– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Chwefror 2022.
Cyn cychwyn ar ein gwaith ni heddiw, mi wariwn ychydig amser nawr yn adlewyrchu ar y newyddion trist ac annisgwyl ddoe am farwolaeth ein cyn-Aelod a chyfaill i nifer ohonom, sef Aled Roberts. Bu'n Aelod dros y gogledd yma o 2011 i 2016. Mae'n deg dweud bod rhai Aelodau yn medru gwneud argraff fawr mewn cyfnod cymharol fyr—mi oedd Aled yn un o'r rheini. Yn seneddwr o reddf, yn gweithio ar draws pleidiau, lawn mor effeithiol yn cydweithio ag yr oedd e'n herio a sgrwtineiddio, ac yn gwneud yr herio a'r cydweithio gyda gwên a chwrteisi. Mi oedd Aled Roberts yn llawn gobaith am ddyfodol ei wlad a'i iaith. Mi oedd yn apwyntiad ardderchog yn Gomisiynodd y Gymraeg. Mae ei annwyl Rosllannerchrugog, ei iaith, a'i wlad yn dlotach heddiw hebddo, ond fe rydym ni i gyd yn diolch iddo am bopeth gyflawnodd, ac yn meddwl am ei annwyl deulu yn eu colled greulon.
Mi wnaf i nawr ofyn i bob plaid gyfrannu at y teyrngedau i Aled Roberts, drwy gychwyn wrth wahodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, i rannu ychydig sylwadau. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Aled Roberts. Fel dywedoch chi, Llywydd, roedd Aled, wrth gwrs, fel cyn-Aelod yn gyfaill i sawl un ohonom ni yn y Senedd. Boed fel arweinydd cyngor Wrecsam, Aelod o'r Senedd neu fel Comisiynydd y Gymraeg, roedd Aled yn gryf dros gyfiawnder cymdeithasol. Drwy gydol ei yrfa broffesiynol, roedd Aled yn ymdrechu dros yr hyn oedd yn bwysig iddo fe, ac yn fodlon brwydro am chwarae teg.
Pan benodwyd ef fel Comisiynydd y Gymraeg, daeth ag asbri newydd i'r swydd. Roedd yn ddyn pobl, ac roedd yn gomisiynydd oedd yn agored i glywed gan bobl a rhoi cymorth adeiladol. Roedd yn berson didwyll, cynnes a llawn hiwmor. Mawr yw ein dyled ni iddo am ei wasanaeth diflino, ac am ei gyfeillgarwch. Roedd ei angerdd a'i ymroddiad i'r Gymraeg heb ei ail, boed fel organydd yn y capel neu fel cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd. Roedd ei gymuned leol yn Rhos yn hollbwysig iddo, ac, er prysurdeb gwaith, roedd yn wastad yn cefnogi'r gymuned honno.
Rydym yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu yn yr amgylchiadau anodd yma wrth gofio amdano yn y Siambr heddiw.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Dyma'r mathau o adegau nad ydych chi byth yn dymuno y bydd yn rhaid i chi eu gwneud, neu os byddwch chi'n eu gwneud, mae rhywun wedi cael bywyd da, llawn a gweithgar ac wedi byw i oedran da. Fe wnaeth Aled fyw bywyd da a gweithgar iawn, ond mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy fuan yn 59 mlwydd oed. Mae'n wir bod Aled yn hwylusydd mewn bywyd, boed y proffesiwn cyfreithiol iddo hyfforddi i ymuno ag ef o Brifysgol Aberystwyth neu'r wleidyddiaeth yr oedd yn ei harddel. A doedden ni ddim ar yr un ochr i'r eil, ond roedd yn sicr yn rhywun a fyddai'n estyn allan ar draws yr eil honno i ddod i gonsensws ac adeiladu Cymru well. A pha un a oedd hynny pan oedd yn gynghorydd yn Wrecsam, yn arweinydd y cyngor, neu yn wir yma fel AS ar gyfer tymor 2011 i 2016, yn sicr gweithiodd yn drawsbleidiol i wneud yn siŵr y gallem ni ddod i'r consensws hwnnw i adeiladu Cymru well a chryfach.
Ac yn benodol, cyrhaeddodd y gwaith a wnaeth pan adawodd y lle hwn a chael ei benodi yn Gomisiynydd y Gymraeg gymunedau ar hyd a lled Cymru i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio'r iaith. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy ifanc yn 59 oed, ond mae cael eich cymryd oddi wrth eich teulu ar yr oedran hwnnw yn ergyd fwy creulon fyth. Ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn myfyrio ar y trawma y mae hynny wedi ei greu a'r galar y mae hynny wedi ei greu i Llinos a'r plant, a'r teulu ehangach, ac anfonwn ein parch a'n cydymdeimlad mwyaf gwresog atyn nhw ar yr adeg anodd dros ben hon. Rwy'n gobeithio y gallan nhw lapio eu hunain ym mlanced y llwyddiannau a gafodd pan oedd yma, ac yn Wrecsam, ac yn ei fywyd busnes fel cyfreithiwr, yn gwasanaethu ei etholwyr ac yn gwasanaethu ei gleientiaid yn y gogledd.
Ac ar ran Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Wel, fe ddaeth y newyddion echrydus o drist am golli Aled fel sioc aruthrol, wrth gwrs, i nifer ohonom ni. Roeddwn i yn ymwybodol nad oedd e wedi mwynhau'r iechyd gorau yn y flwyddyn ddiwethaf, ond pan dorrodd y newyddion ddoe, fe'n siglwyd ni i gyd gan golli gŵr a oedd yn berson didwyll, cynnes, ffraeth ac angerddol iawn. Ond angerdd addfwyn oedd yn perthyn i Aled—rhywun a oedd yn wastad yn barod i weithio ar draws ffiniau plaid er budd ei gymuned a'i genedl. Ac roedd hynny'n amlwg, wrth gwrs, o'i ddyddiau fe fel arweinydd cyngor Wrecsam, pan oedd ei ddrws e'n wastad ar agor i bawb. Ac, wrth gwrs, fe roddodd e arweiniad clir o ran y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gan agor ysgolion Cymraeg newydd yn y sir a sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r cyngor yn y cyfnod hwnnw. Ac roedd cael y cyfle i gario hynny ymlaen ar lefel genedlaethol, yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, yn rhywbeth dwi'n gwybod roedd Aled yn falch iawn ohono fe.
Mi ges i'r fraint, fel nifer ohonom ni yn y Senedd yma, i weithio'n agos iawn ag e yn y bedwaredd Senedd—y ddau ohonom ni'n cael ein hethol ar yr un diwrnod, wrth gwrs, yn 2011, a'r ddau ohonom ni'n cynrychioli rhanbarth y Gogledd. Ac fe dreulion ni oriau'n rhoi'r byd yn ei le ar y siwrneiau trên hir yna o Wrecsam i Gaerdydd ac yn ôl, a'r sgyrsiau'n amrywio o drafod manylder deddfwriaeth seneddol i berfformiad clwb pêl-droed Wrecsam ar y penwythnos. Wrth gwrs, roedd e yn gefnogwr brwd o'i glwb pêl-droed lleol, ond yn gefnogwr brwd o'i gymuned yn ehangach. Roedd e'n gadeirydd y Stiwt, wrth gwrs, yn Rhos—adeilad y gwnaeth e chwarae rhan ganolog yn ei ailagor e. Roedd e'n canu mewn corau lleol, yn organydd yn ei gapel lleol, yn llywodraethwr ar ysgolion. Dyn ei filltir sgwâr go iawn.
Felly, mae colli Aled yn ergyd drom mewn sawl ffordd, ac, wrth gwrs, mae'n meddyliau ni gyda Llinos a'r hogiau a'i deulu cyfan ar yr adeg anodd yma. Dwi a phawb ym Mhlaid Cymru am estyn ein cydymdeimlad â nhw. Ond dwi hefyd eisiau estyn ein diolch—diolch am yr holl waith wnaeth e, a diolch ei fod e wedi gallu cyflawni cymaint mewn oes a dorrwyd yn llawer iawn rhy fyr.
Ac i gloi'r teyrngedau, mae arweinydd plaid Aled Roberts, Jane Dodds.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, gaf i gydymdeimlo, o'r blaid ac o bawb ohonom ni, dwi'n siŵr, efo Llinos a'r teulu? Sioc fawr i ni i gyd—yma ac yn nheulu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Aled yn un o'r bobl fwyaf caredig, gweithgar a chyfeillgar i fi ac i eraill hefyd. Fe wnaeth Aled gyfraniad aruthrol i fywyd gwleidyddol Cymru ac i'r cymunedau y bu'n eu gwasanaethu. Fel stic o roc, roedd Rhosllannerchrugog trwy Aled. A thra'n bod ni i gyd yn gyfarwydd â gyrfa wleidyddol Aled—yn gwasanaethu ward Ponciau, yn faer, ac yn arweinydd cyngor Wrecsam, neu fel Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru—cymuned Rhosllannerchrugog, a theulu Aled, a ddaeth yn gyntaf bob amser.
Roedd Aled yn awyddus, fel cynghorydd ac fel Aelod o'r Cynulliad—fel yr oedd o ar yr amser—i wneud y pethau bychain ar gyfer ei gymuned, trwy osod paneli solar ar stad dai yn Llai, buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus a iechyd y gymuned, neu trwy fuddsoddi yn ysgolion Wrecsam. A dwi'n gwybod gymaint o anrhydedd iddo oedd medru gweithredu dros yr iaith fel Comisiynydd y Gymraeg, ac i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y fraint o addysg cyfrwng Cymraeg. Fel rhywun o Wrecsam, dwi'n gwybod nad ydy Wrecsam, fel arfer, ddim o reidrwydd yn ardal ble mae'r iaith yn ffynnu. A dyna beth oedd mor arbennig—bod Aled yn gomisiynydd yr iaith: boi o Wrecsam a oedd wedi gwasanaethu ei gymuned, ei wlad, a'i iaith ag urddas, yn esiampl i bob un ohonom. Diolch, Aled.
Diolch ichi i gyd am deyrngedau hyfryd i'r dyn yna, Aled Roberts, o 'angerdd addfwyn', yng ngeiriau un cyfrannydd. Diolch ichi i gyd, ac mi wnaf i'n siwr bod y geiriau yna'n cael eu rhannu gyda theulu Aled Roberts ar ein rhan ni i gyd fel Senedd.