1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Nawr, mewn cyfarfod bord gron rhithwir diweddar a gynhaliais gyda Propertymark, rhagwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y bobl a fydd yn chwilio am eiddo rhent. A hoffwn gyfeirio'r Aelodau ac aelodau'r cyhoedd at fy nghofrestr buddiannau fy hun. Mae hyn yn achosi pwysau aruthrol ar staff rheng flaen yn y sector gwerthu a gosod, gan mai ychydig iawn o eiddo sydd ar gael i'w rentu neu brynu. Mae Holmans yn argymell bod angen adeiladu hyd at 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru erbyn 2031, ond roedd y ffigurau ar gyfer anheddau a gwblhawyd yn 2018-19 30.6 y cant yn is nag ar ddechrau datganoli. Nawr, mae hyn yn ddirywiad. Fodd bynnag, yn eich llythyr at yr arweinwyr a’r prif weithredwyr, at awdurdodau lleol, ar 17 Tachwedd, fe ddywedoch chi,
'Ymddengys ein bod eisoes yn adeiladu'r nifer o gartrefi ar gyfer y farchnad sydd eu hangen arnom'.
Felly, sut y gall hyn fod yn wir, er mai 5,138 yn unig o gartrefi newydd a gychwynnwyd yn 2019? A chyda hyn mewn golwg, Weinidog, a ydych yn derbyn mai'r ffordd briodol o ymateb i'r argyfwng eiddo yng Nghymru fyddai drwy rymuso busnesau presennol i adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y farchnad, yn hytrach na gwastraffu amser ac adnoddau ar greu eich cwmni adeiladu cenedlaethol eich hun?
Wel, mae cyfosodiad y ddau beth hynny ar y diwedd yn eithaf syfrdanol, felly rwyf am ymdrin â hynny yn gyntaf. Mae'r syniad y byddai cwmni adeiladu cenedlaethol rywsut yn atal y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn eithaf rhyfeddol. Nid ydym wedi archwilio eto, fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda'n partneriaid ym Mhlaid Cymru, sut yn union y byddwn yn defnyddio'r cwmni adeiladu. Ond rydym wedi cael nifer fawr o sgyrsiau gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau ynglŷn â phrinder llafur medrus, anhawster i gael prentisiaid da, a phrinder cyngor da iawn ynghylch cyflwyno datblygiadau mewn da bryd. Felly, byddwn yn cael sgwrs gynhyrchiol iawn gyda Phlaid Cymru ynglŷn â sut i lenwi bylchau lle bu methiant yn y farchnad, a materion eraill lle gallwn wneud cynnydd ym maes tai mewn ffordd briodol.
Mae'r dystiolaeth yn ddiddorol iawn, a dweud y gwir, gan y Llywodraeth Lafur ar ôl yr ail ryfel byd, a etholwyd gan y milwyr a ddaeth yn eu holau, fod y cynnydd aruthrol mewn adeiladu tai cymdeithasol wedi ysgogi'r farchnad breifat, yn hytrach nag amharu arni mewn unrhyw ffordd. Mae'r graffiau'n ddiddorol iawn, ac rydym yn hollol sicr y byddwn yn gwneud yr un peth gyda'n rhaglen uchelgeisiol ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol.
Diolch. Weinidog, ar y naill law, rydych yn credu y gallwch gystadlu gyda rhai o'n hadeiladwyr gorau gan ddefnyddio arian trethdalwyr, ond ar y llaw arall, rydych yn gwrthod dweud faint o gartrefi y mae modd i ni eu hadeiladu o ganlyniad i'ch canllawiau eich hun, neu CNC, ar ffosffadau. Nododd mynychwyr y grŵp rhanddeiliaid ar ffosffadau rwy'n ei gadeirio fod CNC, i bob pwrpas, yn rhwystro cymaint â 10,000 o gartrefi newydd ledled Cymru, gan gynnwys 1,700 o'r cartrefi fforddiadwy hynny. Mae'r aelod o'r cabinet ar gyfer cynllunio yng Nghyngor Sir Penfro wedi nodi y bydd nifer y ceisiadau a wrthodir oherwydd canllawiau CNC yn codi'n sylweddol dros yr ychydig fisoedd nesaf. Y mis diwethaf, fe ddywedoch chi wrth y Senedd hon, ac rwy'n dyfynnu,
'Does gen i ddim problem o gwbl gyda chanllawiau CNC—'
[Torri ar draws.] Rwy'n siarad â'r Gweinidog, nid y Dirprwy.
—'gyda chanllawiau CNC ar y pwnc.'
Felly, a wnewch chi dynnu’r datganiad hwnnw yn ôl, a rhwystro, neu ddadflocio’r rhwystr, datgloi’r rhwystr—[Chwerthin.]—rhag codi miloedd o gartrefi newydd, drwy awdurdodi eithriadau i’r canllaw hwn, a galluogi awdurdodau cynllunio i dderbyn technoleg tynnu ffosffad mewn asedau trin dŵr gwastraff fel atebion rhesymol?
Wel, Janet, nid wyf yn gwybod ble i ddechrau. Yn gyntaf, fe ddechreuoch chi gydag asesiad o'r cwmni adeiladu cenedlaethol, sy'n dangos yn glir nad oeddech yn gwrando ar yr ateb roeddwn newydd ei roi i chi. Yn sicr, ni ddywedais unrhyw beth am sefydlu cwmni i gystadlu ag unrhyw un o'n hadeiladwyr bach a chanolig y mae gennym berthynas dda iawn â hwy, ac y mae gennyf fforwm ymgynghorol gyda hwy, fforwm a fynychais yn ddiweddar iawn i drafod y peth gyda hwy. Felly, dyna ateb hynny. Nid oes unrhyw awgrym o unrhyw fath y bydd unrhyw gwmni cyhoeddus yn cael ei sefydlu i gystadlu â'n busnesau bach a chanolig yn y farchnad adeiladu. Felly, credaf y dylech fod wedi gwrando ar hynny, a chael rhywfaint o sicrwydd nad yw hynny'n wir. Yr hyn a ddywedais yn gadarn iawn oedd bod nifer o fethiannau yn y farchnad, bylchau sgiliau, a phethau sydd wedi'u dwyn i'n sylw gan adeiladwyr tai cyngor a thai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chan y fforwm cwmnïau adeiladu bach a chanolig, lle mae'n fuddiol cael sgwrs am gwmni adeiladu cenedlaethol i lenwi'r bylchau. Mae'n sgwrs nad ydym wedi'i chael eto gyda Phlaid Cymru, yn dilyn y cytundeb cydweithio, a byddaf yn siŵr, Ddirprwy Lywydd, o gyflwyno'r mater i'r Senedd pan fyddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.
Ar y pwynt arall, mae Janet Finch-Saunders wedi dweud yn aml ei bod o blaid datgan argyfwng hinsawdd a’r atebion a gyflwynir i fynd i'r afael ag ef, ond mae’n atal pob ateb a gyflwynir ar bob cyfle. Rwyf am adael i'r cyhoedd yng Nghymru ddod i'w casgliadau eu hunain am ei diffuantrwydd ar y pwynt hwn.
Weinidog, mae'n amlwg iawn o'ch ymatebion eich bod, yn ogystal â methu hwyluso cynnydd mawr ei angen yn y nifer o dai a adeiladir yng Nghymru, yn cefnogi canllawiau sy'n llesteirio'r sector. Mae'r angen brys i ddarparu mwy o gartrefi newydd yn glir wrth ystyried twll du ariannol yr argyfwng cartrefi dros dro sy'n wynebu ein hawdurdodau lleol. Rwyf wedi ysgrifennu at 22 awdurdod lleol—ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Ac mae'r ffigurau—ac mae gennyf fwy i ddod ar hyn—yn sgandal, ac maent yn frawychus. Er enghraifft, mae gwariant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar lety dros dro wedi cynyddu o £174,000 yn 2018-19 i ychydig dros £1.2 miliwn yn 2020-21, ac nid dyna'r unig enghraifft. Yn yr un modd, mae gwariant Gwynedd ar lety dros dro wedi cynyddu 265 y cant rhwng 2018-19 a 2020-21, gan gyrraedd bron i £1.7 miliwn. Weinidog, o gofio bod eich datganiad ar ddigartrefedd yr wythnos diwethaf wedi dweud eich bod am gryfhau cysylltiadau rhwng awdurdodau lleol a’r sector preifat, a wnewch chi ymrwymo i fynd at wraidd y mater gydag awdurdodau lleol i adolygu sut i ddarparu cartrefi hirdymor yn fwy effeithiol i’n preswylwyr sydd cymaint o'u hangen? Diolch.
Felly, unwaith eto, Janet, rwyf bron yn edmygu eich gallu i roi dwy ffaith at ei gilydd a gwneud tair ffaith hollol wahanol, heb unrhyw berthynas â'r ddwy ffaith wreiddiol. Felly, mae gennym raglen adeiladu cartrefi cymdeithasol uchelgeisiol ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel yn nhymor nesaf y Senedd. Mae hyn yn bosibl bellach oherwydd, ar ôl 40 mlynedd o atal cynghorau rhag adeiladu tai, daeth y Llywodraeth Dorïaidd at ei choed yn y pen draw a chael gwared ar y capiau ar gyfrifon refeniw tai. Felly, rwy’n eich canmol am ddod at eich coed ar ôl cwta 40 mlynedd yn yr un rhigol.
Y peth nesaf y mae'n rhaid i chi ei weld yw mai'r rhaglen cartrefi cymdeithasol a'r rhaglen cartrefi di-garbon yw'r peth sy'n ysgogi'r farchnad dai, a bod angen inni adeiladu'r tai cywir o'r safon gywir yn y lle cywir, yn hytrach na chodi unrhyw hen nonsens ledled cefn gwlad, fel sy'n cael ei gynnig dros y ffin. Rwy’n canmol yr holl asiantaethau sy’n gweithio yma, gan gynnwys ein hadeiladwyr bach a chanolig, sydd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda ni i gyflwyno’r rhaglen honno. Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, wedi lansio piblinell ar gyfer adeiladu ledled Cymru, sydd wedi caniatáu iddynt fynd i'r afael â'r problemau llif arian sydd ganddynt, ac mae gennym berthynas dda iawn â hwy.
O ran digartrefedd, rydym yn darparu £1.8 miliwn y mis i gynghorau yng Nghymru allu mynd i'r afael â digartrefedd a achoswyd gan y pandemig COVID. Hoffwn weld ei Llywodraeth dros y ffin yn gwneud rhywbeth o'r fath a datrys y sgandal gysgu allan echrydus a gewch o dan Lywodraeth Geidwadol.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd pennaeth Trafnidiaeth Cymru fod teithio ar eu trenau yn sylfaenol ddiogel. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen cadw at y mesurau canlynol i sicrhau diogelwch COVID: cadw pellter oddi wrth bobl eraill, osgoi lleoedd gorlawn, awyru da pan fyddwch yn agos at eraill, a gwisgo gorchuddion wyneb. Felly, a yw'r mesurau hyn yn cael eu dilyn ar drenau? Gofynnais i gymudwyr am eu profiadau dros y cyfryngau cymdeithasol, a dyma rai o'r ymatebion a gefais: 'Cerbydau gorlawn, neb yn gwisgo masgiau'; 'Pobl wedi eu gwasgu fel sardîns'; 'Amhosibl sicrhau diogelwch COVID'; 'Fel trol wartheg a fawr neb yn gwisgo masgiau'; '90 y cant ddim yn gwisgo masgiau ar linell Rhymni'; a 'Ffenestri ar gau heb unrhyw awyru'. Dywedodd un unigolyn eu bod yn credu eu bod wedi dal COVID ar drên Trafnidiaeth Cymru gorlawn rhwng Caer a Bangor ychydig wythnosau yn ôl. Dywedodd un arall iddi gael pwl o banig ar y trên ar ddiwrnod y gêm rygbi ddiwethaf am fod cymaint o bobl yn sefyll ac wedi'u gwasgu i mewn i'r trên. Anfonwyd lluniau ataf hefyd, Weinidog, o gerbydau gorlawn a fawr neb yn gwisgo masgiau. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â phennaeth Trafnidiaeth Cymru fod teithio ar drenau yng Nghymru yn sylfaenol ddiogel?
Diolch. Credaf fod y dyfyniad llawn, a bod yn deg, yn cydnabod bod heriau sylweddol gyda gorlenwi, a bod rhai teithwyr yn gwrthod gwisgo masgiau er gwaethaf y canllawiau clir iawn, ond fod y trenau'n sylfaenol ddiogel, o ystyried y cyfundrefnau glanhau sydd ar waith, ac o ystyried yr holl bethau eraill y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gwneud i ddilyn y canllawiau. Maent yn gwneud ymdrechion eithriadol, ond nid oes amheuaeth fod heriau i'w cael, ac mae nifer o resymau dros hynny.
Fe sonioch chi am y gemau rygbi a gynhaliwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn hwyr yn y nos pan oeddent yn gwybod yn iawn mai cyfyngedig fyddai'r gwasanaethau trên yn dilyn y gêm, a fyddai’n creu pwysau ar y system, yn amlwg. Mae problemau eraill hefyd yn taro'r diwydiant rheilffyrdd ar hyn o bryd, lle mae trenau’n cael eu canslo a cherbydau’n cael eu difrodi oherwydd y stormydd ac oherwydd y tywydd. Mewn gwirionedd, pan oeddwn ar y trên i Glasgow, tynnwyd un allan o wasanaeth gan iddo daro ffesant ar y rheilffordd. Nawr, nid bai Trafnidiaeth Cymru yw hynny. Mae her hefyd mewn perthynas ag absenoldebau staff oherwydd hunanynysu, felly nid oes unrhyw amheuaeth fod y system drafnidiaeth gyhoeddus dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.
Yn y pen draw, mater o gyfrifoldeb personol yw gwisgo masgiau. Mae rhai pobl yn honni eu bod wedi'u heithrio rhag gwisgo masgiau pan nad yw hynny'n wir, yn amlwg. Ond mae bron yn amhosibl profi hynny. Gan weithio gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, mae gennym fesurau ar waith i orfodi mesurau gwisgo masgiau, ac mae nifer o bobl wedi cael eu tynnu oddi ar drenau ar ôl iddynt gael eu herio a methu darparu esgus dilys. Credaf fod nifer o amodau'n dod ynghyd i wneud pethau'n heriol iawn, ond mae trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ddull teithio diogel. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod gwasanaethau'n orlawn weithiau yn ystod y dydd.
Weinidog, cytunaf yn llwyr fod angen inni fod yn ymwybodol o'r heriau amrywiol y mae'r sector trafnidiaeth yn eu hwynebu. Ni waeth pwy sydd ar fai am y risgiau hyn, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y gellir dweud bod trenau'n sylfaenol ddiogel, ond efallai nad ydynt yn ddiogel ar rai adegau o'r dydd. Gwelais neithiwr fod rhywun yn dyfynnu George Orwell ar Twitter, ond mewn perthynas â thaerineb Rhif 10 na ddigwyddodd y parti COVID drwgenwog hwnnw. Dywedodd Orwell:
'Dywedodd y blaid wrthych am wrthod tystiolaeth eich llygaid a'ch clustiau. Hwn oedd eu gorchymyn olaf, mwyaf hanfodol.'
Gwn fod angen inni symud ymlaen, Weinidog, ond os yw'r Gweinidog iechyd yn y Siambr, hoffwn ei hannog i edrych ar hyn hefyd, gan y credaf fod mynydd o dystiolaeth y gall mynd ar drên yng Nghymru arwain at risg sylweddol o ddal COVID.
Ond i symud ymlaen, Weinidog, mae'n amlwg mai'r hyn sydd wrth wraidd cyflwr ofnadwy ein gwasanaethau trên yw'r tanwariant parhaus ar reilffyrdd Cymru. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyfrifo bod y tanwariant oddeutu £500 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf. Ond ymddengys hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi tangyflawni ar ei haddewidion, neu efallai ar addewidion Llywodraethau blaenorol Cymru. Pan ddyfarnwyd y fasnachfraint i KeolisAmey yn 2018, dywedasant na fyddech yn adnabod y rheilffordd ymhen pum mlynedd, diolch i weledigaeth Llywodraeth Cymru. Felly, Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni sut y bydd y rheilffordd yn edrych ymhen dwy flynedd, gan ei bod bellach mewn perchnogaeth gyhoeddus? A ydym o ddifrif yn mynd i weld gwelliannau trawsnewidiol? Ac a allwch roi eich barn ar faint o reolaeth sydd gan y Llywodraeth dros reilffyrdd mewn gwirionedd a faint sydd allan o'i dwylo gan nad yw'n rheoli'r cyllid?
Yn sicr, mae newidiadau sylweddol yn digwydd er gwell. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ddatgelu fflyd newydd o drenau i gymryd lle'r Pacers, a phan gewch chi gyfle i fynd arnynt eich hun, fe welwch ei fod yn brofiad trawsnewidiol i deithwyr. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen metro de Cymru, sy'n brosiect peirianneg sifil enfawr—y prosiect seilwaith mwyaf y bydd de Cymru wedi'i weld ers degawdau lawer. Felly, nid oes amheuaeth fod newid sylweddol yn digwydd dan law Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod COVID wedi tarfu ar gynlluniau o ran cwymp y fasnachfraint—ac yn sicr, nid masnachfraint Cymru oedd yr unig fasnachfraint i gwympo o ganlyniad i bwysau llai o arian a chostau cynyddol—ac mae hynny wedi cael effaith ar y llinell amser a oedd gennym ar gyfer ychwanegu at yr amserlen a chyflwyno gwasanaethau newydd. Felly, mae honno'n ffaith anochel y mae'n ddrwg iawn gennym amdani, ond mae hynny allan o'n dwylo.
O ran tanfuddsoddi, mae'r Aelod yn gwneud pwynt gwych. Mae Llywodraeth y DU wedi tanfuddsoddi’n gyson, ac yn y rhaglen gyllido nesaf, rydym yn cael oddeutu £5 biliwn yn llai na'r hyn y dylem ei gael. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog eto ddoe, mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig, er nad oes yr un filltir o drac yng Nghymru, yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein gallu i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. A byddwn yn dweud wrth yr Aelodau Ceidwadol yn y Siambr fy mod yn cofio'r gynghrair a ffurfiwyd yn y Siambr hon ar drydaneiddio oddeutu 10 mlynedd yn ôl, pan gafwyd ymdrech drawsbleidiol wirioneddol i ddadlau'r achos dros Gymru. Cymerais ran yn y ddirprwyaeth cyn dod yn Aelod o'r Senedd gydag Aelodau o'r Blaid Geidwadol i gyflwyno'r achos hwnnw i Weinidogion y DU. Roedd yn effeithiol, ac rydym ar ein cryfaf pan ydym yn unedig. Hoffwn weld cynghrair debyg i ddadlau, ar sail tegwch, fod angen trin Cymru'n wahanol wrth gategoreiddio rheilffyrdd cyflym. Fel arall, ni fydd modd inni gyflawni'r uchelgeisiau a rannwn i gyflawni sero net erbyn 2050.
Weinidog, ar yr union bwynt hwnnw, gallai Cymru fod £5 biliwn ar ei cholled heb swm canlyniadol Barnett yn sgil y gwariant ar HS2. Fel y gwyddoch yn amlwg, mae hynny oddeutu 5 y cant o gyfanswm gwariant y prosiect. Gallai fod yn llawer uwch, wrth gwrs, pe bai'r costau'n cynyddu, sy'n debygol. Yng ngeiriau Will Hayward o'r Western Mail,
'Mae'r penderfyniad i gyfrif HS2, buddsoddiad unwaith mewn canrif, fel gwariant Cymru a Lloegr wedi condemnio Cymru i ganrif arall o rwydwaith rheilffyrdd ail ddosbarth.'
Er bod y penderfyniad i eithrio Cymru o'r cyllid hwn, fel y nodwyd gennych, Weinidog, wedi'i wneud gan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Llywodraethau Llafur y gorffennol yng Nghymru hefyd wedi cyfrannu at y llanastr hwn. Cafwyd penderfyniad yn 2005 i wrthod datganoli rheilffyrdd, a ddisgrifiwyd fel y penderfyniad gwaethaf yn hanes datganoli. A'r anallu, yn y gorffennol, i ddeall dadl Plaid Cymru ar HS2 ddegawd yn ddiweddarach, gyda Carwyn Jones yn mynnu bod Cymru’n cael ei swm canlyniadol yn sgil HS2, er y byddai gosod ffactor cymharedd HS2 i Gymru ar 0 y cant yn golygu y byddai ein ffactor cymharedd ar gyfer gwariant yr Adran Drafnidiaeth yn plymio yn y dyfodol, sef yr hyn a welwn yn awr. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth Lafur bresennol Cymru yn awyddus i—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr.
A allwch gadarnhau, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad gan Keir Starmer y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol yn darparu'r swm canlyniadol Barnett llawn i Gymru yn sgil gwariant HS2, wedi'i ôl-ddyddio i'r bunt gyntaf a wariwyd?
Yn sicr, yn bersonol, rwyf wedi dadlau y dylai fformiwla Barnett adlewyrchu'r gwariant yn Lloegr ac yng Nghymru. Mewn gwirionedd, arweiniais gynghrair o sefydliadau i sefydlu comisiwn Holtham, gan ddefnyddio hyn fel un o'r enghreifftiau. A phan oeddwn yn gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, bûm yn dadlau'r achos yn gyson, felly nid wyf am wrando ar wersi gan yr Aelod ar hynny. Ond mae’n llygad ei lle nad yw Llywodraethau gwahanol bleidiau yn San Steffan wedi cydnabod bod Cymru’n haeddu mwy o fuddsoddiad, a dyna pam fy mod yn ailadrodd fy ngalwad ar y Ceidwadwyr i bawb yn y Siambr hon ddod ynghyd i weld a allwn gytuno ar alwad drawsbleidiol ar Lywodraeth y DU i feddwl eto am y ffordd y mae Cymru'n cael ei thrin mewn perthynas â buddsoddi mewn rheilffyrdd.