– Senedd Cymru am 7:07 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Y cynnig nesaf o dan eitem 12 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yma—Julie James.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) yn Fil byr sy'n dechrau'r broses o ymdrin â phwnc mawr iawn, diwygio lesddaliad. Amcanion polisi datganedig y Bil yw gwneud perchnogaeth lesddaliad yn decach ac yn fwy fforddiadwy i lesddeiliaid drwy sicrhau na fydd rhydd-ddeiliaid yn gallu gwneud hawliadau ariannol mwyach am rent tir prydlesi newydd. Mae'r Bil yn gwneud hyn drwy gyfyngu rhent tir ar brydlesi preswyl hir newydd ar dai a fflatiau i un hedyn pupur y flwyddyn. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu na fydd gan renti tir ar brydlesi newydd unrhyw werth ariannol. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd codi taliadau gweinyddu mewn cysylltiad â rhenti hedyn pupur, gan atal taliadau o'r fath rhag dod yn ffordd amgen o wneud elw.
Nid yw'r Bil yn ymdrin â'r materion sy'n effeithio ar lesddeiliaid presennol. Bydd angen deddfwriaeth bellach i ddiwygio perchnogaeth tai lesddaliad, gan gynnwys y diwygiadau sy'n cael eu cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith, yr wyf wedi'u croesawu o'r blaen. Mae'r Bil hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer y diwygiadau pellach hynny drwy atal rhenti tir rhag cael eu codi ar brydlesi newydd. Mae datrys y problemau ar brydlesi presennol yn fater llawer mwy cymhleth, fel yr adlewyrchir gan yr argymhellion manwl iawn a gynhyrchwyd gan Gomisiwn y Gyfraith.
Diolchaf i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth ystyried ac adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Nodaf y pryderon y maen nhw wedi'u codi yn eu hadroddiadau, gan gynnwys eu beirniadaeth o'r dull a gymerwyd gennym i osod y memorandwm atodol, ac rwyf wedi ymateb yn ysgrifenedig i nifer o'u hargymhellion. Ond, rwy'n credu'n gryf fod cydsynio i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU sy'n sicrhau gwelliannau hanfodol i system yr ydym i gyd yn ei hystyried yn annheg yn gwbl briodol—yn wir, y peth iawn i'w wneud.
Rwyf eisoes wedi nodi fy mwriad i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflawni'r broses o ddiwygio'n gyfan gwbl lesddaliad yn ddeddfwriaethol, a dim ond y cam cyntaf yw'r Bil hwn. Er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael yn gynhwysfawr â'r holl faterion, mae'n bosibl bod y diwygiadau hyn yn ymwneud â mater datganoledig tai yn ogystal â materion nad ydyn nhw o fewn cymhwysedd y Senedd. Er mwyn sicrhau diwygiadau cynhwysfawr sy'n gweithio i lesddeiliaid yng Nghymru nad ydyn nhw yn gadael bylchau posibl o ran amddiffyn, credaf mai deddfwriaeth y DU sydd fwyaf tebygol o fod y ffordd fwyaf effeithiol a synhwyrol o ymdrin â'r diwygiadau hyn.
Ond, gadewch i mi fod yn glir: pe na bai darpariaethau'r Bil hwn yn gymwys yng Nghymru, byddai lesddeiliaid yma yn y dyfodol, o dan anfantais ariannol sylweddol iawn o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth y gallem ei chyflwyno i unioni'r sefyllfa honno yn anochel yn cymryd cryn amser i'w drafftio a chytuno arni. Nid wyf yn credu y dylid rhoi lesddeiliaid yng Nghymru yn y sefyllfa honno ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a chydsynio i'r Bil. Diolch.
Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnaethom osod ein hadroddiad fel pwyllgor ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn brynhawn ddoe. Mae diwygio lesddaliad yn faes o ddiddordeb i'r pwyllgor, ac roedd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio yn rhywbeth y gwnaethon ni ei godi gyda chi, Gweinidog, yn ystod ein sesiwn graffu ar 22 Medi.
Rydym yn croesawu'r penderfyniad i osod rhent tir ar brydlesi newydd ar un hedyn pupur y flwyddyn symbolaidd, gan gyfyngu rhenti tir i ddim gwerth ariannol i bob pwrpas. Nodwn nad yw'r Bil yn berthnasol i brydlesi presennol. Nodwn hefyd nad yw'r Bil yn mynd i'r afael â gwendidau eraill yn y system lesddaliad, fel taliadau gwasanaeth a materion eraill y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu. Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y rhaglen o ddiwygio lesddaliad ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith?
Ystyriodd ein pwyllgor y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol am y tro cyntaf ar 22 Medi. Fodd bynnag, roedd LCM hwnnw'n hen oherwydd bod diwygiadau sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth ddirprwyedig wedi'u gwneud i'r Bil ar 20 Gorffennaf, ond ni osodwyd LCM atodol. Ysgrifennom at y Gweinidog ar 24 Medi, gan ofyn pryd y byddai LCM atodol yn ymwneud â'r gwelliannau hynny'n cael ei gyhoeddi. Yn anffodus, ni osododd y Gweinidog un tan 26 Tachwedd, bedwar mis ar ôl i'r Bil gael ei ddiwygio. Wrth gwrs, mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn darparu y dylid gosod LCM atodol fel arfer heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau.
Mae'r oedi o bedwar mis cyn gosod y LCM atodol wedi cyfyngu'n sylweddol ar ein gallu fel pwyllgor i graffu ar y gwelliannau mewn modd amserol. Rydym yn siomedig mai ychydig iawn o amser a gawsom i ystyried y LCM atodol pellach a osodwyd ar 3 Rhagfyr, er ein bod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau hyd at y bore yma. Ond, wrth gwrs, roedd yr amserlenni'n dal yn dynn iawn. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo yn y dyfodol i osod LCM heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cyflwyno gwelliannau perthnasol i Fil? A wnewch chi hefyd ymrwymo i roi digon o amser i bwyllgorau ystyried ac adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol?
Rydym hefyd yn bryderus ac yn siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth o ran pryd y daw'r Ddeddf i rym. Yn hytrach, mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchmynion cychwyn. Yn yr un modd, nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud diwygiadau canlyniadol a allai fod yn angenrheidiol o dan y Bil. Rhoddir y pwerau hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Dylai fod gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud deddfwriaeth ddirprwyedig yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, nid yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi geisio gwelliannau i'r Bil fel bod gan Weinidogion Cymru bwerau cyfatebol i'r rhai sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i basio is-ddeddfwriaeth?
Rydym yn pryderu ymhellach na fydd y gyfraith ar ddiwygio lesddaliad mor hygyrch i bobl Cymru ag y dylai fod. Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrth y pwyllgor mai'r Bil yw'r cam cyntaf, ond arwyddocaol, tuag at weithredu diwygiadau eang ar gyfer lesddaliad fel deiliadaeth, ac y bydd Bil arall yn y DU sy'n ymdrin â diwygiadau yn cael ei gyflwyno. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym hefyd y bydd rhai meysydd pwysig eraill o ddiwygio lesddaliad yn cael eu datblygu ar sail Cymru'n unig yn y Bil diogelwch adeiladu arfaethedig yn ystod tymor y Senedd hon. Heb os nac oni bai bydd gwneud y diwygiadau hyn drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth yn lleihau hygyrchedd cyfraith Cymru. Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y byddwch yn sicrhau bod y gyfraith yng Nghymru mor hygyrch ag y dylai fod?
Llywydd, er gwaethaf y pryderon hyn yr wyf newydd eu hamlinellu, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn gweld manteision cymhwyso'r diwygiadau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl, ac o gael dull gweithredu ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond, fel y soniais, roedd diffyg craffu yn golygu nad oeddem yn gallu rhoi honiadau ar brawf fel y byddem wedi hoffi ei wneud. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bwyllgorau'r amser a'r adnoddau angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau ar y memorandwm cyntaf, a'r memorandwm atodol, memorandwm Rhif. 2, yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, nid oedd digon o amser i ni ystyried memorandwm Rhif. 3 ac adrodd arno.
Byddai'n well i mi nodi ar ddechrau hyn fy mod weithiau'n teimlo fel Jeremiah deddfol a chyfansoddiadol, ond rydym eisiau ei gwneud hi'n glir fel pwyllgor mai ein bwriad yw nid yn unig dangos lle mae gennym ni bryderon, ond hefyd, tynnu sylw'n adeiladol at feysydd a allai helpu i osgoi'r heriau rheolaidd hyn gan y pwyllgor, mae rhai ohonyn nhw bellach yn dilyn patrwm clir a rhagweladwy.
Memorandwm yw'r sail ar gyfer ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil, wrth gwrs. Yn anffodus, daethom i'r casgliad nad oedd y memorandwm penodol hwn yn addas i'r diben ac yn is na'r safon y byddem yn ei hystyried yn dderbyniol. Ymhlith pethau eraill, prin yw'r wybodaeth i egluro sut y mae'r darpariaethau'n ymwneud â diwygio lesddaliad yng Nghymru, sy'n bwynt allweddol. O fewn y memorandwm, ceir cyfeiriadau parhaus at bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, er bod hwn yn faes datganoledig. Er bod y memorandwm yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn wir yn ceisio pwerau gweithredol tebyg i Weinidogion Cymru, ychydig o ymdrech a wnaed i egluro pa bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol y byddai hyn yn berthnasol iddyn nhw.
Felly, o ganlyniad, gwnaethom argymell, cyn y ddadl heddiw, y dylai'r Gweinidog egluro pam nad yw'r memorandwm yn canolbwyntio ar Gymru wrth esbonio'r cymalau perthnasol, y mae pob un ohonyn nhw yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a pham nad oedd y memorandwm yn cyfeirio at agweddau ehangach ar y rhaglen diwygio lesddaliad a'i pherthnasedd i feddylfryd y Llywodraeth ar ddefnyddio Bil y DU. Felly, yn anffodus, mae'r pwyllgor yn dal i weld ymateb y Llywodraeth yn gwbl anfoddhaol. Rydym yn deall bod y Bil i'w wneud ar sail Cymru a Lloegr, ond mae'r memorandwm yn ymwneud ag amgylchiadau yng Nghymru, ac roedd angen i hynny fod yn ganolbwynt. Nid yw'r esboniad ynghylch pam na chafodd materion cymhwysedd eu datrys yn ddigonol yn y memorandwm yn ein hargyhoeddi ni o gwbl.
Nawr, diwygiwyd y Bil yn Senedd y DU ym mis Gorffennaf 2021, i roi'r pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau a godwyd gennym am y pwerau hyn ar 16 Tachwedd, ond buom yn aros tan 26 Tachwedd i gael, fel y soniodd y Cadeirydd arall, femorandwm Rhif 2 yn esbonio'r gwelliannau hyn. Mae hyn tua phedwar mis ar ôl i'r gwelliannau gael eu cytuno yn Senedd y DU. Felly, mae dau fater i'w datrys yma—yr oedi wrth osod memorandwm Rhif 2, a'r pwerau, y byddaf yn dod atyn nhw wedyn, i wneud rheoliadau sydd i'w cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, mae'r oedi, am ba reswm bynnag, wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol i'r pwyllgor tan yn hwyr yn y broses gydsynio, wedi lleihau'n sylweddol faint o amser a gawsom i graffu'n effeithiol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad i ddeddfu drwy gyfrwng Bil Llywodraeth y DU mewn maes datganoledig, sy'n destun gofid, gan ein bod yn credu y gallai golwg gynharach fod wedi ein helpu ni a'r Llywodraeth.
Gan droi nawr at fater y pwerau i wneud rheoliadau a ddirprwywyd i Weinidogion Cymru, tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u rhoi iddyn nhw ym mis Gorffennaf, cadwyd rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid oedd esboniad y Gweinidog am y dull hwn yn argyhoeddi'r pwyllgor, a fydd yn dadlau y dylai Gweinidogion Cymru gael yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, ac na chânt eu cadw gan yr Ysgrifennydd Gwladol, hyd yn oed gyda rhesymu'r Gweinidog y gallant fod yn cael eu harfer yn aml, neu oherwydd disgwyliad na fyddai polisi'n ymwahanu rhwng Cymru a Lloegr. Byddai rhoi'r holl bwerau i Weinidogion Cymru yn sicrhau y bydd yr holl reoliadau sy'n ymwneud â diwygio lesddaliad, fel sy'n gymwys yng Nghymru, hefyd yn ddwyieithog ac yn destun craffu gan y Senedd. Bydd hefyd yn osgoi cael rhai rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhai gan yr Ysgrifennydd Gwladol, nad yw, unwaith eto, yn gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.
Roeddem hefyd o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru gael rheolaeth dros gychwyn y darpariaethau diwygio lesddaliad ar gyfer Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn atal yr un darpariaethau rhag cael eu cychwyn yng Nghymru ar yr un pryd â rhai Lloegr; byddai'n golygu bod y pŵer gweithredol a'r craffu yn gorwedd yma yng Nghymru. Felly, cyn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr holl bwerau i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ac rydym yn dal i'w chael yn anodd deall pam nad yw'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Efallai y byddai wedi'i dderbyn, byddem yn awgrymu, pe bai memorandwm Rhif 2 wedi'i osod yn fwy amserol, a bod cyfle i weithredu'n gynharach mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor a osodwyd yn gynharach wedi hynny.
Felly, mae'r pwyllgor o'r farn bod caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn maes datganoledig yn ddatblygiad annymunol, ac mae'n un a allai osod cynsail sy'n peri gofid. Oherwydd, wrth wneud hynny, nid yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi mesurau diogelu iddyn nhw eu hunain pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol, naill ai nawr neu yn y dyfodol, yn gwneud rheoliadau nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â nhw.
Nawr, wrth i ni barhau i amlygu, ac fel yr oedd yn ymddangos bod y Gweinidog yn cydnabod mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, bod defnyddio Bil Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth mewn maes datganoledig yn rhoi llai o gyfle i graffu'n fanwl na defnyddio Bil a gyflwynwyd i'r Senedd. Ni all aelodau'r Senedd, er enghraifft, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno gwelliannau i brofi, herio a dylanwadu ar Weinidogion Cymru—mae hwn yn ddull allweddol o graffu. At hynny, diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llawn drwy ddeddfwriaeth yw swyddogaeth y Senedd mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na'r Gweinidog neu ei swyddogion drwy gysylltiadau rhynglywodraethol.
Ac yn olaf, Llywydd, gwnaethom argymell y dylai'r Gweinidog egluro sut y mae'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn gyson â'i hegwyddorion ei hun ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu. Er i'r Gweinidog roi esboniad—a diolchwn iddi am hynny—mae ei hymateb yn codi materion pellach sy'n ymwneud â'r egwyddorion hyn, y bydd ein pwyllgor yn ceisio eu harchwilio ymhellach y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, rwy'n croesawu y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Gweinidog, mae dros filiwn o gartrefi yn y DU yn cael eu gwerthu ar ffurf lesddaliad, a bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd gryn ffordd—mewn gwirionedd, ymhell—i helpu miloedd o berchnogion cartrefi sy'n cael eu dal mewn trap lesddaliad. A gallaf ddweud yn uniongyrchol, ar ôl gweld rhai o fy nhrigolion, a roddodd eu henw i lawr ar gyfer eiddo hyfryd, yna prynu'r eiddo, symud i mewn i'r eiddo, dim ond i ddarganfod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach nad oedden nhw mewn gwirionedd yn berchen ar y tir yr adeiladwyd ar y tŷ arno. O dan y gyfraith bresennol, mae llawer o bobl yn wynebu rhenti tir uchel, a all, o'u cyfuno â morgais, wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn dal i dalu rhent ar eiddo y maen nhw'n berchen arno. Gwyddom hefyd y gall rhenti tir cynyddol hefyd ei gwneud yn anodd i lesddeiliaid werthu neu hyd yn oed ailforgeisio eu heiddo.
Nawr, yn ôl ymchwil a luniwyd gan Propertymark yn 2018, dywedodd 93 y cant o ymatebwyr yr arolwg na fydden nhw yn prynu eiddo lesddaliad arall, cymaint oedd y canlyniadau hunllefus yr oedd llawer ohonyn nhw yn eu hwynebu. Dywedodd traean eu bod yn ei chael hi'n anodd denu prynwr, oherwydd nad oedden nhw'n berchen ar y rhydd-ddaliad. Bydd y newid cadarnhaol hwn i'r ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nawr yn golygu y bydd miliynau o lesddeiliaid yn cael yr hawl i ymestyn eu prydles am gyfnod hyd at 990 o flynyddoedd gyda'r rhent tir yn sero. O'r herwydd, gallai cymeradwyaeth ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn sicr eu helpu i arbed miloedd o bunnau y flwyddyn, gan roi tawelwch meddwl iddyn nhw hefyd. I eraill, lle mae hawlio rhent tir fel rhan o brydles hir breswyl newydd, mae'r ffaith na fydd bellach yn fwy nag un hedyn pupur y flwyddyn yn newid pwysig.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith y bydd y Bil hwn yn gwahardd rhydd-ddeiliaid rhag codi ffioedd gweinyddu am gasglu rhent hedyn pupur, sy'n golygu na fydd lesddeiliaid yn y dyfodol yn wynebu hawliadau ariannol am rent tir. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cynyddu atebolrwydd o ran lesddeiliaid, drwy wneud darpariaeth iddyn nhw adennill rhenti tir a godwyd yn anghyfreithlon drwy'r tribiwnlys prisio lesddaliadau yng Nghymru.
Nawr, rwy'n cydnabod, ac yn parchu, y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil, sef nad oedd yn addas i'r diben, ac a oedd wedi disgyn islaw'r safon a ystyriwyd yn dderbyniol. Mae'n amser i'r bobl hyn sydd wedi cael eu dal yn y trap hwn symud ymlaen. Gyda'r camau blaengar a chadarnhaol yr wyf newydd eu hamlinellu, y llwyddwyd i'w cyrraedd ar ôl cydweithio'n weithredol â rhanddeiliaid, rwy'n galw yn awr ar bleidiau eraill yn y Senedd hon i ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig drwy bleidleisio i gefnogi'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i gyfraith eiddo mewn cenhedlaeth, mae'n debyg. Diolch yn fawr, Llywydd.
Dwi am nodi ar y cychwyn fan hyn y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn hwn fel mater o egwyddor. Mae'r Llywodraeth bellach wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 14 o Filiau'r Deyrnas Gyfunol o fewn misoedd cyntaf y Senedd hon. Mae hyn yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, ac eithrio 2020. Mae nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod ger ein bron yn destun pryder. Mae pob cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cwtogi ar ein grymoedd ni fel Senedd ac felly yn ymosodiad ar ddemocratiaeth Gymreig. Mae dau o bwyllgorau'r Senedd hon wedi codi pryderon eang ynghylch dogfennau'r memorandwm yma, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi ac mae'r Cadeiryddion wedi nodi.
Dywed y Gweinidog nad ydy hi am i bobl Cymru gael anfantais gan y byddai'n cymryd cyhyd i Gymru ddatblygu ein deddfwriaeth ein hun. Ond pam nad ydy'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith i'r perwyl yma eisoes? Ble mae'r ddadl yma'n gadael y Senedd a diben datganoli? Dwi'n grediniol na ddylid rhoi caniatâd yma heddiw. Dwi'n anfodlon â'r dull cwbl annigonol sydd gyda ni wrth ymdrin â'r broses. Doedd yna ddim digon o amser i graffu ar y Bil na'r memorandwm yn y pwyllgor tai a llywodraeth leol, er enghraifft, ac mae'n amlwg bod gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd ei hun farn lom iawn ar y memorandwm yma, fel rydym ni wedi clywed.
Dydy'r Senedd ddim chwaith wedi cael cyfle i graffu ar y gwelliannau i’r Bil mewn unrhyw fodd ystyrlon heblaw am ryw drafodaeth fach yma heno. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r diwygiadau mewn Bil o du'r Deyrnas Gyfunol yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun, yn golygu nad yw Aelodau nac ychwaith rhanddeiliaid wedi gallu gwneud unrhyw argymhellion heb sôn am newidiadau i ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar Gymru ac sydd wedi'i datganoli.
Mae gan Gymru ei llais ei hun ac mae gennym ni'r Senedd yma i fod yn fforwm i leisio'r farn honno, ond mae'r hawl elfennol yma yn ein democratiaeth yn cael ei wadu i bobl Cymru heno. Os aiff pethau ymlaen fel hyn, yna mae'n codi cwestiwn am ddyfodol datganoli. Byddai'n siwtio San Steffan i'r dim i gael dim mwy na phwyllgor gwaith yn cydsynio'r Deddfau yma yn hytrach na chorff democrataidd grymus yn creu deddfau mewn ymateb i broblemau yma yng Nghymru.
Dwi'n arbennig o bryderus bod y Mesur yn gosod cynsail beryglus trwy roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle Gweinidogion Cymru. Bydd cydsynio hwn yn golygu nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i wneud gwelliannau canlyniadol, a allai fod yn angenrheidiol o dan gymal 21 yma, er enghraifft. Dyma enghraifft glir o sut y byddwn ni wedi colli grymoedd yng Nghymru. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol yn Llundain sydd â'r pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau, yn un o'r cymalau. Does dim cyfeiriad at sut mae'n berthnasol i Gymru, fel sydd wedi cael ei nodi efo siaradwyr blaenorol.
Ac yn olaf, fydd gan Weinidogion Cymru ddim rheolaeth ynghylch pryd y daw'r Ddeddf i rym. Gweinidog, a ydych chi'n credu bod y sefyllfa yma'n dderbyniol? Rydych chi'n dadlau bod rhaid cael cysondeb rhwng Cymru a Lloegr, Weinidog, ond onid ydych yn credu bod y ddadl yma'n gosod cynsail beryglus pan fydd hi'n dod i ddatganoli? Dyma weld datganoli yn crebachu o dan ein trwynau ac nid yn unig nad oes yna ymladd yn ôl, ond bod y Llywodraeth yma yn annog hynny. Nid dyma fy niffiniad i o sefyll cornel Cymru. Yn sgil y diffyg craffu priodol, nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, annigonolrwydd dogfennau ategol a'r bygythiad go iawn i'r Senedd yma a'r setliad datganoli trwy drosglwyddo pwerau i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol dros feysydd polisi datganoledig, mi fyddwn i'n annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio yn erbyn hwn heddiw. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. I ateb un o'r pethau penodol a godwyd nad oeddwn yn ymdrin â nhw yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelodau ynghylch amseriad y memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol. Yn wreiddiol, roeddem o'r farn y gallem ni gyflwyno un LCM atodol mewn cysylltiad â'r Bil hwn a oedd yn cwmpasu'r holl welliannau a wnaed iddo, a fyddai wedi bod yn llawer mwy defnyddiol i Aelodau'r Senedd na nifer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol sy'n ymdrin â gwahanol welliannau ar wahanol adegau. Fodd bynnag, yn anffodus, bu oedi llawer hirach o ran cyflwyno gwelliannau dilynol gan Lywodraeth y DU nag y bu'r disgwyl ar y dechrau. Yn y pen draw, ni ddigwyddodd tan 30 Tachwedd, ac erbyn hynny roeddwn eisoes wedi penderfynu cyhoeddi'r LCM atodol gohiriedig, felly roedd wedi ei ddal yn yr amserlen. Rwy'n hapus iawn i weithio, fel y mae Huw yn ei awgrymu, gyda'r pwyllgorau ar y broses i'w wneud yn symlach ac i ddeall gan y pwyllgorau a yw ffrwd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol ar bob gwelliant unigol yn fwy defnyddiol yn y pen draw na cheisio eu cydgrynhoi nhw.
O ran y tri phŵer rheoleiddio y mae Aelodau wedi'u crybwyll, ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwelliannau nad ydyn nhw wedi'u dirprwyo, rwy'n fodlon nad ydyn nhw'n hanfodol mewn unrhyw ffordd i weithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol. Mae'r tri yn bwerau heb eu dirprwyo ar gyfer defnyddio gorchmynion hysbysiadau mewn cysylltiad ac eithrio prydlesi busnes o'r ddeddfwriaeth. Mae'n anodd iawn deall sut y byddem byth yn gorchymyn hysbysiad gwahanol yng Nghymru at y diben hwn. Mae'n fater technegol iawn. Yr ail yw i reoliadau gael eu gwneud sy'n diwygio'r diffiniad o brydlesi cynllun cyllid cartref, sydd wedi'u heithrio o'r Bil. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio hwn yn Lloegr, ac nid oes rheswm pam y byddem ni byth yn ei ddefnyddio yng Nghymru. A'r un olaf yw'r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. Nid yw hynny'n anarferol o gwbl, a phan fydd deddfwriaeth yn cael ei gwneud gan y Senedd, mae'n aml yn cynnwys y pŵer i Weinidogion Cymru wneud newidiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall nad yw wedi'i datganoli yn y DU. Felly, nid wyf yn credu bod hynny o unrhyw arwyddocâd gwirioneddol, ymhell o'r arwyddocâd a roddir iddo gan Aelodau achlysurol.
Yn y pen draw, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y pryderon y mae Aelodau wedi'u codi, yn enwedig ynghylch faint o amser a roir ar gyfer craffu. Byddwn ni'n sicr eisiau gweithio gyda'r pwyllgorau i sicrhau bod ganddyn nhw yr amser mwyaf sydd ar gael iddyn nhw. Ond, yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn ddeddfwriaeth sylfaenol dda sy'n mynd i'r afael ag annhegwch amlwg yn y system. Wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud, ac, mewn ateb i un cwestiwn gan John Griffiths, deallwn fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno'r Bil diwygio lesddaliad nesaf yn y sesiwn seneddol nesaf. Mae llawer mwy i'w wneud, ond mae hwn yn gam cyntaf hanfodol o ran sicrhau tegwch i lesddeiliaid yng Nghymru, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi'n aros am eiliad i weld a ydw i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Gallwch chi ddangos eich llaw. [Gwrthwynebiad.] Ydw, dwi'n gweld llaw yn dangos gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr i baratoi ar gyfer y pleidleisiau hynny. Toriad byr.