– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Ionawr 2022.
Rydyn ni'n symud i'r ail eitem, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rydw i wedi ychwanegu dadleuon ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 at yr agenda heddiw, ynghyd â'r cynnig cyfatebol i atal y Rheolau Sefydlog. Yn ogystal, mae'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch, Trefnydd, am y datganiad yna. A gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran mynediad at basys COVID y GIG yng Nghymru ar gyfer y rhai a gafodd eu brechiadau dramor? Rwy'n deall bod camau eisoes wedi'u cymryd yn Lloegr ac yn wir yn yr Alban er mwyn sicrhau y gall pobl sydd wedi derbyn eu brechlynnau dramor gael y rheini wedi'u dilysu er mwyn eu hymgorffori yn eu systemau pasys COVID y GIG, ond am ba reswm bynnag mae'n ymddangos bod Cymru'n llusgo ei thraed yma. Mae gennyf i etholwyr sydd wedi cael eu brechiadau yn Ffrainc a Norwy, a hyd yn oed mewn rhan arall o'r DU, yng Ngogledd Iwerddon, sy'n methu â dilysu'r rheini yma yng Nghymru i'w defnyddio yn system basys COVID y GIG. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol ac mae angen ymdrin ag ef. Byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad brys ar y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â hyn fel bod modd cael amserlen glir i'r unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw er mwyn iddyn nhw gael mynediad at eu pasys COVID cyn gynted â phosibl.
Diolch. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio arno a bydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig pan fyddan nhw wedi dod i'r casgliad y maen nhw eisiau ei gael.
Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Trefnydd yn cadarnhau adroddiadau'r cyfryngau y bydd dadl frys yn cael ei chynnal yn fuan ynghylch y newid i sgriniau canser ceg y groth, ar ôl i ni glywed eisoes y prynhawn yma fod dros 1 miliwn o bobl wedi llofnodi deisebau ar y mater hwn. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig, oherwydd unwaith eto, fel yr ydym ni wedi'i glywed, yn ystod yr wythnos diwethaf, mae pobl yng Nghymru, menywod yng Nghymru, wedi drysu ac yn bryderus iawn oherwydd bydd y profion ceg y groth arferol hyn yn cael eu cynnig bob pum mlynedd yn hytrach na phob tair blynedd. Roedd y ffaith bod y cyhoeddiad wedi'i wneud ar y cyfryngau cymdeithasol gyda graffigyn nad oedd yn esbonio'r cyd-destun na'r rheswm dros y newid hwn yn achosi rhywfaint o banig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â'r Aelodau nawr, ac mae'r Prif Weinidog wedi nodi hyn y prynhawn yma hefyd, i egluro bod y prawf wedi newid, yn y dyfodol bydd y celloedd yn cael eu profi ar gyfer haint HPV yn gyntaf, ac rydym ni wedi cael sicrwydd bod hynny'n ffordd fwy cywir o sgrinio. Mae clywed hynny'n galonogol, er bod etholwyr yn dal i bryderu ac wedi cysylltu â mi. Mae rhai cwestiynau eraill y byddaf i'n eu codi mewn unrhyw ddadl, ond yn bennaf, mae'n sicr y bydd angen dadl frys i helpu i leddfu pryderon y menywod hynny a welodd y graffigyn hwnnw ar-lein. Nid oedd ganddyn nhw'r wybodaeth gyd-destunol. Mae'n annhebygol bod y miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi llofnodi'r deisebau hynny nawr yn ymwybodol o'r rheswm sydd wedi'i roi.
Rwy'n gwybod bod ein llefarydd iechyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn gofyn iddi hi drefnu bod neges uniongyrchol yn mynd at bawb yr effeithiwyd arnyn nhw i esbonio'r newid, ac rwy'n credu mewn gwirionedd y byddai dadl frys ar ben hyn i'w chroesawu. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Trefnydd, fod yr adroddiadau hynny'n gywir, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd a fydd yr Aelodau'n gallu diwygio'r ddadl?
Gwnaf, bydd dadl yr wythnos nesaf.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Fel rhywun sydd wedi gofyn yn barhaus am y ddarpariaeth o athrawon cyflenwi yn y sector cyhoeddus, rwyf i wedi credu ers tro byd fod athrawon cyflenwi yn cael eu trin yn wael. Roeddwn i'n falch iawn o weld y camau arfaethedig yng nghytundeb Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar ble a sut y bydd y dewis ar gyfer model mwy cynaliadwy o addysgu cyflenwi gyda gwaith teg yn ganolog iddo, a fydd yn cynnwys dewisiadau eraill wedi'u harwain gan awdurdodau lleol ac ysgolion, yn cael ei weithredu.
Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar hawliau tramwy cyhoeddus. Mae adrannau 53 i 56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn cyfeirio at ddyddiad terfyn sef 1 Ionawr 2026 ar gyfer hawlio hawliau tramwy hanesyddol heb eu cofrestru a oedd yn bodoli cyn 1949. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod yr holl hawliau tramwy cyhoeddus wedi'u cofrestru?
Diolch. O ran eich ail bwynt, ynghylch adrannau 53-56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, nid ydyn nhw wedi cychwyn eto yng Nghymru, sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi ar hyn o bryd, ac nid oes bwriad i ddod â nhw i rym yng Nghymru.
O ran eich pwynt ynghylch y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru o ran athrawon cyflenwi, fel y mae'r Aelod yn ymwybodol, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflogi staff ysgolion, ac mae hynny'n cynnwys athrawon cyflenwi. Yn amlwg, mae gennym ni lawer o wahanol systemau ledled Cymru—mae gwahanol systemau a modelau cyflenwi ar waith. Felly, er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn, rydym ni'n gwneud darn o waith cychwynnol i ddarganfod sut mae gwahanol awdurdodau lleol yn ymgysylltu, sut y maen nhw'n defnyddio'r athrawon cyflenwi sydd ganddyn nhw, ac mae gwaith hefyd wedi'i wneud i ddarganfod sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, a manteision ac anfanteision y modelau a ddefnyddir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni yn ystyried arfer gorau ac yn dysgu o wledydd eraill hefyd. Mae swyddogion y Gweinidog wedi dechrau nodi modelau eraill. Mae'n faes cymhleth iawn. Mae llawer o gymhlethdodau ariannol a chyfreithiol yn gysylltiedig ag ef. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i'r adolygiad, fel y dywedwch chi, ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Gweinidog, fel cyfaill Senedd i Srebrenica, hoffwn i alw am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod y datblygiadau sy'n peri pryder yn Bosnia a Herzegovina. Mae llawer o'n cyd-Aelodau yma, gan gynnwys Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gefnogwyr ers tro i Remembering Srebrenica UK, gan sicrhau llais cryf o Gymru ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn San Steffan. Mae dadleuon wedi bod yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ar y mater hwn, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i ni ddangos undod a mynegi ein pryderon ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn dod i'r amlwg yn Bosnia a Herzegovina, lle mae bygythiad o ymwahaniad yr endid Republika Srpska y mae Serbiaid yn fwyafrif ynddo, gyda'r wlad nawr yn wynebu her fawr i'w sefydlogrwydd a'i diogelwch. Rwy'n gwybod ein bod ni'n brin o amser. Rwy'n gwybod y bydd aelodau'r Llywodraeth yn pryderu. Yn ysbryd cydweithredu, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog neilltuo amser i drafod hyn. Diolch.
Diolch. Rwy'n gwybod bod sawl Aelod o'r Senedd sydd â swyddogaeth fel cyfaill i Srebrenica. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU. Nododd hi hefyd ei phryderon ynghylch ansefydlogi'r rhanbarth, o ystyried hanes diweddar Bosnia. Felly, fel y dywedwch chi, mae'n fater o bolisi tramor—mae'n fater a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU—felly mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a faint y gallwn ni ei ddweud. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau unwaith y bydd ganddi ymateb gan yr Ysgrifennydd Tramor.
Rwyf i eisoes wedi codi'r mater hwn gyda chi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sawl achlysur, ond nid yw eto wedi'i ddatrys, sef mater pobl nad oes modd eu brechu na chymryd prawf llif unffordd, a'r ffaith na allan nhw gael mynediad at basys COVID o hyd, sy'n caniatáu iddyn nhw fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau yn awtomatig. Ar 7 Rhagfyr, gwnaethoch chi gytuno â mi fod angen ei ddatrys ar frys, a gwnaethoch chi ymrwymo i ofyn i'r Gweinidog iechyd ymchwilio i'r mater a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn datganiad llafar yr wythnos ganlynol neu ymlaen llaw. Ni ddigwyddodd hyn, a phan holais i'r Gweinidog, ymatebodd hi drwy ddweud bod llawer iawn o waith wedi'i wneud ar hyn ond bod yr un bobl nawr yn gweithio ar y rhaglen frechu, felly nid yw wedi'i gwblhau. A yw'n bosibl felly i'r Aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac amserlen ddangosol ar gyfer pryd y caiff ei gwblhau? Caiff y cwestiwn hwn ei ofyn i mi'n gyson gan etholwyr, ac maen nhw'n awyddus iawn i wybod pryd y byddan nhw'n gallu cael pàs COVID i fyw eu bywydau mor llawn ag y gallan nhw o fewn y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Diolch.
Diolch. Nid wyf i wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ers i mi wneud hynny ar y cychwyn yn dilyn eich cwestiwn chi i mi, Heledd Fychan. Yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi a yw'n bosibl rhoi llinell amser ddangosol. Yn amlwg, mae dadl y prynhawn yma ar reoliadau COVID—ni wn i a gewch chi'r cyfle, ond yn sicr, byddaf i'n gofyn iddi edrych ar pryd y byddwn ni'n gallu cyflwyno'r wybodaeth honno.
Rwy'n falch iawn o glywed, Trefnydd, ein bod ni'n mynd i gael dadl yr wythnos nesaf ar ganser ceg y groth, sy'n digwydd bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Ganser Ceg y Groth, felly amseru da. Diolch yn fawr iawn.
Roeddwn i eisiau gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi ynghylch y ffordd y mae'r £120 miliwn ychwanegol a gyhoeddodd ef ym mis Rhagfyr i ymdopi â'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gosod o ganlyniad i omicron yn mynd i helpu gyrwyr tacsis yn arbennig, yr effeithiwyd arnyn nhw'n anghredadwy o wael gan ba mor eglur y cafodd neges Llywodraeth Cymru ei chlywed ynghylch yr angen i bobl beidio â chyfarfod â'i gilydd dros yr ŵyl yn ôl yr arfer. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar enillion gyrwyr tacsis. Bydden nhw fel arfer yn ennill dros £3,000 ym mis Rhagfyr, sy'n helpu i'w cynnal yn ystod tawelwch mis Ionawr, ond nawr, y cyfan y maen nhw wedi ei ennill ym mis Rhagfyr yw tua £800 neu lai, a phrin fod hyn wedi talu am eu costau ac nid oes ganddyn nhw unrhyw arian i fyw arno. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn clywed sut y bydd arian ychwanegol Gweinidog yr economi yn galluogi pobl fel gyrwyr tacsis ac, yn wir, y diwydiant lletygarwch lle nad oes ganddyn nhw hawliau cyflogaeth, i gynnal eu hunain yn ystod y sefyllfa anghredadwy hon, o gofio na allan nhw gael credyd cynhwysol am hyd at chwe wythnos.
Diolch. Wel, byddwch chi'n ymwybodol o ddatganiad Gweinidog yr Economi ychydig cyn y Nadolig. Felly, bydd cronfa ddewisol yn cael ei darparu gan awdurdodau lleol. Bydd proses ymgeisio fer, a bydd hynny'n cefnogi busnesau eraill fel unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd, ac mae hynny'n cynnwys gyrwyr tacsis hefyd, a busnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes. Felly, bydd y gronfa'n darparu £500 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd, a £2,000 i fusnesau sy'n cyflogi pobl yn y sectorau yr effeithiwyd arnyn nhw. Bydd ceisiadau'n agor ar wefannau awdurdodau lleol, rwy'n credu, yr wythnos nesaf—yr wythnos sy'n dechrau 17 Ionawr—a bydd y cyfleoedd hynny ar agor am bythefnos. Yn amlwg, bydd Gweinidog yr Economi yn adolygu'r gefnogaeth.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn benodol ar anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd oedolion neu asesiadau awtistiaeth gan y GIG yng Nghymru? Rydw i wir yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl am ei hymateb ysgrifenedig prydlon pan ofynnwyd iddi am ddarpariaethau ADHD, ac rwy'n falch iawn o glywed am y cynlluniau ar gyfer fframwaith amser newydd i wella mynediad cynnar plant i'r cymorth cywir, yn ogystal â chydweithredu ar draws y Llywodraeth i wella cefnogaeth i bobl ag ADHD. Fodd bynnag, yn anffodus, mae llawer o oedolion yn cael eu diagnosis yn eu plentyndod, a gwyddom ni y gall amgylchiadau personol unigolyn arwain at newid dwys yn ei iechyd meddwl, ac ar ôl siarad ag oedolion sydd ag ADHD, mae'n tueddu i fod yn fwy difrifol ar ôl colli swydd, perthynas yn chwalu neu newid mewn amgylchiadau. Cafodd deiseb ei chyflwyno i'r Senedd ym mis Hydref a ddywedodd nad oedd unrhyw asesiadau ADHD nac awtistiaeth oedolion yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n ffaith bod llawer o ddioddefwyr yn mynd heb ddiagnosis nes eu bod yn oedolion oherwydd bod y meini prawf diagnostig yn seiliedig ar ymchwil sy'n canolbwyntio ar nodweddion y mae bechgyn ifanc yn eu harddangos. Mae absenoldeb ADHD neu ddiagnosis awtistiaeth yn aml yn arwain at broblemau iechyd meddwl sylweddol, megis iselder, gorbryder a gorbryder cymdeithasol. Cafodd y ddeiseb hon ei gwrthod, gyda'r honiad ei bod eisoes wedi'i chynnwys gan wasanaeth awtistiaeth integredig y Llywodraeth yng Nghymru. Mae gwefan GIG 111 Cymru yn nodi o ran gwasanaethau o'r fath,
'Mae pwy yr ydych chi'n cael eich cyfeirio ato yn dibynnu ar eich oedran a'r hyn sydd ar gael yn eich ardal leol.'
Fodd bynnag, mae etholwr wedi cysylltu â mi i gwyno na all ei feddygfa wneud atgyfeiriad ar gyfer ei wraig gan nad oes gwasanaeth o'r fath ar gael. Mae seicolegwyr blaenllaw wedi rhybuddio bod rhagfarn rhywedd yn gadael llawer o fenywod ag ADHD heb ddiagnosis, ac amcangyfrifir nad yw degau o filoedd o fenywod yn y DU yn ymwybodol bod ganddyn nhw'r cyflwr ac nad ydyn nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn ymdrin â'r pryderon hyn a sut y bydd yn darparu gwasanaethau ADHD digonol i oedolion yng Nghymru nawr? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, gwnaethoch chi gyfeirio at yr wybodaeth ddiweddaraf a gawsoch chi gan y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl, a byddaf i'n gofyn iddi a oes rhagor o wybodaeth ddiweddar y gall hi ei rhoi i chi. Gwnaethoch chi gyfeirio at etholwr yn cysylltu â chi; byddwn i'n eich cynghori i ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan y Gweinidog iechyd ar effaith COVID ar weithlu'r GIG, yn benodol sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn gofalu am bobl sydd wedi'u heintio gan COVID ac sydd â phroblemau parhaus gyda'u hiechyd, sy'n golygu na allan nhw weithio. Rwy'n meddwl yn arbennig am un o fy etholwyr, Steve Bell, a oedd yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, ac wedi dal COVID yn sgil y gwaith hwn ac sydd nawr wedi methu gweithio ers hynny. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn. Ac rwy'n credu, wrth gefnogi'r gwasanaeth iechyd gwladol, fod y Llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae angen i ni hefyd ofalu am yr unigolion a'r bobl yn y gwasanaeth iechyd gwladol, yn enwedig y rhai sydd wedi dal COVID yn sgil eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod gennym ni ddyletswydd gofal barhaus i'r bobl hyn—dyletswydd gofal barhaus yn ystod eu salwch ac yna wedyn, hefyd, os yw COVID yn effeithio arnyn nhw. Felly, gobeithio y gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ar y materion hyn a dadl ar sut y gallwn ni barhau i ofalu am y bobl hynny sydd wedi gofalu amdanom ni.
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae effaith COVID ar unigolion sydd wedi dioddef yn amrywiol iawn, felly mae'n arbennig o bwysig ein bod ni'n parhau i gefnogi ein gweithlu, sydd, fel y dywedwch chi, wedi gwneud cymaint, a gofynnaf i'r Gweinidog roi datganiad ysgrifenedig i ni.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Hoffwn i alw am ddatganiad brys ynglŷn â'r datgeliadau ynghylch ariannu tomenni glo Cymru sy'n peri pryder. Efallai y bydd rhai Aelodau'n ymwybodol bod adroddiad pwyllgor craffu gwasanaethau amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, dyddiedig 14 Gorffennaf 2014, yn nodi
'Yn draddodiadol, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwaith adfer 100%. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r cyngor nad yw'n debygol o ariannu gwaith adfer yn y dyfodol oni bai bod "achos busnes" drosto. Mae'r achos busnes yn canolbwyntio ar allbynnau economaidd fel cyflwyno tir datblygu...Fodd bynnag, mae hyn yn gadael y safleoedd eraill, y mae gan rai ohonyn nhw broblemau sefydlogrwydd hanesyddol, heb gyllid posibl a mwy o atebolrwydd i'r Cyngor yn y dyfodol.'
Felly, rydym ni'n ymwybodol o'r tomenni gyda phroblemau sefydlogrwydd yn cael eu rhwystro yn y bôn rhag cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys tomenni Tylorstown a Llanwynno. Y llynedd, gwelodd storm Dennis dirlithriad ar domen Llanwynno. Felly, mae gwir angen i ni, fel Senedd, i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad i'r Senedd yn esbonio pam mae Llywodraeth Cymru wedi newid y meini prawf ar gyfer cyllid adfer, ac a wnaiff egluro hefyd faint o domenni gyda phroblemau sefydlogrwydd na welodd gynlluniau adfer yn cael eu hariannu fel canlyniad uniongyrchol? Diolch, Llywydd.
Rwy'n credu mai'r achos yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato yn ôl yn 2014 oedd oherwydd na chafodd achos busnes ei gyflwyno. Rwy'n credu mai dyna fy atgof i ohono. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r cynnydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella ein dealltwriaeth o nifer a hefyd statws y tomenni glo sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae gennym ni tua 2,500 o domenni glo segur. Mae darn sylweddol o waith wedi'i wneud gyda'r Awdurdod Glo a gyda Llywodraeth y DU, sydd, mae arnaf i ofn, yn parhau i anwybyddu ei chyfrifoldeb am yr etifeddiaeth ddiwydiannol sydd gennym ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad o £44.4 miliwn mewn diogelwch tomenni glo ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi bod yn rhaid cyflwyno achosion busnes er mwyn gallu archwilio a dangos y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys cyflwyno Bil diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hefyd.
Diolch i'r Trefnydd.