1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol? OQ57498
Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi codi ymwybyddiaeth fel rhan o’n digwyddiadau COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo cymunedau i ddeall a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Efallai eich bod yn ymwybodol o waith prosiect CHERISH, tîm o archeolegwyr, daearyddwyr a daearegwyr sy’n astudio effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol yng Nghymru, ac yn wir, yn Iwerddon. Mae’r prosiect yn cynnal arddangosfa ar hyn o bryd yn Oriel y Parc yn Nhyddewi yn fy etholaeth, sy'n edrych ar effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn yr ardal leol, rhwng nawr a diwedd mis Chwefror. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y math hwn o weithgarwch mor bwysig i egluro effaith y newid yn yr hinsawdd ar ein hardaloedd lleol. Ac felly, a allwch ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o brosiectau penodol fel hyn ledled Cymru?
Diolch, Paul. Rwy’n ymwybodol o’r arddangosfa sydd gennych gan fy mod yn aelod balch o restr bostio Oriel y Parc—lle rwy’n ymweld ag ef yn aml ar fy ngwyliau—felly roeddwn yn ymwybodol ohoni. Rwy'n gobeithio mynd i weld yr arddangosfa cyn bo hir. Rydym yn awyddus iawn i gynorthwyo gyda phob arddangosfa o'r fath wrth gwrs ac i roi cyhoeddusrwydd iddynt—ac rwy'n falch iawn o ymuno â chi i roi cyhoeddusrwydd i'r un honno—ledled Cymru, wrth inni weithio gyda grwpiau cymunedol mewn nifer o ffyrdd, a thynnu sylw at ddigwyddiadau o bob cwr o’r byd y gellir dod â hwy yn ôl yma i Gymru, a chynorthwyo gwyddonwyr a grwpiau cymunedol o Gymru i fynd â'u rhai hwythau dramor yn wir, yn rhithwir ar hyn o bryd wrth gwrs, ond i fynd dramor gyda’u syniadau da iawn hwythau. Ac un o’r pethau roeddwn yn arbennig o falch ohonynt gyda COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru oedd nifer y cyfranwyr a gawsom o bedwar ban byd o ganlyniad i’n haelodaeth o gynghrair Under2, gyda’r hyn a elwir yn wladwriaethau is-genedlaethol. Felly, roedd gennym bobl yn cyfrannu at hynny o bob cwr o’r byd, ac yn wir, bu modd inni arddangos ymdrechion cymunedol Cymru, fel yr un rydych newydd sôn amdani, yno hefyd. Felly, rwy'n falch iawn o ymuno â chi i'w chymeradwyo ac i roi cyhoeddusrwydd iddi.
Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn sôn am wresogi mewn cartrefi domestig. Gwyddom mai cartrefi sy’n gyfrifol am 27 y cant o’r holl ynni a ddefnyddir a 9 y cant o’r holl allyriadau yng Nghymru. A chyda 10 y cant o gartrefi yn unig wedi'u hadeiladu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon yn Ewrop. Gan ganolbwyntio ar gartrefi mewn ardaloedd gwledig yn unig, ac yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a’r rhai sy’n cael eu gwresogi ag olew, gwyddom fod mwy na 33 y cant o gartrefi yng Ngheredigion yn ddibynnol ar olew i gynhesu eu cartrefi. Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y sir yn wynebu’r cynnydd mwyaf mewn biliau tanwydd o bob ardal ar dir mawr y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn ddiwethaf—£863 ar gyfartaledd. Heb reoleiddio prisiau, fel y gwyddom, a heb ddewis amgen gwyrddach, mae'r rheini sy'n dibynnu ar olew yn wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng ynni a chostau byw hwn. Tybed a allwch amlinellu pa fesurau sydd wedi’u hystyried i gefnogi’r cartrefi sy’n dibynnu ar olew ar hyn o bryd, ac i gefnogi’r aelwydydd a’r busnesau hynny i edrych ar drosglwyddo i ynni gwyrddach yn fwy hirdymor? Diolch.
Diolch, Jane. Rydym yn gwbl ymwybodol o’r argyfwng costau byw, yn enwedig i bobl ar olew oddi ar y grid, fel y dywedwch. Dylwn ddweud ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd—felly, i annog pawb i ymateb iddo. Mae hynny er mwyn cefnogi aelwydydd i drosglwyddo i wres carbon is, ond hefyd i gynorthwyo gyda'u biliau cartref domestig. Yn amlwg, rydym yn cydnabod y broblem rydych newydd ei hamlinellu, a’r anawsterau y mae’r cynnydd mewn prisiau ynni wedi’u hachosi i aelwydydd sy’n ddibynnol ar olew yn benodol. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn ein cynllun ymdopi â thywydd oer, sy’n cynnwys camau gweithredu i gefnogi cartrefi’n well a gweithio gyda chyflenwyr olew i wella gallu aelwydydd incwm isel i ymdopi â thywydd oer.
Hoffwn bwysleisio bod aelwydydd gwledig yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y gronfa gymorth i gefnogi cartrefi cymwys oddi ar y grid gyda chost tanwydd ac atgyweirio boeleri. Yn aml, mae'n rhywbeth nad yw pobl yn ymwybodol ohono—eu bod yn gymwys i wneud cais am grant o'r gronfa cymorth dewisol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl, fel ein bod yn sicrhau bod mwy o bobl agored i niwed yn cael y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y cymorth sydd ar gael. A hefyd wedyn, ar y pwynt mwy hirdymor, rydym yn amlwg yn cyflwyno'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan ein bod yn llwyr gydnabod bod rhywfaint o'n stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac nad yw cynllun ôl-osod 'un ateb addas i bawb' yn gweithio. A holl ddiben y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, fel rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud o'r blaen, yw arbrofi â'r hyn a fydd yn gweithio, i godi safonau inswleiddio a gwresogi domestig y tai hynny i'r lefelau rydym yn eu disgwyl, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r agenda tlodi tanwydd a ddaw yn sgil byw mewn cartref oer ac aneffeithlon.