1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd? OQ57605
Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd bresennol ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Yn ogystal â hynny, ar 1 Chwefror, cynyddais ein taliadau cymorth tanwydd gaeaf i £200.
Diolch. Weinidog, mae cynllun Nyth Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i leihau biliau ynni. Fodd bynnag, nid oes unrhyw grantiau penodol ar gyfer paneli solar yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r warant allforio doeth, a lansiwyd ar 1 Ionawr 2020, yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i rai cyflenwyr trydan dalu cynhyrchwyr bach am drydan carbon isel y gallant ei allforio yn ôl i’r grid cenedlaethol, os bydd meini prawf penodol wedi eu bodloni. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yn darparu benthyciadau di-log drwy gynllun benthyca Home Energy Scotland, sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni amrywiol, gan gynnwys systemau ynni adnewyddadwy yn y cartref. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda'ch cyd-Weinidogion yma yng Nghymru ynglŷn â chynlluniau i ddarparu grantiau i osod paneli solar ar eiddo domestig yng Nghymru i roi atebion hirdymor i bobl i'w helpu gyda’u biliau tanwydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae hyn yn dangos pa mor drawslywodraethol yw’r maes polisi hwn, gan y bydd hwn hefyd yn gwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond gall hefyd fwydo i mewn i’r ymgynghoriad rwyf newydd fod yn sôn amdano, wrth ymateb i’r cwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni, rhaglen Cartrefi Clyd a'r ymgynghoriad. Felly, yn amlwg, mae angen inni edrych ar bob cyfle i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac mae hynny ar gyfer aelwydydd hefyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod angen buddsoddiad sylweddol ar hyn, a byddwn yn gobeithio y byddech yn cefnogi ein galwad am ddyraniad mwy o drethiant cyffredinol drwy Drysorlys Llywodraeth y DU i'n helpu gyda'r uchelgeisiau hynod bwysig hyn.
Weinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn cael effaith ar bob aelwyd yn Islwyn. Fodd bynnag, er bod rhai o drigolion Islwyn yn gorfod dewis rhwng bwyta neu wresogi, ddoe, cyhoeddodd y cawr olew BP ei elw uchaf ers wyth mlynedd: £9.5 biliwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Shell elw o £14.3 biliwn, y mae dadansoddwyr yn credu y bydd yn tyfu i £23.6 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mehefin. Mae cyfalafiaeth anrheoleiddiedig y Torïaid yn achosi dioddefaint enfawr i bobl Cymru, wrth inni aros am ddeddfwriaeth y DU ar wyngalchu arian, cyfrifyddu tramor a thwyll. Ac mewn cyferbyniad, cyhoeddiad Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro i £200, yw'r math o fesurau lliniaru gweithredol sydd eu hangen ar bobl. Weinidog, mae prif weithredwr BP, Bernard Looney, wedi dweud ei hun fod BP wedi troi'n beiriant gwneud arian. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i ddweud wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU am gyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni, er mwyn amddiffyn teuluoedd sy’n dioddef yng Nghymru, wrth i gorfforaethau ynni rhyngwladol fwynhau elw gormodol ar adeg o argyfwng dyled cenedlaethol?
Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y gefnogaeth gref gan y Siambr hon—rhai o ochrau’r Siambr hon, beth bynnag—i alw am dreth ffawdelw, sef yr union beth y galwodd Julie James a minnau amdano yr wythnos diwethaf wrth ymateb i godi'r cap gan Ofgem, sydd wrth gwrs yn cael effaith ddinistriol ar aelwydydd ledled Cymru, ac yn enwedig yn eich etholaeth chi yn Islwyn—. Roeddwn yn cytuno'n gryf â phennawd erthygl olygyddol y Western Mail, yn galw am leddfu poen defnyddwyr drwy gyflwyno treth ffawdelw. Credaf fod hynny'n cynrychioli barn pobl yng Nghymru ar y ffawdelw ofnadwy hwnnw—Shell yr wythnos diwethaf a BP yr wythnos hon. Gyda chynnydd o £700 yn y cap ar brisiau ynni, pam nad ydynt yn cyflwyno treth ffawdelw yn awr?