2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 9 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd cyfiawnder y DU y bydd saith o swyddfeydd rhanbarthol newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael eu hagor ledled Cymru a Lloegr fel rhan o raglen Places for Growth Llywodraeth y DU, gyda 22,000 o rolau yn symud allan o Lundain erbyn 2030. Bydd y newid hwn yn arwain at fwy na 2,000 yn rhagor o rolau mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol a digidol yn symud allan erbyn 2030, gyda 500 o’r rheini’n mynd i Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.
Hefyd, bydd canolfan gydweithredu newydd yn agor yng Nghaerdydd i dimau gyfarfod neu fynychu hyfforddiant ac i weithwyr cartref ei defnyddio pan fydd angen iddynt fod yn y swyddfa. Dywedodd Ysgrifennydd cyfiawnder y DU:
'Drwy gael mwy o'n staff wedi'u lleoli y tu allan i Lundain gallwn recriwtio'r bobl orau lle bynnag y maent yn byw fel bod y system gyfiawnder yn elwa o gefndiroedd, rhagolygon a phrofiadau mwy amrywiol.'
Ac ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru:
'Rydym am wneud defnydd llawn o dalent a photensial gweithlu Cymru a bydd symud cannoedd o rolau i Gymru yn ein helpu i gyflawni'r amcan hwnnw.'
Sut y byddwch yn ymgysylltu’n gadarnhaol â hyn, i’r perwyl hwn a hefyd i sicrhau synergedd â gwasanaethau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rwy’n cefnogi’r cynnig a wnaed ac yn croesawu'r datganiad. Gallaf ddweud wrthych, a dweud y gwir, fy mod i a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod sawl awr yn ôl gyda’r Arglwydd Wolfson i drafod yr union gyhoeddiad a beth fyddai’r goblygiadau. Nid yw’r rhain, wrth gwrs, yn swyddi newydd, ond maent yn swyddi a fydd, wrth i unigolion ymddeol neu adael, yn cael eu trosglwyddo i saith hyb rhanbarthol newydd.
Credaf mai’r hyn sy’n aneglur yw’r amserlen ar gyfer hyn, gan yr ymddengys bod nifer o ffactorau ar waith. Y pwynt a wneuthum yw: wel, wrth gwrs, os bydd niferoedd sylweddol o swyddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud i Gymru, efallai y bydd cyfleoedd i wneud rhywbeth am gyflwr echrydus Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd—mater lle y ceir pryderon gwirioneddol ynghylch y cyfleusterau sydd ar gael, ond hefyd y neges sy'n cael ei chyfleu gan gyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil honno a’r angen am ganolfan cyfiawnder sifil newydd bwrpasol yng Nghaerdydd. A byddai hynny'n gyfle, oni fyddai, i edrych ar lle y mae cyfleusterau'r Gweinidog Cyfiawnder wedi'u lleoli. Yn anffodus, nid yw’n edrych fel pe bai unrhyw gynnydd sylweddol yn mynd i gael ei wneud ar y ganolfan cyfiawnder sifil, ond o ran y swyddi, byddwn yn cydweithredu ac yn cydgysylltu ac yn ymgysylltu ynghylch y ffordd orau o hwyluso hyn wrth gwrs, fel rydym yn ei wneud gyda materion cydweithredu eraill ym maes cyfiawnder gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda’r meysydd amrywiol o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
Diolch, ac wrth gwrs, bydd canolfan gydweithredu newydd hefyd yn agor yng Nghaerdydd. Ond wrth ymateb i'ch datganiad, 'Cymorth Cyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder', yma dair wythnos yn ôl, cyfeiriais at gyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos honno ynglŷn â chyllid ychwanegol i'r cynllun cyfryngu teuluol i helpu miloedd yn rhagor o deuluoedd i osgoi'r llys, at adroddiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin fis Gorffennaf diwethaf ar ddyfodol cymorth cyfreithiol, a nododd angen gwirioneddol am gynllun mwy hyblyg sy’n caniatáu i unrhyw un â phroblem gyfreithiol na allant fforddio cyfreithiwr gael mynediad at gyngor cyfreithiol cynnar, ac at adolygiad Llywodraeth y DU o'r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol fel rhan o'u cynllun gweithredu ehangach ar gyfer cymorth cyfreithiol, a gofynnais pa gyswllt a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn a’r ymgynghoriad a fydd yn dilyn. Yn anffodus, methodd eich ymateb ar y pryd ateb fy nghwestiwn ac ni chyfeiriodd o gwbl at y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd gan Senedd y DU a Llywodraeth bresennol y DU ar gymorth cyfreithiol. Sut, felly, y byddwch yn mynd ati'n gadarnhaol ar hyn i sicrhau synergedd â gwasanaethau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Diolch am eich cwestiwn. Nid oes amheuaeth, yn y degawd diwethaf, fod y toriadau i gymorth cyfreithiol wedi cael effaith hollol drychinebus ar ein cymunedau ac wedi difreinio llawer o’n dinasyddion yng Nghymru rhag mynediad at gyfiawnder. O ran yr adolygiad—y ddau adolygiad, wrth gwrs—mae un adolygiad yn ymwneud â chymorth cyfreithiol troseddol, gyda'r Arglwydd Bellamy. Cyfarfûm â’r Arglwydd Bellamy i drafod hwnnw mewn gwirionedd; unwaith eto, codais fater cynigion yr Arglwydd Bellamy ar gymorth cyfreithiol troseddol, ac yn benodol, rhai o’r argymhellion sy’n cael eu gwneud ynglŷn â'r angen i ariannu’n briodol i ymdrin â pheth o'r diffyg cyngor sydd gennym. Ac rydym yn dal i aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU ynghylch eu bwriad gyda hynny.
Yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach a dweud y gwir, yw'r adolygiad cyfiawnder sifil, y mae'r Arglwydd Wolfson yn ei gyflawni ar hyn o bryd, rwy'n credu. Ac yn amlwg, mae meysydd yno sy'n peri pryder i ni, mewn perthynas â materion economaidd-gymdeithasol a chymorth cyfreithiol, a meysydd eraill yn gyffredinol mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder sifil. Felly, edrychwn ymlaen at weld beth yw'r cynigion a fydd yn cael eu cyflwyno. Yn amlwg, mae profion modd yn berthnasol mewn cymorth cyfreithiol troseddol, ac yn wir, mewn cymorth cyfreithiol sifil. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, serch hynny, gyda'r toriadau enfawr a wnaed i gymorth cyfreithiol, a’r effaith ar ein cymunedau, achubiaeth bwysig, wrth gwrs, yw’r gronfa gynghori sengl y mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gyfrifol amdani, ac sydd wedi helpu gydag oddeutu 250,000 o achosion ar gyfer 130,000 o ddinasyddion Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn am gydnabod hynny. Wel, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyflwyno Bil Rhyddid Brexit—[Chwerthin.]—i roi diwedd ar statws arbennig cyfraith yr UE, i wneud ein busnesau'n fwy cystadleuol a'n pobl yn fwy ffyniannus. Nid fi sydd wedi dyfeisio enw'r Bil; dyna enw'r Bil. Bydd y Bil yn ei gwneud yn haws i gyfraith yr UE gael ei diwygio neu ei dileu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar fanteision Brexit, sy'n nodi sut y caiff rheoliadau eu hadolygu, er enghraifft, er mwyn creu fframwaith rheoleiddio addas at y diben ar gyfer deallusrwydd artiffisial, ac i ddarparu aer glanach, creu cynefinoedd newydd a lleihau gwastraff. Wrth ymateb, fe ddywedoch chi eich bod am ymwneud yn adeiladol â Llywodraeth y DU ar y Bil, ond fe wnaethoch fynegi pryder y gallai arwain at ostwng safonau ffermio a physgota, yn ogystal â mesurau diogelu’r amgylchedd.
Fodd bynnag, ar adeg Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), cytunodd Llywodraeth y DU y byddai fframweithiau DU gyfan i ddod yn lle llyfr rheolau’r UE yn cael eu negodi’n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU, mewn meysydd fel bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd, gan osod safonau na ellid syrthio'n fyr ohonynt, gan gadw'r trefniadau cyffredin presennol hyd nes y cytunir ar y safonau hyn. Ac wrth gwrs, mae nifer o’r fframweithiau hyn yn cael eu hystyried gan bwyllgorau’r Senedd ar hyn o bryd. Felly, sut y byddwch yn ymgysylltu’n gadarnhaol â Bil arfaethedig y DU i sicrhau synergedd â phwerau datganoledig, gan wneud y gorau o gryfderau’r ddwy Lywodraeth at ddiben cyffredin?
Wel, diolch am y cwestiwn. Ac rydych yn codi pwynt dilys, sef: sut y byddwn yn ymgysylltu, beth fydd y synergedd, beth fydd egwyddorion yr ymgysylltiad hwnnw? Y broblem gyda'r ddogfen y cyfeiriwch ati yw mai nifer o benawdau ydyw mewn gwirionedd—nid oes unrhyw beth ynddi sy'n rhoi unrhyw syniad i chi i ba gyfeiriad y gallai Llywodraeth y DU fod yn mynd iddo. Efallai y byddant yn dweud, 'Wel, efallai nad dyna ddiben y Bil’, ond rhoddaf enghraifft i chi. Mae’n cyfeirio at gyfraith yr UE, ac yn dweud pa mor wych yw hi ein bod wedi adfer rheolaeth, ac mai Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw’r goruchaf lys bellach o ganlyniad i adael yr UE. Ond wedyn, ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU eisiau cyflwyno deddfwriaeth sy'n atal y Goruchaf Lys rhag ymdrin â materion adolygu barnwrol, rheolaeth y gyfraith ac yn y blaen. Felly, ar y naill law, mae'n ymwneud â grymuso'r Goruchaf Lys, ond ar y llaw arall, 'Wel, fe'i grymuswn i'r graddau nad yw'n ymyrryd â'r hyn rydym am ei wneud a'r ffordd rydym yn dewis gweithredu.' Felly, credaf fod nifer o egwyddorion a gwrthddywediadau ynddo. Yn sicr, byddai’n berthnasol ar gyfer edrych ar sut y mae hynny’n rhyngweithio â’r fframweithiau. Nawr, wrth gwrs, ymyrrodd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 â'r fframweithiau yn aruthrol, ac wrth gwrs, mae materion cyfreithiol yn dal heb eu datrys mewn perthynas â hynny. Ond y cyfan y gallaf ei wneud yw ailadrodd wrth yr Aelod eto y byddwn yn ymgysylltu o ddifrif; byddwn yn ymgysylltu fel Llywodraeth gyfrifol ar sail yr egwyddorion a gytunwyd rhyngom. Rwy'n gobeithio bod y cyfarfod a gawsom ddydd Sadwrn diwethaf yn eithriad ac nid yn adlewyrchiad o’r ffordd y mae’r DU yn bwriadu bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny yn y dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd mis Ionawr, gofynnodd fy nghyfaill ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban, Kirsty Blackman, gwestiwn am adolygiadau ôl-ddeddfwriaethol yn Swyddfa Cymru. Mewn ymateb i’r cwestiwn hwnnw, atebodd Simon Hart, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl y Gweinidog cyfleoedd Brexit, fod gwaith ar y gweill i asesu Deddf Cymru 2017. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol, mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol mewn perthynas â'r setliad datganoli. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylem roi cydsyniad i’r Bil Iechyd a Gofal, a fydd yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, deddfwriaeth allweddol arall mewn perthynas â’n setliad datganoli. O ystyried yr holl gamau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i danseilio datganoli, a ydych yn pryderu ynglŷn â throsglwyddo’r pŵer hwnnw iddynt? Hefyd, a oeddech yn ymwybodol o’r adolygiad o Ddeddf 2017? Ac os felly, pryd roeddech chi'n mynd i roi gwybod i'r Senedd? Diolch yn fawr.
Wel, diolch am eich cwestiwn. Yn y lle cyntaf, mewn perthynas â holl ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, mae'r Aelod yn ymwybodol o’r egwyddorion sydd ar waith. Un o’r anawsterau sy’n codi, ac yn enwedig yn y Bil y mae wedi’i grybwyll, yw bod yna nifer o faterion yn codi ynglŷn â chymhwysedd, ffactorau trawsffiniol yn codi eu pennau ac anghytundeb ynghylch cymhwysedd. Mae’n rhaid dweud bod y broses o ymgysylltu ynghylch yr hyn y rhoddir cydsyniad iddo, yr hyn na roddir cydsyniad iddo, yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn ddifrifol iawn, ac mae mater uniondeb datganoli yn flaenllaw. Nid ydym yn cydsynio i rywbeth oni bai ein bod yn derbyn, yn y pen draw, y bydd Cymru ar ei hennill o ganlyniad i beth bynnag y rhoddir cydsyniad iddo, ac wrth gwrs, nid Llywodraeth Cymru sy’n cydsynio; mae Llywodraeth Cymru yn argymell i’r Senedd gydsynio drwy broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
Ar Ddeddf Cymru 2017, credaf ei bod yn debygol y bydd nifer o faterion yn codi o ganlyniad i gyfres o adolygiadau yn y dyfodol mewn perthynas â'r Ddeddf benodol honno. Credaf y bydd materion yn codi mewn perthynas â'r adolygiad o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, er enghraifft, a chredaf fod meysydd eraill o ddiddordeb i ni hefyd. Ond os byddaf yn rhan o unrhyw ddatblygiadau, byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Senedd hon arnynt.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Nawr, rydym wedi cael yr adroddiad hirddisgwyliedig ar gysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n mynd i adeiladu gwell perthynas rhwng Llywodraethau'r DU, yn seiliedig ar egwyddorion parch cydradd a meithrin a chynnal ymddiriedaeth. Ond y gwir amdani, Gwnsler Cyffredinol, yw bod cryn dipyn o ddrwgdybiaeth rhwng y Llywodraethau, rhagolygon sylfaenol wahanol ynghylch dyfodol y cyfansoddiad a gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ymdrechion i ailddatgan sofraniaeth Senedd y DU dros y gwledydd datganoledig. Felly, beth sy’n cael ei wneud i roi’r peirianwaith a’r prosesau a nodir ar waith er mwyn troi ymddiriedaeth a pharch cydradd yn berthynas rynglywodraethol gadarnhaol ac adeiladol? Yn ogystal, a fydd y trafodaethau ynghylch y peirianwaith a’r broses yn ein cynnwys ni yma yn y Senedd? Diolch.
Wel, edrychwch, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod yr adolygiad rhynglywodraethol, a’r broses y mae’r Aelod wedi’i gweld, yn bwysig? Yn fy marn i, mae'n sicr yn gam arwyddocaol ymlaen, ond mae’n gam pwyllog ymlaen, gan y bydd yn rhaid inni weld sut y bydd yn gweithio. Mae’n sicr yn amlinellu materion parch ac uniondeb a ddylai fod yn berthnasol ar sail gyfansoddiadol i lywodraeth ddatganoledig. Ac mae'n ddiddorol nodi bod yr adolygiad yn defnyddio'r term 'llywodraeth ddatganoledig', yn hytrach na 'gweinyddiaeth ddatganoledig' wrth gwrs, tan ichi edrych ar y rhan am y Trysorlys, lle y mae'n mynd yn ôl i ddefnyddio 'gweinyddiaethau datganoledig', ond dyna fel y mae am y tro. Gwn fod swyddogion yn cydweithio ac yn edrych ar greu’r ysgrifenyddiaeth annibynnol a’r strwythur a fydd ar waith, ac amserlen y cyfarfodydd a gynhelir ac ati. Mae’r ffaith y bydd fforwm ar gyfer cyfarfodydd rhyngweinidogol yn amlwg yn bwysig, fel y bydd cyfarfod y Prif Weinidogion o fewn y broses hon. O ran y Senedd, o ganlyniad i’r cytundeb rhyngsefydliadol—. Wel, wrth gwrs, ceir cytundeb eisoes y bydd manylion y cyfarfodydd a gynhelir ac yn y blaen yn cael eu rhannu, a byddwn yn gobeithio y bydd trafodaeth agored yma. Credaf fod y broses gyfan yn un lle y ceir ymrwymiad ysgrifenedig ar ei chyfer hyd yn oed, i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn gwneud popeth a allaf i'w gynnal, gan ein bod yn awyddus i wneud i'r adolygiad newydd hwn weithio. Mae er budd pobl Cymru os yw'n gweithio, ond nid ydym am ragdybio ar sail arferion y gorffennol ei fod o reidrwydd yn mynd i weithio. Ei wendid sylfaenol, wrth gwrs, yw nad oes iddo statws cyfansoddiadol. Nid oes iddo statws barnadwy. Ond efallai ein bod ar y ffordd tuag at hynny. Credaf mai dyma'r arwydd cyntaf hefyd o strwythur cyfansoddiadol ffederal o ran ymgysylltu. Nawr, mae cryn dipyn o ffordd i fynd, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion pwysig fel y byddant yn codi.