Gwasanaethau Cam-drin Domestig

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i John Griffiths am godi'r mater hwn y prynhawn yma a chydnabod, mewn gwirionedd, y gwaith pwysig y mae sefydliadau fel Barnardo's yn ei wneud, ac mae'n ddiddorol iawn clywed am y prosiect rydych wedi'i ddisgrifio. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y pandemig, wrth gydnabod, fel y dywedodd John Griffiths, fod mwy o aros gartref yn ei gwneud yn anos i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. Nid yw'r llythyr wedi dod i law eto; rwy'n disgwyl mai fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fydd yn ymateb i'r llythyr yn y pen draw, ond fe wnaf yn siŵr fod gennyf gopi ohono hefyd. Mae'r mater hwn yn rhan o'i phortffolio hi, ond byddaf yn siŵr o edrych arno hefyd. Diolch.