2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
3. A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd? OQ57510
Ie, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Rhagfyr, yn amlinellu’r gweithgareddau a’r blaenoriaethau sy’n gysylltiedig â chyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, gan adlewyrchu’r cytundeb a wnaethpwyd gyda Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Mae ein ffocws pendant yn awr ar weithio gyda'n partneriaid i gynyddu gallu ysgolion i gyflwyno'r ddarpariaeth estynedig hon.
Diolch, Weinidog. Un o brif rannau’r cytundeb cydweithredu oedd y polisi prydau ysgol am ddim, a fydd o fudd i gymaint o deuluoedd. Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi helpu i wireddu hyn o fis Medi eleni ymlaen. Mae gan y polisi hwn oblygiadau mawr a chadarnhaol i gadwyni cyflenwi lleol a'r frwydr yn erbyn tlodi plant. Bydd hefyd yn golygu cost cyfalaf i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn gallu darparu ar gyfer y galw ychwanegol o baratoi a gweini prydau ysgol ychwanegol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y cronfeydd cyfalaf yn eu lle i baratoi ffreuturau ysgolion, a’n bod ar y trywydd cywir i hwyluso’r polisi blaenllaw hwn yn y cytundeb cydweithio?
Rydym eisoes wedi darparu pecyn cychwynnol o gyllid—nid y pecyn mwy y mae’n ei ddisgrifio—i awdurdodau lleol, i ddechrau ar y gwaith cynllunio ar gyfer cyflwyno’r lefel newydd o hawl, sydd, fel y mae’n amlwg yn gwybod, yn estyniad sylweddol iawn i’r cymhwysedd presennol, a bydd hynny’n galluogi awdurdodau lleol i weithio gyda ni dros y misoedd nesaf.
Mae rhywfaint o’r gwaith hwnnw’n ymwneud â gweithio gyda’u partneriaid eu hunain, y partneriaid cyflenwi, ac eraill y mae wedi cyfeirio atynt yn ei gwestiwn, ond hefyd archwilio’r gweithlu, i archwilio’r seilwaith presennol, a beth arall sydd angen ei wneud wedyn mewn ysgolion penodol er mwyn cyflwyno’r ddarpariaeth estynedig, ac yn gyffredinol, i ystyried y goblygiadau ymarferol sy’n gysylltiedig â newidiadau yn y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Byddem i gyd yn hoffi i hwnnw fod ar waith cyn gynted â phosibl, ond fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, mae yna gyfres o bethau ymarferol y mae angen iddynt ddigwydd er mwyn i hynny gael ei gyflwyno'n ddidrafferth. Fel y gŵyr, bydd peth o’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud rhwng nawr a mis Medi, gan alluogi’r gyfran gyntaf i gael ei chyflwyno bryd hynny, a bydd ysgolion yn amlwg yn gwneud gwaith parhaus i sicrhau bod y capasiti yno yn y system i gyflawni’r gyfran nesaf yn y flwyddyn ganlynol, ond mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol dros yr wythnosau nesaf i fapio’r hyn y mae hynny’n ei olygu ar lawr gwlad o ran capasiti ychwanegol a threfniadau ychwanegol mewn perthynas â gweithlu a seilwaith.
Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar ag aelodau o Undeb Amaethwyr Cymru ym marchnad da byw Mynwy. Yn ystod y cyfarfod, mynegwyd pryderon ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng ngoleuni datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y dylem fwyta llai o gig. Dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies, fod gwerthoedd cynaliadwyedd uchel cig coch a llaeth Cymru yn golygu y gall defnyddwyr barhau i fwynhau'r cynhyrchion hyn gan wybod nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Weinidogion i sicrhau bod gwerth maeth uchel i brydau ysgol, gyda'r flaenoriaeth i gynnyrch lleol o ansawdd da o ffermydd Cymru? Diolch.
Wel, mewn gwirionedd, mae gan lawer o'n hawdurdodau lleol drefniadau ar waith eisoes i gaffael cynnyrch lleol yn y ffordd y mae'n ei bwysleisio, ac mae ei chwestiwn mor bwysig i lawer o'n cynhyrchwyr bwyd, ac rydym eisiau adeiladu ar yr arferion hyn ledled Cymru. Felly, os gall ysgolion ac awdurdodau lleol sefydlu trefniadau caffael costeffeithiol gyda chynhyrchwyr bwyd lleol, byddwn yn sicr yn eu hannog i wneud hynny. Rwy'n credu bod manteision gwneud hynny'n amlwg i ni i gyd, onid ydynt. Byddwn i gyd yn rhannu'r flaenoriaeth honno. Rwy'n credu y bydd meithrin arferion ac agweddau bwyta'n iach yn ifanc yn esgor ar fanteision helaeth. Mae dewisiadau bwyd a ffurfir pan ydym yn ifanc yn para dros weddill ein taith drwy fywyd, a chredaf y bydd cynnig pryd ysgol iach i bob plentyn oedran cynradd yn rhad ac am ddim yn dileu'r stigma sydd weithiau'n gysylltiedig â chael prydau ysgol am ddim, a chredaf y bydd hynny, ochr yn ochr â'r gallu i ddarparu mwy byth o fwyd lleol yn ein hysgolion, yn gyfle gwych.
Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cefnogi prydau ysgol am ddim ers amser maith mewn ysgolion cynradd gwladol, nid yn unig i gefnogi ffermwyr lleol, ond yn bwysicach i mi, i wella iechyd plant a gwella cyrhaeddiad addysgol. Nid yw plant llwglyd yn perfformio'n dda iawn. Ond fy nghwestiwn yw: beth yw'r gwariant cyfalaf amcangyfrifedig sy'n angenrheidiol i gynyddu capasiti ceginau ysgol a neuaddau bwyta? Ac oddeutu faint o staff cegin ychwanegol y bydd eu hangen? Rwy'n gwybod na fydd hyn i gyd yn digwydd mewn blwyddyn, ond os ydych yn gobeithio ei wneud dros y pedair blynedd nesaf, am faint rydych chi'n sôn?
Dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol i fapio'r angen mewn perthynas â seilwaith a hefyd mewn perthynas â'r gweithlu, a bydd hynny'n ein galluogi i grisialu'r niferoedd hynny wedyn. Ond mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, ac rydym wedi darparu cyllideb i'n partneriaid awdurdodau lleol i'w cefnogi i weithio gyda ni i wneud hynny.