1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2022.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyngor ar ynni i aelwydydd sy'n agored i niwed? OQ57465
Mae cyngor o'r fath ar gael i bob aelwyd yng Nghymru drwy ein cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Cynnes. Cynigir cyngor a chymorth ychwanegol i aelwydydd agored i niwed mewn ardaloedd sydd yn y perygl mwyaf o dlodi tanwydd drwy ein cynllun treialu gwasanaethau cynghori ar ynni. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Gwynedd ac Ynys Mȏn, y ddwy yn rhanbarth yr Aelod ei hun.
Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd tai sydd wedi eu hinswleiddio yn wael a phrisiau ynni sy'n cynyddu yn aruthrol wedi cysylltu â mi. Mewn ymateb, yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i glywed mwy am y swyddogaeth bwysig y maen nhw'n ei chyflawni yn rhoi cyngor i lawer o deuluoedd sy'n cael trafferth gyda biliau'r cartref, wrth i doriadau credyd cynhwysol a chynnydd enfawr i brisiau ynni gael eu rhoi ar waith. Amlygodd ein trafodaeth pa mor hanfodol yw cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru fel achubiaeth i gynifer o deuluoedd, ac mae croeso mawr iawn iddo. Ond a fyddai'n bosibl i'r cynllun ariannu hwn gael ei ddarparu ochr yn ochr â chyngor a fydd yn cynorthwyo aelwydydd yn y tymor hwy, fel mynediad at gynlluniau ôl-osod, canllawiau effeithlonrwydd ynni a chymorth grant pellach a allai fod ar gael? Gwn eu bod nhw'n gwneud hynny, ond roedden nhw eisiau sicrhau bod cyrff cyflawni eraill yn gwneud yr un fath hefyd, oherwydd mae mor bwysig. Diolch.
Diolch i Carolyn Thomas am y dystiolaeth honno o reng flaen yr argyfwng costau byw. Yr wythnos diwethaf, rwy'n cofio i ni sôn am adroddiad y Resolution Foundation ar y drychineb costau byw. Ers hynny, rydym ni wedi gweld adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol ar y wasgfa costau byw, ac adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree heddiw ar y ffordd y bydd biliau ynni cynyddol yn drychineb, fel y dywed yr adroddiad, i'r teuluoedd tlotaf. Mae'r holl bwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn bwysig iawn. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Julie James a Jane Hutt ar y cyd at Lywodraeth y DU ar 11 Ionawr yn nodi pum ffordd wahanol y gallai Llywodraeth y DU weithredu a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r teuluoedd hynny ym maes tlodi tanwydd yn unig.
Y newyddion da, Llywydd, yw bod y £100 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gael drwy'r cynllun taliadau tanwydd gaeaf nid yn unig wedi cael ei groesawu gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, ond mae aelwydydd unigol wedi'i manteisio arno ar raddfa enfawr hefyd. Ar 31 Rhagfyr, yn sgil datganiadau gan 20 o'r 22 awdurdod lleol, roedd dros 100,000 o geisiadau eisoes wedi eu derbyn gan awdurdodau lleol, ac mae'n deyrnged i'r awdurdodau lleol hynny bod mwy na 33,500 o'r ceisiadau hynny eisoes wedi cael eu talu. Nawr, rwy'n gobeithio, erbyn heddiw, y bydd y nifer honno hyd yn oed yn uwch, o ran ceisiadau a thaliadau. Pan fydd y taliadau hynny yn cael eu gwneud, Llywydd, yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am y gyfres ehangach o gymorth sydd ar gael iddyn nhw, drwy gyngor ar ynni a thrwy gyngor ar fudd-daliadau hefyd. Mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle, yn enwedig pan fyddwn ni mewn cysylltiad â miloedd ar filoedd o ddinasyddion Cymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y cyfle hwnnw i wneud yn siŵr bod ffynonellau eraill o gymorth y gallwn ni eu cynnig iddyn nhw a'u bod nhw'n dod i wybod amdanyn nhw.
Diolch i Carolyn am godi'r cwestiwn yma. Dwi wir yn cefnogi'r cynnig yma gan Carolyn. Mae angen i systemau a chynlluniau gwahanol weithio fel un i sicrhau bod cymorth yn y tymor byr, fel y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, yn helpu unigolion yn y tymor hir drwy fesurau arbed ynni. Mae angen i fesurau tymor byr fynd law yn llaw â mesurau mwy hirdymor.
Un o'r mesurau tymor byr y gall y Ceidwadwyr yn San Steffan gymryd nawr yw torri treth ar werth ar ynni, gan arbed hyd at £100 y flwyddyn i deuluoedd—llawer mwy na cheiniogau, fel y mae Aelodau Senedd y Ceidwadwyr wedi honni yn yr wythnos ddiwethaf. Brif Weinidog, beth yw eich barn chi ar dorri treth ar werth ar ynni? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Llywydd, i Jane Dodds, ac wrth gwrs, dwi'n cytuno. Y pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud yn y tymor byr—ac rŷn ni wedi gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i greu'r cynllun dwi wedi cyfeirio ato yn yr ateb i Carolyn Thomas—. Mae hi'n bwysig bod hynny'n mynd law yn llaw gyda'r pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud yn y tymor hir, ac mae'r rhan fwyaf o'r rheini yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedais i, yn y llythyr oddi wrth Julie James a Jane Hutt, fod nifer o bethau ymarferol yr oedden ni wedi eu hawgrymu i Lywodraeth San Steffan—pethau y maen nhw'n gallu eu gwneud i helpu teuluoedd gyda'r problemau sydd wedi codi o dan eu Llywodraeth nhw. Mae torri treth ar werth ar ynni yn un o'r pethau yn y llythyr hwnnw, gyda phethau eraill. Mae rhai o'r pethau mor tymor hir—. Yn fy marn i, dydy hi ddim yn rhesymol yn y tymor hir i godi arian ar bethau sy'n bwysig ym maes ynni drwy dalu'r biliau y mae pobl yn eu gweld yn dod drwy'r drws. Mae hi lot yn well talu am bethau amgylcheddol a chymdeithasol drwy'r system gyffredinol o drethi. Mae hynny lot yn fwy teg a lot yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir hefyd.