhoi cyfundrefn brofi a chwarantîn ac ati mewn lle iddyn nhw allu dod adre, ond, a all y Gweinidog ddweud beth mae hi yn ei wneud i hwyluso eu dychweliad nhw i Gymru mor fuan ag sydd yn bosibl?
Diolch yn fawr. Jest i wneud hi'n glir, mae rhai labordai ym Mhrydain ddim eto'n gallu adnabod drwy PCR yr amrywiolyn newydd yma. Felly, rŷn ni jest yn ceisio sicrhau ein bod ni'n gwybod pa labordai yw'r rheini. Wrth gwrs, mae un mawr yng Nghymru, ac mae hwnna yn y sefyllfa lle y bydden nhw yn adnabod.FootnoteLink
Dwi ddim yn hollol siŵr o ran os mae LFTs, lateral flow tests, eto yn gallu. Ond, mae gwaith sydd wedi cael ei wneud yn yr Almaen hyd yn hyn yn dangos ei fod e'n debygol y byddan nhw'n gallu. Eto, dim ond ers chwe diwrnod ydyn ni wedi adnabod y sefyllfa yma, felly mae'r gwaith yna'n cael ei wneud ar draws y byd. Felly, mae hwnna'n bwynt pwysig.
O ran y newidiadau hunanynysu, y rheolau a'r cymorth ariannol, rŷn ni wedi trafod yn fras efallai bydd angen gwneud rhywbeth yn y maes yma, ond dŷn ni ddim ar y pwynt yna, felly dŷn ni ddim wedi cael cytundeb ar hynny eto.
O ran mygydau mewn ysgolion, mae e'n recommendation in guidance, jest fel bod pobl yn glir beth mae hwnna'n golygu.
Ac wedyn, pryd fydd pobl yn derbyn y brechiad, wel, mae hi'n rhaglen rili cymhleth eisoes, cyn inni gael y rhaglen ychwanegol mawr yma, ac felly rŷn ni yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar, ac mi fyddwn ni mewn amser yn dweud, 'Reit, os nad ŷch chi wedi clywed hyd yn hyn, os ŷch chi yn y categori yma, wedyn cysylltwch.' Ond dŷn ni ddim ar y pwynt yna eto. Felly, ar hyn o bryd, byddwn i'n gofyn i bobl beidio â chysylltu, achos mae lot fawr o waith yn cael ei wneud, ac mae angen inni ganolbwyntio ar y rhaglen fawr. Mi ddown ni atoch chi, ac mi wnawn ni roi gwybod ichi. Os ŷch chi yn y grŵp a rŷch chi'n meddwl eich bod chi wedi colli allan, dŷch chi ddim wedi cyrraedd y pwynt yna eto. Mi wnawn ni roi gwybod i bobl, felly byddwch yn amyneddgar os yn bosibl.
Jest o ran clwb Caerdydd, yn amlwg, beth sydd wedi digwydd yw bod De Affrica wedi mynd ar y rhestr goch. Mae hwnna'n golygu bod yna ofyniad cyfreithiol iddyn nhw ynysu. Ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw cadw pobl Cymru'n saff, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny trwy gadw'r amrywiolyn allan cyn hired â phosibl. Wrth gwrs, mae lot o bobl ar hyd a lled y byd yn yr un sefyllfa â chlwb Caerdydd, ac felly rŷn ni yn ymwybodol bod angen inni jest ystyried eu bod nhw efallai mewn sefyllfa galed, ond mae'n rhaid inni ystyried bod pobl yn yr un sefyllfa â nhw ar draws y byd, felly rŷn ni'n cadw llygad ar y sefyllfa.
Y ffaith yw nad oes yna westy lle maen nhw'n gallu hunanynysu yng Nghymru, ac mae yna reswm clir am hynny—oherwydd, yn gyffredinol, does dim awyrennau sy'n dod o'r gwledydd coch yma. Dyw Caerdydd ddim yn faes awyr lle mae red-list countries yn cael dod a glanio; mi fyddai fe'n anghyfreithlon. Os mai honno yw'r sefyllfa rŷn ni ynddi, mae hwnna'n golygu bod yn rhaid i bobl lanio yn Lloegr. Mi fyddai fe ddim yn gwneud lot o synnwyr o ran iechyd i drawsgludo pobl o faes awyr yn Lloegr i westy yng Nghymru. Mae'n anodd iawn i ystyried ar hyn o bryd a fyddai gwesty jest cyn Nadolig yn barod i newid ei hunan i mewn i westy sydd yn barod i dderbyn pobl o wlad coch, achos dyna'r unig beth maen nhw'n gallu ei wneud wedyn. Felly, byddai Nadolig, mewn gwirionedd, drosodd iddyn nhw fel gwesty, felly yn amlwg mae hwnna'n amhosibl inni ei weithredu ar hyn o bryd.
Hoffwn i ddiolch hefyd i'n gweithwyr gofal iechyd eto ar yr adeg hon, a hefyd y rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu atgyfnerthu. Rwyf i yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y rhaglen atgyfnerthu yn cael ei hymestyn i bob oedolyn, y bydd pob plentyn yn cael cynnig ail ddos, a bydd lleihau'r bwlch rhwng yr ail ddos a'r brechlyn atgyfnerthu o chwech i dri mis. Gweinidog, mae posibilrwydd i ymddangosiad y feirws omicron fod yn bryder difrifol iawn. Pa gamau bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu'r rhaglen frechu atgyfnerthu fel y gall pob oedolyn yng Nghymru gael brechlyn atgyfnerthu yn gyflym yn gynharach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen glir iawn, a'n bod ni bellach yn mynd i ymgymryd â'r holl argymhellion sydd wedi dod gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Byddwn yn ehangu'r rhaglen frechu, fel y gwnes i egluro yn fy natganiad, i bob oedolyn rhwng 18 a 39 mlwydd oed, o ran y brechlyn atgyfnerthu, a bydd y rhai sydd â diffyg imiwnedd difrifol yn cael pedwerydd brechlyn, yn ei hanfod, ac, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, cynigir ail ddos i blant o 12 i 15 mlwydd oed. Felly, ydym, rydym ni yn cyflymu'r rhaglen yn gyflym iawn. Roedd gennym ni darged i geisio cyrraedd pawb o dan 50 mlwydd oed erbyn y flwyddyn newydd. Rydym ni'n mynd i geisio gwthio'r holl broses gymaint â phosibl. Gobeithio y byddwn yn gallu rhoi ychydig mwy o fanylion yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf o ran beth fydd ein cynlluniau a beth ddylem ei ddisgwyl o ran hynny, ond, fel y dywedais i, dim ond chwe diwrnod hyd yn hyn, a gallaf eich sicrhau bod ein timau wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos ar hyn yn barod.
Mae'r rhan fwyaf o fy nghwestiynau wedi eu hateb, felly ni fyddaf yn gwastraffu gormod o amser, ond hoffwn i hefyd fod yn gysylltiedig â rhannu fy niolch i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol sydd wedi gwneud cymaint ac sy'n mynd i wneud llawer iawn mwy, yn anffodus.
A diolch i chi am eich datganiad heddiw. Yr hyn yr oeddwn i am roi sylw iddo, ar gefn nifer o drigolion oedrannus sy'n bryderus iawn eu bod wedi cael trafferth cael pàs COVID, ac maen nhw'n bwriadu cynna digwyddiadau Nadolig gyda theulu ac maen nhw'n ofni bellach na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny oherwydd efallai y bydd disgwyliad newydd yn cael ei gyflwyno bod yn rhaid defnyddio pasys COVID yn y sector lletygarwch. Ac rwy'n credu i mi weld hynny yn cael ei ailadrodd ar y newyddion rywle yn gynharach heddiw, lle mae mannau lletygarwch eisoes yn gweld bod pethau'n cael eu canslo. Nawr, rwy'n gwybod bod hynny efallai yn ganlyniad anochel i bryder cynyddol, fel sydd gennym ar hyn o bryd, ond nid wyf i'n siŵr, Gweinidog, a allwch chi ddweud unrhyw beth arall am unrhyw fwriad i ymestyn system pasys COVID i'r sector lletygarwch. Rwy'n gwybod y byddwch yn ei adolygu bob tair wythnos, ond byddai rhywfaint o'r eglurder hwnnw yn ddefnyddiol iawn i bobl oedrannus nad oedden nhw wedi cael Nadolig go iawn y llynedd, ac efallai mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael un, ac maen nhw'n poeni'n fawr y bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo oherwydd na fyddan nhw'n gallu cael eu pàs os bydd ei angen. Diolch.
Diolch, Peter. Rydym ni i gyd awyddus iawn am Nadolig da eleni, onid ydym ni? Cawsom ein hamddifadu ohono y llynedd, ac rwy'n gwybod yn arbennig bod llawer o hen bobl yn dwlu ar yr amser hwnnw gyda'u teuluoedd ac yn edrych ymlaen ato yn fawr. Byddwn i'n annog pobl i ddeall mai pàs COVID ydyw, felly nid yn unig y gallwch ddefnyddio'r pàs, sy'n dangos eich bod wedi cael y brechiad, ond hefyd gallwch chi ddefnyddio prawf llif unffordd. Nawr, ar hyn o bryd, y bygythiad yng Nghymru mewn gwirionedd yw'r amrywiolyn delta. Gadewch i ni beidio ag anghofio, nid yw hwnnw wedi diflannu. Rydym ni'n dal i fod ar gyfradd lle rydym ychydig o dan 500 o achosion fesul 100,000 o bobl. Felly, mae angen i bobl gymryd o ddifrif y ffaith bod COVID yn dal yn fyw ac iach yn ein cymunedau. Felly, gallan nhw gymryd prawf llif unffordd os ydyn nhw'n cael trafferth, ond wrth gwrs byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio gwella'r sefyllfa o ran cael y pàs papur hwnnw, os byddai hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw.
Ac o ran y sefyllfa lletygarwch, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei adolygu yng ngoleuni'r adolygiad 21 diwrnod.
Weinidog, mae'n hanfodol nawr bod y trafferthion rŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, fel Aelodau wedi clywed amdanynt o ran derbyn y brechiad atgyfnerthu, y pryderon yma rydyn ni wedi eu trafod y prynhawn yma, yn cael eu datrys. Mae un o fy etholwyr i, sydd yn ei saithdegau hwyr, yn dioddef o alergedd difrifol, a hyn yn glir ar ei chofnod meddygol, a gwnaeth e gael ei gymryd i ystyriaeth pan gafodd hi'r ddau bigiad gyntaf, wrth gwrs. Mae wedi cael gwahoddiad i dderbyn y brechiad atgyfnerthu, ac wedyn ar ôl mynd bob cam o Gwm-gwrach i'r ganolfan yn Abertawe, cafodd ei throi i ffwrdd am nad oedd modd delio â hi yno. Yna, fe gafodd hi wahoddiad gan ei meddyg teulu am y brechiad atgyfnerthu. Digwyddodd yr un peth. Dywedwyd wrthi y buasai'r tîm alergedd yn cysylltu, ond mae'n dal i aros ac mae'n rhai wythnosau nawr. Does dim ffordd ganddi—a dwi wedi edrych ar hwn hefyd—i gysylltu â'r tîm alergedd i wybod pryd y bydd hi'n gallu derbyn apwyntiad, ac ym mhle. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y bobl fregus yma, ym mhob rhan o Gymru, yn cael eu hamddiffyn yn brydlon ac yn llawn, yn enwedig o gofio'r pryder nawr am yr amrywiolyn newydd. Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned. Yn amlwg, mae'n anodd i fi sôn am unrhyw achos unigol, ond beth dwi yn cydnabod yw ei bod hi wedi bod, efallai, yn fwy anodd y tro yma i fynd at bobl, yn arbennig yn eu cartrefi nhw, achos mae'n rhaid ichi aros am 15 munud ar ôl ichi gael y brechiad. Nid hynny yw'r achos yn yr achos yma, ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig bod pobl—ac mae'n dda i weld ei bod hi wedi ymateb i'r cais yna pan gafodd ei galw, a buaswn i'n meddwl ei bod yn gwneud synnwyr iddi gario ymlaen i fynd at y bobl sy'n deall y system alergedd a sut buasai hwnna'n effeithio arni.
Cefais i fy mrechlyn atgyfnerthu Pfizer ddydd Sul. Ond yn eich datganiad ysgrifenedig neithiwr, 'Brechlyn COVID-19—cyngor pellach ar frechlynau atgyfnerthu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu', fe wnaethoch chi ddatgan eich bod wedi derbyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn unol â chenhedloedd eraill y DU. Pa sicrwydd allwch ei roi felly i'r etholwr a ddywedodd y bore yma, 'Rwy'n ceisio ail-drefnu fy mrechlyn atgyfnerthu o 18 Rhagfyr i 11 Rhagfyr gan fy mod i'n teithio i Ffrainc ar 19 Rhagfyr ac, i fynd i Ffrainc, mae'n rhaid i mi fod wedi cael fy mrechlyn atgyfnerthu saith diwrnod ymlaen llaw. Rwy'n troi mewn cylchoedd gyda llinell frechu COVID Cymru. Allwch chi helpu? Mae'n cymryd oriau i fynd drwodd ac yna nid oes unrhyw un yn gallu ei newid. Rwyf i newydd ffonio'r llinell COVID eto ac fe wnaethon nhw ddweud nad yw eu systemau wedi eu diweddaru eto ac na allan nhw drefnu dyddiad cynharach na'r dyddiad sydd gen i. Ydw i'n gallu ceisio cael apwyntiad yn Lloegr? Mae hyn yn mynd yn hunllef. Rwyf i wedi bod yn ceisio ers dydd Gwener ac maen nhw'n dweud wrthyf o hyd nad yw systemau Cymru wedi eu diweddaru eto ac i ffonio eto y diwrnod wedyn.'
Diolch yn fawr iawn, Mark, a hoffwn i atgoffa eich etholwr mai'r cyngor teithio gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, yw peidio â'i wneud—peidiwch â theithio dramor. Nid nawr yw'r amser i deithio dramor, yn enwedig pan fo'r amrywiolyn newydd hwn nad ydym yn gwybod fawr ddim amdano wedi ymddangos. Felly, mae'n amlwg nad ydym yn mynd i newid ein system gyfan i geisio cyflymu'r broses i rywun sy'n mynd yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru; mae'n debyg na fyddai hynny'n gwneud unrhyw synnwyr yn wleidyddol i ni. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i'ch etholwr aros ei dro, fel mae pawb arall yn ei wneud, a byddwn yn ei wneud ar y sail y mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi ein cynghori, hynny yw, yn nhrefn oedran a bod yn agored i salwch.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Hoffwn i eilio sylwadau Russell George gan fy mod i'n gwerthfawrogi bod gennych lawer ar eich plât a'ch bod yn ymdrin â sefyllfa gymhleth sy'n newid yn barhaus, felly rwyf i yn cydnabod hynny.
Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, er bod angen i ni fod yn ofalus, nad oes angen i ni fynd i banig? Nid ydym yn gwybod digon am yr amrywiolyn newydd hwn, ond mae arwyddion cynnar yn dangos bod unigolion sydd wedi eu brechu'n llawn yn fwy tebygol o gael symptomau ysgafn. Felly, yr amddiffyniad gorau sydd gennym yw cynyddu'r brechlyn atgyfnerthu, a dim ond amser cinio heddiw dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y dylem ni fod yn taflu popeth at y brechlynau atgyfnerthu hyn ac mae'n addawol gweld eich bod yn rhannu'r un brwdfrydedd ar sail drawsffiniol. Felly, Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr holl staff gofal yn cael eu brechu'n llawn? Oherwydd mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llai na 63 y cant o staff gofal wedi eu brechu'n llawn, o'i gymharu â bron i 80 y cant o weithwyr iechyd. Gweinidog, gan fod ymwelwyr â chartrefi gofal yn gorfod dangos prawf negyddol cyn y gallan nhw ymweld, a ydych chi'n cytuno mai'r staff yw'r cludwyr heintiau mwyaf tebygol ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal? Felly, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau y bydd brechlynau atgyfnerthu yn cael eu cynnig a'u darparu i holl staff cartrefi gofal cyn y Nadolig? Diolch.
Diolch yn fawr. Rydych chi'n llygad eich lle; rydym ni'n bod yn ofalus ac nid ydym ni'n mynd i banig. Dyna union safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn cynyddu ein dull brechu a dylai'r holl staff gofal fod wedi cael cynnig y brechlyn erbyn hyn. Felly, yn amlwg, weithiau, nid yw pobl yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac felly mae angen i ni barhau i fynd yn ôl atyn nhw a sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Ond i dynnu sylw at y ffaith, pa un a ydyn nhw wedi cael y brechlyn atgyfnerthu ai peidio, gofynnir iddyn nhw, wrth gwrs, gymryd profion rheolaidd oherwydd eu bod yn gweithio mewn amgylchedd agored i niwed iawn.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu ddau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.