– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 14 Rhagfyr 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gwenidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am fater pwysig diogelwch adeiladau. Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud ar y mater pwysicaf a mwyaf cymhleth hwn ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi ein bod ni wedi cyhoeddi ein hymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau heddiw. Cawsom ni 95 o ymatebion, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu meddyliau a'u barn. Mae'r ymatebion yn dangos ymrwymiad i newid, cefnogaeth eang i ysbryd a chyfeiriad ein diwygiadau, ac i weithio gyda ni i lunio'r drefn yn y dyfodol.
Ein bwriad ni yw sicrhau mai diogelwch sydd wrth wraidd adeiladau preswyl aml-feddiannaeth, nid dylunio, bod cyfrifoldebau'r rhai sy'n berchen ar adeiladau, yn eu rheoli ac yn byw ynddyn nhw yn glir, a bod preswylwyr yn cael dweud eu dweud. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma, ond byddwch yn dawel eich meddwl y bydd mwy o gyfleoedd i gyfrannu a llunio polisi. Byddaf i'n ysgrifennu at bartneriaid allweddol yn y flwyddyn newydd i'w gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgorau. Rydym ni hefyd yn datblygu gwaith penodol sy'n ymwneud ag ymgysylltu â phreswylwyr a lesddeiliaid a fydd yn elwa ar ein diwygiadau, ac i'r rhai sydd hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol nawr gyda diffygion presennol yn eu hadeiladau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau a'u dirnadaeth heb eu hidlo yn cael eu cofnodi a'u hadlewyrchu'n briodol yn y system newydd a'n bod ni'n deall sut orau i gyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd gyda phasbortau adeiladau a gwaith cysylltiedig. Mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i'r atebion iawn ar gyfer y maes hollbwysig hwn.
Fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, rydym ni wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r cyfle i sicrhau bod agweddau ar eu Bil Diogelwch Adeiladau yn berthnasol i Gymru. Bydd hyn yn helpu i wella'r ffordd y caiff adeiladau preswyl uchel iawn eu dylunio a'u hadeiladu, ac mae'n cyd-fynd â'r cynigion sydd wedi eu nodi gennym ni yn ein Papur Gwyn. Mae Bil Llywodraeth y DU yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a fydd yn gweld estyniadau i'r amser y mae modd cyflwyno hawliad gerbron y llysoedd am waith adeiladu diffygiol, ac a fydd, mewn rhai achosion, yn cael effaith ôl-weithredol. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar Ddeddf Diogelwch Tân 2021, sydd wedi gweld diwygiadau pwysig i Gymru—yn arbennig, mae amlen allanol adeiladau wedi ei chynnwys yn benodol yn y drefn diogelwch tân bresennol.
Yn dilyn cefnogaeth aruthrol i'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ysgrifennais at bob awdurdod lleol, awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Medi ynghylch sefydlu tîm arolygu ar y cyd a fydd yn cefnogi gweithgareddau gorfodi o ran adeiladau presennol yma yng Nghymru. Bydd y broses o recriwtio'r tîm yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Mae hyn i gyd yn golygu y bydd dyfodol diogelwch adeiladau yng Nghymru yn gwella'n aruthrol. Er fy mod i wedi fy nghyffroi gan y datblygiadau hyn, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer ohonoch chi a'ch etholwyr yn pryderu'n briodol am yr heriau sy'n wynebu lesddeiliaid presennol ar hyn o bryd. Rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid orfod talu'r bil i wneud eu hadeiladau yn ddiogel, ond rwyf i hefyd wedi dweud nad yw'r atebion yn hawdd. Yma yng Nghymru, fel mewn rhai rhannau eraill o'r DU, rydym ni wedi dweud ers y cychwyn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy na chladin, ac nid dim ond mater i'r rhai hynny sydd mewn blociau uchel iawn ydyw. Yng Nghymru, rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol bod hyn yn gofyn am ddull cyfannol, neu bydd perygl o adael pobl yn agored i risg barhaus. Rydym ni'n gwneud cynnydd sylweddol, gan fod yn gyson yn ein huchelgais i ddatrys materion ar y sail gyfannol honno.
Mae'r ymateb i'r gronfa pasbortau diogelwch adeiladau, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, wedi bod yn gadarnhaol iawn, wrth i dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb gael eu cwblhau hyd yma. Caiff y datganiadau o ddiddordeb hyn eu hasesu, a bydd yr arolygon helaeth sydd eu hangen ar yr adeiladau hyn i sicrhau bod gennym ni ddealltwriaeth gyson a chadarn o anghenion pob adeilad unigol a graddfa gyffredinol y dasg yn cael eu dwyn ymlaen. Rydym ni'n penodi contractwyr drwy gronfa sefydledig o ddarparwyr achrededig i gynnal yr arolygon sy'n sicrhau cysondeb o ran arbenigedd ac ansawdd arolygon. Rydym ni'n ymdrin â hyn mewn ffordd gynlluniedig a chydgysylltiedig sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r materion diogelwch sy'n bresennol, ac yn lleihau straen ac anghyfleustra i breswylwyr. Bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau'n gynnar yn y flwyddyn newydd, gan flaenoriaethu'r adeiladau hynny sydd wedi eu nodi fel risg uchel drwy'r broses mynegi diddordeb.
Fodd bynnag, er ein bod ni'n gwneud cynnydd da, rwy'n cydnabod bod y pwysau ariannol o fyw yn yr adeiladau hyn yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Nid wyf i'n dymuno gweld dyfodol hirdymor pobl yn cael ei ddifetha gan fethdaliad, cael eu troi allan a digartrefedd posibl. Dyna pam rwy'n ymrwymo i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol iawn. Bydd manylion llawn y cynllun yn cael eu darparu yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n gobeithio gallu darparu'r dewis, mewn nifer cyfyngedig o achosion, i lesddeiliaid werthu. Bydd y cynllun yn targedu darpariaeth lle mae ei hangen fwyaf mewn adeiladau sydd â diffygion sydd wedi'u nodi lle na all lesddeiliaid unigol werthu eu heiddo ar y farchnad agored ac yn cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol oherwydd costau cynyddol.
Rwyf yn cloi, Llywydd, drwy ailddatgan fy safbwynt: mae'n rhaid i ddatblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hyn gamu ymlaen a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng. Nhw greodd y problemau hyn ac maen nhw'n parhau i adael lesddeiliaid yn wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o straen a phryder. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i ddiogelwch adeiladau a'r gwaith dwys sy'n cael ei wneud. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i'r agenda hon gan Blaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw ar y mater hollbwysig hwn wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad yn helaeth am yr argyfwng brawychus hwn sy'n wynebu deiliaid tai sydd nawr yn wynebu problemau'r cladin hwn. Felly, hoffwn i ymuno â chi i adleisio bod yn rhaid i'r datblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladu hyn gamu i'r fei i ddatrys yr argyfwng hwn. Ac os oes unrhyw un ohonyn nhw'n gwylio yma heddiw, mae'n rhaid i'r baich a rhywfaint o'r cyfrifoldeb syrthio arnoch chi, neu arnyn nhw, ac mae'n rhaid i chi dderbyn eich cyfrifoldebau. Mae'n foesol anghywir bod lesddeiliaid yn parhau i wynebu caledi ariannol ac yn dioddef o ofn, straen a phryder.
Mae hefyd yn peri pryder mawr nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod maint yr anawsterau yn yr adeiladau hyn, ond rwy'n ymwybodol hefyd o'r dasg aruthrol sydd gennych chi o'ch blaen wrth nodi'r fath beth. Mae'r ffaith bod y fath amwysedd honno yn parhau dros bedair blynedd ers trychineb Tŵr Grenfell yn peri pryder mawr ac mae'n codi cwestiynau ynghylch pa mor gyflym y gallwch chi, Gweinidog, geisio gwella diogelwch tua 148 o adeiladau uchel iawn.
Rydych chi wedi esbonio y bu 100 o ymatebion i'r gronfa pasbort diogelwch adeiladau ac y bydd yr arolygon cyntaf yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa mor fuan y gallwn ni ddisgwyl unrhyw ganlyniadau a gweithredu ar unrhyw argymhellion, fel arolygon? Pa gynllun wrth gefn sydd gennych chi ar waith ar gyfer achosion lle nad yw adeilad yn dod o dan fynegiant o ddiddordeb? Rwyf i yn cytuno â'r angen am gynllun cymorth lesddaliad ac, unwaith eto, bydd gennym ni ragor o fanylion am hyn yn y flwyddyn newydd. A allwch chi egluro heddiw faint o arian yr ydych chi'n bwriadu ei ddyrannu i'r cynllun?
Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr ymateb i'r Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau wedi ei gyhoeddi bellach. Yn y gorffennol, eglurais i fod llawer o newidiadau yn yr ymgynghoriad yr wyf i'n eu croesawu, ond mae gen i rai pryderon o hyd ynghylch nifer o bwyntiau. O ran categorïau risg, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi, gan nodi fy mod i'n pryderu ynghylch rhesymoldeb cael tŷ sydd wedi ei drosi'n ddwy fflat yn yr un categori â bloc pum llawr, pwrpasol o fflatiau. Felly, fel rhan o'ch ymrwymiad i ystyried priodoldeb model tri chategori, a fyddech chi'n ystyried rhannu categori 2 yn ddau—felly, gan ei wneud yn ehangach?
Rwyf i hefyd yn cytuno bod angen asesiadau risg tân blynyddol ar bob categori. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n codi'r pryderon hyn ynghylch dod o hyd i bersonau â chymwysterau addas. Mae eich tîm chi wedi dweud wrthyf i o'r blaen nad oes unrhyw amcangyfrifon eto o ran faint o unigolion â chymwysterau addas sydd yng Nghymru i asesu tua 37,000 o eiddo yn flynyddol. A oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran sefydlu a oes prinder, a sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i ymdrin â hyn?
Mae gen i ddiddordeb yn y pyrth, ond rwy'n dal i bryderu am y posibilrwydd y byddai'r trydydd yn golygu y bydd y prif gontractwr, gyda'r prif ddylunydd, yn llunio datganiad terfynol yn cadarnhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Ac, yn rhan o'ch ystyriaeth bellach o'r mater hwn, a wnewch chi ymrwymo i ddiwygio'r cynigion er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau ffisegol, a bod y risg sy'n cael ei hachosi gan y rhai yr ydym ni'n gwybod erbyn hyn eu bod yn adeiladwyr twyllodrus—a gadewch i ni ddweud hynny, oherwydd dyna beth ydyn nhw—yn cael ei leihau?
Yn olaf, byddwch chi'n ymwybodol bod yr oruchwyliaeth reoleiddiol bresennol yng Nghymru wedi ei rhannu rhwng y tri awdurdod tân ac achub a'r 22 o rai lleol. Rwyf i wedi sôn am efallai cael un rheoleiddiwr cenedlaethol, ac roeddwn i'n falch o ddarllen bod dull cenedlaethol o ymdrin â'r rheoleiddiwr wedi cael mwy o gefnogaeth na dulliau cyflenwi lleol a rhanbarthol. Wrth symud ymlaen, a wnewch chi ragor o waith i greu un rheoleiddiwr cenedlaethol? Diolch. Diolch, Llywydd.
Diolch, Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu, yn fras, ein bod ni yn yr un lle. Rydych chi wedi cyfuno problemau'r lesddeiliaid presennol â sut y gallai'r drefn newydd edrych ychydig. Felly, o ran y drefn newydd wrth symud ymlaen, pan fyddwn ni'n symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen, wrth gwrs bydd gan y Senedd a'i phwyllgorau gyfle i edrych ar y ddeddfwriaeth honno, craffu arni ac ychwanegu ati neu awgrymu gwelliannau i'r ddeddfwriaeth honno. Ac rwy'n credu bod consensws eithaf mawr ar draws y Senedd, felly byddaf i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i fynd i wir fanylion hynny wrth i ni fwrw ymlaen â hynny. Ond, yn hollol, holl ddiben y drefn newydd yw ei gwneud yn hynod o glir pwy yw deiliaid y ddyletswydd, sy'n gyfrifol ar bob cam, pwy sy'n cymeradwyo a beth sy'n digwydd ar gyfer y cyfnod meddiannu. Mae technoleg wedi symud ymlaen ac yn y blaen a byddem ni'n disgwyl llawer iawn mwy o arolygiadau wrth fynd nag a fu'n bosibl hyd yma, ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i ddysgu gwersi o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu, wrth symud ymlaen, fod llawer o gonsensws.
O ran lle'r ydym ni ar hyn o bryd, un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw nad yw lesddeiliaid cyffredin yn deall yr hyn sydd o'i le ar eu hadeiladau—maen nhw'n gwybod nad oes dim gyda nhw—ac mae'r ffurflenni Systemau Waliau Allanol wedi gwneud hynny'n waeth oherwydd ein bod ni wedi cynnal arolygon. Felly, rhan o'r hyn yr ydym ni wedi gorfod ei wneud yw ein bod ni wedi gorfod gweithredu fel brocer ar eu cyfer nhw, os mynnwch chi, i sicrhau bod yr arbenigedd yn mynd i mewn, ac nad ydym ni'n gwaethygu'r broblem drwy gael pentwr o bobl nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn gymwys i ddweud wrthyn nhw beth sydd o'i le ar yr adeilad ac yn y blaen. Mae'n ymddangos ein bod ni'n mynd yn eithaf araf, ond mewn gwirionedd mae hynny'n beth eithaf anodd a llafurus i'w wneud. A hefyd, nid dim ond rhywun sy'n dod i mewn ac yn cael golwg ar eich waliau yw'r arolygiadau hyn; mae'r rhain yn wirioneddol ymyrrol. Mae'n rhaid i'r bobl gael tyllau mawr yn yr adeilad ac mae gennych chi bobl fedrus iawn sy'n edrych i weld beth yn union sydd wedi digwydd y tu mewn i'r waliau ac yn y blaen. Mae'r rhain yn bethau eithaf ymyrrol i bobl wrth iddyn nhw ddigwydd, felly mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod ni'n ei wneud unwaith, ein bod ni'n ei wneud yn gywir a'n bod ni'n cael y darlun iawn ar y diwedd.
Y gwir yw nad ydym ni'n gwybod beth yw'r broblem ym mhob un o'r adeiladau, oherwydd nid oes gennym ni olwg pelydr-x; ni allwn ni edrych drwodd i weld a yw'r bylchau tân i gyd yn eu lle neu os yw'r adrannau'n gweithio ac yn y blaen. Rydym ni wedi bod yn glir ers y cychwyn nad yw hyn yn ymwneud â'r cladin yn unig. Un mater oedd y cladin, ond mae llawer o faterion eraill sydd wedi dod i'r amlwg. Felly, rwy'n falch iawn y bydd y cynllun pasbortau adeiladau yn caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yn caniatáu i ni helpu'r lesddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb i fynd drwy'r broses o ddarganfod beth yn union ydyw sydd o'i le ar yr adeilad, ac yna bydd yn rhaid i ni edrych i weld beth o hynny y gall cynllun y Llywodraeth ei gywiro i wneud hynny—cynllun grant, os gallaf i lwyddo i wneud hynny o bosibl.
Ond hefyd, Janet, rwy'n ymwybodol iawn nad wyf i eisiau gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym ni'n mynd i geisio eu rhestru yn nhrefn risg hefyd, oherwydd nid oes gen i gronfa ddiderfyn. Ni fyddwn i'n mynd i wleidyddiaeth hynny, ond rwyf i wedi siomi gyda'r swm o arian sydd gennym ni o ganlyniad i holl—. Ni chawsom ni'r symiau canlyniadol a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, a nawr, rydym ni yr ochr arall i adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, dyma le'r ydym ni nawr, ond nid hwn yw'r swm o arian y byddem ni wedi dymuno ei gael. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n ymdrin â'r adeiladau lle mae'r risg uchaf a'r materion risg uchaf drwyddi draw, yn hytrach nag ar sail y cyntaf i'r felin. Hoffwn i sicrhau'r holl lesddeiliaid allan yno ein bod ni'n gwneud hynny, ac os mai chi yw'r ugeinfed i fynd drwy'r broses, nid yw hynny'n golygu y bydd yr arian wedi dod i ben, ac y byddwn ni'n cadw llygad ar hynny drwyddi draw.
A'r rheswm yr wyf i wedi cyhoeddi'r cynllun yr wyf i wedi ei gyhoeddi heddiw, yw oherwydd fy mod i'n ymwybodol iawn ei fod yn mynd yn annioddefol i rai pobl. Felly, gan dybio eu bod nhw mewn sefyllfa lle na allan nhw werthu eu heiddo ar y farchnad agored, yna byddwn ni'n rhoi cynllun ar waith a fydd yn eu hachub, os mynnwch i—achub morgeisi ar eu cyfer. Bydd dwy elfen i hynny. Byddan nhw naill ai'n gallu gwerthu'r tŷ i ni ac yna os ydyn nhw'n dymuno aros yno a'i rentu, gallan nhw wneud hynny, neu gallan nhw adael, cymryd yr arian a dechrau eto yn rhywle arall. Rwy'n gwybod o siarad â llawer iawn o'r trigolion bod llawer o bobl a fydd â diddordeb mawr mewn cynllun o'r fath. Felly, roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth pobl bod y cynllun hwnnw ar gael erbyn hyn, ac y byddwn ni'n ceisio gwneud hynny yn y flwyddyn newydd drwy broses mynegiant o ddiddordeb debyg.
Prynhawn da, a gobeithio bod pawb yn fy nghlywed i. Dyna ni, a diolch yn fawr iawn i’r Gweinidog am y datganiad. Gadewch i ni gymryd ennyd i’n hatgoffa ein hunain pam ein bod ni'n trafod y mater yma heddiw. Yn syml, mae’r system diogelwch adeiladau presennol yn un sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli er mwyn cynyddu elw, ar draul diogelwch y cyhoedd.
Fedrwn ni fyth, felly, anghofio’r drychineb yna yn Grenfell nôl yn 2017. Yn oriau mân y bore, ar 14 Mehefin 2017, dechreuodd tân losgi drwy floc preswyl Grenfell 24 llawr o uchder yng ngorllewin Llundain, gan ladd 78 o bobl. Mae’n meddyliau ni'n parhau i fod efo’u hanwyliaid nhw, wrth gwrs.
Mae nifer o’r rhai a lwyddodd i ddianc, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a thystion i’r erchyllbeth honno, yn dal i fyw efo'r creithiau, ac yn parhau i ddioddef. Mae pobl yn byw mewn ofn ac wedi dioddef yr ofn yma am dros bedair mlynedd—pedair mlynedd heb weithredu. Mae yna wyth mis ers yr etholiad, wyth mis heb ddeddf benodol Gymreig. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi cael eu dal mewn eiddo nad ydynt yn gallu ei adael. Mae ansawdd eu bywydau a’u hiechyd meddwl wedi dirywio o ganlyniad. Mae’n hen bryd i ni ymateb i’r sefyllfa hunllefus yma efo brys, drwy raglen diwygio gynhwysfawr, cymorth ariannol pellach ac amserlen glir.
Fel llefarydd fy mhlaid dros dai a chynllunio, dwi am gymryd eiliad i groesawu’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r cytundeb yn cynnwys amryw o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau presennol yn sylweddol, ac i gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo'r Gweinidog wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dwi’n gresynu’r ffaith na ddaeth y datganiad yma ynghynt, a dwi am bwysleisio'r angen i’r Llywodraeth gadw mewn cyswllt cyson efo’r rhanddeiliaid. Wedi’r cyfan, pwysau ymgyrchwyr a gwleidyddion fel Rhys ab Owen sydd wedi sicrhau bod y mater yn cael y sylw yma o'r diwedd.
Dwi am droi at un agwedd o’r datganiad lle dwi’n credu bod angen mwy o fanylder, os gwelwch yn dda. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at gynllun mortgage buy-out, cynllun lle mae pobl mewn caledi ariannol ac yn byw mewn adeiladau uchel sydd efo problemau diogelwch yn cael ymgeisio am gynllun lle bydd y Llywodraeth yn prynu’r fflat ac yn ei roi i landlord cymdeithasol. Mae’n debyg nad oes yna syniad clir o ran faint o bobl allai fod yn gymwys i’r cynllun, dim ond cyfeiriad at unigolion mewn caledi ariannol, ac na fydd y cynllun ychwaith yn dod i rym am o leiaf tri mis.
Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, os caf i, egluro faint o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn? Llywydd, beth yn union y mae’r Llywodraeth yn golygu wrth ddweud pobl mewn 'caledi ariannol difrifol'? Hynny ydy, beth ydy’r meini prawf ar gyfer y categori yma? Hefyd, erbyn pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynllun yma ddod i rym yn union, os gwelwch yn dda? Pa gymorth gall y Llywodraeth ei gynnig wedyn i'r rhai sy'n dioddef materion diogelwch adeiladu yn y cyfamser? A beth am bobl sydd ddim yn disgyn i ddiffiniad y Llywodraeth o galedi ariannol?
Eto, tra’n ystyried y rhan o’r datganiad yma sy’n sôn am ddeiliaid les presennol a’r gobaith o gynnig cymorth i brynu eu heiddo yn y flwyddyn newydd, does dim llawer o fanylion. Llywydd, fedrith y Gweinidog gynnig ychydig mwy o fanylion inni, os gwelwch yn dda, ar faint o gyllid fydd yn cael ei neilltuo yn union?
Mae’n eithaf clir y gall problemau godi o ran pris eiddo hefyd, fel rydyn ni wedi ei weld yn ddiweddar. Felly, beth fydd yn digwydd a pha ddatrysiadau all y Llywodraeth eu cynnig, os nad ydy pobl yn cytuno efo gwerth y farchnad wrth werthu'r eiddo yma? A phwy yn union fydd yn gweinyddu’r broses? Yn olaf, pa hawliau fydd gan denantiaid sydd yn rhentu gan landlordiaid sydd efo les? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Mabon. Ni fyddaf i'n ailadrodd yr hyn a ddywedais i wrth Janet Finch-Saunders o ran amseriad hyn. Mae'n amlwg yn rhwystredig iawn, ac mae pob un ohonom ni'n meddwl am drychineb Grenfell a brwydr y bobl a oroesodd hynny am gyfiawnder, wrth gwrs, ond y gwir yw bod hwn yn faes cyfreithiol hynod gymhleth, ac mae wedi bod ar frig fy agenda yr holl amser yr wyf i wedi bod yn Weinidog tai. Yn sicr, nid oes angen i mi gael unrhyw un arall yn ei roi yno.
Mae wedi bod yn fater gwirioneddol o bryder i ni gael hyn yn iawn, i beidio â chyhoeddi cynlluniau nad ydyn nhw'n gweithio, sydd wedi digwydd dros y ffin droeon, ac nid yw hynny'n datrys y broblem. A hefyd, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar lobïo Llywodraeth y DU i roi nifer o bethau ar waith y gall Llywodraeth y DU yn unig ei wneud. Felly, fel rhan o fy natganiad heddiw, er enghraifft, rwy'n sôn am ymestyn y cyfnod cyfyngu ar gyfer camau gweithredu cytundebol i'r rhai sy'n gallu manteisio ar hynny, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, er na fydd hynny yn sicr yn datrys y broblem ar gyfer yr holl adeiladau sydd gennym ni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hadeiladu gyda model cyfrwng at ddibenion arbennig ynghlwm wrthyn nhw.
Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ni gynllun sy'n ein galluogi i edrych yn gyfannol ar bob adeilad, sy'n ein galluogi i ddeall beth yn union yw ei broblemau a beth fyddai ei angen i'w gywiro. Ac yna, a dweud y gwir, i ddeall beth yw'r angen ar gyfer y contractwyr sydd â'r sgiliau i wneud hynny, a pheidio â chael pawb yn ceisio eu cael i gyd ar unwaith, gan gamystumio'r farchnad a chynyddu'r prisiau. Felly, rydym ni'n camu i mewn. Nid ein cyfrifoldeb ni ydyw mewn gwirionedd, ond rwy'n teimlo'n gryf iawn mewn gwirionedd y byddwn ni'n gallu helpu'r lesddeiliaid i lywio cam adfer adeiladau hynny, oherwydd fel arall bydd llu o broblemau y gall pob un ohonom ni eu gweld ar unwaith. Felly, er fy mod i'n deall yn llwyr rwystredigaeth y lesddeiliaid, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen ar gyfer hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at y dadansoddiad o'r pasbortau adeiladau.
O ran y cynllun prynu i adael, neu'r cynllun cymorth lesddeiliaid, nid wyf i'n gwybod yn iawn yr ateb i'ch holl gwestiynau, Mabon. Yr hyn yr ydym ni eisiau'i wneud yw, rydym ni eisiau gweld, a dweud y gwir, faint o bobl sydd wedi ceisio gwerthu eu tŷ ar y farchnad agored ac wedi methu â gwneud hynny oherwydd ei fod yn eu rhoi mewn ecwiti negyddol neu oherwydd bod y telerau y gallan nhw wneud hynny oddi tanyn nhw yn rhy gosbol iddyn nhw allu cyfrif hynny. Rwyf i'n awyddus i weld yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu pobl sy'n mynd i ôl-ddyledion morgais, er enghraifft, neu sydd ag anawsterau ariannol difrifol eraill oherwydd eu bod wedi llwyddo i dalu eu morgais ond, o ganlyniad i hynny, mae ganddyn nhw anhawster ariannol arall. Rwy'n barod i edrych ar bobl sy'n amlwg mewn sefyllfaoedd gorlenwi o ganlyniad i orfod aros, efallai, mewn eiddo a oedd â'r bwriad yn wreiddiol o fod yn gartref cyntaf ond nawr maen nhw'n deulu mwy. Mae nifer o feysydd caledi yr ydym ni'n barod i'w hystyried.
Rydym yn ystyried prisiadau a fydd yn cael eu gwneud gan y swyddfa brisio, yn yr un modd ag yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer prisio prynu gorfodol. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn orfodol. Os nad yw'r person dan sylw yn hoffi'r prisiad y gallwn ni ei gynnig, nid yw'n orfodol mewn unrhyw ffordd iddyn nhw gymryd rhan yn y cynllun. Mae hwn yn gynnig gan y Llywodraeth i'r bobl hynny sy'n dymuno manteisio arno. Os nad yw person yn dymuno manteisio arno, mater iddyn nhw yw hynny yn llwyr. Roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau, i'r bobl hynny a oedd yn dymuno aros yn eu cartref ond a oedd yn ei chael yn amhosibl yn ariannol o ystyried lle maen nhw gyda phrisiau ac yn y blaen, y gallen nhw wneud hynny, ac os nad oedden nhw, eu bod nhw'n gallu dechrau eto rhywle arall.
Bydd y cynllun newydd ar waith ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Dyna pryd y bydd y gyllideb ar gael, ond bydd yn cymryd yr ychydig fisoedd i ni rhwng hynny i ddatrys y broses ymgeisio a dechrau prosesu pobl sy'n dymuno bod yn rhan o hynny. Nid dyma'r math o beth y gallwch chi ei gyhoeddi heddiw a'i ddechrau yfory; mae'n rhaid i ni weithio ochr yn ochr â'n rhanddeiliaid i'w roi ar waith. Ond roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i'w gyhoeddi cyn y Nadolig, gan fy mod i'n credu bod angen i bobl sy'n teimlo'n anobeithiol wybod bod y rhyddhad hwnnw ar y ffordd a dechrau edrych ymlaen at allu manteisio arno. Rwy'n credu y byddwn i'n anonest, Llywydd, os byddwn i'n dweud bod gen i'r holl atebion i'r cwestiynau yr oedd Mabon wedi eu gofyn, ond rwyf i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r lesddeiliaid eu hunain i sefydlu beth fyddai'r cynllun gorau i gyrraedd y bobl y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf.
Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn amdano dros gyfnod o amser; mae'n fater o bryder difrifol. Fel y Gweinidog, sydd â'r datblygiad ar ochr arall yr afon, mae gen i ddatblygiad SA1, lle mae nifer o'r eiddo hyn. Un o'r problemau mwyaf, serch hynny, Gweinidog, yw bod rhai o'r rhain wedi eu hadeiladu gan sefydliadau nad ydyn nhw mewn busnes mwyach, fel Carillion, a adeiladodd rai ohonyn nhw. Mae'r anhawster o gael unrhyw arian ganddyn nhw, hyd yn oed pe bai gennym ni'r gallu i wneud hynny, yn rhywbeth sy'n destun pryder. Fel y dywedais i, rwy'n croesawu'r cynnig yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn sicr yn symud i'r cyfeiriad iawn ar hyn. Ond a ydych chi'n mynd i roi rhagor ddiweddariadau i ni wrth i ni symud ymlaen? Er bod rhywfaint o arian ar gael, yn sicr nid yw'n mynd i fod yn ddigon, ydyw, i ddatrys problemau pawb yn un o'r eiddo hyn. Fe wnaethoch chi sôn am sut yr ydych chi'n mynd i geisio blaenoriaethu nid y dyddiad y mae pobl yn gwneud cais, ond cyrraedd y bobl sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n croesawu hynny yn fawr, ond a fyddwch chi'n gallu cysylltu, neu a fydd un o'ch swyddogion yn gallu cysylltu â nhw, y rhai hynny yn y ddwy ardal yn fy etholaeth i, yn South Quay ac Altamar, lle mae gennym ni lawer iawn o bobl yno, i drafod hyn gyda nhw? Maen nhw wedi cael eich datganiad heddiw, gan fy mod i wedi ei anfon atyn nhw, ond a fydd eich swyddogion yn gallu siarad â nhw ac egluro iddyn nhw ble yn union y maen nhw, a sut y bydd yn effeithio arnyn nhw?
Diolch, Mike. Byddwn, wrth gwrs, yn gallu cynnal sesiynau briffio technegol ar gyfer preswylwyr mewn adeiladau i'w cynorthwyo i wneud cais yn yr un modd ag yr ydym ni wedi ei wneud ar gyfer y cynllun pasbortau adeiladau. Rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn deall yr amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Hefyd, wrth gwrs, fel rhan o'r datganiadau o ddiddordeb, rydym ni'n gallu dechrau cymryd rhai o'r camau rhagarweiniol tuag at ddeall lefel y risg sydd gan yr adeilad. Hoffwn i fod yn glir iawn nad dim ond ar yr adeg y byddwn ni'n dechrau gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol y byddwn ni'n gallu deall lefel y risg; mae gan lawer o'r lesddeiliaid ryw syniad eisoes o rai o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu. Felly, gallwn ni ddod at rai casgliadau rhagarweiniol ar unwaith pan fydd y pasbortau wedi eu cwblhau. Rydym ni'n dymuno gallu gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y problemau gwaethaf yn gyntaf, yr holl ffordd drwodd.
Hefyd, mae'n deg dweud na fydd modd datrys holl broblemau pob adeilad ar un tro. Mae angen sawl ymgais ar lawer o'r pethau hyn. Oherwydd y ffordd y mae'r system yn cael ei dal ar y wal, mae'n rhaid i chi dynnu'r cladin yn gyntaf, ac yna'r system, ac yna gwneud yr ymchwiliadau ymyrrol ac yn y blaen. Felly, mae'n llawer mwy cymhleth na dod i mewn, trwsio'r adeilad, a gadael eto, mae arnaf i ofn. Felly, byddwn ni'n gweithio gyda llawer o'r adeiladau hyn ymhell i'r dyfodol, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o fersiynau o'r sgwrs hon.
Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd pan fyddwn ni'n gwybod yn union lefel y pasbortau adeiladau sydd wedi mynd drwy'r broses, ac yn wir ar ôl i ni ddechrau cael datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cynllun cymorth lesddeiliaid. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf mor aml ag sy'n angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ar led, ac rwy'n ddiolchgar iawn i ASau ar draws y Siambr am gyfleu'r wybodaeth hon i'w trigolion yn y ffordd y mae Mike Hedges newydd ei disgrifio.
Diolch i chi, Gweinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n diolch i chi am eich ymrwymiad i wneud hyn yn iawn. Nid mater gwleidyddol yw hwn; mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn dymuno ymdrin ag ef a'i wneud yn well i'r trigolion sydd wedi bod yn dioddef cymaint. Rwy'n cydnabod y gwaith da y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud i ymdrin â hyn. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, mae'n fater hynod o gymhleth ac nid yw'n mynd i gael ei ddatrys dros nos, ond rwy'n falch ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn. Gofynnodd Mabon rai o'r cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn, ac rydych chi wedi esbonio hynny, ac rwy'n deall nad oes gennych chi'r holl atebion nawr, ond byddwn ni'n dysgu mwy am y cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.
Mae pwynt arall sy'n gysylltiedig â hyn i gyd yr hoffwn i ei godi, er hynny, Gweinidog, ac mae'n ymwneud â threth trafodiadau tir sy'n cael ei chodi wrth brynu cartref. Mae gan un o fy etholwyr i eiddo amlwg yn natblygiad Celestia. Fe wnaeth brynu cartref teuluol newydd gyda'i bartner yn ôl yn 2019, ac roedd wrthi'n gwerthu ei fflat yr oedd wedi ei brynu ei hun. Roedd yn gwerthu honno i helpu i ariannu ei gartref nesaf, heb unrhyw fwriad i gael ail gartref o gwbl. Fodd bynnag, oherwydd problemau o ran cael y dystysgrif EWS1 honno, wrth i ddatblygwr y bloc fflatiau gadarnhau bod problemau cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, nid oedd yr etholwr yn gallu gwerthu'r fflat. Roedd hyn yn golygu y cafodd gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir ei chodi arno, gan y barnwyd ei fod yn berchen ar ail eiddo. Roedd y gyfradd uwch hon yn cyfateb i tua £12,000 yn fwy nag y byddai wedi ei chodi yn wreiddiol pe na bai'r mater hwn yn bodoli. I wneud pethau'n waeth, mae'n annhebygol y bydd yn gallu adennill y tâl treth trafodiadau tir uwch, gan fod gwaith adfer yn debygol o gymryd cryn dipyn o amser, ac felly mae unrhyw werthiant yn y dyfodol yn debygol o fynd y tu hwnt i'r cyfnod o dair blynedd ar gyfer hawlio yn ôl y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir.
Yn Lloegr, rwyf i ar ddeall bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu caniatáu estyniad i'r cyfnod y mae modd hawlio yn ôl dreth dir y dreth stamp oherwydd problemau diogelwch tân sy'n achosi problemau o ran gwerthu. Gweinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallech chi ystyried ei gyflwyno o leiaf fel mesur tymor byr i helpu perchnogion tai sy'n cael eu dal yn ôl gan y mathau hyn o faterion? Mae'n rhywbeth, rwy'n meddwl, a fyddai'n ffordd o leddfu ychydig o'r pwysau eraill hynny y mae rhai yn eu hwynebu. Diolch i chi am hynny.
Diolch, Peter. Gallaf i weld bod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyllid yn gwrando ar eich cwestiwn chi yn y fan yno. Mae yn ei phortffolio hi, ond gallaf i gadarnhau ein bod ni wedi cael rhai trafodaethau rhagarweiniol ynghylch a oes modd ystyried ymestyn y cyfnod amser i werthu'r tŷ pan fo'n amlwg yn drefniant pontio. Nid ydym ni wedi cyrraedd diwedd y trafodaethau hynny eto, ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fyddwn ni wedi gwneud hynny.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.
Rwyf i, fel Mike Hedges hefyd, wedi anfon eich datganiad at lawer o ymgyrchwyr yma ym Mae Caerdydd, ac mae'r ymatebion yr wyf i wedi eu cael i gyd wedi croesawu'r datganiad hwn gennych chi. Maen nhw'n ddiolchgar eich bod chi wedi ailadrodd unwaith eto na fydd lesddeiliaid yn talu'r bil. Rwy'n ddiolchgar i chi am sôn y bydd rhywfaint o gymorth technegol ychwanegol i lesddeiliaid lywio'r broses hon.
Rwy'n deall eich bod chi sôn mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor nad oes angen i neb eich atgoffa o'r amser sydd wedi mynd heibio ers Grenfell, ond dyna y mae trigolion yn sôn amdano drwy'r amser—mae amser yn ffactor hollbwysig iddyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Gweinidog, a gyda'r trigolion, i sicrhau y bydd cymorth addas i'r diben ar gael cyn gynted â phosibl, oherwydd dyna y mae angen iddyn nhw ei wybod yn ddirfawr—pryd y byddan nhw'n gallu cael cymorth o'r gronfa.
Rwy'n edrych ymlaen hefyd at weithio gyda Janet Finch-Saunders, Peter Fox, ac rwy'n gwybod bod Andrew R.T. Davies wedi bod yn llafar iawn am hyn yn y gorffennol—y rhai hynny yn y Blaid Geidwadol—i sicrhau cefnogaeth briodol gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn llawer rhy bwysig i'w droi'n gêm wleidyddol. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn ddiweddar, y canlyniadau trasig yn y Môr Udd pan nad yw dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am gladin, gadewch i hynny fod yn rhybudd i ni am domenni glo. Mae'r rhain yn faterion peryglus nad oes modd eu troi'n gêm wleidyddol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr i lobïo Llywodraeth y DU am gefnogaeth briodol.
Yn naturiol, Gweinidog, rwy'n croesawu'ch addewid o gefnogaeth i nifer bach o lesddeiliaid sy'n cael trafferthion ariannol sylweddol. Rwy'n falch bod cefnogaeth wedi ei rhoi i bobl y mae eu dyfodol hirdymor yn cael ei felltithio gan fethdaliad o bosib, troi allan a digartrefedd o bosib. Ac eto, mae llawer o rai eraill, fel y gwnaethoch chi sôn mewn ymateb i un o'r cyfraniadau, sydd wedi eu gadael—fel y gwnaethoch chi sôn, teuluoedd sy'n tyfu, pensiynwyr sy'n dymuno symud i'r llawr gwaelod, pobl sy'n dioddef yn ddifrifol o broblemau iechyd meddwl. Yn ddiweddar, Gweinidog, cefais e-bost am lesddeiliad a oedd wedi lladd ei hun yn drasig oherwydd y straen meddyliol yr oedd yn ei ddioddef. Hyd y gwn i, nid oedd yn wynebu methdaliad, troi allan na digartrefedd, ond ni allai weld unrhyw ddihangfa. Rwy'n falch i chi ddweud yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor y byddwch chi'n cymryd safbwynt eang am y rhai sy'n ei chael hi'n anodd, sydd wedi cael caledi ariannol sylweddol.
Mae lesddeiliaid yn parhau i bryderu am gael eu llethu gan gostau rheoleiddio ychwanegol sy'n gysylltiedig ag unrhyw drefn diogelwch adeiladau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio bod hynny wedi ei ystyried yn eich cynlluniau, Gweinidog, ac y gallwch chi warantu na fydd preswylwyr yn wynebu unrhyw gost ychwanegol oherwydd gwaith ar ddiogelwch adeiladau. Bydd y Bil diogelwch adeiladau y gwnaethoch chi sôn amdano yn golygu y bydd yn rhaid i drigolion dalu'r bil o hyd, ac nid wyf i'n credu y bydd ymestyn y cyfnod cyfyngu y gwnaethoch chi ei grybwyll hefyd yn eich datganiad yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r mwyafrif llethol o'r rhai sydd wedi eu heffeithio arnyn nhw. Ni fyddan nhw'n gallu mynd i'r afael â'r datblygwyr mawr hyn yn ariannol o hyd. Fel y gwnaeth Mike Hedges sôn, nid yw llawer o'r datblygwyr hyn mewn busnes mwyach. Yn wir, cafodd rhai eu creu yn benodol i adeiladu datblygiad, ac yna eu diddymu a'u dirwyn i ben.
Gorffennodd y Gweinidog ei datganiad yn gryf, gan ddweud bod yn rhaid i ddatblygwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am y diffygion adeiladau hynny, gamu i'r fei a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr, Gweinidog. Sut byddwch chi'n eu cael i gamu i'r fei? A fyddan nhw'n cael eu herio? A fyddan nhw'n cael eu henwi a'u cywilyddio, ac a fydd Llywodraeth a llywodraeth leol yn defnyddio eu pŵer caffael sylweddol i sicrhau na fydd y datblygwyr nad ydyn nhw'n camu ymlaen, y datblygwyr nad ydyn nhw'n cymryd cyfrifoldeb am y sgandal ofnadwy hwn, yn ennill contractau na chymorth y sector cyhoeddus mwyach? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Rwy'n croesawu'ch cefnogaeth. Yn y Senedd flaenorol, cawsom ni waith trawsbleidiol da. Cymerodd Janet Finch-Saunders a'n cyd-Aelod David Melding, yn arbennig, ddiddordeb, ac rwy'n gwbl sicr, pan ddaw'r Bil yn ei flaen, y byddwn ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr ar roi'r drefn ddiogelwch orau posibl ar waith ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn gwbl briodol, yn y cyfamser, rydym ni'n straffaglu â gwaddol y gyfundrefn wael iawn a oedd ar waith sydd wedi achosi'r holl anawsterau hyn ac, a dweud y gwir, safon gwbl warthus y gwaith a'r dull cowbois ffwrdd-â-hi o ymdrin â diogelwch sydd wedi ei ddangos yn glir gan lawer o'r adeiladau hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r datblygwyr sydd wedi camu ymlaen ac sydd wedi rhoi o leiaf rhywfaint o arian ar y bwrdd ar gyfer rhai o'r datblygiadau yng Nghymru i ddechrau'r broses adfer. Mae nifer nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Rwy'n cymryd cyngor cyfreithiol ar beth yn union y gallwn ni ei wneud am y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Byddwch chi'n gyfarwydd iawn â'r ffaith bod llawer o'r datblygiadau hyn wedi eu hadeiladu gan gwmnïau cyfrwng dibenion arbennig; nid nhw yw'r cwmni daliannol o reidrwydd. Mae'n anodd iawn dweud na all y cwmni penodol hwnnw wneud gwaith yn y dyfodol, oherwydd byddwch chi'n darganfod yn gyflym iawn nad yr un cwmni ydyw, yn gyfreithiol, ac yn y blaen. Felly, mae'n ddeniadol iawn, y cynnig yr ydych chi'n ei roi i mi, ond mae'n anodd iawn ei wneud yn ymarferol, fel rwy'n ei ddweud, wrth i'r cwmnïau hyn ymddangos dros y lle a diflannu eto yr un mor gyflym.
Bydd Mike yn ymwybodol iawn yn Abertawe o un achos penodol y mae modd ei ddefnyddio'n wirioneddol yn gwestiwn arholiad ar yr hyn a all fynd o'i le, oherwydd mae'r adeiladwr gwreiddiol, yr ail adeiladwr, yr holl yswirwyr a sawl cwmni daliannol ar ôl hynny i gyd wedi mynd yn fethdalwyr, un ar ôl y llall. Felly, mae hi wir yn wers o ran sut i beidio ag adeiladu. Bydd gennym ni'r holl wersi hynny o'n blaenau wrth i ni edrych ar ein cyfundrefn newydd ond, yn y cyfamser, rydym ni wedi ein gadael yn ceisio datrys cymhlethdodau dryslyd y sefyllfa bresennol, a dyna pam yma yng Nghymru, yn hytrach na chael yr un dull gweithredu i bawb, fe wnaethom ni ei ystyried fesul adeilad, oherwydd bod pob un ohonyn nhw'n unigryw ac yn wahanol ac, yn anffodus, cymhlethdod hynny yw pam ei fod yn cymryd cyhyd, ac nid oherwydd nad yw ar frig ein hagenda, gallaf i eich sicrhau chi. Mae hyd yn oed y ffordd yr ydym ni'n cael y syrfewyr i ddod i mewn a gwneud yr adeiladau mewn ffordd ddilyniannol sy'n golygu nad yw'r pris yn mynd drwy'r to o ganlyniad i rymoedd y farchnad, ac yn y blaen, wedi bod yn gymhlethdod. Felly, rwyf i'n eich sicrhau chi fy mod i'n awyddus iawn i weithio ar draws y Siambr ar y ddwy agwedd hyn.
O ran Llywodraeth y DU, rwyf wedi fy siomi yn fawr nad ydym ni wedi gallu cael eglurder ar rai o'r cyhoeddiadau y maen nhw wedi eu gwneud. Ond, yn fwy diweddar, rydym ni wedi gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar nifer o agweddau ar ddiwygiadau i lesddeiliaid, ac yn y blaen, testun cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw. Mae'n bwysig iawn deall mai lesddaliad yw un o'r meysydd datganoli mwyaf cymhleth, gyda rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli a rhywfaint ohono wedi ei gadw yn ôl, ac mae ymylon anniben datganoli yn amlwg iawn. Felly, mae gorfod llywio eich ffordd drwy hynny i gyd yn rhywbeth yr wyf i wir yn teimlo trueni dros y lesddeiliaid wrth ei wneud, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gynnig cymaint o wybodaeth dechnegol ag y gallwn ni i helpu pobl i lywio'r dyfroedd stormus iawn hyn.
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae ein pwyllgor wedi cytuno bod diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth allweddol dros dymor y Senedd hon. Rydym ni eisoes wedi ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil diogelwch adeiladau a byddwn ni'n adrodd ar hynny cyn bo hir, ac rydym ni hefyd yn disgwyl y byddwn yn craffu ar Fil Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd hwn. Ymatebodd ein pwyllgor blaenorol, yr oeddwn i hefyd yn gadeirydd arno, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn 'Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru' ar ddiwedd y pumed Senedd. Felly, rwyf i'n croesawu'n fawr y cynnydd yr ydych chi wedi ei osod ger ein bron heddiw, Gweinidog, a chyhoeddi'r ymatebion i'r Papur Gwyn. Mae'n hanfodol ymdrin â'r materion a gafodd eu codi yn yr ymatebion wrth symud ymlaen. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy, Gweinidog, am Fil diogelwch adeiladau y Senedd, gan gynnwys efallai ryw syniad o'r amserlen yn hynny o beth. Ac un peth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono fel pwyllgor yw bod pobl, yn amlwg, yn teimlo'n gryf iawn y dylen nhw allu teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, ac mae hynny o'r pwys mwyaf iddyn nhw. A dyna pam mae diogelwch adeiladau wedi bod yn flaenoriaeth mor frys i bob un ohonom ni, gan gynnwys y pwyllgor, ers trychineb Grenfell. Rydym ni fel pwyllgor yn dal i fod yn derbyn gohebiaeth gan breswylwyr sy'n teimlo'n rhwystredig ynghylch y cynnydd araf o ran cwblhau'r gwaith adferol a thalu am y gwaith hwnnw.
Rydych chi wedi sôn am weithio gyda phreswylwyr a lesddeiliaid. Gweinidog, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd bod ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid eraill yn gwbl allweddol, a'u mewnbwn nhw a fydd yn hanfodol i sicrhau bod mesurau yn y dyfodol yn diwallu eu hanghenion. Felly, os gallech chi ddweud ychydig mwy am y gwaith ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud a sut y bydd eu barn yn cyfrannu mewn gwirionedd at ddatblygu polisi yn y dyfodol, Gweinidog, byddwn i'n ddiolchgar. Ac yn olaf, gan ddychwelyd at y datblygwyr, rwy'n gwybod eich bod chi wedi cynnal digwyddiad bord gron yn yr hydref, ac fel y gwnaethom ni gyfeirio ato eisoes, fe wnaethoch chi fynegi parodrwydd, rwy'n credu, i roi ar goedd y datblygwyr hynny nad oedden nhw'n barod i ymuno â'r drafodaeth. Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am hynny eto, a beth fydd yn gyhoeddus. Diolch yn fawr.
Diolch, John. Rwy'n edmygu'ch pwyllgor yn gofyn i mi yn gyson am amserlenni ar gyfer y Bil, ond mae arnaf i ofn bod fy ateb yr un fath â'r un a roddais i yn y pwyllgor, sef y byddwn ni'n trafod yr amserlen gyda chi pan gaiff y Bil ei gyflwyno, a'n bod ni'n gobeithio cael yr amser hiraf posibl i graffu yn y cyfnod pwyllgor yn benodol, oherwydd fy mod i'n awyddus iawn i sicrhau bod y Bil hwn yn gydsyniol ar draws y Siambr, os yw hynny'n bosibl. Felly, byddaf i'n sicr yn dod i'r pwyllgor gydag amserlen maes o law pan fydd y cytundeb wedi ei nodi yn llawn, ac rwyf i'n ymrwymo'n llwyr i fod eisiau cael yr amser hiraf posibl i'r pwyllgor edrych ar y Bil a sicrhau ein bod ni'n cael y consensws hwnnw ar draws y darn.
Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu ar y Papur Gwyn yn barod, a chawsom ni lawer o ymatebwyr i hynny, ond fe wnaeth yr ymatebion gydnabod hefyd fod meysydd yr oedd angen eu cwmpasu, mireinio ac egluro yn fwy, felly rydym ni wrthi'n gwahodd partneriaid allweddol i barhau i weithio gyda ni ar ddatblygu rhai o'r cynigion hynny ac i ymuno â gweithgorau arbenigol a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd, i fireinio'r cynigion hynny. Felly, rwyf i'n eich sicrhau ein bod ni'n awyddus iawn i gael y diwydiant arolygu, y perchnogion eiddo eu hunain, a lleisiau'r lesddeiliaid yn amlwg iawn yn y ddadl honno, i sicrhau ein bod ni'n cael y drefn yn iawn. A byddaf i'n eich atgoffa ei fod yn raddol, y drefn, felly yn y cyfnod dylunio, adeiladu a meddiannaeth y bydd hyn yn cael ei ddwyn ymlaen. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i hynny. Rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ac, yn wir, y Senedd, wrth i'r trafodaethau hynny fynd yn eu blaenau.
Jenny Rathbone, yn olaf.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o fy mrwdfrydedd dros dynhau Rhan L o'r rheoliadau adeiladu fel bod pob adeilad newydd yn addas i'r diben yn ein byd sydd dan fygythiad yr hinsawdd. Dyma'r buddsoddiad mwyaf y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud erioed, ac yn wir nid ydyn nhw'n haeddu bod datblygwyr yn llwytho costau cudd arnyn nhw ac yn eu hannog nhw i brynu adeiladau nad ydyn nhw'n addas i'r diben naill ai o ran diogelwch neu effeithlonrwydd tanwydd yr adeilad. Felly, rwyf i'n cefnogi yn llwyr, fel y mae pawb rwy'n siŵr, ein bod ni'n sicrhau bod diogelwch nid dylunio wrth wraidd yr adeiladau aml-feddiannaeth hyn. Gan ei bod dros bedair blynedd ers trychineb Grenfell, pa newidiadau sydd wedi eu gwneud i reoliadau adeiladu yn ogystal â'r monitro sydd ei angen i sicrhau bod y cynlluniau'n cael eu llunio i'r fanyleb gymeradwy fel nad oes rhaid i unrhyw un sy'n prynu cartref heddiw fynd drwy'r artaith y mae pobl sy'n byw yn yr adeiladau sâl hyn wedi gorfod ei dioddef am yr holl flynyddoedd hyn?
Diolch yn fawr iawn, Jenny. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'ch brwdfrydedd dros Ran L, yr ydym ni'n gobeithio ei chyflwyno ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac yn arbennig o ran effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae rheoliadau adeiladu yn cynnwys llawer mwy nag effeithlonrwydd ynni yn unig; maen nhw'n cynnwys cyfres gyfan o agweddau ar ddiogelwch, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu. Ac rydym ni wedi gwneud un neu ddau o newidiadau i hynny, felly, yn amlwg, fe wnaethom ni wahardd gwahanol fathau o gladin yn gynnar iawn ar ôl tân Grenfell, fel y gwnaeth Lloegr. Bu nifer o addasiadau bach o'r math hwnnw wrth i ni fynd ymlaen, ond nid ydym ni wedi gwneud unrhyw newidiadau cynhwysfawr eto, oherwydd ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny o ganlyniad i'r Papur Gwyn. Ac rydym ni'n newid y drefn gyfan yn llwyr; nid mân newidiadau yw'r rhain, mae hyn yn wahaniaeth ansoddol hollol wahanol. Yr oedd yn destun llawer o ddadlau yn y pumed Senedd a byddwn ni mewn sefyllfa cyn bo hir iawn i allu dechrau ar y gwaith craffu hwnnw yma yn y chweched Senedd.
O ran sicrhau bod yr adeiladau sy'n cael eu hadeiladu yn awr yn addas i'r diben, gallaf i eich sicrhau chi ein bod ni wedi cael sgyrsiau hir gydag arolygiaethau amrywiol ynghylch y ffordd orau o wneud hynny, ond rwy'n ofni ei bod yn debyg bod rhai adeiladau yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd y bydd ganddyn nhw broblemau tebyg os nad yw'r datblygwyr yn camu i'r fei i'r dasg o sicrhau eu bod yn derbyn eu cyfrifoldebau. A dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu Bil nhw, oherwydd dim ond y DU sydd â'r pŵer i newid y cymalau rhwymedigaethau a'r cyfnodau cyfyngu ar gyfraith contractau, sef yr hyn yr ydych chi'n sôn amdano yn y fan yno. A dyna un o anawsterau'r maes cyfreithiol hwn, oherwydd nad yw rhywfaint ohono wedi ei ddatganoli, mae rhywfaint ohono wedi ei gadw a rhywfaint ohono heb ei gadw. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio llywio hynny wrth i ni fynd ymlaen. Felly, mae Llywodraeth y DU, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ymrwymo'n ddiweddar i ymestyn y cyfnod cyfyngu i bobl sydd ar fin mynd i feddiannu adeilad, felly bydd ganddyn nhw 30 mlynedd i ddwyn y datblygwr i gyfrif yn y dyfodol.
Bydd angen gwneud pethau eraill, felly byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda gweithwyr proffesiynol trawsgludo ac asiantau tai er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth y mae pobl yn ei chael pan fyddan nhw'n prynu eu heiddo yn addas i'r diben. Ac mae hynny'n cynnwys yr holl faterion sy'n ymwneud â lesddaliad, taliadau a chyfrifoldebau hefyd, Jenny, cyn ac ar ôl y Papur Gwyn. Yn amlwg, ar ôl y Papur Gwyn, bydd yn llawer symlach ac yn fwy uniongyrchol.
Diolch i'r Gweinidog.