– Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Chwefror 2022.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chynllun cydnabyddiaeth ariannol gofal cymdeithasol, yn amlwg, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr i'r bobl hynny sydd wedi gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig. Ond mae etholwr wedi codi pryderon gyda mi nad yw pobl eraill a oedd yn gweithio, yn enwedig mewn cartrefi gofal, ym maes arlwyo a glanhau, yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn, ac wrth gwrs, maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ar y rheng flaen, yr wyf i'n teimlo ei fod yn haeddu cael ei gydnabod mewn rhyw ffordd. Felly, hoffwn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a chyflwyno datganiad—naill ai gan y Dirprwy neu'r Gweinidog—i drafod a fyddai modd ymestyn hynny.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran y targedau ffosffad newydd a gafodd eu gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddechrau 2021? Byddwch chi'n ymwybodol bod awdurdodau lleol Cymru yn dal i aros am arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru o ran sut i ddehongli'r penderfyniadau cynllunio a'r ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno, yn erbyn y targedau newydd hynny. Ac mae'n achosi oedi cyn penderfynu ar lawer o geisiadau, gan gynnwys yn fy ardal awdurdod lleol fy hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef, mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni, a byddai datganiad i'w groesawu'n fawr.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at ddau fater y mae llawer ohonom ni wedi cael sylwadau arnyn nhw gan ein hetholwyr ein hunain. Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr a chlywodd hi eich cwestiwn chi a bydd hi'n cyflwyno rhagor o wybodaeth, naill ai ar ffurf datganiad ysgrifenedig neu'n ysgrifennu at yr Aelod, ac rwy'n siŵr y bydd llythyr yn cael ei roi yn y Llyfrgell.
O ran eich ail bwynt, rwy'n deall y bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos iawn.
Mae Caerdydd wedi cael ei disgrifio, Trefnydd, fel prifddinas tlodi tanwydd y DU, gyda chwarter ein trigolion yma yn y brifddinas yn dioddef tlodi tanwydd—yn uwch nag unrhyw ddinas neu dref arall yn y Deyrnas Unedig. Dyna 91,000 o bobl yn dioddef. A gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar dlodi tanwydd a'r argyfwng costau byw? Mae Plaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw am gefnogaeth ychwanegol, ond mae llawer eto i'w wneud. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn wrandäwr brwd ar Radio Wales, a chafodd y taliad ei drafod y bore yma ar raglen ffonio Jason Mohammad. Ymhlith y materion a gafodd sylw oedd twf banciau bwyd yn Nhrelái, ac roedd eraill yn nodi, er eu bod yn croesawu'r taliad, eu bod yn pwysleisio y bydd llawer yn dal i gael trafferth.
Y mathau hyn o bwyntiau yw'r rhai y gellid eu gwneud mewn dadl yn amser y Llywodraeth, a gallem ni hefyd nodi rhai o'r materion sy'n ymwneud ag ymateb Llywodraeth y DU. Byddwn ni i gyd yn cofio Llywodraeth Geidwadol y DU yn datgan mai oherwydd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yr oedd yn rhaid i ni dalu treth ar werth ar brisiau ynni. Gwnaethon nhw addo i ni y byddai prisiau ynni'n gostwng unwaith yr oeddem ni allan o'r Undeb Ewropeaidd. Wel, mae Brexit nawr wedi'i wneud, Trefnydd; pam y mae TAW yn dal i gael ei godi ar ein Biliau?
Felly, dyma'r mathau o bethau y gallem ni eu trafod, Gweinidog. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael o ran Llywodraeth y DU yn dileu'r TAW o 5 y cant? Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar y benthyciad annigonol o £200 sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU? A beth arall y gallwn ni fel Senedd ei wneud i helpu pobl Trelái, i helpu pobl Caerdydd a ledled Cymru, sy'n dioddef cymaint ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, am 12 p.m. heddiw, cafodd datganiad ysgrifenedig ei gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a, ddydd Iau, bydd y Gweinidog yr wyf i newydd gyfeirio ato, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cynnal uwchgynhadledd costau byw. Dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae hyn wedi cael ei wneud yn Llundain, gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rydych chi'n hollol gywir: maen nhw wedi cyflawni Brexit—rwy'n credu mai dyna oedd eu slogan—ond yr hyn y mae angen iddyn ei wneud yw sicrhau bod Brexit yn gweithio i'r DU. Gwnaethon nhw addo prisiau ynni is pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yr oeddwn i'n darllen rhywfaint o ymchwil yr wythnos diwethaf a ddangosodd yr amrywiaeth o wledydd ledled Ewrop lle'r oedd cost ynni, mewn rhai ardaloedd, 50 y cant yn is nag yn y DU.
Mae fy etholwr, Evelyn, a'i mam, Jacqui, wedi cysylltu â mi, ar ôl cael sioc a bod yn hynod siomedig o ddarganfod y bydd Undeb Rygbi Cymru, o fis Medi 2022, yn atal merched rhag chwarae rygbi cymysg dan 12 oed a dan 13 oed. Mae Evelyn yn chwaraewr rhagorol, ac yn gapten chwaraeon dan 12 oed Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chwarae i Ysgol Gyfun Brynteg. Gwnes i gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i ofyn pam a sut y cafodd y penderfyniad hwn i wahardd merched o rygbi cymysg ei wneud. Hyd yma, nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi darparu unrhyw dystiolaeth bod ymgynghoriad teg wedi'i gynnal a oedd yn cynnwys gofyn i'r merched yr effeithiwyd arnyn nhw a'u ffrindiau tîm ynghylch eu barn, na bod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal. Fy mhryder i yw nad yw merched wedi cael eu holi ynghylch pam eu bod yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi ar ôl cael eu gwahardd rhag chwarae'n gymysg mwyach, nac am eu syniadau ynghylch cynyddu eu cyfranogiad, yn hytrach na'u gwahardd yn unig. Rwyf i wedi codi hyn gyda'r Gweinidog chwaraeon a diwylliant, ac rwy'n aros am atebion i fy nghwestiynau gan Undeb Rygbi Cymru, ond, yn y cyfamser, a wnaiff y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddarparu datganiad ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon ledled Cymru?
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod Undeb Rygbi Cymru wedi cynnal ymgynghoriad, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Rwy'n credu mai yn ôl yn 2019 ydoedd, ac yna cafodd ei ohirio oherwydd pandemig COVID, ac ni chafodd ei gyflwyno tan eleni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud ynghylch y rhwystrau y maen nhw'n teimlo eu bod yn eu hwynebu. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydych chi wedi cyflwyno sylwadau i'r Dirprwy Weinidog chwaraeon a diwylliant, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb i chi pan fydd ganddi ragor o wybodaeth gan Undeb Rygbi Cymru.
Ar 28 Medi y llynedd, gofynnais i am ddadl yn y Siambr ar y mater o deithio'n fwy diogel i farchogion ceffylau yng Nghymru, ac efallai y byddwch chi'n cofio mai eich ymateb chi oedd y byddai dadl o'r fath yn gynamserol, o ystyried y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr oedd ar y gweill. Gan fod y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr nawr wedi'u cyhoeddi, hoffwn i ofyn eto am ddadl yn y Siambr ar deithio mwy diogel i farchogion yng Nghymru. Rwy'n gofyn am y ddadl hon oherwydd rwy'n credu bod llawer mwy y byddai modd ei wneud i ddarparu llwybrau mwy diogel i farchogion a gyrwyr cerbydau, fel gwell defnydd o arwyddion a chyflwyno'r ymgyrch diogelwch Araf Iawn yn genedlaethol. Rwy'n credu hefyd fod angen gwneud mwy i dynnu sylw at y newidiadau newydd i Rheolau'r Ffordd Fawr er budd pob defnyddiwr ffordd. Yn anffodus, dim ond 22 y cant o lwybrau hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru sy'n agored i farchogion, ac mae llawer o'r llwybrau hyn wedi'u harwynebu i ddarparu ar gyfer beicwyr o dan y ddeddfwriaeth teithio llesol, gan eu gwneud yn gwbl amhriodol i geffylau. Mae llawer mwy o lwybrau hefyd yn mynd yn anhygyrch i farchogion oherwydd y ffensys a'r rhwystrau y mae awdurdodau lleol yn eu codi i atal cerbydau modur rhag cael mynediad atyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod gan y gymuned farchogaeth fwy o gyfle i ddweud eu dweud ynghylch cynllunio a gweithredu'r cynllun teithio llesol, nad yw, ar hyn o bryd, yn diwallu eu hanghenion, a gobeithio y bydd modd mynd i'r afael ag ef a'i amlygu yn y ddadl hon. Diolch.
Diolch. Nid wyf i'n ymwybodol a gafodd hyn sylw yn y newidiadau a gafodd eu cyflwyno o ran y newidiadau i Rheolau'r Ffordd Fawr, ond byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog ystyried eich cais.FootnoteLink
Mae gennyf i ddau ddatganiad yr hoffwn i alw amdanyn nhw. Yn gyntaf, mae'r argyfwng costau byw yn taro pawb yn galed, ac ar ymweliad diweddar â fferm deuluol Anthony yn Abercynffig dysgais i faint mae'r argyfwng yn taro ffermwyr. Gwnaethon nhw fanylu ar sut mae chwyddiant wedi cynyddu pris gwrtaith, er enghraifft, o £8,000 i £18,000 y flwyddyn, gyda thueddiadau tebyg ar hyd a lled llawer o'r cyfleustodau a'r offer sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal eu fferm. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar ba gymorth sydd wedi'i ddarparu i'r gymuned ffermio, nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond ledled Cymru, fel y gallan nhw fforddio parhau i weithredu a chyflenwi bwyd o ansawdd uchel i'r farchnad ddomestig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir i'r gymuned ffermio nad yw'r gefnogaeth honno'n dod gan y Torïaid yn San Steffan.
Yn ail, hoffwn i ymuno â fy nghyd-Aelod Sarah Murphy i ofyn am ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r gostyngiad anochel yn nifer y merched sy'n chwarae rygbi o ganlyniad i benderfyniad Undeb Rygbi Cymru i roi'r gorau i ariannu timau cymysg ar ôl 11 oed. O'r sgyrsiau y mae Sarah a minnau wedi'u cael, mae'n ymddangos bod Undeb Rygbi Cymru yn beio merched am beidio â bod eisiau chwarae rygbi neu'n wfftio'r gostyngiad mewn merched sy'n chwarae rygbi fel digwyddiad naturiol. Pa ffordd bynnag yr ydych chi'n dewis edrych arno, mae'n gam yn ôl ac mae wedi achosi pryder mawr. Rwy'n credu yn sylfaenol, os ydym ni eisiau newid y diwylliant yn ein cymdeithas, na allwn i ddod o hyd i well le i ddechrau na'n timau rygbi, yn enwedig mewn cymunedau fel fy un i a Sarah, lle mae'r clwb rygbi, yn amlach na pheidio, yn ganolog i'r gymuned. Wedi'r cyfan, mae rygbi ar gyfer pawb.
Diolch. Felly, mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, nid wyf i'n credu bod gennyf i ddim arall i'w ychwanegu at yr hyn y dywedais i yn fy ateb i Sarah Murphy, dim ond i ddweud fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Undeb Rygbi Cymru efallai'n mynd yn ôl ac yn edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gweld a oes unrhyw beth arall y gallan nhw ei dynnu allan ohono, neu ewch i'r clybiau rygbi a chael y sgyrsiau hynny os oes angen. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog diwylliant a chwaraeon, os nad ydych chi wedi ysgrifennu ati, wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn siŵr y bydd hi'n ymateb i Sarah yn y dyfodol agos iawn, ond efallai y byddai'n ddoeth i chi ysgrifennu ati hi hefyd.
O ran yr argyfwng costau byw, byddwch chi'n ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig heddiw o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i bawb, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y gymuned ffermio hefyd. Gwnaethoch chi sôn yn benodol am brisiau gwrtaith, ac yr oedd hyn yn rhywbeth y trafodais i gyda fy nghymheiriaid o bob rhan o'r DU yng nghyfarfod grŵp rhyng-weinidogol diwethaf DEFRA y gwnaethom ni ei gynnal, oherwydd mae'n amlwg nad mater i Gymru yn unig yw hwn; mae hyn ledled y DU. Nid ydym ni'n ystyried unrhyw gymorth ychwanegol penodol, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei fonitro'n agos. Ond rwy'n gobeithio y gall pawb sy'n gymwys gael gafael ar y cyllid ychwanegol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i wrth Rhys ab Owen: dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud; mae hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef.
Mae gennyf i gais am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarparu caeau chwaraeon 3G a 4G a chynlluniau i gynyddu'r nifer ledled Cymru. Ni allaf i bwysleisio gormod pa mor bwysig y mae caeau 3G a 4G, sy'n eich galluogi i chwarae am gyfnodau hir ar gae yn hytrach na chael dim ond dwy gêm mewn diwrnod, ac sydd hefyd yn caniatáu iddyn nhw gael eu defnyddio ar adegau pan fo'r caeau arferol, neu'r caeau glaswellt, yn llawn dŵr.
Fy ail gais yw datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y posibilrwydd y bydd Cymru'n rhan o gais ar y cyd ar gyfer twrnamaint Ewro 2028 a'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd datganiad ar y cyd gan y pum cymdeithas bêl-droed,
'Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb helaeth, a oedd yn asesu'r cyfleoedd posibl mewn pêl-droed rhyngwladol, mae cymdeithasau pêl-droed Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a Gweriniaeth Iwerddon wedi cytuno i ganolbwyntio ar gais i gynnal... EWRO 2028'.
Byddwn i'n falch iawn o weld rhai o gemau Ewro 2028 yn cael eu chwarae yng Nghymru, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran ceisio rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallan nhw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru?
Diolch. Mae buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu, ac mae'n bwysig iawn, os ydym ni eisiau annog cyfranogiad ychwanegol a chefnogi iechyd a llesiant ein cenedl, ein bod ni wir yn ystyried lle yr ydym ni'n buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon. Rydym ni wedi cyhoeddi £4.5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer eleni, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad ar gyfer eleni i fwy na £13.2 miliwn i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Rydym ni hefyd wedi dyrannu £24 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf, ac y bydd cyllid yn cefnogi nid yn unig gwella'r cyfleusterau presennol sydd gennym ni, ond hefyd yn datblygu cyfleusterau newydd, ac mae hynny'n cynnwys caeau 3G.
O ran eich ail gais, fel y gwnaethoch chi sôn, mae'r pum Llywodraeth a'r pum cymdeithas bêl-droed o bob rhan o'r DU ac Iwerddon wedi cytuno ar y cyd i gwmpasu dichonoldeb cais FIFA yng Nghwpan y Byd 2030, ac rwy'n credu i'r Cymdeithasau Pêl-droed ddod i'r casgliad yn eithaf cyflym na fyddai cais am gwpan y byd yn llwyddiannus—roedd yn annhebygol y byddai'n llwyddiannus ar hyn o bryd—ac maen nhw nawr wedi nodi eu bwriad i ddatblygu cais ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA yn 2028. Felly, mae'n amlwg y bydd y Gweinidog, ac ar draws y Llywodraeth, yn parhau i ymgysylltu'n agos iawn â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Llywodraethau a'r Cymdeithasau Pêl-droed eraill i allu gwerthuso'r costau ac, wrth gwrs, manteision cynnal twrnamaint o'r fath.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru—sef PEDW. Fel y gwyddoch chi efallai, dechreuodd y gwasanaeth newydd hwn ar 1 Hydref 2021. Nawr, er iddyn nhw gael rhybudd ymlaen llaw o 14 mis gan Neil Hemington, y gyfarwyddiaeth gynllunio, ar 11 Hydref, rwyf i wedi gorfod anfon llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at bryderon nad oedd gan swyddogion yr adran unrhyw fynediad llawn i'r system gwaith achos a dogfennau newydd, ac felly nid ydyn nhw nawr yn gallu darparu gwybodaeth hanfodol am apeliadau cynllunio byw. Bum mis ers gweithredu PEDW, mae problemau difrifol yn dal i gael eu hwynebu, ac mae wedi'i godi gyda mi yn fy etholaeth, ac, yn wir, mae Owen Hughes, golygydd busnes uchel ei barch y Daily Post, wedi adrodd bod oedi wrth apelio cynllunio nawr yn oedi buddsoddiadau busnes yng Nghymru. Felly, byddwn i'n falch pe bai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad yn egluro sut y bydd yn sicrhau bod PEDW yn dechrau gweithredu'n effeithiol ac, wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o apeliadau ar frys. Diolch.
Diolch. Fel y dywedwch chi, dim ond ychydig fisoedd sydd ers i'r gwasanaeth newydd hwn ddechrau. Rydych wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yr wyf i'n siŵr y bydd hi'n ymateb i chi yn y dyfodol agos.
Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar ganoli gwasanaethau iechyd yn Nwyrain De Cymru—hynny yw, y ffaith bod pobl nawr yn gorfod teithio i wahanol ysbytai er mwyn cael triniaethau gwahanol. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r ffaith mai dim ond yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach y bydd yr holl weithdrefnau diagnostig ar y fron yn cael eu cynnal, a bydd hynny'n golygu y bydd angen i etholwyr fynd ar deithiau hir ar drafnidiaeth gyhoeddus os nad oes ganddyn nhw gar. Felly, i rywun o Gilwern, er enghraifft, ond hefyd pentrefi a threfi ar draws y rhanbarth, gallai hyn olygu teithiau a fydd yn gymhleth, yn hir ac yn cynnwys nifer o newidiadau. Yn aml bydd yn rhaid i gleifion aros yn yr oerfel i fws arall ddod. Mae fy etholwr wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd angen amrywiaeth o apwyntiadau diagnostig ar bobl sydd angen triniaeth canser ac felly bydden nhw'n dioddef fwy nag unwaith. Ac mae'r gwasanaeth cludo cleifion hefyd yn golygu amseroedd aros hir. Pan agorodd Ysbyty Athrofaol y Faenor, dywedwyd wrth bobl ar draws y de-ddwyrain y byddai'n golygu gwell gwasanaethau, ond yr wyf i'n pryderu neu'n rhannu pryder trigolion ein bod ni nawr yn gweld llai o fynediad uniongyrchol at ofal. Mae staff y bwrdd iechyd yn gwneud gwaith aruthrol—mae angen eu canmol—ond hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â mynediad i wahanol ysbytai gan fod gwahanol wasanaethau'n cael eu darparu mewn lleoliadau gwahanol, oherwydd y peth olaf y mae pobl sy'n sâl ei angen yw straen ychwanegol.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch pwynt olaf. Yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw darparu gwasanaethau, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r materion hyn yn agos iawn ac, rwy'n gwybod, ei bod hi'n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd yn rheolaidd. Rydym ni'n gweld gwasanaethau arbenigol—wrth gwrs ein bod ni—ac nid ydym ni eisiau i gleifion orfod teithio i lawer o ysbytai i drin yr un cyflwr, ond, wrth gwrs, mae'n anghenraid weithiau os oes gennych chi gyflwr penodol ac efallai y bydd yn rhaid i chi deithio ychydig ymhellach. Ond, fel y dywedais i, mater i'r bwrdd iechyd yw hwn.
Rwy'n credu bod trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn. Gwnaethoch chi gyfeirio at Ysbyty Athrofaol y Faenor, ac yr wyf i wedi clywed llawer o Aelodau'n cyfeirio at broblemau etholwyr ynghylch hynny, a gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn cysylltiad â hyn.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar bolisi'r Llywodraeth ar gyfer y Cymoedd. Byddwch chi'n ymwybodol, ers yr etholiad y llynedd, mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd wedi bod i drafod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu polisi, a pholisi economaidd yn arbennig, ar gyfer Cymoedd y De. Hoffwn i'r ddadl honno gael ei llywio gan ddau ddatganiad, gydag adroddiad, yn gyntaf oll, ar waith tasglu'r Cymoedd. Rhoddodd nifer o Weinidogion nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys fi fy hun, yn y Senedd ddiwethaf ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, ond nid oes adroddiad wedi bod ar alldro'r hyn yr oedd tasglu'r Cymoedd wedi'i gyflawni yn y cyfnod hwnnw a p'un a oedd wedi ymdrin â'i dargedau a'u cyflawni ai peidio. Felly, hoffwn i weld adroddiad ar waith tasglu'r Cymoedd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Ac mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar raglen y Cymoedd Technoleg. Rhaglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn yw hon, sy'n canolbwyntio ar fy etholaeth i fy hun ym Mlaenau Gwent. Ar hyn o bryd mae'n cyrraedd y pwynt hanner ffordd, a byddai'n amser da, rwy'n credu, i ni edrych yn ôl ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf a beth yw'r cynlluniau ar gyfer cyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Diolch. Gofynnaf i Weinidog yr Economi gyhoeddi dau ddatganiad ysgrifenedig ar y ddau fater hynny—tasglu'r Cymoedd a'r Cymoedd Technoleg.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ansawdd dŵr yn Afon Gwy. Yr wythnos diwethaf, gwnes i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ansawdd dŵr, Rebecca Pow, ac mae hi eisiau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr yn Afon Gwy a ledled Cymru. Cafodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei gwahodd i'r cyfarfod hwnnw ac mae'n drueni na allai hi fod yn bresennol. Felly, a wnaiff y Trefnydd ofyn i'r Gweinidog ddod i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch pa gyfarfodydd rhynglywodraethol sydd wedi'u cynnal ar ansawdd dŵr, a sut y mae'n bwriadu gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i wella ein dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru? Diolch, Llywydd.
Gwelais i'r llythyr yn gwahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU. Yn anffodus, fel y gallwch chi ddychmygu, mae ein dyddiaduron yn llawn iawn; mae angen ychydig mwy o rybudd arnom ni na thri neu bedwar diwrnod. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio'n adeiladol iawn—fel y gwnes i pan oeddwn i yn y portffolio hwnnw—gyda Llywodraeth y DU, ac, yn amlwg, mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ein hymrwymo ni i wella ansawdd dŵr. Yn amlwg, mae llygredd Afon Gwy yn rhywbeth sydd wedi bod yn y cyfryngau ac yn sicr yn ein bagiau post. Dangosodd asesiad cychwynnol CNC o lefelau P yn ardaloedd cadwraeth arbennig ein hafonydd, a oedd yn cynnwys Afon Gwy, mai'r rheswm bod cyrff dŵr yn methu targedau P yn dod o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae'r achosion yn gymhleth iawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda CNC, ein bod ni'n parhau i weithio gyda Dŵr Cymru, a'n bod ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU.
Mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Trefnydd yn ei rôl fel y Gweinidog dros faterion gweledig ac amaeth. Mae Uwch-gomisiynydd Awstralia i'r Deyrnas Unedig yn ymweld ag Ynys Môn yr wythnos yma. Dwi'n wastad yn mwynhau croesawu ymwelwyr i'r ynys, wrth gwrs, ond mi fydd George Brandis yn cyfarfod â ffermwyr a fydd yn eiddgar iawn, dwi'n siŵr, i godi eu pryderon nhw ynglŷn ag effaith y cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig ag Awstralia ar ôl Brexit.
Mae ffermwyr yn dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod nhw'n poeni am hyn. Mae'r undebau amaeth yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi yn anodd gweld unrhyw beth i helpu ffermwyr Cymru yn y cytundeb masnach ac, yn wir, eu bod nhw, yn fwy na dim, yn ei weld o fel rhywbeth sy'n manteisio cystadleuwyr ffermwyr Cymru yn Awstralia. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau sy'n cael eu cymryd i geisio gwarchod ffermwyr Cymru rhag y bygythiad y mae'r cytundeb masnach yma rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia yn ei gynrychioli iddyn nhw?
Diolch i chi. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Fe geir y cytundeb masnach ag Awstralia. Fe geir y cytundeb masnach â Seland Newydd. Os nad ydym ni'n ofalus, fe fyddwn ni'n gweld effaith gronnol y bargeinion masnach, a allai ddifrodi llawer iawn ar ein cymuned ffermio ni yma yng Nghymru. Yn amlwg, un pwnc sy'n peri pryder gwirioneddol i mi yw safonau. Mae hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n gweld ein marchnad ni'n cael ei gorlenwi â mewnforion o wledydd nad ydyn nhw'n cadw at ein safonau uchel iawn ni o ran iechyd a lles anifeiliaid, na'n safonau amgylcheddol uchel iawn ni ychwaith.
Dyma rywbeth y mae Gweinidog yr Economi yn arwain arno—cytundebau masnach. Rwy'n gweithio yn agos iawn gydag ef yn hyn o beth. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei drafod yn Grŵp Rhyngweinidogol DEFRA fel yr oeddwn i'n sôn gynnau. Pan fydd gennyf i ragor o wybodaeth ynglŷn ag ystyriaeth o'r effaith gronnol, fe fyddaf i'n hapus iawn i wneud datganiad.
Diolch i'r Trefnydd.