– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiwygio cyllid hosbisau. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynnydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth gyflawni ein hymrwymiad pwysig yn y rhaglen lywodraethu i adolygu cyllid hosbisau gwirfoddol yng Nghymru. Mae hosbisau'n chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o bobl yng Nghymru y mae salwch angheuol yn effeithio arnyn nhw bob blwyddyn, ac yn helpu i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Mae dros 85 y cant o'r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu yn y gymuned. Nid oes mwy o angen wedi bod am y gofal hwn erioed nag yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pan fo hosbisau wedi bod yna, drwy gydol y pandemig, i gefnogi cleifion, teuluoedd a gofalwyr drwy'r cyfnodau anoddaf, o dan yr amgylchiadau anoddaf.
Bydd COVID-19 wedi effeithio ar bawb yn y Siambr hon mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Bydd llawer wedi colli anwyliaid, a byddan nhw'n nabod rhywun sydd wedi'i gysuro gan yr amrywiaeth eithriadol o wasanaethau a chymorth y mae hosbisau ledled Cymru yn eu darparu. Heb y gwasanaethau hanfodol hyn, byddai'r effaith ar y GIG yng Nghymru wedi bod, bron yn sicr, yn fwy difrifol.
Cyn y pandemig, daeth tua dwy ran o dair o incwm hosbis—sef mwy na £25 miliwn—drwy weithgareddau codi arian a haelioni'r cyhoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, gwelodd yr angen i weithredu cyfyngiadau symud ac amrywiaeth o gyfyngiadau eraill ar gymdeithas drwy gydol y pandemig ostyngiad sydyn yn yr incwm hwnnw. Cafodd digwyddiadau codi arian eu canslo, cafodd siopau elusennol eu cau a chafodd ymgyrchoedd eu hoedi. Ond roedd hosbisau'n ddyfeisgar ac fe wnaethon nhw addasu eu harferion mewn ymateb i'r pandemig. Gwnaethon nhw fanteisio ar ryddhad ardrethi busnes, defnyddio'r cynllun cadw swyddi, a chyflwyno datblygiadau arloesol i wella gofal i bobl sy'n agored i niwed—er enghraifft, addasu cerbydau trafnidiaeth a defnyddio technoleg ar gyfer cysylltu â chleifion.
Gweinidog, a wnewch chi aros am eiliad? Ni allaf eich gweld chi ar y sgrin; nid wyf i'n siŵr a all unrhyw un arall eich gweld chi ar y sgrin. Maen nhw i gyd yn ysgwyd eu pennau. A, dyna welliant. Diolch.
Iawn. Ydych chi'n gallu fy ngweld i nawr?
Ydw, diolch. Ewch ymlaen.
Diolch. Er gwaethaf y ffaith i'r hosbisau roi gweithgareddau codi arian brys ar waith a lleihau'r ddarpariaeth nad oedd yn hanfodol, roedd dal risg uchel a chynyddol y gallai gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes yn raddol fynd yn fethdalwyr. Dyna pam y camodd Llywodraeth Cymru i mewn a dyrannu bron i £14 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau Cymru drwy gydol y pandemig. Cafodd yr arian hwn ei ddarparu yn benodol i ad-dalu hosbisau am golli incwm drwy eu gweithgareddau elusennol, i ddiogelu eu gwasanaethau craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth.
Gan droi'n benodol at ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i adolygu cyllid hosbisau gwirfoddol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol i adolygu'r fformiwla ariannu gofal lliniarol arbenigol, a gafodd ei weithredu yn ôl yn 2010-11 yn dilyn yr adolygiad cynllunio gofal lliniarol y gwnaeth Vivienne Sugar ei gynnal. Yn dilyn adolygiad Sugar, cafodd cyllideb flynyddol o £6.3 miliwn ei rhoi ar waith i helpu i fwrw ymlaen ag argymhellion ei hadroddiad—cafodd £3 miliwn ohoni ei ddyrannu i hosbisau gwirfoddol. Yn 2014, cafodd yr arian hwnnw ei ddychwelyd i gyllidebau byrddau iechyd a'i glustnodi tan 2017.
Er bod hosbisau unigol wedi sicrhau cyllid ychwanegol fel rhan o gytundebau lefel gwasanaeth gyda byrddau iechyd, nid oes unrhyw gynnydd cydnabyddedig mewn costau craidd gwirioneddol wedi bod ers y dyraniad gwreiddiol yn ôl yn 2010-11. Gan gydnabod hyn, ym mis Gorffennaf 2021, gofynnais i'r bwrdd gweithredu gofal diwedd oes gynnal adolygiad ariannu hosbisau gwirfoddol fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau gofal diwedd oes, a fyddai'n cynnwys holl ddarpariaeth y sector statudol a gwirfoddol. Y dull gweithredu a fyddai wedi'i ffafrio ar y pryd fyddai cynnal yr adolygiad ehangach o'r gwasanaeth gofal diwedd oes yn gyntaf, ac yna'r adolygiad o gyllid hosbisau gwirfoddol. Fodd bynnag, arweiniodd yr angen brys i wneud argymhellion ar gyfer cyllid hosbisau yn y dyfodol mewn da bryd ar gyfer cyllideb ddrafft 2022-23 at flaenoriaethu'r adolygiad o gyllid hosbis.
Roedd y fformiwla ariannu wreiddiol yn canolbwyntio ar fodel gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan fesur y gofal sy'n cael ei ddarparu ar sail nifer y gwelyau a'r timau clinigol, yn bennaf, o ymgynghorwyr mewn meddygaeth liniarol a nyrsys clinigol arbenigol. Cafodd hosbis yn y cartref ei eithrio o'r fformiwla, ac ers hynny mae wedi dod yn rhan hanfodol o ofal yn nes at gartref, gan ganiatáu i gleifion arfer eu dewis i farw gartref. Nid oedd y fformiwla chwaith yn ystyried y rhan hanfodol yr oedd hosbisau plant yn ei chwarae yn cefnogi plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau a'u teuluoedd drwy ofalu bod gofal seibiant ar gael. Cafodd nifer o ystyriaethau arwyddocaol eu cydnabod hefyd ar ddechrau'r adolygiad, gan gynnwys bod hosbisau plant yn wahanol yn eu hanfod i hosbisau oedolion, ac nad oedd asesiad cynhwysfawr ar gyfer pobl ag anghenion gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi'i gynnal.
Cafodd yr adolygiad ei arwain gan dîm o Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Roedd y gwaith yn cynnwys dadansoddi templedi gwybodaeth a gyflwynwyd gan hosbisau a chynnal cyfweliadau. Cafodd cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal gyda Hospice UK a'r holl hosbisau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am hynt y gwaith. Yn ogystal â hyn, ystyriwyd hefyd i ba raddau mae cyllid statudol yn cyfrannu at wasanaethau'r sector gwirfoddol yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Cefais yr adolygiad terfynol ym mis Tachwedd 2021. Roedd yr adolygiad yn argymell cyllido hosbisau plant drwy gyfrannu 21 y cant o gostau gofal cytunedig yr holl hosbisau plant. Roedd hefyd yn argymell cynyddu'r cyllid ar gyfer hosbisau oedolion er mwyn adlewyrchu effaith dybiedig chwyddiant ar y dull gwreiddiol o gyfrifo'r cyllid. Byddai hyn yn cynnwys costau gwelyau a gwasanaethau cymunedol, a chyllido effaith ariannol y broses o ddarparu gwelyau ychwanegol a gyflwynwyd ers 2010-11. Dwi'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adolygiad, ac y bydd yn darparu £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hosbisau Cymru yn rheolaidd o 2022-23 ymlaen. Bydd £888,000 o'r cyllid hwn yn mynd i ddwy hosbis plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.
Bydd cam 2, sef yr adolygiad ehangach o'r holl gyllid statudol a chyllid y sector gwirfoddol ar gyfer gofal diwedd oes, yn ystyried yr holl sbectrwm gofal. Bydd yn gwneud hynny gan ddefnyddio modelau gofal wedi eu cytuno'n lleol, dilyn egwyddorion gofal iechyd yn seiliedig ar werth, a chael ei arwain gan y nodau yn y cynllun 'Cymru Iachach'. Bydd y cam hwn yn cael ei oruchwylio gan fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, sydd i'w sefydlu'n fuan, fel sydd wedi ei nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Bydd y bwrdd yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng y modelau darparu hosbisau a ddaeth yn amlwg yng ngham 1 yr adolygiad, a'r berthynas rhwng byrddau iechyd a hosbisau.
I grynhoi, mae'r datganiad llafar hwn heddiw yn rhoi cipolwg ar y cynnydd rhagorol maen nhw wedi ei wneud wrth adolygu'r cyllid ar gyfer hosbisau gwirfoddol hyd yma. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu cynnydd sylweddol yn y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer hosbisau ledled Cymru, ac yn cynnig lefel o sicrwydd ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ond, er bod y camau cadarnhaol hyn yn galonogol, mae'n amlwg bod her fawr o hyd o flaen yr holl wasanaethau gofal diwedd oes. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn dal yn benderfynol o gryfhau ei ffocws ar ofal diwedd oes. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda bwrdd y rhaglen genedlaethol i annog gweithredu ar draws y Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid i wella'r gwasanaethau gofal diwedd oes i bawb. Diolch yn fawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch am eich datganiad. Rwy'n falch o nodi bod Llywodraeth Cymru yn y pen draw wedi dyrannu bron i £14 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau Cymru drwy gydol y pandemig, ar ôl i mi, yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, orfod codi'r bwlch dro ar ôl tro rhwng yr arian y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei gael gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'w chyllid ar gyfer hosbisau drwy gydol y pandemig yn Lloegr a'r swm a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i ddechrau i gefnogi hosbisau yng Nghymru.
Ddeuddeg mlynedd ar ôl i mi gynnal digwyddiad y Cynulliad yn 2006, yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae hosbisau yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru, a galw ar Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r argyfwng cyllido cynyddol yr oedden nhw'n ei wynebu, yr oedd pob hosbis yng Nghymru yn bresennol ynddo, cadeiriais i'r grŵp trawsbleidiol ar ymchwiliad hosbisau a gofal lliniarol i anghydraddoldebau o ran cyfle i fanteisio ar hosbisau a gofal lliniarol yng Nghymru, a wnaeth ddarganfod bod angen sylweddol heb ei ddiwallu, bod cyllid hosbis statudol wedi bod yn wastad ers degawd ac felly wedi gostwng mewn termau real bob blwyddyn, bod cyllid statudol ar gyfer hosbisau plant yng Nghymru yn is o lawer nag yn Lloegr a'r Alban, a bod cyllid statudol ar gyfer hosbisau oedolion yng Nghymru fel canran o wariant yn is nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU.
Wrth arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yma yn 2019, nodais i, er bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant, nid yw tua 1 o bob 4, tua 6,000 o bobl, yn cael y cyfle i fanteisio ar y gofal diwedd oes sydd ei angen arnyn nhw. Galwais i ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i helpu i wella'r cyfle i fanteisio ar hosbisau a gofal lliniarol yn sylweddol i bawb ledled Cymru.
Mewn ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig y llynedd, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd mai dim ond tua £800,000 o'i £8.4 miliwn o gyllid diwedd oes a gafodd ei ddyrannu'n benodol i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru, a bod llai na £200,000 o hyn wedi mynd yn uniongyrchol i hosbisau plant heb ddim ar gyfer hosbisau oedolion. Ac eto, er enghraifft, gwnaethom ni glywed yn y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth ddydd Iau diwethaf, y gwnes i ei gadeirio, fod y prosiect ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd a Bryste i archwilio profiadau gofal a phrofedigaeth yn ystod COVID-19 wedi darganfod bod y rhain yn llawer mwy cadarnhaol pan ddarparwyd cymorth gan hosbisau.
O ystyried yr uchod i gyd, rwy'n ymuno â'n hosbisau i groesawu'r cyhoeddiad hirddisgwyliedig hwn, a rhaid i mi dynnu sylw at y gwaith caled y maen nhw wedi'i wneud i gyflawni hyn, gan gynnwys ymgyrch cronfa achubiaeth hosbisau plant Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, gan nodi eu bod wedi derbyn llai na 10 y cant o'u cyllid o ffynonellau statudol yng Nghymru, y lefel isaf o gyllid statudol ledled gwledydd y DU, a galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r achubiaeth y mae ar gannoedd o blant a'u teuluoedd ledled Cymru ei hangen mor enbyd.
O ystyried ei datganiad heddiw bod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion adolygiad ariannu hosbisau gwirfoddol y bwrdd gofal diwedd oes, ac y bydd yn sicrhau bod £2.2 miliwn ychwanegol ar gael i hosbisau Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys £888,000 i Dŷ Hafan a Thŷ Gobaith, a wnaiff hi gadarnhau a yw hyn nawr yn cau'r bwlch cyfraniadau cyllid hosbis o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU, ar gyfer hosbisau plant ac oedolion? Os na, pam, a pha fwlch ariannu sy'n weddill? Sut y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddarparu? Sut y bydd y Gweinidog yn monitro cyllid gofal diwedd oes sy'n cael ei ddarparu drwy fyrddau iechyd i ganfod faint o hyn sy'n cyrraedd hosbisau ac a yw hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion a'u teuluoedd?
O ystyried datganiad y Gweinidog y bydd yr arian ar gael yn rheolaidd o 2022-23, a all hi ymrwymo i'r cyllid hwn fod ar sail reolaidd am o leiaf oes y chweched Senedd? A all hi roi rhagor o fanylion ynghylch pa gostau y mae hi'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn eu talu? A wnaiff hi gadarnhau a fydd yr arian hwn ar gael i'n hosbisau drwy un taliad blynyddol, gan ganiatáu'r adnoddau iddyn nhw fuddsoddi mewn ffyrdd o sicrhau y gallan nhw wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r bobl a'r teuluoedd sy'n defnyddio eu gwasanaethau? A wnaiff hi roi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd yr hosbisau'n adrodd yn erbyn cyllid o'r fath ac yn cadarnhau a fydd hyn yn seiliedig ar gyrhaeddiad ac angen ac ni fydd yn rhy feichus? Ac yn olaf, sut y bydd hi, ei swyddogion a phartneriaid eraill yn y gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i weithio gyda'n hosbisau oedolion a phlant; heb eu cynaliadwyedd a'u mewnbwn, byddai'n amhosibl creu Cymru dosturiol?
Diolch yn fawr iawn, Mark. A gaf i ddiolch i chi am eich ymrwymiad personol i'r maes pwysig iawn hwn? Ni allaf i ddychmygu'r pwysau a'r anawsterau y mae cynifer o deuluoedd wedi gorfod eu hwynebu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Mae'n ddigon anodd colli anwylyn ar unrhyw adeg, ond mae'n rhaid bod ceisio ymdrin â hyn yng nghanol pandemig wedi bod yn anodd iawn, yn arbennig, rwy'n credu, pan ddaw'n fater o blant. Felly, diolch am eich cyfraniad a diolch am ganolbwyntio ar hyn. Diolch i chi am gydnabod ein bod ni wedi rhoi £14 miliwn i'r sector i wneud yn iawn am rywfaint o'r golled yr oedden nhw wedi'i gweld yn ystod y pandemig, ac am gydnabod y £2.2 miliwn ychwanegol hwnnw, y gallaf i gadarnhau y bydd ar sail reolaidd.
Rwy'n falch o weld eich bod chi'n cydnabod ein bod ni wedi cywiro rhywfaint o'r tanariannu a oedd yn digwydd, a dyna pam y gwnaethom ni'n siŵr ein bod ni wedi cynnal yr adolygiad hwn a'n bod ni wedi rhoi blaenoriaeth wahanol iddo. Mae adolygiad ehangach, ond aethom ni'n gyntaf am yr angen brys i lenwi'r bwlch cyllido. Yr arbenigwyr hynny a luniodd yr awgrymiadau o ran ble y dylai hynny lanio. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi glanio fwy neu lai yn yr un lle â Lloegr o ran cyllid hosbis plant, er fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn, pan yr ydym ni'n sôn am hosbisau gwirfoddol, nad ydym ni'n cymharu afalau yma ag afalau Lloegr. Oherwydd, er enghraifft, yng Nghymru, mae rhai o'r hosbisau'n elwa ar gymorth clinigol, megis ymgynghorwyr meddygaeth liniarol, ac nid yw hynny o reidrwydd yn wir yn Lloegr. Mae'n ffordd ychydig yn wahanol o ymdrin â'r sefyllfa. Felly, diolch am hynny.
Wrth gwrs, byddwn ni'n monitro sut y caiff yr arian hwn ei wario, ac wrth gwrs byddwn ni'n sicrhau bod y byrddau iechyd yn sicrhau eu bod yn ystyried sut mae'r angen yn edrych o fewn y maes hwn. Rwy'n falch iawn o weld mai un o'r pethau sydd wedi cael ei gydnabod yma yw'r ffaith bod pobl, mewn gwirionedd, yn ddelfrydol, eisiau marw gartref yng nghysur eu cartref gyda'r bobl y maen nhw'n eu caru o'u hamgylch. Mae newid sylweddol wedi bod, rwy'n credu, o ran y mae'r hosbisau hyn yn rhoi pwyslais ar sicrhau y gallan nhw roi'r gofal hwnnw o fewn y gymuned. Felly, rwy'n falch bod hynny wedi cael ei gydnabod yn y fformiwla newydd hon sydd ar waith.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf dwi am ei wneud ydy talu teyrnged a dweud 'diolch' i'r sector hosbisau yng Nghymru; diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth cwbl, cwbl hanfodol. Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld â hosbis neu brofi gwasanaeth hosbis yn y cartref yn gwybod am y gofal diflino. Dwi wedi gweithio efo'r sector y gorau y gallaf i fel Aelod Ynys Môn, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal ac fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau i drio dwyn pwysau am setliad ariannol fyddai yn rhoi y math o sicrwydd maen nhw yn ei haeddu. Dwi'n falch ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad yma heddiw. Mi holais i'r Gweinidog am hyn yn y pwyllgor iechyd yr wythnos cyn ddiwethaf. Mi addawyd datganiad buan, felly dwi'n falch ei bod hi wedi cadw at ei gair. Ac mae o'n gam, heb os, i'r cyfeiriad cywir, ond mae yna dipyn o ffordd i fynd eto.
Y cyd-destun ariannol, fel dywedodd y Gweinidog, ydy bod yna ddim cynnydd wedi bod yn y cyllid creiddiol, mewn difrif, ers degawd erbyn hyn. Rŵan, dwi'n gweld hyn fel cywiriad, os liciwch hi. Dwi'n cydnabod yr hyn a glywon ni gan y Gweinidog—bod yna gymal arall i ddod i'r adolygiad yma gan y Llywodraeth. Ond i roi syniad o ystyr y ffigurau rydyn ni wedi'u clywed gan y Gweinidog heddiw, mae £2.2 miliwn o ychwanegol yn mynd i'r sector cyfan yng Nghymru yn flynyddol; mae'n costio rhyw £5 miliwn y flwyddyn i redeg hosbis Dewi Sant yn unig, efo llai na 10 y cant ohono fo'n dod gan y Llywodraeth neu'r bwrdd iechyd. Cyn y cyhoeddiad yma, 10 y cant o gyllid hosbisau plant Cymru oedd yn dod o'r pwrs cyhoeddus. Mi fydd yna rŵan, os dwi wedi deall yn iawn o'r datganiad, yr un lefel â Lloegr, sef 21 y cant, ond cofiwch fod Gogledd Iwerddon yn talu 25 y cant a'r Alban yn talu hanner y costau. Felly, ydy, mae'r arian ychwanegol i'w groesawu, ond dwi yn edrych ymlaen at weld datganiad pellach.
Mae hi'n afresymol, dwi'n meddwl, inni barhau i ddisgwyl y lefel o ofal a'r lefel o wasanaeth rydyn ni wedi arfer â fo ac sydd mor bwysig i deuluoedd ar draws Cymru heb ein bod ni'n barod i wneud cyfraniad teg tuag at hwnnw. Ac mi hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd cymal 2 o'r adolygiad yn edrych ar y posibilrwydd o gynyddu'r cyllid craidd hwnnw i'r sector gwirfoddol ymhellach. Ac un cwestiwn ychwanegol, hefyd. Mae yna fwy na dim ond symiau o arian sydd angen edrych arnyn nhw; mae eisiau sicrhau hefyd bod mynediad at wasanaeth hosbisau yn gyfartal i bawb, pwy bynnag ydyn nhw, lle bynnag maen nhw yng Nghymru. Mae yna anghydraddoldebau mawr ar hyn o bryd. Ydy hyn hefyd yn rhywbeth mae'r Gweinidog yn mynd i edrych arno fo er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y gwasanaeth rhagorol hwn wirioneddol yn wasanaeth rhagorol y mae pawb yn gallu cael mynediad ato fo?
Diolch yn fawr, Rhun. Rŷch chi'n eithaf iawn; mae yna ail gymal i fynd a dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n cymryd llai na blwyddyn i'w gwblhau. Beth fydd yn digwydd yw y bydd grŵp bach yn cael ei gynnal dan arweinyddiaeth y lead clinigol ar gyfer diwedd oes, Dr Idris Baker, ac maen nhw'n datblygu ar hyn o bryd beth fydd y remit ar gyfer yr ail gymal yna. Bydd hwnna'n cael ei oruchwylio gan raglen newydd end-of-life care, felly bydd hwnna'n is-grŵp o hwnna. Ac mi fydd y review yna'n edrych ar ariannu yn y sector ac yn edrych ar y gwahaniaethau o ran y modelau gwahanol o ran hosbisau sydd wedi cael eu darganfod yn ystod y cymal cyntaf.
Dwi hefyd yn poeni rhywfaint, Rhun, ynglŷn â sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i'r help yma ble bynnag y maen nhw. Yn sicr, roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi gyda'r hosbisau plant pan roeddwn i'n siarad gyda nhw ynglŷn â sut maen nhw'n cyfro, er enghraifft, ardaloedd cefn gwlad, os ydyn nhw'n bell i ffwrdd o'r canolfannau lle maen nhw wedi'u seilio. Maen nhw wedi ei gwneud hi'n glir eu bod nhw eisoes wedi rhoi darpariaeth, ond maen nhw'n deall bod ychydig mwy o le gyda nhw i fynd ar hynny hefyd. Felly, gobeithio y gwelwn ni hynny, ac, wrth gwrs, bydd hwnna'n rhywbeth dwi'n gobeithio y byddan nhw'n edrych arno yn y cymal nesaf.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r mudiad hosbisau yn ychwanegiad gwirioneddol anhygoel at ofal iechyd yn y DU, gan ei fod yn llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan wasanaethau statudol. Un o wirioneddau trist bywyd, yn anffodus, a'r un peth sy'n cael ei warantu mewn bywyd, yw ein bod ni i gyd yn marw yn y pen draw, ac mae hosbisau yno i helpu i sicrhau y gall y rhai sydd â salwch angheuol gael dewisiadau ynghylch diwedd eu hoes. Mae fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd yn ffodus o gael hosbis Sant Cyndeyrn sy'n wych, sydd wedi'i lleoli yn Llanelwy, i ddarparu gofal lliniarol rhagorol. Gweinidog, mae Sant Cyndeyrn yn cael ychydig dros un rhan o chwech o'i chyllid o ffynonellau statudol. A ydych chi'n credu bod hynny'n gynaliadwy neu'n deg, o ystyried y gwasanaeth gwerthfawr y mae'n ei ddarparu i fy etholwyr yn holl ranbarth y gogledd-ddwyrain? Hyd yn oed pan gaiff cyllid ei ddarparu, mae Sant Cyndeyrn yn cael cyfran is na darparwyr tebyg yn y de. Felly, beth yr ydych chi'n ei wneud i ymdrin â'r gwahaniaeth hwn? Ac yn olaf, a ydych chi'n cytuno, er na ddylai neb farw mewn gwely ysbyty acíwt, nid pawb sydd eisiau marw gartref? Ac felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynyddu capasiti gwelyau mewn mannau fel Sant Cyndeyrn i roi dewis i bawb ynghylch sut y maen nhw'n marw gyda salwch angheuol?
Diolch yn fawr iawn, Gareth. Fel y gwyddoch chi, mae tua 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac mae tua 200 ohonyn nhw'n blant, ac ni allaf i ddychmygu'r gwewyr y mae'n rhaid i rieni yn arbennig fynd drwyddo. Mae hynny'n cyfateb i tua 90 o bobl y dydd, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw ein bod ni'n mynd i weld nifer cynyddol o bobl yn marw oherwydd proffil demograffig y wlad. Felly, erbyn 2039, byddwn ni'n gweld cynnydd o 10 i 15 y cant yn y nifer hwnnw—tua 36,000 y flwyddyn yn marw. Ac felly, yn amlwg, mae hwn yn faes y bydd angen mwy o sylw iddo ac mae angen cynllun strategol arnom yn anad dim ar gyfer sut y bydd y dyfodol yn edrych.
Mae gennyf i ddiddordeb mewn clywed am hosbis Sant Cyndeyrn a'i sefyllfa. Un o'r pethau yr ydym ni wedi gofyn i'r ail adolygiad ei wneud yw ystyried, rwy'n tybio, y gwahaniaethau sy'n cael eu hystyried—yr amrywiannau o ran y gwahanol fodelau. Felly, bydd yn ddiddorol iddyn nhw edrych ar yr hyn y mae Sant Cyndeyrn yn ei wneud yn wahanol i rai o'r lleoedd eraill. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yr adolygiad hwnnw'n ei gynnal.
Ac o ran capasiti gwelyau: wel, rydym ni wedi gweld cynnydd yng nghapasiti gwelyau, ac un o'r pethau y mae'r fformiwla sydd wedi'i adolygu wedi'i ystyried yw'r ffaith bod cynnydd mewn capasiti gwelyau, ac mae'n un o'r rhesymau dros a rhan o'r cyfiawnhad dros roi arian ychwanegol.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud ei bod hi ddim yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Urdd ar gyfer dathlu ei chanmlwyddiant heddiw, a hefyd y ffaith ein bod ni'n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefyd, ond yn berthnasol i'r datganiad yma, dwi hefyd yn dymuno pen-blwydd hapus i Tŷ Hafan, sydd heddiw'n dathlu pen-blwydd yn 23 mlwydd oed. Ac mae'r datganiad yma yn ffordd wych o ddathlu'r ddwy hosbis plant yng Nghymru.
Mae'r ddwy hosbis plant yng Nghymru wedi bod ar waelod y rhestr yn y DU o ran cefnogaeth y wladwriaeth. Cyn y cyhoeddiad hwn, cafodd ein hosbisau lai na 10 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Er mwyn cymharu, mae hosbisau plant yn yr Alban yn cael 50 y cant o'u cyllideb o ffynonellau'r wladwriaeth. Nid ydym ni'n sôn heddiw am fod yn gydradd â chenhedloedd eraill, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir.
Rwy'n ystyried mai'r datganiad heddiw yw'r isafswm sy'n dderbyniol, ac mae'n fan cychwyn da i gynyddu'r gyllideb yn y dyfodol. Mae'n hawdd i'ch sylw gael ei dynnu gan ffigurau a thaenlenni wrth sôn am setliadau cyllideb, ond beth mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu heddiw? Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wneud pethau fel darparu—
Peredur, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr.
Mae'n ddrwg gen i. Pan fyddwch chi'n rhoi'r cyhoeddiad hwn heddiw mewn cyd-destun o ran y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnom ni ar gyfer hosbisau plant, rwy'n siŵr y bydd cytundeb ledled ein Senedd heddiw, ac nid yn unig y mae'n hen bryd ei gael, ond mae'n rhywbeth i'w groesawu'n fawr iawn. Diolch.
Diolch yn fawr, Peredur, a hoffwn i hefyd roi diolch i'r holl waith mae Tŷ Hafan wedi'i wneud, a dymuno pen-blwydd hapus iddyn nhw am eu holl waith nhw dros y blynyddoedd. Maen nhw wedi trawsnewid bywydau pobl mewn cyfnod lle mae pobl wirioneddol yn mynd trwy'r amser caletaf yn eu bywydau nhw, a gallwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i wneud i blant a theuluoedd ar draws yr holl flynyddoedd hynny. Diolch hefyd—
Ac yn olaf—
Mae'n ddrwg gennyf i, Gweinidog.
Diolch, Peredur. Ond dim ond i ddweud, wrth gwrs, rydym ni'n deall bod ail gam i hyn, ac, yn amlwg, bydd y materion ariannol sy'n gysylltiedig â hyn yn parhau i gael eu harchwilio yn ystod yr ail gam hwnnw.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Ers i mi ddod yn Aelod o'r Senedd, un o'r pethau cyntaf a wnes i oedd cwrdd ac ymweld â Thŷ Gobaith yn fy rhanbarth i, gogledd Cymru, sydd, ynghyd â Thŷ Hafan, yn gwneud gwaith eithriadol, ac mae'r cyfan wedi cael ei gydnabod yma heddiw, wrth gefnogi cleifion ifanc a'u hanwyliaid. Rwyf i wedi cael fy synnu gan y gwaith y maen nhw'n ei gynnig a'i ddarparu.
Un o'r pryderon enfawr y gwnaethon nhw ei godi gyda mi oedd y diffyg cyllid hwn gan y Llywodraeth, ac, felly, rwy'n falch iawn bod cefnogaeth drawsbleidiol o ran y diffyg cyllid hwn wedi arwain at y Llywodraeth heddiw yn cyhoeddi diwygio cyllid hosbisau. Rwyf i, fel eraill yma heddiw, yn croesawu'r cyllid hirddisgwyliedig hwn, sy'n ddechrau da, i gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymorth y gall hosbisau ei ddarparu i bobl. Ond wrth edrych ymlaen, Gweinidog, ac ar fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes yr ydych chi'n ei sefydlu, sut y byddwn ni'n cael sicrwydd o'u cynnydd cyflym, a sut y byddwch chi'n cydbwyso llais hosbisau ar y bwrdd hwn â lleisiau eraill sy'n cystadlu am gyllid mor bwysig?
Diolch yn fawr iawn, Sam. Mae gen i ofn nad ydw i wedi cael cyfle i ymweld â Thŷ Gobaith eto, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud hynny, a'r un peth gyda Thŷ Hafan. Mae arnaf i ofn nad pandemig yw'r amser gorau i ymweld â hosbisau, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael y cyfle i wneud hynny ac i ddiolch i'r staff am eu gwaith anhygoel dros gynifer o flynyddoedd.
Rydych chi'n hollol gywir, bydd y rhaglen gofal diwedd oes genedlaethol yn ystyried yr angen i sicrhau ein bod ni'n rhoi cyllid digonol i mewn, a byddan nhw'n edrych ar yr amrywiannau o ran modelau hosbis y sector gwirfoddol i sicrhau ein bod yn cael asesiad teg, ei fod i gyd yn gyfartal ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn rhoi'r gwasanaeth i'r boblogaeth gyfan.
Diolch i'r Gweinidog.